Blog

#CaruMapiau – Chris Catling

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 31-08-2017

 

Y mis hwn, Chris Catling Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n dewis ei hoff fapiau fel rhan o ymgyrch #CaruMapiau

Mae’r map hwn, o 1765, yn dangos un o fy hoff fannau yng nghanolbarth Cymru, sef yr hen Abaty Sistersaidd yn Ystrad Fflur, y Cwm Blodeuog, gydag eglwys y plwyf yn ei ymyl a’r fynwent, man claddu’r bardd canoloesol gwych hwnnw o Gymru, Dafydd ap Gwilym (tua 1315/1320–tua 1350/1370). Darlun digon ffansi o olion yr abaty a geir gan y cartograffydd. Awgryma fod llawer mwy wedi goroesi uwchben y tir nag a oedd wedi goroesi yn ôl pob tebyg. Gwyddwn i’r eglwys gael ei dymchwel yn ddigon buan wedi diddymu’r fynachlog ym 1539: daeth archeolegwyr o Brifysgol Llambed o hyd i olion ffwrneisi a godwyd i drawsnewid swmp sylweddol o blwm a rwygwyd o’r toeon yn ingotau haws eu trin, a chofnoda dogfen o 1555 y gwaith o waredu 10 tunnell o blwm i Aberystwyth.

Ailgylchwyd cerrig o’r abaty i adeiladu bythynnod ac adeiladau fferm gerllaw.  Darlunnir rhai o’r rheiny ar y map. I’r de yn union o eglwys yr abaty mae Mynachlog Fawr. Saif y ffermdy hwn ar safle hen ffreutur yr abaty ac fe’i adeiladwyd yn y 1560au gan John Stedman, a lwyddodd i gaffael safle’r abaty a’i diroedd. Mae’n syndod i’r t? hwnnw oroesi heb ei gyffwrdd a chafodd ei ‘foderneiddio’ ddiwethaf yn y 18fed ganrif pan gafodd banelau coeth a grisiau ysblennydd.

Yn wynebu’r ffermdy, mae yna rai adeiladau fferm a estynnwyd yn y 19eg ganrif i ffurfio’r clos amgaeedig sy’n bodoli heddiw, gydag ysgubor dyrnu, beudy, siediau cart a stablau. Yn union i’r de o’r fferm, mae Coedwig yr Abaty (wedi’i labelu fel W33). Nid yw’r map yn datgelu rhyw lawer – gallwch weld llwybr yn ymdroelli i mewn i’r goedwig ac yn croesi Afon Glasffrwd, yr afon sy’n disgyn o uchderau Elenydd i’r de-ddwyrain, ac a ddargyfeiriwyd gan y mynachod i ddarparu d?r ffres ar gyfer eu mynachlog.

A dweud y gwir, petaech chi’n archwilio’r goedwig hon, mi welsech ddigon o dystiolaeth o weithgarwch y mynachod ar ffurf banciau wedi gordyfu, odynau, llwyfannau golosg a ffwrneisi. Creodd y mynachod gyfoeth sylweddol o’u tair fferm defaid mawr yn Elenydd ond roeddent hefyd yn cloddio am arian a phlwm. Pe na bai Harri VIII wedi cymryd y mynachdai a’u cyfoeth, efallai y byddai arloesi’r mynachod hyn ym maes mwyngloddio wedi creu chwyldro diwydiannol 150 o flynyddoedd ynghynt nag a ddigwyddodd. Fel ag y mae, agorwyd y mwyngloddiau plwm a’r tomenni rwbel sydd bellach i’w gweld ar lethrau’r dyffryn i’r gogledd o’r abaty, ym 1856.

Ond mae yna newyddion da hefyd.  Mae Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur newydd gaffael Mynachlog Fawr a’r fferm gyferbyn. Maen nhw’n llunio cynlluniau i warchod yr adeiladau, creu gwell cyfleusterau i ymwelwyr a chanolfan astudiaethau maes er mwyn ymchwilio ymhellach i’r safle, gan gynnwys cloddiadau archeolegol. Heb os, bydd copi o’r map hwn yn cael ei arddangos yn y ganolfan ymwelwyr sydd wedi’i chynllunio – gan grisialu un ennyd yn hanes hir yr abaty, a sylfaenwyd ym 1164, ond sy’n cynnwys cysegr d?r o flaen yr allor a allai fod wedi bod yn ffynnon sanctaidd ymhell yn ôl yng nghynhanes Cymru.

Casgliad Mapiau’r Llyfrgell

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog