#CaruMapiau – Mike Parker
#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 13-06-2017
Dros yr ychydig fisoedd nesaf, yr awdur, darlledwr a ffan o fapiau Mike Parker sydd yn dewis ei hoff fapiau o gasgliad y Llyfrgell fel rhan o ymgyrch #CaruMapiau
Byddai’r cynllun hwn a anghofiwyd i raddau helaeth, y manylwyd arno yn gywrain yn y mapiau hyfryd hyn, wedi newid canolbarth Cymru yn sylfaenol am byth. Cynlluniwyd cronfeydd niferus o gwmpas y rhanbarth, i’w cysylltu trwy ddyfrbontydd a ffyrdd a rheilffyrdd wedi eu hailgyfeirio. Mae tudalen ar ben tudalen o fapiau manwl yn dangos y ffermydd, pentrefi a threfi cyfan hyd yn oed a fyddai’n cael eu clirio trwy orfodaeth. Druan o Langurig, a’i hoes rheilffordd fechan a ddiweddodd yn barod mewn methiant truenus, fyddai wedi cael ei golli ym mhen uchaf cronfa oedd i nadreddu ei ffordd i lawr yr afon Gwy, bron mor bell â Rhaeadr. Yn fwy dychrynllyd fyth, Byddai trefi spa prysur Sir Frycheiniog, Llangamarch a Llanwrtyd wedi cael eu haberthu’n sylweddol.
Pan drafodwyd y cynllun yn Nh?’r Cyffredin, cefnogodd y llywodraeth Geidwadol ac Unoliaethol a’r wrthblaid Ryddfrydol egwyddor y cynllun. Yr unig amheuon oedd, gydag adolygiad yn mynd rhagddo am gyflenwad d?r Llundain, gallai unrhyw benderfyniad fod yn gynamserol. Er hynny, roedd rhuthr megis Clondeic am dd?r Cymru yn digwydd. Fel y dywedodd AS Ceidwadol Chelsea: “heb amheuaeth, bydd ras rhwng holl boblogaethau mawr Lloegr i sicrhau i’w hunain gyflenwad digonol o dd?r yn y dyfodol a byddai’n dda i Lundain beidio â bod ar ei hôl hi yn y gystadleuaeth honno”.
Siaradodd nifer fechan o ASau Rhyddfrydol Cymreig yn y ddadl. Eu hunig wrthwynebiad oedd gan fod cynifer o ffermwyr yn denantiaid, hyd yn oed os oedd eu teuluoedd wedi amaethu’r tir ers cenedlaethau, ni fyddai ganddynt unrhyw sicrwydd o iawndal. Pe cai hyn ei ddatrys, nid oedd ganddynt broblem gyda’r syniad. Fel y dywedodd Arthur Humphreys-Owen, yr aelod dros Sir Drefaldwyn “mae’r Bil o bwysigrwydd rhy fawr o lawer i fetropolis Llundain i ni ei rwystro a’i wrthwynebu. Yn wir, byddwn, am lawer o resymau, yn falch o groesawu Cyngor Sir Llundain yng Nghymru.” Dim ond amheuon am amseru a laddodd y syniad.”
Mike Parker
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English