#CaruCelf – Valériane Leblond
#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 07-02-2018
Mis yma, yr artist Valériane Leblond sydd yn cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCelf.
Mae wedi dewis View from Hen Gaer Castellan gan Edrica Huws (1907-1999) fel ei dewis olaf
Rwyf wrth fy modd efo’r ffordd mae’r artist yn defnyddio defnydd yn y modd y byddai peintiwr yn defnyddio lliwiau ar balet. Mae’r lliwiau yn ysgafn, ac o’r olwg gyntaf dydy’r gwrthrych ddim yn amlwg. Rwyf yn ei gweld hi’n ddiddorol fod Edrica Huws yn defnyddio clytwaith, crefft sydd ddim yn boblogaidd iawn ym myd celf, ond sydd wedi bod yn ffordd i ferched gyfleu eu hunain am ganrifoedd, yn enwedig yng Nghymru. Mae ei steil yn unigryw iawn ac mae’r patrwm ar y defnydd yn rhoi dimensiwn ychwanegol i’r gwaith.
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English