Blog - Collections

Dadgoloneiddio Mapiau Cymru

Casgliadau / Collections - Postiwyd 04-11-2021

Cyfuno Wikidata ac OpenStreetMap i wella gwasanaethau mapio Cymraeg

Mae data agored fel cysyniad wedi datblygu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi’i yrru ymhellach gan yr angen am atebion cyflym, cydweithredol yn ystod y pandemig. Mewn sawl ffordd mae llwyfannau fel Wikidata ac OpenStreetMap (OSM), sydd wedi bod yn tyfu’n gyflym ers nifer o flynyddoedd bellach, yn arwain y chwyldro data agored hwn.

Set ddata mapio wedi’i chreu’n dorfol yw OSM, lle mae’r cyhoedd yn cydweithio i adeiladu map byd-eang mynediad agored cyfoethog, y gellir ei ailddefnyddio a’i addasu am ddim gan bawb.

Mae Wikidata yn set ddata agored cysylltiedig enfawr sy’n cynnwys data am bron popeth. Unwaith eto, gall unrhyw un gyfrannu ac ailddefnyddio am ddim, ond efallai’r gwahaniaeth mwyaf yma yw bod llawer o sefydliadau a chyfanredwyr data eraill hefyd yn cyfrannu.

Yn y ddwy set ddata hyn gellir rhoi enw pob endid mewn nifer o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg. A gellir ychwanegu amrywiadau ychwanegol ym mhob iaith hefyd.

Yng Nghymru mae gennym gymunedau bach o gyfranwyr gweithredol am y ddau brosiect, ac mae’r ddau yn derbyn cefnogaeth gan Uned Technoleg a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru. Am nifer o flynyddoedd mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cefnogi Wikidata yn uniongyrchol trwy benodi ‘Wicimediwr Cenedlaethol’.

Mae’r prosiect sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn bartneriaeth rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a thîm Mapio Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae cyfuno Wikidata ag OSM yn caniatáu inni adeiladu ar waith Mapio Cymru, sydd wedi bod yn datblygu map o Gymru gan ddefnyddio’r data Cymraeg a gedwir yng nghronfa ddata OSM. Trwy alinio a chyfuno hyn â Wikidata gall y map ddechrau tyfu ymhellach, gan gynnig mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ac mae hyn yn bwysig. Mae gan lawer o leoedd yng Nghymru, boed yn drefi, pentrefi, bryniau neu draethau, ddau enw, neu fwy weithiau. Mae’r enwau yn Gymraeg bron bob amser yn enwau lleoedd gwreiddiol, enwau hynafol sydd yn llawn hanes. Mae’r enwau hyn fel arfer yn ddisgrifiadol neu’n cyfeirio at seintiau, penaethiaid neu gaerau a gollwyd ers amser maith. Mae’r fersiynau Saesneg o enwau lleoedd weithiau’n fwtaniadau diystyr o’r rhai gwreiddiol Cymraeg neu enwau a orfodir gan oresgynwyr canoloesol neu ‘foderneiddwyr’ Fictoraidd. Hyd yn oed heddiw mae adeiladau hanesyddol yn cael ei ailenwi yn Saesneg gan eu perchnogion newydd ac mae enwau Cymraeg yn cael eu gollwng o wefannau a mapiau o blaid dewisiadau Saesneg y bernir eu bod yn ‘haws i’w ynganu’.

Nod y prosiect hwn yw dadgoloneiddio mapio yng Nghymru, nid trwy ddileu enwau lleoedd Saesneg o’r cofnod ond trwy gynnig yr opsiwn i ddefnyddwyr weld ac archwilio map modern o Gymru trwy gyfrwng Cymraeg yn unig – gwasanaeth nad oedd yn bodoli mewn gwirionedd tan y lansiad o Mapio Cymru.

Felly’r her gyntaf gyda’r prosiect hwn mewn gwirionedd yw annog cymunedau i gyfrannu eu henwau Cymraeg lleol i OSM neu Wikidata fel y gellir eu cynnwys ar y map, a gwneir hyn trwy gyfres o drafodaethau, gweithdai a digwyddiadau golygu.

Mae’r agwedd dechnegol o gyfuno Wikidata ag OSM yn dechrau gydag alinio’r ddwy set ddata. Mae OSM yn caniatáu ichi ychwanegu’r ID’s Wikidata cyfatebol ar gyfer lleoedd yn ei gronfa ddata, ac mae hyn yn gadael i ni wybod pa leoedd sydd ar goll o’r naill neu’r llall o’r setiau data, ac yn fwy penodol, y bylchau yn y data Cymraeg. Trwy edrych ar leoedd Cymraeg sydd eisoes wedi’u halinio â Wikidata roeddem yn gallu ychwanegu dros 5000 o enwau lleoedd Cymraeg ychwanegol at deils Mapio Cymru gan ddefnyddio labeli Cymraeg o Wikidata, a dylai’r nifer hwn barhau i godi wrth i fwy o leoedd yn OSM gael eu halinio â Wikidata a gyda mwy o enwau Gymraeg yn cael i ychwanegu.

Mae rhoi enwau Wikidata yn uniongyrchol ar deils map OSM yn un ffordd o ychwanegu gwerth at y map o Gymru, ac yn ffordd o uno dwy gymuned benodol at yr achos. Fodd bynnag, gallwn hefyd ddod â gwerth pellach trwy ychwanegu croen Wikidata ar ben y map OSM. Mae’r haen ychwanegol yn caniatáu inni roi pins (neu bwyntiau) ar y map ar gyfer nifer o wahanol fathau o ddata, megis hybiau trafnidiaeth, gwasanaethau meddygol, traethau ac adeiladau hanesyddol. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr hidlo mathau penodol o gynnwys, ac yn rhoi opsiwn iddynt weld llawer o leoedd nad oes ganddynt ddata OSM Cymraeg eto. Mae’r map profi cysyniad isod yn dangos sut y gallai hyn edrych;

Troslun Wikidata Cymraeg ar ben map OSM Mapio Cymru

Gan feddwl ymhellach ymlaen, gellid addasu’r math hwn o ryngwyneb yn hawdd fel llwyfan torfol, gan ganiatáu i’r gymuned gweld ac yna llenwi bylchau yn y data trwy gyfrannu at OSM neu Wikidata.

Yn y pen draw, gallai’r map hefyd ffurfio’r sylfaen ar gyfer llwyfan llywio lloeren Cymraeg.

Mae gwneud y cysylltiad â Wikidata hefyd yn arwain at botensial ychwanegol, gan ei fod yn dal llawer mwy o wybodaeth na chyfesurynnau ac enwau amlieithog yn unig, gan gynnwys delweddau a dolenni i erthyglau Wikipedia. Mae’r wefan profi cysyniad isod yn dangos ffordd arall y gallai Wikidata gyfuno ag OSM i gysylltu defnyddwyr ag erthyglau Wikipedia Cymraeg perthnasol.

Meddalwedd prawf sydd yn uno’r map OSM Cymraeg â chynnwys Wicipedia Cymraeg. Clod; JB Robertson.

Ar gyfer y prosiect hwn rydym hefyd wedi gweithio gyda Chomisiynydd yr Iaith i ychwanegu enwau lleoedd safonol i Wikidata, felly gellir arddangos y rhain hefyd ar y map prototeip. Mae cyfanswm o 10,000 o enwau lleoedd Cymreig wedi’u hychwanegu at Wikidata gan ddefnyddio Data Agored Llywodraeth Cymru a ffynonellau Data Agored eraill a bellach gellir gweld y cyfan ar y map prawf.

Gobeithiwn y gall gwaith parhau i ddatblygu’r map, ac mae diddordeb eisoes gan sefydliadau dwyieithog mewn defnyddio map OSM Cymru i wella eu gwasanaethau Cymraeg ar-lein.

Map yw hwn sy’n perthyn i bobl Cymru. Mae’n endid byw ac mae ei fodolaeth yn dyst i gryfder y Gymraeg a phenderfyniad y rhai sy’n gwirfoddoli eu hamser er mwyn sicrhau ei dyfodol. Mae’r map yn fwy na chofnod o enwau Cymraeg yn unig, mae’n sail ar gyfer gwasanaeth mapio Cymraeg modern, cyfoethog, y gall pawb ei ddatblygu a’i ddefnyddio.

Jason Evans
Rheolwr Data Agored

Tiger Bay: Chwilio am bobl a recordiwyd gan Ganolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown

Collections / Darganfod Sain - Postiwyd 29-10-2021

Mae angen eich help arnom! Mae’r Prosiect Datgloi Ein Prosiect Treftadaeth Sain (DETS) a Sefydliad Cyfnewid Treftadaeth a Diwylliannol Tiger Bay yn gweithio gyda gweithwyr llawrydd i greu darn newydd o waith wedi’i ysbrydoli gan y ffilm ‘Tiger Bay and the Rainbow Club’ a hanesion llafar a recordiwyd o’r ardal. Rydym yn ceisio dod o hyd i berthnasau cyfweleion a recordiwyd gan Ganolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown.

Prosiect pum mlynedd yw Datgloi Ein Treftadaeth Sain, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Cenedlaethol ac a arweinir gan y Llyfrgell Brydeinig. Nod y prosiect yw cadw a darparu mynediad at recordiadau sain ledled y DU. Mae deg Canolfan Cadwraeth Sain Rhwydweithiol wedi’u sefydlu ledled y DU ac wedi derbyn cyllid am dair blynedd i ddelio â’r bygythiad sy’n wynebu recordiadau sain. Mae’r prosiect wedi canolbwyntio ar ddigido a chadw recordiadau sain unigryw prin, y rhai sydd dan fygythiad o ddirywiad corfforol a’r rhai sydd mewn perygl o gael eu colli oherwydd nad yw’r offer chwarae ar gael bellach.

Mae un o’r casgliadau a ddigidwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys recordiadau hanes llafar yn ymwneud â phobl sydd (a oedd yn arfer) byw a gweithio ym Mae Tiger, neu Butetown, a Dociau Caerdydd. Mae’r cyfweliadau a gynhaliwyd rhwng 1984 a 2000 yn cynnwys sawl prosiect megis hanes bywyd, cyfweliadau Artistiaid, yr Ail Ryfel Byd, Hynafgwyr Somali a llawer mwy.

“Nod digido’r hanesion llafar hyn yw eu cadw a’u gwneud yn hygyrch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae Tiger Bay wedi datblygu dros y Canrifoedd a bellach gellir clywed y gorffennol drwy leisiau’r gymuned eu hunain. ”Alison Smith, Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain.

“Mae’r Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliannol yn sefydliad cymunedol sy’n annog cyfranogiad pobl leol yn natblygiad, a’r defnydd parhaus o’r casgliad o dapiau a ffotograffau hanes llafar fel y gall pawb weld cyflawniadau a dycnwch eu cyndeidiau. Rydyn ni’n adrodd straeon y bobl a oedd yn byw ac yn gweithio yn y Dociau i ysgolion, colegau a thrwy arddangosfeydd.

Rydyn ni am i’r byd wybod ein bod ni yma ac wedi bod am amser hir iawn.

Mae’r Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliannol eisiau rhoi credyd llawn a dangos parch at y rhai a rannodd eu straeon ond mae angen help arnom i adnabod rhai ohonynt neu eu perthnasau byw. Allwch chi ein helpu ni? ” Gaynor Legall, Cadeirydd Cyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliannol Tiger Bay

Mae’r cyfweliadau hyn yn ddarn sylweddol o hanes amrywiol y ddinas a glywyd gan leisiau pobl o ardal Tiger Bay. Mae’r alwad hon ar gyfer cyfweleion neu eu perthnasau er mwyn i ni ddefnyddio rhan o’u straeon. A oes gennych unrhyw wybodaeth am James Sapo Mannay, Ronald Jenkins, Joan Duggan, Katie Anderson Johnson, Abbas Abdullah, Christopher Stephens, Sunday a Eva Dennis a Harry Jarrett? Os felly, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ar uosh@llyfrgell.cymru

Tagiau: , ,

Billy Boston ac arwyr anghofiedig rygbi Cymru

Collections - Postiwyd 21-10-2021

Mae Billy Boston yn un o’r chwaraewyr rygbi Cymreig mwyaf talentog a llwyddiannus erioed, ond eto ni chydnabuwyd ei gampau yn llawn yng Nghymru am flynyddoedd lawer. Mae ei yrfa yn stori chwaraeon wych, ac yn un sy’n haeddu cael ei adrodd.

Ganed Billy yn Butetown, Caerdydd, ym 1934, a daeth yn seren rygbi yn y 1950au a’r 1960au. Deuai ei fam o gymuned Wyddelig Caerdydd, a morwr du o Sierra Leone oedd ei dad. Yn fachgen, chwaraeodd Billy Rygbi’r Undeb dros Glwb Athletau Rhyngwladol Caerdydd (CIACS), clwb a oedd yn adlewyrchu natur amlhiliol dociau Caerdydd. Roedd yn asgellwr eithriadol o dalentog, gyda chyflymder, cryfder, cydbwysedd a deallusrwydd pêl-droed gwych, yn ogystal â’r gallu i ochrgamu’n ddawnus. Fe gynrychiolodd Billy Gymru ar lefel Ieuenctid, ond ei freuddwyd oedd chwarae dros Gaerdydd, ac efallai dros Gymru rhyw ddydd. Nid oedd unrhyw amheuaeth ei fod yn ddigon da.

Chafodd Billy erioed y cyfle i wireddu’i freuddwyd o chwarae i Gaerdydd, a’r un oedd hanes Johnny Freeman a Colin Dixon, chwaraewyr du eraill a aethant ymlaen o CIACS i gael gyrfaoedd llwyddiannus iawn yn Rygbi’r Gynghrair. Ymhellach, ni ddewiswyd unrhyw chwaraewr du i gynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol lawn yn Rygbi’r Undeb tan yr 1980au.

Roedd rhaniad chwerw wedi datblygu rhwng Rygbi’r Undeb a Rygbi’r Gynghrair ar ôl iddyn nhw ymrannu ym 1895 – gêm amatur oedd Undeb, tra bod y Gynghrair yn broffesiynol. Roedd proffesiynoldeb wedi’i wahardd gan yr Undeb ac fe gafodd chwaraewyr a aeth i ogledd Lloegr i chwarae Rygbi’r Gynghrair – neu a siaradodd â sgowt o’r Gynghrair, hyd yn oed – eu diarddel. Roedd Undeb yn hollol amatur, a pharhaodd y rhagrith a’r stigma nes i’r gêm ddod yn broffesiynol ym 1995. Fodd bynnag aeth cenedlaethau o chwaraewyr rygbi Cymru – llawer ohonyn nhw’n ddu – i chwilio am gyflogaeth yn Rygbi’r Gynghrair, yn enwedig ar adegau pan oedd Cymru yn dioddef yn economaidd.

Pan ddaeth clwb Wigan ato o Rygbi’r Gynghrair ym 1953, nid oedd Billy Boston am fynd i’r gogledd a gwrthododd ei fam eu cynnig o £1,000. Byddai Billy yn arwyddo am £3,000 a dim llai. Roedd teulu Boston yn gobeithio ac yn disgwyl i hyn droi Wigan oddi wrth eu bwriad, ond roedd y clwb yn barod i dalu arian eithriadol am chwaraewr eithriadol, ac felly arwyddodd Billy gytundeb Rygbi’r Gynghrair yn 19 oed. Wedi gwneud, roedd yn gwybod na fyddai modd iddo byth wireddu ei freuddwyd nawr o chwarae Undeb dros Gaerdydd a Chymru. Y noson honno, wylodd ac ni allai gysgu.

Gwnaeth Billy argraff ar unwaith yn Wigan, a daeth yn arwr y Gynghrair yn ystod ei yrfa yno, a ddaeth i ben ym 1968. Chwaraeodd ar yr asgell, ond yn anarferol gallai chwarae’r un mor dda fel canolwr neu fel maswr. Daeth yn llai ystwyth tuag at ddiwedd ei yrfa, ond cadwodd ei gyflymder a datblygodd ei faint a’i gyhyrau a llaw rymus. Trichwarterwr Rygbi’r Gynghrair gyflawn oedd e, ac yn aml nid oedd modd ei atal.

Blwyddyn ar ôl iddo ymuno â Wigan, cafodd ei ddewis i gynrychioli Prydain Fawr, ac mae ystadegau ei yrfa’n dweud llawer: record clwb o 478 o geisiau mewn 487 o ymddangosiadau (110 yn fwy nag unrhyw chwaraewr Wigan arall mewn hanes); nifer o dlysau domestig; 30 o geisiau rhyngwladol mewn 31 o gemau Prawf; record Prydain Fawr am geisiau ar daith yn Awstralia; y chwaraewr cyntaf i sgorio 4 cais dros Brydain Fawr mewn un gêm yn erbyn Seland Newydd a buddugoliaeth yng Nghwpan y Byd ym 1960. Erbyn iddo ymddeol o Rygbi’r Gynghrair ym 1970, roedd Billy wedi sgorio 572 o geisiau mewn 562 o ymddangosiadau yn ystod ei yrfa – dim ond yr asgellwr Brian Bevan o Awstralia sydd erioed wedi sgorio mwy.

Croesawyd Billy fel un o’u tylwyth eu hunain gan bobl Wigan, nid yn unig oherwydd ei lwyddiant ar y cae ond oherwydd ei fod yn chwaraewr tîm a oedd yn ostyngedig ac yn hawdd siarad ag ef. Teimlai Billy’n gartrefol yn Wigan, ac fe gadwodd dafarn ger cae’r clwb ar ôl i’w ddyddiau chwarae ddod i ben; ni ddaeth byth yn ôl i fyw yng Nghymru. Roedd poblogaeth Wigan bron yn gyfan gwbl wyn, ond bu’r clwb rygbi yn gosmopolitaidd ac yn amlhiliol ers amser maith, fel yr oedd Rygbi’r Gynghrair yn gyffredinol, a daeth chwaraewyr i mewn o bob cwr o’r byd. Yn anffodus, fodd bynnag, mi wnaeth Billy brofi gwahaniaethu yn ei erbyn ar sail hil, yn arbennig pan chwaraeodd Prydain Fawr sawl gêm yn Ne Affrica ar ôl Cwpan y Byd 1957. Dywedodd De Affrica wrth Billy – a oedd eisoes yn anfodlon cymryd rhan yn y rhan hon o’r daith oherwydd apartheid, ac oherwydd ei fod bellach wedi cael ei anafu – bod lliw ei groen yn golygu na allai aros yn yr un gwesty â gweddill y garfan, ac na allai ymweld â’u gwesty na chwarae yn unrhyw un o’r gemau. Gwrthododd Billy y telerau hyn. Aeth tîm Prydain Fawr i Dde Affrica hebddo.

Mae Billy Boston wedi cael ei barchu’n uchel a’i ddathlu yn Rygbi’r Gynghrair ers ei ddyddiau cynnar yn Wigan. Mae cerfluniau ohono yn Wembley ac yn Wigan, lle mae eisteddle wedi cael ei enwi ar ei ôl, ac roedd yn un o aelodau gwreiddiol Oriel Anfarwolion Rygbi’r Gynghrair a hefyd Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru. Mae dinas Caerdydd hefyd yn cydnabod cyflawniadau Billy bellach, ac yn ffodus mae hyn wedi digwydd yn ystod ei fywyd. Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd y bydd cerflun yn darlunio Billy Boston gyda dau arwr Rygbi’r Gynghrair arall a ddaeth o ardal dociau Caerdydd, Clive Sullivan a Gus Risman.

Cymerodd amser hir, fodd bynnag, i gêm yr Undeb ddechrau cydnabod llawer o chwaraewyr o Gymru sydd wedi cyflawni pethau m yn Rygbi’r Gynghrair. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o’r chwaraewyr gorau erioed yn unrhyw gôd rygbi ond er bod eu campau yn Rygbi’r Gynghrair wedi cael eu dathlu yng ngogledd Lloegr ers talwm, anaml mae hyn wedi bod yn wir yng Nghymru. Arwyr anghofiedig rygbi Cymru oedd y rhain.

Er bod hanes Billy Boston ac eraill tebyg i’w ddarganfod yma yn y Llyfrgell trwy gasgliadau megis ein llyfrau print, papurau newydd a rhai o’r Adnoddau Allanol rydym yn tansygrifio iddyn nhw, rydym yn awyddus i ddatblygu ein casgliadau sy’n ymwneud ag agweddau ar fywyd Cymru sydd o bwysigrwydd cenedlaethol ond sydd serch hynny wedi’u tan gynrychioli. P’un ai bod yn ymwneud ag hil, codau rygbi neu unrhyw beth arall os gallwch chi ein helpu gyda hyn, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.

Dr David Moore (Archifydd)

Crefydd a gwyddoniaeth

Collections - Postiwyd 16-08-2021

Diddorol oedd darllen pamffled ymhlith casgliad o gyfrolau rhydd Gladstone gan y mathemategydd a’r ffisegydd nodedig, George Stokes (1819-1903). Teitl y traethawd yn y pamffled yw “Rhai ystyriaethau ar astudiaeth o Wyddoniaeth Naturiol a’r modd mae’r darganfyddiadau yn cael effaith ar ein syniadau crefyddol”.

Roedd Stokes yn awyddus i ddangos i’w ddarllenwyr fod darganfyddiadau gwyddonol yn newid ond nad oedd hyn yn tanseilio credo crefyddol.  Credai’n gryf fod dysgu am reolau gwyddoniaeth naturiol yn helpu pobl i ddeall crefydd yn well ac i gryfhau eu ffydd. Mae’n cyflwyno nifer o enghreifftiau i gefnogi ei safbwynt.

Mae’n gofyn yn gyntaf i’w ddarllenwyr ddychmygu ynys anghysbell yn y Môr Tawel.  ‘Does neb wedi ymweld â hi o’r blaen. Mae’n enwi’r ynys yn Irene. Mae’r bobl yno yn ddeallus a chrefyddol, ond bach iawn yw eu gwybodaeth am wyddoniaeth naturiol.  Credent fod y synnwyr o allu gweld yn arbennig, a’i fod yn rhodd gan y Creawdwr.

 

 

Ymhen amser, darganfuwyd yr ynys gan gapten llong a’i griw o wyddonwyr. Daeth yr ynyswyr a’r gwyddonwyr yn ffrindiau a dysgodd yr ymwelwyr lawer am ffiseg i drigolion Irene cyn iddynt adael yr ynys. Dysgodd yr ynyswyr am opteg gan y gwyddonwyr. Hefyd dysgon nhw am fodolaeth pelydrau a rheolau adlewyrchu a phlygiant yn ogystal â sut mae delweddau’n ffurfio wrth ddefnyddio telesgop.  Ar ôl dyrannu llygad dangoson nhw ei fod fel offeryn optegol yn ffurfio gwrthrychau ar y rhwyden.  Arferai’r ynyswyr gredu fod eu gallu i weld yn rhodd gan y Creawdwr, ond nawr, dyma nhw’n sylweddoli fod eu llygaid yn ymateb fel unrhyw ddeunydd difywyd.  Roeddent yn dechrau ystyried fod y byd o’u cwmpas yn arddangos deddfau syml natur.

Ar ôl i’r gwyddonwyr adael, dechreuodd yr ynyswyr ffurfio barn fwy cymedrol am yr hyn roeddent wedi dysgu.  Dysgodd rhesymeg ddynol iddynt fod delweddau yn ffurfio yn y rhwyden fel rhai mewn offer optegol.  Ond erys y cwestiwn – sut oedd eu rhannau wedi addasu mor dda i wneud hyn?  Roeddent wedi eu synnu gyda thystiolaeth o’r cynllunio.  Rhaid felly fod yna gynlluniwr.  Dechreuon nhw feddwl am y Creawdwr mewn ffordd wahanol.  Roedd Duw yn cyflawni ei ddibenion wrth gydffurfio â, yn hytrach na gormesu rheolau natur.

Mae Stokes wedyn yn cymharu cyflwr yr ynyswyr i gyflwr ei ddarllenwyr pan ddaw darganfyddiadau gwyddonol newydd i law. Mae’n erfyn ar ei ddarllenwyr i gadw meddwl cytbwys rhwng tystiolaeth wyddonol a syniadau crefyddol. Da fyddai i ni gofio hyn heddiw.

Sonia Stokes am syniadau gwyddonol eraill, fel arbed ynni a theori esblygiad, i gefnogi ei gred fod Creawdwr y tu ôl i drefn naturiol y byd. Dewisodd y gwyddonydd nodedig hwn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roi sylw i’r pwnc i bwysleisio ei bwysigrwydd i’w ddarllenwyr bryd hynny. Mae ei syniadau o ddiddordeb i ni heddiw hefyd (gweler yr ail eitem yn y llyfryddiaeth).

 

Llyfryddiaeth

Stokes, G.G. (1879) On the bearings of the Study of Natural Science and of the contemplation of the discoveries to which that study leads, on our religious ideas. London: E. Stanford.

Davies, Noel A. a Jones, T. Hefin (2017) Cristnogaeth a Gwyddoniaeth. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

 

Hywel Lloyd

Llyfrgellydd Cynorthwyol

Adnoddau Digidol Newydd i’r Haf

Collections / Digido - Postiwyd 29-07-2021

Ers dechrau’r flwyddyn mae’r gwaith o ddigido ein casgliadau wedi parhau ac mae’r eitemau a’r casgliadau canlynol bellach ar gael yn ddigidol i’w pori o gartref ar wefan y Llyfrgell a/neu y catalog:

Archifau a Llawysgrifau

Casgliadau Peniarth a Llanstephan

Papurau Sir John Herbert Lewis

 

Mae 33 o ddyddiaduron o bapurau Sir John Herbert Lewis Papers ar gyfer y cyfnod 1888-1924 ar gael:

Seliau a Siarteri Ystrad Marchell

Mae detholiad o ddogfennau a seliau canoloesol o Bapurau Pitchford Hall a Chofnodion Ystadau Penrice a Margam, Castell y Waun, Bronwydd a Wigfair, bellach ar gael, er enghraifft:

Mae mynediad hefyd i 33 o Siarteri Ystrad Marchell a cheir mynediad iddynt drwy’r catalog.

Deunydd Print

Casgliad Arthuraidd

 

Yn 2019, dewiswyd detholiad o gyfrolau print yn ymwneud â’r Brenin Arthur ar gyfer eu digido. Mae’r 13 cyfrol a ganlyn ar gael eisoes ac fe fydd y gwaith o ddigido’r gweddill yn parhau dros y misoedd nesaf:

Cofiannau (1809-1889)

 

Dros y misoedd diwethaf parhawyd i ryddhau cofiannau trwy Primo. Mae 913 o gyfrolau ychwanegol ar gael ar y catalog bellach, yn eu plith ceir:

Gweithiau printiedig eraill

 

Digidwyd 203 o weithiau eraill hefyd, gan gynnwys:

Mapiau a Deunydd Graffigol

Ffotograffau D C Harries

 

Mae 102 o ffotograffau a dynnwyd tua 1890-1936 gan D C Harries o olygfeydd, adeiladau a phobl ardal Llanymddyfri, Llandeilo a Chaerfyrddin wedi’u hychwanegu. Mae’r detholiad yn cynnwys ffotograffau megis: Staff standing outside Lipton’s shop, Caerfyrddin, Staff standing outside Star Supply Stores, Llandeilo a Men in cars outside Crown garage – T. Roberts & Sons, Llanymddyfri.

Archif Posteri Hanesyddol

 

Mae dros 2,630 o bosteri o Archif Posteri Hanesyddol y Llyfrgell ar gael i ddefnyddwyr drwy’r syllwr. Mae’r casgliad difyr hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o bosteri, gan gynnwys posteri ymfudo o Aberystwyth a Lerpwl i America, baledi a chaneuon, posteri’n cyhoeddi marchnadoedd ac arwerthiannau, cyngherddau ac eisteddfodau bach a mawr ac ambell “noswaith ddifyr heb ganlyniadau gofidus”. Mae’r casgliad hefyd yn yn cynnwys nifer fawr o bosteri’n cyhoeddi newyddion am droseddau a hanesion llofruddion, er enghraifft: Dwyn caseg John Philip, Pentre-Mawr (1818); ‘Cyffes Wirfoddol John Griffiths .. am fwrddrad Mary Griffiths, ei wraig’ (1811) a ‘Murder’ (1796).

Y Bywgraffiadur Cymreig

 

Cyhoeddwyd 20 erthygl newydd ar y wefan:

Cofiwch hefyd ddilyn cyfrif Trydar Y Bywgraffiadur: @Bywgraffiadur

Ail-fyw cyffro Ymgyrch Ewro 2016 Cymru trwy Newsbank

Collections - Postiwyd 11-06-2021

Mae 5 mlynedd wedi mynd heibio ers i dîm pêl-droed Cymru a’i cefnogwyr brofi twrnament bythgofiadwy yn Ewro 2016.

Wedi absenoldeb o 58 mlynedd o brif bencampwriaethau pêl-droed, rhuodd y wal goch yn ystod y gemau.

Gyda phencampwriaeth Euro 2020 yn cychwyn heno ar ôl cael ei ohirio llynedd, mae’r tîm yn llawn gobaith y gallant efelychu ymdrech arwrol 2016. Dyma grynodeb cyflym o’r gemau anhygoel hynny trwy danysgrifiad Newsbank y Llyfrgell (cliciwch ar y lincs i ddarllen yr adroddiadau).

 

 

Cymru 2 – Slofacia 1 – “Dragons do roar!”

Roedd y cyffro yn ddealladwy o uchel ymhlith cefnogwyr Cymru. A allai’r tîm gario drosodd eu llwyddiant o’r rowndiau rhagbrofol? Cawsom yr ateb hwnnw o fewn y 10 munud cyntaf. Yn gyntaf, fe wnaeth Ben Davies yn wych i glirio’r bêl oddi ar y llinell gôl i rwystro Slofacia, ac yn fuan ar ôl hynny, sgoriodd Gareth Bale gic rydd arbennig i roi Cymru ar y blaen.

Er i Slofacia ei gwneud hi yn  gyfartal yn yr ail hanner, sgoriodd Hal Robson-Kanu y gôl fuddugol gyda 9 munud o chwarae ar ôl ar y cloc gan  roi Cymru ar frig y grŵp, a hel cefnogwyr Cymru yn wirion o hapus. Cychwyn perffaith!

Lloegr 2 – Cymru 1: “England grab last-gasp winner and break Welsh hearts.”

Roedd Cymru yn hyderus o flaen y gêm yn erbyn ein cymdogion, ac roedd pethau’n edrych yn addawol ar ôl i Gareth Bale sgorio cic rydd o bell ar drothwy hanner amser. Fodd bynnag, ar ôl i Loegr daro yn ôl yn gynnar yn yr ail hanner, fe sgoriodd Sturridge yn yr eiliadau olau i roi’r fuddugoliaeth i’r Saeson, ac o ganlyniad, symud Cymru i’r ail safle yn y grŵp.

Rwsia 0 – Cymru 3: “Bale & Co thrash Russia in magnificent display as the Welsh fairy tale gathers momentum”

Os oedd y tîm yn teimlo unrhyw bwysau ynglŷn â symud ymlaen o gamau’r grŵp, nid oedd yn amlwg wrth iddynt drechu Rwsia.  Sgoriodd Ramsey a Taylor yn yr hanner cyntaf i roi Cymru ar y blaen yn gyfforddus, cyn i Bale sgorio’r trydydd yn yr ail hanner, gan ddod yn brif sgoriwr y bencampwriaeth. Gyda Lloegr dim ond yn cael gêm gyfartal yn erbyn Slofacia, golygai  hyn mai Cymru oedd buddugwyr y grŵp.

 

 

Cymru 1 – Gogledd Iwerddon 0: “Cruel blow as own goal sends Wales into fantasy land.”

Gyda’r ddau dîm yn chwarae eu gêm ‘knock-out’ gyntaf ers Cwpan y Byd ym 1958, roedd cefnogwyr ac yn wir chwaraewyr y ddau dȋm ar bigau drain. Prin oedd y cyfleoedd, ac yn y pen draw penderfynwyd yr ornest pan groesodd Bale i mewn i’r cwrt cosbi, lle rwydodd Gareth Mcauley i’w gôl ei hun. Nid bod unrhyw gefnogwr Cymru yn poeni rhyw lawer, roedd rownd yr wyth olaf yn galw!

Cymru 3 – Gwlad Belg 1: “Wales unleash the Dragon to roast Belgium and seal semi”

Heb os, yr hyn a ddaeth nesaf ydy’r noson enwocaf yn hanes pêl-droed Cymru. Cyrhaeddodd Cymru Lille gyda’r siawns o fedru mynd un cam ymhellach na thîm enwog 1958. Safai tîm Gwlad Belg rhwng tîm Cymru a’r freuddwyd o gyrraedd y rownd gynderfynol.  Dyma dȋm roedd Cymru eisoes wedi ei wynebu a’i threchu yn y rowndiau rhagbrofol. Fodd bynnag, Gwlad Belg oedd y ffefrynnau i ennill yr ornest. Cwta chwarter awr i mewn i’r gêm, aeth y Belg ar y blaen trwy ergyd anhygoel Nainggolan o 25 llath. Arhosodd Cymru yn y gêm, a sgoriodd y capten Ashley Williams i wneud pethau’n gyfartal ar yr hanner awr.

Yna cawsom ein trin i gôl y bencampwriaeth , pan ar 55 munud, chwalodd Robson-Kanu amddiffynwyr Gwlad Belg gyda troead bendigedig yn y cwrt cosbi, ac yna gosod y bêl yn y gornel isaf y rhwyd . Aeth cefnogwyr Cymru yn wallgo, boed yn gwylio’r gêm yn fyw yn y stadiwm neu’r miloedd fu’n gwylio’r gêm mewn tai a thafarndai trwy’r wlad.  Parhaodd Gwlad Belg i wthio am y gôl nesaf, ond seliodd Cymru fuddugoliaeth enwog gyda pheniad syfrdanol Sam Voakes. Roedd Cymru wedi cyrraedd y rownd gynderfynol!

Portiwgal 2 – Cymru 0: “Welsh fairytale ends as Cristiano Ronaldo takes Portugal to Euro 2016 final”

Roedd ysbryd cefnogwyr Cymru  yn uwch nag erioed ar ôl gêm Gwlad Belg, ac uchel oedd y gobeithion y byddai’r tȋm yn cyrraedd y rownd derfynol yn y Stade de France. Yn anffodus nid dyna a fu, roedd gan Bortiwgal syniadau eraill. Dan arweiniad Cristiano Ronaldo, cafwyd perfformiad cadarn a Phortiwgal enillodd eu lle yn y rownd derfynol, gyda Ronaldo yn sgorio eu gôl gyntaf ac yn helpu Nani i sgorio’r ail.

Roedd y freuddwyd drosodd.

Er i dȋm Cymru syrthio ar y rhwystr olaf, roedd y tîm wedi sicrhau y byddent yn cael eu hystyried am byth yn arwyr y gêm, fel yr oedd yn amlwg wrth i filoedd o bobl leinio strydoedd Caerdydd i’w croesawu adref.

“UEFA honours Welsh fans‘ inspiring passion”

Aeth ymgyrch Euro 2016 y tu hwnt i unrhyw un o’n breuddwydion gwylltaf, a sicrhaodd tîm Cymru na fyddai’r un ohonom byth yn anghofio’r 25 diwrnod rhyfeddol ac anhygoel hyn. Dyma obeithio am fwy o’r un peth eleni. Pob lwc hogia!!!

Diolch i Siôn England a Deiniol Glyn am y lluniau.

 

Paul Jackson

Llyfrgellydd Adnau Cyfreithiol, Electronig a Derbyn

Robert Recorde a’r Whetstone of Witte

Collections - Postiwyd 31-05-2021

Daeth Robert Recorde yn enwog fel y mathemategydd cyntaf i ddefnyddio’r symbol “=” mewn llyfr a gyhoeddwyd yn Saesneg, The Whetstone of Witte. Mae’r Llyfrgell yn bwriadu arddangos y llyfr hwn ar-lein yn fuan.

Ganwyd Robert Recorde yn Ninbych-y-Pysgod yn 1512. Roedd ei fam yn hannu o Fachynlleth. Yn Ninbych-y-Pysgod gwelwyd ei ddiddordeb mewn mathemateg yn datblygu gyntaf. Cydnabyddwyd hyn gan Gymdeithas Fathemategol Llundain yn 2015 pan gomisynwyd arddangosfa yn ei dref enedigol i gyd-fynd â dathliad 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Gymdeithas.

Lladin oedd iaith y mwyafrif o lyfrau gwyddonol yr unfed ganrif ar bymtheg ond credai Recorde y dylid rhoi addysg fathemategol i bobl na allent ddeall Lladin na Groeg. Ef oedd un o’r awduron cyntaf i ysgrifennu llyfrau mathemategol yn Saesneg.

Gwelir yr hafaliad cyntaf gyda’r defnydd o’r symbol “=” yn yr eglureb ar dudalen 236 o gopi digidol y Llyfrgell o The Whetstone of Witte. Gellid fod wedi mabwysiadu symbolau eraill a ddefnyddiwyd gan fathemategwyr y cyfnod yn Ewrop ac aeth bron canrif heibio cyn i’r ddwy linell gyfochrog gael eu derbyn fel symbol o hafaliad. Defnyddiwyd y symbol mewn gweithiau dylanwadol fel Trigonometic gan Richard Norwood. Yn raddol, lledodd y defnydd o’r symbol hafaliad o Loegr i Ewrop ac i weddill y byd. Er mwyn egluro pam y defnyddiai dwy linell gyfochrog ysgrifennodd Recorde: Er mwyn osgoi ail-ddweud y geiriau “mae’n hafal i” fe ddefnyddiaf bâr o linellau cyfochrog = o’r un hyd, gan fod y rhain yn hafal.

Roedd Recorde ymhlith y mathemategwyr cyntaf i ddefnyddio’r ffurfiau o rifau sy’n gyfarwydd i ni heddiw (1, 2, 3 ayyb). Yn un o’i lyfrau eraill, o’r enw The Groundes of Artes, mae Recorde yn cymharu’r rhifau hyn â’r rhifau Rhufeinig (i, ii, iii) a ddefnyddiwyd gan amlaf yn llyfrau’r cyfnod. Mae’r ffurfiau o rifau a ddefnyddir heddiw yn deillio o rifau Hindŵ neu Arabaidd o tua 600 O.C. Syndod i ni yw fod Recorde wedi gorfod cyflwyno’r rhifau hyn i’w ddarllenwyr di-brofiad. Arfer newydd oedd ysgrifennu mathemateg a rhifyddeg yn Saesneg. Roedd Recorde yn ffigwr blaenllaw wrth gyflwyno’r arfer i bobl Prydain.

 

 

Bu Recorde yn Gymrawd yng Ngholeg All Souls, Rhydychen ar ôl iddo raddio mewn mathemateg. Wedyn astudiodd Feddygaeth yng Nghaergrawnt. Roedd hefyd yn Feddyg Brenhinol ac fe’i apwyntiwyd yn Bennaeth y Bathdy Brenhinol. Tra’n gweithio yn y Bathdy roedd yn atebol i Iarll Penfro. Cyhuddodd Recorde yr Iarll o ddwyn peth o elw’r bathdy. Erlyniwyd ef am enllib am wneud y fath gyhuddiad a chafodd ddirwy o fil o bunnoedd. ‘Doedd ganddo mo’r modd i dalu’r ddirwy ac fe’i carcharwyd fel methdalwr. Cafodd ei daro’n wael yn y carchar a bu farw yn 1558. Pan esgynnodd Elizabeth I i’r orsedd ail-agorwyd yr achos a chafwyd enw Recorde yn ddi-euog. Rhoddwyd tir i’r teulu yn Ninbych-y-Pysgod fel iawndal.

Ysgrifennodd Recorde ei lyfrau Mathemateg yn Saesneg er mwyn i’r bobl eu deall. Roedd ymhlith y cyntaf i gyflwyno y rhifau yn y ffurf yr ydym yn eu hadnabod heddiw. Cofiwn amdano yn arbennig am iddo gyflwyno’r symbol llinellau cyfochrog i ddynodi hafaliad. Felly gwnaeth y Cymro Robert Recorde gyfraniad unigryw i fathemateg yr unfed ganrif ar bymtheg.

 

Llyfryddiaeth

Roberts, G. (2016) Robert Recorde: Tudor Scholar and Mathematician, Cardiff: University of Wales Press.

Roberts, G. Ff. (2020) Cyfri’n Cewri: Hanes mawrion ein mathemateg, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

 

 

Hywel Lloyd,

Llyfrgellydd Cynorthwyol.

Mis Rhannwch Stori

Collections - Postiwyd 26-05-2021

Mae hi’n Fis Rhannwch Stori ac mae traddodiad hir o rannu straeon yng Nghymru yn cael ei adlewyrchu nid yn unig yn ein casgliad llawysgrifau ond hefyd ein casgliad llyfrau print. O gyfrolau am chwedlau ac anturiaethau rhyfeddol megis straeon Twm Siôn Cati i hanesion mordaith Madog i America, i anturiaethau Wil Cwac a’i ffrindiau yn Llyfr Mawr y Plant a dirgelion byd o swyn yng nghyfres Harry Potter, dyma gyfle i rannu rhai o’n hoff straeon o’r casgliad llyfrau print.

Arwr y llyfr The adventures and vagaries of Twm Shôn Catti (1828) yw’r cymeriad chwedlonol sy’n cyfateb weithiau i Robin Hood neu Rob Roy. Honnwyd bod ei orchestion wedi’u seilio ar ddigwyddiadau ym mywyd cynnar Thomas Jones o Dregaron, tirfeddiannwr, hynafiaethydd, achydd a bardd. Dyma’r llyfr cyntaf i glodfori’r arwr hwn. Gellir casglu fod y llyfr wedi’i fwriadu ar gyfer y Cymry, gan fod yr awdur yn agored feirniadol o’r teithwyr Seisnig.

Mae Cymru fu : yn cynnwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (1862) yn un o’r gweithiau pwysig cyntaf a gyhoeddwyd gan Isaac Foulkes (Llyfrbryf, 1836-1904), cyhoeddwr, newyddiadurwr a llenor o Lanfwrog, Sir Ddinbych. Yn ogystal â chyhoeddi llyfrau fel y casgliad hwn o lên gwerin, ysgrifennodd Llyfrbryf gofiannau i J. Ceiriog Hughes a Daniel Owen a golygodd farddoniaeth a llythyrau Goronwy Owen a gweithiau Twm o’r Nant. Gwnaeth fwy na’r un golygydd arall yn ei gyfnod i ennyn diddordeb y Cymro cyffredin yn llenyddiaeth ei wlad.

Dywedir i Madog ab Owain Gwynedd hwylio gydag wyth llong o Abercerrig ger Abergele i chwilio am wlad newydd yn y gorllewin oherwydd iddo ddiflasu ar y gynnen rhwng ei frodyr wedi marwolaeth ei dad, ac iddo lanio ym Mobile Bay tua 1169. Yn yr 16eg ganrif, John Dee oedd y cyntaf i hawlio’r Byd Newydd i Frenhines Lloegr ar sail mordaith Madog. Cafodd disgynyddion y Cymry a ymfudodd gyda Madog eu huniaethu â’r Indiaid Mandan a oedd yn byw i’r gorllewin o afon Missouri ar ddiwedd y 18fed ganrif. Daeth y myth i sylw’r cyhoedd pan gyhoeddodd yr hanesydd John Williams Farther observations, on the discovery of America, by Prince Madog ab Owen Gwynedd (1792) . O ganlyniad i ffugiadau Iolo Morganwg daeth yn gymhelliad cryf i ymfudo i America o Gymru.

Ganwyd y nofelydd Isaac Craigfryn Hughes (1852-1928) ym Mynwent y Crynwyr, Morgannwg. Glöwr ydoedd a bu’n ddall am ran olaf ei oes. Y ferch o Gefn Ydfa (1881?) yw’r fwyaf poblogaidd o’i chwe nofel, sydd yn adrodd hanes Ann Maddocks (1704-1727), merch i William Thomas o Gefn Ydfa, tŷ ger Llangynwyd, Morgannwg a gwraig i Anthony Maddocks. Bu farw ei thad pan oedd hi’n blentyn, ac yn ôl y chwedl ramantus di-sail priododd Maddocks, cyfreithiwr cefnog a mab i’w gwarcheidwad, o’i hanfodd, er iddi garu â bardd ifanc o’r enw Wil Hopcyn a gyfansoddodd penillion “Bugeilio’r Gwenith Gwyn” iddi hi. Dywedir iddi farw o dorcalon yn fuan ar ôl priodi â Maddocks. Iolo Morganwg oedd y cyntaf i honni mai Wil Hopcyn oedd awdur y gân, ond ychwanegodd Hughes manylion gordeimladol at y stori yn y nofel hon.

Mae Histori Sawney Beane (ca. 1800) yn chwedl hynod sy’n adrodd hanes Alexander “Sawney” Beane, pennaeth llwyth gyda 45 aelod yn yr Alban yn yr 16eg ganrif. Cyhuddwyd ei wraig, Agnes Douglas, o fod yn wrach. Roedd y llwyth hwn yn gyfrifol am lofruddio a chanibaleiddio dros 1,000 o bobl tra’n byw mewn ogof rhwng Girvan a Ballantrae am 25 mlynedd, nes iddynt gael eu darganfod a’u dienyddio ar orchymyn y Brenin Iago VI. Mae’r llyfr hwn am hanes Sawney Beane yn gyfieithiad o’r Saesneg.

Detholiad bychan sydd fan hyn wrth gwrs – mae silffoedd y Llyfrgell yn gwegian dan bwysau cyfrolau sy’n llawn straeon hud, lledrith a direidi. Hawdd fyddai ymgolli am oriau rhwng cloriau’r rhain – beth am chwilio’n catalog i weld pa stori wnewch chi ddarganfod?

Archifau Mewn Perygl

Casgliadau / Collections - Postiwyd 06-04-2021

Yn ddiweddar, dyfarnwyd i Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru grant o £50,000 o Gronfa Archifau Covid-19 gan yr Archifdy Gwladol. Bydd y dyfarniad hael hwn yn caniatáu inni gyflogi Swyddog Cofnodion mewn Perygl i Gymru i arwain ar ddatblygu strategaeth genedlaethol i nodi cofnodion sydd mewn perygl oherwydd pandemig Covid-19.

Mae gan bandemig Covid-19 nifer o oblygiadau ar gyfer sut mae busnesau, elusennau a sefydliadau cymunedol eraill yn gallu parhau, gyda llawer yn cau heb fawr o rybudd. Mae gan y cofnodion a grëwyd gan y cyrff hyn werth hanesyddol, nid yn unig i’r busnesau eu hunain, ond hefyd y dystiolaeth y maent yn ei darparu o gyfraniad y busnesau at fywyd y gymuned leol ac i hanes Cymru. Mae llawer o’r sefydliadau hyn yn chware rhan hanfodol yn ein cymunedau, ac mae eu cofnodion yn rhan annatod o hanes lleol a chenedlaethol. Dyma le mae pobl yn byw eu bywydau, yn gweithio, yn siopa, yn cwrdd â’u ffrindiau ac yn dod at ei gilydd fel cymuned, a bydd eu cofnodion yn dweud mwy wrthym am sut roedd pobl yng Nghymru yn byw o ddydd i ddydd.

Dros y flwyddyn i ddod, wrth i’r wlad ddod allan o’r pandemig, bydd nifer cynyddol o’r mathau hyn o sefydliadau lleol yn wynebu cau, neu efallai na fyddant yn gallu parhau i ofalu am eu hasedau hanesyddol. Mae’n hanfodol bod dull effeithiol o sicrhau bod unrhyw archifau a chofnodion bregus yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rôl y Swyddog Cofnodion mewn Perygl fydd arolygu’r dull o gadw cofnodion cyfredol yng Nghymru, sicrhau bod cofnodion mewn perygl yn cael eu nodi, a datblygu’r fframwaith ar gyfer Strategaeth Genedlaethol Cofnodion mewn Perygl i Gymru.

Tagiau: ,

LLGC ar Google Arts & Culture

Casgliadau / Collections - Postiwyd 22-03-2021

Ddechrau fis Mawrth lansiwyd presenoldeb Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar lwyfan diwylliannol Google Arts & Culture. Rhyddhawyd nifer helaeth o gasgliadau digidol unigryw y Llyfrgell ar wefan ac ap Google Arts & Culture gan ddod â diwylliant Cymru i sylw’r byd.

Y Llyfrgell Genedlaethol yw’r sefydliad diwylliannol cenedlaethol cyntaf o Gymru i rannu cynnwys ar wefan Google Arts & Culture ac mae’n ymuno gyda thros 2000 o bartneriaid eraill o bob cwr o’r byd sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod celf a diwylliant ar gael i bawb ble bynnag y bônt. Am y tro cyntaf, mae’n casgliadau’n eistedd ochr yn ochr â chynnwys diwylliannol o bob cwr o’r byd.

Ar hyn o bryd mae 190 o eitemau’r Llyfrgell ar gael mewn oriel ar-lein ar wefan ac app Google Arts & Culture. Yn eu plith mae ffotograffau gan ffotograffwyr cynnar eiconig fel Mary Dillwyn, gweithiau celf gan un o hoff artistiaid Cymru, Kyffin Williams, a thrysorau megis map o Gymru gan John Speed.

Trwy rannu delweddau cydraniad uchel mae Google Arts & Culture yn galluogi cynulleidfaoedd i archwilio eitemau drostynt eu hunain gan edrych mewn manylder ar wrthrychau ac i ddysgu amdanynt trwy amrywiaeth o gyfryngau gweledol a chlyweledol. Mae’n bosib edrych ar lawysgrif cerddoriaeth ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ tra’n gwrando ar y recordiad cyntaf o’r anthem er enghraifft, yn ogystal ag edrych ar baentiadau o rai o’n cestyll eiconig ochr yn ochr â delweddau ‘street view’ Google ohonynt.

Dyma’r tro cyntaf hefyd Google Arts & Culture gynnwys yr iaith Gymraeg ar ei blatfform digidol.  Er mwyn gweld y cynnwys yn y Gymraeg bydd rhaid i chi newid eich gosodiadau iaith ar Google a cheir cyfarwyddiadau ar wefan y Llyfrgell ar sut i wneud hyn.

Mae’r Llyfrgell yn bwriadu ychwanegu mwy o eitemau a churadu rhagor o straeon digidol dros y misoedd nesaf.

 

Mynediad Digidol

Tagiau: , , , ,

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog