Blog

Postiwyd - 26-04-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Bob Silvester

Dr Bob Silvester, FSA, Athro Gwadd, Prifysgol Caer sy’n cymryd rhan yn ein ymgyrch #CaruMapiau

Ac yntau’n archaeolegwr proffesiynol trwy gydol ei fywyd gwaith, yn gyntaf yn Nyfnaint a
Gwlad yr Haf ac yn ddiweddarach yn Norfolk, symudodd i Gymru yn 1989 pan benodwyd ef yn ddirprwy gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys. Ymddeolodd o’r Ymddiriedolaeth ar ddechrau 2016, ac at ddibenion ymchwil mae e’n awr â chyswllt agos ag adran Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Caer. Cychwynnodd ei ddiddordeb ymhob math o fapiau hanesyddol, ond yn arbennig mapiau ystadau, yn ystod ei gyfnod ar ffendiroedd Norfolk lle’r oedd mapiau’n atodiad hanfodol i’r gwaith maes a ddatgelai datblygiad y dirwedd hanesyddol. Yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf, mae ei ddiddordeb mewn mapio wedi tyfu a gan ei fod yn awr wedi ymddeol, mae’n gallu treulio mwy o amser o fewn muriau archifdai lleol ac wrth gwrs y Llyfrgell Genedlaethol yn astudio mapiau dwyrain Cymru a’r siroedd cyfagos ar y ffin yn Lloegr.

Map Edward Matthews – Llanarmon Mynydd Mawr

Dim ond i’r sawl sydd â diddordeb brwd yn hanesion mwyngloddio Cymru’r ddeunawfed ganrif y bydd enwau Thomas Slaughter a Richard Richardson yn gyfarwydd. Person digon di-nod oedd Slaughter ond yn ddi-os roedd Richardson yn fwy enwog ac yntau’n of aur, yn henadur yng Nghaer am sawl blwyddyn, ac yn 1757 yn faer y ddinas honno. Fel entrepreneuriaid mwyngloddio comisiynodd y ddau ohonynt fapiau arolwg o ardaloedd oedd yn debygol o fod yn cynnwys dyddodion mwynau heb eu cloddio cyn cymryd y tir ar brydles oddi wrth ei berchennog. Mae’n ymddangos mai Edward Matthews, cenhedlaeth gyntaf teulu o dirfesurwyr o’r Wyddgrug, Sir Y Fflint, oedd eu dewis cyntaf a gwelir ei enw ar sawl map gan gynnwys dau o’r 1750au. Mapiau yw’r rhain o ddaliadau ystâd Castell y Waun, sef Bryn Llanymynech ger Croesoswallt a’r llai adnabyddus Voel Fawr, fel y’i cofnodir ar y map a ddangosir yma, y bryn mwyaf amlwg ym mhlwyf Llanarmon Mynydd Mawr. Yn hanesyddol, roedd o fewn ffiniau de Sir Ddinbych ond bellach mae’n rhan o Bowys. Cafodd y map ei lofnodi gan y tri g?r, Slaughter, Richardson a Richard Myddelton, arglwydd Y Waun, a hyn yn cadarnhau ei fod mwy na thebyg yn bortread cywir o’r dirwedd hon a’i hucheldiroedd.

Ni ellir ystyried map Edward Matthews yn fap ystâd yn ystyr fanwl y gair. Cyfran fechan yn unig o’r tiroedd a berchnogwyd gan Richard Myddelton a ddangosir arno, ac mewn gwirionedd mae’n darlunio tiroedd rhydd-ddeiliaid eraill. Gwell fyddai ei alw yn fap eiddo, ac yn fy marn i dyma un o’i gryfderau. Pe bai’r map ond wedi bod yn ddarluniad o ystâd ffermio Myddelton yn unig, ychydig iawn o sylw fyddai’r mynydd-dir agored (yr hyn arferai fod yn Voel Fawr) wedi’i dderbyn oherwydd mai prin oedd ei werth amaethyddol. Yma fodd bynnag, y mynydd oedd yn bwysig am fod iddo botensial fel ffynhonnell fwynau. Mae Matthews yn dangos y tir fel cyfres o dwmpathau, mewn dull traddodiadol a fabwysiadwyd gan Saxton bron i ddau gan mlynedd cyn hynny. Mae’n darlunio’r gwahanol chwareli llechi a gafodd eu hagor ar dir a oedd bron yn sicr yn dal i weithredu fel tir comin yn y ddeunawfed ganrif. Hefyd, mae’n darlunio hen weithfeydd mwyn ar ffurf grwpiau o ddotiau duon, rhywbeth a fyddai’n bendant wedi denu sylw Slaughter a Richardson, fel y byddai’n wir am archeolegwyr heddiw.

Eto i gyd, nid y golchiad gwyrdd-olewydd a ddefnyddiwyd ar gyfer y mynydd sy’n denu’r llygad ond yn hytrach y lliwiau llachar – coch lliw bricsen, melyn, gwyrddlas ayyb – a ddefnyddiwyd ar gyfer gwahanol diroedd y rhydd-ddeiliaid. Mae’r tiroedd hyn yn gorwedd gan mwyaf i’r de o lwybr oedd yn cyrchu tua’r dwyrain ar hyd y cyfuchliniau tuag at bentref bychan Llanarmon Mynydd Mawr. Yn benodol, yr hyn sydd o ddiddordeb yw rhyfeddod y cymysgedd patrwm o ddaliadau tir a’u caeau o siâp anghyffredin. Ac yn hyn o beth, rydyn ni’n symud allan o faes archaeoleg ac i diriogaeth hanes economaidd-gymdeithasol, gan mai’r ffordd orau i ddisgrifio’r patrwm yw ffrwyth system Gymreig o etifeddiaeth gyfrannol, lle’r oedd pob un o etifeddion gwrywaidd y sawl a fu farw yn cael rhan gyfartal o’i dir. Roedd hyn yn gwbl wahanol i’r system ‘cyntaf-anedigaeth’ yn Lloegr lle byddai’r mab hynaf fel arfer yn etifeddu’r ystâd gyfan. Yn anffodus, nid yw map Matthews yn gallu rhoi i ni’r wybodaeth yngl?n â phryd y darniwyd y ffermydd. Mae’r caeau afreolaidd oedd i’w gweld mor glir ar ei fap yn anodd iawn i’w gweld yn y dirwedd heddiw am iddynt gael eu hysgubo ymaith gan resymoliad o gynllun y caeau yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Erys cwestiwn heb ei ateb. Pam y dangosodd y tirfesurydd dir ffermwyr eraill? Yr ateb mae’n bur debyg yw mai Richard Myddelton oedd arglwydd y faenor a’i fod ef yn hawlio’r awdurdod i gloddio mwynau ar draws, neu’n fwy cywir o dan diroedd pobl eraill. Fodd bynnag, does dim tystiolaeth archeolegol i awgrymu bod Slaughter a Richardson wedi manteisio ar yr opsiwn hwn.

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Rhagor o gofnodion #CaruMapiau

Casgliad Mapiau’r Llyfrgell

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog