Blog

#CaruMapiau – Bob Silvester

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 03-05-2018

Dr Bob Silvester, FSA, Athro Gwadd, Prifysgol Caer sy’n cymryd rhan yn ein ymgyrch #CaruMapiau

Ac yntau’n archaeolegwr proffesiynol trwy gydol ei fywyd gwaith, yn gyntaf yn Nyfnaint a Gwlad yr Haf ac yn ddiweddarach yn Norfolk, symudodd i Gymru yn 1989 pan benodwyd ef yn ddirprwy gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys. Ymddeolodd o’r Ymddiriedolaeth ar ddechrau 2016, ac at ddibenion ymchwil mae e’n awr â chyswllt agos ag adran Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caer. Cychwynnodd ei ddiddordeb ymhob math o fapiau hanesyddol, ond yn arbennig mapiau ystadau, yn ystod ei gyfnod ar ffendiroedd Norfolk lle’r oedd mapiau’n atodiad hanfodol i’r gwaith maes a ddatgelai datblygiad y dirwedd hanesyddol. Yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf, mae ei ddiddordeb mewn mapio wedi tyfu a gan ei fod yn awr wedi ymddeol, mae’n gallu treulio mwy o amser o fewn muriau archifdai lleol ac wrth gwrs y Llyfrgell Genedlaethol yn astudio mapiau dwyrain Cymru a’r siroedd cyfagos ar y ffin yn Lloegr.

Thomas Badeslade

Efallai eich bod yn dyfalu pam nad oes map wedi’i gynnwys yn y blog hwn ond yn hytrach lluniad topograffigol o Gastell Penarlâg, Sir y Fflint, sy’n dyddio o 1740. Yn syml, delwedd fenthyg ydyw. Hyd y gwn i, ‘does dim arolygon llawysgrif gan Thomas Badeslade yn cael eu dal yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r rheiny a baratowyd ganddo yng Nghymru i’w gweld yn archifau Sir y Fflint, Caer a Phrifysgol Bangor, tra bo eraill yn dal ymysg dogfennau’r teuluoedd â’u comisiynodd bron i dair canrif yn ôl.

Roedd Badeslade, a oedd yn ôl pob tebyg yn hanu o deulu o Godalming (Surrey) a ymsefydlodd yn ddiweddarach yn Llundain, yn un o nifer o unigolion dawnus a fentrodd yn hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif ar brosiectau gwahanol i ennill bywoliaeth. Copïwr mapiau oedd e ar y cychwyn cyn troi ei law at luniadu pensaernïol (yng Nghaint ac yna ymhellach draw), yna dod yn dirfesurydd, yn arbenigwr ar ddraeniadau corstir a lluniwr mapiau sirol. Un o’i gyfoeswyr oedd ychydig yn iau na Badeslade ac rwyf eisoes wedi rhoi sylw iddo trwy ei fap o Sir Ddinbych a Sir y Fflint oedd William Williams a bu yntau hefyd yn arallgyfeirio ei ymdrechion mewn gwahanol feysydd. Yn fwy enwog na’r ddau ohonynt erbyn hyn yw John Rocque o dras Hiwgenotaidd, yntau hefyd wedi ymsefydlu yn Llundain, ac yn lluniwr rhai o fapiau pwysicaf a mwyaf nodedig y ddeunawfed ganrif.

Pam felly dewis ymdrin â Badeslade yma? Yn gyntaf, fe gredaf, am ein bod yn gwybod ychydig yn fwy amdano ef na llawer o dirfesurwyr eraill y cyfnod hwn. Ychydig iawn a wyddom am William Williams y dyn a’i yrfa ar wahân i rai manylion bychain y mae modd i’w dehongli o’i fapiau, diffyg oedd yn sicr yn wirionedd am nifer sylweddol o dirfesurwyr yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif. Fodd bynnag, yn achos Badeslade mae gennym ei ewyllys a gasglwyd at ei gilydd mis cyn ei farwolaeth yn 1744 (yn Llandinam yn Sir Drefaldwyn), sy’n datgelu ymysg pethau eraill fel y bu’n rhaid iddo chwilio am nawdd rhywle arall ar ôl ffrae enfawr gyda’i noddwr cyntaf Syr Robert Walpole yn Houghton Hall, Norfolk – dim syndod i’r rhai a ?yr am gymeriad hynod o anodd ein prif weinidog cyntaf. Golygai hyn y bu’n rhaid iddo gadw’i bellter yng ngogledd Cymru, ymhell i ffwrdd o ddylanwad Walpole.

Mae’n rhaid nodi er bod arddull mapio Badeslade wedi esblygu yn ystod y chwarter canrif y bu wrthi’n gweithio, eto i gyd roedd modd ei adnabod yn hawdd gydol y cyfnod hwn. Yn ei ewyllys ceir cyfeiriad at gomisiwn a gwblhawyd ganddo yn Newmarket (Trelawnyd yn awr) yn Sir y Fflint a’i fod yn dal i ddisgwyl cael ei dalu amdano. Llwyddwyd i olrhain drafft o’r map hwn yn archifau Prifysgol Bangor , a hynny nid oherwydd ei fod wedi’i lofnodi ond oherwydd arddull unigryw Badeslade.

Ac yn olaf, y mae’r mapiau eu hunain. Ar gyfer y teulu Grosvenor, Eaton Hall ger Caer, mapiodd Badeslade ucheldiroedd comin yr amrywiol arglwyddiaethau oedd yn eu meddiant yng ngogledd ddwyrain Cymru ym mlynyddoedd 1738 i 1740. Mae’r rhain yn fapiau anferthol, un ohonynt bron yn dri metr o hyd. Maent wedi’u darlunio’n eglur. Mae ffiniau’r comin wedi’u diffinio’n fanwl a dangosir yr aneddiadau ger eu hymylon. Hefyd, ac yn fuddiol iawn i’r archeolegydd a’r hanesydd tirwedd, dangosir olion gweithiau mwyn a gweithgarwch diwydiannol eraill ar y tiroedd comin eu hunain. Mae’r mapiau hyn yn bortreadau rhagorol o dirweddau ucheldir eang gogledd ddwyrain Cymru, ac roeddent mor hanfodol ar gyfer rhedeg ystadau’r Grovesnor fel y cafodd mapiwr o’r Wyddgrug, rhyw ganrif neu fwy yn ddiweddarach, ei dalu’n dda am wneud copïau manwl gywir ohonynt

‘D yw Thomas Badeslade ddim yn yr un categori â John Rocque, ond hoffwn gredu fod ei lwyddiannau sylweddol yn ei osod goruwch y garfan arferol o dirfesurwyr y ddeunawfed ganrif. Am fwy o wybodaeth am Thomas Badeslade gweler:

R. Silvester.Thomas Badeslade: ei fywyd a’i yrfa o ddwyrain Lloegr i ogledd Cymru yn S. Ashley & A. Marsden (golygyddion) Landscapes and Artefacts: studies in East Anglian Archaeology presented to Andrew Rogerson. Oxford: Archaeopress Archaeology, 2014, tudalennau. 217-229.

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Rhagor o gofnodion #CaruMapiau

Casgliad Mapiau’r Llyfrgell

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog