Fe ffrwydrodd Niall Griffiths ar y llwyfan llenyddol efo’i nofel gyntaf Grits yn 2000. Wedi’i lleoli yn ardal Aberystwyth, mae’r nofel yn archwilio bywyd ar ymylon enbydus a difantais cymdeithas. Fe ddenodd ei ymdriniaeth o gyffuriau, rhyw a throsedd a’i defnydd helaeth o iaith lafar gymhariaethau amlwg â’r nofelydd Albanaidd Irvine Welsh (Trainspotting).
Serch hynny, medda Griffiths ar lais pwysig, grymus a diddorol ynddo’i hun, fel y gwelir o’r 22 bocs o’i bapurau a gatalogwyd yn ddiweddar yn y Llyfrgell. Mae’r rhain yn cynnwys nodiadau, drafftiau, deunydd ymchwil, dyddiaduron, gohebiaeth, papurau gweinyddol ac effemera sy’n ymwneud â phob agwedd o’i fywyd llenyddol, gan gynnwys ei nofelau i gyd hyd at Broken Ghost (2019), yn ogystal â’i farddoniaeth, ei storïau byrion ac amryw ryddiaith arall, dramâu radio a ffilm, erthyglau ar gyfer cylchgronau, adolygiadau o weithiau gan awduron eraill, cyfweliadau, gweithdai, gŵyliau, papurau academaidd, cyhoeddiadau’n ymwneud â’i waith ei hunan, a llawer mwy.
Er iddo gael ei eni a’i fagu yn Lerpwl, a’i fod â theyrngarwch chwyrn tuag at y ddinas honno, ac er iddo fyw am dair blynedd yn Awstralia o’i fod yn 12 oed, mae Niall Griffiths yn awdur nodweddiadol Cymreig. Yng Nghymru y lleolir y rhelyw o’i waith, ac ar gyrion Aberystwyth y mae e wedi byw am y rhan fwyaf o’i fywyd. Efallai nad yw hyn yn syndod, oherwydd gan ei deulu Cymreig a chan y llenor o’r Rhondda Ron Berry y dysgodd gyntaf am bwysigrwydd iaith, straeon ac anianoldeb. Cyhoeddwyd ei ddau deithlyfr Real Aberystwyth a Real Liverpool yng Nghymru, a dyfarnwyd ei nofel Stump (2003) yn Llyfr y Flwyddyn gan Gyngor Llyfrau Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae Griffiths yn olrhain ei berthynas agos â bryniau Cymru i’r cyfnod y treuliodd yn Eryri tra ar gwrs troseddwyr ifanc yn ei arddegau, a phriodola natur danllyd, anhydrin ac (yn aml) ysbrydol ei waith i’w wreiddiau Celtaidd.
Mae Griffiths wedi byw’r bywyd a ddisgrifia yn Grits: partïo, cyflawni gwaith di-grefft a chael a chael wrth fyw ar y gwynt. Yn aml, mae ei gymeriadau’n chwilio am ryw foddhad yn eu bywydau, ac mae nifer ohonynt yn byw dan lach tlodi – unigolion llawn gofidiau sydd yn ceisio gwneud y gorau o fyd gelyniaethus sy’n tueddu amlygu eu beiau a’u diffygion – tra bod ei dirweddau gwledig a dinesig yn atsain i ysgytiadau anghytgord eu harddwch ynghlwm â’u creulondebau. Cyflwynir hyn oll gan Griffiths mewn arddull graffig a chydag empathi ac argyhoeddiad dwfn, agwedd sy’n treiddio trwy eraill o’i weithiau.
Wrth ddarlunio’r aelodau hynny o gymdeithas nas clywir eu lleisiau’n aml, mae Griffiths yn hynod ymwybodol o’r berthynas sydd rhwng iaith a gwleidyddiaeth. Mae nifer o’i lyfrau wedi’u hysgrifennu mewn tafodiaith, gydag acenion wedi’u trawsgrifio’n ffonetig (a chyda phob rhwydd hynt i iaith fras) ac fe eilw ar ei wybodaeth lenyddol eang er mwyn rhoi naws arwrol i’w gymeriadau. Mae ei arddull ddwys a thelynegol wedi denu cryn edmygedd a llwyddiant masnachol, ond ar yr un pryd wedi llwyddo i ddieithrio rhai darllenwyr ac adolygwyr.
Nid fod Niall Griffiths yn poeni ryw lawer am adolygwyr llenyddol ac academaidd. Dechreuodd ysgrifennu pan oedd yn ifanc iawn, wedi’i gymell yn ddiarwybod gan rhyw ysfa neu’i gilydd, ac, er iddo adael yr ysgol yn 15 oed, daeth i ddeall pwysigrwydd addysg – yn ogystal â’i gyfyngiadau. Dychwelodd i fyd addysg, gan fentro cyn belled â dechrau gradd Doethuriaeth mewn barddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond fe brofodd ddadrithiad, gan ddweud yn ddiweddarach fod angen iddo ddad-ddysgu rhan helaeth o’i addysg academaidd. Ers hynny, mae ei waith wedi ennill iddo gadair athrawol anrhydeddus ym Mhrifysgol Wolverhampton.
Amlygir cyfuniad o chwilfrydedd, angerdd, dysg, ansicrwydd ariannol ac afradrwydd trwy gydol cynnwys a threfniant yr archif fel ei gilydd. Ynghyd â’r ymchwil drylwyr a ymgymerwyd gan Griffiths ar ystod eang o bynciau, mae ei bapurau’n datgelu ei farn ddi-flewyn-ar-dafod ar sawl mater personol, creadigol, proffesiynol, cymdeithasol, gwleidyddol ac athronyddol. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cysyniadau hunaniaeth a hefyd mewn hanes llenyddol ac ym mhrofiad, crefft ac ystyr bywyd y llenor, ynghyd â diddordeb mewn teithio a nifer o bynciau eraill – yn enwedig pêl-droed, ac yn arbennig felly Clwb Pêl-droed Lerpwl.
Cymerwch olwg ar bapurau Niall Griffiths sydd newydd eu catalogio er mwyn gweld pam y bu – a pham y parha i fod – gymaint o alw amdano fel cyfrannwr i gyhoeddiadau a gweithgareddau mewn cymaint o wledydd ledled y byd.
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol cefais y fraint o roi sgwrs yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar y trysorau gwyddonol yng nghasgliadau’r Llyfrgell. Cyflwynodd y sgwrs honno 27 o drysorau gwyddonol yn dyddio o’r 11eg ganrif hyd at yr 20fed ganrif gan gynnig blas o’r math o ddeunydd yn ymwneud â gwyddoniaeth sydd gan y Llyfrgell. Bydd y blog hwn yn eich cyflwyno i bedair o’r eitemau hyn, gan ganolbwyntio ar rai gweithiau printiedig allweddol sy’n ymwneud â gwyddoniaeth o gasgliadau print y Llyfrgell.
Dechreuwn gydag un o’r llyfrau mwyaf arwyddocaol yn natblygiad syniadaeth gwyddonol, sef Dialogo di Galileo Galilei…: sopra i due massimi sistemi del mondo Tolemaico, e Copernaico (1632) gan Galileo. Yn gwneud achos feirniadol dros ddamcaniaeth Copernicus bod y ddaear yn troi o amgylch yr haul, mae gwaith Galileo ar ffurf deialog rhwng dau athronydd, Saliviati, yn cynrychioli safbwyntiau Galileo a rhagdybiaeth Copernicus, a Simplicio, yn cynrychioli’r safbwynt Ptolemaidd a gefnogir gan yr Eglwys Gatholig, a lleygwr amhleidiol, Sagredo. Arweiniodd cyhoeddi’r llyfr hwn at achos llys Galileo am heresi, ei cyfyngu i’w dŷ am weddill ei oes, ac osodiad y llyfr ar y Mynegai o Lyfrau Gwaharddedig o 1633 hyd at 1835. Yr argraffiad cyntaf a gyhoeddwyd yn Fflorens yn 1632 yw copi’r Llyfrgell.
Tudalen deitl llyfr enwog Galileo.
Llun o lyfr enwog Galileo
Daw’r ddau waith nesaf â ni i Gymru ac maent yn gynrychioliadol o weithiau Cymraeg ar wyddoniaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae’r cyntaf, Y Darluniadur Anianyddol (1850) gan Edward Mills, yn un o nifer o lyfrau gwyddoniaeth poblogaidd a gyhoeddwyd yng nghanol y 19eg ganrif. Teithiodd Mills (1802-1865) ledled Cymru yn darlithio ar seryddiaeth ac fe adeiladodd planedur 66 troedfedd, a ddisgrifiwyd fel un o ‘ryfeddodau’r oes’. Mills a’i fab oedd yn gyfrifol am y torluniau pren yn y Darluniadur.
Tudalen deitl Darluniadau Anianyddol
Darlun o eclips yr haul o 'Darluniadur Anianyddol'.
Y blaned Sadwrn yn 'Darluniadau Anianyddol'.
Yr ail yw Y Gwyddonydd, y cylchgrawn gwyddonol arloesol iaith Gymraeg a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru rhwng 1963 a 1996. Roedd y cylchgrawn yn cynnwys papurau academaidd, erthyglau, adolygiadau a newyddion ar bynciau gwyddonol. Nododd Dr Gwyn Chambers, un o sylfaenwyr y cylchgrawn, fod Y Gwyddonydd “wedi profi addasrwydd y Gymraeg i drafod pynciau gwyddonol o bob math, a hynny mewn ffordd gwbl naturiol.” Gellir gweld holl rifynnau Y Gwyddonydd ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein drwy’r cysylltiad hwn.
Daw’r eitem olaf â ni at y presennol a’r angen frys i weithredu yn wyneb yr argyfwng hinsawdd mwyfwy difrifol sy’n wynebu’r blaned. Wedi’i gyd-olygu gan y gwyddonydd o Gymru, John Theodore Houghton, roedd yr adroddiad Climate Change a gyhoeddwyd gan y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd ym 1990, yn un o’r cyhoeddiadau gwyddonol cynnar wnaeth ein rhybuddio am raddfa’r her sy’n ein hwynebu nawr mewn perthynas â newid hinsawdd anthropogenig.
Clawr Adroddiad yr IPCC ar newid hinsawdd pan oedd y Cymro Sir John Haughton yn Gadeirydd yr IPCC.
Blas yn unig yw hwn o’r gweithiau gwyddonol sydd yng nghasgliadau printiedig y Llyfrgell. Mae gennym hefyd weithiau pwysig gan Isaac Newton, Francis Bacon, Robert Hooke, gweithiau gan wyddonwyr Cymreig fel William Robert Grove, Lewis Weston Dillwyn, Eirwen Gwynn a Donald Davies, a agraffiad cyntaf o’r Origin of the Species gan Charles Darwin a ddarganfuwyd yn ddiweddar. Mae llawer iawn fwy i’w darganfod, felly beth am galw lan i’r Llyfrgell i chwilio am y gweithiau gwyddonol yn ein casgliadau?
Eleni cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Archifau a Chofnodion y DU ac Iwerddon (ARA) yn Belfast rhwng 30 Awst a 1 Medi. Yn ystod y gynhadledd derbyniodd dau aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydnabyddiaeth am eu gwaith caled yn y sector Archifau.
Cyflwynwyd Gwobr Gwasanaeth Nodedig mewn Archifau i Sally McInnes, Pennaeth Cynnwys Unigryw a Chyfoes. Cymhwysodd Sally fel archifydd ym 1988 a daeth i weithio yn y Llyfrgell ym 1989, ac mae wedi bod yma ers hynny! Mae Sally wedi gweithio ar bob lefel i helpu i hwyluso cadwraeth a mynediad at archifau, gan ddod yn Bennaeth Gofal Casgliadau yn 2010 ac yn Bennaeth Cynnwys Unigryw a Chyfoes yn 2015. Gwelodd Sally archifau a chasgliadau arbennig y Llyfrgell drwy heriau sylweddol, gan gynnwys tân yn 2013 ac yn fwy diweddar y pandemig Covid-19, yn ogystal â sicrhau Achrediad Gwasanaeth Archifau ar gyfer y Llyfrgell a hyrwyddo Cadwedigaeth Ddigidol.
Mae Sally wedi gwneud cyfraniad anhygoel i’r gwaith o gasglu a chadw archifau yma yn y Llyfrgell a hefyd ar draws y proffesiwn archifau ehangach, ac rydym yn siŵr y byddwch yn ymuno â ni i ddymuno llongyfarchiadau iddi.
Llongyfarchiadau hefyd i Julian Evans, Cynorthwy-ydd Cadwraeth, a dderbyniodd ei Dystysgrif mewn Cadwraeth Archifau. Dechreuodd Julian ei Hyfforddiant Cadwraeth Archifau ARA yn LlGC yn 2019, gan weithio ar lawer o wahanol dechnegau a chasgliadau gan gynnwys rhwymo llyfrau, cadwraeth papur, glanhau ac atgyweirio. Mae Julian nawr yn dechrau ar ei yrfa fel Cadwraethwr Archifau cwbl gymwys, gan helpu i gadw sgiliau hanfodol ar gyfer cadwraeth archifau yn y dyfodol.
Wythnos diwethaf, dathlodd y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol 75 mlynedd ers ei sefydlu. Diddorol yw nodi y prynwyd argraffiad cyntaf prin (1875) gan y Llyfrgell llynedd o’r llyfr ‘Diseases of the Hip, Knee and Ankle Joint and their treatment by a new and efficient method’ gan y llawfeddyg Hugh Owen Thomas. Fe’i cyhoeddwyd gan T. Dobb o Lerpwl.
Tudalen deitl y llyfr
Offer llawfeddygol
Rhagair y llyfr
Ganwyd Hugh Owen Thomas yn Sir Fôn yn 1834. Hyfforddodd fel llawfeddyg yn gyntaf gyda’i ewythr, Dr Owen Roberts, yn Llanelwy a hynny am bedair blynedd. Wedyn astudiodd feddygaeth yng Nghaeredin a Choleg Prifysgol Llundain. Datblygodd i fod yn llawfeddyg orthopaedig a gwneuthurwr rhwymyn (brace) llwyddiannus yn Lerpwl. Ysgrifennodd yn eang ar sut i drin toriadau gan ddefnyddio dulliau arbrofol a ddatblygodd ef ei hun. Dyma un o gyhoeddiadau cynharaf Thomas. Nifer fach o’r rhain a gyhoeddwyd a’u diben oedd eu cyflwyno i’w ffrindiau. Yn ddiddorol, ni wnaeth unrhyw ymdrech i roi cyhoeddusrwydd i’w lyfr a credir iddo ddistrywio’r copïau oedd yn weddill ar ôl eu dosbarthu.
Priodolir i Thomas o leiaf tair rheol wyddonol, sylfaenol ar sut i drin toriad. Yn gyntaf, mae’n bwysig fod y claf yn cael ei orfodi i orffwys. Yn ail, ni ddylid rhoi pwysau ar y cymal sydd wedi brifo ac yn drydydd mae’n bwysig symbylu’r cylchrediad o fewn y cymal sydd wedi brifo yn ystod y cyfnod adfer.
Mae’r dulliau llawfeddygol a ddisgrifir yn y llyfr yn dal i gael eu defnyddio heddiw a mae eu defnydd wedi galluogi trin fwy o gleifion yn llwyddiannus, gan osgoi cymalau sy’n gwella’n ddiffygiol ar ôl toriadau. Mae hefyd wedi llwyddo i leihau’n sylweddol y nifer o ddrychiadau.
Astudiaethau achos gyda darluniau
Astudiaethau achos
Crynodeb y llyfr
Cyhoeddwyd y llyfr hwn saith deg tri mlynedd cyn sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Mae’n rhoi cip o’r gofal meddygol oedd ar gael i bobl yn gyffredinol cyn darpariaeth gan y wladwriaeth. Ceir cyfeiriadau cyson at gost ac argaeledd triniaethau a bod y rhain yn dibynnu ar gyfoeth y claf.
Diddorol yw sylwi fod Thomas yn sôn am driniaethau a ddefnyddir gan lawfeddygon led led y byd. Mae’n gwerthuso’r technegau gwahanol hyn mewn modd beirniadol gan geisio gwella arnynt wrth ddatblygu ei ddulliau ei hun. Trwy gydol y llyfr mae Thomas yn cynnwys astudiaethau achos sy’n dangos iddo ystyried yn fanwl lwyddianau a methianau ei driniaethau wrth addysgu llawfeddygon eraill.
Yn sicr, gwnaeth Hugh Owen Thomas gyfraniad sylweddol i ddatblygiad dulliau llawfeddygol dros y degawdau.
Gorchwyl dymunol iawn gefais fel gwirfoddolwr yn ddiweddar, sef gwrando ar recordiau o Ben Bach yn canu caneuon gwerin a cheisio eu trawsgrifio. Brodor o Fathri yn Sir Benfro oedd Ben – Ben Phillips i roi ei enw iawn iddo, ond fel ‘Ben Bach’ oedd yn cael ei adnabod. Roedd ganddo lais hyfryd a chlir ac yn canu yn nhafodiaith Sir Benfro ac yn enwog, mae’n debyg, am fynd i dipyn o hwyl gyda’i gynulleidfa.
Roedd angen cadw’r dafodiaith wrth drawsgrifio, oedd yn her ar adegau – ambell i ‘ddishgled o dê’ a ‘dwêd da thre’. Tua deg ar hugain o ganeuon – un fach hyfryd am y gwcw oedd yn hir yn cyrraedd – “oerwynt y gaeaf a’m cadwodd yn ôl”; fersiwn Gymraeg o ‘Deuddeg Dydd o’r Gwyliau’ (‘The Twelve Days of Christmas’); rhai caneuon trist, rhai doniol, caneuon serch ac ambell i faled. Roeddwn mewn ffitie o chwerthin wrth wrando ar ‘Y Ladi Fowr Benfelen’ gyda’i double entendres amheus iawn!
Fy hoff gân oedd ‘Pentre Mathri Lân’ oedd Ben yn canu ar y dôn ‘Johnny Comes Marching Home’, sy’n disgrifio llawer o drigolion Mathri mewn ffordd ddigri, er enghraifft:
“Ma Jo siop ardderchog yn i le, hwrê, hwrê,
Yn gwerthu shwgwr, sebon a thê, hwrê, hwrê,
Sim raid i chi dalu am fîsh ne ddou
Ond diwedd i gân yw ‘pei yp mei boi’.
Hip hip hwrê-i, pentre Mathri lân.”
Mae’n debyg mai bwriad y trawsgrifio oedd i blant ysgol yn Sir Benfro gael dysgu rhai o’r caneuon – fel bo’r geiriau a’r dafodiaith ar gôf a chadw gan y genhedlaeth nesaf – syniad ardderchog! Rwy’n siwr byddai Ben Bach wrth ei fodd.
Mae’r Mabinogion yn gasgliad o ddeuddeg o chwedlau Cymraeg Canol. Fe’u cyfieithwyd i’r Saesneg yn y 19eg ganrif gan y Fonesig Charlotte Guest, merch nawfed Iarll Lindsey, a anwyd yn swydd Lincoln ond a ddechreuodd ymddiddori yn llên a thraddodiadau Cymru ar ôl priodi Syr Josiah John Guest, meistr gweithfeydd haearn Dowlais.
Enghraifft o destun Cymraeg Canol yn y Mabinogion
Mae un ar ddeg o’r chwedlau wedi’u cymryd o’r Llyfr Coch o Hergest, sef un o’r llawysgrifau Cymraeg pwysicaf yr Oesoedd Canol. Maent yn cynnwys pedair cainc y Mabinogi, sef Pwyll Pendefig Dyfed, Branwen ferch Llŷr, Manawydan fab Llŷr, a Math fab Mathonwy, yn ogystal â thair rhamant Arthuraidd a phedair chwedl annibynnol. Rhoddwyd cymorth i Charlotte Guest gan John Jones (Tegid) a Thomas Price (Carnhuanawc) gyda’r gwaith cyfieithu. Argraffwyd y testunau Cymraeg gyda’r cyfieithiadau, ac mae’r cyfrolau yn cynnwys ffacsimilïau o rannau o’r llawysgrifau gwreiddiol.
Un o'r ffacsimilïau o rannau o’r llawysgrifau gwreiddiol.
Cyhoeddwyd y cyfieithiad mewn saith rhan rhwng 1838 a 1849, wedi’u bwriadu i’w rhwymo mewn tair cyfrol. Yn ddiweddar mae’r Llyfrgell wedi prynu copi prin iawn o’r saith rhan wreiddiol; dim ond un copi arall sy’n hysbys mewn llyfrgell sefydliadol. Copi personol y cyfieithydd yw’r rhai a brynwyd, gyda’i phlât llyfr tu fewn i’r cloriau, yn dangos ei harfbais a’i henw ar ôl priodi am yr ail dro, sef Lady Charlotte Schreiber.
Plât llyfr Lady Charlotte Schreiber.
Mae’r cyfrolau prin yma yn ychwanegiad pwysig at gasgliad helaeth y Llyfrgell Genedlaethol o lyfrau Arthuraidd.
Bydd Paul Robeson bob amser â chysylltiad agos â Chymru. Hyd yn oed yn y cyfnod modern, mae nifer o lyfrau wedi’u hysgrifennu am ei gysylltiadau, yn ymdrin â’i gyfarfodydd ag Aneurin Bevan, ei ymddangosiadau cyson mewn gwyliau Cymreig, ei weithgareddau gwleidyddol a’i gefnogaeth i lowyr Cymru. Mae cerddoriaeth wedi cael ei dylanwadu hefyd, gyda rocwyr Cymreig y Manic Street Preachers yn canu am ei alltudiaeth wleidyddol o America yn eu cân ‘Let Robeson Sing’ oddi ar eu halbwm yn 2001 ‘Know your Enemy’.
Llyfrau gan Paul Robeson o gasgliadau'r Llyfrgell
Mae cysylltiad Robeson i’w deimlo’n ddyfnaf yn y ffilm ‘The Proud Valley’ o’r 1940au, a welodd cymeriad Robeson David Goliath yn ymweld â Chymru yn chwilio am swydd. Roedd gan y tyrigolion lleol amheuon ar y dechrau, ond croesawyd David i’w cymuned trwy gân a’i ymdrechion arwrol.
Er mwyn archwilio’n llawn gysylltiadau Robeson â Chymru byddai angen misoedd o ymchwil manwl, ond hyd yn oed gyda chrynodeb byr, bydd y canlyniad cyffredinol bob amser yr un fath. I gofio Paul Robeson.
Mae Coroniad y Brenin Siarl III yn gyfle i weld sut mae achlysuron tebyg wedi cael eu nodi yn y gorffennol a sut mae hynny’n cael ei adlewyrchu yng nghasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol.
Yn y bôn seremoni Cristnogol yw’r Coroni, ac roedd yn arfer i argraffu’r pregethau a draddodwyd fel rhan o’r gwasanaeth. Mae sawl enghraifft o’r rhain yng nghasgliad Eglwys Gadeiriol Llandaf, a brynwyd gan y Llyfrgell yn 1984, gan gynnwys y bregeth hon gan William Talbot, Esgob Rhydychen, ar gyfer gwasanaeth coroni Siôr I yn 1714.
Yn 1820 ysgrifennodd William Owen Pughe, geiriadurwr, gramadegydd, golygydd, hynafiaethydd a bardd o Sir Feirionnydd, gerdd o dan ei enw barddol Idrison ar gyfer coroni Siôr IV.
Mae cerddoriaeth hefyd yn elfen bwysig o’r seremoni a darnau newydd yn cael eu cyfansoddi ar gyfer pob coroniad. Mae ein casgliadau cerddorol yn cynnwys emyn gan y Parch. W. Morgan ac anthem gan Syr John Goss, y ddau gyda geiriau Cymraeg, a gyhoeddwyd ar gyfer coroni Siôr V yn 1911. Ond yn y Drenewydd y flwyddyn honno roedd rhaid gohirio’r ŵyl chwaraeon a cherddoriaeth flynyddol oherwydd dathliadau’r coroniad.
Adeg coroni Siôr VI yn 1937 traddodwyd pregeth yn eglwys Drenewydd Gelli-farch yn Sir Fynwy gan y Parch. Arthur Morgan gyda’r teitl “The meaning of the Coronation” a’i chyhoeddi wedyn. Roedd naws ysgafnach i’r dathliadau yng Nghei Connah, oedd yn cynnwys gêmau pêl-droed a phêl-rwyd, sioe tân gwyllt, a dosbarthu siocledi i blant ysgol gynradd.
Yn 1953 cynhaliwyd gwasanaethau yng nghapeli Penygroes, Sir Gaerfyrddin, a chymanfa ganu yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, i ddathlu coroni Elizabeth II. Nododd Cyngor Maesteg yr achlysur gan gyhoeddi argraffiad arbennig o’r arweinlyfr swyddogol.
Dim ond enghreifftiau yw’r rhain o ddigwyddiadau a gynhaliwyd trwy gydol Cymru a’r Deyrnas Unedig. Tybed pa gyhoeddiadau fydd yn cyrraedd ein casgliadau ar ôl y dathliadau eleni.
Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.