Blog

Traddodiad Canu Gwerin Cymru

Stori Cymru - Postiwyd 06-03-2020

Mae gan bob llwyth a chenedl drwy’r byd draddodiad o ganeuon ac alawon sy’n ddrych o’u diwylliant, eu cymeriad a’u ffordd o fyw. Gellir dweud felly fod pob un o’r traddodiadau hynny yn unigryw.

Yr hyn sy’n gwneud traddodiad Cymru yn unigryw yn anad dim arall yw iaith y caneuon eu hunain, Cymraeg. O blith y caneuon y gellir eu disgrifio fel rhai ‘traddodiadol’ mae o leiaf 90% yn rhai Cymraeg, am y rheswm syml eu bod yn tarddu o gyfnod yn hanes Cymru pan oedd Cymraeg yn brif iaith mwyafrif llethol y boblogaeth – yn wir, yr unig iaith yn aml iawn.

I unrhyw un sy’n dod at ganeuon gwerin Cymru o’r newydd, daw yn amlwg:
• eu bod wedi chwarae rhan hanfodol bwysig yn niwylliant y Cymry ar hyd y canrifoedd;
• eu bod yn niferus ac yn amrywiol iawn;
• fod yna amrywiaeth rhyfeddol o alawon, llawer ohonynt yn eithriadol o brydferth a chofiadwy.

Gellir yn fras eu dosbarthu fel a ganlyn:

Caneuon Serch

Cariad yw pwnc mwyaf poblogaidd y caneuon gwerin Cymraeg. Amcangyfrif Meredydd Evans yw fod cymaint â 170 ohonynt. Mae cyfran go lew o’r rheiny yn ymdrin â cholli cariad, ac felly yn ganeuon digon trist; eraill yn foliant i’r cariad, eraill yn disgrifio’r helyntion a’r trafferthion sy’n gosod cymaint o rwystrau ar lwybr serch.

Enghreifftiau: Y Gwydr Glas, Beth yw’r Haf i Mi?, Dacw ‘Nghariad i Lawr yn y Berllan, Cariad Cyntaf, Tra Bo Dau.

Hwiangerddi a Chaneuon Plant

Ar hyd y canrifoedd bu mamau yn allweddol yn y gwaith o gyflwyno caneuon i genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant. Ystyr llythrennol ‘hwiangerdd’ yw cân i suo plentyn i gysgu, a cheir sawl enghraifft o’r math hwnnw o gân, ond defnyddir y gair yn ehangach hefyd i ddisgrifio caneuon syml eraill i blant.

Enghreifftiau: Suo Gân, Si Hei Lwli ‘Mabi (hwiangerddi); Dacw Mam yn Dwad, Fuoch Chi Rioed yn Morio, Mi Welais Jac y Do.

Caneuon Gwaith

Y caneuon mwyaf nodedig yn y dosbarth hwn yw’r caneuon ‘Gyrru’r Ychen’ o Forgannwg: caneuon i annog ychen i weithio wrth aredig. Cofnodwyd rhai o’r rhain gan Iolo Morgannwg.

Enghreifftiau: Cân yr Ychen, I Ysgafnhau ein Gwaith.

Caneuon Doniol

Mewn cystadlaethau eisteddfodol yn y cyfnod diweddar bu tuedd i roi amlygrwydd i’r caneuon gwerin mwyaf trist. Ond mae lle i gredu mai ar y caneuon hwyliog yr oedd y pwyslais yn yr hen nosweithiau llawen a’r cyfarfodydd anffurfiol. Y gair ‘llawen’ yw’r cliw!

Enghreifftiau: Cân Merthyr, Yr Hen Wyddeles, Mari’r Glwyseg, Ar y Ffordd Wrth Fynd i Lundain, Cân y Cwcwallt.

Caneuon Gwasael

Caneuon yw y rhain sy’n ymwneud yn benodol ag achlysuron arbennig ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Ystyr lythrennol y gair gwasael yw ‘Iechyd Da’, a rhan bwysig o’r ddefod oedd diod arbennig, yn cael ei rannu o’r ‘llestr gwasael’. Golyga’r term ‘canu gwasael’ ddefod lle mae criw bychan yn crwydro o dŷ i dŷ, yn dymuno iechyd da i’r teuluoedd a bendith ar eu bywydau – yn y gobaith o dderbyn croeso a lletygarwch. Canu awyr agored ydyw (er fod rhai o’r defodau yn golygu fod cantorion o fewn y tŷ yn ateb ac yn ymryson gyda’r cantorion y tu allan). Mae’r termau ‘canu tan bared’ a ‘canu yn drws’ hefyd yn disgrifio’r arfer. Mae’r canu gwasael yn gysylltiedig â’r defodau canlynol: Y Fari Lwyd, Y Calennig, a Hela’r Dryw (Ionawr), Gŵyl Fair, Dydd Mawrth Ynyd (Chwefror /Dechrau Mawrth), Calan Mai, a hefyd priodasau. Mae sawl ‘cân ymryson’ (y caneuon ‘cynyddol’ lle mae’n rhaid cyflymu pob pennill) yn gysylltiedig â Gŵyl Fair yn arbennig.

Enghreifftiau: Wel Dyma Ni’n Dwad, Hela’r Dryw, Cadi Ha, Mwynen Mai. (Caneuon cynyddol): Cyfri’r Geifr, Un o Fy Mrodyr I.

Baledi

Dyma’r dosbarth mwyaf niferus o ddigon – mae tua 4,000 ohonynt ar gael, y rhan fwyaf o’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Digwyddiadau’r dydd oedd eu testun: llofruddiaethau, helyntion fel Rhyfel y Degwm a Helynt Beca, stormydd, llongddrylliadau, agor rheilffyrdd newydd, ac ati. Oherwydd mai yn yr awyr agored, mewn ffair a marchnad, y cenid y baledi hyn, byddai raid i’r baledwr feddu ar lais cryf ac arddull drawiadol, gan mai ei nod oedd gwerthu copïau o’r faled i’w gynulleidfa.

Enghreifftiau: Baled y Blotyn Du, Storm Fawr 1846, Llofruddiaeth Dafydd Lewis.

Caneuon Morwrol

Cymharol brin yw’r shanties môr yn Gymraeg, ond fe gyfansoddodd J. Glyn Davies stôr ohonynt yn yr 1920au, ac ymhen dim o dro fe’u derbyniwyd yn rhan o’r traddodiad gwerin.

Enghreifftiau: Sianti Gymraeg, Fflat Huw Puw, Llongau Caernarfon, Santiana

Canu Penillion

Yn y cyfnod diweddar, fe ddisodlwyd y term ‘canu penillion’ gan y term ‘cerdd dant’, (sef y grefft o ganu darnau o farddoniaeth i gyfeiliant ceinciau gosodedig ar y delyn, yn unol â rheolau pendant). Mae’r grefft bellach wedi datblygu i gyfeiriad gwahanol i ganu gwerin. Ond ar un adeg, difyrrwch y werin bobl oedd canu penillion: crefft fyrfyfyr oedd yn gwneud defnydd helaeth o benillion telyn a cherddi ysgafn, ffwrdd-â-hi, ac ni fyddai neb ar y pryd yn ystyried gosod canu penillion a chanu gwerin mewn categorïau ar wahân.

Enghreifftiau: penillion syml pedair neu chwe llinell ar geinciau megis Cader Idris, Llwyn Onn, Pen Rhaw.

Canu Plygain

Canu crefyddol ei natur yw hwn; math o ganu sy’n gysylltiedig â chyfnod y Nadolig ac a glywir mewn gwasanaethau plygain mewn eglwysi a chapeli. Mae’n ymdebygu mwy i ganu gwerin a chanu baledi nag ydyw i ganu emynau: canu naturiol, dirodres, a dihyfforddiant, bob amser yn ddigyfeiliant, ac yn amlach na pheidio mewn harmoni syml. Alawon gwerin yw llawer iawn o’r alawon y gosodwyd y geiriau arnynt. Ffarwel Ned Puw, Y Ceiliog Gwyn.

Wrth gwrs, nid pob cân werin sy’n syrthio’n daclus i’r categorïau uchod. Er enghraifft, y gân Myn Mair, sef cân a genid mewn gwylnos ym mhresenoldeb corff marw. Gweddi sydd yma dros enaid y person ymadawedig. Oherwydd yr erfyniad ar y Fair Forwyn ar ddiwedd pob pennill, mae’n amlwg fod y gân yn tarddu o’r cyfnod cyn y Diwygiad, pan oedd Cymru yn wlad Gatholig.

Erbyn heddiw fe ddiogelwyd y corff hyn o ganeuon gwerin, ond fe ellid yn hawdd fod wedi eu colli am byth. Bu dau gorff yn gyfrifol yn fwy na neb am gasglu a chofnodi’r caneuon: Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn enwedig eu haelodau cynnar ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac Amgueddfa Sain Ffagan mewn cyfnod diweddarach. Meddai J. Lloyd Williams, un o arweinwyr y Gymdeithas Alawon Gwerin, “Tipyn o beth oedd i’r hen alawon fyw trwy genedlaethau o esgeulustod, a mwy gorchest oedd iddynt wrthod marw dan ddimyg a gwarth y Diwygiad.”

Arfon Gwilym

[Nodyn: Yn y byd modern mae union ystyr y gair ‘gwerin’ yn amrywio’n fawr. I ddibenion yr erthygl hon, fe ganolbwyntir ar y math hwnnw o ganeuon a drosglwyddwyd ar lafar o un genhedlaeth i’r llall dros gyfnod hir o amser: y math o ganeuon y gellir eu disgrifio fel rhai ‘traddodiadol’]

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog