Blog - Casgliadau

Thomas Jones yr Almanacydd

Casgliadau / Digido / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 27-12-2021

Dyma flwyddyn newydd arall ar y gorwel! Gadewch i ni edrych nôl ar gasgliad y Llyfrgell o almanaciau a’u defnydd gan y Cymry yn y gorffennol. Roedd yr almanaciau hyn yn cynnwys y prif ddyddiadau sioeau a ffeiriau a fyddai’n berthnasol i’r werin i gynllunio eu blwyddyn.

 

 

Thomas Jones (1648?-1713) oedd un o’r ffigyrau amlycaf a fu’n gyfrifol am gyhoeddi ac ysgrifennu almanaciau. Ganwyd ef yn Sir Feirionydd, yn fab i deiliwr. Ar ôl symud i Lundain yn ddyn ifanc i geisio sefydlu ei grefft yno, newidiodd gyrfa i fod yn argraffydd a chyhoeddwr. Erbyn 1693 roedd wedi symud i’r Amwythig a sefydlu yno y wasg Gymraeg gyntaf erioed. Cyhoeddi llyfrau oedd prif waith y wasg ond enillodd enwogrwydd drwy Gymru am gyhoeddi almanaciau. Enillodd Thomas Jones batent brenhinol i’r wasg yn 1679 i gyhoeddi almanac Cymraeg blynyddol, a gwnaeth hynny yn ddi-dor o 1680 tan flwyddyn ei farwolaeth yn 1713. Roedd yr almanaciau yn boblogaidd iawn gyda’r werin a ddefnyddiodd hwy i bwrpas tebyg i’r hyn a wnawn ni heddiw gyda chalendrau a chynllunwyr blynyddol.

Yn yr enghraifft a welir o almanac Thomas Jones, yn ogystal â chalendr, cawn ddisgrifiad byr o dywydd nodweddiadol pob diwrnod o bob mis. Roedd Thomas Jones fel pe bai am rybuddio a diddanu ei ddarllenwyr yr un pryd. Disgrifir rhai o’r diwrnodau yn Ionawr fel rhai gwyntog, eraill yn rhewllyd ac eraill yn lawiog. Mwy o gelfyddyd a ffrwyth dychymyg na gwyddoniaeth hinsawdd! Ond mae Thomas Jones hefyd yn cynnwys proffwydoliaethau niwlog eraill yn yr almanaciau gyda chyfeiriadau at rai o’r cyflyrau dyrys yr oedd yn dioddef ohonynt (dywedir ei fod yn dipyn o “hyperchondriac”!). Roedd yn amlwg fod ei ddarllenwyr wrth eu bodd yn darllen yr almanaciau at ddefnydd ymarferol ond hefyd roedd y cynnwys yn ddihangfa o realiti caled eu bywydau.

 

Hywel Lloyd

Llyfrgellydd Cynorthwyol.

Casglu darnau o’r jig-so: Chwilio am lawysgrif Cymraeg coll

Casgliadau - Postiwyd 14-12-2021

Mae casgliadau archifol a’r gadwraeth o ddogfennau hanesyddol yn hanfodol i’n helpu i ddeall y gorffennol. Ond efallai un o’r pethau pwysicaf yw’r rôl mae’r casgliadau yma yn chwarae i ddarparu cysylltiadau i’r pethau hynny o’r gorffennol yr ydyn mewn peryg o golli.

Mae’r faenor ganoloesol Hergest Court wedi ei leoli ger pentref Kington, Swydd Henffordd, yn wynebu tir comin Hergest a’r Llwybr Clawdd Offa ar ffin Lloegr a Chymru. Gaeth Hergest Court ei adeiladu c.1267, a bu’r teulu Vaughan yn byw yno am ganrifoedd. Mae’r faenor yn gyfystyr â un o’r llawysgrifau Cymraeg ganoloesol enwocaf, Llyfr Coch Hergest, sy’n dyddio o ddiwedd y 14eg/dechrau’r 15fed ganrif. Yn cynnwys copïau o chwedlau’r Mabinogi a gwaith y Gogynfeirdd, ymhlith testunau eraill, mae gan y Llyfr Coch enw haeddiannol fel un o’r llawysgrifau Cymraeg ganoloesol bwysicaf (a mwyaf) i oroesi.

Ond nid oedd y Llyfr Coch yr unig lawysgrif ganoloesol bwysig yn gysylltiedig â Hergest. Roedd hefyd yn gartref i gyfrol arall, ei gefnder daearyddol, Llyfr Gwyn Hergest. Yn debygol wedi ei ysgrifennu rywbryd rhwng c.1469 a c.1483, a chomisiynwyd gan Watcyn Fychan o Hergest Court, dinistriwyd y Llyfr Gwyn mewn tân rhwymwr llyfrau yn Llundain c.1810 a chollwyd ei gynnwys gwreiddiol. Ffodd bynnag, roedd yn ffodus bod nifer o gopïau o’i destunau wedi’u gwneud rhwng y 16eg a’r 19eg ganrif, yn galluogi’r gadwraeth o’i hanes a’i darddiad.

Peniarth49

NLW Peniarth MS 49, Barddoniaeth Dafydd ap Gwilym [16eg ganrif, ail ½ – 17eg ganrif, ½ cyntaf], yn cynnwys nodyn yn cyfeirio at drawsgrifiadau o Lyfr Gwyn Hergest (f. 49r)

Gan arolygu casgliadau o lawysgrifau yn LlGC yn gysylltiedig â rhai o ystadau hanesyddol mawr Gymru, gan gynnwys rhai Hengwrt, Wynnstay, Panton, a Llanstephan, gellid casglu a chymharu casgliad o drawsgrifiadau o’r Llyfr Gwyn. Arolygwyd cyfanswm o dri ar ddeg llawysgrif, yn dyddio o’r 1550au hwyr i’r 19eg ganrif gynnar. Yn gyfan gwbl, darganfuwyd cyfanswm o bedwar deg chwech o destunau hysbys mae’n debyg wedi’u gynnwys yn y Llyfr Gwyn yn y trawsgrifiadau a arolygwyd, yn cynnwys testun o gyfraith Hywel Dda, a Statud Rhuddlan; nifer fawr o destunau crefyddol (rhyw 48% o’r cyfanswm);  testunau ffawd a phroffwydoliaethau; achau ac arfau; sawl hanes, gan gynnwys hanesion Ifor Bach a Chastell Caerdydd; yn ogystal â swm sylweddol o farddoniaeth gan y beirdd Cymreig canoloesol Lewys Glyn Cothi a Dafydd ap Gwylim. Yn arbennig, o’r pedwar deg chwech o destunau wedi’i nodi mewn trawsgrifiadau’r Llyfr Gwyn, dim ond tri a gopïwyd yn Saesneg yn unig, yn cadarnhau mai’r Gymraeg oedd brif iaith y llawysgrif wreiddiol.

NLW Peniarth MS 225, Bucheddau’r Saint ([1594×1610]), sy’n cynnwys trawsgrifiad o Lyfr Gwyn Hergest, tud. 107-118

Mynegwyd pob testun wedi’i drawsgrifio yn fanwl yn seiliedig ar y llawysgrif, iaith, rhifau’r tudalennau, a theitlau (lle bo hynny’n bosibl). Gan fynegeio, gall adeiladu llun o’r maint a chynllyn gwreiddiol y llawysgrif goll. Roedd yr arolwg yn awgrymu bod y Llyfr Gwyn yn cynnwys mewn llefydd mwy nag un testun ar yr un ddeilen, felly mae’n bosib roedd y llyfr yn faint tebyg i’r Llyfr Coch. Gyda’i orchuddion lledr gwyn y cafodd ei enwi ar ei ôl, byddai wedi bod yn gyfrol fawr a thrawiadol.

Trwy astudio’r trawsgrifiadau sydd wedi goroesi, roedd hefyd yn bosibl i ddarganfod cliwiau am hanes y Llyfr Gwyn. Gwyddom y gallai fod (yn rhannol) yn waith Lewys Glyn Cothi, gan fod tri o’r trawsgrifiadau a arolygwyd yn ailadrodd nodyn mae’n debyg wedi’i fewnosod yn y llawysgrif wreiddiol gan Robert Vaughan, Hengwrt, yn ei adnabod fel gwaith Lewys. Mae gan y trawsgrifiadau o’r Llyfr Gwyn hefyd un testun yn gyffredin â’r Llyfr Coch – ‘Cymydau a chantrefi Cymru’, ac mae copïau o Gyfraith Hywel Dda a oedd hefyd yn ymddangos yn y Llyfr Gwyn wedi ei gopïo degawdau ynghynt gan ysgrifenyddion y Llyfr Coch, yn cynnwys Hywel Fychan. Daeth y Llyfr Coch i feddiant y teulu Vaughan yn Hergest ar ôl iddynt dderbyn llyfrgell fforffedwyd Hopcyn ap Rhys, ŵyr i Hopcyn ap Tomos, noddwr Hywel, yn dilyn ei gwrthryfel yn erbyn Edward IV yn 1465. Felly mae’n bosib dychmygu bod sawl un o destunau’r Llyfr Gwyn wedi’u copïo o lyfrgell Hopcyn.

Yn y diwedd, rhoddodd trawsgrifiadau’r Llyfr Gwyn fewnwelediad gwerthfawr mewn i’r cynhyrchiad o lawysgrifau a chopïo testunau yn ystod y cyfnod cythryblus Rhyfeloedd y Rhosynnau, ac yn dangos gwerth casgliadau archifol wrth sicrhau’r goroesiad o lawysgrif goll.

 

Lucie Hobson
Archifydd Cynorthwyol

 

*Mae’r blog yma yn seiliedig ar waith Lucie Hobson, ‘Recovering the White Book of Hergest: A Survey of Manuscripts in Estate Collections at the National Library of Wales’ (Traethawd Ymchwil MA, Prifysgol Aberystwyth, 2020).

Tagiau: ,

Le Roman de la Rose

Casgliadau - Postiwyd 15-11-2021

Ym 1922 prynodd y Llyfrgell dros 6,000 o lyfrau a 150 o lawysgrifau a gasglwyd gan Francis William Bourdillon (1852-1921), bardd, ysgolhaig a llyfryddwr o Midhurst yn Sussex. Mae’r casgliad yn cynnwys llawer o destunau Ffrangeg o’r Canol Oesoedd a llyfrau darluniadol cynnar. Un o uchafbwyntiau’r casgliad yw 23 argraffiad o’r gerdd Le Roman de la Rose wedi’u cyhoeddi cyn 1550.  Dechreuwyd y gerdd hon gan Guillaume de Lorris tua 1230 a’i chwblhau ryw hanner canrif yn ddiweddarach gan Jean de Meun. Cerdd alegorïaidd am gariad rhamantus yw hi.

Mae’r argraffiadau’n cynnwys ysgythriadau pren hardd. Yn un o gopïau’r Llyfrgell a argraffwyd ym 1531 maen nhw i gyd wedi’u lliwio â llaw.

Mae’r Llyfrgell yn dal yn ychwangu at y casgliad hwn, ac yn ddiweddar prynwyd argraffiad o Le Roman de la Rose nad oedd copi ohono gyda ni yn barod. Cyhoeddwyd yr argraffiad hwn ym Mharis ym 1538. Mae’r copi wedi’i rwymo mewn dwy gyfrol, ac mewn aur ar y cloriau mae arfbais Jeanne Antoinette Poisson, Marquise de Pompadour (1721-1764), aelod o Lys Ffrainc a meistres y Brenin Louis XV. Mae llawer o nodiadau llawysgrif yn y cyfrolau, efallai yn llaw Madame de Pompadour ei hunan, sy’n awgrymu bod hi wedi darllen y testun yn fanwl.

Timothy Cutts
Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Tagiau:

Charlotte Guest a diwylliant y Dwyrain

Casgliadau / Derbynion newydd / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd

Ychydig wythnosau nôl prynodd y Llyfrgell argraffiad cyntaf o “Ta’rikh al-rusul wa’l-maluk” gan Muhammad ibn-Jarir al-Tabari, un o lyfrau hanesyddol mwyaf nodedig y byd Arabaidd clasurol yn ôl yr Encyclopedia Iranica.  Y prif reswm dros brynu’r llyfr oedd bod tudalen gyflwyno i’r Arglwyddes Charlotte Guest oddi wrth yr “Oriental Translation Fund” wedi ei atodi ar dudalen flaen y llyfr.  Dengys hyn y parch a’r edmygedd oedd iddi yng nghylchoedd ysgolheictod ieithoedd y Dwyrain.

 

 

Priododd yr Arglwyddes Charlotte Guest â Josiah John Guest, aelod seneddol Merthyr Tydfil a Meistr Gwaith haearn Dowlais.  Roedd y gwaith haearn yn llewyrchus iawn a thyfodd mewn maint i gyflogi saith mil o bobl – y gwaith haearn mwyaf yn y byd.  Dangosodd yr Arglwyddes Charlotte ddiddordeb mawr yn y gwaith a’r modd roedd y busnes yn cael ei weinyddu o ddydd i ddydd. Cyhoeddodd bamffled yn egluro manylion technegol y defnydd o ffrwydrad poeth. Teithiodd gyda’i gŵr i bob cwr o Brydain ac Ewrop gyda’r busnes gan gyfrannu i gyfarfodydd gyda gwyddonwyr fel Charles Babbage. ‘Roedd ganddi ei hystafell ei hun yn swyddfa’r cwmni yn Llundain. Ar ôl dyddiau ei gŵr, hi fu’n gyfrifol am y gwaith.

Ar ôl dysgu Cymraeg Canol ac astudio hanes Cymru yn y Canol Oesoedd o dan y Parchedigion Evan Jenkin, Thomas Price (Carnhuanawc) a John Jones (“Tegid Jones”) daeth yr Arglwyddes Charlotte yn enwog am gopïo a chyfieithu unarddeg o lyfrau o Lyfr Coch Hergest. Roedd y rhain yn cynnwys pedair cainc y Mabinogi, tair chwedl ramantaidd o gyfnod y Brenin Arthur a phedair stori arall. Cyfieithodd waith y bardd Taliesin o lawysgrif Cymraeg Canol. Ysbrydolwyd hi wrth iddi astudio gweithiau’r cyfnod Rhamantaidd a gwaith William Owen Pughe. Wrth iddi ymchwilio, sylwodd ar ddylanwadau ac ar syniadau mytholegol oedd wedi eu gweu i storiâu’r Mabinogi.

‘Roedd Charlotte Guest yn wraig alluog a medrus.  Meistrolodd Arabeg, Hebraeg a Perseg heb gymorth athro i’w harwain.  Mae’r cyfnod yr ysgrifennir amdano yn “Ta’rik al-rusul wa’l-muluk” yn ymestyn o greu’r byd i gyfnod y Proffwyd Shu’ayb yn Y Corân. Mae’n ddigon posib iddi ddefnyddio delweddau o’r stori i ysbrydoli ei chyfieithiadau o’r Mabinogi a llyfrau eraill. Dyma un o’r gweithiau cyntaf i’w gyhoeddi gan “The Oriental Translation Fund”. Mae’r dudalen gyflwyno yn brawf sicr o’r edmygedd o waith yr Arglwyddes Charlotte Guest.

 

Llyfryddiaeth

1.     John, A., Parry-Wiliams, T. Guest (Schreiber), Lady Charlotte Elizabeth Bertrie (1812-1895), translator, businesswoman and collector. Ar gael ar https://biography.wales/article/s-GUES-ELI-1812#?c=0&m=0&s=0&cv=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4674585%2Fmanifest.json&xywh=2285%2C1762%2C2101%2C1695 (Edrychwyd 16 Hydref 2021)

2. Bromwich, R. The Mabinogion and Lady Charlotte Guest <https://journals.library.wales/view/1386666/1422443/128>, Trafodion Anrhydeddus Cymdeithas y Cymrodorion, 1986, 127-41

3. John, A. Schreiber [née Bertie; other married name Guest], Lady Charlotte Elizabeth. Ar gael ar  https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-24832?rskey=aApn10&result=2 (Edrychwyd 16 Hydref 2021)

 

Hywel Lloyd,

Llyfrgellydd Cynorthwyol.

Tachwedd 2021

Dadgoloneiddio Mapiau Cymru

Casgliadau / Collections - Postiwyd 04-11-2021

Cyfuno Wikidata ac OpenStreetMap i wella gwasanaethau mapio Cymraeg

Mae data agored fel cysyniad wedi datblygu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi’i yrru ymhellach gan yr angen am atebion cyflym, cydweithredol yn ystod y pandemig. Mewn sawl ffordd mae llwyfannau fel Wikidata ac OpenStreetMap (OSM), sydd wedi bod yn tyfu’n gyflym ers nifer o flynyddoedd bellach, yn arwain y chwyldro data agored hwn.

Set ddata mapio wedi’i chreu’n dorfol yw OSM, lle mae’r cyhoedd yn cydweithio i adeiladu map byd-eang mynediad agored cyfoethog, y gellir ei ailddefnyddio a’i addasu am ddim gan bawb.

Mae Wikidata yn set ddata agored cysylltiedig enfawr sy’n cynnwys data am bron popeth. Unwaith eto, gall unrhyw un gyfrannu ac ailddefnyddio am ddim, ond efallai’r gwahaniaeth mwyaf yma yw bod llawer o sefydliadau a chyfanredwyr data eraill hefyd yn cyfrannu.

Yn y ddwy set ddata hyn gellir rhoi enw pob endid mewn nifer o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg. A gellir ychwanegu amrywiadau ychwanegol ym mhob iaith hefyd.

Yng Nghymru mae gennym gymunedau bach o gyfranwyr gweithredol am y ddau brosiect, ac mae’r ddau yn derbyn cefnogaeth gan Uned Technoleg a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru. Am nifer o flynyddoedd mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cefnogi Wikidata yn uniongyrchol trwy benodi ‘Wicimediwr Cenedlaethol’.

Mae’r prosiect sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn bartneriaeth rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a thîm Mapio Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae cyfuno Wikidata ag OSM yn caniatáu inni adeiladu ar waith Mapio Cymru, sydd wedi bod yn datblygu map o Gymru gan ddefnyddio’r data Cymraeg a gedwir yng nghronfa ddata OSM. Trwy alinio a chyfuno hyn â Wikidata gall y map ddechrau tyfu ymhellach, gan gynnig mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ac mae hyn yn bwysig. Mae gan lawer o leoedd yng Nghymru, boed yn drefi, pentrefi, bryniau neu draethau, ddau enw, neu fwy weithiau. Mae’r enwau yn Gymraeg bron bob amser yn enwau lleoedd gwreiddiol, enwau hynafol sydd yn llawn hanes. Mae’r enwau hyn fel arfer yn ddisgrifiadol neu’n cyfeirio at seintiau, penaethiaid neu gaerau a gollwyd ers amser maith. Mae’r fersiynau Saesneg o enwau lleoedd weithiau’n fwtaniadau diystyr o’r rhai gwreiddiol Cymraeg neu enwau a orfodir gan oresgynwyr canoloesol neu ‘foderneiddwyr’ Fictoraidd. Hyd yn oed heddiw mae adeiladau hanesyddol yn cael ei ailenwi yn Saesneg gan eu perchnogion newydd ac mae enwau Cymraeg yn cael eu gollwng o wefannau a mapiau o blaid dewisiadau Saesneg y bernir eu bod yn ‘haws i’w ynganu’.

Nod y prosiect hwn yw dadgoloneiddio mapio yng Nghymru, nid trwy ddileu enwau lleoedd Saesneg o’r cofnod ond trwy gynnig yr opsiwn i ddefnyddwyr weld ac archwilio map modern o Gymru trwy gyfrwng Cymraeg yn unig – gwasanaeth nad oedd yn bodoli mewn gwirionedd tan y lansiad o Mapio Cymru.

Felly’r her gyntaf gyda’r prosiect hwn mewn gwirionedd yw annog cymunedau i gyfrannu eu henwau Cymraeg lleol i OSM neu Wikidata fel y gellir eu cynnwys ar y map, a gwneir hyn trwy gyfres o drafodaethau, gweithdai a digwyddiadau golygu.

Mae’r agwedd dechnegol o gyfuno Wikidata ag OSM yn dechrau gydag alinio’r ddwy set ddata. Mae OSM yn caniatáu ichi ychwanegu’r ID’s Wikidata cyfatebol ar gyfer lleoedd yn ei gronfa ddata, ac mae hyn yn gadael i ni wybod pa leoedd sydd ar goll o’r naill neu’r llall o’r setiau data, ac yn fwy penodol, y bylchau yn y data Cymraeg. Trwy edrych ar leoedd Cymraeg sydd eisoes wedi’u halinio â Wikidata roeddem yn gallu ychwanegu dros 5000 o enwau lleoedd Cymraeg ychwanegol at deils Mapio Cymru gan ddefnyddio labeli Cymraeg o Wikidata, a dylai’r nifer hwn barhau i godi wrth i fwy o leoedd yn OSM gael eu halinio â Wikidata a gyda mwy o enwau Gymraeg yn cael i ychwanegu.

Mae rhoi enwau Wikidata yn uniongyrchol ar deils map OSM yn un ffordd o ychwanegu gwerth at y map o Gymru, ac yn ffordd o uno dwy gymuned benodol at yr achos. Fodd bynnag, gallwn hefyd ddod â gwerth pellach trwy ychwanegu croen Wikidata ar ben y map OSM. Mae’r haen ychwanegol yn caniatáu inni roi pins (neu bwyntiau) ar y map ar gyfer nifer o wahanol fathau o ddata, megis hybiau trafnidiaeth, gwasanaethau meddygol, traethau ac adeiladau hanesyddol. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr hidlo mathau penodol o gynnwys, ac yn rhoi opsiwn iddynt weld llawer o leoedd nad oes ganddynt ddata OSM Cymraeg eto. Mae’r map profi cysyniad isod yn dangos sut y gallai hyn edrych;

Troslun Wikidata Cymraeg ar ben map OSM Mapio Cymru

Gan feddwl ymhellach ymlaen, gellid addasu’r math hwn o ryngwyneb yn hawdd fel llwyfan torfol, gan ganiatáu i’r gymuned gweld ac yna llenwi bylchau yn y data trwy gyfrannu at OSM neu Wikidata.

Yn y pen draw, gallai’r map hefyd ffurfio’r sylfaen ar gyfer llwyfan llywio lloeren Cymraeg.

Mae gwneud y cysylltiad â Wikidata hefyd yn arwain at botensial ychwanegol, gan ei fod yn dal llawer mwy o wybodaeth na chyfesurynnau ac enwau amlieithog yn unig, gan gynnwys delweddau a dolenni i erthyglau Wikipedia. Mae’r wefan profi cysyniad isod yn dangos ffordd arall y gallai Wikidata gyfuno ag OSM i gysylltu defnyddwyr ag erthyglau Wikipedia Cymraeg perthnasol.

Meddalwedd prawf sydd yn uno’r map OSM Cymraeg â chynnwys Wicipedia Cymraeg. Clod; JB Robertson.

Ar gyfer y prosiect hwn rydym hefyd wedi gweithio gyda Chomisiynydd yr Iaith i ychwanegu enwau lleoedd safonol i Wikidata, felly gellir arddangos y rhain hefyd ar y map prototeip. Mae cyfanswm o 10,000 o enwau lleoedd Cymreig wedi’u hychwanegu at Wikidata gan ddefnyddio Data Agored Llywodraeth Cymru a ffynonellau Data Agored eraill a bellach gellir gweld y cyfan ar y map prawf.

Gobeithiwn y gall gwaith parhau i ddatblygu’r map, ac mae diddordeb eisoes gan sefydliadau dwyieithog mewn defnyddio map OSM Cymru i wella eu gwasanaethau Cymraeg ar-lein.

Map yw hwn sy’n perthyn i bobl Cymru. Mae’n endid byw ac mae ei fodolaeth yn dyst i gryfder y Gymraeg a phenderfyniad y rhai sy’n gwirfoddoli eu hamser er mwyn sicrhau ei dyfodol. Mae’r map yn fwy na chofnod o enwau Cymraeg yn unig, mae’n sail ar gyfer gwasanaeth mapio Cymraeg modern, cyfoethog, y gall pawb ei ddatblygu a’i ddefnyddio.

Jason Evans
Rheolwr Data Agored

Canmlwyddiant geni Rhiannon Davies Jones

Casgliadau - Postiwyd 01-11-2021

Ar 4 Tachwedd 2021 cofiwn am eni ‘meistres y nofel hanes Gymraeg’ Rhiannon Davies Jones. Ym mis Mehefin 2017 derbyniodd y Llyfrgell bapurau Rhiannon Davies Jones ac aelodau o’i theulu  yn rhodd gan ddwy berthynas iddi. Fe’i ganwyd ar 4 Tachwedd 1921 yn Meirion House, Llanbedr, Sir Feirionydd, i’r Parchedig Hugh Davies Jones, gweinidog gyda’r Bedyddwyr, a Laura ei wraig oedd yn athrawes. Priodwyd ei rhieni yng Nghapel hanesyddol Salem yn Llanbedr a ganwyd dwy o ferched iddynt, Annie a Rhiannon. Bu’r teulu’n byw yng Nghroesoswallt tan 1924 gan symud i Feirionnydd yn dilyn marwolaeth eu tad.

Astudiodd Rhiannon Davies Jones ym Mhrifysgol Bangor gan raddio yn y Gymraeg yn 1944 a bu’n athrawes Gymraeg yn Llandudno a Rhuthun. Fe’i hapwyntiwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg Caerllion yn 1963 cyn dychwelyd i Fangor yn 1965 lle bu’n dysgu ac ysbrydoli llawer o fyfyrwyr drwy ei chwrs ysgrifennu creadigol yn y Coleg Normal.
Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1960 am Fy Hen Lyfr Cownt, nofel ar ffurf dyddiadur dychmygol am yr emynyddes Ann Griffiths, ac am Lleian Llan Llŷr  yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1964.

Rhiannon Davies Jones mewn cadair Eisteddfod

Rhiannon Davies Jones yn nefod y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1964.

Cyhoeddwyd tair nofel ar ffurf trioleg am Lywelyn ein Llyw Olaf sef Cribau Eryri (1987), Barrug y bore (1989) ac Adar drycin (1993).

Cyflwynwyd copi o draethawd MA Rhiannon Davies Jones ‘Dychan mewn llenyddiaeth Gymraeg’ (1975) gyda’r papurau a llyfrau ymwelwyr, 1947-2002, a gadwyd mewn dau gartref sef Glynor, Llanfair ger Harlech, a Gwernyfed, Porthaethwy. Cafwyd sawl ymweliad gan bobl adnabyddus fel Bob Owen, Croesor a Gwynfor Evans.

Llyfrau Rhiannon Davies Jones

Llyfrau Rhiannon Davies Jones

Bu farw Rhiannon Davies Jones yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi yn 92 oed ar 22 Hydref 2014 ar ôl salwch hir. Cafodd ei chladdu ym mynwent Capel Salem, Llansilin. Cofiwn felly am ei chyfraniad gwerthfawr i’n llenyddiaeth ac yng ngeiriau Eigra Lewis Roberts yn ei hysgrif goffa iddi yn Barn:

Prif lenor a lwyddodd yn ei nofelau hanesyddol tawel ond taer nid yn unig i gonsurio’r gorffennol ond i roi mynegiant i wewyr a gorfoledd merched.

Ann Francis Evans
Archifydd Cynorthwyol

Tagiau:

Dylan Thomas yn Adnoddau Electronig y Llyfrgelloedd

Casgliadau - Postiwyd 26-10-2021

Ganed un o Gymry enwocaf yr 20fed ganrif, Dylan Thomas, ar y diwrnod hwn ym 1914. Gan mai heddiw fyddai ei ben-blwydd yn 107 oed, penderfynais ymchwilio casgliad y Llyfrgell o adnoddau electronig i weld beth allwn i ddod o hyd am un o’n beirdd pwysicaf.

Lle gorau i ddechrau na’r cofnod cynhwysfawr hwn yn yr Oxford Dictionary of National Biography. Mae hyn yn rhoi cipolwg ar ei fagwraeth a’i addysg, ac yn trafod ei ddatblygiad fel bardd, ei lwybr at enwogrwydd a’i ymddygiad drwg-enwog a arweiniodd at ei farwolaeth yn llawer rhy ifanc yn 39 oed:
https://doi.org/10.1093/ref:odnb/36471

Heb os, roedd Thomas yn un o feibion enwocaf Abertawe, ac mae’r erthygl hon o’r World Literature Today yn JSTOR yn trafod nifer o leoliadau yn y ‘dref hyll, hyfryd’ hon sy’n gysylltiedig ag ef:
https://www.jstor.org/stable/10.7588/worllitetoda.90.3-4.0005

Mae’n debyg mai Under Milk Wood yw gwaith enwocaf Thomas ’, a gafodd ei ysgrifennu’n wreiddiol fel drama ar gyfer radio. Yn fuan ar ôl ei ddarllediad cyntaf ar Radio BBC, enillodd y Prix Italia am raglen lenyddol / ddramatig orau. Oherwydd ei lwyddiant ysgubol, cafodd ei addasu’n gyflym ar gyfer y llwyfan a’r sgrin. Mae’r erthygl hon o Critical Studies in Television (Sage Journals) yn dadansoddi’r trawsnewidiad i’r cyfryngau corfforol hyn, i drio darganfod os oeddent yr un mor llwyddiannus:
https://doi.org/10.7227/CST.9.3.8

Yn dilyn ymlaen o’r erthygl hon, ddes i o hyd i adolygiad positif iawn yn y Daily Mail o berfformiad cyflawn cyntaf o Under Milk Wood yn y Deyrnas Unedig, a gynhaliwyd yn yr Old Vic yn Llundain ym 1954. Yn yr adolygiad, sydd i’w weld yn Gale Primary Sources, dywed yr adolygydd iddo feddwl fod y ddrama fel yr oedd wedi ysgrifennu yn “unwieldy mass of adjectives”. Mae’n amlwg fod y cast, a oedd yn cynnwys ei gydwladwr Richard Burton a’r Fonesig Sybil Thorndike, wedi helpu i godi’r ddrama i lefel arall. “On the stage, the magic of these eight voices set the ears ablaze with his verbal fireworks.” ‘Gust of Wicked Welsh fun’ yn wir!!
https://link.gale.com/apps/doc/EE1864227004/DMHA?u=nlw_ttda&sid=bookmark-DMHA&xid=98dcf147

Pa ffordd well o ddod i ben na’ch gadael gyda’r casgliad hwn o ddyfyniadau a gymerwyd o Chambers Dictionary of Great Quotations, sydd ar gael trwy Credo Reference. Maent yn cynnwys dyfyniadau o weithiau amrywiol Thomas ’, yn ogystal â nifer o ddyfyniadau personol enwog:
https://search.credoreference.com/content/entry/chambq/thomas_dylan_marlais_1914_53/0

Paul Jackson
Llyfrgellydd Adnau Cyfreithiol, Electronig a Derbyn

Tagiau: ,

Archifau Ivor Novello

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth - Postiwyd 04-10-2021

Yn ddiweddar, derbyniodd y Llyfrgell bapurau W. Macqueen-Pope (Popie) sy’n ymwneud ag ‘Ivor: The Story of an Achievement‘, ei gofiant i Ivor Novello, a gyhoeddwyd gan W. H. Allen, 1951. Mae’r grŵp pwysig hwn o bapurau yn rhoi mewnwelediad i fywyd a phoblogrwydd Ivor Novello (1893- 1951), yr actor a’r cyfansoddwr o Gymru a ddaeth yn un o ddiddanwyr mwyaf poblogaidd hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Mae’r papurau’n cynnwys gohebiaeth rhwng Ivor Novello a Macqueen-Pope, ond yn bennaf maent yn cynnwys cofiannau ac atgofion, gan actorion, a rhai oedd yn gweithio o fewn y celfyddydau yn dilyn marwolaeth Ivor ym 1951. Gellir gweld tystiolaeth o boblogrwydd Novello ymhlith y llythyrau at Macqueen-Pope wrth rai sy’n mynegi diddordeb yng ‘Nghymrodoriaeth Ivor Novello’.

Mae’r papurau wedi cael eu catalogio ac ar gael ar-lein yma: W. Macqueen-Pope (Ivor Novello) Papers (GB 0210 MACPOP)

Ymhlith yr eitemau sy’n cael eu harddangos yn ein harddangosfa gyfredol (2021) mae gohebiaeth (W. Macqueen-Pope ffeil 1), papurau ariannol (ffeil 12/1) a rhaglen wedi’i llofnodi (ffeil 13); a ffotograff cyhoeddusrwydd wedi’i lofnodi (NLW Ex 2980). Mae’r papurau’n ategu eitemau eraill yn ymwneud ag Ivor Novello a’i fam, y gantores, athrawes ac arweinydd Clara Novello Davies (1861-1943) sydd yng nghasgliadau’r Llyfrgell.

Dyma restr o’r prif gasgliadau o ddeunydd sy’n ymwneud ag Ivor Novello yn y Llyfrgell, a ceir gwybodaeth bellach ar y catalog archifau yma: https://archives.library.wales/

  • NLW MS 23204D. Papurau

“Ivor Novello papers, 1932-1983. Papers relating to David Ivor Davies (Ivor Novello, 1893-1951), composer, actor and playwright, comprising an autograph extract from his play I Lived With You (London, 1932) (ff. 1-6); letters, 1979-1982, from associates of Ivor Novello, ….photographs of the Welsh National Opera’s production of ‘Dear Ivor’, 1983 (ff. 23-4); together with a copy of a memorial tribute to Ivor Novello and theatre programmes, 1933-45, of productions of his works.”

  • NLW MS 23696E. Llythyrau

“Ivor Novello letters, 1908-1955 (mostly 1938-1955) Seven letters and two telegrams, 1939-1950, from the composer, actor and playwright, Ivor Novello, to Dorothy and Evelyn Wright, containing mainly personal news (ff. 1-13); together with additional personal papers, 1908-1955, compiled by the Wrights, including twelve letters to them from Lloyd Williams, Novello’s secretary, [?1940]-[?1944] (ff. 5, 14-19 verso), actors Peter Graves, 1951-1955 (ff. 22-24 verso), Leslie Henson, 1942 (f. 25), and Barry Sinclair, 1943 (f. 26), and Neville Chamberlain, 1938 (ff. 20-21); also included are a memorial tribute to Ivor Novello, 1951 (ff. 27-28 verso), photographs of him and his associates, [1910s]-[1940s] (ff. 29-34), and press cuttings, 1939-1951 (ff. 39-46). The collection contains references to theatrical productions at Johannesburg, 1947 (f. 8), the Pavilion Theatre, Bournemouth, [1940] (f. 14), the Palace Theatre, Manchester, [?1941] (f. 15), and the Adelphi Theatre, London, 1943 (f. 18).”

  • NLW MS 20972C a NLW MS 20973E. Llythyrau at Ivor Novello oddi wrth Sir Edward Marsh, 1914-1946.
  • NLW MS 23971D. Llawysgrif gerddorol, [c. 1930], can sydd heb ei chyhoeddi a gyfansoddwyd gan Ivor Novello, ‘Willow Pattern Plate’.
  • NLW MS 24041D. Llyfr ymwelwyr i stiwdio Angus McBean, 1949-1968, yn cynnwys Ivor Novello (f. 11).
  • Papurau Dr Terence Rees P3/4. Ac P3/10 . Llyfr lloffion, toriadau i’r wasg, rhaglenni a chyfnodolion, 1925-1988, yn ymwneud â bywyd a gwaith Ivor Novello. Ysgrif goffa hefyd.
    Casgliad drama D. R. Davies (Aberdâr). Llyfrau lloffion, 3/1, 52, 27/2 a 4/3. Yn cynnwys erthyglau ar Ivor Novello a’i fam, Madame Clara Novello Davies.
  • Papurau Maxwell Fraser, H/24. (ac O/129) . Cyfrol o dorion papur newydd am Ivor Novello, 1944-70. A gwybodaeth am Ivor Novello.
  • Papurau Selwyn Jones 2. Gwybodaeth fywgraffyddol am gerddorion Cymreig yn cynnwys Ivor Novello
  • Archif Tŷ Cerdd, P/5. Papurau’r cerddor Selwyn Jones yn cynnwys llythyr oddi wrth Ivor Novello, 1950
  • NLW ex 2404. Papurau’n ymwneud a Ivor Novello, a’i angladd, 1951-2004.
  • NLW ex 2540. Papurau Madam Esther Cooper-Jones, 1911-2005, gan gynnwys tystysgrifau a rhaglenni cyngerdd, deunydd bywgraffyddol, llythyrau gan ei thiwtor Clara Novello Davies, a thoriadau papur newydd yn ymwneud â’i mab Ivor Novello.
  • Welsh National Opera Records, P1/29. And P2/47. Cynhyrchiad ‘Dear Ivor’, 1982-1983
  • Ffotografau amrwyiol ee: 29 ffotograff yn ymwneud a bywyd a gyrfa Ivor Novello. LLYFRAU FFOTO 1854 B ; Portread swreal o Ivor Novello gan Angus McBean. 1941 , LLYFRAU FFOTO 3433 D; a gweler hefyd LLYFRAU FFOTO 773 B , LLYFRAU FFOTO 1034 B , Portreadau B 51, a Portreadau AFF 38/1.
  • Portreadau. Mae’r portread o Ivor Novello gan Margaret Lindsay Williams 1888-1960 yn cael ei arddangos yn ein harddangosfa gyfredol Framed works of art collection MY20 ac hefyd mae darlun olew ar gynfas 1924 gan Emile Vere Smith Framed works collection CD01.

Nia Mai Daniel
Yr Archif Gerddorol Gymreig

Tagiau:

Un arall o’r Llyfrau Duon

Casgliadau / Digido - Postiwyd 20-09-2021

Ganrif union yn ôl, yn 1921, cyhoeddodd J. Gwenogvryn Evans ei ffacsimili du-a-gwyn o gynnwys Llyfr Du’r Waun (er mai 1909 sydd ar y wyneb ddalen!). Bellach, trwy haelioni un o noddwyr y Llyfrgell Genedlaethol, gellir gweld delweddau newydd sbon o’r llawysgrif ar ein gwefan.

Ar un adeg, credid mai’r llawysgrif hon – Peniarth 29 – oedd y gynharaf yn y Gymraeg. Erbyn heddiw, cydnabyddir ei bod ymysg y cynharaf, gan rannu pen-blwydd megis â Llyfr Du arall, sef yr un enwog o Gaerfyrddin. Ganed y ddwy yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg, un yn y Gogledd, a’r llall yn y De. Ond beth sydd ynddi?

Llawysgrif Gymraeg ydyw, wedi ei hysgrifennu ar femrwn, a hynny gan chwech o sgrifyddion, mewn dull digon rheolaidd a phroffesiynol, er bod lle i feddwl nad oeddent yn gyfarwydd iawn ag ysgrifennu Cymraeg.

Cynhwysa destunau cyfreithiol sy’n ymwneud â’r brenin a’i lys yn ôl ‘dull Gwynedd’ neu ‘ddull Iorwerth’, brenin o fewn cyd-destun Cymreig wrth gwrs, fel sy’n gweddu i lawysgrif o gyfnod cynnar tywysogaeth Llywelyn ap Gruffudd, ‘y llyw olaf’. Wedi amlinellu hawliau’r brenin a’i osgordd (Cyfraith y Llys – cofier am y delweddau hynny o lawysgrif Ladin gyfoes Peniarth 28), mae’r awduron yn nodi rhannau o’r gyfraith fyddai’n berthnasol i’r werin, a manylu ar werthoedd anifeiliaid ‘gwyllt a dof’ ac elfennau eraill. Ceir crynodeb, a thestun cyfleus a darllenadwy, ar wefan Cyfraith Hywel.

Ond mae yn y gyfrol ychwanegiadau diddorol y tu hwnt i’r testunau cyfreithiol: diarhebion, a marwnad Dafydd Benfras i’r tywysog Llywelyn ab Iorwerth o 1240, yr olaf yn atgof efallai o oes aur y gyfraith frodorol yn null Gwynedd.

Ond pam ei chyplysu â’r Waun, yn sir Ddinbych? Mae’r cynnwys yn awgrymu mai llawysgrif o Ogledd Cymru ydyw, ac erbyn 1615 roedd ym meddiant John Edwards o Blas Newydd, Y Waun, reciwsant a gollodd lawer o’i eiddo trwy atafaeliad cyn ei farw yn 1625. Yn ei gartref ef y copïwyd ei chynnwys gan Francis Tate i lawysgrif Llanstephan 68. Trwy John Jones o’r Gellilyfdy, yn ôl pob golwg, y daeth i feddiant Robert Vaughan o Hengwrt, a gwelir iddo yntau roi iddi’r teitl ‘Y llyfr du or Waun’ yn ei law gain ar yr hyn sy’n weddill o frig tudalen 114.

Mae’r cloriau gwreiddiol duon wedi hen ddiflannu, ond mae’r hyn sy’n weddill o’r dail rhwymo yn niwedd y gyfrol.

A ninnau eisoes wedi digido Llyfr Du Caerfyrddin (Peniarth 1) a Llyfr Du Basing (llawysgrif NLW 7006D), pa sawl llyfr du arall sydd ar ôl i’w digido tybed?

 

Maredudd ap Huw

Curadur Llawysgrifau

 

 

 

 

 

 

 

 

Diwedd gwrthryfel Glyn Dŵr

Casgliadau - Postiwyd 06-09-2021

Ym mis Medi 2000, agorodd y Llyfrgell arddangosfa i gofio 600 mlynedd ers i Owain Glyn Dŵr gael ei gyhoeddi yn dywysog Cymru a dechrau ei wrthryfel yn erbyn Harri IV a choron Lloegr. Erbyn hyn, yn 2021, mae 600 mlynedd wedi pasio ers gweithred olaf y gwrthryfel, pan dderbyniodd mab Owain, Maredudd, bardwn brenhinol gan Harri V ym 1421.

Ni wyddom lawer am fywyd Maredudd. Dywedir ei fod yn un o chwech mab Owain (Peniarth MS 59), yr ymladdodd bob un ohonynt yn y gwrthryfel (NLW MS 2021B [Panton MS 53]), a mae hi’n ymddangos y daeth Maredudd i’r blaen fel arweinydd y gwrthryfel o 1412 ymlaen. ‘Roedd cefnogaeth i’r gwrthryfel ar drai erbyn hynny, a’r llwyddiannau yn brin. Yn ystod y blynyddoedd dilynol, bu raid i Maredudd a’i dad fyw ar ffo mewn coedydd a gweundiroedd anghysbell, yn ôl y croniclydd Adda o Frynbuga, a’u rhagolygon yn llwm. Cipiwyd mam Maredudd, Margaret Hanmer, ei frawd Gruffudd a’i chwaer Catrin – gwraig a phlant Owain – gan luoedd y brenin, a’u cadw fel gwystlon am flynyddoedd nes iddynt gael eu gadael i lwgu hyd farwolaeth mewn carchar pan teimlwyd nad oeddynt o ddefnydd bellach. Ni wyddom ddim am y brodyr eraill, heblaw ei fod yn debyg i bob un ohonynt farw cyn marwolaeth Owain ei hun.

Cynigiwyd pardwn brenhinol i Owain ym 1415, ond ni dderbyniodd, a ‘doedd dim sôn amdano pan gynigiwyd pardwn i Maredudd eto ym 1416 a 1417. Ymddengys bod Owain wedi marw yn y cyfamser. Gwrthododd Maredudd y pardynau a gynigiwyd iddo, a fe barhaodd â’r gwrthryfel ym Meirionnydd ac Arfon, gan chwilio am gymorth yr Albanwyr a Lolardiaid ar ffo o Loegr yn ogystal â’r Cymry. Mae’n debyg mai rhyw gysylltiad â chynllwyniau’r Ffrancwyr yn erbyn Lloegr yng Nghyngor Constance oedd y tu ôl i’r adfywiad yma yn y gwrthryfel, ond ni parhaodd. Erbyn 1421, ymostwng oedd yr unig ddewis ar ôl i Maredudd. Cynigiwyd pardwn iddo ym mis Ebrill y flwyddyn honno, a fe’i dderbyniodd, mwy na thebyg oherwydd ‘roedd ei gefnogwyr wedi cael digon. Cymunedau, swyddogion a chlerigwyr lleol oedd sylfaen y gwrthryfel o’r cychwyn, yn ogystal â’r arglwyddi mawr a’r milwyr, a’r grwpiau hyn i gyd a wnaethai llawer o’r penderfyniadau mawr. Er mwyn lleddfu’r broses o gymodi, datganodd pardwn Maredudd nad oedd ef wedi dilyn malais ei dad ar ôl marwolaeth Owain, eithr ei fod wedi byw yn heddychlon ymysg deiliaid y brenin. Y gwir oedd bod y gwrthryfel wedi para dros 20 mlynedd.

Nid yw pardwn Maredudd yng nghasgliadau’r Llyfrgell – fe’i gedwir gyda Rholiau Patent y Goron yn Yr Archifdy Gwladol yn Llundain (C 66, 9 Hen. V) – ond mae sawl pardwn arall o’r gwrthryfel gennym, a mae’r rhain yn enghreifftio darnau o hanes gymhleth y cyfnod (Gogerddan Estate Records JAA1/7; Chirk Castle F 9877; Elwes Papers 68; Wynnstay (1945 deposit) GX3, GX4, GX5, GX6 a GX8; Bettisfield Estate Records 202; Penrice and Margam Estate Records 243). Ystyriaethau lleol yn hytrach na’r sefyllfa genedlaethol a arweiniai’r rhan fwyaf o benderfyniadau’r gwrthryfelwyr trwy’r cyfnod, a gwelodd sawl Cymro ei bod hi’n fanteisiol i ymostwng neu newid ochr pan newidiodd yr amgylchiadau. Weithiau byddai gwrthryfelwyr yn ymostwng ar adegau pan oedd Glyn Dŵr o fewn trwch blewyn o reoli Cymru gyfan, ynteu yn ystod y misoedd ar ôl iddo amlinellu ei weledigaeth dros Gymru annibynnol yn llythyr Pennal, tra y parhaodd eraill i wrthryfela hyd 1420. Nid yw eu cymhellion yn gwbl glir i ni bob amser, ond mae hyn yn newid yn raddol wrth i haneswyr chwilio’n ddyfnach i mewn i gymhlethdodau’r rhwydweithiau lleol o ran teyrngarwch, ymrysonau a buddiannau personol a chymunedol. Cafwyd ymgyrchoedd brenhinol mawr ym 1403, a diodefodd y gwrthryfelwyr golledion milwrol rheolaidd a sylweddol o 1405 ymlaen, ond fel arfer nid dyna oedd y stori cyfan pan ymostyngodd y Cymry. Yn aml, hunanles oedd y ffactor allweddol. Gwnaethpwyd yn glir i’r gwrthryfelwyr bob amser mai bradwriaeth oedd eu gwrthryfel, ond cafodd y rhan fwyaf ohonynt eu hadfer i’r statws a’r meddiannau yr oeddynt yn meddu arnynt cyn gwrthryfela. Yng Nghydweli ym 1413, aeth Henry Dwn gam ymhellach â hyn pan gymerodd fantais o’i adferiad fel swyddog brenhinol i ddirwyo ei denantiaid ei hun am fethu â’i gefnogi ef pan fuodd yn wrthryfelwr.

Erbyn 1413, ‘roedd Harri V yn awyddus i gynnig pardwn i bob un o’r gwrthryfelwyr yng Nghymru fel y gallai droi ei sylw at ei ryfel yn Ffrainc. Ymladdodd nifer fawr o gynwrthryfelwyr wrth ei ochr yn Agincourt, yn cynnwys Maredudd ab Owain arall, gŵr a fu yn ei dro yn siryf Ceredigion dros y brenin a cheidwad Aberystwyth dros Glyn Dŵr. Un dyn nad oedd yn eu plith oedd Maredudd ab Owain ap Gruffudd – mab Glyn Dŵr. Ni wyddom beth oedd ei hanes ef ar ôl iddo dderbyn pardwn ym 1421.

Arddeliad clir o awdurdod a nerth brenhinol oedd pardwn, ac o ganlyniad fe gafodd pob pardwn ei drin yn gwbl ddifrifol. ‘Roedd gweinyddiaeth y brenin yn dechrau cofnodi llawer o’i gweithgareddau yn llafariaith Saesneg erbyn dechrau’r bymthegfed ganrif, ond yn Lladin yr ysgrifennwyd pob un o’r pardynau yn ein casgliadau.

Mae gan y Llyfrgell gasgliad mawr o lyfrau poblogaidd ac academaidd am Owain a’i wrthryfel, a mae’r ychwanegiadau pwysig diweddar yn cynnwys Dyddiau olaf Owain Glyndŵr gan yr Athro Gruffydd Aled Williams (2015) a The rise and fall of Owain Glyn Dŵr: England, France and the Welsh Rebellion in the Lste Middle Ages gan Gideon Brough (2017). Mae yna lawer na wyddom am y gwrthryfel o hyd, ond mae llawer o’r atebion yn cuddio o bosib mewn llyfrgelloedd ac archifdai trwy Ewrop; mae hyn wrth gwrs yn cynnwys ein casgliadau ein hunain, ac yn arbennig ein llawysgrifau o farddoniaeth ganoloesol.

 

Dr David Moore (Archifydd)

Tagiau: , ,

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog