Blog - Arddangosfeydd

Rhwymiad Unigryw gan Julian Thomas

Arddangosfeydd / Casgliadau / Collections - Postiwyd 24-10-2022

Mae’r Llyfrgell dros y blynyddoedd wedi casglu llyfrau gyda rhwymiadau cain ac anghyffredin, yn enwedig rhai gyda chysylltiad Cymreig.  Yn ddiweddar ychwanegwyd un o’r rhai mwyaf anarferol at y casgliad.  Mae’r gyfrol yn adargraffiad o lyfr Ffrangeg, La Prose du Transsibérien gan yr arlunydd Sonia Delaunay-Terk a’r bardd Blaise Cendrars, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1913.  Mae’r gerdd yn disgrifio taith trên trwy Rwsia yn ystod y chwyldroad cyntaf yn 1905.  Mae wedi’i argraffu ar bedair dalen wedi’u gludo mewn ffurf consertina.

 

 

Ar gyfer yr adargraffiad yn 2019 gwahoddwyd 22 rhwymwr i greu rhwymiadau unigryw.  Mae’r copi a brynodd y Llyfrgell eleni wedi’i rwymo gan Julian Thomas, cyn Bennaeth Rhwymo a Chadwraeth y Llyfrgell.  Mae’r cloriau wedi’u gorchuddio mewn croen llo du wedi’i liwio gyda phaent acrylig glas fflworolau, a stribedi o groen llo wedi’u mewnosod, rhai ohonynt yn oreurog ac eraill wedi’u lliwio mewn acrylig.  Mae’r stribedi yn cyfeirio at y rheilffyrdd a’r cylch at y chwyldroad ac olwynion y trên.

 

 

Mae’r rhwymiad trawiadol hwn yn unigryw ac yn enghraifft o waith un o rwymwyr mwyaf blaengar y Deyrnas Unedig.  Mae rhagor o rwymiadau gan Julian Thomas, ei ragflaenwyr yn y Llyfrgell a chrefftwyr eraill i’w gweld yn yr arddangosfa Cyfrolau Cain ym Myd y Llyfr ar lawr gwaelod y Llyfrgell tan y 9fed o Ragfyr 2022.

 

Timothy Cutts

Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Arddangosfa Diwygiadau yn y Senedd

Arddangosfeydd / Casgliadau / Collections - Postiwyd 11-04-2022

Mae’r Llyfrgell yn darparu arddangosfa bob blwyddyn ar gyfer Brecwast Gweddi Gŵyl Ddewi yng Nghaerdydd.  Trefnir y digwyddiad arbennig hwn gan grŵp o aelodau Cristnogol o’r Senedd o wahanol bleidiau, ac mae’r gwahoddedigion yn cynnwys aelodau o seneddau dros Ewrop, arweinyddion eglwysi a chapeli, a chynrychiolwyr nifer o fudiadau Cristnogol.

Thema’r Brecwast Gweddi eleni oedd “Diwygiadau”.  Yr eitem hynaf a ddangoswyd oedd Llythyr ynghylch y ddyledswydd o gateceisio plant a phobl anwybodus (1749) gan Griffith Jones, oedd yn gyfrifol am sefydlu miloedd o ysgylion cylchynol er mwyn dysgu pobl i ddarllen y Beibl.  Roedd cysylltiad agos rhwng yr ysgolion hyn a’r ymdrechion i gael yr SPCK i ddarparu Beiblau Cymraeg.

 

 

Cyhoeddwyd Two letters, giving an account of a revival of religion in Wales gan Thomas Charles o’r Bala yn 1792.  Arweiniodd y cyfnod o adfywiad ysbrydol mae Charles yn ei adrodd at sefydlu Cymdeithas y Beibl, a dangoswyd hefyd yr argraffiad cyntaf o’r Beibl Cymraeg a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas yn 1807.

Er mwyn adlewyrchu agwedd ryngwladol y thema, dangoswyd Hanes llwyddiant diweddar yr Efengyl, a rhyfeddol waith Duw, ar eneidiau pobl yn North America (1766), sef cyfieithiad gan William Williams, Pantycelyn o bamffledyn yn disgrifio deffroad ysbrydol yn America ddwy flynedd ynghynt.  Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys hunangofiant Ben Chidlaw (1890), Cymro a ymfudodd i America ond a fu’n rhan o Ddiwygiad 1839 tra ar ymweliad â’i famwlad, a The revival in the Khasia Hills (1907), sef hanes cenhadaeth dramor y Methodistiaid Calfinaidd yn India.

Dangoswyd dwy lawysgrif o Ddiwygiad 1858-9, sef dyddiadur Dafydd Morgan, Ysbyty, a llythyr oddi wrth John Matthews o Aberystwyth.  Yr eitem a ddenodd sylw mwyaf y gwahoddedigion oedd Beibl Evan Roberts, a oedd gydag ef pan oedd yn gweithio mewn pwll glo.  Cafodd y Beibl ei losgi yn rhannol mewn ffrwydrad yn 1897 a laddodd pump o’i gydweithwyr.  Arweiniodd hyn at ei droëdigaeth, sy’n cael ei disgrifio yn nyddiadur y Parch. Seth Joshua a ddangoswyd ar bwys y Beibl.  Roedd Evan Roberts yn un o brif arweinwyr Diwygiad 1904-5.

Roedd yn fraint i arddangos y trysorau hyn o gasgliadau’r Llyfrgell yng nghyntedd y Senedd a’u trafod gyda’r gwesteion.  Wrth greu’r arddangosfa, ceisiais amlinellu hanes gwaith Duw trwy nifer o ddiwygiadau yng Nghymru a diwygiadau mewn gwledydd eraill sydd naill ai wedi dylanwadu ar Gymru neu wedi elwa o gyfraniad cenhadon o Gymru.

 

Timothy Cutts

Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Archifau Ivor Novello

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth - Postiwyd 04-10-2021

Yn ddiweddar, derbyniodd y Llyfrgell bapurau W. Macqueen-Pope (Popie) sy’n ymwneud ag ‘Ivor: The Story of an Achievement‘, ei gofiant i Ivor Novello, a gyhoeddwyd gan W. H. Allen, 1951. Mae’r grŵp pwysig hwn o bapurau yn rhoi mewnwelediad i fywyd a phoblogrwydd Ivor Novello (1893- 1951), yr actor a’r cyfansoddwr o Gymru a ddaeth yn un o ddiddanwyr mwyaf poblogaidd hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Mae’r papurau’n cynnwys gohebiaeth rhwng Ivor Novello a Macqueen-Pope, ond yn bennaf maent yn cynnwys cofiannau ac atgofion, gan actorion, a rhai oedd yn gweithio o fewn y celfyddydau yn dilyn marwolaeth Ivor ym 1951. Gellir gweld tystiolaeth o boblogrwydd Novello ymhlith y llythyrau at Macqueen-Pope wrth rai sy’n mynegi diddordeb yng ‘Nghymrodoriaeth Ivor Novello’.

Mae’r papurau wedi cael eu catalogio ac ar gael ar-lein yma: W. Macqueen-Pope (Ivor Novello) Papers (GB 0210 MACPOP)

Ymhlith yr eitemau sy’n cael eu harddangos yn ein harddangosfa gyfredol (2021) mae gohebiaeth (W. Macqueen-Pope ffeil 1), papurau ariannol (ffeil 12/1) a rhaglen wedi’i llofnodi (ffeil 13); a ffotograff cyhoeddusrwydd wedi’i lofnodi (NLW Ex 2980). Mae’r papurau’n ategu eitemau eraill yn ymwneud ag Ivor Novello a’i fam, y gantores, athrawes ac arweinydd Clara Novello Davies (1861-1943) sydd yng nghasgliadau’r Llyfrgell.

Dyma restr o’r prif gasgliadau o ddeunydd sy’n ymwneud ag Ivor Novello yn y Llyfrgell, a ceir gwybodaeth bellach ar y catalog archifau yma: https://archives.library.wales/

  • NLW MS 23204D. Papurau

“Ivor Novello papers, 1932-1983. Papers relating to David Ivor Davies (Ivor Novello, 1893-1951), composer, actor and playwright, comprising an autograph extract from his play I Lived With You (London, 1932) (ff. 1-6); letters, 1979-1982, from associates of Ivor Novello, ….photographs of the Welsh National Opera’s production of ‘Dear Ivor’, 1983 (ff. 23-4); together with a copy of a memorial tribute to Ivor Novello and theatre programmes, 1933-45, of productions of his works.”

  • NLW MS 23696E. Llythyrau

“Ivor Novello letters, 1908-1955 (mostly 1938-1955) Seven letters and two telegrams, 1939-1950, from the composer, actor and playwright, Ivor Novello, to Dorothy and Evelyn Wright, containing mainly personal news (ff. 1-13); together with additional personal papers, 1908-1955, compiled by the Wrights, including twelve letters to them from Lloyd Williams, Novello’s secretary, [?1940]-[?1944] (ff. 5, 14-19 verso), actors Peter Graves, 1951-1955 (ff. 22-24 verso), Leslie Henson, 1942 (f. 25), and Barry Sinclair, 1943 (f. 26), and Neville Chamberlain, 1938 (ff. 20-21); also included are a memorial tribute to Ivor Novello, 1951 (ff. 27-28 verso), photographs of him and his associates, [1910s]-[1940s] (ff. 29-34), and press cuttings, 1939-1951 (ff. 39-46). The collection contains references to theatrical productions at Johannesburg, 1947 (f. 8), the Pavilion Theatre, Bournemouth, [1940] (f. 14), the Palace Theatre, Manchester, [?1941] (f. 15), and the Adelphi Theatre, London, 1943 (f. 18).”

  • NLW MS 20972C a NLW MS 20973E. Llythyrau at Ivor Novello oddi wrth Sir Edward Marsh, 1914-1946.
  • NLW MS 23971D. Llawysgrif gerddorol, [c. 1930], can sydd heb ei chyhoeddi a gyfansoddwyd gan Ivor Novello, ‘Willow Pattern Plate’.
  • NLW MS 24041D. Llyfr ymwelwyr i stiwdio Angus McBean, 1949-1968, yn cynnwys Ivor Novello (f. 11).
  • Papurau Dr Terence Rees P3/4. Ac P3/10 . Llyfr lloffion, toriadau i’r wasg, rhaglenni a chyfnodolion, 1925-1988, yn ymwneud â bywyd a gwaith Ivor Novello. Ysgrif goffa hefyd.
    Casgliad drama D. R. Davies (Aberdâr). Llyfrau lloffion, 3/1, 52, 27/2 a 4/3. Yn cynnwys erthyglau ar Ivor Novello a’i fam, Madame Clara Novello Davies.
  • Papurau Maxwell Fraser, H/24. (ac O/129) . Cyfrol o dorion papur newydd am Ivor Novello, 1944-70. A gwybodaeth am Ivor Novello.
  • Papurau Selwyn Jones 2. Gwybodaeth fywgraffyddol am gerddorion Cymreig yn cynnwys Ivor Novello
  • Archif Tŷ Cerdd, P/5. Papurau’r cerddor Selwyn Jones yn cynnwys llythyr oddi wrth Ivor Novello, 1950
  • NLW ex 2404. Papurau’n ymwneud a Ivor Novello, a’i angladd, 1951-2004.
  • NLW ex 2540. Papurau Madam Esther Cooper-Jones, 1911-2005, gan gynnwys tystysgrifau a rhaglenni cyngerdd, deunydd bywgraffyddol, llythyrau gan ei thiwtor Clara Novello Davies, a thoriadau papur newydd yn ymwneud â’i mab Ivor Novello.
  • Welsh National Opera Records, P1/29. And P2/47. Cynhyrchiad ‘Dear Ivor’, 1982-1983
  • Ffotografau amrwyiol ee: 29 ffotograff yn ymwneud a bywyd a gyrfa Ivor Novello. LLYFRAU FFOTO 1854 B ; Portread swreal o Ivor Novello gan Angus McBean. 1941 , LLYFRAU FFOTO 3433 D; a gweler hefyd LLYFRAU FFOTO 773 B , LLYFRAU FFOTO 1034 B , Portreadau B 51, a Portreadau AFF 38/1.
  • Portreadau. Mae’r portread o Ivor Novello gan Margaret Lindsay Williams 1888-1960 yn cael ei arddangos yn ein harddangosfa gyfredol Framed works of art collection MY20 ac hefyd mae darlun olew ar gynfas 1924 gan Emile Vere Smith Framed works collection CD01.

Nia Mai Daniel
Yr Archif Gerddorol Gymreig

Tagiau:

Gweithiau eiconig gan artist lleol yn rhodd i’r Llyfrgell Genedlethol

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Casgliadau - Postiwyd 26-07-2021

Rydym yn hynod falch yn y Llyfrgell Genedlaethol o fod wedi derbyn rhodd hael i’n casgliadau o dri gwaith eiconig gan yr artist blaenllaw Mary Lloyd Jones o Aberystwyth. Adwaenir yr artist am ei thirluniau deinamig, lliwgar, mynegiadol ac haniaethol yn seiliedig ar dirlun a diwylliant Cymru. Ganed yr artist ym Mhontarfynach yn 1934 a hyfforddodd yng Ngholeg Celf Caerdydd yn yr 1950au, cyn dychwelyd i Geredigion i fyw. Dyma’r ardal sydd wedi cael cryn ddylanwad ar ei gwaith fel y gwelir yn y tirlun pwerus ‘Ponterwyd/Gaia’ a oedd yn rhan o’r rhodd hael diweddar i’r Llyfrgell. Nododd yr artist

‘Y byd naturiol yw testun fy ngwaith, cymylau, cysgodion creigiau, creithiau, patrymau caeau ac anialwch corsydd mawnoglyd’.

Trwy gydol yr haf, rydym yn hynod falch o ddatgan y bydd modd gweld y gwaith yma’n cael ei arddangos yn Oriel Gregynog y Llyfrgell Genedlaethol.

Crëwyd y gweithiau olew tri darn trawiadol ‘Barclodiad y Gawres’ a ‘Bryn Celli Ddu’, a oedd hefyd yn rhan o’r rhodd, ar gyfer arddangosfa yn oriel eiconig Gregynog y Llyfrgell Genedlaethol yn 2006, ac felly mae’n hynod addas bod y gweithiau yma bellach yn cael eu cartrefu yn y Llyfrgell. Yn y gweithiau hyn mae’r artist yn mynegi ei theimladau am berthyn i ddiwylliant ac iaith leiafrifol.

Mae’r gweithiau tri darn yn seiliedig ar y patrymau cerfiedig a grëwyd gan y Brythoniaid ar gerrig cynhanesyddol ‘Barclodiad y Gawres’ a ‘Bryn Celli Ddu’ ar Ynys Môn, ac felly lle gwelir gwreiddiau’r iaith Gymraeg. Bu’r artist yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol yn aml wrth baratoi ar gyfer y gweithiau, gan ymchwilio i waith yr ysgolhaig Syr John Rhys a gasglodd enghreifftiau o gerfiadau Ogham ar garreg, yn ogystal â phapurau Iolo Morgannwg, lle gwelodd ‘Goelbren y Beirdd’ am y tro gyntaf. Teimlodd yr artist felly y byddai’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref hynod addas ar eu cyfer.

Nododd yr artist:

‘Yn y ddau ddarn yma rwyf yn gwneud i liwiau wrthdaro i greu awyrgylch arbennig sy’n cyfleu cyffro hudol y cerfiadau rhyfeddol hyn, a’u perthynas efo’r modd o fyw 4,000 mlynedd yn ôl. Trwy hyn rwyf yn ceisio cyffwrdd â hanes a dirgelwch sy’n perthyn i oes a fu. Mae yna barch uchel yn bodoli at lenyddiaeth Gymreig hynafol, ac mae beirdd yn aml yn cyfleu’r hyn yr hoffwn i ddweud yn fy nghyfansoddiadau. Mae creu pont rhwng y traddodiad barddonol a chelf weledol yn rhan o’r hyn rwyf yn ceisio ei gyflawni’.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Mary Lloyd Jones am ei chefnogaeth frwd i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n fraint medru adeiladu ar y casgliad o weithiau’r artist sydd eisoes gennym o fewn y Llyfrgell gyda’r rhodd hynod hael yma o weithiau.

Morfudd Bevan
Curadur Celf

 

Tagiau:

Dathlu Bywyd Merêd

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 02-12-2019

“Allai ddim meddwl am dad yn gant”, meddai ei ferch Eluned, ac yn wir wrth ymchwilio yn yr archif sydd yn y Llyfrgell nid hen ddyn sydd yn dod i’r meddwl, ond dyn egnïol, brwdfrydig, gweithgar a phenderfynol. Roedd Meredydd Evans, neu Merêd, yn ffigwr hollbwysig yn natblygiad cerddoriaeth yng Nghymru . Treuliodd ei fywyd yn cyfrannu at fywyd a diwylliant Cymru fel casglwr, hanesydd, cerddor, golygydd, cenedlaetholwr ac ymgyrchydd brwd dros yr iaith. Cyfle i ddathlu bywyd llawn a chynhyrchiol yw’r canmlwyddiant a dyma flas o’r bwrlwm o weithgareddau yn y Llyfrgell Genedlaethol:

Ffilm: Canmlwyddiant Merêd – Clipiau o’r archif Dydd Llun, 9 Rhagfyr 2019

Ymunwch â ni i ddathlu canmlwyddiant geni Merêd (9 Rhagfyr 1919 – 21 Chwefror 2015) ar ddiwrnod ei ben-blwydd gyda dangosiad arbennig o ddetholiad o glipiau o gasgliad yr Archif Sgrin a Sain, sy’n rhoi blas o fywyd a gwaith Merêd a Phyllis Kinney. Dewch gyda ni ar siwrne o’r Noson Lawen i Ryan a Ronnie, ac o’r caneuon gwerin i Heather Jones yn canu ‘Colli laith’.

Sesiwn Unnos Radio Cymru

Fis Medi 2019 gwahoddwyd y cerddorion Siân James, Gwenan Gibbard, Gareth Bonello, Gai Toms, Iestyn Tyne a Casi Wyn i greu trefniant newydd o rai o hen alawon gwerin Cymru o archif Meredydd Evans a Phyllis Kinney, sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Darlledwyd rhaglen Sesiwn Unnos Gwerin Radio Cymru ar 29 Medi o Gynhadledd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. I nodi canmlwyddiant geni Dr Meredydd Evans, dyma gyfle prin i chi glywed y casgliad hwnnw o alawon yn cael eu canu eto, yn dilyn y ffilm Merêd, a ddangosir yn y Drwm ar y 9fed o Ragfyr.

Merêd yn gant – Darlith awr ginio gan Geraint H. Jenkins, Dydd Mercher 11 Rhagfyr

Cyfle i ddathlu canmlwyddiant geni Merêd – athronydd, llenor, cerddor a gweithredwr – yng nghwmni’r hanesydd Geraint H. Jenkins. Bydd ffotograff arbennig o Merêd gan Iestyn Hughes i’w weld yma yn ystod yr wythnos.

Rhaglen BBC Radio Cymru ‘Hela’r Hen Ganeuon’

Yn dilyn cyfnod o ymchwilio yn archif Merêd a Phyllis yn y Llyfrgell Genedlaethol bydd cerddorion yn ymateb i gerddoriaeth yn ymwneud â chyfnod y Nadolig a’r Calan. Al Lewis, Nia Morgan ac Arfon Gwilym sy’n ymuno â Georgia Ruth Williams, ac maen nhw’n perfformio caneuon sy’n perthyn i dymor y Nadolig a’r flwyddyn newydd e.e. Plygain, Calennig, Y Fari Lwyd. Darlledir dydd Sul 8 Rhagfyr am 19:05 ar BBC Radio Cymru, a bydd y rhaglen ‘Hela’r Hen Ganeuion’ ar gael wedyn i wrando eto ar wefan Radio Cymru neu ap BBC Sounds.

Rhaglen BBC Radio Wales. Frank Hennessy ‘Celtic Heartbeat’

Sgwrs am Merêd ar ‘Celtic Heartbeat’, Radio Wales (1 Rhagfyr 2019) gyda Nia Mai Daniel a Frank Hennessey yn trafod y modd y bu yn ysgogiad i gerddorion gwerin Cymru drwy ei fywyd o’r cyfnod fel pennaeth adloniant ysgafn yn y BBC (1963- 1973) i gynorthwyo cerddorion ifanc y Prosiect ‘10 mewn bws’. Roedd Merêd yn berfformiwr talentog, a recordiodd ddetholiad pwysig o ganeuon i label Folkway Records yn Efrog Newydd yn 1954, ac yn ddiweddarach i label recordio Sain.

Catalogio archif Merêd a Phyllis Kinney yn y Llyfrgell Genedlaethol

Fel rhan o waith yr Archif Gerddorol Gymreig rydym yn paratoi catalog o’r archif er mwyn rhoi mynediad hawdd at y drysorfa o archif sy’n cynnwys papurau cerddorol Merêd a Phyllis Kinney, gohebiaeth Merêd, a ffeiliau Merêd ar athroniaeth, llenyddiaeth, ymgyrchoedd dros yr iaith Gymraeg, a mwy.

Cardiau mynegai ar gael arlein

Mae miloedd o gardiau mynegai ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru wedi cael eu digido ac ar gael ar ein gwefan. Ceir naw grŵp sef Caneuon gwerin, Alawon Carolau, Geiriau Carolau, Hwiangerddi, ‘Alawon Fy Ngwlad’ Nicholas Bennett, Mari Lwyd, J. Lloyd Williams a Chylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Bydd cyfle cyffrous i ymwneud â phrosiect gwirfoddoli ar yr Hwiangerddi yn y flwyddyn newydd.

PhD Cerddoriaeth werin

Gwenan Gibbard yw enillydd Ysgoloriaeth Ddoethurol i astudio cyfraniad Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney i faes cerddoriaeth werin yng Nghymru. Cynllun ar y cyd rhwng Yr Archif Gerddorol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw hwn.

Arddangosfa gerddorol ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’

Cyfle olaf i weld yr arddangosfa sy’n ymwneud â cherddoriaeth Cymru o’r Crwth i’r Cyrff. Sylwer fod yr arddangosfa yn cau ar 11 Rhagfyr (nid 1 Chwefror) oherwydd y gwaith adeiladu. Mae’r arddangosfa yn cynnwys adran ar Merêd gan edrych ar ei ddylanwad fel casglwr a pherfformiwr ac fel pennaeth rhaglenni adloniant ysgafn BBC Cymru.

Wrth ddathlu’r canmlwyddiant, diolchwn am gyfraniad enfawr Merêd i ddiwylliant Cymru.

Nia Mai Daniel,

Yr Archif Gerddorol Gymreig

@CerddLLGC

50 mlynedd ers yr Arwisgo

Arddangosfeydd / Casgliadau - Postiwyd 01-07-2019

Yn union 50 mlynedd yn ôl, ar 1af Gorffennaf 1969, cafodd Tywysog Siarl ei arwisgo fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon. Roedd yr arwisgo yn ddigwyddiad dadleuol iawn, gan arwain at brostestiadau mawr yn ei erbyn.  Yn yr un modd, roedd tipyn yn cefnogi’r arwisgiad, yn arbennig Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, George Thomas.

Mae Rhodri Evans wedi bod yn ymchwilio’r ymateb radicalaidd i’r arwisgo ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yr wythnos hon fydd arddangosfa ar yr ymateb radicalaidd yn cael ei gynnal yn Ystafell Summers.

Bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan ddydd Gwener 5ed Gorffennaf ac yn cynnwys deunydd o gasgliadau print, archifol a sgrin a sain y Llyfrgell. Dewch yn llu!

Rob Phillips
Archif Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Archif Wleidyddol Gymreig

Cerddoriaeth Cymru: Gwerin, Protest a Phop

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Stori Cymru - Postiwyd 21-06-2019

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

Fe ddisgrifir Cymru yn aml fel gwlad y gân. Ond ym mha le dechreuodd ein traddodiad cerddorol, a sut y datblygodd?

Mae ein harddangosfa newydd – ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’ yn archwilio traddodiad cerddorol Cymru ar hyd y canrifoedd; o’r crwth i’r Cyrff, drwy ddefnyddio amrywiol eitemau o’r Archif Gerddorol Gymreig a’r Archif Sgrin a Sain.

Dyma Nia Mai Daniel o’r Archif Gerddorol i esbonio ymhellach …

Gwreiddiau

Er bod Cymru’n cael ei hadnabod fel ‘Gwlad y Gân’, does gennym ni ddim cof arbennig o weithiau cerddorol cynnar. Traddodiad llafar yw’n traddodiad gwerin, gyda thelynorion a baledwyr yn teithio ar hyd a lled y wlad, yn difyrru’r werin mewn marchnadoedd a thafarndai, gan gadw’r alawon ar eu cof.
Erbyn y ddeunawfed ganrif cofnodwyd alawon ar bapur, ac aeth nifer o bobl amlwg ati i gasglu’r rhain yn ddiweddarach; dim ond trwy waith diflino unigolion fel Nansi Richards, J Lloyd Williams a Meredydd Evans yr achubwyd a gofalwyd am ein traddodiad gwerin.

Mae sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906 a’r adfywiad yn y traddodiad gwerin yn yr 1970au, pan bu i ganu gwerin gyd-fyw ochr yn ochr â chanu poblogaidd, hefyd wedi cyfrannu’n fawr at ddiogelu’r traddodiad.

Merêd

Roedd Meredydd Evans, neu Merêd, yn ffigwr hollbwysig yn natbylgiad cerddoriaeth yng Nghymru . Treuliodd ei fywyd yn cyfrannu at fywyd a diwylliant Cymru fel casglwr, hanesydd, cerddor, golygydd, cenedlaetholwr ac ymgyrchydd brwd dros yr iaith.
Casglodd Merêd a’i wraig Phyllis Kinney ganeuon a oedd wedi bod mewn perygl o ddiflannu, a chredai nad oedd modd i’r traddodiad dyfu ac addasu heb roi bywyd i’r caneuon hynny a ddarganfyddodd yn y llawysgrifau a’r sgorau hynafol.

Yn ogystal â’i waith fel casglwr, roedd Merêd hefyd yn berfformiwr talentog, a recordiodd ddetholiad pwysig o ganeuon i label Folkway Records yn Efrog Newydd yn 1954. Am ddegawd o 1963 ef oedd pennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru, a gweithiodd yn ddiflino i greu rhaglenni adloniant ysgafn Cymreig hynod boblogaidd.

Chwyldro

“Mae’n hen bryd cael mwy o ganu eithafol yng Nghymru heddiw, mwy o sgrechfeydd a drwmiau gwyllt…” oedd geiriau un o aelodau’r grwp roc Cymraeg cyntaf, Y Blew, a ffurfiwyd yn 1967.
Roedd Cymru’r 60au a’r 70au yn wlad a welodd gyffro gwleidyddol yn ogystal â cherddorol. Daeth canu gwerin a phop ysgafn yn boblogaidd iawn, a sefydlwyd y label recordio Cymraeg cyntaf, Sain, ym 1969. Ond yr hyn a wthiodd cerddoriaeth bop Cymraeg yn ei blaen oedd y gân brotest. Yn lle cyfansoddi caneuon serch roedd artistiaid ifainc yn mynd a’u gitârs i’r dafarn a chanu caneuon dychanol a gwleidyddol.

Erbyn yr 1980au daeth to newydd o fandiau a labeli recordio i’r wyneb, rhai a oedd yn creu sŵn gwahanol iawn i’r pop a arferwyd ei glywed ar lwyfannau a thonfeddi radio’r wlad. Roedd bandiau fel Anhrefn, Datblygu, Llwybr Llaethog a’r Cyrff yn arbrofol ac yn chwyldroadol.

Gorwelion

Yn ystod yr 1990au roedd llawer o fandiau yn canu caneuon yn yr iaith Gymraeg yn ogystal â chynhyrchu cerddoriaeth yn Saesneg, fel Catatonia, Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci. Cafodd eu cerddoriaeth ei glywed gan gynulleidfa ehangach, a arweiniodd at ddiddordeb cynyddol yn yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ar draws y byd.Erbyn yr 1990au hwyr a dechrau’r unfed ganrif ar hugain, roedd yr iaith Gymraeg yn cael ei chyfleu trwy sawl arddull gwahanol, o hip hop, reggae a ska ac yn ôl i wreiddiau’r traddodiad gwerin.

Heddiw, mae’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru yn fyw ac yn iach, gyda thoreth gyfoethog o artistiaid talentog yn ysgrifennu, recordio a pherfformio yn y Gymraeg a mwy nag erioed o labeli annibynnol yn gweithio i ryddhau recordiau Cymreig.

Mwy o wybodaeth am arddangosfa RECORD: Gwerin, Protest a Phop (22 Mehefin 2019 – 1 Chwefror 2020)

Casglu Cyfoes: Celf o’r Casgliad Cenedlaethol

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Collections / Stori Cymru - Postiwyd 12-04-2019

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i gasgliad pwysig o gelf gyfoes Gymreig. O fewn yr arddangosfa ‘Casglu Cyfoes’ (6.4.19 – 21.3.20) sydd newydd agor yma yn y Llyfrgell ceir esiamplau o weithiau sydd wedi dod yn rhan o’n casgliadau yn ddiweddar, o dorlun leino deinamig Paul Peter Piech i waith ciwbaidd Charles Byrd.

Rhodd bwysig a ddaeth i feddiant y Llyfrgell yn ddiweddar oedd y Casgliad Roese. sef casgliad gwerthfawr a chynhwysfawr o gelf gyfoes Gymreig. Dyma yw un o’r casgliadau celf gyfoes bwysicaf i ddod yn rhan o gasgliadau’r Llyfrgell, a gwelir eitemau o’r casgliad yn yr arddangosfa hon, gan gynnwys gweithiau gan Charles Byrd, Ernest Zobole, Ceri Richards, Mary Lloyd Jones, Ivor Davies, Glenys Cour, ac Iwan Bala.

Eleni buom hefyd yn ffodus i dderbyn naw darn o waith eiconig yr artist pop Ken Elias o Lyn Nedd i fewn i’n casgliadau.

Mae’r Llyfrgell yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn casglu gweithiau artistiaid sydd yn denu sylw cynyddol yn y maes ar hyn o bryd, fel Seren Morgan Jones sy’n gweithio yn Llundain a Teresa Jenellen ym Machynlleth. Mae’r thema o ferched yn ganolog i’w gwaith. Artist lleol arall y mae ei gwaith i’w gweld o fewn yr arddangosfa ydy Valériane Le Blond ac mae ei paentiadau llawn dychymyg yn llwyddo i bortreadu cefn gwlad Cymru sydd yn gyfarwydd i ni gyd, tra bod tirluniau mynegiadol Sarah Carvell, ac haniaethol Lisa Eurgain Taylor ac Elfyn Lewis yn dangos ysbrydoliaeth ddiderfyn y tirlun Cymreig.

Mae ein casgliad yn tyfu gyda phryniadau cyson a rhoddion oddi wrth gymwynaswyr hael.

Morfudd Bevan,

Curadur Celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Humphrey Llwyd – lluniwr Prydain

#CaruMapiau / Arddangosfeydd / Casgliadau - Postiwyd 18-01-2019

Ar Ionawr 19 fe agorir arddangosfa ddiweddaraf y Llyfrgell: Lluniwr Prydain – Bywyd a Gwaith Humphrey Llwyd. Yr arddangosfa hon yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau i nodi 450 mlwyddiant marwolaeth Humphrey Llwyd, awdur y map cyhoeddiedig cyntaf o Gymru. Am bythefnos yn ystod mis Awst diwethaf, i gyd-fynd â dathliad y diwrnod ei hun, cynhaliwyd arddangosfa fechan, ond bydd yr arddangosfa fwy hon yn parhau am y chwe mis nesaf.

Mae Llwyd yn fwyaf adnabyddus am ei fap o Gymru, ond yn ogystal â bod yn arloeswr cartograffiaeth Cymreig fe’i ystyrir hefyd yn un o Dadau hanes Cymru o ganlyniad i’w waith Cronicla Walliae, y llyfr cyntaf am hanes Cymru i’w gyhoeddi yn yr iaith Saesneg, sydd yn seiliedig ar yr hen gronicl Cymreig Brut y Tywysogion.

Byddai hyn yn gyfraniad teilwng i unrhyw un ei adael yn etifeddiaeth i’w cenedl, ond yn ychwanegol at hyn bu Llwyd hefyd yn gyfrifol am gynorthwyo llywio Mesur Cyfiethu’r Beibl i’r Gymraeg drwy’r Senedd. Arweiniodd hyn at gyhoeddi’r Beibl yn Gymraeg, a fu’n ffactor allweddol yn llwyddiant yr iaith Gymraeg i oroesu hyd heddiw.

Mae dylanwad Llwyd yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau Cymru; defnyddiwyd ei waith i gyfiawnhau’r Ymerodraeth Brydeinig (term y dywedir iddo ei fathu) ac hefyd y Diwygiad Seisnig. Prynwyd rhan o’i lyfrgell helaeth gan y Goron, ac maent nawr yng nghasgliad y Llyfrgell Brydeinig.

Cynhelir yr arddangosfa newydd hon ar y cyd â Lluniwr Prydain; holl weithiau Humphrey Llwyd, prosiect a noddir gan AHRC.  Dros y misoedd nesaf, traddodir nifer o ddarlithoedd gan aelodau’r tîm prosiect, a Humphrey Llwyd hefyd fydd thema Carto-Cymru, Symposiwm Mapiau Cymru eleni.

Bydd yr arddangosfa hon yn parhau tan Mehefin 29, a ceir gwybodaeth bellach am ddigwyddiadau cysylltiedig ar wefan y Llyfrgell.

Huw Thomas
Curadur Mapiau

Dawn anhygoel Morfydd Owen

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections - Postiwyd 10-09-2018

A refined and beautiful talent: thoughts on the centenary of the death of Morfydd Owen (1891-1918) yw teitl cyflwyniad Dr Rhian Davies yn y Drwm ar 11 Medi.  Mae’r dyddiad yn arwyddocaol gan mai can mlynedd i’r dyddiad hwn y claddwyd Morfydd Owen ym mynwent Ystumllwynarth.  Bu farw’r gyfansoddwraig, y gantores a’r pianydd yn drasig o ifanc ar 7 Medi 1918 yn chwech ar hugain mlwydd oed.  Mae’r cyflwyniad yn perthyn i gyfres o nifer o ddigwyddiadau a drefnwyd gan G?yl Gregynog i nodi canmlwyddiant ei marwolaeth.  Dr Rhian Davies yw Cyfarwyddwr Artistig yr ?yl a’r prif awdurdod ar Morfydd Owen. Dyfarnwyd doethuriaeth iddi gan Brifysgol Bangor yn 1999 am ei thraethawd ymchwil arni.

Ganwyd Morfydd Owen ar 1 Hydref 1891 yn Nhrefforest ac fe’i magwyd ar aelwyd gerddorol iawn.  Cafodd yrfa ddisglair dros ben yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gyda’r Athro David Evans ac enillodd radd Mus. Bac. yn 1912.  Mynychodd yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, 1912-1917, ac enillodd Fedal Arian Charles Lucas am gyfansoddi Nocturne, gwaith i gerddorfa.  Fe’i hetholwyd yn Aelod o’r Academi Gerdd Frenhinol yn 1918.

Derbyniwyd Morfydd Owen yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1912 a’i henw barddol oedd ‘Morfydd Llwyn-Owen’ sef cyfuniad o’i henw a chartref ei thad Plas Llwyn Owen, Bontdolgadfan, ger Llanbrynmair.  Cafwyd perfformiad sensitif o’i chân ‘Yr oenig’ yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Yr oedd yn ddawnus iawn, meddai ar lais mezzo-soprano cyfoethog, yr oedd yn bianydd medrus, ac yn gallu cyfansoddi mewn amryw o arddulliau o emyn-donau i ddarnau cerddorfaol.  Sefydlwyd ysgoloriaeth er cof amdani ym Mhrifysgol Caerdydd a’r enillydd cyntaf oedd Grace Williams yn 1923.  Cedwir llawysgrifau o gerddoriaeth Morfydd Owen a’i memorabilia personol yn Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd.

I nodi canmlwyddiant geni Morfydd Owen yn 1991 darlledwyd drama-ddogfen gan S4C ac yn yr Hydref dangosir ffilm Morfydd ar y sianel.  Mae’n ymwneud â pherthynas Morfydd Owen a’i g?r Dr Ernest Jones a briododd mewn Swyddfa Gofrestru yn Llundain ar ôl carwriaeth fer.  Awdur y sgript yw Siwan Jones.  Bu Rhian Blythe neu ‘Morfydd’ yma yn y Llyfrgell yn ymchwilio i’w hanes diddorol.

Bydd arddangosfa fechan o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell i’w gweld yn Ystafell Summers ar 11 Medi i gyd-fynd â’r cyflwyniad ar Morfydd Owen.  Yn eu plith mae llawysgrifau cerddorol, llythyrau yn ei llaw, ffotograffau, rhaglenni cyngherddau a dwy gyfrol goffa i Morfydd Owen a gyflwynwyd gan Dr Ernest Jones i’w dad-yng-nghyfraith William Owen.

Ann Francis Evans

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog