Blog

#CaruCelf – Elin Jones

#CaruCelf / Collections / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 01-03-2017

Dydd G?yl Dewi Hapus iawn i chi gyd!

Rydym yn falch iawn i lansio ein ymgyrch ddiweddara #CaruCelf

Bydd Cymry adnabyddus yn dewis eu hoff ddarnau celf o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’u cyhoeddi yn wythnosol ar ein blog.

Y mis hwn Elin Jones, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n dewis darnau gan ddechrau efo Branwen gan Ivor Davies.

 

Meddai Elin Jones:

“I mi, mae cryfder lliw a delwedd yn bwysig mewn darlun. Mae’r cryfder hynny’n drawiadol yn Branwen gan Ivor Davies. Mae dyfnder y lliw yn fy nharo yn gyntaf – yr amrywiol las yn adlewyrchu Môr Iwerddon a oedd yn bellter dwfn rhwng Branwen a’i brawd Bendigeidfran yn y gainc o’r Mabinogi. Mae prif gymeriadau’r gainc yn narlun Ivor Davies, a thrwy ryfedd wyrth, mae tristwch y stori yn cael ei adlewyrchu gan y llun.  Dyma waith celf sy’n fodern ac yn oesol. Hwn yw fy hoff lun o holl gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol. “


Dolenni Defnyddiol:

Art UK
Casgliad Celf LLGC

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog