#CaruMapiau – Shaun Evans
#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 26-07-2018
Dr. Shaun Evans yw Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, canolfan ymchwil Cymru Gyfan a leolir ym Mhrifysgol Bangor ac sy’n ymchwilio i faterion yn ymwneud â hanes, diwylliant a thirweddau Cymru, trwy brismau ystadau a’u casgliadau o dreftadaeth ddiwylliannol. @YstadauCymru
Map 17eg ganrif o Whitlera, Sir Gaerfyrddin
Yn fy mlog diwethaf soniais mai ond o ganol y 18fed ganrif mewn gwirionedd y cynyddodd y comisiynau ar gyfer mapiau ystadau yng Nghymru. Cymharol brin yw’r enghreifftiau o’r ddwy ganrif gynt.
Yn ei chasgliadau, mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru lond llaw o fapiau ystâd o’r 16eg a’r 17eg canrifoedd gan gynnwys map Humfrey Bleaze o diriogaeth Castell Powys a gwblhawyd yn 1629 ac arolwg Robert Johnson 1587 o faenorau Iarll Caerwrangon yng Nghrucywel a Thre-t?r yn Sir Frycheiniog.
Mae arolwg Robert Johnson yn arwyddocaol am ei fod yn crynhoi’n daclus y symud o’r disgrifiad testunol i ddarluniad cartograffig. Yn arferol, byddai arolygon traddodiadol o ystadau yn cynnwys disgrifiadau ysgrifenedig a oedd yn nodi manylion megis enwau, maint a chyfansoddiad ffermydd unigol, enwau’r tenantiaid, y rhent blynyddol a manylion unrhyw arferion a berthynai i’r tir. Mae arolwg Johnson yn cyfuno’r ffurf hwn o arolwg testunol â set o fapiau wedi’u cynhyrchu’n gain gan greu enghraifft gynnar o’r hyn oedd yn ei hanfod yn ‘atlas’ o’r ystâd. Roedd map Humfrey Bleaze o ystâd Gastell Powys yn gynnyrch o fath gwahanol: un ddalen fawr o felwm yn darlunio prif nodweddion tirwedd yr ystâd, gydag enw a maint y caeau (mewn aceri, ffyrdd a chlwydi) wedi’u hysgythru ar wyneb y ddogfen. Roedd y ddau gynnyrch hyn yn cael eu comisiynu’n benodol gan y tirfeddianwyr, gyda’r bwriad o’u defnyddio a’u harddangos am dymor hir.
Serch hynny, mae yna fathau eraill o fapiau ystadau cynnar a oedd at ei gilydd yn llai nodedig. Un enghraifft a welir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r map pen ac inc syml o Whitlera ym mhlwyf Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin sy’n ymddangos fel pe bai’n dyddio o ganol y 17eg ganrif. Mae’r map wedi’i fraslunio ar ddalen sengl o bapur sy’n dangos ‘the mease [h.y. t?] of Whitlera’, ynghyd ag adeilad cyfagos a’r tiroedd gerllaw.
Mae sawl nodwedd arall o’r dirwedd yn cael ei darlunio gan gynnwys yr Afon Sannan a ‘the hie waye’. Yn rhai o’r caeau dangosir rhesi o farciau sy’n ymdrech efallai i ddangos eu bod wedi cael eu haredig. Mae ardaloedd eraill yn cynnwys clystyrau o ‘furrs’ [eithin], sy’n awgrymu tir diffaith heb ei drin. Hefyd, darlunnir nifer o goed sy’n amrywio o’r hyn sy’n ymddangos fel llain o goetir bychan i goeden enfawr sy’n sefyll ar ei phen ei hun yng nghanol un o’r caeau a nifer o goed llai yn ffurfio rhan o un o’r ffiniau gwrychoedd. Mae’r gwrychoedd pigog hyn (sydd o bosibl yn debyg i’r ddraenen wen) yn amgylchynu pob cae, a cheir ymdrech amlwg yma i ddarlunio clawdd mwy hirsefydlog i’r dwyrain.
Mae enwau rhai o’r caeau wedi’u marcio ar y map, megis ‘kae dan y ty’, ‘kae trwynvain’, ‘wayn bwll’ a ‘kaer ddintir’. Mae mwyafrif y caeau hyn wedi’u marcio fel ‘whitleras lande’ – sy’n dangos eu cysylltiad â’r t?. Serch hynny, doedd y tiroedd a gafodd eu cynnwys ar y map ddim wedi’u hymgorffori dan berchnogaeth un unigolyn neu ystâd; roedd ‘tir whitleras’ yn gymysg â thir ‘Owen ap Hennri & Mallt verch Wallter ap Thomas’, ‘Kae Koch, being the lande of Ieuan Lloyd ap Gwillym Vychan’ ac wedi’i amgylchynu i’r de gan diroedd ‘Sir William Thomas, Knight’.
Prif bwrpas y map oedd darlunio maint a ffiniau’r tiroedd oedd yn gysylltiedig â Whitlera. O’i gymharu ag arolwg 1587 Robert Johnson o Grucywel a Thre-t?r a map Humfrey Bleaze o Gastell Powys, mae llai o bwyslais ar arddangosiad. Yn wir, roedd y map wedi’i blygu a’i gadw fel rhan o gasgliad gweithredoedd a dogfennau’n ymwneud â Whitlera. Y cofnodion cysylltiedig hyn sy’n rhoi rhywfaint o syniad i ni pam efallai fod y map wedi’i lunio yn y lle cyntaf.
Ers o leiaf ddechrau’r 16eg ganrif roedd perchenogaeth Whitlera yn destun dadlau ac achosion cyfreithiol. Yn 1604 daeth Richard ap Rutherch ac eraill ag achos cyfreithiol yn Llys Cyngor Cymru a’r Gororau i ddatrys yr hawl i breswylfod a thiroedd Whitlera. Chwe blynedd yn ddiweddarach, roedd Llys y Sesiwn Fawr yn barnu ynghylch honiad o dresmasu ar diroedd o gwmpas Whitlera. Erbyn y 1620au, roedd t? Whitlera a rhywfaint o’r tiroedd cyfagos dan berchenogaeth Thomas ap Richard ap Ruddergh a’i fab ac etifedd, William Thomas ap Ruddergh. Yn 1627 mae’n ymddangos iddynt werthu’r tiroedd i Griffith Lewis, henadur yng Nghaerfyrddin, a werthodd y tiroedd rhyw ddwy flynedd yn ddiweddarach i Thomas Newsham, Abersannan. Yn ystod yr ychydig ddegawdau nesaf codwyd morgais ar y tiroedd yn rheolaidd hyd nes i Nicholas Williams, Rhydodyn (Edwinsford) eu meddiannu ym mhen hir a hwyr yn y 1670au.
Mae’r cofnodion sy’n ymwneud â’r trafodion hyn yn ffurfio rhan o Archif Ystâd Edwinsford ac maen nhw’n rhoi cyd-destun defnyddiol i ni am y rheswm i greu’r map. Yn ystod y 16eg a’r 17eg canrifoedd, doedd hi ddim yn anghyffredin i gomisiynu mapiau fel tystiolaeth i ategu achosion llys yn ymwneud â pherchenogaeth tir. Mae’n bosibl bod y map wedi’i lunio fel rhan o’r achosion a glywyd gan y Cyngor yn Y Mers yng Nghymru neu yn y Sesiwn Fawr. Fodd bynnag, o ystyried ansicrwydd y gorffennol ynghylch perchenogaeth y tiroedd, mae’n fwy tebygol bod naill ai Griffith Lewis, Thomas Newsham neu Nicholas Williams wedi gwneud cais am y map i’w atodi at y gweithredoedd gan dystiolaethu i’w meddiant hwy o’r tiroedd. Yn y naill achos neu’r llall, mae’n amlwg nad oes modd dirnad y map yn llwyr heb gyfeirio at y corff ehangach o gofnodion sy’n ymwneud â hanes perchenogaeth Whitlera. Mae’r cyd-destun yn allweddol.
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English