Blog - #CaruMapiau

Y ‘Panorama’: neu, Canllawiau Cyfarwyddiadol i Deithwyr drwy Gymru a Lloegr

#CaruMapiau / Casgliadau - Postiwyd 05-09-2022

Ydych chi’n colli’r gwyliau haf yn barod? Yna gadewch i ni fynd ar daith o amgylch Cymru gyda’r Traveller’s Instructive Guide through England and Wales* fel ein cydymaith ymddiriedol. Yn dyddio o tua 1820, ac yn mesur dim ond 13 x 9 cm, mae’r Guide yn bwriadu darparu’r holl wybodaeth y gallai teithiwr chwilfrydig ei hangen, gan gynnwys trefi a dyddiau marchnad, ffeiriau, aelodau seneddol lleol, banciau a bancwyr, seddi’r uchelwyr, y pellter o Lundain, a llwybrau a phrisiau coetsis post. Mae gwybodaeth am bob sir yn cael ei gwasgu mewn i un dudalen, gyda map lliw ar y dudalen gyferbyn. Mae’r rhagymadrodd yn addo bod yn ddefnyddiol i bob dosbarth o bersonau, o’r masnachwr i’r ffermwr; ond yn enwedig y teithiwr, oherwydd ei faint cludadwy.

 

 

Y dudalen deitl

 

Mae Sir Fynwy ar goll o’r llyfr sy’n cwmpasu Cymru, a restrir yn lle hynny gyda siroedd Lloegr, sydd heb eu cynnwys yn y gyfrol hon. Mae hyn yn gyffredin mewn canllawiau ac ar fapiau sy’n dyddio o’r 16eg i’r 20fed ganrif, ac yn deillio o amwysedd cyfreithiol hir sefydlog ynghylch a oedd Sir Fynwy yn rhan o Gymru, gyda gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth yn trin y sir yn wahanol. Eglurwyd y sefyllfa’n gyfreithiol yn Neddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Gan ddechrau ym Môn, byddwn yn siŵr o chwilio am y ‘nifer o olion’ temlau Derwyddol, heb anghofio’r ‘tref daclus a golygus’ Biwmares, a phicio draw i Niwbwrch am ‘raffau a matiau wedi’u gwneud o wymon’.

 

Drws nesaf mae Sir Gaernarfon ‘yn cynnwys y mynydd godidog hwnnw’r Wyddfa, gyda’i gopa…ar goll i olwg dynol yng nghanol cymylau’r nefoedd’. Mae Sir Gaernarfon yn ymddangos yn lle da ar gyfer byrbryd, gan fod y sir yn cynhyrchu cig eidion rhagorol ac ‘mae’r buchod yn rhyfeddol am gynhyrchu llawer iawn o laeth’. Er mwyn lleddfu ein traed poenus, byddwn yn stopio yng Nghaernarfon ar gyfer y ‘baddonau dŵr halen mân’. Yn ôl y Guide, dim ond un stryd milltir o hyd yw Bangor, felly awn ymlaen yn gyflym i Gonwy, ‘tref hynod ddymunol’, sy’n cynnwys eglwys gadeiriol Othig a chastell hynafol ‘mewn cyflwr cadwraeth ragorol’. Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon yw Syr Charles Paget. Olynodd ei frawd Edward yn yr un sedd, ac ni wnaeth erioed yr un cyfraniad i ddadl seneddol, er ei fod wedi gwasanaethu am 24 mlynedd!

 

 

Sir Gaernarfon

 

Wrth fynd tua’r dwyrain, mae’r Guide yn galw canol Sir Ddinbych yn ‘un o’r mannau mwyaf hyfryd yn Ewrop’ ac yn nodi bod ‘Dyffryn Clwyd wedi’i wneud yn gyfiawn yn thema moliant llenyddol’. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pacio llyfr nodiadau fel y gallwch nodi unrhyw linellau o farddoniaeth sy’n dod i’ch meddwl wrth edmygu golygfeydd Sir Ddinbych.

 

Ar ôl hyfrydwch Sir Ddinbych, nid yw’n edrych fel bod Sir y Fflint wedi gwneud argraff ar y Guide. Mae’n disgrifio Fflint fel ‘wedi’i adeiladu’n afreolaidd’ ac ‘er ei bod yn anfon un aelod i’r senedd, nid oes ganddi farchnad’, tra bod Llanelwy yn ‘lle di-nod iawn’.

 

Wrth fynd tua’r de i Sir Drefaldwyn, rydym yng nghartref ‘cnydau toreithiog o ŷd’ a phorfeydd yn llawn gwartheg duon a cheffylau. Os ydych yn y farchnad am dda byw, ewch i Lanfair ac (wedi sillafu’n rhyfedd iawn) ‘Llansdiloes’ i gael gwartheg. Neu orau oll, Y Trallwng ar gyfer ceffylau, gwartheg a moch.

 

 

Sir Drefaldwyn

 

Neidiwch yn ôl i’r gogledd-orllewin i Sir Feirionnydd i gael ‘gwedd ramantus pictiwrésg a hardd’ ac amrywiaeth eang o decstilau: gwlanen ardderchog o Ddolgellau, druggets (math o ffabrig bras a ddefnyddiwyd i amddiffyn carpedi mewn tai mawr) a ‘chlytiau gwlân bras’. Os hoffech chi ategolion, ewch draw i’r Bala, i gael menig a wigiau Cymreig.

 

Nawr, ymlaen i Sir Ceredigion, sy’n cael adolygiad cymysg: ‘mae’r awyr mewn rhai rhannau yn hyfryd o dawelwch, mewn rhannau eraill mae’n llwm ac yn tyllu’. Gwnewch yn siŵr eich bod yn stopio wrth ymyl Llambed, sy’n cynnal ffair ar y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Awst, a Llanbadarn Fawr ar gyfer ei ‘heglwys gain, wedi’i hadeiladu ar ffurf Groes Roegaidd’.

 

 

Sir Ceredigion

 

I’r dwyrain eto i Sir Faesyfed, lle mae’r awyr yn ‘ffafriol iawn i iechyd a hirhoedledd’, er gwaethaf y pridd ‘braidd difater’, a thref sirol Maesyfed yn cynnwys ‘dim byd sy’n haeddu sylw’.

 

 

Mae’n bosibl bod yr holl deithio hwn wedi treulio tyllau yn ein sanau, felly mae’n amser am daith i Sir Frycheiniog, sy’n enwog am gynhyrchu hosanau. Mae gan Lanfair-ym-Muallt yn arbennig ‘fasnach fawr mewn hosanau bras’. Mae’r testun a’r map yn anghytuno ar sillafiad cywir yr enw Saesneg, gyda’r testun yn cynnig ‘Burlth’, tra bod y map yn dangos ‘Bualt’. Nid yw’r naill na’r llall yn cynnwys ‘Wells’, a atodwyd dim ond yn y 19eg ganrif ar ôl darganfod ffynhonnau curiad calch yn y dref a dechrau cael eu marchnata i dwristiaid.

 

 

Sir Frycheiniog

 

Gan wyro’n ôl i’r gorllewin, cyrhaeddwn Sir Gaerfyrddin, ‘mewn lleoliad prydferthaf De Cymru’. Mae’n werth ymweld â Chaerfyrddin ei hun, oherwydd ei ‘phont gain’ dros afon Teifi a’i marchnad yn gwerthu gwartheg duon a cheffylau.

 

I’r gorllewin o Sir Gaerfyrddin i Sir Benfro, am rywfaint o awyr ‘salubrious’, er bod y pridd mewn rhai rhannau o’r sir yn ‘ddiffrwyth a di-haint’. Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw ymweliad â Sir Benfro yn gyflawn heb daith i Dyddewi, ‘dinas esgobol hynafol iawn’, gyda phoblogaeth amcangyfrifedig o ddim ond 200. Yn anffodus, nid yw Tyddewi yn cynnig marchnad na ffair. Felly bydd yn rhaid i’n siopa cofroddion aros nes i ni gyrraedd Sir Forgannwg.

 

 

Sir Benfro

 

Mae Abertawe’n ‘dref o fusnes masnachol gwych’ ac mae ‘gweithfaoedd helaeth o gopr, pres, &c.’, yn ogystal â harbwr gwych. Ar hyn o bryd, Llandaf ac Abertawe yw prif drefi Morgannwg, nid Caerdydd. Yng ngogledd y sir, mae’r awyr yn ‘llwm ac awyddus’, ond mae yna hefyd ‘gloddfeydd cyfoethog o blwm a glo’.

 

 

Sir Forgannwg

 

Os ydych chi eisiau anfon cerdyn post adref, rydych chi allan o lwc, gan na chynhyrchwyd y cardiau post llun cyntaf tan y 1870au, ond os ydych chi am eistedd lawr i ysgrifennu llythyr yn disgrifio eich antur (neu efallai i ddangos eich cerdd wedi’i hysbrydoli gan Sir Ddinbych), fe welwch restr ddefnyddiol o brisiau postio yng nghefn y gyfrol, ac mae pob map yn amlygu ffordd y goets fawr mewn coch llachar.

 

Ellie King

Cynorthwy-ydd Curadur Mapiau dan hyfforddiant

 

Llyfryddiaeth:

Y Guide yn y catalog

Mills, A. D. “Builth Wells.” yn A Dictionary of British Place Names : Oxford University Press, 2011

Sir Charles Paget. Hansard 1803-2005.

The Regency Household: protecting carpets. Jane Austen’s World [blog]

 

*Mae’r dyfyniadau o’r Guide yn y blog hon wedi cael eu cyfieithu o’r Saesneg gwreiddiol er mwyn cadw cysondeb testunol.

Catalogio mapiau trefedigaethol o Affrica

#CaruMapiau / Casgliadau - Postiwyd 10-05-2022

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rhwng cyfnodau clo, rwyf wedi bod yn gweithio fy ffordd trwy ôl-groniad o fapiau o Affrica heb eu catalogio neu wedi’u catalogio’n rhannol, gan eu didoli a’u hychwanegu at y gronfa ddata ar-lein fel y gall pawb gael mynediad atynt. Mae darllenwyr yn dweud wrthym yn aml nad oedden nhw’n gwybod bod gennym ni fapiau o’r tu allan i Gymru, felly rwy’n gobeithio y bydd y prosiect catalogio hwn a’m blogiau yn helpu mwy o ddarllenwyr i ddarganfod ehangder y deunydd sydd gennym.

 

 

Anglo Belgian Boundary Commission, 1925

 

 

Diagramau triongli ffin Tanganyika, 1928

 

 

Anglo-Belgian Boundary Commission, 1925 [llofnodion]

 

Daw’r rhan fwyaf o’r mapiau hyn o gyfnod gweinyddiaeth drefedigaethol Ewropeaidd gwledydd Affrica. Mae hyn yn rhannol yn deillio o ffynhonnell y mapiau yn y casgliad — daw’r mwyafrif i’r llyfrgell yn ystod yr 20fed ganrif drwy’r broses adnau cyfreithiol, sy’n berthnasol i ddeunydd a gyhoeddwyd yn y DU yn unig. Y cyhoeddwr mwyaf cynhyrchiol o fapiau tramor ym Mhrydain yn yr 20fed ganrif oedd Cyfarwyddiaeth Arolygon Trefedigaethol y llywodraeth. Fe’i sefydlwyd ym 1946 i ganoli cynhyrchu mapiau o’r ymerodraeth. Ym 1957, gyda symudiadau annibyniaeth ar draws yr ymerodraeth yn ennill momentwm, fe’i hailenwyd yn Gyfarwyddiaeth Arolygon Tramor. Cynhyrchodd adrannau eraill y llywodraeth, megis y Swyddfa Gwybodaeth Ganolog, fapiau ar gyfer cynulleidfa gyffredinol hefyd, tra bod y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) yn cynhyrchu ac yn casglu mapiau at ddibenion milwrol, rhai ohonynt wedi’u hychwanegu at gasgliadau’r llyfrgell wrth i’r Weinyddiaeth Amddiffyn leihau ei gasgliad mapiau papur o blaid dull mwy digidol. Fodd bynnag, mae goruchafiaeth safbwyntiau gweinyddol trefedigaethol yn y casgliad hefyd yn adlewyrchu pwysigrwydd mapio’r byd trefedigaethol — mae mapiau’n ‘profi’ pwy sy’n berchen ar dir.

Daw ein dau fap cyntaf o set a ddefnyddiwyd i ddiffinio a chyfreithloni’r ffin rhwng Tanganyika Prydeinig (Tanzania fodern) a Rwanda a Burundi’r Wlad Belg. Lluniwyd y mapiau yn y 1920au, gan rannu ysbail y Rhyfel Byd Cyntaf fel y penderfynwyd gan Gytundeb Versailles. Tan hynny roedd Tanganyika, Rwanda a Burundi wedi bod yn rhan o Ddwyrain Affrica’r Almaen, ond roeddynt i’w rhannu fel iawndal rhwng Prydain a Gwlad Belg.

Mae llofnodion seremonïol comisiynwyr Prydain a Gwlad Belg i’w gweld ar y map. Ni chyfeirir at bobl leol nac arweinwyr nad oedd angen eu llofnodion ar gyfer y rhan hon o’u tiriogaeth.

 

 

Wiedergutmachung von Unrecht?, 1918

 

Ein map nesaf yw her Almaeneg i Brif Weinidog Prydain, David Lloyd George, yn amlinellu ei nod o ‘iawndal am anghyfiawnder’ [Wiedergutmachung von Unrecht] drwy’r broses heddwch.

Roedd Lloyd George wedi mynnu bod yr Almaen a’i chynghreiriaid yn tynnu’n ôl o Wlad Belg, Serbia, Montenegro, yr Eidal, Rwmania, Alsace a Lorraine — mae’r map Almaeneg hwn yn dadlau bod ei ofynion yn rhagrithiol tra bod Prydain a’i chynghreiriaid yn dal trefedigaethau ledled y byd. Nid yw Dwyrain Affrica Almaeneg wedi’i gynnwys ar y map.

Er bod rhai ffiniau trefedigaethol wedi’u diffinio gan gyfeirio at nodweddion daearyddol, megis Llyn Tanganyika yn ein map cyntaf, mae cipolwg cyflym ar ffiniau cenedlaethol syth fel pren mesur yng ngogledd Affrica, er enghraifft, yn awgrymu bod ffiniau eraill wedi’u diffinio ar bapur, gan linellau a dynnwyd ar fapiau, yn hytrach na chyfeirio at y tir ei hun, neu ei bobl.

 

 

Voi, 1959

 

Mae’r map chwe dalen hwn o 1959 o dref Voi yn ne Kenya yn dangos hyn ar raddfa lai: mae ffin weinyddol y dref yn gylch perffaith, ac mae gwybodaeth y map yn aros yn sydyn ar ymyl y cylch.

Bwriadwyd y map o Voi at ddefnydd gweinyddol o fewn Kenya ei hun. Fodd bynnag, gwnaed llawer o fapiau yn y casgliad ar gyfer cynulleidfa yn y DU, i hysbysu pobl am yr ymerodraeth. O ganlyniad, mae rhai yn llawer mwy trawiadol yn weledol na’r mapiau graddfa fawr a ddefnyddir ar gyfer gweinyddiaeth drefedigaethol.

 

 

Gorllewin Affrica, 1948

 

 

Dwyrain Affrica, 1947

 

 

Gorllewin Affrica, 1948 [darluniad]

 

 

Gorllewin Affrica, 1948 [Mungo Park]

 

 

Dwyrain Affrica, 1947 [eglurhad]

 

Cynhyrchwyd ein dau fap nesaf ddiwedd y 1940au gan Swyddfa Gwybodaeth Ganolog llywodraeth Prydain ar gyfer cynulleidfa Brydeinig gyffredinol. Lluniwyd y ddau gan Leo Vernon, a fu hefyd yn darlunio mapiau o rannau eraill o’r ymerodraeth, yn ogystal â mapiau twristiaeth a hanesyddol o Brydain.

Eu bwriad yw cyfleu rhywbeth o ddiwylliant a hanes y lleoedd y maent yn eu darlunio trwy eu defnydd o liw a ffiniau darluniadol.

Ar fap Gorllewin Affrica, mae ffigurau niferus yn cael eu darlunio o amgylch ymyl y map. Yr unig un a enwir yw Mungo Park, fforiwr Albanaidd. Mae’r llu o Affricanwyr Du a ddarlunnir yn ddienw, a dim ond yr awgrym lleiaf o nodweddion wyneb sydd gan y mwyafrif, mewn cyferbyniad llwyr â delwedd fanwl Park.

 

Mae’r ddau fap hefyd yn dangos yr adnoddau cyfoethog a geir yn nhrefedigaethau Prydain, gan bwysleisio natur ecsbloetiol ac echdynnol llawer o wladychiaeth Brydeinig. Mae’r ffocws hwn ar allforio a photensial masnachol yn nodwedd gyffredin ar y mapiau yn y casgliad.

 

 

Africa: commercial development, 1922

 

 

Eglurhad o Africa: commercial development, 1922

 

Mae’r map nesaf yn dyddio o 1922, a’i nod yw dosbarthu ‘datblygiad masnachol’ cyfandir Affrica i gyd. Mae’r codau lliw taclus yn cyflwyno argraff o drylwyredd a chywirdeb gwyddonol, mewn cyferbyniad ag apêl ddarluniadol darluniau Leo Vernon.

Yn yr hierarchaeth hon o ddatblygiad, mae mwyngloddio, diwydiant ac amaethyddiaeth planhigfa (sy’n cael ei redeg gan ac ar gyfer ymsefydlwyr Ewropeaidd) ar y brig, tra bod tiroedd ‘gwyryf’, er eu bod yn cael eu defnyddio gan gymunedau lleol ar gyfer hela a chasglu ‘cyntefig’, yn cael eu dosbarthu fel rhai annatblygedig. Mae’n amlwg er budd pwy y mae ‘datblygiad masnachol’ wedi’i fwriadu. Does dim llawer o ddiddordeb hefyd mewn masnach fewnol o fewn gwledydd neu ranbarthau, dim ond mewn cysylltiadau allanol — y rhai a fu o fudd i wledydd ymerodraethol.

 

 

The continent of Africa, 1954

 

Mae nifer o fapiau yn y casgliad yn pwysleisio’r gwahaniaeth rhwng trefedigaethau, gwarchodaethau ac ymddiriedolwyr, gan gynnwys ein map nesaf, yn ogystal â’r map Gorllewin Affrica 1948 a drafodwyd uchod.

Er mai bwriad damcaniaethol oedd bod ymddiriedolwyr yn sicrhau bod datblygiad economaidd o fudd i bobl frodorol a buddiannau trefedigaethol, meddyliwyd amdanynt yn benderfynnol mewn ffordd dadol. Mae erthygl a gyhoeddwyd ym 1946 yn disgrifio ymddiriedolwyr:

“Trusteeship, both national and international, is a conception which is at the forefront of the human advance. It assumes a relatively stable human society in which nations, themselves mature, rational, and governed in their actions and policies by high conceptions of law and justice, undertake to assist less advanced peoples to climb the ladder of self-government…”

Mae’r mapiau hefyd yn aml yn cynnwys testunau byr sy’n canmol rhinweddau’r system drefedigaethol, yn manylu ar y budd yr oedd rheolaeth Brydeinig i fod i’w roi i Affricanwyr, a’r ‘cynnydd’ sydd i’w wneud cyn y gellid ‘ymddiried’ mewn hunanlywodraeth i Affricanwyr:

 

 

The continent of Africa, 1954 [testun]

 

 

Dwyrain Affrica, 1947 [testun]

 

Mae’r blog hwn dim ond wedi crafu wyneb y deunydd hynod ddiddorol yr wyf wedi’i gatalogio yn ystod y prosiect hwn, ac mae llawer mwy o waith i’w wneud eto, felly byddaf yn gwneud mwy o fostiau blog yn y dyfodol i’ch diweddaru gyda fy hoff ddarganfyddiadau o’r broses hon.

 

Eitemau yn ein casgliadau:

 

Anglo-Belgian boundary commission, 1925 (E11:3 (3))

[Tanganyika border triangulation diagrams], 1928 (E11:6 (13)) 

Wiedergutmachung von Unrecht?, 1918 (B1:4 (4)) 

Voi, 1959 (E10:20 Voi (1)) 

West Africa, 1948 (E1:6 (18))

East Africa, 1947 (E1:4 (23))

Africa: commercial development, 1922 (Oversize Map 164)

The continent of Africa, 1954 (E1 (128))

 

 

Llyfryddiaeth a darllen pellach:

 

The imperial map: cartography and the mastery of empire, golygwyd gan James R. Akerman. University of Chicago Press, 2009.

Mapping an empire: the geographical construction of British India, 1765-1843, Matthew H. Edney. University of Chicago Press, 1997.

The Napoleonic survey of Egypt: a masterpiece of cartographic compilation and early nineteenth-century fieldwork, Anne Godlewska. Cartographica Monograph no. 38-39. Cartographica 25 (1-2), 1988.

The iconography of landscape: essays on the symbolic representation, design, and use of past environments, golygwyd gan Denis Cosgrove and Stephen Daniels. Cambridge University Press, 1988.

The British Commonwealth and Trusteeship, cyhoeddwyd yn International Affairs, cyfrol 22.2, tudalennau 199-213, 1946.
Ar gael am ddim trwy JSTOR

 

Ellie King

Cynorthwy-ydd Curadur Mapiau dan Hyfforddiant

Datrys dirgelwch deugain mlwydd oed

#CaruMapiau / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 14-05-2019

Mae hon yn dipyn o stori dditectif. Yn 1979 derbyniodd y Llyfrgell lungopi o fap bychan o Sir Frycheiniog; ni wyddai’r perchennog ddim am y map a gofynnodd a fyddai modd i’r Llyfrgell ei adnabod. Er gwaethaf ymdrechion gorau staff y Llyfrgell, a chymorth curaduron mapiau’r Llyfrgell Brydeinig, ni fu modd adnabod yr eitem. Ychwanegwyd y llungopi at y casgliad mapiau, ynghyd â nodyn i ddweud y dylid hysbysu’r perchennog os llwyddid i adnabod y map yn y dyfodol.

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, yng ngwanwyn 2019, derbyniais neges oddi wrth werthwr mapiau o Sir Benfro o’r enw Berian Williams, a ddanfonodd sgan o fap bychan ataf yn gofyn i mi a fedrwn ei adnabod. Ar y dechrau, roeddwn mewn penbleth, gan nad oedd yn debyg i unrhyw fapiau sirol i mi eu gweld o’r blaen. Yn ôl Mr Williams, roedd y perchennog blaenorol wedi awgrymu y gallai fod wedi tarddu o “The Pocket Tourist & English Atlas” gan Orlando Hodgson a gyhoeddwyd yn 1820; ond nid oedd yr atlas hwnnw’n cynnwys unrhyw fapiau o siroedd Cymru, er bod yr arddull yn ymddangos yn debyg. Soniodd Mr Williams hefyd am erthygl sôn am becyn o gardiau chwarae gan John Allen oedd yn sail ar gyfer mapiau Hodgson, ond eto nid oedd yn cynnwys mapiau o siroedd Cymru.

Dyma pryd y deuthum ar draws y llungopi o 1979. Ar yr olwg gyntaf, ymddangosai mai’r un map ydoedd, ac yn wir wrth ei archwilio’n fanylach daeth yn glir mai yr un copi yn union ydoedd (roedd nifer o staeniau a marciau ar y ddelwedd electronig yn cyd-fynd â’r llungopi). Wedi i mi edrych drwy fy nghyfeirlnodau printiedig roeddwn yn dal mewn penbleth, felly ysgrifenais yn ôl at Mr Williams yn dweud hynny gan ychwanegu y gallai gymryd tipyn o amser i lwyddo i adnabod y map, os fyddai hynny’n bosibl o gwbl.

Yma y gallai’r stori fod wedi cyrraedd ei therfyn; ond dechreuais feddwl am y tebygrwydd i gardiau chwarae Allen, a oedd cysylltiad rhwng y map o Sir Frycheiniog â’r mapiau ym mhecyn cardiau Allen? Penderfynais edrych ar ffynonellau printiedig yn y maes i weld a wnaeth Allen gynhyrchu set arall o gardiau yn cynnwys siroedd Cymru, ond ni welais unrhyw gofnod o set o’r fath. Soniai’r erthygl am gardiau Allen hefyd am argraffiad gan Robert Rowe yr ysgythrwr felly penderfynais ymchwilio i’w waith yntau hefyd. Roedd un ffynhonnell yn nodi i Rowe ysgythru set arall o gardiau chwarae ar gyfer gŵr o’r enw John Fairburn yn 1798, tybed ai dyma darddle y cerdyn?

Penderfynais edrych am unrhyw gyfeirnodau arlein i’r set hon o gardiau gan nad oeddent wedi eu cofnodi yn unrhyw un o’r gweithiau cyfeiriol a welais. O’r diwedd, deuthum ar draws cyfeiriad at gardiau chwarae Fairburn 1798, yn nodi i’r set gynnwys siroedd Cymru ac yn bwysicach roedd modd gweld delweddau o rai o’r cardiau – roeddent yn cydweddu â’r map oedd ganddom. Roedd y dirgelwch wedi ei ddatrys o’r diwedd.

Ond mae tro yng nghynffon y stori dditectif hon. Ar ôl i mi hysbysu Mr Williams am fy narganfyddiad gofynais iddo a fyddai’n rhoi’r map ar werth, gyda’r bwriad o’i brynu ar gyfer ein casgliad. Er mawr syndod i mi, atebodd Mr Williams gan ddweud ei fod wedi penderfynnu rhoi’r map yn rhodd i’r Llyfrgell. Roedd hyn yn anrheg hael dros ben ac rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Williams am ei garedigrwydd. Mae’r map hwn nawr wedi ymuno â’r 1.5 miliwn o fapiau sydd yn y Casgliad Mapiau Cenedlaethol yn y Llyfrgell yn rhan o hanes diwylliannol cartograffig Cymru.

Huw Thomas
Curadur Mapiau

Humphrey Llwyd – lluniwr Prydain

#CaruMapiau / Arddangosfeydd / Casgliadau - Postiwyd 18-01-2019

Ar Ionawr 19 fe agorir arddangosfa ddiweddaraf y Llyfrgell: Lluniwr Prydain – Bywyd a Gwaith Humphrey Llwyd. Yr arddangosfa hon yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau i nodi 450 mlwyddiant marwolaeth Humphrey Llwyd, awdur y map cyhoeddiedig cyntaf o Gymru. Am bythefnos yn ystod mis Awst diwethaf, i gyd-fynd â dathliad y diwrnod ei hun, cynhaliwyd arddangosfa fechan, ond bydd yr arddangosfa fwy hon yn parhau am y chwe mis nesaf.

Mae Llwyd yn fwyaf adnabyddus am ei fap o Gymru, ond yn ogystal â bod yn arloeswr cartograffiaeth Cymreig fe’i ystyrir hefyd yn un o Dadau hanes Cymru o ganlyniad i’w waith Cronicla Walliae, y llyfr cyntaf am hanes Cymru i’w gyhoeddi yn yr iaith Saesneg, sydd yn seiliedig ar yr hen gronicl Cymreig Brut y Tywysogion.

Byddai hyn yn gyfraniad teilwng i unrhyw un ei adael yn etifeddiaeth i’w cenedl, ond yn ychwanegol at hyn bu Llwyd hefyd yn gyfrifol am gynorthwyo llywio Mesur Cyfiethu’r Beibl i’r Gymraeg drwy’r Senedd. Arweiniodd hyn at gyhoeddi’r Beibl yn Gymraeg, a fu’n ffactor allweddol yn llwyddiant yr iaith Gymraeg i oroesu hyd heddiw.

Mae dylanwad Llwyd yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau Cymru; defnyddiwyd ei waith i gyfiawnhau’r Ymerodraeth Brydeinig (term y dywedir iddo ei fathu) ac hefyd y Diwygiad Seisnig. Prynwyd rhan o’i lyfrgell helaeth gan y Goron, ac maent nawr yng nghasgliad y Llyfrgell Brydeinig.

Cynhelir yr arddangosfa newydd hon ar y cyd â Lluniwr Prydain; holl weithiau Humphrey Llwyd, prosiect a noddir gan AHRC.  Dros y misoedd nesaf, traddodir nifer o ddarlithoedd gan aelodau’r tîm prosiect, a Humphrey Llwyd hefyd fydd thema Carto-Cymru, Symposiwm Mapiau Cymru eleni.

Bydd yr arddangosfa hon yn parhau tan Mehefin 29, a ceir gwybodaeth bellach am ddigwyddiadau cysylltiedig ar wefan y Llyfrgell.

Huw Thomas
Curadur Mapiau

Dyfroedd Cymru, Dyfroedd y Byd

#CaruMapiau / Collections - Postiwyd 07-12-2018

Yn y Blog hwn, yr olaf ar y thema ‘Blwyddyn y Môr’, rydym yn bwrw golwg dros gasgliad y Llyfrgell o siartiau morol sy’n dyddio o 1800.

Prif bwrpas siartiau yw hwyluso mordwyo a dylent gynnwys gwybodaeth glir, gywir a chyfoes a fyddai’n helpu i gynllunio, amlinellu a chanfod cwrs diogel.  Mae siartiau hefyd yn rhoi gwybodaeth i ymchwilwyr am yr amgylchedd morol ac arfordirol, boed naturiol neu o wneuthuriad dyn, fel yr oedd yn y gorffennol ac fel y mae heddiw.

O ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, y Prydeinwyr oedd yn arwain y ffordd fel gwneuthurwyr siartiau.  Dros amser, o ganlyniad i ddatblygiadau technolegol cafodd gwell siartiau eu cynhyrchu a oedd yn datgelu diofalwch a chamgymeriadau cynharach. Mae’r siart a ddangosir yma er enghraifft, sef siart Sir Benfro 1812 yn nodi cywiriadau i arolwg blaenorol Lewis Morris tra bod siart 1857-1859 yn gofnod manwl ac astrus o’r môr a’r arfordir fel ei gilydd.

O dipyn i beth, disodlwyd mentrau preifat Prydeinig gan waith Swyddfa Hydrograffeg y Morlys, yr UKHO, a gafodd ei sefydlu yn 1795 i ateb gofynion y Llynges Frenhinol yn anad dim.  Mae’r UKHO yn dal yn un o sefydliadau hydrograffeg bwysicaf y byd a’i siartiau’n cael eu cyflenwi’n helaeth i lyngesau, llongau masnach a’r cyhoedd.

Mae mwy na 15,750 o siartiau electronig UKHO ar gael ar hyn o bryd er mai dim ond copïau o’u 3,500 argraffiad dalen y mae’r Llyfrgell yn eu derbyn trwy adnau cyfreithiol.  Mae 12,000 o siartiau modern y Llyfrgell yn cwmpasu lleoliadau ledled y byd ac fe’u derbynnir yn bennaf oddi wrth yr UKHO, ynghyd â’u rhifynnau cysylltiedig gan gynnwys Notices to Mariners a’r Llyfrau Peilot.

O blith y casgliadau atodol y mae siartiau Fflyd y Morlys a oedd ond ar gael yn wreiddiol i’r Llynges Frenhinol, a rhai cyhoeddiadau diweddar o Awstralia, Seland Newydd, Unol Daleithiau’r America, Canada, Yr Ariannin ac ynysoedd y Philippines.

Er yn llai niferus, ceir siartiau a luniwyd yn wreiddiol gan gyhoeddwyr masnachol Prydeinig ac mae eu siartiau hwy o ddyfroedd y famwlad a thramor yn anelu at y byd hamdden a physgotwyr. Gellir cael mynediad i’r casgliad trwy gatalog ar-lein y Llyfrgell a chatalog yr UKHO.

Mae casglwyr mapiau byth a hefyd yn datgan nad yw siartiau modern mor esthetig ddeniadol â’u rhagflaenwyr hynafol lle’r oedd angenfilod a môr-forynion yn ymddangos yn rheolaidd. Serch hynny, y siartiau cyfoes sy’n cynnwys yr wybodaeth fwyaf perthnasol, cywir a diamwys am yr amgylchedd morol.  Maent yn hollbwysig i  warchod bywydau ar y môr ac mae angen talu sylw iddynt wrth hwylio’r moroedd. Defnyddiwch yr wybodaeth hon, sy’n ffrwyth profiad, yn ddoeth a pheidiwch byth ag anghofio’r dyfyniad morwrol ‘Gall gwrthdrawiad ar y môr ddifetha eich diwrnod cyfan’.

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

Y Rhyfel Mawr mewn mapiau

#CaruMapiau / Collections - Postiwyd 16-11-2018

Wrth gofio Canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad, efallai ei fod yn amserol tynnu sylw at fapiau’r Llyfrgell sy’n gysylltiedig â brwydrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, trychineb lle collwyd 20 miliwn o fywydau, tua 40,000 ohonynt yn Gymry.

Mae atlasau a mapiau rhyfel niferus y Llyfrgell yn dangos blaen y gad, ffosydd a pharaffernalia milwrol eraill, effaith geowleidyddol y rhyfel o ran newid ffiniau gwleidyddol, cynlluniau ailddatblygu ar ôl y rhyfel a hyd yn oed gemau rhyfel yn seiliedig ar fapiau ar gyfer y milwyr. Mae’r mapiau o darddiad milwrol a sifil, cyhoeddwyd yr olaf i roi gwybodaeth i’r cyhoedd a rhoi hwb i forâl.

Mae tua dau gant o fapiau wedi’u digido fel rhan o raglen Canmlwyddiant y Rhyfel gan y Llyfrgell. Ymysg y ddwy enghraifft yma mae mapiau o Ymgyrch aflwyddiannus Gallipoli – oedd yn gysylltiedig â mapiau anghywir oedd yn cynnwys yn rheolaidd wybodaeth wedi dyddio a gasglwyd yn ystod Rhyfel y Crimea.

Mae casgliad Gallipoli yn cynnwys mapiau cyfoes Swyddfa’r Rhyfel fel y ddwy enghraifft sy’n dangos amddiffynfeydd Ottoman ar ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch a map diweddarach o safleoedd ANZAC, ynghyd â thaflenni a gyhoeddwyd yn fasnachol.

Parhaodd ymgyrch y Cynghreiriaid ar benrhyn Gallipoli yn Nhwrci, sy’n cael ei adnabod fel Ymgyrch Gallipoli neu Dardanelles, o Ebrill 1915 hyd at Ionawr 1916. Yma, ymunodd lluoedd Ymerodraeth Prydain â lluoedd Ffrainc yn erbyn Ymerodraeth Ottoman mewn ymgais aflwyddiannus i helpu Rwsia i dorri trwodd ar flaen y gad trwy agor llwybr i longau ar y Môr Du gan fod tywydd garw a chryn bellter yn rhwystro ac yn effeithio ar Rwsia.

Arweiniodd y methiant gan y llynges yng Nghulfor y Dardanelles ar ddechrau 1915 at ymosodiad mawr ar y tir ar 25 Ebrill gan luoedd Prydain a Ffrainc ynghyd â Chorfflu Byddin Awstralia a Seland Newydd neu luoedd ANZAC. Glaniwyd yn ddiweddarach ym Mae Suvla ar 6 Awst.

Yn sgil diffyg gwybodaeth y Cynghreiriaid, diffyg penderfyniadau ac oedi, ynghyd â brwydro chwyrn gan Ymerodraeth Ottoman, ni chafwyd llawer o lwyddiant na chynnydd a bu llawer o golledion. Yn Rhagfyr 1915 awdurdododd Prydain y milwyr i ddechrau gadael y wlad, a daeth y brwydro i ben yn ystod y mis Ionawr canlynol.

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

‘Pagoda pren ac asbestos’ Dylan a helynt Capten Killick

#CaruMapiau / Collections - Postiwyd 27-10-2018

Mae’r Llyfrgell yn ddiweddar wedi prynu dyluniad pensaernïol o fyngalo Dylan Thomas, Majoda yng Nghei Newydd, Ceredigion. Bu’r bardd yn byw yn Majoda o 1944 i 1945 lle cafodd ei ysbrydoli i greu a dechrau ysgrifennu Under Milk Wood. Yma hefyd y llwyddodd i hyrwyddo ei enw da ymhell ac agos – a pha well hwb i unrhyw gymuned ôl-ryfel, ddiflas o ddistaw, na’r preswylydd Dylan Thomas i sirioli pawb a phopeth?

Mae’r cynllun yn gysylltiedig ag anfadwaith a ddigwyddodd yn Majoda ar noson y 6ed o Fawrth 1945 pan ymddangosodd Capten William Killick, Comando Gweithredol Gweithrediadau Arbennig (SOE) oedd hefyd yn gymydog a chyn-gyd-lymeitiwr i Dylan, gyda gwn sten a grenâd llaw yn ei feddiant. Saethodd at y byngalo lle’r oedd Dylan a’i deulu yn bresennol ar y pryd gyda thri o’u ffrindiau. Doedd dim taniwr ynghlwm wrth y grenâd a chafodd neb anaf wrth lwc. Arweiniodd y cythrwfl at achos llys yn Llanbedr Pont Steffan ac ymddangosodd yr hanes ym mhrif bapurau newydd y dydd a chafodd ei bortreadu yn y ffilm rannol-fywgraffyddol The Edge of Love yn 2008.

Roedd Captain Killick, ac yntau newydd ddychwelyd o frwydro yng ngwlad Groeg, yn bwrw’i lid yn dilyn tensiynau rhyngddo ef a Dylan, megis y berthynas rhwng Dylan a gwraig y Capten, Vera a oedd yn ffrind bore oes Dylan ers eu magwraeth yn Abertawe.

Cafodd y cynllun ei gomisiynu oddi wrth bensaer o Aberystwyth, yn benodol ar gyfer yr achos llys. PC Islwyn Williams oedd y ‘Plismon Pentref’ a ymchwiliodd i’r digwyddiad ac mae’r nodiadau a wnaed ganddo ef mewn pensil i’w gweld ar gefn y cynllun hwn.  Mae’r nodiadau hyn yn disgrifio’r hyn a welodd ef yn y fan a’r lle – yn bennaf lleoliad tyllau’r bwledi.

Bu’r Capten Killick yn ffodus o gael ei ryddhau o bob cyhuddiad gan gynnwys ymgais i lofruddio. Yn y llys a’r gymuned leol yn ogystal dangoswyd rhywfaint o gydymdeimlad tuag at y milwr a oedd wedi goroesi sawl ymgyrch filwrol tra pheryglus y tu ôl i rengoedd y gelyn, ac yn wir cafodd ei ddisgrifio gan yr SOE fel un a chanddo ‘gofnod gweithredol ardderchog’.

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

Murdoch Mackenzie yr hynaf

#CaruMapiau / Collections - Postiwyd 08-10-2018

Dangosodd Murdoch Mackenzie (yr Hynaf) fwy o ymroddiad nag unrhyw un arall wrth gyfrannu at hydrograffeg ddamcaniaethol ac ymarferol Prydain. Yn enedigol o Orkney yn 1712, roedd gan y g?r hwn – a oedd yn ?yr i Esgob Orkney – dueddfryd mathemategol a thrwy hyn daeth i gysylltiad â’r mathemategydd, yr Athro Colin Maclaurin. Bu yntau’n llwyddiannus wrth gefnogi addasrwydd Mackenzie i ymgymryd ag arolwg hydrograffig yn Ynysoedd Orkney o 1742 ymlaen. Yma, roedd gan Mackenzie gysylltiadau gwerthfawr i’w helpu yn ei waith ac o ganlyniad cafwyd yr arolwg morol mwyaf manwl a chynhwysfawr oedd wedi’i gyflawni hyd yma yn Ynysoedd Prydain. Yn 1750 cyhoeddwyd ei fapiau mewn casgliad yn dwyn y teitl ‘Orcades, or a geographic and hydrographic survey of the Orkney and Lewis Islands’.

Gyda nawdd y Morlys, aeth Mackenzie ati wedyn i gychwyn ar brosiect llawer mwy aruchel. Cafodd ei gomisiynu yn 1751 i wneud arolwg o arfordir gorllewinol Prydain ac arfordir Iwerddon i gyd, gwaith a barodd ddwy flynedd ar hugain gan gyrraedd ei benllanw yn 1774 a 1776 pan gyhoeddwyd dwy gyfrol o fapiau.

Erbyn 1757 roedd Mackenzie wedi cwblhau arolwg o arfordir gorllewinol tir mawr ac ynysoedd Yr Alban. Dilynwyd hyn gan arolwg deng mlynedd yn Iwerddon cyn iddo ddychwelyd i lannau gorllewinol Prydain Fawr. Yn 1770 daeth y môr-fapio i ben yn Sir Benfro, gan hepgor Culfor Menai oherwydd ym marn Mackenzie doedd dim modd i longau mawr ei mordwyo.

Roedd dulliau dibynadwy Mackenzie o fôr-fapio yn dderbyniol gywir.  Roeddent hefyd yn gymharol gyflym, fel sy’n amlwg o anferthedd hyd yr arfordir a arolygwyd ganddo mewn ugain mlynedd.  Roedd y gamp hon yn hynod glodwiw hefyd o ystyried cyfyngiadau ei adnoddau ar gyfer mapio glannau a’i adnoddau ariannol.

Ar ymddeoliad Mackenzie yn 1770, dilynwyd ef fel Hydrograffydd Morwrol y Morlys gan ei nai, Lefftenant Murdoch Mackenzie (yr Ieuaf). Yn 1771, cychwynnodd Lefftenant Mackenzie lle’r oedd ei ewythr wedi gorffen gan wneud arolwg o Fôr Hafren.

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

Môr o newid ar gyfer hydrograffeg Lloegr

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections - Postiwyd 24-09-2018

Mae’r blog ‘Blwyddyn y Môr’ hwn yn amlygu datblygiad cychwynnol hydrograffeg Lloegr, gan ganolbwyntio ar waith Capten Collins, a fu’n mapio arfordir Cymru hefyd.

Ym 1657 mentrodd yr hydrograffydd a’r argraffydd Joseph Moxon i’r hyn a fu’n draddodiadol yn heldir Iseldiraidd, o gynhyrchu siartiau morol gydag A Book of Sea Plats.  Er hynny, roedd y siartiau yma o ddyfroedd Ewrop yn tarddu o’r Iseldiroedd.

Roedd John Seller yn dychmygu atlas yn cynnwys siartiau wedi’u mapio, llunio, ysgythru ac argraffu gartref. Penodwyd ef yn Hydrograffydd Brenhinol ac, yn rhyfeddol, fe lwyddodd i sicrhau gorchymyn deng mlynedd ar hugain, yn gwahardd mewnforio siartiau ‘Waggoner’ o’r Iseldiroedd (gweler ‘Spieghel’ Waghenaer, ein blog morwrol blaenorol). Ysywaeth, roedd uchelgeisiau Seller y tu hwnt i allu llyfrwerthwr a gwneuthurwr offerynnau unigol.  Yn ddiweddarach, ysgrifennodd Samuel Pepys nad oedd gan unigolion preifat y gallu i ymgymryd â’r fath fentrau enfawr, ac eto, o 1671 fe wnaeth The English Pilot o waith Seller, gyda’i ddiffygion  a hen blatiau argraffu o’r Iseldiroedd a adnewyddwyd yn rhannol, gymryd lle ‘Waggoners’ yn gynyddol yn Lloegr.

Ym 1680 dechreuodd Capten Greenvile Collins lobïo am fapio arfordir Prydain.  Cafodd Collins, capten profiadol gyda’r Llynges Frenhinol a hydrograffydd medrus, ei gomisiynu gan Frenin Siarl II ym 1676, i fapio dyfroedd cartref ac addawyd cymorth sylweddol i Collins.  Cychwynnodd Collins ar saith mlynedd o waith mapio ym 1681, ac ym 1693 cyhoeddwyd ei siartiau yn Great Britain’s Coasting Pilot.

Roedd y gwaith mapio’n galw am fesuriadau arfordirol manwl gywir a chyfesurynnau tra-chywir o’r pentiroedd.  Cafodd cynnydd ei blagio gan brinder arian a diddordeb cyrff cynhaliol yn lleihau.  Ni wireddwyd cynnig Collins i fapio’r Iwerddon yn ei chyfanrwydd.

Pilot Collins oedd y mapio systematig cyntaf a’r atlas morwrol cyntaf o ddyfroedd Prydain i gael ei ysgythru a’i argraffu yn Llundain, o waith mapio gwreiddiol, ac yr oedd yn cynnwys pedwar deg wyth o siartiau, ynghyd â chyfarwyddiadau hwylio, tablau llanw a phroffiliau arfordirol.  Er gwaethaf anghywirdebau a diffygion, roedd y gwaith yn ddatblygiad anferth i fordwyo Prydain, ac fe wnaeth ddilysu Collins fel un o hydrograffwyr mwyaf blaenllaw hanes.

Cyhoeddwyd y Pilot, wedi’i altro rhyw ychydig, rhwng 1693 a 1792, ac ar ddeuddeg achlysur arall fan lleiaf.  Yn anochel, erbyn 1792, ystyriwyd bod angen ei wella’n sylweddol.

Mae copi 1779 gan y Llyfrgell o’r atlas hwn, a nifer o siartiau unigol ac arnynt ddyddiadau amrywiol.  Mae ein siartiau darluniedig o arfordiroedd gorllewinol Cymru ac Aberdaugleddau yn dyddio nôl i 1693.

Gwilym Tawy,

Curadur Mapiau

‘Spieghel’ Waghenaer

#CaruMapiau / Collections - Postiwyd 27-08-2018

Yng Nghymru, mae 2018 wedi ei dynodi fel ‘Blwyddyn y Môr’ ac mae’r blog hwn, sef y trydydd eleni ar y thema forol, yn ymwneud â’r siart cynharaf o arfordir Cymru sydd yng Nghasgliad y Llyfrgell.  Mae’n dyddio o 1590 ac yn dangos Môr Hafren a grëwyd gan yr hydrograffydd a’r Iseldirwr Lucas Janszoon Waghenaer (1534-1606).  Roedd yr Is-almaenwyr yn hydrograffwyr a chartograffwyr Ewropeaidd blaenllaw, a thyfodd Leiden, Antwerp ac wedyn Amsterdam yn ganolfannau cynhyrchu siartiau yn ogystal â mapiau.

Swyddog morwyo oedd Waghenaer ac yn nes ymlaen daeth yn gasglwr tollau morol.  Profodd ei brofiadau ymarferol ar y môr a’i gysylltiadau â morwyr a swyddogion porthladdoedd yn fanteisiol wrth iddo lunio ei atlas morwrol neu arweiniad peilot i ddyfroedd arfordirol Ewrop. Roedd testun Waghenaer yn seiliedig ar gyhoeddiadau mordwyo traddodiadol yr unfed ganrif ar bymtheg ond roedd ei siartiau’n ychwanegu elfen arloesol gan wneud yr atlas morwrol hwn yr arweiniad peilot cyntaf yn y byd i’w gyhoeddi.

 

Roedd llwyddiant y Teerste Deel vande Spieghel der Zeevaerdt (Rhan Gyntaf y Sea Mirror) 1584 yn deillio o gasgliad siartiau arloesol Waghenaer, eu hengrafiadau cain a’r ffaith eu bod wedi’u rhwymo’n ymarferol mewn un gyfrol.  Mae’r siartiau’n dangos panoramas arfordirol ac yn darlunio proffiliau o glogwyni a thir yn edrych o gyfeiriad y môr, sy’n awgrymu bod y siartiau wedi’u darparu’n gyntaf ar y môr gan ddefnyddio croestoriadau cwmpawd i ‘leoli’ nodweddion arfordirol amlwg.

Serch hynny, yn aml iawn roedd safon cywirdeb y ffurfwedd arfordirol yn druenus gan fod tuedd i or-ddarlunio’r nodweddion arwyddocaol tra bod ardaloedd eang o dopograffi fel pe baent wedi’u lluniadu’n ddiofal o’r golwg.  Dadleuai rhai y gellid esgusodi’r afluniadau hyn gan fod siartiau o’r fath wedi’u bwriadu ar gyfer llywio ym  mynedfeydd y porthladdoedd pwysig ac nid ar gyfer mordwyo cyffredinol.  Yn hyn o beth, roedd Waghenaer ond yn cadw at yr hyn oedd yn hen draddodiad wrth lunio siartiau.

Bu llwyddiant y gyfrol gyntaf hon yn ysgogiad i Waghenaer gyhoeddi’r ail ran yn 1586 a oedd yn cynnwys testun Lladin.  Dilynwyd hwn gan gyfieithiadau eraill.  Pan ddangoswyd yr atlas i’r Frenhines Elizabeth a’i Chyfrin Gyngor, cymaint fu’r effaith fel y penderfynwyd cyfieithu argraffiad 1586 i’r Saesneg, tasg a bennwyd i Anthony Ashley (1551-1628), Clerc i’r Cyfrin Gyngor. Yn 1588 ymddangosodd The Mariner’s Mirrour am y tro cyntaf yn y Saesneg ac ar unwaith profodd hwn eto yn boblogaidd.  Daeth yr atlasau yn wybyddus i’r Prydeinwyr fel y ‘Waggoners’, enw generig ar gyfer atlasau a siartiau môr a oroesodd am hydoedd ar ôl i The Mariner’s Mirrour gael ei ddisodli gan siartiau newydd Iseldiraidd.  Ar ôl hynny, cyhoeddodd Waghenaer fersiynau mewn fformat llai a mwy ymarferol.

 

 

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog