Blog

Postiwyd - 09-08-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Dr Shaun Evans

Dr Shaun Evans yw Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, canolfan ymchwil i Gymru gyfan sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Bangor ac sy’n edrych ar faterion yn ymwneud â hanes, diwylliant a thirweddau Cymru drwy lygaid ei hystadau a’u casgliadau treftadaeth ddiwylliannol. @YstadauCymru

‘Dydi’r lle yma ddim digon mawr i’r ddau ohonon ni’ – beth sy’n digwydd ar ffiniau ystadau?

Mae fy nghyfraniad terfynol i’r gyfres o flogiau ar fapiau ystadau Cymreig yn canolbwyntio ar thema ffiniau. Fel y trafodwyd o’r blaen, roedd perchenogaeth tir yn rhan allweddol o hawliau’r uchelwyr Cymreig i statws, anrhydedd ac awdurdod. Roedd y cysylltiadau hyn rhwng tir a grym yn arwain yn aml at haeriadau cryfion ynghylch eu tiriogaeth gan berchenogion ystadau a dyna oedd un o’r prif ysgogiadau i gynhyrchu mapiau ystâd: cofnodion sy’n pwysleisio’n weledol leoliad, maint a chyfansoddiad tiriogaeth unigolion.

Comisiynwyd y mwyafrif llethol o fapiau ystadau i ddangos y tiroedd a oedd yn perthyn i un ystâd. Fel rheol, ni ddangosir fawr ddim manylion am dir nad oedd yn eiddo i’r unigolyn a gomisiynodd y map. Fodd bynnag, maent yn nodi’n aml pwy oedd yn berchen ar y tiroedd cyfagos, gan nodi enwau tirfeddianwyr cymdogol ar ymylon y tiriogaethau a farciwyd ar y map. Gwelir hyn yn arbennig os nad oedd yr ystâd dan sylw yn uned gyfan gyda’i gilydd, ond yn hytrach yn glytwaith o diroedd wedi’u cymysgu â daliadau ystadau eraill.

Y cwestiwn rwyf eisiau edrych arno yn y blog hwn yw beth oedd yn digwydd ar y ffiniau rhwng dwy ystâd?

Roedd ffiniau yn aml wedi’u nodi yn y tirwedd gan nodweddion ffisegol megis coed, afonydd, gwrychoedd, waliau a ffosydd. Ceir hefyd lawer o enghreifftiau yng Nghymru o gerrig ffiniau yn nodi ffiniau ystâd yn y tirwedd, megis ar y Mynyddoedd Du yn Sir Frycheiniog, lle gwelir llinell o gerrig o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn nodi ffiniau tiroedd teulu Macnamara o Llangoed Hall. Mewn rhai mannau ceid hefyd draddodiad o ‘guro’r terfynau’, lle roedd grwpiau o bobl leol yn cerdded o amgylch terfynau maenor neu blwyf, a thrwy hynny sicrhau bod y terfynau yn ddwfn yng nghof y boblogaeth leol.

Er gwaetha’r ceisiadau hyn i sicrhau terfynau, roeddent yn destun anghydfodau cyson, a allai’n aml arwain at achosion cyfreithiol.

Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir map sy’n canolbwyntio ar ffiniau dwy ystâd a oedd yn sefyll o amgylch rhan o Afon Cothi ym mhlwyf Cynwyl Gaeo yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n ymddangos i’r map gael ei gynhyrchu mewn ymateb i achos cyfreithiol a ddaeth gerbron Llys y Sesiwn Fawr yn 1778 gan John Johnes, sgweier Dolaucothi, yn erbyn William Davys o Kencoed (Cefn-Coed Mawr) yn ymwneud â ‘the watercourse’ ( Eaton Evans & Williams Solicitors Records, 3281, 7469).

Ymgais yw’r map i wahaniaethu rhwng y ddwy ystâd, gyda thiroedd Mr Johnes wedi’u hamlinellu mewn du a rhai Mr Davys mewn coch a gwyrdd (roedd y tiroedd mewn gwyrdd yn rhai a ddaeth i feddiant Mr Davys yn ddiweddar, a chyn hynny’n rhan o ystâd Millfield/Maesyfelin). Mae’r map yn dangos pa mor agos oedd y ddau d? ac er mai plasty Dolaucothi yn amlwg oedd yr adeilad gwychaf (gyda gerddi ffurfiol o’i amgylch ac adeiladau allan yn cynnwys ysgubor a melin), mae’r map yn rhoi’r argraff bod Kencoed yn rhy agos i fod yn braf. Roedd y ddwy ystâd yn ymyrryd â haeriadau tiriogaethol ei gilydd.

Mae llinell felen ar y map yn nodi’r terfyn rhwng y ddwy ystâd, sydd gan mwyaf yn dilyn llwybr yr afon, er bod dwy ran fechan, wedi’u nodi mewn glas, y cyfeirir atynt fel ‘unknown property’. Mae 28 o rifau wedi’u nodi ar y tiroedd sy’n ffinio’r afon ac mae’r rhain yn gysylltiedig â nodiadau ac eglurhadau ysgrifenedig ar ochr y map.

Yr hyn a ddaw i’r amlwg o’r nodiadau hyn yw bod y ddwy ystâd wedi bod yn gwneud defnydd helaeth o’r afon fel rhan o’u cynlluniau i reoli tir ac adnoddau. Cyfeiria dau o’r nodiadau at ‘the water diverted from its usual channel to Kencoed’ a ‘the trench made by Richard Davies about 30 years past to convey water to Kencoed’; tra cyfeirir hefyd at ‘the reservoir of water for watering Cae-cwm-yr-hen-d? Issa and other lands of Dolecothy demesne’ ac ‘a trench to convey water to Cae Rodyn & other lands of Dolecothy demesne in winter and spring for watering the same’.

Roedd ystadau Dolaucothi a Kencoed wedi ailgyfeirio neu sianelu’r afon i gwrdd â’u hanghenion, gyda nodiadau’n cyfeirio at y canlynol:

– ‘The place the water formerly divided, part going to the mill and the remainder thro Henberllan to Dolecothy mansion’;
– ‘The channel of the watercourse formerly in the upper part of Cae Rodyn and Cae T? Bach’;
– ‘That part of the trench which conveyed the water by Waynnefain hedge, years past & upwards’;
– ‘A trench that formerly conveyed the water to Dolecothy’.

Fodd bynnag, nid oedd y cynlluniau’n gydnaws â’i gilydd, gan arwain at anghydfod ynghylch yr adnoddau d?r. Mae un o’r nodiadau’n crybwyll ‘the new trench cut by Mr. Johnes and ye water diverted from thence by Mr. Davys’ servants to the ancient channel’; ac mae eraill yn cyfeirio at ‘the trench that conveys the water in dispute to Kencoed’ a ‘the trench for conveying the water in dispute to water Cae-cwm-yr-hen-d? Issa and other lands at Dolecothy demesne.’ Yn ogystal â’r anghydfod ynghylch y d?r, roedd y gwahanol gynlluniau a oedd wedi arwain at ailgyfeirio’r afon wedi symud, neu o leiaf gymhlethu, y terfyn rhwng y ddwy ystâd, gydag un o’r nodiadau’n cyfeirio at ‘the piece of land in dispute’.

Ni wyddys beth oedd canlyniad yr achos yn y Sesiwn Fawr, er bod y map yn rhoi’r argraff nad oedd yr ardal yn gallu cynnal honiadau’r ddwy ystâd gymdogol. Nid yw’n syndod efallai i Kencoed a’r tiroedd o’i gwmpas gael eu prynu gan ystâd Dolaucothi yn 1856 (Dolaucothi Estate Records, 179). Roedd agosrwydd Kencoed i’r ystâd fwy, yn ogystal â’r gystadleuaeth roedd yn ei achosi o ran defnyddio’r afon, yn ysgogiad sylweddol i gyfuno’r ddwy ystâd, gan lyncu’r tiroedd a dod â hwy o fewn cylch awdurdod Dolaucothi.

Dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn bwriadu hyrwyddo ymchwil bellach i gasgliadau Cymru o fapiau ystadau. I gael gwybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, newyddion a digwyddiadau, anfonwch e-bost at iswe@bangor.ac.uk i danysgrifio i’n rhestr ohebu.

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog