Bydd Prifysgol Aberystwyth, mewn partneriaeth gyda’r Llyfrgell Genedlaethol, yn lansio canolfan ymchwil newydd ar ddydd Gwener, 11 Tachwedd, sef y Ganolfan Ymchwil Llenyddiaeth a Hanes Meddygaeth. Bydd y ganolfan yn gwneud defnydd o’r ffynonellau ymchwil sydd yng nghasgliadau meddygaeth y Llyfrgell fel sylfaen i ymchwil academaidd newydd yn y maes. Mae cynhadledd undydd wedi ei threfnu ar gyfer y lansiad ar 11 Tachwedd. Mae’n rhad ac am ddim a gallwch archebu tocyn i’r digwyddiad yma. Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Mae casgliad meddygaeth y Llyfrgell yn un eang, ac mae’n cynnwys deunydd print, archifol, pensaernïol, llawysgrifau, darluniau a ffotograffau. Yn sgil y prosiect Meddygaeth ac Iechyd yng Nghymru cyn y GIG, mae’r deunydd meddygaeth sy’n rhan o’r Casgliad Print Cymreig a Cheltaidd nawr ar gael ar y catalog ar-lein yn ei gyfanrwydd, gyda’r eitemau sydd allan o hawlfraint wedi ei digido hefyd, ac felly ar gael ar-lein. Mae’r casgliad print yn cynnwys nifer o ffynonellau ymchwil pwysig, gan gynnwys adroddiadau Swyddogion Iechyd cynghorau dosbarth gwledig a trefol ledled Cymru, adroddiadau ysbytai ac adroddiadau ysbytai meddwl.
Mae’r adroddiadau ysbytai meddwl yn cynnig esiampl dda o’r fath o wybodaeth a data sydd wedi ei chynnwys yn y ffynonellau print yma. Os edrychwn ar esiampl adroddiadau blynyddol ysbytai meddwl, yn yr achos yma adroddiadau’r Joint Counties Asylum yng Nghaerfyrddin (gweler uchod am y fersiwn ddigidol a osodwyd yn y blog, neu cliciwch yma i’w weld ar syllwr digidol y Llyfrgell), gwelwn y wledd o ddata craidd mae’r adroddiadau yma’n cynnig i ymchwilwyr. Mae’r adroddiadau yn cynnwys data ar nifer helaeth o agweddau bywyd yr ysbyty a’i chleifion gan gynnwys ystadegau ynghylch o le’r oedd y cleifion yn dod, eu gwaith, natur eu salwch, lefelau marwolaeth, diet y cleifion, oedran y cleifion, lefelau aildderbyniad, statws perthynas y cleifion, ac ystadegau cyllidol y sefydliad.
Mae data o’r fath yn sylfaenol i ymchwil yn y maes yma, a’r gobaith yw bydd sefydlu’r Ganolfan mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth yn fodd i gadarnhau’r perthynas rhwng y Llyfrgell, ein casgliadau a’r gymuned ymchwil. Os ydych am ddysgu mwy am y partneriaeth, neu os oes ydych â diddordeb yn yr ymchwil diweddaraf yn y maes llenyddiaeth a hanes meddygaeth, archebwch docyn i’r gynhadledd!
Edward Wynne of Bodewryd (Anglesey) and Hereford and other Welsh History Essays / Neil Fairlamb, 2021
Barddoniaeth
Wysg / Gaerth Writer-Davies, 2022, 9781999849177
Open / Paul Blount, The Cluny Press, 2022, 9780954761097
Ten Poems about Swimming / Selected and Introduced by Samantha Wynne-Rhydderch, 2022, 9781913627065
Gwyddoniaeth, addysg, a natur
CBAC TGAU Drama, Dylunio Drama: Dylunio Goleuo, Sain, Set a Gwisgoedd / Sue Shewring, 2022, 9781913963330
The Birds of Wales = Adar Cymru / Edited by Rhion Pritchard …, 2021, 9781800859722
Chwaraeon
The Glory Years of Cardiff AAC / Clive Williams, 2020, 97818338257750
The Minor Counties Championship 1895-1914 / Julian Lawton Smith, Association of Cricket Statisticians and Historians, 2022, 9781912421329
Cardiff Arms Park : An Illustrated Architectural and Social History / David Allen, Cardiff Rugby, 2021, 9781527296527
Plant
Cyfrinach Fwyaf Siôn Corn / Lyndon Jeremiah, 2020, 9781838271312
Yes! Even a Mouse: The Very First Christmas / Christine Field-Davies, Bear With Us Productions, 2021, 9781838280819
Ffuglen
Ring of spies : how MI5 and the FBI brought down the Nazis in America / Rhodri Jeffreys-Jones, 2022, The History Press, 9781803990361
The Chronicle of Clemendy : or, The History of the IX. Joyous Journeys. In which are contained the amorous inventions and facetious tales of Master Gervase Perrot, Gent. now for the first time done into English / by Arthur Machen ; Illustrations by Jon Langford, 2022
Llywodraeth a gwleidyddiaeth
Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf = Senedd reform, The next steps, 2020
Mae’r Llyfrgell dros y blynyddoedd wedi casglu llyfrau gyda rhwymiadau cain ac anghyffredin, yn enwedig rhai gyda chysylltiad Cymreig. Yn ddiweddar ychwanegwyd un o’r rhai mwyaf anarferol at y casgliad. Mae’r gyfrol yn adargraffiad o lyfr Ffrangeg, La Prose du Transsibériengan yr arlunydd Sonia Delaunay-Terk a’r bardd Blaise Cendrars, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1913. Mae’r gerdd yn disgrifio taith trên trwy Rwsia yn ystod y chwyldroad cyntaf yn 1905. Mae wedi’i argraffu ar bedair dalen wedi’u gludo mewn ffurf consertina.
'La Prose du Transsibérien' gan Sonia Delaunay-Terk a Blaise Cendrars, cyhoeddwyd yn 1913. Rhwymwyd y copi yma gan Julian Thomas.
'La Prose du Transsibérien' gan Sonia Delaunay-Terk a Blaise Cendrars, cyhoeddwyd yn 1913. Rhwymwyd y copi yma gan Julian Thomas.
'La Prose du Transsibérien' gan Sonia Delaunay-Terk a Blaise Cendrars, cyhoeddwyd yn 1913. Rhwymwyd y copi yma gan Julian Thomas.
Ar gyfer yr adargraffiad yn 2019 gwahoddwyd 22 rhwymwr i greu rhwymiadau unigryw. Mae’r copi a brynodd y Llyfrgell eleni wedi’i rwymo gan Julian Thomas, cyn Bennaeth Rhwymo a Chadwraeth y Llyfrgell. Mae’r cloriau wedi’u gorchuddio mewn croen llo du wedi’i liwio gyda phaent acrylig glas fflworolau, a stribedi o groen llo wedi’u mewnosod, rhai ohonynt yn oreurog ac eraill wedi’u lliwio mewn acrylig. Mae’r stribedi yn cyfeirio at y rheilffyrdd a’r cylch at y chwyldroad ac olwynion y trên.
'La Prose du Transsibérien' gan Sonia Delaunay-Terk a Blaise Cendrars, cyhoeddwyd yn 1913. Rhwymwyd y copi yma gan Julian Thomas.
'La Prose du Transsibérien' gan Sonia Delaunay-Terk a Blaise Cendrars, cyhoeddwyd yn 1913. Rhwymwyd y copi yma gan Julian Thomas.
Mae’r rhwymiad trawiadol hwn yn unigryw ac yn enghraifft o waith un o rwymwyr mwyaf blaengar y Deyrnas Unedig. Mae rhagor o rwymiadau gan Julian Thomas, ei ragflaenwyr yn y Llyfrgell a chrefftwyr eraill i’w gweld yn yr arddangosfa Cyfrolau Cain ym Myd y Llyfr ar lawr gwaelod y Llyfrgell tan y 9fed o Ragfyr 2022.
Ar 6 Mawrth 1858 chwythodd tân dinistriol drwy blasty Wynnstay a ffodd y trigolion yn eu dillad nos. Ni chollwyd unrhyw fywydau ond dinistriwyd llawer o’r llyfrgell, ynghyd â dodrefn, paentiadau a phethau gwerthfawr eraill. Disgrifiodd adroddiad yn y North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality ar 13 Mawrth weddillion y llyfrau a’r llawysgrifau prin fel‘masses of black substance in the shape of books but hard and wet, mixed with scraps of black-letter books (some partially legible), music and engravings’.
Roedd y disgrifiad dramatig hwn yn gymhelliant i ymchwilio i dynged casgliad cerddoriaeth y pedwerydd barwnig. A aeth y cyfan i fyny mewn fflamau … ai peidio?
Roedd Sir Watkin Williams Wynn, 4ydd Barwnig, (1749-1789) yn frwd dros y celfyddydau cain. Bu bron iddo fethdalu ystâd Wynnstay trwy ei wariant gormodol ar luniau, cerflunwaith, theatr a cherddoriaeth. Ar gost fawr creodd theatr breifat yn Wynnstay ar gyfer dramâu a chyngherddau. Roedd gan ei gartref moethus yn Llundain yn St James’s Square,1 a ddyluniwyd gan Robert Adam, ei hystafell gerddoriaeth ei hun wedi’i haddurno’n gain yn cynnwys organ Snetzler. Datblygodd diddordeb Syr Watkin mewn cerddoriaeth yn gynnar, efallai dan ddylanwad y telynor teuluol, John Parry, neu efallai yn ystod ei arddegau yn Ysgol Westminster. Yn ddyn ifanc ymunodd â’r Noblemen and Gentlemen’s Catch Club ac yn gyflym daeth i gymryd rhan â’r sîn cerddorol cyfoes yn Llundain.2 Bu’n stiward yn yr ŵyl gerddorol flynyddol yn St Paul’s er budd Corfforaeth Meibion y Clerigwyr ac yn drysorydd y pwyllgor ar gyfer ‘Antient Concerts‘. Yn anochel roedd ar y pwyllgor ar gyfer trefnu Cyngerdd Coffa Handel yn Abaty Westminster yn 1784.
Mae’n debyg bod arferion casglu Syr Watkin wedi’u hysbrydoli gan ei Daith Fawr3 yn Ffrainc a’r Eidal, 1768-9. Daw’r dystiolaeth gyntaf o lyfr cyfrifon4 ei was hir-ddioddef (ei stiward yn ddiweddarach) Samuel Sidebotham. Roedd y costau’n cynnwys prynu lluniau, cerfluniau, dodrefn a llyfrau prin, cyngherddau gan Piantanida, Giovannini ac eraill, cerddoriaeth i’r corn Ffrengig i Mr Morris (gwas Wynnstay), tannau telyn ac yn Turin feioloncello i Syr Watkin, a oedd yn chwaraewr amatur medrus. Yn ôl adref roedd cyfrifon cerddoriaeth Wynnstay ar gyfer 1773 yn dangos pryniannau o bedwarawdau Haydn, pedwarawdau Boccherini, agorawdau dethol Hamal, sonatâu harpsicord Ebdon a deuawdau Noferi; yn ogystal â newidiadau i’r sielo, cyngherddau niferus, a gwersi cerdd i Syr Watkin ac i’r canwr bas, Mr Meredith. Yn 1774/5 cafwyd ychydig o gerddoriaeth gan Handel (amhenodol). Ym mis Ebrill 1779 mynychodd Syr Watkin arwerthiant tri diwrnod y ‘truly valuable and curious library of music late in the possession ofDr William Boyce5’ lle prynodd ddeg lot, yn cynnwys caneuon, madrigalau, motetau a gweithiau offerynnol gan Porpora, Bononcini, Orlando de Lassus, Caldara, Steffani, Gabrieli, Geminiani, Handel ac eraill. Yn naturiol, yr oedd teulu Williams Wynn yn tanysgrifio i weithiau John Parry, ei British Harmony being a collection of Antient Welsh Airs a gyhoeddwyd yn 1781, wedi ei chysegru i’w noddwr.
Wynnstay EH4/1, llyfr cyfrifon 1768-69
Nid yw’n syndod bod mwy o dystiolaeth o gasgliad cerddorol Wynnstay yn dod oddi wrth Charles Burney, efo ei Account of the Musical Performances in Westminster Abbey and the Pantheon May 26th, 27th, 29th; and June the 3rd, and 5th, 1784 in Commemoration of Handel6 yn disgrifio’r digwyddiad mawreddog mewn manylder yr un mor odidog. Yn ffodus, cynhwysodd Burney restr o weithiau Handel, yn y casgliad brenhinol ac yn nwylo unigolion preifat, gan gynnwys Syr Watkin Williams Wynn, a oedd yn berchen ar operâu printiedig, oratorios a Te Deums (sic); ac mewn llawysgrifau, y Te Deum in A, yr anthem Let God arise, I will magnify thee, As pants the Hartforfive voices (‘with several alterations and additions by Handel himself….’), The King shall rejoice, Sing unto God, Blessed are they, fersiynau ar gyfer lleisiau heb offerynnau o Let God arise andAs pants the Hart, ac Ode or Serenata for the Birthday of Queen Anne.
Ymhlith Llawysgrifau Trevor Owen (bellach NLW MS 2785C) y mae catalog o lyfrgell Wynnstay, 1840 (a oedd yn rhagflaenu’r tân) sy’n rhestru hanes cerddoriaeth Hawkins a Burney, The Welsh Harper gan John Parry a sgoriau eraill gan Haydn, Avison, Clark, Handel, Gay, Corfe ac Arnold, a gafodd eu storio yn y llyfrgell, ystafelloedd astudio ac ystafelloedd eraill yn Wynnstay. Mae’n debyg bod y rhain yn gydrannau o gasgliad cerddoriaeth y bedwerydd barwnig. Edrychodd Alexander Hyatt King ar weddillion trist eraill ym 1945, wedi’u difetha gan leithder a llwydni yn y stablau yn Wynnstay, a ddisgrifiwyd fel ‘…practically all unbound, mint, in wrappers, as issued. The bulk was English, back to the seventeen-thirties, but it also included many Hummel and Roger editions, beside some French and Austrian publications.’7
Yn amlwg, roedd Syr Watkin wedi casglu casgliad o gerddoriaeth o bwys cenedlaethol. Yn anffodus, mae’r rhestr o lyfrau a dodrefn yn 20 St James’s Square, dyddiedig 1789, yn rhy fregus i gael mynediad ato.8 Nid yw maint llawn y casgliad yn hysbys ac mae’n anodd asesu pa gyfran yn union a gollwyd oherwydd tân neu leithder. Serch hynny, goroesodd peth ohono, yn y pen draw i’w werthu ynghyd â’r arian, y lluniau ac etifeddiaethau eraill Wynnstay, i dalu dyledion a galwadau treth yn y 1940au. Mae darnau dirdynnol wedi troi lan yn ddiweddarach, mewn ystorfeydd archifau, llyfrgelloedd a mannau annisgwyl.
Stâd Wynnstay gan John Ingleby (1749-1808)
Mae erthygl gan Martin Picker yn y Journal of the Rutgers University Libraries9 yn disgrifio un ar ddeg o gyfrolau o Handel, a brynwyd gan Lyfrgell Rutgers, New Brunswick, c. 1950, yr ymddengys ei fod yn tarddu o Wynnstay. Mae chwech o’r cyfrolau yn cyfateb yn union o ran cynnwys a threfn i’r rhai a restrwyd gan Charles Burney. Mae unffurfiaeth y rhwymiad a defnydd cyson yr un copïwyr yn awgrymu bod yr holl gyfrolau ar un adeg yn perthyn i Syr Watkin Williams Wynn. Mae Picker yn nodi lleoliadau sgoriau Handel eraill o’r casgliad, yn arbennig anthemau yng Nghasgliad Handel Gerald Coke yn y Foundling Museum10 a chantataau Eidalaidd a rhifynnau cynnar o operâu ym Mhrifysgol Sydney, Awstralia.11
Mae Donald Burrows, yn y Newsletter of the American Handel Society12 yn nodi’r darganfyddiad annisgwyl, mewn siop elusen anifeiliaid ym Manceinion, o sgôr Meseia mewn llawysgrifen John Matthews mae’n debyg o’r 1760au, oedd unwaith yn perthyn i Syr Watkin Williams Wynn. Roedd llawysgrifau eraill o Wynnstay, yn cynnwys dyfyniadau o operâu Pasquale Anfossi, Piccini, Monza, a Gassman gynt yn llyfrgell St Michael’s College, Tenbury Wells, Swydd Gaerwrangon, ac maent bellach yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Bodleian.13
Yn amlwg nid oedd diddordebau cerddorol Syr Watkin yn gyfyngedig i Handel. Mae’r Llyfrgell Brydeinig yn cadw saith llawysgrif o Purcell, yn cynnwys ‘dramatic music, odes, etc.’ [1683×1695], y mwyafrif wedi’u copïo c. 1771 gan Jos Fisher, Darwen, Swydd Gaerhirfryn.14 Mae enw Syr Watkin Williams Wynn wedi ei arysgrifio ar ddalen un gyfrol ac mae arfbais eryr Williams Wynn yn ymddangos ar feingefn sawl un yn y gyfres honno. Roedd cerddoriaeth theatr Purcell yn rhan o raglenni’r Catch Club a’r Concerts of Antient Music, a hyrwyddwyd gan Iarll Sandwich a Syr Watkin Williams Wynn. Gwyddys bod Syr Watkin yn berchen ar gopïau o King Arthur, The Indian Queen a The Tempest.15
NLW MS 14427B, cerddoriaeth yn cynnwys cyfansoddiadau Handel a John Parry, c.1764
Yn rhyfeddol, mae dau o’r offerynnau o gasgliad Wynnstay wedi goroesi. Y gyntaf ac amlycaf yw’r organ Snetzler godidog yn ei chas Adam, a leolwyd yn wreiddiol yn 20 St James’s Square, a symudwyd i Wynnstay ym 1864 ac a brynwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1995. Yr ail yw’r sielo a brynodd Syr Watkin yn Turin ar y daith fawreddog yn 1768. Costiodd iddo 480 o livres Piedmont, ac yr oedd eisoes yn henbeth pan gafodd ef, yn dwyn y label Chiafredi Cappa, Mondovi 1697. Prynwyd yr offeryn oddi wrth Wynnstay gan Alfred Hill o W.E. Hill & Sons, Llundain, a chadarnhawyd ei darddiad gan Rudolph Wurlitzer Co., Cincinnati & Efrog Newydd, 1931, Alfred Hill, 1934, Adolph Hoffman (g.d.), Desmond Hill, 1962 a Kenneth Warren & Son, Chicago, IL, 1962 Fe’i cofnodwyd ar werth yn Christies, Efrog Newydd, 6 Mawrth 1986, lle methodd â chyflawni’r $60,00016 a ragwelwyd. Mae wedi ei adnabod fel y sielo sydd bellach yn cael ei chwarae gan Marc Coppey, ond mae diffyg cadarnhad.
Yn olaf, trochwch eich hun ym myd sain y ddeunawfed ganrif, wedi’i ail-greu o lawysgrifau cerdd a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Disgrifir y daith gan Paul Hernon, Sir Watkin’s tours : excursions to France, Italy and North Wales, 1768-71 (Wrecsam : Bridge Books, 2013).
LlGC, Cofnodion Stad Wynnstay EH4/1. Mae llyfrau cyfrifon pellach y pedwerydd barwnig wedi’u rhifo EH4/2-10, a rhai yn rhydd yn EH3/2-12.
Robert J. Bruce a H. Diack Johnstone, ‘A Catalogue of the truly valuable and curious library of music late in the possession of Dr William Boyce (1779): transcription and commentary’ mewn Royal Musical Association Research Chronicle rhif 43 (2010), tt. 111-171 (Taylor & Francis Ltd ar ran y Royal Musical Association)
Charles Burney, ‘List of Handel’s Works’ mewn An Account of the Musical Performances in Westmisnster Abbey and the Pantheon May 26th, 27th, 29th; and June the 3rd, and 5th, 1784 in Commemoration of Handel (Llundain : T. Payne and son [etc.] 1785) tt. 45-6:
Alexander Hyatt King, Some British Collectors of Music, c. 1600-1960 (Cambridge University Press, 1963), t. 18
Archifau Sir Ddinbych, Llawysgrifau Wynnstay rhif DD/WY/7944.
Martin Picker, ‘Sir Watkin Williams Wynn and the Rutgers Handel Collection’ mewn Journal of the Rutgers University Libraries Cyf. 53, Rhif 2 (1991) tt. 17-26.
Gerald Coke Handel Collection: Let God arise and Te Deum Laudamus, rhif 2/B/LET GOD ARISE (Cyn rhif Catalog Coke HC415a/C1 HC479c/C2)
Cyfeiriad heb ei ddarganfod.
Donald Burrows, ‘Newly recovered Messiah Scores’ mewn Newsletter of the American Handel Society Cyf. IV, Rhif 3 (Rhagfyr 1989) tt. 1, 5.
Llyfrgell Bodleian, MS. Tenbury 656 and MS. Tenbury 1153.
Y Llyfrgell Brydeinig: Search Archives and Manuscripts, rhif Add. MS 62666-62672.
S. Tuppen, ‘Purcell in the 18th century: music for the Quality, Gentry, and others’ mewn Early Music Cyf. 43; Rhif 2, 2015 (Oxford University Press) tt. 233-245.
Catalog Christies New York, ‘Important Musical Instruments’ Dydd Iau 6 Mawrth 1986, tt. 36-7.
Cyflwynir Gwobrau Cadwediaeth Ddigidol gan Gynghrair Cadwedigaeth Ddigidol bob dwy flynedd i ddathlu llwyddiannau mwyaf arwyddocaol unigolion a sefydliadau wrth iddynt sicrhau cynaliadwyedd cynnwys digidol. Yn dilyn proses asesu drylwyr, cyhoeddwyd enwau’r enillwyr mewn seremoni gyflwyno ddisglair yn Glasgow, lle roedd sefydliadau ac ymarferwyr cadwediaeth ddigidol o bob cwr or byd yn bresennol. Roedd y Llyfrgell yn falch iawn o ennill Gwobr Rhwydwaith Treftadaeth Ddigidol yr Iseldiroedd am Addysgu a Chyfathrebu am y prosiect: Dysgu Trwy Wneud: adeiladu sgiliau cadwraeth ddigidol yng Nghymru: https://www.dpconline.org/news/dpa2022-winners.
Simon, Sally, Paul a Rob gyda'i gwobr
Roedd Dysgu Trwy Wneud yn rhaglen o hyfforddiant rhyngweithiol a ddarparwyd gan staff y Llyfrgell ar blatfform Teams i ymestyn sgiliau cadwedigaeth ddigidol a chynyddu capasiti ar gyfer staff sy’n gweithio mewn sefydliadau ledled Cymru. Mae adnoddau i gefnogi’r hyfforddiant ar gael ar wefan Archifau Cymru: https://archives.wales/staff-toolkit/saving-the-bits-programme/.
Cyfrannodd y Llyfrgell at wobr arall o fri a ddyfarnwyd yn ogystal. Enillwyd gwobr Cymdeithas Archifau a Chofnodion ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol Newydd y Flwyddyn gan Gemma Evans.
Roedd Gemma yn cael ei chyflogi gan y Llyfrgell i arwain y prosiect Cofnodion mewn Perygl ar gyfer Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Archifau Covid-19 y National Archives a sefydlwyd er mwyn cefnogi archifau a’u galluogi i ddiogelu cofnodion oedd mewn perygl o gael eu colli o ganlyniad i effaith economaidd y pandemig, a’r bygythiad i barhad busnesau, elusennau a sefydliadau, ledled Cymru. Datblygodd Gemma Becyn Cymorth Cofnodion mewn Perygl oedd yn sicrhau bod cofnodion mewn perygl gael eu hadnabod a’u diogelu, ac mae ar gael i’w lawrlwytho ar wefan Archifau Cymru: https://archives.wales/records-at-risk/.
Ydych chi’n colli’r gwyliau haf yn barod? Yna gadewch i ni fynd ar daith o amgylch Cymru gyda’r Traveller’s Instructive Guidethrough England and Wales* fel ein cydymaith ymddiriedol. Yn dyddio o tua 1820, ac yn mesur dim ond 13 x 9 cm, mae’r Guide yn bwriadu darparu’r holl wybodaeth y gallai teithiwr chwilfrydig ei hangen, gan gynnwys trefi a dyddiau marchnad, ffeiriau, aelodau seneddol lleol, banciau a bancwyr, seddi’r uchelwyr, y pellter o Lundain, a llwybrau a phrisiau coetsis post. Mae gwybodaeth am bob sir yn cael ei gwasgu mewn i un dudalen, gyda map lliw ar y dudalen gyferbyn. Mae’r rhagymadrodd yn addo bod yn ddefnyddiol i bob dosbarth o bersonau, o’r masnachwr i’r ffermwr; ond yn enwedig y teithiwr, oherwydd ei faint cludadwy.
Y dudalen deitl
Mae Sir Fynwy ar goll o’r llyfr sy’n cwmpasu Cymru, a restrir yn lle hynny gyda siroedd Lloegr, sydd heb eu cynnwys yn y gyfrol hon. Mae hyn yn gyffredin mewn canllawiau ac ar fapiau sy’n dyddio o’r 16eg i’r 20fed ganrif, ac yn deillio o amwysedd cyfreithiol hir sefydlog ynghylch a oedd Sir Fynwy yn rhan o Gymru, gyda gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth yn trin y sir yn wahanol. Eglurwyd y sefyllfa’n gyfreithiol yn Neddf Llywodraeth Leol 1972.
Gan ddechrau ym Môn, byddwn yn siŵr o chwilio am y ‘nifer o olion’ temlau Derwyddol, heb anghofio’r ‘tref daclus a golygus’ Biwmares, a phicio draw i Niwbwrch am ‘raffau a matiau wedi’u gwneud o wymon’.
Drws nesaf mae Sir Gaernarfon ‘yn cynnwys y mynydd godidog hwnnw’r Wyddfa, gyda’i gopa…ar goll i olwg dynol yng nghanol cymylau’r nefoedd’. Mae Sir Gaernarfon yn ymddangos yn lle da ar gyfer byrbryd, gan fod y sir yn cynhyrchu cig eidion rhagorol ac ‘mae’r buchod yn rhyfeddol am gynhyrchu llawer iawn o laeth’. Er mwyn lleddfu ein traed poenus, byddwn yn stopio yng Nghaernarfon ar gyfer y ‘baddonau dŵr halen mân’. Yn ôl y Guide, dim ond un stryd milltir o hyd yw Bangor, felly awn ymlaen yn gyflym i Gonwy, ‘tref hynod ddymunol’, sy’n cynnwys eglwys gadeiriol Othig a chastell hynafol ‘mewn cyflwr cadwraeth ragorol’. Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon yw Syr Charles Paget. Olynodd ei frawd Edward yn yr un sedd, ac ni wnaeth erioed yr un cyfraniad i ddadl seneddol, er ei fod wedi gwasanaethu am 24 mlynedd!
Sir Gaernarfon
Wrth fynd tua’r dwyrain, mae’r Guide yn galw canol Sir Ddinbych yn ‘un o’r mannau mwyaf hyfryd yn Ewrop’ ac yn nodi bod ‘Dyffryn Clwyd wedi’i wneud yn gyfiawn yn thema moliant llenyddol’. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pacio llyfr nodiadau fel y gallwch nodi unrhyw linellau o farddoniaeth sy’n dod i’ch meddwl wrth edmygu golygfeydd Sir Ddinbych.
Ar ôl hyfrydwch Sir Ddinbych, nid yw’n edrych fel bod Sir y Fflint wedi gwneud argraff ar y Guide. Mae’n disgrifio Fflint fel ‘wedi’i adeiladu’n afreolaidd’ ac ‘er ei bod yn anfon un aelod i’r senedd, nid oes ganddi farchnad’, tra bod Llanelwy yn ‘lle di-nod iawn’.
Wrth fynd tua’r de i Sir Drefaldwyn, rydym yng nghartref ‘cnydau toreithiog o ŷd’ a phorfeydd yn llawn gwartheg duon a cheffylau. Os ydych yn y farchnad am dda byw, ewch i Lanfair ac (wedi sillafu’n rhyfedd iawn) ‘Llansdiloes’ i gael gwartheg. Neu orau oll, Y Trallwng ar gyfer ceffylau, gwartheg a moch.
Sir Drefaldwyn
Neidiwch yn ôl i’r gogledd-orllewin i Sir Feirionnydd i gael ‘gwedd ramantus pictiwrésg a hardd’ ac amrywiaeth eang o decstilau: gwlanen ardderchog o Ddolgellau, druggets (math o ffabrig bras a ddefnyddiwyd i amddiffyn carpedi mewn tai mawr) a ‘chlytiau gwlân bras’. Os hoffech chi ategolion, ewch draw i’r Bala, i gael menig a wigiau Cymreig.
Nawr, ymlaen i Sir Ceredigion, sy’n cael adolygiad cymysg: ‘mae’r awyr mewn rhai rhannau yn hyfryd o dawelwch, mewn rhannau eraill mae’n llwm ac yn tyllu’. Gwnewch yn siŵr eich bod yn stopio wrth ymyl Llambed, sy’n cynnal ffair ar y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Awst, a Llanbadarn Fawr ar gyfer ei ‘heglwys gain, wedi’i hadeiladu ar ffurf Groes Roegaidd’.
Sir Ceredigion
I’r dwyrain eto i Sir Faesyfed, lle mae’r awyr yn ‘ffafriol iawn i iechyd a hirhoedledd’, er gwaethaf y pridd ‘braidd difater’, a thref sirol Maesyfed yn cynnwys ‘dim byd sy’n haeddu sylw’.
Mae’n bosibl bod yr holl deithio hwn wedi treulio tyllau yn ein sanau, felly mae’n amser am daith i Sir Frycheiniog, sy’n enwog am gynhyrchu hosanau. Mae gan Lanfair-ym-Muallt yn arbennig ‘fasnach fawr mewn hosanau bras’. Mae’r testun a’r map yn anghytuno ar sillafiad cywir yr enw Saesneg, gyda’r testun yn cynnig ‘Burlth’, tra bod y map yn dangos ‘Bualt’. Nid yw’r naill na’r llall yn cynnwys ‘Wells’, a atodwyd dim ond yn y 19eg ganrif ar ôl darganfod ffynhonnau curiad calch yn y dref a dechrau cael eu marchnata i dwristiaid.
Sir Frycheiniog
Gan wyro’n ôl i’r gorllewin, cyrhaeddwn Sir Gaerfyrddin, ‘mewn lleoliad prydferthaf De Cymru’. Mae’n werth ymweld â Chaerfyrddin ei hun, oherwydd ei ‘phont gain’ dros afon Teifi a’i marchnad yn gwerthu gwartheg duon a cheffylau.
I’r gorllewin o Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro, am rywfaint o awyr ‘salubrious’, er bod y pridd mewn rhai rhannau o’r sir yn ‘ddiffrwyth a di-haint’. Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw ymweliad â Sir Benfro yn gyflawn heb daith i Dyddewi, ‘dinas esgobol hynafol iawn’, gyda phoblogaeth amcangyfrifedig o ddim ond 200. Yn anffodus, nid yw Tyddewi yn cynnig marchnad na ffair. Felly bydd yn rhaid i’n siopa cofroddion aros nes i ni gyrraedd Sir Forgannwg.
Sir Benfro
Mae Abertawe’n ‘dref o fusnes masnachol gwych’ ac mae ‘gweithfaoedd helaeth o gopr, pres, &c.’, yn ogystal â harbwr gwych. Ar hyn o bryd, Llandaf ac Abertawe yw prif drefi Morgannwg, nid Caerdydd. Yng ngogledd y sir, mae’r awyr yn ‘llwm ac awyddus’, ond mae yna hefyd ‘gloddfeydd cyfoethog o blwm a glo’.
Sir Forgannwg
Os ydych chi eisiau anfon cerdyn post adref, rydych chi allan o lwc, gan na chynhyrchwyd y cardiau post llun cyntaf tan y 1870au, ond os ydych chi am eistedd lawr i ysgrifennu llythyr yn disgrifio eich antur (neu efallai i ddangos eich cerdd wedi’i hysbrydoli gan Sir Ddinbych), fe welwch restr ddefnyddiol o brisiau postio yng nghefn y gyfrol, ac mae pob map yn amlygu ffordd y goets fawr mewn coch llachar.
Roedd Syr Kenelm Digby (1603-1665) yn dod o deulu Catholig Prydeinig a chafwyd ei dad yn euog o deyrnfradwriaeth oherwydd ei gysylltiad â chynllwyn Guto Ffowcyn yn 1605. O ganlyniad fe’i ddefrydwyd i farwolaeth, a cafodd ei grogi yn Ionawr 1606. Cafodd hyn effaith ar fywyd Digby – roedd yn ddrwgdybus o awdurdod ac yn barod i gymryd risg. Enghraifft o hyn oedd pan aeth ar ymgyrch ddirgel fel môr leidr i Fôr y Canoldir er mwyn erlid ac ysbeilio llongau a ddeuai yn agos at ei long ef. Ar ôl dychwelyd o’r antur hwn, daeth cyfnod tywyll arall yn ei fywyd pan fu farw ei wraig, Venetia Stanley, yn ddi-rybudd. Ymatebodd i’r digwyddiad hwn drwy ymroi yn llwyr i wneud arbrofion gwyddonol a lled-wyddonol.
Roedd Digby yn berson chwilfrydig iawn ac ynddo awch am wybodaeth, yn fwy felly na rhan fwyaf o’i gyfnod. Roedd ganddo arbenigedd mewn athroniaeth, gwyddoniaeth, alcemi a choginio. Mae’r llyfrau a nodir yn y blog hwn yn cynnwys ei ddiddordeb mewn ryseitiau coginio a chemeg. Ni recordiwyd gwyddoniaeth mewn dull disgybledig yn y cyfnod hwn, ac er fod Digby yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Frenhinol roedd ei waith ymchwil yn cwmpasu cemeg a meddygaeth ar yr un llaw, ac alcemi ac astroleg ar y llaw arall.
Blaenorol
Nesaf
Mae yna dystiolaeth gref fod copi y Llyfrgell o Feibl Mawr 1539 (“The Great Bible”) yn dod o lyfrgell Syr Kenelm Digby. Cyfeirir at y Beibl mewn nifer o gyfrolau oedd ymhlith llawysgrifau William Watkin Edward Wynne o Beniarth. Mae tystiolaeth fod rhain wedi bod ym meddiant Digby gan gynnwys dyddiadur Digby yn ei lawysgrifen ei hun o’i daith i Fôr y Canoldir (gweler erthygl B. Schofield yng Nghylchgrawn y Llyfrgell Genedlaethol, Cyfrol 1, Rhif 2, 1939). Yn ddiweddar, prynodd y Llyfrgell ddau lyfr o’i waith.
Mae’r llyfr “The Closet of the eminently Learned Sir Kenelm Digby” yn canolbwyntio ar ryseitiau a ddaeth Digby ar eu traws yn ystod ei deithiau i Ewrop. Dyma ddogfen hanesyddol werthfawr o fwyd a ryseitiau yr ail ganrif ar bymtheg. Fel un a deithiodd yn eang, ysgrifennodd am y bwydydd anarferol a brofodd, ac fe wnai gofnod o’r ryseitiau a’u hanfon at eu ffrindiau ym Mhrydain a gwledydd eraill Ewrop. Mae’r ryseitiau yn cynnwys sut i wneud metheglin, gwin ceirios a seidr. Diddorol nodi mai Digby a ddyfeisiodd y botel win fodern wrth ei wneud o wydr cryf iawn oedd yn liw tywyll, a hynny tua 1633. Cyn hyn, ‘roedd poteli gwin yn denau a gwan. Roedd hyn yn iawn os am storio am gyfnod byr, ond golygai fod y gwin yn ocsideiddio’n gyflym. Golygai dyfeisio’r botel win fodern y gellid defnyddio a marchnata gwin drud, champagne a vintage port.
Ryseitiau o "The Closet of the Eminently Learned Sir Kenelme Digbie Kt."
Ryseitiau o "The Closet of the Eminently Learned Sir Kenelme Digbie Kt."
Ryseitiau o "The Closet of the Eminently Learned Sir Kenelme Digbie Kt."
Blaenorol
Nesaf
Llyfr arall a brynwyd yn ddiweddar gan y Llyfrgell oedd A Choice Collection of rare Chymical secrets and Experiments in Philosophy gan George Hartman. Mae’r llyfr hwn yn amlinellu cymwysterau Digby fel Cemegydd. Dengys hefyd sut y credai y gallai cynhyrchion ei arbrofion gael eu defnyddio fel modd i drin anhwylderau a salwch parhaol, fel gowt, dropsie, y parlys, French-pox, y Pla, y gwahanglwyf, y frech wen a’r frech goch. Dangosir methodoleg a thechneg yr arbrofion drwy gyfrwng diagramau oedd yn nodweddiadol o lyfrau gwyddonol cynnar. Er mai un o brif amcanion Digby oedd dangos grym gwyddoniaeth mecanyddol, mae llawer o gynnwys y llyfr yn ymwneud ag alcemi ac astroleg.
Diagramau yn "A Choice Collection of rare Chymical Secrets"
Diagramau gwyddonol yn "A Choice Collection of Rare Chymical Secrets"
Blaenorol
Nesaf
Mae gan y Llyfrgell gopi o A Stain in the Blood – the Remarkable Voyage of Sir Kenelm Digby gan Joe Moshenska (Heinemann, 2016). Noda Moshenska fod ei arwr yn byw rhwng dau gyfnod, sef cyfnod y Dadeni a Shakespeare, a chyfnod byd modern Milton a Newton. Mae’r awdur yn astudio anturiaethau Digby, ei gymeriad cryf a’i ddiddordebau eang. Dyn hynod yn wir.
Digby, K. (1669) The closet of the eminently learned Sir Kenelme Digbie Kt. opened whereby is discovered several ways for making metheglin, sider, chery-wine, &c. : together with excellent directions for cookery, as also for preserving, conserving, candying, &c., London: Printed for H. Brome, at the Star in Little Britain.
Hartman, G. (1682) A Choice Collection of rare Chymical Secrets and experiments in Philosophy as also rare and unheard-of Medicines, Menmstruums and Alkahests; with the true secret of Volatilizing the fixt salt of Tartar Collected and experimented by the Honourable and truly Learned Sir Kenelm Digby, Kt. Chancellour to Her Majesty the Queen-Mother. Hitherto kept secret since his decease, but now published for the good and benefit of the Publick. London : Printed for the Publisher, and are to be sold by the book-sellers of London, and his own house in Hewes Court in Black-Fryers.
Mae Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 wedi cyrraedd! Dyma gipolwg ar rai o eisteddfodau’r gorffennol a gynhaliwyd yng Ngheredigion gyda rhai ffeithiau diddorol amdanynt:
Aberystwyth, 1916
Cynhaliwyd yr Eisteddfod ar Gaeau’r Ficerdy ar gyrion y dref.
Testun yr awdl oedd ‘Ystrad Fflur’. John Ellis Williams oedd y bardd buddugol ac roedd Hedd Wyn yn ail.
Ni chynigiwyd coron.
Aberteifi, 1942
Bwriadwyd ei chynnal yng Nghaerfyrddin ond oherwydd y Rhyfel fe’i cynhaliwyd yn Aberteifi.
Nid oedd teilyngdod yng nghystadleuaeth y gadair.
Crwys oedd yr Archdderwydd.
Kate Roberts oedd beirniad y stori fer.
Aberystwyth, 1952
Cafwyd teilyngdod yng nghystadleuaeth y gadair – ‘Lleisiau’r Greadigaeth’ neu ‘Dwylo’. Awdl John Evans ‘Dwylo’ oedd yn fuddugol.
Doedd neb yn deilwng yng nghystadleuaeth y goron. Y testun oedd ‘Y Creadur’ neu ‘Unrhyw Chwedl Gymreig’. Mae’r goron i’w gweld yn ein harddangosfa ‘A oes heddwch.’
Y goron, 1952
Yr Archdderwydd oedd Cynan.
Gallwch wylio cofnod o’r eisteddfod hon ar ffilm fud sy’n cynnwys rhai o bobl amlwg y dydd fel T. H. Parry-Williams ac Elfed.
Aberteifi a’r cylch, 1976
Roedd hon yn Eisteddfod gofiadwy iawn am sawl rheswm – dathlu wythcanmlwyddiant yr Eisteddfod, y llwch mawr yn dilyn deufis o dywydd tanbaid, saga’r ddwy awdl ‘Gwanwyn’ a nifer fawr o eisteddfotwyr yn heidio yno gan dorri record.
Enillodd Alan Llwyd y goron am ddilyniant o tua hanner cant o benillion ar y thema ‘Troeon Bywyd’ a’r gadair am ei awdl ‘Gwanwyn’.
Cyhoeddwyd stampiau arbennig gan y Post Brenhinol i nodi’r achlysur.
Rhai o’r rhaglenni swyddogol, 1916, 1952 a 1976
Llanbedr Pont Steffan a’r fro, 1984
Enillodd John Roderick Rees y goron am ei bryddest ‘Llygaid’ am ddirywiad cefn gwlad ac ail goron y flwyddyn ddilynol yn Rhyl. Bu‘n athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Tregaron a chafodd rhai o’r disgyblion y fraint o weld y goron ar ei ymweliad â’r ysgol.
Cyflwynwyd y ddwy goron i Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth, ar ôl ei farwolaeth. Cynlluniwyd hwy gan Kathleen Makinson.
Yr Archdderwydd oedd W. J. Gruffydd (‘Elerydd’), un o feirdd niferus Ffair Rhos.
Ceredigion, Aberystwyth, 1992
Gelli Angharad ger Aberystwyth oedd lleoliad yr ŵyl.
Yr oedd yr Archdderwydd presennol Myrddin ap Dafydd yn un o feirniaid yr awdl ‘A Fo Ben …’. Idris Reynolds oedd yn fuddugol.
Rhoddwyd y goron gan Owen a Prys Edwards.
Yr Archdderwydd oedd ‘Ap Llysor’ (W. R. P. George), nai Lloyd George.
Robin Llywelyn (Portmeirion), a chyn fyfyriwr yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, oedd enillydd y fedal ryddiaith gyda’i nofel Seren wen ar gefndir gwyn. Cyfieithwyd y nofel ganddo yn 2004 fel White star.
GigioDigion oedd enw’r Babell Ieuenctid.
‘Sethgwenwyn a’r Gwyrddedigion’ oedd teitl Sioe Gerdd y Plant.
‘Tic Toc’ oedd yr opera roc.
Cynhaliwyd ‘Noson fawr yr Eisteddfod’ sef ‘Llais y lli’ gyda chynfyfyrwyr fel Dyfan Roberts, Geraint Lövgreen, Mynediad am ddim a Myrddin ap Dafydd yn diddanu.
‘Yr Orsedd, yr Eisteddfod a’r Llyfrgell’ oedd ein harddangosfa.
Ceredigion, Tregaron, 2022
Ar ôl cyfnod hir o ansicrwydd mae’r Eisteddfod yn ei hôl. Dewch draw i’n stondin ar y maes i ddysgu am hanes a diwylliant Tregaron.
Tybed pa uchafbwyntiau a straeon diddorol fydd yn rhan o’r eisteddfod hirddisgwyliedig hon?
Rhwng 20 a 22 Mehefin 2022, lansiwyd cyfrol ryfeddol yn swyddogol – ‘A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c.800-c.1800’ gan Daniel Huws. Fel yr astudiaeth fwyaf cynhwysfawr ac arwyddocaol o lawysgrifau Cymreig ers dros ganrif, dathlwyd y gyfrol gyda chynhadledd dros dri diwrnod a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ‘Welsh Manuscripts c.800-c.1800’.
Daeth Daniel Huws i weithio yn LlGC yn 1961 fel archifydd, a datblygodd ddiddordeb mawr mewn llawysgrifau ac ysgrifenyddion canoloesol. Ymddeolodd yn 1992 a dechreuodd weithio ar y Repertory yn 1996, gyda’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Nawr, wrth i Daniel ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed, mae’r magnum opus wedi’i gyhoeddi o’r diwedd. Ar hyd y daith gwelodd y gwaith fewnbwn sawl ysgolheigion ac arbenigwyr llawysgrifau Cymreig, gan gynnwys Curadur Llawysgrifau LlGC, Dr Maredudd ap Huw, a’r Athro Ann Parry Owen o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd; ond nid lleiaf Gruffudd Antur, a gyfrannodd yn sylweddol at y gyfrol.
Chwith-Dde: Maredudd ap Huw; Ann Parry Owen; Gruffudd Antur
Yn ystod y seremoni agoriadol, lle cyflwynwyd copi o’r Repertory i’r Prif Weinidog Mark Drakeford, soniodd Daniel fod mewnbwn Gruffudd wedi profi’n amhrisiadwy i’r pwynt lle daeth yn brentis a chydawdur Daniel, gan nodi hyd yn oed mai llysenw Gruffudd bellach yw ‘Daniel bach’! Cafwyd areithiau hefyd yn cydnabod camp ryfeddol Daniel a Gruffudd gan Brif Weithredwr a Llyfrgellydd LlGC, Pedr ap Llwyd; Elin Haf Gruffudd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd; a Llywydd y Llyfrgell, Ashok Ahir.
Cyflwyno copi o’r Repertory i’r Prif Weinidog Mark Drakeford
Bydd y Repertory yn amhrisiadwy i’r astudiaeth o lawysgrifau Cymraeg a llawysgrifau sy’n gysylltiedig â Chymru, a’u tarddiad, eu hanes, eu lluniad, a’u cynnwys. Mae Daniel wedi amcangyfrif bod y gyfrol yn cynnwys manylion 3,000-4,000 o lawysgrifau, nifer ohonynt wrth gwrs wedi cael sylw a thrafodaeth drwy gydol y tri diwrnod y gynhadledd. Anogodd papurau amrywiaeth eang o drafodaeth, gyda phynciau’n amrywio o balaeograffeg a chodicoleg, i ieithyddiaeth a digideiddio; ac yn cynnwys cyfraith Gymraeg yr Oesoedd Canol, croniclau, barddoniaeth, amrywiaethau, achau, gramadegau, swynion, llyfrau salmau, cronolegau, llythyrau, a rhestrau o enwau lleoedd. Rhoddodd ein tri prif siaradwr darlithoedd ysgogol a diddorol, gyda Ceridwen Lloyd-Morgan yn trafod delweddau crefyddol canoloesol; Bernard Meehan yn siarad am y Llyfrau Salmau Gwyddelig canoloesol; a Paul Russell yn sôn am weithiau Gerallt Gymro.
Ceridwen Lloyd-Morgan (yn y llun gyda Maredudd ap Huw) yn siarad am ‘Delweddau Crefyddol mewn Llawysgrifau Canoloesol Cymraeg’
Bernard Meehan yn siarad am Llyfrau Salmau Gwyddelig Canoloesol
Paul Russell yn rhoi’r ddarlith olaf ar lawysgrifau Gerallt Gymro
Daeth y gynhadledd i ben gyda chyflwyniad o Fedal y Cymmrodorion i Daniel Huws, anrhydedd uchel mor haeddiannol.
Seremoni medal y Cymmrodorion
Mae’r Repertory wedi agor lan y maes o astudiaethau llawysgrifau Cymreig fel erioed o’r blaen, gan ddarparu ffynhonnell ddigynsail i ymchwilwyr. Yng ngeiriau ein brif siaradwr olaf Paul Russell: nid y diwedd yw’r Repertory, ond y dechrau!
Dydy’r fformat ffilm cul, y 9.5mm, ddim mor adnabyddus heddiw â fformatau poblogaidd eraill fel yr 16mm, yr 8mm safonol a’r super 8mm. Ond, gall hyn newid nawr gan ei fod bellach wedi cyrraedd ei ganmlwyddiant ac mae nifer o ddigwyddiadau wedi’u creu er mwyn dathlu ei hanes a’i effaith ar y diwylliant ffilm.
Taflunyddion ffilm 9.5mm Pathé yng nghasgliad cyfarpar Archif Sgrin a Sain LlGC
Roedd yn fis Rhagfyr 1922 pan lansiodd y cwmni Ffrengig, Pathé, ei fformat 9.5mm newydd. Roedd yn ffurf fechan, radical ar dechnoleg gwneud ac arddangos ffilmiau a alluogodd ostyngiadau mawr mewn costau. Effaith hyn, yn ei dro, oedd gwneud sinema gartref a sinematograffi gartref yn hygyrch i lawer mwy o bobl ledled y byd. Y cynnig cyntaf oedd taflunydd ffilmiau – y Pathé Baby – ynghyd â chyflenwad o ffilmiau gan y cwmni o’i gatalog cefn helaeth. Roedd pynciau byr amrywiol a hyd yn oed ffilmiau nodwedd wedi’u golygu i lawr, a wnaed yn wreiddiol ar ffilm 35mm safonol, ar gael i’w prynu neu eu llogi, ac wedi’u hargraffu i lawr i 9.5mm. Mewn sawl ffordd, dyma VHS neu Netflix ei gyfnod, y ffordd o brofi sinema wedi’i ail-ddimensiynu yn y cartref. Flwyddyn yn ddiweddarach, ychwanegodd Pathé gamera i’w system newydd a oedd erbyn hynny â chystadleuydd newydd ar ffurf ffilm 16mm, gyda chefnogaeth y cwmnïau Americanaidd, Kodak a Bell and Howell.
Magasîn camera neu ‘wefrydd’ ffilm 9.5mm, sy’n dangos ei dwll canolog nodedig
Effaith bodolaeth yr offer cyflawn cymharol fforddiadwy hyn ar gyfer gwneud ffilmiau ar ffilm cul oedd gwneud diwylliant ffilm amatur eang yn bosibl. Er bod gwahanol fformatau sydd bellach yn anghyffredin wedi bodoli ar gyfer amaturiaid cyfoethog o ddechreuadau sinematograffi ar ddiwedd oes Fictoria, ddaeth eu defnydd erioed yn ffenomenon marchnad dorfol. O fewn ychydig flynyddoedd, roedd Pathé wedi gwerthu 100,000 o’u Baby projectors. Roedd gwneud ffilmiau gartref i bawb o’r diwedd!
Taflen heb ddyddiad yn hysbysebu’r taflunydd ‘Pathé Baby’
Nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith bod y cipluniau symudol o fywyd bob dydd sydd gan sefydliadau fel Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol yn eu casgliadau yn dechrau yn yr 1920au a cheir cynrychiolaeth dda ohonynt o’r 1930au ymlaen. Daeth gwneud ffilmiau’n ddiddordeb poblogaidd a chafodd ei ddemocrateiddio ymhellach wrth i glybiau sinema gael eu sefydlu lle byddai aelodau’n rhannu’r costau ac yn cydweithio ar ffilmiau stori a rhaglenni dogfen.
Rhwng 2013 a 2017, cafodd llawer o ffilmiau o’r fath yn archifau ffilm cenedlaethol a rhanbarthol y DU eu digideiddio a’u rhoi yn eu cyd-destun fel rhan o’r prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Ffilm. Roedd Archif Sgrin a Sain LlGC yn bartner i’r prosiect dan arweiniad y BFI a chafodd 57 o’i ffilmiau cartref 9.5mm eu sganio a’u gwneud ar gael ar y BFI player yn rhad ac am ddim ac am gyfnod amhenodol. Mae enghreifftiau cynrychioliadol yn cynnwys:
Nid dim ond cofnod o wyliau haf yw hwn, ond golwg ddychanol, ysgafn ar bobl gwledydd Prydain yn hamddena. Un o nifer o ffilmiau 9.5mm gan yr amatur talentog, Harold Cox.
Clipiau o ffilmiau a wnaed gan Jack Clark o Aberhonddu yw’r rhain. Mae’r teulu Clark wedi byw yn ardal Aberhonddu am sawl cenhedlaeth ac mae ganddynt fusnes teuluol yno hyd heddiw. Roedd Jack Clark yn berchen ar siop a stiwdio cyflenwadau ffotograffig a allai fod wedi helpu gyda chyflenwadau o stoc ffilm a chemegau datblygu. Gellir gweld rhai o’i ffilmiau ar hyn o bryd yn arddangosfa Amgueddfa Aberhonddu. Ar gyfer canmlwyddiant y 9.5mm, bydd clip arall o gasgliad Clark ar gael sy’n dangos rhannau o’r dref yn agos i’r afon – Pont Llanfaes ac o amgylch y Gadeirlan – dan lifogydd yn yr 1930au.
Yn yr achos hwn, rydym yn cyflwyno tros-sgan o’r deunydd fel y gellir gweld nodweddion y 9.5mm. Mae’r rhain yn cynnwys y twll canolog a’r rhicyn wedi’i dorri i ochr y ffilm ar bwynt rhyng-deitl sy’n sbarduno mecanwaith ffrâm llonydd yn y taflunydd. Mae’r ffrâm wedi’i doddi sy’n aml yn gysylltiedig hefyd i’w weld, yn ogystal â difrod i’r ddelwedd o ganlyniad i grafanc y taflunydd. Ar wahân i werth hanesyddol delweddau o’r llifogydd, rhywbeth a wnaed yn berthnasol yn ddiweddar oherwydd ein pryderon am newid hinsawdd, mae’r clip hwn yn enghraifft ddiddorol o botensial y 9.5mm ar gyfer ‘ailgymysgu’. Mae Clark, fel gwneuthurwr ffilmiau cartref, wedi golygu lluniau masnachol ynghyd â deunydd a saethwyd ganddo ef ei hun. Allwn ni ddim bod yn siŵr pa mor fwriadol oedd y weithred hon, ond mae’n awgrymu bod y golygfeydd o lifogydd wedi’u cysylltu â’r delweddau cartŵn o gymryd ‘bath annisgwyl’.
Sganio ffilm 9.5mm ar MWA Flashscan yn Archif Sgrin a Sain LLGC
Yn 1932, ymunodd fformat newydd, hyd yn oed yn rhatach, â’r farchnad gwneud ffilmiau gartref fywiog – yr 8mm. Er gwaethaf y gystadleuaeth gynyddol hon, parhaodd y 9.5mm i ffynnu fel cyfrwng ar gyfer gwneud ac arddangos ffilmiau. Parhaodd catalog Pathé o deitlau ffilm i ehangu ac roedd yna galedwedd newydd yn darparu ar gyfer datblygu ffilm sain 9.5mm a olygai ei bod yn bosibl clywed datganiadau cyfoes yn ogystal â’u gweld.
Roedd gan y lled ffilm hwn ddilynwyr brwd a oedd yn gwerthfawrogi ei fod yn llai costus na’r 16mm, ond bod ganddo ansawdd llun tebyg – yn sicr yn llawer gwell na’r 8mm. Pan aeth Pathéscope UK i ddwylo’r derbynwyr yn 1960, gallai bri’r fformat fod wedi dod i ben, ond ymunodd y ffyddloniaid hyn â’i gilydd i ffurfio clwb sinema newydd a lwyddodd i ail-greu strwythurau cefnogaeth ar gyfer y math hwn o ffilm. Parhaodd aelodau Group 9.5 i gasglu a dangos printiau a gynhyrchwyd gan Pathé ac fe wnaeth rhai ohonyn nhw – a grwpiau tebyg mewn gwledydd eraill – gadw’r arfer o gynhyrchu ffilmiau gartref gan ddefnyddio’r 9.5mm i fynd. Mewn rhai achosion prin, arbrofwyd â thechnegau sinematograffeg fel defnyddio lensys anamorffig ar gyfer delwedd sgrin eang.
Ar y chwith, adran o stribed ffilm 9.5mm o ffilm gan aelod o Group 9.5, Hugh Hale. Ar y dde, y ddelwedd sgrin lydan estynedig fel y’i gwelir pan y’i taflunnir yn defnyddio lens anamorffig 1.5x.
A hwythau bellach yn oes y super 8, a gyflwynwyd yn 1965, roedd ffyddloniaid y 9.5mm yn aredig eu cwys hynod eu hunain, a chyda llai o ddefnydd, llithrodd y math hwn o ffilm allan o ymwybyddiaeth y cyhoedd yn raddol gan ddod, fel yr adroddwyd gan Lenny Lipton, ‘yn gelain byw’. Efallai ei bod yn fwy caredig dweud, fel cyfrwng gwneud ffilmiau ymarferol ac fel ffordd o ledaenu cynnwys ffilmiau theatrig, ei fod bellach yn dipyn o hynodbeth archeolegol, ond yn un a all, serch hynny, roi mewnwelediad gwerthfawr i sut y bu cenedlaethau cynharach y mwynhau’r cyfryngau. Yn fwy na hynny, fel cludwr canrif o atgofion, ein gobaith yw, drwy’r gwaith cadwraeth a wneir gan y llyfrgell ac archifau eraill, y bydd y canmlwyddiant hwn o straeon fyw am byth.
Dr. Guy Edmonds
Cynorthwy-ydd Technegol (Ffilm)
Digwyddiadau Canmlwyddiant y 9.5mm
Cynhadledd Prifysgol Southampton sydd wedi’i neilltuo i’r 9.5mm, The Little Apparatus
Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.