Blog

Postiwyd - 02-08-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Shaun Evans

Dr Shaun Evans yw Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, sef canolfan ymchwil Cymru gyfan ym Mhrifysgol Bangor sy’n edrych ar faterion yn ymwneud â hanes, diwylliant a thirweddau Cymru, drwy lygaid yr ystadau a’u casgliadau treftadaeth ddiwylliannol.  @YstadauCymru

Coed a choetiroedd

Roedd yr hanesydd a’r ecolegydd Oliver Rackham (1939-2015) yn honni mai’r unig ffodd y gellir deall natur coetiroedd yw trwy brosesau hanesyddol. Yng nghyd-destun Cymru, nid yw’r ddealltwriaeth o’r safbwyntiau hanesyddol hyn wedi’i datblygu gymaint ag y gallai, ac mae’n parhau’n ddibynnol iawn ar waith hollbwysig William Linnard yn Welsh Woodlands and Forests: History and Utilization (1982).

Cyn yr 20fed ganrif roedd y mwyafrif llethol o goetiroedd a choed yng Nghymru wedi’u lleoli ar diroedd a oedd yn eiddo i ystadau bonedd. Mae map o ddemên Bodrhyddan yn Sir y Fflint, sydd wedi ei gynnwys mewn atlas o’r ystadau yn dyddio o 1756, yn rhoi rhywfaint o syniad o le blaenllaw coed a choetiroedd yn nhirweddau’r ystadau. Yma, mae coed yn rhan allweddol o’r gerddi sy’n amgylchynu Bodrhyddan; gwelir eu bod ar hyd ochr y brif ffordd at y t? ac ar hyd y llwybrau a’r lonydd eraill; saif ambell goeden fawr (coed derw mwy na thebyg) yn y parcdir; mae ardaloedd bychain o goedlannau a phorfeydd coediog; gwelir bod coed yn nodi hen ffiniau caeau; ac maent yn rhan o’r gwrychoedd.

 

Ers yr oesoedd canol, bu coetiroedd yn rhan bwysig o dirweddau hamdden uchelwyr; roedd coedwigoedd canoloesol yn rhan annatod o hela. Yn ddiweddarach, roedd coed a choetiroedd yn aml yn rhan hanfodol o greu tirweddau wedi’u dylunio, gyda phwyslais ar yr hardd a’r anhygoel. Gwelir awgrym clir o hyn yng nghynllun John Davenport yn 1791 o welliannau arfaethedig yn Nanteos, plasty Thomas Powell yn Sir Aberteifi. Ni chafodd y cynllun ei weithredu, ond mae’n dangos safle a rhywogaethau’r coedd a oedd i’w plannu neu eu cadw i greu’r dirwedd esthetig ddymunol.

Roedd pwyslais symbolaidd pwysig ar goed unigol mewn nifer o’r ystadau. Roedd Ceubren yr Ellyll, derwen gau fawr ar ystâd Nannau yn Sir Feirionnydd, yn ymgorffori chwedl a oedd wrth wraidd hunaniaeth y teulu Vaughan. Credwyd mai yn y fan hon y gorweddai ysgerbwd ac ysbryd Hywel Sele (un o hynafiaid teulu’r Vaughan) a laddwyd gan Glynd?r ar ôl gweithred fradwrus. Ar ôl i’r hen goeden dderw ddisgyn yn 1813, defnyddiwyd y pren i greu amrywiaeth o drysorau teuluol ar gyfer y Vaughaniaid, yn cynnwys set o chwe chwpan llwncdestun ar ffurf mes, a oedd yn symbol o gysylltiadau pwysig â hynafiaeth a thir, sef eu bod wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn yr ardal leol. Mae enghreifftiau niferus o’r math yma. Mae’n arwyddocaol, bod Meredith Hughes yn ei fap yn 1774 o ystâd Bachymbyd yn Sir Ddinbych, wedi sicrhau bod tair castanwydden o’r enw ‘Y Tair Chwaer i’w gweld yn y tiroedd islaw Bachymbyd. Yn ôl chwedl deuluol, plannwyd y coed ar ddiwedd y 17eg ganrif gan dair chwaer o’r teulu Salesbury i nodi eu cariad a’u hoffter o’i gilydd. Yn yr un modd â Derwen Nannau, mae’n enghraifft o berchnogion yr ystâd yn cysylltu rhannau o’u hunaniaeth â choed ar eu tir.

Yn ogystal â’u harwyddocâd esthetig a diwylliannol, roedd coed a choetiroedd yn chwarae rôl economaidd bwysig yng ngweithrediad yr ystadau. O gyfnod cynnar, roeddent yn aml yn cael eu rheoli’n ddwys, yn bennaf trwy docio a phrysgoedio er mwyn darparu amrywiaeth enfawr o gynhyrchion, tanwydd a bwyd yn amrywio o siarcol, i goed pensaernïol, mes ar gyfer porthiant anifeiliaid a rhisgl ar gyfer trin crwyn. Roedd coetiroedd yn gallu bod yn asedau economaidd gwerthfawr i’r ystadau ac roeddent yn aml yn cael eu diogelu’n ffyrnig gan landlordiaid a’u hasiantau. Gwelir tystiolaeth o’u harwyddocâd economaidd gan benderfyniad rhai teuluoedd i gomisiynu mapiau yn benodol am y coetiroedd yn eu perchnogaeth. Enghraifft dda o hyn yw map 1774 o Goed Canaston, sy’n gysylltiedig ag ystâd Slebech yn Sir Benfro.

Daeth coedwigaeth yn rhan fawr o waith rhai ystadau, yn arbennig o’r 19eg ganrif, a gwelir hyn gyda chynlluniau coedwigo enfawr, cyflogi mwy o goedwigwyr proffesiynol (yn enwedig o’r Alban) a sefydlu melinau mawr ar yr ystadau.

Mae dogfennau ystadau, yn cynnwys mapiau ystadau, yn chwarae rhan hollbwysig i wella ein dealltwriaeth o’r ‘prosesau hanesyddol’ sy’n sail i asedau coetiroedd Cymru. Yn y Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn dechrau ystyried rhai o’r cyfleoedd ymchwil sy’n cydgysylltu ecoleg, hanes, coedwigaeth, rheoli tir ac archifau – gan gysylltu ymchwil gyda pholisi ac ymarfer. Yn gynharach eleni, gwnaethom greu partneriaeth gyda Chymdeithas Myfyrwyr Coedwigaeth Bangor (BFSA)  a’r elusen Treftadaeth Coetiroedd  i drefnu digwyddiad oedd yn canolbwyntio ar orffennol, presennol a dyfodol rheoli coetiroedd. Hynny yw, sut y gellir defnyddio gwell dealltwriaeth o fframwaith hanesyddol rheoli coetiroedd ar ystadau Cymru i hyrwyddo egwyddorion rheoli coetiroedd cynaliadwy yn yr 21ain ganrif yng Nghymru?

Un ffordd bwysig y gall mapiau ystadau gyfrannu at yr agenda hwn yw trwy’r Rhestr Coetiroedd Hynafol (AWI) , a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r set ddata hon yn nodi ardaloedd yng Nghymru sydd wedi eu gorchuddio’n barhaus â choetiroedd ers tua 1600, gan felly cynhyrchu ecosystemau sy’n tueddu i fod yn fwy amrywiol o ran ecoleg, yn bwysig o ran diwylliant ac yn haeddu cael eu hamddiffyn. Hyd yma, mae’r Rhestr o Goetiroedd Hynafol yng Nghymru wedi ei seilio’n bennaf ar y coetiroedd a farciwyd ar fapiau OS o’r 19eg ganrif. Mae’n ymddangos bod cyfle gwirioneddol i archwilio sut y gellir defnyddio mapiau cynharach o ystadau (a dogfennau cysylltiedig o ystadau) i wella cywirdeb, sylw, dyfnder a manylion y Rhestr o Goetiroedd Hynafol, gan gynnwys nodi sut mae ffiniau coetiroedd wedi newid dros amser a dynodi’r ‘hen’ goed.

Dyma un o’r gwahanol ffyrdd y gellir defnyddio hen fapiau ystadau fel adnodd defnyddiol ar gyfer dyfodol tir Cymru.

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog