Blog - Casgliadau

Postiwyd - 20-03-2019

Casgliadau

Iaith y Nefoedd

Cyhoeddwyd ar y newyddion yn ddiweddar fod rhywun wedi siarad Cymraeg ar bennod o’r gyfres deledu Star Trek. Nid dyma’r tro cyntaf i’r Gymraeg gael ei chlywed ymhlith y sêr gan fod rhywun wedi canu alaw Gymreig ‘Yr hufen melyn’ ar bennod o Star Trek: The Animated Series unwaith.

Ymadrodd enwog iawn a gysylltir â Star Trek yw “Beam me up, Scotty!”. Montgomery Scott (neu “Scotty”) oedd y peiriannydd ar long ofod yr Enterprise ac un o’i gampau oedd trosglwyddo aelod o’r criw i leoliad newydd mewn pelydr neu “beam”. “Beam me up, Scotty!” oedd yr alwad am ei help ac ef oedd yr un a ganodd yr alaw.

Clywais am gysylltiad ‘Yr hufen melyn’ â Star Trek gan y delynores Llio Rhydderch sy’n paratoi nodiadau ar gyfer ei CD newydd, a chlywsai hithau’r ffaith gan Dylan Meirion o Fangor. Aethom ar drywydd hanes yr alaw, a diolch i’w harbenigedd cerddorol a ffynonellau cyfoethog y Llyfrgell, daeth rhagor o wybodaeth i’r golwg, gan gynnwys gwybodaeth am y fersiwn a ganodd Scotty.

Ymddangosodd yr alaw mewn gwahanol ffurfiau ac o dan wahanol enwau e.e. Yr hufen melyn, Hufen y cwrw melyn, Cream of the brown ale.

 

 

Cerddor dall o’r enw Richard Roberts (1769-1855) a’i cyhoeddodd gyntaf a hynny ar ffurf alaw telyn yn ei gyfrol Cambrian harmony yn 1829. Yn ôl Llio Rhydderch, mae’n bosib mai gan ei athro, Wil Penmorfa, y clywodd Roberts yr alaw gyntaf. Fe gydiodd yr alaw a chael ei chyhoeddi mewn sawl man, e.e. Welsh harper, cyf. 1 (1839), Y tant aur (1916) a Caniadau’r allt (1927):

Ond pa un o’r holl fersiynau amrywiol a ganwyd gan Scotty, tybed?

Ym marn Llio Rhydderch, mae fersiwn Scotty yn debyg i’r fersiwn a gofnodir gan Alfred Perceval Graves yn y gyfrol Sixteen Welsh melodies (1909).

Fersiwn Y tant aur fydd yn cael ei berfformio gan Llio Rhydderch ar ei CD newydd ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at ei glywed. Heb gynheiliaid y traddodiad gwerin ac heb archifau cerddorol, beth fyddai gan Scotty i’w ganu?

Mae’n amser mynd: “Beam me up, Scotty!”

Heini Davies, Llyfrgellydd Cynorthwyol

Postiwyd - 11-03-2019

Casgliadau

Charles Darwin, cylchoedd y tylwyth teg a blu-tack

Mae Wythnos Gwyddoniaeth yn rhedeg o’r 8fed i’r 17eg o Fawrth 2019. Fel cyfraniad, dyma dri llythyr gan Charles Darwin, y naturiaethwr, daearegwr a’r biolegydd, a gyhoeddodd ar y cyd gydag Alfred Russel Wallace eu damcaniaethau ar esblygiad drwy ddetholiad naturiol yn y Linneaen Society yn 1858. Yn anffodus, tra bod dau o’r tri llythyr yn trafod gwaith ymchwil Darwin, nid yw’r un yn perthyn i’r Syniad Mawr:

 

Mae’r cyntaf yn dudalen olaf llythyr gan ysgrifennydd, wedi’i arwyddo gan Darwin, sy’n cynnwys amserau trên a threfniadau ar gyfer cwrdd â’r derbynnydd di-enw. (NLW, Dolaucothi L 5984).

Yn ail, ceir llythyr dyddiedig 10 Gorffennaf 1875 a ysgrifenwyd at dderbynnydd di-enw, eto wedi’i arwyddo’n unig gan Darwin, yn meddwl am haint, ac yn gofyn os yw cylchoedd y tylwyth teg yn dechrau o bwynt canolog ac yn lledaenu tuag allan, neu os ydynt yn cychwyn fel cylchoedd. Yn ogystal, holir os yw’n hysbys ar beth mae’r myseliwm yn bodoli. (NLW, SA/CR/219). Mae’r llythyr yma yn amlwg, a’r eraill o bosib, yn rhan o gasgliad llofnod. Mae rhai o’r llythyrau eraill yn y casgliad, gan gynnwys un gan Charles Dickens, wedi’i fframio, gyda’r fframiau yn dangos ôl blu-tack. Cyn i’r llythyrau cael eu derbyn i’r Llyfrgell, wrth gwrs!

Mae’r llythyr olaf wedi’i dyddio 22 Hydref 1880 at Thomas Henry Thomas (‘Arlunydd Penygarn’, 1839-1915), artist ac aelod gweithgar o Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd. Ynddo, mae Darwin yn diolch i Thomas ac i’r Athro Schaefhausen am y ffotograffau diddorol a bod Thomas wedi bod yn lwcus i ddarganfod olion traed mor dda. (NLW MS 3127C, rhif 12).

Mae’r tri llythyr wedi’u cynnwys ym Mhrosiect Gohebiaeth Darwin Prifysgol Caergrawnt.

Mae gan y Llyfrgell hefyd sawl llythyr gan Alfred Russel Wallace yn y casgliad. Rhywbeth am flog arall rhywdro efallai.

 

Stephen Benham
Archifydd Cynorthwyol

Postiwyd - 04-03-2019

Casgliadau

Cynnwys Glyn Cywarch

Yn Mawrth 2017, gwerthwyd cynnwys Glyn Cywarch, Talsarnau, yn nh? ocsiwn Bonhams yn Llundain. Roedd gwerth pedwar canrif o greiriau materol wedi’u gwasgaru ymhlith y cynigyddion uchaf o fewn oriau. Roedd Glyn Cywarch yn d? hen iawn, a’i hadeiladwyd yn 1616, a ddisgynnodd drwy briodas o deulu’r Wynn i’r Owens o Frogyntyn ac yna i deulu Ormbsy-Gore, barwniaid Harlech.

Mae’r gwaith catalogio diweddar ar gasgliad cyfreithwyr Longueville wedi amlygu rhestr eiddo a phrisiad o gynnwys Glyn, dyddiedig Awst 1876, eiddo’r diweddar John Ralph Ormsby-Gore, Barwn cyntaf Harlech. Mae’r rhestr eiddo yn 124 tudalen o hyd ac yn eithriadol o fanwl. Caiff y dodrefn t? i gyd ei restri, ynghyd â’r carpedi, gorchuddion ffenest, gwydr, tsieni, eitemau wedi’u platio, llieiniau, blancedi, cwrlidau, gwinoedd, gwirodydd, taclau garddio, planhigion, offer cadw ffesantod ac eitemau amrywiol arall. Mae’r rhestr yn rhoi cip olwg o bob ystafell fel y byddent wedi bod yn 1876.

 

Gellid paru rhai o’r eitemau gyda’r rhai hynny cafodd eu gwerthu yn yr ocsiwn yn Bonhams yn 2017. Mae’n debygol mai’r ‘oval top old oak table with fall down leaves on a strong frame and spiral supports’ yn yr ystafell groeso yng Nglyn yw Eitem 3 ar wefan yr ocsiwn. O bosib Eitem 89 yw’r ‘inlaid bureau filled with drawers and divisions, sloping fall down front, lined with green baize’. Ai un o’r tair potel persawr amrywiol yw Eitem 492?

Efallai nad oedd yr addurn yng Nglyn at chwaeth William Richard Ormsby-Gore, ail Farwn Harlech. Pan ddisgynnodd i’r teitl, dechreuodd raglen lawn o ailwampio. Mae llyfr cyfrifon o gasgliad cofnodion stad Brogyntyn yn rhestri’r holl eitemau newydd prynodd o’r dilledydd a’r groser, Richard Jones, New Shop, Dolgellau, 1877-1878. Prynwyd llieiniau bwrdd, gorchuddion t? bach, tywelion, dillad gwely, mwslin, chintz, leinin pinc sgleiniog, brithwe, carped, tapestri rhuddgoch, clorian menyn a set o haearnau tân.

Yw’r eitemau yma dal yn bodoli yn nh? hynafol Glyn? Neu cafwyd hwy, hefyd, eu gwerthu er mwyn addurno t? arall, ymhell o Gymru?

Cyfeiriadau:
Casgliad Longueville, cyfrol. 389
Papurau Stâd a Theuluol Brogyntyn, EH3/3

 

Hilary Peters, Archifydd Cynorthwyol

Postiwyd - 01-03-2019

Casgliadau / Collections / Stori Cymru

Beth wyddom ni am Dewi Sant?

Dyma’r cofnod cyntaf o gyfres newydd, Stori Cymru. Cyfres sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio hanes ac yn ei siapio. Cyhoeddir cofnod bob yn ail ddydd Gwener, a gallwch eu dilyn trwy ddewis categori Stori Cymru ar yr ochr dde.

 

 

Mae hi bellach yn fil o flynyddoedd ers geni Sulien. Bu’n esgob Tyddewi ddwywaith, ond ei brif gyfraniad oedd sefydlu canolfan ddysg yn Llanbadarn Fawr, ar safle sydd bellach yng nghysgod y Llyfrgell Genedlaethol.

Yn Llanbadarn y lluniwyd rhai o’n llawysgrifau cynharaf, a hynny o waith dau o feibion Sulien, sef Ieuan a Rhygyfarch (?1056-99). Mae Sallwyr Rhygyfarch (a luniwyd tua 1079) bellach yng nghadw yn llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn, ond ei waith creadigol enwocaf oedd y Vita Davidis, cofiant Lladin i Ddewi Sant a luniwyd tua 1094 i ddyrchafu statws ac annibyniaeth esgobaeth Tyddewi.

Mae mwyafrif yr hyn a gredir heddiw am Dewi, sant o’r chweched ganrif, yn seiliedig ar adroddiad Rhygyfarch, a luniwyd bum canrif yn ddiweddarach. Yn y Vita y ceir hanes ei addysgu gan Beulin, ei oruchafiaeth tros Boia, sefydlu’r fynachlog yng Nglyn Rhosyn, a’r bregeth yn senedd Llanddewibrefi. Cyfieithwyd a thalfyrrwyd y gwaith hwn i’r Gymraeg yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg gan fynach anhysbys. Ymysg y fersiynau cynharaf o Fuchedd Dewi y mae’r testun hwn yn Llyfr Coch Talgarth (llawysgrif Llanstephan 27), a ysgrifennwyd gan Hywel Fychan tua 1400 ar gyfer ei noddwr, yr uchelwr Rhys ap Thomas.

Bydd cenedlaethau o blant Cymru’n gallu ail-adrodd geiriau olaf y sant, a lefarwyd cyn ei farw ar y cyntaf o Fawrth: ‘Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i.’

Yn rhyfedd iawn, nid yw’r gair ‘bychain’ yn ymddangos yng ngwaith Lladin Rhygyfarch, a rhaid llongyfarch y cyfieithydd Cymraeg diweddarach ar lunio brawddeg gofiadwy!

Maredudd ap Huw

Postiwyd - 25-02-2019

Casgliadau / Collections / Heb ei gategoreiddio

Daniel Ddu o Fôn

Yn ddiweddar digwydd imi ddod ar draws cyfrol Amseroni o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. I’r rhai ohonoch sydd yn anghyfarwydd ag Almanaciau mynnwch gip ar y ddalen hon ar wefan y Llyfrgell lle cewch weld yr almanaciau mae’r Llyfrgell wedi’u digido. Nid yw cynnwys y gyfrol hon wedi ei ddigido.

 

Yn ogystal â’r wybodaeth am ffeiriau Cymru, ymddangosiad y lleuad a chalendrau mae almanaciau yn gallu cynnwys ambell gerdd. Yn Amseroni 1849 (Caergybi) ar y ddalen olaf ond un, mae cerdd gan Daniel Ddu o Fôn yn dwyn y teitl Bore Haf. Cerdd mewn cwpledi odledig o ddeuddeg sillaf. Bugeilgerdd yw hi – enghraifft arall o’r pastoral bondigrybwyll. Yn unol ag ysbryd yr oes, mae’n rhamantaidd iawn. Dyma fardd ifanc arall unwaith eto yn ymateb yn deimladol i fyd natur o’i gwmpas. Mae’r tirlun yn ir a ffrwythlon ac yn llawn dedwyddwch i ddyn ac anifail; paradwys yn wir – Sir Fôn wrth reswm. Mae’r bardd hefyd yn ymhyfrydu yn rhinwedd arall ei sir enedigol, sef yr olygfa ragorol a geir yno o fynyddoedd Eryri. Gall yr eirfa fod yn dreth weithiau. Yr haul yw’r ‘huan’ wrth gwrs. Doeddwn i erioed wedi clywed am ‘feiliau’ chwaith ond llestr yfed yw mail fel sy’n gwneud synnwyr o’r cyd-destun. Efallai bod pethau ychydig yn rhy ‘suddog’ ar adegau hefyd ond a derbyn hynny i gyd, roeddwn i o’r farn bod hon yn ddigon da i holi: pwy oedd Daniel Ddu ac ai Bore Haf oedd ei unig gerdd?

 

 

Da oedd gweld bod Enwogion Môn, Gwalchmai yn cytuno â fi: Daniel Ddu, o Langefni, oedd fardd gobeithiol iawn. Roedd Enwogion Môn R Môn Williams ag ychydig yn fwy o’i hanes. Yno roedd yn fardd o fri ac wedi dod i sylw Eben Fardd yn Eisteddfod Aberffraw 1849 lle cipiodd y wobr am bryddest ar y testun ‘Aelwyd fy Rhiaint’ mewn cystadleuaeth i rai o dan ugain oed. Beth oedd union oedran Daniel felly? Diolch i waith ymroddedig staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn mynegeio erthyglau cyfnodolion Cymru, roedd cyfeiriad ato yn ein catalog. Roedd yr erthygl yn Gwreiddiau Gwynedd, 2009 yn rhoi tipyn yn fwy o wybodaeth amdano. Yn ôl cyfrifiad 1841 roedd Daniel Hugh Evans yn 11. Tua 19 oedd ei oedran yn 1849 felly.

 

Union eiriau beirniadaeth Eben Fardd yn Eisteddfod Aberffraw oedd: “But the great master of this juvenile competition…is Glesyn Mai, by far the best of any of his competitors; nothing less than the poem itself can give us adequate idea of his brilliant genius”. Wrth gwrs, rhaid oedd mynd ar drywydd y gerdd yn y Cyfansoddiadau wedyn. Mae hon, yn unol â chwaeth yr oes, yn gerdd hir, 14 tudalen, ac â ninnau wedi glanio’n dwt yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg mae hi braidd yn sentimental hefyd ond mae rhagoriaethau yn ogystal â gwendidau.

 

Erbyn 1852 roedd Daniel wedi priodi Rachel Edwards o Fasaleg a’r ddau wedi hwylio i Awstralia bell. Cewch ddarllen hanes ei priodas yma.

Mae’r erthygl yn Gwreiddiau Gwynedd yn rhoi eu hanes i gyd.

 

Robert Lacey

Pennaeth Isadran Datblygu Casgliadau

Postiwyd - 13-02-2019

Casgliadau

Profiad Gwaith

Yn ystod fy nhrydedd blwyddyn fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth bues yn gwirfoddoli’n selog yn y Llyfrgell. Cyfrannais yn bennaf at brosiect digideiddio Llyfr y Cofio, cyfrol sy’n coffáu o gwmpas 35,000 o ddynion a merched a fu farw yn ystod y Rhyfel Mawr. Eleni, wrth ddilyn MA Hanes Cymru roeddwn yn awyddus i gynnal cysylltiadau â staff y Llyfrgell ac ennill ar y cyfle i fagu profiad gwaith pellach mewn sefydliad sy’n apelio’n fawr ataf, yn arbennig o fewn cyd-destyn gyrfaol.

Yn yr Adran Archifau a Llawysgrifau cyfrannais yn bennaf at brosiect catalogio casgliad o bapurau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ychydig fisoedd ynghynt, roedd archif y GIG wedi hysbysu’r Llyfrgell o’u bwriad i daflu’r holl ddogfennau stordy penodol. Prif gynnwys y stordai oedd cynlluniau a lluniadau trydanol a phensaernïol gwreiddiol ar gyfer ysbytai Cymreig newydd. Roedd y mwyafrif o’r dogfennau yn dyddio’n ôl i’r 1970au a’r 1980au ac felly’n gynrychiolaeth bwysig o ddatblygiad iechyd cyhoeddus Cymreig a’r esblygiad uchelgeisiol a welwyd tuag at ddiwedd yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Cytunodd y Llyfrgell yn unol â’i pholisi’r i ddiogelu dogfennau pwysig o natur Cymreig i gasglu’r deunydd. Rhoddwyd rhybudd o wythnos yn unig i’r Llyfrgell ddethol a chasglu’r dros 400 o focsys dysgais fod y math yma o hysbyseb fyr rybudd gan fudiadau yn gymharol gyffredin, sy’n golygu bod yn rhaid i’r Llyfrgell weithio yn erbyn y cloc yn aml er mwyn sicrhau bod casgliadau pwysig yn cael eu diogelu a’u cadw. Wrth ddysgu am gefndir y casgliad, sylweddolais nad yw gwaith yr Archifydd wedi ei gyfyngu i bedair wal y gweithle yn unig ac y bod angen mynd allan yn achlysurol i gasglu’r deunydd, dyma gysyniad nad oedd o reidrwydd wedi croesi fy meddwl cyn hyn.

 

Rhoddwyd y dasg i mi o nodi natur, ansawdd a phwrpas yr amryw bapurau a gynhwyswyd ym mocsys cyfres A (Architectural) ac ED (Electrical Drawing). Diben fy ngwaith oedd trefnu y casgliad a chreu cofnod cychwynnol ohonynt. Defnyddiais medalwedd Excel er mwyn nodi prif nodweddion y papurau; yr Ysbyty cysylltiedig, teitl y prosiect dan sylw, dyddiadau bras y cynlluniau ynghyd ag unrhyw fanylion perthnasol eraill.

Gofynwyd i mi nodi unrhyw ddyblygon a ymddangosai yn y bocsys gan mai yn yr ystyr hwn un copi o bopeth yn unig y dymunai’r Llyfrgell gatalogio. O achos natur ailadroddus y cynlluniau roedd hyn yn dasg gymharol heriol, mân wahaniaethau yn unig a fodolai rhwng nifer o’r darluniadau ac felly roedd gofyn cael llygaid craff er mwyn sicrhau nad oeddem yn taflu’r unig gopi o gynllun penodol.

Drwy weithio ar un casgliad yn unig am nifer o ddyddiau sylweddolais natur llafurus y broses o gatalogio. Serch hynny, drwy ganolbwyntio ar y prosiect yma’n unig cefais y cyfle i fagu dealltwriaeth dyfnach o’r deunydd ac ymgyfarwyddo well â phroses catalogio’r Adran.

Cefais gryn fwynhad yn gatalogio rhai lluniadau penodol fel y rhai a luniwyd ar gyfer ardaloedd ymlacio ar Ward Pediatrig Ysbyty Glan Clwyd, Sir Ddinbych. Roedd y casgliad penodol yma o luniadau yn rhai cymharol unigryw gan eu bod yn cynnwys nifer o gynlluniau ar gyfer murluniau wedi’u hanelu at blant. O achos eu natur unigryw roeddwn yn awyddus i dynnu lluniau ohonynt.

Wrth weithio gyda’r casgliad sylweddolais yr heriau sy’n wynebu Archifyddion yn sgil diffyg cadwraeth flaenorol. Roedd hi’n amlwg nad oedd y penseiri wedi gofalu am eu cynlluniau ar ôl iddynt gwblhau’r gwaith. Gwthiwyd y mwyafrif o’r darluniadau i mewn i focsys hir, cul a oedd yn anaddas i storio cryn gymaint o ddarluniadau. Yn sgil blynyddoedd o esgeulustra roedd ansawdd y darluniadau wedi dirywio. Cefais fewnwelediad sut mae Archifyddion yn ymdrin ag her o’r fath yn y tymor byr. Gweler gyferbyn, mewn ymgais i atal unrhyw ddirywiad pellach, llaciwyd rhai o’r bocsys ac ail gaewyd hwy drwy ddefnyddio llinyn. Drwy wneud hyn, ni chywasgwyd y deunydd cymaint, diogelwyd y casgliad dros dro nes y byddai’r dogfennau yn derbyn sylw cadwriaethol pwrpasol.

Elin Tomos, Myfyriwr MA Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth (Trydar: @ELINtomos)

Postiwyd - 04-02-2019

Casgliadau

Tanseilio Sancteiddrwydd Celf

Dim fy ngeiriau i ond rhai Dai Evans o Frynaman neu ‘Y Dyn Swreal’ fel yr oedd hefyd yn cael ei adnabod. Mae enigmatig ac unigryw yn sicr yn ddau air a ellir eu defnyddio i ddisgrifio David Augustus Evans (1924-2013) a’i waith. Ai ffotograffydd, artist gosod, swrealydd, sylwebydd cymdeithasol neu’n ddigrifwr ydoedd? Y pump i gyd a mwy tu hwnt yn ôl pob tebyg. Gellid hefyd ychwanegu ysbrydoliaeth at y rhestr – mae’r awdur Fflur Dafydd a’r artist Carwyn Evans wedi’u hysbrydoli gan ei waith.

 

Roedd Dai Evans yn Gadeirydd ar Glwb Camera Dyffryn Aman a’n ffigwr adnabyddus yng nghlybiau camera dros De Cymru fel cystadleuwr rheolaidd, er nid oedd ei natur sarhaus at chwaeth pawb (y beirniaid yn bennaf). Gyda’i ddefnydd o fodelau, baw gwartheg, ieir plastig, amryw o bropiau eraill a synnwyr cyffredin drygionus, roedd ei waith yn denu sylw cynulleidfaoedd ifancach ac yn trafod ystod o themau gan gynnwys llenyddiaeth, newid cymdeithasol a digwyddiadau rhyngwladol a phersonol. Mae ei hiwmor sych a’i sgiliau arsylwi craff yn dod a’u ffotograffau’n fyw.

Ymddangosodd ar y teledu ar sawl tro gan gynnwys Y Sioe Gelf a phrosiect y BBC Capture Wales. Gyda dros bedwardeg o’i brintiau yn cyrraedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru bydd ei hiwmor yn parhau i ysbrydoli eraill i wneud argraff eu hunain.

W. Troughton

Tagiau:

Postiwyd - 28-01-2019

Casgliadau / Collections / Heb ei gategoreiddio

Cyhoeddiad prin am farwolaeth Capten Cook

Mae’r Llyfrgell wedi prynu llyfr prin iawn gan Gymro oedd yn bresennol pan laddwyd yr arloeswr Capten James Cook.  Ganwyd David Samwell yn Sir Ddinbych yn 1751.  Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg ac ym mudiadau diwylliannol Cymreig ei gyfnod, ac ysgrifennodd lawer o farddoniaeth Gymraeg a Saesneg.  Roedd yn Llywydd Cymdeithas y Gwyneddigion yn 1797.  Mae’r Llyfrgell yn berchen ar ei lawysgrifau, gan gynnwys gohebiaeth rhyngddo a Iolo Morganwg.

 

 

Hwyliodd Samwell gyda’r Capten Cook fel “surgeon’s first mate” ar y Resolution yn 1776 ac roedd yn llygad-dyst pan laddwyd Cook mewn ysgarmes gyda rhai o’r brodorion yn ynys Hawaii yn 1779.  Ysgrifennodd yr hanes yn llawn a’i gyhoeddi yn 1786 ar ôl iddo ddychwelyd i Loegr mewn cyfrol a deitlwyd A narrative of the death of Captain James Cook, ac mae’r Llyfrgell eisoes yn berchen ar ddau gopi o’r llyfr hwnnw.  Ond yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd cyfieithiad o’r gwaith i’r Ffrangeg gyda’r teitl Détails nouveaux et circonstanciés sur la mort du Capitaine Cook.  Mae hwn yn gyhoeddiad prin iawn gyda dim ond tri chopi yn hysbys mewn llyfrgelloedd eraill trwy’r byd i gyd, felly pan ddaeth copi ar werth achubwyd ar y cyfle i ychwanegu’r eitem bwysig hon at gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

Timothy Cutts

Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Postiwyd - 24-01-2019

Casgliadau

Dwynwen

Dwynwen yw nawddsantes cariadon Cymru a chedwir ei dydd g?yl ar 25 Ionawr. Dywedodd Dafydd ap Gwilym, neb llai, ei bod yn feistres ar leddfu galar llanciau trallodus, a gofynnodd am ei help i ddenu Morfudd yn gariad iddo.

Roedd Dwynwen yn un o ferched hanesyddol y bumed ganrif, a gwnaeth ei chartref ar Ynys Llanddwyn ym Môn. Pan fynnodd ei chariad, Maelon Dafodrull, ffafrau rhywiol ganddi, gweddïodd Dwynwen ar Dduw a chafodd ddiod a’i rhyddhaodd hi o’i chariad at Maelon; trodd Maelon yn lwmp o iâ dan ddylanwad yr un ddiod. Cafodd Dwynwen dri dymuniad: bod Maelon yn cael ei ddadrewi, ei bod hi’n cael ei hurddo’n santes y cariadon, a’i bod hi’n cael byw yn ddibriod.

Daeth Dwynwen yn enwog am ei gallu i ddatrys problemau cariadon, ond hefyd am ei sgiliau iacháu. Weithiau byddai’n cyflawni gwyrth gyflym, o hirbell, yn enwedig yn achos babanod a phlant sâl, a dywedir ei bod wedi atgyfodi mwy nag un oedd yn ymddangosiadol farw. ‘Iechyd a golud a gaid / Synnwyr a hawsáu enaid’, meddai Dafydd Trefor, ac mae’n amlwg fod iechyd corfforol, cyfoeth, doethineb, ac esmwythder eneidiol i gyd i’w cael o law Dwynwen.

Mae olion o gwlt Dwynwen yn Nhresilian ym Morgannwg, a deuai cariadon yno i selio eu tynged drwy daflu carreg dros fwa naturiol yn y graig. Mae eglwys wedi’i chysegru i Ddwynwen ger Camelford yng Nghernyw, ac efallai fod cwlt iddi yn Llydaw (dan yr enw Santes Douine neu Twine) lle roedd yn enwog am wella pob twymyn.

Blog gwadd gan Rhiannon Ifans, awdur ac arbenigwr ar lenyddiaeth ganoloesol Cymraeg.

Tagiau: ,

Postiwyd - 18-01-2019

#CaruMapiau / Arddangosfeydd / Casgliadau

Humphrey Llwyd – lluniwr Prydain

Ar Ionawr 19 fe agorir arddangosfa ddiweddaraf y Llyfrgell: Lluniwr Prydain – Bywyd a Gwaith Humphrey Llwyd. Yr arddangosfa hon yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau i nodi 450 mlwyddiant marwolaeth Humphrey Llwyd, awdur y map cyhoeddiedig cyntaf o Gymru. Am bythefnos yn ystod mis Awst diwethaf, i gyd-fynd â dathliad y diwrnod ei hun, cynhaliwyd arddangosfa fechan, ond bydd yr arddangosfa fwy hon yn parhau am y chwe mis nesaf.

Mae Llwyd yn fwyaf adnabyddus am ei fap o Gymru, ond yn ogystal â bod yn arloeswr cartograffiaeth Cymreig fe’i ystyrir hefyd yn un o Dadau hanes Cymru o ganlyniad i’w waith Cronicla Walliae, y llyfr cyntaf am hanes Cymru i’w gyhoeddi yn yr iaith Saesneg, sydd yn seiliedig ar yr hen gronicl Cymreig Brut y Tywysogion.

Byddai hyn yn gyfraniad teilwng i unrhyw un ei adael yn etifeddiaeth i’w cenedl, ond yn ychwanegol at hyn bu Llwyd hefyd yn gyfrifol am gynorthwyo llywio Mesur Cyfiethu’r Beibl i’r Gymraeg drwy’r Senedd. Arweiniodd hyn at gyhoeddi’r Beibl yn Gymraeg, a fu’n ffactor allweddol yn llwyddiant yr iaith Gymraeg i oroesu hyd heddiw.

Mae dylanwad Llwyd yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau Cymru; defnyddiwyd ei waith i gyfiawnhau’r Ymerodraeth Brydeinig (term y dywedir iddo ei fathu) ac hefyd y Diwygiad Seisnig. Prynwyd rhan o’i lyfrgell helaeth gan y Goron, ac maent nawr yng nghasgliad y Llyfrgell Brydeinig.

Cynhelir yr arddangosfa newydd hon ar y cyd â Lluniwr Prydain; holl weithiau Humphrey Llwyd, prosiect a noddir gan AHRC.  Dros y misoedd nesaf, traddodir nifer o ddarlithoedd gan aelodau’r tîm prosiect, a Humphrey Llwyd hefyd fydd thema Carto-Cymru, Symposiwm Mapiau Cymru eleni.

Bydd yr arddangosfa hon yn parhau tan Mehefin 29, a ceir gwybodaeth bellach am ddigwyddiadau cysylltiedig ar wefan y Llyfrgell.

Huw Thomas
Curadur Mapiau

<- Cofnodion Hŷn Cofnodion Newydd ->

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog