Blog

Postiwyd - 14-06-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Mary-Ann Constantine

Mae Mary-Ann Constantine yn Ddarllenydd yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae hi’n gweithio ym maes llên Cymru y ddeunawfed ganrif ac ar hyn o bryd mae hi’n arwain prosiect wedi ei ariannu gan yr AHRC: Teithwyr Chwilfrydig: Thomas Pennant a Theithio yng Nghymru a’r Alban 1760-1820.

A Map of Wales according to the Antient Divisions of GWYNEDD, POWYS and DINEFAWR; with their respective CANTREVS, subdivided into COMOTS. By Wm Owen (1788)

Dyma fap o Gymru Fu: golygfa o’r gorffennol, a welir o safbwynt arbennig ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Crewyd y map hwn ar adeg pan oedd y gorffennol, ac yn enwedig y gorffennol canoloesol, yn destun ymchwil angerddol ymhlith grwp egnïol o awduron ac ysgolheigion yng Nghymru ac yn Llundain.

Mae’n fap cymhleth a diddorol ar sawl lefel, yn frith o enwau swynol a straeon cuddiedig. Ymddangosodd yn ail-argraffiad The History of Wales (1788) gan y Parch. William Warrington, ac fe’i cynlluniwyd gan Gymro ifanc o Feirionnydd o’r enw William Owen (1759-1835). Roedd Owen (sy’n fwy adnabyddus fel William Owen Pughe, enw a fagodd yn sgîl derbyn etifeddiaeth yn 1806) wedi ymgartrefu yn Llundain ers 1776, ac ymunodd â Chymdeithas y Gwyneddigion tua 1783. Erbyn iddo gynllunio’r map hwn (yn ogystal â map arall yn dangos y rhaniadau modern) yr oedd eisoes wedi ymrwymo i gynlluniau ‘canoloesol’ eraill, megis golygu’r cyhoeddiad cyntaf o farddoniaeth Dafydd ap Gwilym (1789). Yn ystod y gwaith hwnnw daeth i gysylltiad â Iolo Morganwg, ac mae’n debyg i Iolo ddod â Warrington a William Owen at ei gilydd.

Pwy oedd William Warrington? Daeth ei deulu o Wrecsam, ond treuliodd y rhan fwyaf o’i oes yn ne Lloegr, gan bennu ei yrfa yn yr eglwys fel ficer Old Windsor. Yn y rhagymadrodd i’r History of Wales, mae’n honni fod ei statws fel ‘Englishman’ yn ei warchod rhag gyhuddiadau o bleidgarwch (ac yn wir, mae’r llyfr yn llawn edmygedd tuag at y Cymry am y ffordd yr oeddent yn amddiffyn eu hunain yn wrol dros y canrifoedd). Ceir rhagor o wybodaeth am fywyd ac amcanion Warrington ei hun mewn llawysgrif ddi-enw a pheth gohebiaeth a gedwir yma yn y Llyfrgell; maent yn taflu rhywfaint o oleuni newydd ar gynhyrchiad y llyfr, a beth a’i sbardunodd.

Mae’n stori braidd yn Jane Austenaidd ei naws, sy’n cyffwrdd â chymlethdodau dosbarth, blaenoriaeth, ac awduraeth, ond yn fras mae’n ymddangos bod Warrington yn bwriadu cyhoeddi ‘Antiquarian Tour’ o ogledd Cymru yn y 1770au hwyr. Wrth iddo adolygu ei lawysgrif, clywodd fod cyfrol gyntaf Thomas Pennant o’r Tours in Wales (1778) ar fin ymddangos. Gan weld byddai’r ddau lyfr yn troedio (bron yn llythrennol) yr un tir, newidiodd Warrington ei amcan gwreiddiol a throi at ysgrifennu llyfr hanes, gan fagu naratif gronolegol yn hytrach nag un sy’n darganfod y gorffennol in situ, yn y tirwedd ei hun. Mae llwyddiant Teithiau Pennant, yn ogystal â llwyddiant ei History ei hun, yn awgrymu ei fod wedi gwneud y penderfyniad iawn.

Ceir asesiad trwyadl o fapiau William Owen o safbwynt cartograffegol gan Iolo a Menai Roberts. Dyna’r ymgais cyntaf, meddant, i ddangos hen raniadau Cymru mewn ffordd weledol – a hynny hyd at lefel fanwl y cymydau. Mae’r map hwn yn ymgais, felly, i roi ffurf a llun ar lefydd sy’n ymddangos yn y testunau canoloesol. Prif ffynhonnell Owen oedd rhestr o enwau a wnaethpwyd gan Syr John Price (?1502-1555), rhestr oedd wedi ymddangos yn y Historie of Cambria (1584) gan David Powel (cyfrol oedd yn bwysig i Warrington hefyd). Er fod gan ysgolheigion ar ddechrau’r ugeinfed ganrif duedd i fychanu map William Owen (nid oedd ei syniadau diweddarach am orgraff y Gymraeg, na’i gysylltiad agos â Iolo Morganwg wedi helpu yn hyn o beth), mae gwaith Iolo a Menai Roberts yn dangos yn glir faint o gamp, mewn gwirionedd, oedd y map.

Mae gan yr enwau canoloesol ryw swyn eu hunain (Perfeddwlad, Anhunog, Yr Ardd Ganol…) ond mae sawl peth arall i godi chwilfrydedd yma. Mae Cantre’r Gwaelod a Llys Helig—tiroedd chwedlonol boddedig—yn ymddangos ar y map gydag esboniadau byr (‘This Tract was overflowed about the end of the Sixth Century’); Clawdd Wat, nid Clawdd Offa, sy’n diffinio’r terfyn gyda Lloegr, a dim ond yr enwau Cymraeg sy’n ymddangos am Fryste (‘Caerodornant’), Gloucester (Caerloyw) a Worcester (Caerwrangon). Gwelir ‘Druidical ruins’ ar y llethrau uwchben y Bermo, a Beddau Gw?r Ardudwy ger Harlech. Dyna dirwedd llawn chwedlau, neu ddarnau ohonynt — a’r gweddillion, efallai, i’w darganfod wrth archwilio’n fanwl yn y corpws o gerddi a rhyddiaith cynnar oedd yn dod at ei gilydd yn raddol yn ystod y degawdau yna, i ffurfio canon llên gynnar Cymru.

Ceir hefyd ar y map hwn safleoedd brwydrau a chestyll di-ri. Nid yn unig y ‘usual suspects’ Edwardaidd, ond ugeiniau o rai eraill, a’r cyfan yn tystio i’r ffaith mai rhaniadau go-iawn oedd y ‘Divisions’ a welir yma. Nid oedd Cymru’r oesoedd canol yn lle heddychlon. Yng nghlytwaith y map cofnodir dyledogaethau newidiol, y cynghreirio a’r bradychu ymhlith teyrnasoedd y Cymry eu hun, heb sôn am y brwydro a’r tangnefeddu a fu gyda charfannau gwahanol o Sacsoniaid, Normaniaid, a Saeson. Mae anghydfod di-baid yr oesoedd canol yn thema barhaol mewn ysgrifau teithio diweddarach. Dyma Richard Ayton, yn 1813, yn sôn am Fro G?yr a De Penfro: ‘as both were inhabited by the same people, engaged continually in the same kind of warfare, their general history is necessarily very much alike, and in both of them castles are as multitudinous as milestones.’ Daeth rhai i’r casgliad, fel Warrington ei hun, fod ysbryd rhyfelgar y Cymry gynt yn destun edmygedd, ond bod pawb yn well o lawer ar ôl iddynt gyfnewid eu ‘wild and precarious liberty’ am ryddid call ‘secured by equal and fixed laws’— a hynny trwy ‘uniting in interests, and mingling in friendship with their conquerors’. Er gwaethaf ymrwymiad amlwg Warrington i ddiwylliant Cymru, mae ei gasgliadau wedi lliwio beirniadaeth o’i waith fel hanesydd. Ac eto: awgryma map hardd a phryfoclyd William Owen fod rhagor i’w ddarganfod am gysylltiadau deallusol ar draws y ddau ddiwylliant yn y cyfnod byrlymus hwn ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

Iolo and Menai Roberts, ‘William Owen (Pughe), y Mapiwr’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyfrol XXX, Rhifyn 3 (Haf, 1998) 295-322
Bydd ‘Antiquarian Tour’ William Warrington a’i lythyrau at Thomas Pennant yn ymddangos ar wefan y Teithwyr Chwilfrydig

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog