#CaruCelf – Meri Huws
#CaruCelf / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 22-11-2017
Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg sy’n dewis ei hoff weithiau celf o’n casgliad helaeth fel rhan o ymgyrch #CaruCelf
Mae wedi dewis ‘Greenham Peace Vigil’ gan Claudia Williams fel ei dewis olaf
Dwyfol ac Ysbrydol
Y darn olaf ydw i wedi ei ddewis yw portread arall gan Claudia Williams – ond y tro hwn o wersyll heddwch Comin Greenham, sefydlwyd ddechrau’r 80au i brotestio yn erbyn taflegrau niwclear. Roedd mam yn un o’r menywod oedd yn protestio yn y digwyddiad hanesyddol bwysig yma – rhywbeth yr ydw i yn falch iawn ohono.
Mae’n ddiddorol sut mae’r artist wedi dewis portreadu ochr deuluol, ysbrydol y protestiadau – a’r penwisg anrhaddodiadol sydd i’w gweld ar amryw o’r merched yn tynnu fy sylw yn y llun. Mae rhywbeth dwyfol yma a chryfder y mamau a’r merched i’w weld yn glir. Mae hefyd yn cyfleu yr ystod oedran, o famau ifanc i fenywod h?n a phlant, fu’n rhan o’r brotest bwysig hon.
I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English