Blog

Postiwyd - 09-10-2019

Collections

Beth mae llyfrgelloedd yn ei wneud mewn byd digidol?

Mae ateb bron i bob cwestiwn nawr o fewn ychydig o gyffyrddiadau i’ch sgrin, neu gallwch siarad yn uniongyrchol â’ch dyfais. Gofynnwch i Google ‘beth mae llyfrgelloedd yn ei wneud’ ac fe ddywed (gyda chymorth Wikipedia) mai ‘yn ogystal â darparu deunyddiau, [maen nhw] hefyd yn darparu gwasanaeth llyfrgellwyr sy’n arbenigwyr mewn darganfod a dehongli angenion gwybodaeth.’

Er syndod, efallai, nid oes sôn am ‘lyfrau’. Byddai well gan rai weld gweithgareddau neu wasanaethau eraill yn cael eu crybwyll; yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, rydym yn ‘casglu, cadw a rhoi mynediad i bob math o wybodaeth gofnodedig, yn arbennig yn ymwneud â Chymru a’r Cymry a phobloedd Geltaidd eraill’. Yn bwysicaf oll, fodd bynnag, mae diffiniad Google a Wikipedia o waith y llyfrgell mor ddilys heddiw ag oedd y myd cyn-ddigidol yr ugeinfed ganrif.

Thema ‘Wythnos Llyfrgelloedd’ eleni yw ‘Dathlu Llyfrgelloedd mewn Byd Digidol’ ac mae’n gyfle i amlygu’r modd y mae llyfrgelloedd yn defnyddio technolegau newydd i ymestyn a gwella ein gweithgareddau a gwasanaethau.  Gydag enghreifftiau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, dyma wyth ffordd y mae technolegau digidol yn galluogi llyfrgelloedd i gyflawni ein gorchwyl yn fwy effeithiol heddiw.

1. Ehangu mynediad

Dros gyfnod o ugain mlynedd a mwy, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn digido casgliadau i roi mynediad iddynt y tu hwnt i’n hadeilad yn Abertystwyth. Mae dros 5 miliwn o eitemau wedi eu digido hyd yma, gan gynnwys papurau newydd a chylchgronau, mapiau, llawysgrifau, gweithiau celf a ffotograffau. Gallwch bori trwy bigion o gasgliadau’r Llyfrgell yn o dan ‘Darganfod’ ar wefan y Llyfrgell neu weld rhestr o’n adnoddau digidol.

Ymhlith adnoddau ar-lein mwyaf poblogaidd y Llyfrgell mae gwefan Papurau Newydd Cymru, sy’n rhoi mynediad i dros 1.1 miliwn o dudalenau papurau newydd a gyhoeddwyd rhwng 1805 a 1919, a’i chwaer wefan Cylchgronau Cymru sy’n cynnwys 1.4 miliwn o dudalennau o gylchgronau a chyfnodolion. Mae poblogrwydd y gwefannau hyn yn seiliedig i raddau helaeth ar allu defnyddwyr i chwilio eu cynnwys – lefel o fynediad sydd wedi’i wneud yn bosibl trwy ddefnyddio meddalwedd i ddarllen y testun print a chynhyrchu ffeiliau testun y gellir ei chwilio yn ogystal â chreu delweddau o’r tudalennau.

2. Darganfod mwy

Gellir chwilio holl ddaliadau’r Llyfrgell, y ffisegol a’r digidol, trwy ein Catalog, gan alluogi i chi wybod mewn byr amser a ydyw yn y casgliadau.

Os ydych ymhlith y miliynau o bobl sydd o fewn diwrnod o deithio i ac o Aberystwyth, gallwch ddefnyddio’r Catalog i wneud cais i weld eitem yn adeilad y Llyfrgell. Os nad, gallwch wneud cais am gopi, defnyddio’r Catalog i greu rhestr o ffynonellau, neu hidlo eich canlyniadau i ddangos y rhai sydd ar gael yn ddigidol yn unig.

3. Agor meysydd ymchwil newydd

Mae dulliau a fformatiau digido a chreu data yn galluogi ychwilwyr i ofyn cwestiynau newydd ac i wneud darganfyddiadau a fyddai cyn hynny wedi bod yn amhosib i bob pwrpas.

Ar wefannau Papurau Newydd Cymru a Cylchgronau Cymru, er enghraifft, gellir chwilio corff enfawr o destun mewn eiliadau. Defnyddiodd Duncan Brown, un o sylfaenwyr y prosiect amgylcheddol Lln Natur, y papurau newydd i ddod o hyd i gyfeiriadau hanesyddol at gân yr eos, ac at y pysgodyn brwyniad Conwy yn cael ei ddal yn Afon Conwy ar ôl tywydd gwlyb.

Rai blynyddoedd yn ol, cafodd dau wyneb eu canfod ar dudalennau Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif o’r 13eg ganrif. Credir iddynt gael eu dileu yn y 16fed ganrif hyd nes iddynt gael eu darganfod gan yr Athro Paul Russell o Brifysgol Caergrawnt and PhD student Myriah Williams gan ddefnyddio dulliau dadansoddi delweddau.

Ymchwil yw un o’r meysydd mwyaf cyffrous lle gwelir defnydd y Llyfrgell o dechnolegau digidol yn gwneud gwahaniaeth.

4. Cyfleon i gydweithio

Mae datblygiadau digidol wedi arwain at gyfleon i gydweithio o fewn i GYmru ac yn rhyngwladol, gan weithio gyda chyrff eraill i ddarparu adnoddau ar y cyd ac i wella ein gwasanaethau i ddefnyddwyr.

I goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth prosiect a ariannwyd gan Jisc â ffynonellau cynradd o 11 o lyfrgelloedd, casgliadau arbenning ac archifau ynghyd i’w digido a’u cyflwyno ar wefan Cymru1914.

Bu prosiect Cynefin dan arweiniad Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru yn digido mapiau, y rhan fwyaf ohonynt o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol ond rhai hefyd o archifau eraill yng Nghymru a Lloegr, a’u cyfuno gyda rhestrau pennu o The National Archives yn Kew. Defnyddiwyd llwyfan arbennig i alluogi i wirfoddolwyr i alinio ac i drawsgrifio’r mapiau a’r dogfennau cyn eu cyflwyno fel un adnodd ar-lein o’r enw Lleoedd Cymru.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â 12 o sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol eraill ar draws Ewrop i ddod â chasgliadau at ei gilydd ar lwyfan digidol Europeana i adrodd hanes ‘Twf Llythrennedd yn Ewrop’. Ar ôl dewis deunydd ar gyfer y prosiect, bu unigolion o’r sefydliadau hyn yn gweithio gyda’i gilydd i drafod eu hanes ar y cyd a’i gyflwyno trwy’r casgliadau ar ffurf arddangosfeydd digidol, blog ac orielau.

Yn fwyaf diweddar, rydym yn cydweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, The Hathi Trust yn yr Unol Daleithiau, Y Llyfrgell Brydeinig, Prifysgol Glasgow ac RLUK fel rhan o brosiect sydd wedi’i ariannu gan yr AHRC i archwilio’r posibilrwydd o greu catalog byd-eang o destunau sydd wedi’u digido a fyddai’n galluogi cyrff i gynllunio rhaglenni a strategaethau digidol ar y cyd, ac ymchwilwyr i chwilio’r holl weithiau sydd wedi’u digido o un man.

5. Galluogi cyfranogiad

Mae cynnydd diweddar mewn technoleg ddigidol wedi galluogi defnyddwyr i greu, cyfoethogi a dehongli treftadaeth ddiwylliannol mewn ffyrdd newydd.  Mae cyfranogiad yn rhoi cyfleon i ddatblygu sgiliau newydd, hybu cydlyniad cymunedol ac yn cyfrannu at iechyd a lles y cyfranogwyr.

Yn dilyn llwyddiant prosiect Cynefin a’r cydweithio gyda phrosiect Cymru Dros Heddwch i drawsgrifio Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru, rydym wedi datblygu torf.llyfrgell.cymru, llwyfan torfoli i gynnal prosiectau sy’n galluogi defnyddwyr i gyfranogi yng waith y Llyfrgell trwy drawsgrifio ac anodi casgliadau digidol y Llyfrgell. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys trawsgrifio Cofnodion Tribiwnlys y Rhyfel Byd Cyntaf, tagio ffotograffau Gwilym Livingstone Evans o gymuned Blaenau Ffestiniog, a thrawsgrifio dyddiaduron yr arlunydd Kyffin Williams.

Ers penodiad Wicipediwr Preswyl yn 2015, mae’r Llyfrgell wedi gweithio mewn partneriaeth â Wikimedia UK ac wedi, gyda chefnogaeth Uned y Gymraeg Llywodraeth Cymru, cynnal tri phrosiect thematig (WiciPop, Wici-Iechyd, WiciPobl a’r prosiect diweddaraf WiciLlên) i gynyddu cynnwys digidol sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg. Yn unol ag ethos Wicipedia, roedd gan y prosiectau hyn elfen gref o gyfranogiad, gan wahodd Wicipedwyr newydd a phrofiadol i fod yn rhan o’r fenter a mynychu golygathonau, cyfieithathonau neu hacathon.

Mae Casgliad y Werin Cymru yn rhoi hyfforddiant digido i grwpiau cymunedol, prosiectau a chyrff fel eu bod yn gallu digido a rhannu eu casgliadau a hanesion ar-lein. Ers ei lawnsio yn 2010, mae Casgliad y Werin Cymru wedi hyfforddi cannoedd o grwpiau ledled Cymru a thu hwnt ac yn rhoi mynediad i dros 120,000 o wrthrychau trwy’r wefan.

6. Rhannu a hyrwyddo casgliadau  

Gall casgliadau digidol eu Digital collections gael eu rhannu mewn sawl man ar yr un pryd, a’u cyflwyno mewn amrywiol gyd-destunau a chyrraedd gwahanol gynulleidfaoedd. Gellir dod o hyd i gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol ar Art UK, Casgliad y Werin Cymru, Europeana, Wicicomin a Flickr Commons. Mae nifer o’r delweddau hyn ar gael i’w hail-ddefnyddio dan drwyddedau agored.

Gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol – Facebook, Twitter, Youtube ac Instagram – rydym yn mynd â chasgliadau at ein defnyddwyr, a gallant ein helpu yno rannu a hyrwyddo ein casgliadau ddigidol. Mae’r cyfryngau hyn yn fodd o ymgysylltu â’n dilynwyr a defnyddwyr yn ogystal â hyrwyddo’r casgliadau.

7. Realiti estynedig

Defnyddir technolegau digidol i wella profiad ymwelwyr i adeilad y Llyfrgell. Gan ddefnyddio’r ap Smartify, gallwch gael mynediad at wybodaeth ychwanegol am eitemau sy’n cael eu harddangos yn arddangosfeydd y Llyfrgell. Digital technologies are used to enhance visitor experience to the Library building. Cafodd hwn ei ddefnyddio fel rhan o arddangosfa’r Llyfrgell yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni.

Gan ddefnyddio llwyfan realiti rhithwir Google Expeditions, gallwch hefyd gymryd taith dywys rithiol o’r Llyfrgell. Mae’r daith yn mynd â chi y tu ôl i’r llen yn ogystal â’r gofodau cyhoeddus, gan gyflwyno gwybodaeth am y Llyfrgell a’i chasgliadau.

8. Cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Sicrhau mynediad tymor hir i’r cofnod o ddiwylliant heddiw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yw un o’r heriau mawr yn y byd digidol wrth i lyfrgelloedd fynd i’r afael â chwestiynau ynghylch storio, hawlfraint a mesurau i reoli hawliau digidol, fformatiau niferus a darfodedig, gwybodaeth sy’n gaeth i feddalwedd neu ddyfeisiau penodol, heb sôn am natur newidiol a thros dro y wybodaeth sydd y We Fyd Eang. Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r unig lyfrgell yng Nghymru sydd â statws ‘adnau cyfreithiol’ sy’n caniatau i rai llyfrgelloedd i gasglu a chadw cyhoeddiadau electronig ac archifo gwefannau fel bod defnyddwyr yn gallu cael mynediad at gyhoeddiadau digidol ac astudio hanes y We.

Mae’r tasgau o gasglu, cadw a rhoi mynediad i wybodaeth yn parhau. Nid a oes rôl i lyfrgelloedd mewn byd digidol yw’r cwestiwn, ond sut i barhau gyrraedd y safon o wasanaeth a fydd nid yn unig yn gwneud y mwyaf o’r cyfleon mae’r technolegau hyn yn eu cynnig, ond yn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn cael mynediad i wybodaeth sydd wedi’i digido neu nad yw eto ar gael yn ddigidol, a hynny’n ddi-rwystr ac yn ddi-dâl. Dathlu llyfrgelloedd mewn byd digidol yw datgan pwysigrwydd eu rôl yng nghymdeithas heddiw ac am flynyddoedd i ddod.

 

Dafydd Tudur

Pennaeth Mynediad Digidol

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog