Blog

#CaruMapiau – Rhys Jones

#CaruMapiau / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 31-10-2017

Mapio newid a newid mapiau– Cofnod blog gan yr Athro Rhys Jones Prifysgol Aberystwyth fel rhan o ymgyrch #CaruMapiau


Mae’n fy anesmwytho i weld mapiau sy’n cyflwyno lle neu ranbarth cyfarwydd mewn ffordd anghyfarwydd, a does dim yn fy mhoeni fwy na map o fy ngwlad fy hun sydd, rywsut, yn edrych yn wahanol i’r un yr wyf wedi arfer ei weld. Un gyfres o fapiau fel hyn yw’r un sy’n ymddangos ym monograff Edward Hull (1882) ar hanes ffisegol Ynysoedd Prydain. Mae’r mapiau’n dangos y graddau y mae Ynysoedd Prydain wedi newid o ganlyniad i oes yr iâ yn ystod y cyfnod Chwarteraidd neu, mewn geiriau eraill, yn ystod yr 1.8 miliwn o flynyddoedd diwethaf. Gallwch weld o’r mapiau yma fod siâp Ynysoedd Prydain wedi datblygu dros amser o ganlyniad i newid yn lefel y môr yn sgil cynnydd a chiliad y llenni iâ. Bydd darllenwyr y blog yma’n  ymwybodol erbyn hyn, fod fy nghysylltiad ag Anghydffurfiaeth o oed cynnar iawn wedi golygu bod bob blog yn seiliedig ar dri phen. Fydd darllenwyr ddim yn synnu fod yr un patrwm yn parhau yma.

 

Yn gyntaf, mae edrych ar fapiau Hull  a’r newid yng nghyfuchlinau Ynysoedd Prydain yn ein hatgoffa o’r rôl bwysig y mae mapiau o’n gwlad ein hunain yn ei chwarae i’n hatgoffa o bwy ydym a’r lle yr ydym yn gysylltiedig ag ef. Yn ôl yn y 1980au, dangosodd Michael Billig fod cenedlaetholdeb yn hunaniaeth gr?p endemig ym mhob gwlad a bod cyfres o symbolau cyffredin yn helpu i atgoffa unigolion eu bod yn aelodau o genedl benodol. Mae mapiau o’n gwlad ein hun yn cyflawni’r swyddogaeth hon. Er enghraifft,  dydi mapiau tywydd byth yn cael eu labelu ag enw’r wlad lle mae’r tywydd yn cael ei ddisgrifio; ein tywydd ‘ni’ yw hwn, gan ei fod yn gysylltiedig â’n gwlad ‘ni’, sy’n helpu i gadarnhau ein hymlyniad â’n cenedl ‘ni’. A dyna pam fod mapiau fel rhai Hull yn fy anesmwytho. Mae’r cyfarwydd yn anghyfarwydd ynddynt. Maent yn dangos bod y sicrwydd daearyddol yr ydym mor gyfarwydd ag ef yn bopeth ond hynny. Os yw sefydlogrwydd cymeriad ffisegol ein gwlad mor dwyllodrus, beth ddywed hynny am ein cenedl a’n hunaniaeth?

 

Yn ail, mae mapiau Hull yn ein helpu i werthfawrogi bod ein morlin wedi bod yn gyfnewidiol erioed. Wrth gwrs, nid proses hanesyddol yn unig yw natur gyfnewidiol ein morlin ond mae’n bryder gwirioneddol mewn nifer o gymunedau ar hyd yr arfordir heddiw. Nepell o ble rwy’n teipio, yn y Borth a’r Friog, ceisiwyd adeiladu ac atgyfnerthu amddiffynfeydd morol fel ffordd o estyn oes yr aneddiadau yma. Tra bod dyfodol yr aneddiadau yma’n debygol o fod yn ansicr, mae rhywfaint o obaith y gall y problemau ein helpu i sylweddoli realiti effaith newid hinsawdd ar ein bywydau. Yn rhy aml rydym yn meddwl am newid hinsawdd fel rhywbeth haniaethol, neu ar y gorau, yn ei ystyried fel rhywbeth sy’n effeithio ar bobl ac amgylcheddau mewn mannau eraill (mae’r cymunedau ar ynys Vanuatu yn y Môr Tawel a’r  arth wen yn yr Arctig yn enghreifftiau amlwg). Efallai bod angen mwy o bwyntiau cyfeirio lleol – ac felly, rhai sydd efallai’n fwy real na hyn – os ydym am newid ein ffordd o fyw er mwyn lleihau effaith tymor hir newid hinsawdd. Gallai’r frwydr barhaus yn erbyn y môr, y llanw a’r tonnau mewn llefydd fel y Borth a’r Friog, ein helpu i sicrhau’r symbyliad y mae angen mawr amdano i sicrhau newid i ni yng Nghymru.

 

Yn drydydd, mae mapiau Hull hefyd yn gwneud pwynt llawer ehangach yngl?n â gallu mapiau i gynrychioli newid. Mae’r mapiau yr ydym wedi tyfu i fyny â nhw mewn atlasau neu ar waliau’n gyfrwng sefydlog unigryw o ddosbarthiad ffenomena ond yn aml maent yn cael trafferth i gynrychioli’r newid mewn dosbarthiadau dros gyfnod o amser. Mae cyfres o fapiau, fel y rhai a ddarlunnir ym monograff Hull, yn gallu mynd peth o’r ffordd i ddangos natur y newidiadau dros amser ac mae’r defnydd creadigol o goroplethau a saethau, i ryw raddau, yn gallu cynrychioli newid dynamig. Ond dim ond hyd at ryw bwynt. Mae’n bosibl mai mapiau digidol sy’n rhoi’r ateb gorau yma fel ffordd o ddangos newidiadau yn y gorffennol, yn ogystal â chymeriad datblygiadau’r presennol a phosibiliadau’r dyfodol. Enghraifft dda o hyn yw’r map sy’n seiliedig ar y we, a luniwyd i fodelu effaith gwahanol lefelau’r cynnydd yn lefel y môr mewn cymunedau ar hyd yr arfordir yn yr Iseldiroedd a’r Deyrnas Unedig (http://geology.com/sea-level-rise/netherlands.shtml). Rwy’n hoff iawn o’r map papur, a hyd yn oed nawr, a minnau’n ganol oed, rwy’n mwynhau arferiad a ddatblygais yn ystod fy ieuenctid; sef troi tudalennau atlas. Ac eto, efallai mai arferiad sy’n perthyn i’r gorffennol yw hwn. Efallai bod angen i ni newid ein mapiau i allu mapio newid yn effeithiol.

 

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Rhagor o gofnodion #CaruMapiau

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

One response

Diddorol

Nia Jones

Commented Tachwedd 8, 2017 / 08:02:20

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog