Blog

Caneuon a Ddysgwyd fel Plentyn a chwedlau athro cerdd gan Mrs Lydia Watkins

Darganfod Sain - Postiwyd 24-06-2021

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain am roi’r cyfle imi wrando a rhoi fy marn ar y recordiad sain hwn a phob un yn y dyfodol. Rwy’n credu bod hyn yn rhan annatod o gadw hanes a diwylliant Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac mae’n anrhydedd i mi allu helpu gyda’r gwaith rhyfeddol hwn.

I ddechrau, mae ansawdd sain y recordiad hwn wedi creu argraff arnaf, gan ystyried ei fod wedi ei recordio ar y 18fed Gorffennaf 1974. Gwrandewais ar y recordiad gyda chlustffonau ac nid oedd unrhyw fath o gracio nac adborth, a brofodd i mi fod y cyfwelydd eisiau profiad gwrando dilys i’r gwrandäwr. Roedd yn teimlo fel pe bawn i yn yr ystafell gyda Lydia. O ran fy mhrofiad gwrando, hwn oedd fy nhro cyntaf yn gwrando ar recordiad o’r fath a chefais fy synnu ar yr ochr orau. Roedd yna deimladau personol iawn i’r gân, fel petaen ni mewn lleoliad agos. Roedd llais soniarus a meddal Mrs Watkins yn dyner ac fe wnaeth i mi deimlo’n gartrefol yn gwrando arno.

Roedd yn ddiddorol clywed bod Mrs Lydia Watkins, o Ontario, Canada, yn dod yn wreiddiol o Merthyr Tudful. Mae wedi cadw atgof ei phlentyndod Cymreig o’r caneuon a ganodd, sy’n profi pa mor gysylltiedig yw hi â’i hunaniaeth Gymreig. Mae yna ymdeimlad hefyd y gall hi fod â hunaniaeth ddeuol – gall hi fod yn Ganadiad ac yn Gymraes, gyda’r naill na’r llall yn canslo eu gilydd. Gall y ddau gydfodoli yn yr un gofod iddi hi, a gellir anrhydeddu’r ddau lawn cymaint â’r llall. Yng ngoleuni hyn, roedd yn ddiddorol clywed ei thafodiaith Gymraeg glir, iasol wrth iddi ganu. Y caneuon a ganodd hi oedd Anwylaf Lecyn Byd imi yw Cymru fechan lon, Tra Bo Dau ac Y Gelynen. Mae ei phenderfyniad i’w canu yn Gymraeg yn dangos sut mae hi wedi cadw gafael ymhellach ar ei threftadaeth a’i gwreiddiau Cymreig, er ei bod wedi’i lleoli yn Ontario adeg y recordiad. Mae’n gyfuniad hyfryd o ddiwylliannau, ac yn cysylltu cenedlaethau’r dyfodol o blant Cymru â chaneuon diwylliannol o Gymru.

Mae hi’n siarad am athrawes cerddoriaeth yn rhoi hyfforddiant llais i un o’i disgyblion, a daflodd ei ddwylo mewn anobaith gan ddweud datganiad diddorol: ‘rydych chi’n canu yn y craciau.’ Mae’r craciau’n nodi’r bylchau, yr holltau bach mewn strwythur mwy, lle mae’n hawdd colli ac anghofio pethau. Mae canu yn y craciau, felly, yn awgrymu’n gryf fod llais yr athro mor bwerus a phwysig fel ei fod yn llwyddo i dreiddio i graciau’r byd, ond eto i gyd yn effeithiol. Roedd yn ddatganiad gwych a gwnaeth i mi feddwl am y syniad o allu estyn llais i’r lleoedd nad ydym yn credu y gallant fynd. Mae’n fy atgoffa bod y craciau mewn llefydd o hyd, hyd yn oed os nad ydym yn eu gwerthfawrogi, ac y byddant bob amser yn cael eu llenwi â sain os ydym yn cofio eu cynnwys. Nid yw canu, felly, byth yn gadael unrhyw un allan wrth allu cyrraedd y craciau. Mae’n fath o farddonol, na?

Dyfyniad arall sydd wedi aros gyda mi: ‘canu, ac eistedd wrth ochr rhywun yr oeddech yn meddwl y gallai ganu beth bynnag.’ Sefydlwyd y syniad o gymuned, ac mae’r diferion o chwerthin a ddaeth gydag ef cyn i Mrs Watkins gychwyn canu eto yn ei gwneud yn bersonol, drosglwyddadwy. Yng ngweddill y clip roedd yn parhau i ganu’r caneuon y soniais amdanynt uchod, ac roedd yn gyfle braf i oedi o brysurdeb bywyd. Munud tawel i fyfyrio, i ymhyfrydu yn harddwch caneuon gwerin Cymreig a drosglwyddwyd o blentyndod, ac er nad oeddwn yn deall ystyr llawn y tu ôl i’r geiriau, roeddwn yn dal i deimlo fy mod yn cael fy nghynnwys fel siaradwr Saesneg. Fe wnaethant siarad â mi yn iaith gyffredinol cerddoriaeth. Roedd yn fendigedig.

Ar y cyfan, roeddwn wrth fy modd yn gwrando ar y sain ac rwy’n argymell yn fawr bod pawb arall yn gwneud hynny hefyd. Byddwch chi’n teimlo hiraeth am yr atgofion a ddaw yn sgil y caneuon hyn, yn enwedig os ydych chi wedi tyfu i fyny neu’n gyfarwydd â’r caneuon hyn. Rwy’n edrych ymlaen at weld beth arall y gallaf ei ddarganfod am draddodiadau a hanesion Cymru.

Tan y tro nesaf, ddarllenwyr annwyl.

Alice Tucker, Gwirfoddolwraig Datgloi Ein Treftadaeth Sain

 

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog