Catalogio mapiau trefedigaethol o Affrica
#CaruMapiau / Casgliadau - Postiwyd 10-05-2022
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rhwng cyfnodau clo, rwyf wedi bod yn gweithio fy ffordd trwy ôl-groniad o fapiau o Affrica heb eu catalogio neu wedi’u catalogio’n rhannol, gan eu didoli a’u hychwanegu at y gronfa ddata ar-lein fel y gall pawb gael mynediad atynt. Mae darllenwyr yn dweud wrthym yn aml nad oedden nhw’n gwybod bod gennym ni fapiau o’r tu allan i Gymru, felly rwy’n gobeithio y bydd y prosiect catalogio hwn a’m blogiau yn helpu mwy o ddarllenwyr i ddarganfod ehangder y deunydd sydd gennym.
Anglo Belgian Boundary Commission, 1925
Diagramau triongli ffin Tanganyika, 1928
Anglo-Belgian Boundary Commission, 1925 [llofnodion]
Daw’r rhan fwyaf o’r mapiau hyn o gyfnod gweinyddiaeth drefedigaethol Ewropeaidd gwledydd Affrica. Mae hyn yn rhannol yn deillio o ffynhonnell y mapiau yn y casgliad — daw’r mwyafrif i’r llyfrgell yn ystod yr 20fed ganrif drwy’r broses adnau cyfreithiol, sy’n berthnasol i ddeunydd a gyhoeddwyd yn y DU yn unig. Y cyhoeddwr mwyaf cynhyrchiol o fapiau tramor ym Mhrydain yn yr 20fed ganrif oedd Cyfarwyddiaeth Arolygon Trefedigaethol y llywodraeth. Fe’i sefydlwyd ym 1946 i ganoli cynhyrchu mapiau o’r ymerodraeth. Ym 1957, gyda symudiadau annibyniaeth ar draws yr ymerodraeth yn ennill momentwm, fe’i hailenwyd yn Gyfarwyddiaeth Arolygon Tramor. Cynhyrchodd adrannau eraill y llywodraeth, megis y Swyddfa Gwybodaeth Ganolog, fapiau ar gyfer cynulleidfa gyffredinol hefyd, tra bod y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) yn cynhyrchu ac yn casglu mapiau at ddibenion milwrol, rhai ohonynt wedi’u hychwanegu at gasgliadau’r llyfrgell wrth i’r Weinyddiaeth Amddiffyn leihau ei gasgliad mapiau papur o blaid dull mwy digidol. Fodd bynnag, mae goruchafiaeth safbwyntiau gweinyddol trefedigaethol yn y casgliad hefyd yn adlewyrchu pwysigrwydd mapio’r byd trefedigaethol — mae mapiau’n ‘profi’ pwy sy’n berchen ar dir.
Daw ein dau fap cyntaf o set a ddefnyddiwyd i ddiffinio a chyfreithloni’r ffin rhwng Tanganyika Prydeinig (Tanzania fodern) a Rwanda a Burundi’r Wlad Belg. Lluniwyd y mapiau yn y 1920au, gan rannu ysbail y Rhyfel Byd Cyntaf fel y penderfynwyd gan Gytundeb Versailles. Tan hynny roedd Tanganyika, Rwanda a Burundi wedi bod yn rhan o Ddwyrain Affrica’r Almaen, ond roeddynt i’w rhannu fel iawndal rhwng Prydain a Gwlad Belg.
Mae llofnodion seremonïol comisiynwyr Prydain a Gwlad Belg i’w gweld ar y map. Ni chyfeirir at bobl leol nac arweinwyr nad oedd angen eu llofnodion ar gyfer y rhan hon o’u tiriogaeth.
Wiedergutmachung von Unrecht?, 1918
Ein map nesaf yw her Almaeneg i Brif Weinidog Prydain, David Lloyd George, yn amlinellu ei nod o ‘iawndal am anghyfiawnder’ [Wiedergutmachung von Unrecht] drwy’r broses heddwch.
Roedd Lloyd George wedi mynnu bod yr Almaen a’i chynghreiriaid yn tynnu’n ôl o Wlad Belg, Serbia, Montenegro, yr Eidal, Rwmania, Alsace a Lorraine — mae’r map Almaeneg hwn yn dadlau bod ei ofynion yn rhagrithiol tra bod Prydain a’i chynghreiriaid yn dal trefedigaethau ledled y byd. Nid yw Dwyrain Affrica Almaeneg wedi’i gynnwys ar y map.
Er bod rhai ffiniau trefedigaethol wedi’u diffinio gan gyfeirio at nodweddion daearyddol, megis Llyn Tanganyika yn ein map cyntaf, mae cipolwg cyflym ar ffiniau cenedlaethol syth fel pren mesur yng ngogledd Affrica, er enghraifft, yn awgrymu bod ffiniau eraill wedi’u diffinio ar bapur, gan linellau a dynnwyd ar fapiau, yn hytrach na chyfeirio at y tir ei hun, neu ei bobl.
Voi, 1959
Mae’r map chwe dalen hwn o 1959 o dref Voi yn ne Kenya yn dangos hyn ar raddfa lai: mae ffin weinyddol y dref yn gylch perffaith, ac mae gwybodaeth y map yn aros yn sydyn ar ymyl y cylch.
Bwriadwyd y map o Voi at ddefnydd gweinyddol o fewn Kenya ei hun. Fodd bynnag, gwnaed llawer o fapiau yn y casgliad ar gyfer cynulleidfa yn y DU, i hysbysu pobl am yr ymerodraeth. O ganlyniad, mae rhai yn llawer mwy trawiadol yn weledol na’r mapiau graddfa fawr a ddefnyddir ar gyfer gweinyddiaeth drefedigaethol.
Gorllewin Affrica, 1948
Dwyrain Affrica, 1947
Gorllewin Affrica, 1948 [darluniad]
Gorllewin Affrica, 1948 [Mungo Park]
Dwyrain Affrica, 1947 [eglurhad]
Cynhyrchwyd ein dau fap nesaf ddiwedd y 1940au gan Swyddfa Gwybodaeth Ganolog llywodraeth Prydain ar gyfer cynulleidfa Brydeinig gyffredinol. Lluniwyd y ddau gan Leo Vernon, a fu hefyd yn darlunio mapiau o rannau eraill o’r ymerodraeth, yn ogystal â mapiau twristiaeth a hanesyddol o Brydain.
Eu bwriad yw cyfleu rhywbeth o ddiwylliant a hanes y lleoedd y maent yn eu darlunio trwy eu defnydd o liw a ffiniau darluniadol.
Ar fap Gorllewin Affrica, mae ffigurau niferus yn cael eu darlunio o amgylch ymyl y map. Yr unig un a enwir yw Mungo Park, fforiwr Albanaidd. Mae’r llu o Affricanwyr Du a ddarlunnir yn ddienw, a dim ond yr awgrym lleiaf o nodweddion wyneb sydd gan y mwyafrif, mewn cyferbyniad llwyr â delwedd fanwl Park.
Mae’r ddau fap hefyd yn dangos yr adnoddau cyfoethog a geir yn nhrefedigaethau Prydain, gan bwysleisio natur ecsbloetiol ac echdynnol llawer o wladychiaeth Brydeinig. Mae’r ffocws hwn ar allforio a photensial masnachol yn nodwedd gyffredin ar y mapiau yn y casgliad.
Africa: commercial development, 1922
Eglurhad o Africa: commercial development, 1922
Mae’r map nesaf yn dyddio o 1922, a’i nod yw dosbarthu ‘datblygiad masnachol’ cyfandir Affrica i gyd. Mae’r codau lliw taclus yn cyflwyno argraff o drylwyredd a chywirdeb gwyddonol, mewn cyferbyniad ag apêl ddarluniadol darluniau Leo Vernon.
Yn yr hierarchaeth hon o ddatblygiad, mae mwyngloddio, diwydiant ac amaethyddiaeth planhigfa (sy’n cael ei redeg gan ac ar gyfer ymsefydlwyr Ewropeaidd) ar y brig, tra bod tiroedd ‘gwyryf’, er eu bod yn cael eu defnyddio gan gymunedau lleol ar gyfer hela a chasglu ‘cyntefig’, yn cael eu dosbarthu fel rhai annatblygedig. Mae’n amlwg er budd pwy y mae ‘datblygiad masnachol’ wedi’i fwriadu. Does dim llawer o ddiddordeb hefyd mewn masnach fewnol o fewn gwledydd neu ranbarthau, dim ond mewn cysylltiadau allanol — y rhai a fu o fudd i wledydd ymerodraethol.
The continent of Africa, 1954
Mae nifer o fapiau yn y casgliad yn pwysleisio’r gwahaniaeth rhwng trefedigaethau, gwarchodaethau ac ymddiriedolwyr, gan gynnwys ein map nesaf, yn ogystal â’r map Gorllewin Affrica 1948 a drafodwyd uchod.
Er mai bwriad damcaniaethol oedd bod ymddiriedolwyr yn sicrhau bod datblygiad economaidd o fudd i bobl frodorol a buddiannau trefedigaethol, meddyliwyd amdanynt yn benderfynnol mewn ffordd dadol. Mae erthygl a gyhoeddwyd ym 1946 yn disgrifio ymddiriedolwyr:
“Trusteeship, both national and international, is a conception which is at the forefront of the human advance. It assumes a relatively stable human society in which nations, themselves mature, rational, and governed in their actions and policies by high conceptions of law and justice, undertake to assist less advanced peoples to climb the ladder of self-government…”
Mae’r mapiau hefyd yn aml yn cynnwys testunau byr sy’n canmol rhinweddau’r system drefedigaethol, yn manylu ar y budd yr oedd rheolaeth Brydeinig i fod i’w roi i Affricanwyr, a’r ‘cynnydd’ sydd i’w wneud cyn y gellid ‘ymddiried’ mewn hunanlywodraeth i Affricanwyr:
The continent of Africa, 1954 [testun]
Dwyrain Affrica, 1947 [testun]
Mae’r blog hwn dim ond wedi crafu wyneb y deunydd hynod ddiddorol yr wyf wedi’i gatalogio yn ystod y prosiect hwn, ac mae llawer mwy o waith i’w wneud eto, felly byddaf yn gwneud mwy o fostiau blog yn y dyfodol i’ch diweddaru gyda fy hoff ddarganfyddiadau o’r broses hon.
Eitemau yn ein casgliadau:
Anglo-Belgian boundary commission, 1925 (E11:3 (3))
[Tanganyika border triangulation diagrams], 1928 (E11:6 (13))
Wiedergutmachung von Unrecht?, 1918 (B1:4 (4))
Africa: commercial development, 1922 (Oversize Map 164)
The continent of Africa, 1954 (E1 (128))
Llyfryddiaeth a darllen pellach:
The imperial map: cartography and the mastery of empire, golygwyd gan James R. Akerman. University of Chicago Press, 2009.
Mapping an empire: the geographical construction of British India, 1765-1843, Matthew H. Edney. University of Chicago Press, 1997.
The Napoleonic survey of Egypt: a masterpiece of cartographic compilation and early nineteenth-century fieldwork, Anne Godlewska. Cartographica Monograph no. 38-39. Cartographica 25 (1-2), 1988.
The iconography of landscape: essays on the symbolic representation, design, and use of past environments, golygwyd gan Denis Cosgrove and Stephen Daniels. Cambridge University Press, 1988.
The British Commonwealth and Trusteeship, cyhoeddwyd yn International Affairs, cyfrol 22.2, tudalennau 199-213, 1946.
Ar gael am ddim trwy JSTOR
Ellie King
Cynorthwy-ydd Curadur Mapiau dan Hyfforddiant