Blog

Postiwyd - 19-04-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Bob Silvester

Dr Bob Silvester, FSA, Athro Gwadd, Prifysgol Caer sy’n cymryd rhan yn ein ymgyrch #CaruMapiau

Ac yntau’n archaeolegwr proffesiynol trwy gydol ei fywyd gwaith, yn gyntaf yn Nyfnaint a
Gwlad yr Haf ac yn ddiweddarach yn Norfolk, symudodd i Gymru yn 1989 pan benodwyd ef yn ddirprwy gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys. Ymddeolodd o’r Ymddiriedolaeth ar ddechrau 2016, ac at ddibenion ymchwil mae e’n awr â chyswllt agos ag adran Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caer. Cychwynnodd ei ddiddordeb ymhob math o fapiau hanesyddol, ond yn arbennig mapiau ystadau, yn ystod ei gyfnod ar ffendiroedd Norfolk lle’r oedd mapiau’n atodiad hanfodol i’r gwaith maes a ddatgelai datblygiad y dirwedd hanesyddol. Yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf, mae ei ddiddordeb mewn mapio wedi tyfu a gan ei fod yn awr wedi ymddeol, mae’n gallu treulio mwy o amser o fewn muriau archifdai lleol ac wrth gwrs y Llyfrgell Genedlaethol yn astudio mapiau dwyrain Cymru a’r siroedd cyfagos ar y ffin yn Lloegr.

William Williams’ Denbigh and Flint

 

Fel archaeloegydd nid yw mapiau sirol wedi cynnig llawer o wybodaeth i mi. Bron yn anochel roeddent wedi’u llunio wrth raddfa oedd yn rhy fach i ddangos manylion y newidiadau yn y dirwedd sy’n bwysig i’n hastudiaethau ni. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd y bûm yn gweithio yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, byddwn o bryd i’w gilydd yn gweld cyfeiriadau at New map of Denbigh and Flint, gan William Williams, yn dyddio o 1720 neu 1721, mewn llyfrau ac erthyglau ond heb weld y map ei hun. Yr hyn a oedd yn gyffredin rhwng y cyfeiriadau hynny oedd y cysylltiad honedig ag ychydig o rai eraill o ddechrau’r ddeunawfed ganrif, oedd gyda’i gilydd, yn enghraifft o ‘don newydd’ o fapiau sirol a oedd yn olynu mapiau Saxton, Norden a Speed o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg a dechrau’r ail ganrif ar bymtheg, gyda map William Williams’ yn cynrychioli’r unig fap Cymreig ymysg y mapiau arbennig eraill.

Cafodd William Williams ei hun yrfa ddiddorol ond cymharol fer. Aeth ati i wneud arolygon ystâd cywrain yng nghanol yn 1730au ar gyfer tirfeddianwyr o bwys yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a Swydd Gaer, cyn dioddef o ‘gowt yn ei stumog’ yn 1739. Y tu allan i Gymru mae’n fwy adnabyddus am ei gyfrol o luniadau pensaernïol dan y teitl Oxonia Depicta a gyhoeddwyd yn 1732-33. Wrth astudio arolygon ystadau Williams, roedd yn anochel y byddwn yn edrych ar ei waith cartograffeg cynharach, a daeth dwy ffaith â chysylltiad rhyngddynt i’r amlwg. Y naill oedd mai ychydig oedd wedi’i ysgrifennu am y syrfëwr, gydag awdur diweddar ar bensaernïaeth hanesyddol Rhydychen yn dweud ei fod yn aneglur, sydd mae’n debyg yn sylw teg yng nghyd-destun canol Lloegr. O safbwynt ei fap sirol, mae’r unig sylwadau o sylwedd mewn papur a gasglwyd gan Glyn Walters LlGC yn 1968. Yn fwy diddorol, roedd yn amlwg yn 1968 a hyd yn oed fwy erbyn heddiw, er gwaetha’r ffaith mai map printiedig yw hwn, mai dim ond un copi y gwyddys amdano – y copi a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol – a allai esbonio i raddau pam fod cyn lleied wedi’i ysgrifennu amdano.

Ar yr olwg gyntaf mae map Williams yn wahanol iawn i’r mapiau sirol o’i flaen. Yn yr iaith fodern mae’n ‘brysur iawn’. Prin fod modfedd sgwâr o le gwag gan fod nifer fawr o dariannau arfbeisiol ar hyd ymylon y map wedi’u croesgyfeirio â rhif neu lythyren yn perthyn i dai’r pendefigion a’r bonedd sydd wedi’u marcio ar y map ei hun. O ran y teuluoedd amlycaf – teulu Grosvenor, teulu Mostyn, y Wynniaid – i gyd-fynd â’r harfbeisiau mae drychiadau o’u prif gartrefi yn y wlad. Fel pe na bai hynny’n ddigon mae lleoedd gwag o gwmpas y siroedd ar y map wedi’u llenwi â golygfeydd o Gaer a Dinbych, dwy o eglwysi mawr y siroedd – Wrecsam a Gresford – er efallai y dylid nodi na ddangosir eglwys gadeiriol Llanelwy, a’r gwaith plwm neu’r ‘wyrcws’ yn Gadlas ger y Fflint. Eto i gyd mae tystiolaeth gynyddol, er bod hyn yn rhywbeth yr wyf yn dal i weithio arno, fod Williams wedi mabwysiadu elfennau o fap Saxton ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg neu efallai yn fwy tebygol, un o’u waith mwy diweddar ar gyfer ei gynllun ei hun, yn hytrach na chynnal arolwg o’r ddwy sir o’r newydd. Yna cywirodd neu diweddarodd yr enwau lleoedd, gan ddileu un neu ddau adeilad oedd wedi diflannu yn ystod y ganrif a hanner flaenorol, ond gan ychwanegu nifer fawr o blastai yn ogystal â phrif ffyrdd.

Hyd y gwn i nid oed oes llawer o fapiau wedi eu cyhoeddi sy’n dangos nodwedd map sy’n cynnwys arfbeisiau prif dirfeddianwyr y rhanbarth, er efallai y bydd gan ddarllenwyr y blog hwn fwy o wybodaeth na mi. Un map sydd newydd ei gyhoeddi’n llawn gan Gymdeithas Cofnodion Swydd Gaerhirfryn yw Mapp of the Great Levell of the Fenns gan Jonas Moore o 1658, un arall yw A New General Atlas… gan John Senex a gyhoeddwyd yn Llundain lle mae’r tanysgrifenwyr niferus i’r atlas byd hwn wedi’u cynrychioli ar nifer o dudalennau rhagarweiniol gan eu harfbeisiau. Mae dyddiad y General Atlas – 1721 – yn bwysig yng nghyd-destun gwaith William Williams, yn anad dim oherwydd ar ddiwedd y teitl ar ei fap sirol mae’r geiriau L Senex sculpt wedi’u harysgrifio.

Fersiwn digidol o’r map

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog