Blog

#CaruMapiau – Bob Silvester

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections - Postiwyd 10-05-2018

Dr Bob Silvester, FSA, Athro Gwadd, Prifysgol Caer sy’n cymryd rhan yn ein ymgyrch #CaruMapiau

Ac yntau’n archaeolegwr proffesiynol trwy gydol ei fywyd gwaith, yn gyntaf yn Nyfnaint a Gwlad yr Haf ac yn ddiweddarach yn Norfolk, symudodd i Gymru yn 1989 pan benodwyd ef yn ddirprwy gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys. Ymddeolodd o’r Ymddiriedolaeth ar ddechrau 2016, ac at ddibenion ymchwil mae e’n awr â chyswllt agos ag adran Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caer. Cychwynnodd ei ddiddordeb ymhob math o fapiau hanesyddol, ond yn arbennig mapiau ystadau, yn ystod ei gyfnod ar ffendiroedd Norfolk lle’r oedd mapiau’n atodiad hanfodol i’r gwaith maes a ddatgelai datblygiad y dirwedd hanesyddol. Yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf, mae ei ddiddordeb mewn mapio wedi tyfu a gan ei fod yn awr wedi ymddeol, mae’n gallu treulio mwy o amser o fewn muriau archifdai lleol ac wrth gwrs y Llyfrgell Genedlaethol yn astudio mapiau dwyrain Cymru a’r siroedd cyfagos ar y ffin yn Lloegr.

Mapblog 4 Cyfrol Tredegar 1780 Map 1

Mae’r  cyflenwad o fapiau ystadau ledled siroedd Cymru yn nodedig o anghyson.  Gall Sir Fynwy ymffrostio yn rhai o’i harolygon trawiadol a niferus, sy’n cael eu dal yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol.  Mae’r rhain yn dyddio o ganol ail hanner y ddeunawfed ganrif gan bobol megis Robert Snell a John Aram.  Ar y llaw arall, gellir dadlau mai Sir Faesyfed yw’r sir dlotaf yng Nghymru o ran arolygon ystadau.   Yn ddaearyddol rhwng y ddwy y mae Sir Frycheiniog, sir a gynhyrchodd ond dau neu dri o dirfesurwyr trwy gydol y ddeunawfed ganrif gyda’i gwaddol o fapiau ystadau yn gwbl ddinod.

Serch hynny, un tirfesurydd y mae ei waith yn y sir o ddiddordeb neilltuol oedd Edward Thomas o Fargam ym Morgannwg.   Ymhlith archifau Tredegar yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir cyfrol gain o arolygon Thomas o ddaliadau Charles Morgan yn Sir Frycheiniog a gafodd eu gwneud yn 1780-1.  Cafodd cyfrol gydymaith, yn yr ystyr ei bod yn debyg iawn mewn golwg a chynllun, ei pharatoi yn 1780 ar gyfer ystadau Arglwydd Camden yn Sir Frycheiniog, er bod cymhariaeth uniongyrchol yn gorfod dibynnu ar ddelweddau digidol yr wyneb-ddalennau, mapiau a rhestrau gan fod y gyfrol hon yn cael ei dal yn archifau sirol Caint ym Maidstone.   Mae trydydd ‘atlas’ Thomas o ystadau yn y sir sy’n perthyn i George Venables Vernon o Lansawel (Britton Ferry) yn dyddio o 1776 ac yn awr ar gael yn archifau Gorllewin Morgannwg yn Abertawe.

Gyda’i gilydd, mae’r tri arolwg hwn yn cwmpasu mwy na 14,000 erw, ac felly tua 3% o arwynebedd tir sir Frycheiniog sydd mor gyforiog o hanes.   Efallai nad yw hyn yn ymddangos yn ffigwr nodedig iawn ond mae’n dipyn mwy nag y byddai llawer o dirfesurwyr y ddeunawfed ganrif wedi’i gyflawni mewn unrhyw ardal o faint cyffelyb.   Ac ar gyfer yr hanesydd tirwedd,  mae Edward Thomas yn cynnig rhai manteision annisgwyl.  Roedd llawer o dirfesurwyr yn bodloni’n unig ar fapio cynllun y caeau, y cyrsiau d?r, y ffyrdd a’r lonydd oedd yn pasio trwy ystâd eu noddwr, a’r adeiladau o fewn ei ffiniau.   Pur anaml y byddai tirfesurydd yn cynnwys mân nodweddion y deuai ar eu traws yn y dirwedd, nodweddion fyddai’n ychwanegu’r nesaf peth i ddim i’r darlun amaethyddol y cafodd ei gomisiynu i’w ddarlunio a’i feintioli, ond serch hynny a allai fod o ddiddordeb sylweddol i ni.

Cymerwch er enghraifft y map cyntaf yn atlas Tredegar, sydd wedi’i atgynhyrchu yma.  Gan ei fod yn fap mawr ac addysgiadol, cafodd ei blygu ddwywaith fel bod lle iddo yng nghyfrol Thomas.  Yn agos i’r  ffin orllewinol saif tref Aberhonddu.  Roedd daliadau Charles Morgan o fewn y dref yn fychan er ei fod yn berchen y castell, a darluniodd Thomas eglwys y priordy hefyd (Eglwys Gadeiriol Aberhonddu yn awr) gan ychwanegu at y cyd-destun.  Nawr, pe byddem ni’n cyfuno’r map hwn â phortread Thomas o ddaliadau’r Arglwydd Camden o fewn ac o amgylch y dref, byddem yn cael darlun digon defnyddiol o Aberhonddu fel yr oedd yn 1780.  Ymhellach i’r dwyrain, a bron yng nghanol y map y mae Slough Tump.  Yn ddiddorol, roedd hwn wedi cael ei arolygu ugain mlynedd yn gynharach gan y tirfesurydd o Aberhonddu, Meredith Jones, ac mae ei fap yntau hefyd yn y Llyfrgell Genedlaethol.  Darluniodd Jones Slough Tump fel cae syml er ei fod o siâp rhyfedd, a dangoswyd y caeau cyfagos yn yr un modd, yn wag o unrhyw fanylder.  Fodd bynnag, dewisodd Thomas ei labelu yn ‘hen amddiffynfa’ (sy’n ddigon cywir gan ei fod yn gaer fynyddig o’r Oes Haearn) a hefyd rhoddodd iddo’r teitl cyfareddol ‘Ginger Wall’,  trwy gwrteisi hysbysydd lleol yn ôl pob tebyg, ond enw dydw i heb ddod ar ei draws mewn unrhyw ffynhonnell arall.   I’r gogledd o’r twmpath ond nid ar dir Morgan safai Capel Santes Eluned:  does dim olion gweladwy o’r adeilad heddiw, ond yn amlwg roedd ei adfeilion yn weladwy ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif.  Ac i’r gogledd orllewin o’r capel roedd olion creiriol o’r caeau agored canoloesol o amgylch y dref, yn cael eu dangos fel lleiniau cul, unwaith eto rhywbeth a fethodd Meredith Jones eu dangos.  Yn yr un ardal fechan hon yn unig, gellir cyfannu’r  sylw a roddai Edward Thomas i fanylion gyda phortreadau o ‘hen fancyn’ ac ‘olion clawdd’, ffiniau caeau a oedd erbyn ei ddyddiau ef wedi peidio â bod o ddefnydd bellach.  Mae’n drueni nad oedd rhagor o dirfesurwyr yng Nghymru’r ddeunawfed ganrif wedi gwerthfawrogi manylion y dirwedd i’r un graddau.      

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Rhagor o gofnodion #CaruMapiau

Casgliad Mapiau’r Llyfrgell

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog