Blog - #CaruCelf

Gweithiau eiconig gan artist lleol yn rhodd i’r Llyfrgell Genedlethol

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Casgliadau - Postiwyd 26-07-2021

Rydym yn hynod falch yn y Llyfrgell Genedlaethol o fod wedi derbyn rhodd hael i’n casgliadau o dri gwaith eiconig gan yr artist blaenllaw Mary Lloyd Jones o Aberystwyth. Adwaenir yr artist am ei thirluniau deinamig, lliwgar, mynegiadol ac haniaethol yn seiliedig ar dirlun a diwylliant Cymru. Ganed yr artist ym Mhontarfynach yn 1934 a hyfforddodd yng Ngholeg Celf Caerdydd yn yr 1950au, cyn dychwelyd i Geredigion i fyw. Dyma’r ardal sydd wedi cael cryn ddylanwad ar ei gwaith fel y gwelir yn y tirlun pwerus ‘Ponterwyd/Gaia’ a oedd yn rhan o’r rhodd hael diweddar i’r Llyfrgell. Nododd yr artist

‘Y byd naturiol yw testun fy ngwaith, cymylau, cysgodion creigiau, creithiau, patrymau caeau ac anialwch corsydd mawnoglyd’.

Trwy gydol yr haf, rydym yn hynod falch o ddatgan y bydd modd gweld y gwaith yma’n cael ei arddangos yn Oriel Gregynog y Llyfrgell Genedlaethol.

Crëwyd y gweithiau olew tri darn trawiadol ‘Barclodiad y Gawres’ a ‘Bryn Celli Ddu’, a oedd hefyd yn rhan o’r rhodd, ar gyfer arddangosfa yn oriel eiconig Gregynog y Llyfrgell Genedlaethol yn 2006, ac felly mae’n hynod addas bod y gweithiau yma bellach yn cael eu cartrefu yn y Llyfrgell. Yn y gweithiau hyn mae’r artist yn mynegi ei theimladau am berthyn i ddiwylliant ac iaith leiafrifol.

Mae’r gweithiau tri darn yn seiliedig ar y patrymau cerfiedig a grëwyd gan y Brythoniaid ar gerrig cynhanesyddol ‘Barclodiad y Gawres’ a ‘Bryn Celli Ddu’ ar Ynys Môn, ac felly lle gwelir gwreiddiau’r iaith Gymraeg. Bu’r artist yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol yn aml wrth baratoi ar gyfer y gweithiau, gan ymchwilio i waith yr ysgolhaig Syr John Rhys a gasglodd enghreifftiau o gerfiadau Ogham ar garreg, yn ogystal â phapurau Iolo Morgannwg, lle gwelodd ‘Goelbren y Beirdd’ am y tro gyntaf. Teimlodd yr artist felly y byddai’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref hynod addas ar eu cyfer.

Nododd yr artist:

‘Yn y ddau ddarn yma rwyf yn gwneud i liwiau wrthdaro i greu awyrgylch arbennig sy’n cyfleu cyffro hudol y cerfiadau rhyfeddol hyn, a’u perthynas efo’r modd o fyw 4,000 mlynedd yn ôl. Trwy hyn rwyf yn ceisio cyffwrdd â hanes a dirgelwch sy’n perthyn i oes a fu. Mae yna barch uchel yn bodoli at lenyddiaeth Gymreig hynafol, ac mae beirdd yn aml yn cyfleu’r hyn yr hoffwn i ddweud yn fy nghyfansoddiadau. Mae creu pont rhwng y traddodiad barddonol a chelf weledol yn rhan o’r hyn rwyf yn ceisio ei gyflawni’.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Mary Lloyd Jones am ei chefnogaeth frwd i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n fraint medru adeiladu ar y casgliad o weithiau’r artist sydd eisoes gennym o fewn y Llyfrgell gyda’r rhodd hynod hael yma o weithiau.

Morfudd Bevan
Curadur Celf

 

Tagiau:

Casglu Cyfoes: Celf o’r Casgliad Cenedlaethol

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Collections / Stori Cymru - Postiwyd 12-04-2019

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i gasgliad pwysig o gelf gyfoes Gymreig. O fewn yr arddangosfa ‘Casglu Cyfoes’ (6.4.19 – 21.3.20) sydd newydd agor yma yn y Llyfrgell ceir esiamplau o weithiau sydd wedi dod yn rhan o’n casgliadau yn ddiweddar, o dorlun leino deinamig Paul Peter Piech i waith ciwbaidd Charles Byrd.

Rhodd bwysig a ddaeth i feddiant y Llyfrgell yn ddiweddar oedd y Casgliad Roese. sef casgliad gwerthfawr a chynhwysfawr o gelf gyfoes Gymreig. Dyma yw un o’r casgliadau celf gyfoes bwysicaf i ddod yn rhan o gasgliadau’r Llyfrgell, a gwelir eitemau o’r casgliad yn yr arddangosfa hon, gan gynnwys gweithiau gan Charles Byrd, Ernest Zobole, Ceri Richards, Mary Lloyd Jones, Ivor Davies, Glenys Cour, ac Iwan Bala.

Eleni buom hefyd yn ffodus i dderbyn naw darn o waith eiconig yr artist pop Ken Elias o Lyn Nedd i fewn i’n casgliadau.

Mae’r Llyfrgell yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn casglu gweithiau artistiaid sydd yn denu sylw cynyddol yn y maes ar hyn o bryd, fel Seren Morgan Jones sy’n gweithio yn Llundain a Teresa Jenellen ym Machynlleth. Mae’r thema o ferched yn ganolog i’w gwaith. Artist lleol arall y mae ei gwaith i’w gweld o fewn yr arddangosfa ydy Valériane Le Blond ac mae ei paentiadau llawn dychymyg yn llwyddo i bortreadu cefn gwlad Cymru sydd yn gyfarwydd i ni gyd, tra bod tirluniau mynegiadol Sarah Carvell, ac haniaethol Lisa Eurgain Taylor ac Elfyn Lewis yn dangos ysbrydoliaeth ddiderfyn y tirlun Cymreig.

Mae ein casgliad yn tyfu gyda phryniadau cyson a rhoddion oddi wrth gymwynaswyr hael.

Morfudd Bevan,

Curadur Celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Môrluniau Kyffin Williams

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Collections - Postiwyd 13-07-2018

Mae morluniau llawn emosiwn Kyffin Williams sydd i’w gweld yn arddangosfa canmlwyddiant yr artist yma yn y Llyfrgell Genedlaethol yn sefyll ar wahân i’w weithiau mwy adnabyddus, ac fe ddylsent gael eu dathlu yn eu rhinwedd eu hun. Mae arddull hynod fynegiadol y gweithiau unlliw hyn yn llwyddo i gyfleu symudiad a thrais moroedd stormus mewn modd hynod effeithiol, gan adlewyrchu brwydr mewnol guddiedig yr artist.

Gellir olrhain cysylltiad Kyffin gyda Bae Trearddur a leolir ar arfordir gorllewinol Ynys Cybi oddi ar arfordir Ynys Môn, lle seiliwyd nifer o’i forluniau, yn ôl i’w blentyndod. Yn blentyn ifanc 6 mlwydd oed a fyddai’n troi’n 7 yr wythnos ganlynol cafodd ei anfon i ffwrdd i Ysgol Breswyl Bae Trearddur ym mis Mai 1925. Nododd yn ei hunangofiant ‘Across the Straits’: ‘It did not take me long to fall under the spell of the island’s mood. The storms, the sea mists, the wrecks, the wailing sirens, and in summer the peculiar haze that hung over the island, all made Trearddur Bay a very special place’.

Yn y llyfr ‘The Sea and the Land’ a gyhoeddwyd yn 1998, nododd yr artist y canlynol am y dechneg impasto mynegiadol a ddefnyddiai mewn gweithiau fel ‘Môr Garw’: ‘These great storms have always excited me and I seem to be stimulated by the noise and energy of the waves – to such an extent that, when I transfer my frenzied scribbles onto canvas, my own energy attacks the canvas… These paintings are not easy to control for often they try to take over and I lose my tones in a confusion of white wave and spray… My personal chemistry demands the excitement of a storm at sea.’

Fel y dywedodd yr awduron Rian Evans a Nicolas Sinclair yn eu llyfr, ‘The Light and the Dark’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar, roedd yr artist a ddioddefodd o epilepsi ac iselder gydol ei oes yn cydnabod ei fod yn mynegi ei deimladau mwyaf cythryblus drwy ei forluniau. Mewn cyfweliad yn 2000, nododd yr artist y teimlai y gallai esbonio ei angen i osod lliwiau gwrthgyferbyniol cryf ger ei gilydd ar y gynfas, fel y gwelir yn y morluniau yma, o achos ei frwydr gydag epilepsi: ‘It might be part of the epilepsy, the excitement – the epileptic shock of dark against light it’s very exciting you see. Van Gogh was an epileptic and he had the same love of contrast’. Wedi ei ddylanwadu gan artistiaid eraill nodedig a ddefnyddiai’r gyllell palet i daenu’r paent, fel Gustave Courbet a Van Gogh, roedd Evans a Sinclair hefyd yn gweld tebygrwydd yma rhwng morluniau Kyffin a’r gwaith ‘The Wave’ gan Hokusai a morluniau dramatig August Strindberg. Byddai’r artist yn dychwelyd i baentio’r pwnc gydol ei oes.

 

Morfudd Bevan – Curadur Celf

Kyffin 100: Dathlu’r canmlwyddiant gyda’r genhedlaeth nesaf

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Collections - Postiwyd 08-06-2018

Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni Kyffin Williams, mae Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell wedi bod yn cyflwyno nifer o weithgareddau ar gyfer ysgolion, colegau a theuluoedd yn seiliedig ar un o arlunwyr mwyaf nodedig a phoblogaidd Cymru.

Gydol y flwyddyn bydd gweithdai am ddim yn cael eu darparu ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd i gydfynd â phrif arddangosfa’r Llyfrgell Kyffin Williams: Tu ôl i’r Ffrâm, ac y mae llyfryn dwyieithog sy’n bwrw golwg ar fywyd a gwaith Kyffin yn cael ei ddosbarthu yn rhad ac am ddim i bawb sy’n cymryd rhan yn y gweithdai.

Yn barod eleni bu ysgolion o bob rhan o Gymru yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol i ddysgu mwy am yr arlunydd o Ynys Môn, fel disgyblion Ysgol Trimsaran ac Ysgol Mynydd y Garreg, Sir Gaerfyrddin. Wedi iddynt gymryd rhan yn y Diwrnod Meddiannu ym mis Ionawr, bu iddynt ddychwelyd eto ym mis Mai i fwynhau arddangosfa Kyffin a’r gweithdy.

Ym mis Ebrill cludwyd detholiad o baentiadau a darluniau gwreiddiol gan Kyffin Williams o storfeydd y Llyfrgell i Benygroes, Gwynedd fel rhan o brosiect Campweithiau Mewn Ysgol. Cyflwynwyd gweithdai ar arddull a thechnegau Kyffin gan ddau arlunydd blaenllaw o Gymru i ddisgyblion dwy ysgol; bu Catrin Williams yn astudio rhai o dirluniau Kyffin gyda phlant Blwyddyn 4 Ysgol Bro Lleu, tra bod Eleri Jones yn arwain sesiwn ar bortreadau Kyffin i fyfyrwyr Blwyddyn 12 Ysgol Dyffryn Nantlle, i’w cynorthwyo gyda’u gwaith cwrs Lefel A.

Kyffin Williams oedd thema stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd hefyd. Gydol yr wythnos bu arddangosfa fach am ei waith a’i yrfa yn gefndir i weithgareddau celf lle rhoddwyd cyfle i ymwelwyr ieuanc efelychu’r arlunydd drwy atgynhyrchu rhannau o un o’i dirluniau mewn paent acrylic ar gynfas. Yn ystod gweithdy ar y dydd Mawrth, dan arweiniad yr artist Catrin Williams, dangoswyd i’r plant sut mae creu darluniau pastel yn null Kyffin Williams. Bydd rhai o’r gweithiau a gynhyrchwyd yn ystod y sesiynau yma yn cael eu harddangos yn Ystafell Addysg y Llyfrgell tan fis Medi.

Bydd Kyffin Williams: Tu ôl i’r Ffrâm yn rhedeg tan y 1af o Fedi yn Oriel Gregynog y Llyfrgell, ac mae’r arddangosfa yn cynnwys tasgau ar gyfer teuluoedd sy’n ymweld – rhowch gynnig ar ‘Cwis Kyffin’ a crëwch eich campwaith eich hun.

Am wybodaeth bellach yngl?n â’r gweithdai am ddim, mae croeso i chi gysylltu gyda’r Gwasanaeth Addysg ar:
01970 632988
01970 632431
addysg@llgc.org.uk

Kyffin Williams 100: Wyneb Esmwyth Merch

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Collections - Postiwyd 08-03-2018

Tra ar ei anterth, fe gomisiynwyd Kyffin i beintio cyfres o bortreadau, er iddo gyfaddef bod llawer gwell ganddo greu portreadau o dan ei bwysau ei hun.

Mae ein sioe ddiweddaraf Kyffin Williams: Tu ôl i’r Ffrâm yn dangos amrywiaeth o bortreadau wedi eu dethol o gasgliad Kyffin – yn lluniau cynnar o’i gyfnod fel myfyriwr, i gomisiynau’r arlunydd sefydledig – ond y portreadau mwyaf diddorol yw’r rhai wedi eu creu er ei foddhad ef ei hun.

Ymhlith y portreadau i’w gweld mae nifer o ferched. Dywedodd Kyffin nad oedd peintio merched wedi dod yn hawdd iddo, ac y bu iddo gymryd tua ugain mlynedd nes bod yn hapus i beintio wyneb esmwyth merch:

“The reason for this was my use of the palette knife for, painting in broad rough areas of paint, it was difficult to achieve the delicacy necessary”.

Wrth deithio yn y Wladfa yn 1968/69 bu Norma Lopez o Drevelin yn dipyn o ffefryn ganddo. Disgrifiodd Norma fel merch gynhyrfus oedd yn gwenu drwy ei llygaid mawr brown. Tua wyth oed oedd hi ac roedd wrth ei bodd yn pryfocio’r arlunydd, a phan nad oedd yn chwarae gyda’i brawd Paulino, roedd yn hapus iawn i fodelu i Kyffin. Fe greodd Kyffin sawl portread ohoni, ond ni fu’n llwyddiannus wrth ei pheintio mewn olew gan na fyddai’r cyfrwng wedi gweddu i’w chymeriad hwyliog.

Roedd Kyffin wrth ei fodd â phobl, yn arbennig brodorion ei ynys; y bobl bu’n gwylio yn fachgen ifanc wrth ymweld â phlwyfolion gyda’i dad y clerigwr. Efallai mai dyna pam yr oedd yn troi at ddarlunio’r bobl o’i gwmpas, fel y braslun ‘Dynes â Chadach’ sydd yn ein casgliad (darlun gorffenedig ‘Mrs Hughes’ mewn casgliad preifat, a ‘Mrs Rowlands’ yng nghasgliad Cyngor Sir Fôn). Portread cyfansawdd ydyw, o amryw o fenywod yr oedd Kyffin yn eu hadnabod ar yr ynys, rhai a arferai fynd o gwmpas eu gwaith glanhau yn amyneddgar a hawddgar.

Mae lluniau Kyffin yn llawn emosiwn, ac wrth weithio ar bortread byddai’n hapus iawn i ddal tebygrwydd yr eisteddwr, ond yr oedd teimlad y llun yr un mor bwysig iddo; roedd yn well ganddo ddal prudd-der yn hytrach na gwen. Mae ‘Miss Parry’ yn bortread sydd yn cyfleu henaint a’r hyn dybia Kyffin oedd teimladau a meddyliau’r to h?n oedd “wedi blino ac yn barod i orffwys”.

Mae cyfle i fwynhau’r portreadau yma ar waliau Oriel Gregynog tan 1 Medi 2018, felly dewch am dro i gyfarfod y lleian anhysbys, Michelle, Norma Lopez, Miss Parry ac eraill.

 

Lona Mason – Pennaeth Graffeg, Sgrin a Sain

#CaruCelf – Caryl Lewis

#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 07-03-2018

Yr awdures Caryl Lewis sydd yn cymryd rhan yn ein ymgyrch #CaruCelf

Tre’r Ceiri gan Kyffin Williams.
Dyma ddarlun cynnar gan Kyffin, darn a brynwyd gan y llyfrgell yn niwedd y pedwardegau. Gwelir yn y darlun artist yn chwilio ei lais, ond mae’r lliwiau a’r awyrgylch a fynegir yn dangos egin arddull sy’n aeddfedu trwy gydol ei yrfa. Dewisiais y darn yma am ei fod yn symbol o bwysigrwydd y berthynas rhwng sefydliadau fel y Llyfrgell Genedlaethol ag artistiaid. Prynwyd y darlun yn gynnar iawn yng ngyrfa Kyffin ac oherwydd gweledigaeth y llyfrgellydd ar y pryd, fe feithrinwyd berthynas glos gyda’r artist a barodd trwy gydol ei oes. Ffrwyth y berthynas honno a welir yn yr arddangosfa sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar hyn o bryd.

Dwy Gloncen gan Aneurin Jones
Dyma ddarlun sy’n gwneud imi chwerthin. Mae osgo y ddwy gymeriad yn fy atgoffa o fy mhlentyndod. Y menywod cryfion oedd ym mhob cwr o gefn gwlad. Mae’r darlun yn dal dwli ac ysgafnder, ond mae ol gwaith ar eu crwyn ac ar eu dwylo, ac athylith Aneurin Jones yw medru dal y llon a’r lleddf.

A Vase of Flowers gan Gwen John
Dyma artist sydd wedi ennill ei phlwyf er gwaethaf cysgod ei brawd Augustus John. Menyw oedd yn herio confensiwn ymhob agwedd o’i bywyd. Beth dwi’n hoffi am waith Gwen John yw bod ei darluniau yn llonydd ac yn felancoli, ond roedd hithau, fel person fel corwynt. Dwi’n hoff iawn o’r ffaith fod artist yn medru creu gwaith sy’n wahanol iawn iddyn nhw eu hunain.

Moelni Maith gan Lisa Eurgain Taylor
Dyma ddarlun gan artist ifanc o Ogledd Cymru. Mae Lisa yn creu awyrgylch yn y darlun hwn- rhyw awyrgylch freuddwydiol braf. Mae’r lliwiau yn electrig bron a rhyw naws o heddwch yn treiddio’r darlun. Mae hi’n defnyddio paent olew, rhywbeth inni’n gysylltu efo arddull trwm iawn, yn ysgafn ysgafn. Artist y byddai’n ei dilyn yn y dyfodol.

Mwy o gofnodion #CaruCelf

Kyffin Williams – Golwg y tu ôl i’r ffrâm

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Casgliadau / Collections - Postiwyd 16-02-2018

Mae’r Llyfrgell yn ferw o weithgarwch heddiw wrth i ni lansio ein harddangosfa newydd Kyffin Williams: Tu Ôl i’r Ffrâm. Felly, beth sy’n eich disgwyl yma?

Mae 4 thema o fewn i’r arddangosfa, ‘Hunan’, ‘Artist’, ‘Pobl’ a ‘Lleoedd’, sydd i’w gweld yn Oriel Gregynog a’r Anecs ar ail lawr y Llyfrgell. Yr artist ei hun fydd yn eich tywys drwy’r sioe gyda nifer o’i eiriau ei hun o’i ddyddiaduron, llythyrau a chyhoeddiadau i’w gweld ar y waliau o gwmpas y gweithiau celf. I’r rhai hynny ohonoch sydd am dyrchu’n ddyfnach mae cyfle i sganio gweithiau dethol gan ddefnyddio’r Ap Smartify; y Llyfrgell ac Oriel Ynys Môn yw’r sefydliadau cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio’r dechnoleg newydd hon.

Wrth ddod i mewn i’r arddangosfa, byddwch yn dod wyneb yn wyneb â chymysgedd o ddelweddau o Kyffin mewn gweddau amrywiol, o’r brasluniau cynnar o’r dyn ifanc meddylgar i’r artist h?n mwy profiadol sydd â’i lygaid yn syllu atoch mewn modd digon heriol. Cyniga’r dyddiaduron a’r llythyrau olwg ddyfnach ar gymeriad yr artist, gyda llythyr annwyl a anfonodd at ‘Mummy & Daddy’ pan yn yr ysgol breswyl yn Nhrearddur yn un o’r uchafbwyntiau.

Yn ‘Artist’ bydd modd gweld datblygiad Kyffin fel artist a’r dylanwadau pennaf arno, yn enwedig ei gysylltiad â Van Gogh a’r tebygrwydd a welodd rhwng ei hun a’i gyd-epileptig. Mae’r ddau baentiad, ‘Heulflodau gyda Mynyddoedd tu Hwnt’ a ‘Brain a Storm ar Ddod’ yn nodedig, yr olaf o’r ddau yn enwedig wrth gael ei gymharu’n aml gydag un o weithiau enwocaf Van Gogh, ‘Wheatfield with Crows’. Yn y llun hwn gwelir Kyffin yn dynwared cyfuniadau lliwiau cryfion ac awyr fygythiol Van Gogh, sydd yn ôl pob tebyg yn dynodi unigrwydd yr artist. Nid yw rhai o’r gweithiau sy’n dyddio o’i amser yn y Slade yn nodweddiadol ‘Kyffin-aidd’, ond yn cynnig cipolwg diddorol o’r broses o berffeithio’i grefft.

Wedi troi’r cornel, mae parau niferus o lygaid yn eich gwylio o’r cynfasau ar y waliau. Mae gosodiad y ffigwr ar y cynfas ym mhortreadau Kyffin yn fwriadol ac yn ddiddorol. Soniodd yn ei lyfr ‘Portraits’: “The placing of the head within the confines of the canvas can show the personality of the sitter.” Yn wir, mae’r cymeriadau mwy hyderus yn llenwi’r cynfas ac yn edrych yn syth atoch, tra bod y cymeriadau mwy swil neu niwrotig yn dueddol o gael eu lleoli i’r ochr ac yn edrych i ffwrdd. Miss Parry yw un o’n ffefrynnau; cymeriad rhannol ddychmygol sy’n darlunio diddordeb Kyffin gyda mynd yn h?n,“especially those who sit and wait for the end to come”.

Er nad oedd Kyffin yn ystyried ei hun yn baentiwr portreadau traddodiadol, roedd ganddo obsesiwn â phobl. Dywedodd unwaith: “I feel that the land and its people are almost part of me”. Treuliodd Kyffin ei blentyndod ymysg bryniau a dyffrynnoedd gogledd Cymru a swynwyf ef gan dirlun Cymru a’i phobl, yn enwedig ffigwr y ffermwr sydd yn gymeriad cyson yn ei waith ac sy’n addurno waliau sawl ystafell fyw ac oriel. Gellir gweld rhai o’r enghreifftiau gorau o’r gweithiau yma yn yr arddangosfa.

‘Lleoedd’ yw’r adran fwyaf a’r mwyaf arwyddocaol yn y sioe. Roedd ei waith yn y genre hwn mor doreithiog, roedd hi’n ofnadwy o anodd crynhoi’r casgliad helaeth i ffitio’r gofod; ond gyda pheth help oddi wrth Kyffin ei hun (byddai’n aml yn rhestru’i hoff weithiau mewn cyfweliadau ac yn ei ddyddiaduron) rydym wedi ceisio cynrychioli’r goreuon o’r gweithiau hynny sydd wedi’u hysbrydoli gan fynyddoedd a morluniau Cymru a thu hwnt.

Mae’r wal anferth o dirluniau Cymreig sydd wedi cael eu hongian yn null salon yn gydnabyddiaeth i apwyntiad yr artist yn Aelod o’r Academi Frenhinol yn 1973, ac yn ddiweddglo addas i’r arddangosfa. Bu hongian y gweithiau mewn dull sydd erioed wedi’i ddefnyddio yn y Llyfrgell cyn hyn yn sialens i’r tîm, ond efallai mai dyma yw ein huchafbwynt personol o’r arddangosfa gyfan.

Mae rhyw 13 o flynyddoedd wedi pasio ers i ni gysegru arddangosfa gyfan i Kyffin a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r profiad a dod ar draws rhai ffefrynnau eich hun… ac efallai cael eich ysbrydoli i greu eich campwaith eich hun hyd yn oed. Rhannwch eich profiadau gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio #Kyffin100 [Twitter: @ArddangosfaLLGC] a chofiwch lawrlwytho Ap Smaritfy cyn eich ymweliad.

 

Uned Arddangosfeydd

#CaruCelf – Valériane Leblond

#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 07-02-2018

Mis yma, yr artist Valériane Leblond sydd yn cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCelf.

Mae wedi dewis View from Hen Gaer Castellan gan Edrica Huws (1907-1999) fel ei dewis olaf

Rwyf wrth fy modd efo’r ffordd mae’r artist yn defnyddio defnydd yn y modd y byddai peintiwr yn defnyddio lliwiau ar balet. Mae’r lliwiau yn ysgafn, ac o’r olwg gyntaf dydy’r gwrthrych ddim yn amlwg. Rwyf yn ei gweld hi’n ddiddorol fod Edrica Huws yn defnyddio clytwaith, crefft sydd ddim yn boblogaidd iawn ym myd celf, ond sydd wedi bod yn ffordd i ferched gyfleu eu hunain am ganrifoedd, yn enwedig yng Nghymru. Mae ei steil yn unigryw iawn ac mae’r patrwm ar y defnydd yn rhoi dimensiwn ychwanegol i’r gwaith.

View from Hen Gaer Castellan

Valériane Leblond

#CaruCelf – Valériane Leblond

#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 31-01-2018

Mis yma, yr artist Valériane Leblond sydd yn cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCelf.

Mae wedi dewis Pictorial dictionary gan Eliza Pughe (c.1831-1850) fel ei thrydydd dewis.

Mae hwn yn ddarn bychan hyfryd. Roeddwn i yn arfer creu llyfrau bychan pan oeddwn yn blentyn, ac rwyf wastad wedi gweld y wyddor a phosteri addysgiadol yn ddiddorol iawn. Mae Eliza Pugh wedi darlunio pethau pob dydd mewn ffordd syml iawn, ac mae wedi ysgrifennu’r geiriau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r stori am yr artist yn deimladwy hefyd – roedd hi yn fyddar ers cael ei geni ac efallai yn medru mynegi ei hun drwy gelf.

Pictorial dictionary gan Eliza Pughe (c.1831-1850)

Valériane Leblond

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog