Blog

#CaruMapiau – Mike Parker

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 12-05-2017

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, yr awdur, darlledwr a ffan o fapiau Mike Parker sydd yn dewis ei hoff fapiau o gasgliad y Llyfrgell fel rhan o ymgyrch #CaruMapiau

Rheilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau, Cynlluniau ac Adrannau o Reilffyrdd rhwng Llanidloes a Phencader, i sesiwn seneddol 1859-60

 

“Mae fy newis o bedwar map o gasgliad disglair y Llyfrgell Genedlaethol yn greulon o ryddieithol, er bod yr hanesion a adroddant yn gêm gyfareddol o beth os…?  Mae gan y pedwar undod lle (Sir Drefaldwyn) a thema (cynllunio ar gyfer isadeiledd na ddigwyddodd gan fwyaf).  Dywedant gymaint wrthym am  uchelgeisiau ac agweddau eu cyfnodau gwahanol iawn.

Efallai mai’r prosiect enwocaf na ddigwyddodd yw’r cyntaf, a welwyd yng nghynlluniau 1859 a osodwyd gerbron y senedd ar gyfer rheilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau.  Mae’r map amlinellol yn dangos llinell lefn, hyderus yn cyfeirio tua’r de orllewin ar draws Cymru, yn cysylltu melinau Sir Gaerhirfryn â phorthladd d?r dwfn yn Aberdaugleddau, ond mae’r mapiau manwl yn dangos yn rhy barod ei bod yn her  anorchfygol.  I’r de o Lanidloes, mae’r llinell yn nadreddu tua’r gorllewin i Langurig, cyn plymio trwy galon dywyll Mynyddoedd Cambria mewn twnnel hir, a chodi yn Ysbyty Ystwyth yng Ngheredigion.

O’r fan honno roedd y llinell i fod i ddilyn yr Afon Teifi, a chafodd yr adran hon ei hadeiladu, ond yn hytrach na chyrraedd Sir Benfro, gwyrodd tua’r de at Bencader, a daeth i ffurfio rhan o linell Aberystwyth i Gaerfyrddin.  Mae genedigaeth dameidiog y llinell hon yn esbonio ei llwybr crwydrol, a’i gwnaeth yn darged hawdd i doriadau Beeching ganrif yn ddiweddarach.

Cyrhaeddodd hanner ogleddol y rheilffordd Llangurig, bedair milltir  y tu draw i  Lanidloes.  Ychydig filltiroedd i’r gorllewin, cloddiwyd toriad i gymryd y llinell i mewn i’r twnnel mwyaf trwy’r mynyddoedd corslyd.  Daeth yn amlwg yn gyflym fod cost gwireddu hyn yn llawn yn rhy uchel, a chiliodd buddsoddwyr.  Mae’r mapiau adran tirwedd yn dangos aruthredd yr her: nid y twnnel yn unig a’r tir, ond y graddiannau cosbol llym hefyd.  Dim ond un trên a redodd erioed i Langurig, a chodwyd y trac yn 1882.  Gellir gweld olion bwganllyd ohono o hyd yn y pentref, ac wrth ochr yr A470 tuag at Lanidloes.”

#CaruMapiau

Casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog