Blog

Beirniadu Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau

Darganfod Sain - Postiwyd 12-10-2021

Byddaf yn codi fy llaw yn syth a dweud fy mod wedi bod yn rhy uchelgeisiol mewn gwirionedd gyda’r blog hwn, yn bennaf gan mai dysgwr Cymraeg lefel mynediad ydw i, a bod y ffeiliau sain hyn angen siaradwr fwy rhugl achos eu cymhlethdod a’u bod wedi’u llurgunio drwy’r broses ddigido.

Fodd bynnag, roedd y broses o wrando ar y ffeiliau sain, a oedd yn ffurfio rhan o‘r broses beirniadu cystadleuaeth yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949, yn ymarfer da i’m hymennydd. Yr oeddwn wedi mwynhau gwrando ar lais arbennig Syr Thomas Herbert Parry-Williams; yr oedd y geiriau wnes i eu deall yn paentio darlun o ddiffyg brwdfrydedd y mwyafrif o’r ymgeiswyr.

Yn ôl yr hanesydd Jan Morris, un o ddigwyddiadau pwysicaf yr Eisteddfod yw cadeirio’r bardd – anrhydedd a roddir i’r person sydd wedi ysgrifennu’r awdl orau, yn y mesur caeth, yn seiliedig ar destun a osodwyd gan y beirniaid. Yn 1949, y testun oedd ‘Y Graig’; yr enillydd yn ôl nodiadau’r beirniaid a gedwir yn archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru oedd y bardd gyda’r ffugenw ‘Coed y Gell’ a dyna sail i’r ail ffeil sain yn y casgliad hwn.

 

TH Parry-Williams, rhif 11/41 o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol gan Julian Sheppard

 

Adlewyrchir siom Parry-Williams yn ei ragymadrodd ysgrifenedig:

O’r ugain cynnig a ddebynwyd eleni nid oes ond rhyw hanner dwsin “o fewn terfynau gobaith”. Y mae gweddill yr ymgeiswyr i gyd ond un (sef Herbert sydd heb lunio awdl) wedi cynganeddu eu deunydd yn ddygn, ond nid oes ar eu gwaith raen digon gorffenedig i obeithio llwyddo mewn cystadleuaeth fel hon (Parry-Williams, 1949, tud.63)

Barn Parry-Williams oedd mai dim ond chwech o’r ugain o gyfansoddiadau a dderbyniwyd yn 1949, oedd yn deilwng ac “o fewn terfynau gobaith”. Wedi i’r cystadleuwyr gael eu siomi gyda’i feirniadaeth, dywedodd nad oedd eu gwaith o safon ddigonol i lwyddo mewn cystadleuaeth fel yr Eisteddfod. A dweud y gwir mae ei gwyn yn hen gwyn – mae’r cystadleuwyr yn gwneud gymaint o smonach fel ei bod yn anodd dweud unrhywbeth o werth am yr ymgeiswyr.

Yn y ddwy ffeil sain, mae gan Parry-Williams arddull areithio pwyllog sy’n symud rhwng ei farn ac ef yn adrodd rhannau o waith yr ymgeiswyr. Ar ddechrau ffeil un, mae’n enwi ymgeisydd – Mr Pwyl. Rydw i’n teimlo fel archaeolegydd, yn ffwndro i wneud synnwyr o iaith, yn gwybod ei bod yn bosib i fi ei chamddehongli ac mae llawer o’r ffeil sain gyntaf yn aneglur i fi.

Gyda chymorth nodiadau printiedig y beirniaid, rydw i’n dod drwyddi rywsut. Mae yna gyfeiriad at awdl Glan yr Afon – sy’n fy nghyfeirio at adran yn y nodiadau lle mae Parry-Williams yn ei chynnwys gyda phedwar ymgeisydd arall sydd ar waelod siart y deg awdl orau! Mae’n ei gweld yn gain, ond braidd yn undonog; wedi iddo ysgrifennu’r awdl yn seiliedig ar un Crist yn graig, mae Parry-Williams o’r farn ei bod yn anodd dod â bywyd newydd i hen thema, ac mae’n beirniadu’r bardd am bregethu o’r Efengylau, a malu awyr i wneud pwynt. Fodd bynnag mae Parry-Williams yn gwerthfawrogi’r arddull glir ac annwyl cyn “mynd dow-dow yn dawel i’r diwedd” (Parry-Williams, 1949, tud. 67).

 

 

Ar ddiwedd y ffeil sain cyntaf, yn sŵn chwibanu’r trên o Ddolgellau, mae Parry-Williams yn cyfeirio at Graig Gibraltar. Dyma destun awdl Uwch y Lli, mewn tair rhan:Gwyryfdod, Gwae,a Gobaith. Mae’n ymdrech braidd yn lletchwith, ond mae ganddo ddawn i gyfleu ymdeimlad o le. Yn y nodiadau mae Parry-Williams yn egluro hyn drwy gynnwys dau bennill; yn anffodus nid ydyw yn eu darllen yn y recordiad, felly ni allwn wrando arnynt yma.

Mae ffeil sain rhif un yn gorffen ar nodyn hapusach, neu mae Parry-Williams o leiaf yn cael saib, ac mae tôn ei lais yn ysgafnhau, yn llai fel darlithydd, ac yn rhoi fwy o anogaeth.

Ceir camgychwyn ar ddechrau ffeil sain dau, ond mae Parry-Williams yn adrodd detholiad o awdl fuddugol Coed y Gell mewn arddull hyfryd sy’n cyfateb i’w drawsgrifiad yn ei nodiadau:

 

 

Druan o’r haf a’i feddal betalau

Rhyw ias ddiaros yw hedd ei oriau.

Dihuno gwig a mynd a wna’i gogau;

Gwywa, a bidd doreithiog y beddau.

 

Tua diwedd y ffeil mae Parry-Williams yn newid tôn ei lais eto ac mae’r gair sylfaen yn cael ei glywed sawl gwaith. Mae’n gwneud i’r gynulleidfa roi chwerthiniad bach ac mae’n gorffen ei araith i gymeradwyaeth fyddarol.

Trueni nad yw nodiadau’r beirniad sydd yn yr archifau yn cyfateb yn union i’r ffeiliau sain. Heblaw gwneud fy mywyd yn haws wrth drawsgrifio’r ffeiliau (methais wneud hyn), efallai y byddai wedi gwneud fwy o synnwyr i’m tybiaeth fod dehongliadau’r cystadleuwyr o Y Graig yn cynnwys cyfeiriadau daearyddol fel Gilbraltar, Ayers Rock, Clogwyn (ger Caernarfon), Derwydd (ger Rhydaman), yn ogystal â thrafodaeth ddryslyd ar os yw creigiau amrywiol, gan gynnwys Carreg y Drewi, yn gysylltiedig gyda Threfdraeth.

 

 

Yr oedd Syr Thomas Parry-Williams yn fardd enwog ac yn ysgolhaig ei hunan. Bu farw yn Aberystwth yn 1975, yn ei gartref yn Ffordd y Gogledd, wedi cael bywyd llawn ond braidd yn fewnblyg. Cyhoeddodd Ugain o Gerddi yn yr un flwyddyn ag yr oedd yn feirniad ar gystadleuaeth yr awdl. Mae rhai o’i gerddi yn ymwneud â’i olwg trosgynnol ar fywyd, yn arbennig tirwedd Eryri (Price, 2014). Efallai mai dyna pam roedd ef mor gynnil gyda’i ganmoliaeth i Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1949.

 

 

Rasma Bertz, Gwirfoddolwraig Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain

 

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog