Blog

‘Brwydrau Alecsander Fawr’ – Delweddau wedi eu rhyddhau

Digido / Digitisation / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 10-06-2015

Ar 10 Mehefin 323CC roedd Alecsander Fawr yn gorwedd ar ei wely angau yn 32 oed. Yn fuan syrthiodd ei ymerodraeth enfawr i helbul. Mae ei etifeddiaeth yn bellgyrhaeddol, ond efallai mai un o’i lwyddiannau mwyaf oedd sefydlu dinas Alexandria yn yr Aifft.

Yn sgil hau hadau’r diwylliant Groegaidd neu Helenistaidd yn y ddinas ac ar draws ei deyrnas, sefydlwyd Llyfrgell Frenhinol Alexandria. Roedd gan y Llyfrgell ystafelloedd darllen, neuaddau darlithio, adrannau caffael a chatalogio ac roedd yn rhan o sefydliad ehangach y ‘Musaeum Alexandria’.

Dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl dangosodd yr Alexandriaid y ffordd i lyfrgelloedd cenedlaethol modern. Mae stori’r tân yn y llyfrgell, a wnaeth ladrata’r byd hynafol o’i drysorau llenyddol, yn enwog.

Ddwy flynedd yn ôl roedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ei hunan ar dân, gan ddod yn agos iawn at greu ‘Trasiedi Roegaidd’ hollol Gymreig.

I ddathlu bywyd Alecsander, mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi rhyddhau tri deg un o ddelweddau digidol o addurniadau o’r 15fed ganrif. Mae’r delweddau yn dod o ‘Brwydrau Alecsander Fawr’, un o’n llawysgrifau goleuedig pwysicaf. Rhyddhawyd y delweddau i’r parth cyhoeddus drwy Gomin Wikimedia lle gellir cael mynediad rhwydd iddynt, eu lawr lwytho, a’u defnyddio mewn erthyglau Wikipedia.

 

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Tagiau: , , , , , ,

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog