Blog

Billy Boston ac arwyr anghofiedig rygbi Cymru

Collections - Postiwyd 21-10-2021

Mae Billy Boston yn un o’r chwaraewyr rygbi Cymreig mwyaf talentog a llwyddiannus erioed, ond eto ni chydnabuwyd ei gampau yn llawn yng Nghymru am flynyddoedd lawer. Mae ei yrfa yn stori chwaraeon wych, ac yn un sy’n haeddu cael ei adrodd.

Ganed Billy yn Butetown, Caerdydd, ym 1934, a daeth yn seren rygbi yn y 1950au a’r 1960au. Deuai ei fam o gymuned Wyddelig Caerdydd, a morwr du o Sierra Leone oedd ei dad. Yn fachgen, chwaraeodd Billy Rygbi’r Undeb dros Glwb Athletau Rhyngwladol Caerdydd (CIACS), clwb a oedd yn adlewyrchu natur amlhiliol dociau Caerdydd. Roedd yn asgellwr eithriadol o dalentog, gyda chyflymder, cryfder, cydbwysedd a deallusrwydd pêl-droed gwych, yn ogystal â’r gallu i ochrgamu’n ddawnus. Fe gynrychiolodd Billy Gymru ar lefel Ieuenctid, ond ei freuddwyd oedd chwarae dros Gaerdydd, ac efallai dros Gymru rhyw ddydd. Nid oedd unrhyw amheuaeth ei fod yn ddigon da.

Chafodd Billy erioed y cyfle i wireddu’i freuddwyd o chwarae i Gaerdydd, a’r un oedd hanes Johnny Freeman a Colin Dixon, chwaraewyr du eraill a aethant ymlaen o CIACS i gael gyrfaoedd llwyddiannus iawn yn Rygbi’r Gynghrair. Ymhellach, ni ddewiswyd unrhyw chwaraewr du i gynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol lawn yn Rygbi’r Undeb tan yr 1980au.

Roedd rhaniad chwerw wedi datblygu rhwng Rygbi’r Undeb a Rygbi’r Gynghrair ar ôl iddyn nhw ymrannu ym 1895 – gêm amatur oedd Undeb, tra bod y Gynghrair yn broffesiynol. Roedd proffesiynoldeb wedi’i wahardd gan yr Undeb ac fe gafodd chwaraewyr a aeth i ogledd Lloegr i chwarae Rygbi’r Gynghrair – neu a siaradodd â sgowt o’r Gynghrair, hyd yn oed – eu diarddel. Roedd Undeb yn hollol amatur, a pharhaodd y rhagrith a’r stigma nes i’r gêm ddod yn broffesiynol ym 1995. Fodd bynnag aeth cenedlaethau o chwaraewyr rygbi Cymru – llawer ohonyn nhw’n ddu – i chwilio am gyflogaeth yn Rygbi’r Gynghrair, yn enwedig ar adegau pan oedd Cymru yn dioddef yn economaidd.

Pan ddaeth clwb Wigan ato o Rygbi’r Gynghrair ym 1953, nid oedd Billy Boston am fynd i’r gogledd a gwrthododd ei fam eu cynnig o £1,000. Byddai Billy yn arwyddo am £3,000 a dim llai. Roedd teulu Boston yn gobeithio ac yn disgwyl i hyn droi Wigan oddi wrth eu bwriad, ond roedd y clwb yn barod i dalu arian eithriadol am chwaraewr eithriadol, ac felly arwyddodd Billy gytundeb Rygbi’r Gynghrair yn 19 oed. Wedi gwneud, roedd yn gwybod na fyddai modd iddo byth wireddu ei freuddwyd nawr o chwarae Undeb dros Gaerdydd a Chymru. Y noson honno, wylodd ac ni allai gysgu.

Gwnaeth Billy argraff ar unwaith yn Wigan, a daeth yn arwr y Gynghrair yn ystod ei yrfa yno, a ddaeth i ben ym 1968. Chwaraeodd ar yr asgell, ond yn anarferol gallai chwarae’r un mor dda fel canolwr neu fel maswr. Daeth yn llai ystwyth tuag at ddiwedd ei yrfa, ond cadwodd ei gyflymder a datblygodd ei faint a’i gyhyrau a llaw rymus. Trichwarterwr Rygbi’r Gynghrair gyflawn oedd e, ac yn aml nid oedd modd ei atal.

Blwyddyn ar ôl iddo ymuno â Wigan, cafodd ei ddewis i gynrychioli Prydain Fawr, ac mae ystadegau ei yrfa’n dweud llawer: record clwb o 478 o geisiau mewn 487 o ymddangosiadau (110 yn fwy nag unrhyw chwaraewr Wigan arall mewn hanes); nifer o dlysau domestig; 30 o geisiau rhyngwladol mewn 31 o gemau Prawf; record Prydain Fawr am geisiau ar daith yn Awstralia; y chwaraewr cyntaf i sgorio 4 cais dros Brydain Fawr mewn un gêm yn erbyn Seland Newydd a buddugoliaeth yng Nghwpan y Byd ym 1960. Erbyn iddo ymddeol o Rygbi’r Gynghrair ym 1970, roedd Billy wedi sgorio 572 o geisiau mewn 562 o ymddangosiadau yn ystod ei yrfa – dim ond yr asgellwr Brian Bevan o Awstralia sydd erioed wedi sgorio mwy.

Croesawyd Billy fel un o’u tylwyth eu hunain gan bobl Wigan, nid yn unig oherwydd ei lwyddiant ar y cae ond oherwydd ei fod yn chwaraewr tîm a oedd yn ostyngedig ac yn hawdd siarad ag ef. Teimlai Billy’n gartrefol yn Wigan, ac fe gadwodd dafarn ger cae’r clwb ar ôl i’w ddyddiau chwarae ddod i ben; ni ddaeth byth yn ôl i fyw yng Nghymru. Roedd poblogaeth Wigan bron yn gyfan gwbl wyn, ond bu’r clwb rygbi yn gosmopolitaidd ac yn amlhiliol ers amser maith, fel yr oedd Rygbi’r Gynghrair yn gyffredinol, a daeth chwaraewyr i mewn o bob cwr o’r byd. Yn anffodus, fodd bynnag, mi wnaeth Billy brofi gwahaniaethu yn ei erbyn ar sail hil, yn arbennig pan chwaraeodd Prydain Fawr sawl gêm yn Ne Affrica ar ôl Cwpan y Byd 1957. Dywedodd De Affrica wrth Billy – a oedd eisoes yn anfodlon cymryd rhan yn y rhan hon o’r daith oherwydd apartheid, ac oherwydd ei fod bellach wedi cael ei anafu – bod lliw ei groen yn golygu na allai aros yn yr un gwesty â gweddill y garfan, ac na allai ymweld â’u gwesty na chwarae yn unrhyw un o’r gemau. Gwrthododd Billy y telerau hyn. Aeth tîm Prydain Fawr i Dde Affrica hebddo.

Mae Billy Boston wedi cael ei barchu’n uchel a’i ddathlu yn Rygbi’r Gynghrair ers ei ddyddiau cynnar yn Wigan. Mae cerfluniau ohono yn Wembley ac yn Wigan, lle mae eisteddle wedi cael ei enwi ar ei ôl, ac roedd yn un o aelodau gwreiddiol Oriel Anfarwolion Rygbi’r Gynghrair a hefyd Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru. Mae dinas Caerdydd hefyd yn cydnabod cyflawniadau Billy bellach, ac yn ffodus mae hyn wedi digwydd yn ystod ei fywyd. Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd y bydd cerflun yn darlunio Billy Boston gyda dau arwr Rygbi’r Gynghrair arall a ddaeth o ardal dociau Caerdydd, Clive Sullivan a Gus Risman.

Cymerodd amser hir, fodd bynnag, i gêm yr Undeb ddechrau cydnabod llawer o chwaraewyr o Gymru sydd wedi cyflawni pethau m yn Rygbi’r Gynghrair. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o’r chwaraewyr gorau erioed yn unrhyw gôd rygbi ond er bod eu campau yn Rygbi’r Gynghrair wedi cael eu dathlu yng ngogledd Lloegr ers talwm, anaml mae hyn wedi bod yn wir yng Nghymru. Arwyr anghofiedig rygbi Cymru oedd y rhain.

Er bod hanes Billy Boston ac eraill tebyg i’w ddarganfod yma yn y Llyfrgell trwy gasgliadau megis ein llyfrau print, papurau newydd a rhai o’r Adnoddau Allanol rydym yn tansygrifio iddyn nhw, rydym yn awyddus i ddatblygu ein casgliadau sy’n ymwneud ag agweddau ar fywyd Cymru sydd o bwysigrwydd cenedlaethol ond sydd serch hynny wedi’u tan gynrychioli. P’un ai bod yn ymwneud ag hil, codau rygbi neu unrhyw beth arall os gallwch chi ein helpu gyda hyn, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.

Dr David Moore (Archifydd)

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog