Blog

Caergrawnt, Rhydychen a’r Pedwar Llyfr

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 17-01-2014

Pwy tybed sydd wedi gwneud yn ymdrech fwyaf i ymweld â’n harddangosfa boblogaidd, 4 Llyfr?

Yr wythnos hon daeth ugain o fyfyrwyr yr holl ffordd o adrannau Celteg Prifysgolion Caergrawnt a Rhydychen i ymweld am y dydd â’r Llyfrgell. Wedi gweld yr arddangosfa yn oriel Hengwrt, daeth pawb ynghyd i’r Ystafell Addysg i fwynhau gweithdy ar lawysgrifau canoloesol, dan arweiniad yr Athro Paul Russell, Caergrawnt.

Gweithdy llawysgrifau
Yn dilyn sesiwn ar gadwraeth cyfrolau llawysgrif, cyflwynwyd nifer o drysorau i’r myfyrwyr ar ffurf ffacsimilïau.

Ffacsimile Llawysgrif Boston

Ffacsimile Llawysgrif Boston

Trafododd yr Athro Russell destunau cyfraith Peniarth 28 a Llawysgrif Boston, a thaflodd ei fyfyrwraig ymchwil Myriah Williams oleuni newydd ar gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin.

Ffacsimile Llyfr Du Caerfyrddin

Ffacsimile Llyfr Du Caerfyrddin

Cafwyd cyfle i fwrw trem ar destunau Cymraeg a Lladin Historia Gruffud vab Kenan, ar gopi John Davies, Mallwyd o ddarnau coll Llawysgrif Hendregadredd, ac ar weithiau Lladin Gerallt Gymro. Esboniodd Benjamin Guy, un arall o fyfyrwyr Caergrawnt, arwyddocâd cynnwys Llyfr Llandaf, a chafwyd cyfraniadau pellach gan yr Athro Thomas Charles-Edwards, Rhydychen a Mr Daniel Huws, Aberystwyth.

Sut mae cloriannu llwyddiant digwyddiad o’r math hwn o safbwynt y Llyfrgell Genedlaethol?

Yn gyntaf, mae’n dod a chenhedlaeth newydd o ysgolheigion ieuainc wyneb-yn-wyneb â chyfrolau y maent wedi astudio eu cynnwys (mewn llyfrau, ac yn ddigidol) y tu hwnt i Gymru. Rhydd hyn gyfle iddynt eu gwerthfawrogi’n well.

Hyfforddiant ar ddefnyddio llawysgrifau

Hyfforddiant ar ddefnyddio llawysgrifau

Yn ail, mae’n gyfle euraid i’r Llyfrgell Genedlaethol roi hyfforddiant i ddarpar ddefnyddwyr ar y dulliau gorau a mwyaf gofalus o drin a thrafod rhai o’n trysorau mwyaf bregus a gwerthfawr. Bydd hyn yn sicrhau parhad hir-dymor ein casgliadau.

Ac yn drydydd, mae’n gyfle da i drosglwyddo a rhannu gwybodaeth, a hynny rhwng ysgolheigion, myfyrwyr, staff y Llyfrgell, ac yn y man, y cyhoedd.

Bydd ysgolheictod diweddaraf yr Hen Brifysgolion yn cael ei rannu yfory gyda dosbarthiadau ysgolion cynradd Cymru, a hynny trwy gyfrwng ein Gwasanaeth Addysg. Dyna chwalu’r sôn am unrhyw d?r ifori, a sicrhau’r buddsoddiad gorau yn addysg ein plant ar y naill law, a dyfodol ein casgliadau ar y llall.

Ceir ymateb myfyrwyr Caergrawnt i’r digwyddiad yma.

Maredudd ap Huw

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog