Baled Cwiyr Anweddus
Collections - Postiwyd 09-02-2022
Yn fy llyfr A History of Women in Men’s Clothes: from cross-dressing to empowerment (Pen and Sword Books, 2021) amlinellais sut mae menywod wedi herio gorchmynion cymdeithasol ers canrifoedd trwy drawswisgo, traws-weithio, a thraws-fyw. Ar ôl traddodi sgwrs ar y gyfrol, cysylltodd Nia Mai Daniel (Yr Archif Gerddorol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) â mi yn fy hysbysu am y faled Gymraeg, ‘Can Newydd’, am ferched yn trawswisgo. Gan nad wyf yn medru darllen Cymraeg, gofynnais i Mair Jones (Queer Welsh Stories) a allai hi wneud cyfieithiad rhagarweiniol i asesu’r cynnwys, ac yna darparodd y bardd Cymraeg Grug Muse fersiwn mwy cyfoes.
Ysgrifennwyd ‘Can Newydd’ gan y baledwr unllygeidiog ecsentrig Abel Jones, (Bardd Crwst) oedd, yn ôl y Bywgraffiadur Cymreig, ‘yr olaf o’r baledwyr mawr’, ac fe’i gosodwyd ar dôn ‘Mae Robin yn swil’. Nododd yr Athro E Wyn James, Prifysgol Caerdydd fod y gân hon ‘yn fwy addas ar gyfer y dafarn nag ar gyfer canu mewn cyngherddau ac eisteddfodau parchus.’ Roedd ychwanegu geiriau’r Bardd Crwst yn ei gwneud hi’n fwy risqué fyth.
Can Newydd
Hanes dwy Ferch ieuanc o’r fro hon a wisgodd eu hunain mewn dillad meibion, a myned i blasdy i garu at ddwy ferch ieuanc, rhai dyeithr iddynt.
Cenir ar-”Robin yn Swil”
Wel lanciau bro Gwalia beth meddwch chwi am hyn–
Gwel’d merched mewn closau, on’d ydyw beth syn?
A’i prinion yw’r meibion rhai mwynion ein bro,
Nes ydyw rhai merched am gariad o’u co’.
O’nd ydyw’n beth syn gwel’d merched fel hyn,
Yn curo at f’rwynion Plas uchaf a’r Glyn &c
Rhyw noswaith ber oleu yng nghanol mis Mai,
Fe aeth dwy ferch ifanc fel llanciau difai,
I guro at plasdy lle’r oedd ryw ddwy ferch
Mewn newyn am gariad i roi arno eu serch, &c
Curasent y gwydr nes codi o’r ddwy
A buan gofynwyd, f, anwylyd, O! Pwy?
Wel dau o wych lanciau–rhai hynod o dlws,
Adwaenwch hwy’n union’r ol agor y drws &c
Agorwyd mewn munud heb oedi dim dau,
‘Rol ychydig o eiriau i’r gwely a hwy’n glau;
Cofleidio, cusanu, peth melys yw dyn,
Ond pedair merch ieuanc mewn newyn bob un
Fe flinwyd cusanu. ‘roedd natur yn gre’,
A Siani a deimlodd, ni henwaf ymhle;
Deallodd nad ceiliog oedd gyda hi’n bod
Neu fod yn un hynod o ryfedd ac od &c
Roedd Lusi a’i chydmar mewn gwely gerllaw,
Yn ddiwyd fwyn garu heb gaffael un braw,
A dywedodd i’w chariad mai biwty mab oedd,
Gwneuthur os cawsai o’i hanfodd neu fodd, &c
Peth mawr yw chwant cydmar ar geiliog neu iar,
Peth mwy yw merch ieuanc yn deisyf yn daer;
A dywed hen ddiareb “heb geiliog cheir ciw,”
A rhyfedd fu’r caru rhwng Sian a Cit Puw &c
Da chwithau y llanciau o deuwch ar frys,
Mae’r merched yn ynfyd gan gymmaint eu blys;
Mae gofid’n eu poeni hwy hoewant mewn chwant,
Fe ddofir eu nwydau pan gaffont hwy blant, &c
Mae’r ffasiwn yn dechreu i’r merched gael d’od,
I guro at lanciau, on’d ydyw’n beth od?
On’d ydyw’n beth syn gwel’d merched fel hyn,
Yn gwisgo y closau am danynt mor dyn.
Ffarwel i bob busle a’r crinoline fu
Mae’r merched am drowsus i’w wisgo yn hy;
Hwy roddant ryw arwydd ymhob gwlad a thre’,
I ddangos i’r meibion fod ganddynt hwy ble.
Ond ydyw’n beth syn gwel’d merched fel hyn’
Yn curo at f’rwynion Plas uchaf a’r Glyn.
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant ar y faled, fel yr eglurodd yr Athro James, oherwydd absenoldeb enw unrhyw argraffydd. Fodd bynnag, mae’r Athro James yn nodi mai’r eitem gyntaf ar y ddalen yw cerdd am weinidog gyda’r Bedyddwyr yn methu trên Dowlais. Gan fod y gweinidog yn Nowlais o 1865-1872, gellir cyfrif fod y daflen, yn ol pob tebyg, wedi ei hargraffu yn y cyfnod hwnw. Nid yw’r copïau mewn casgliadau eraill, megis Archifau Prifysgol Bangor ac Archifdy Ceredigion, yn taflu goleuni pellach ar y dyddiad.
Mae cynnwys ‘Can Newydd’ yn ymwneud â dwy ddynes sy’n traws-wisgo fel dynion er mwyn ymweld â phlastai a chael rhyw gyda dwy ddynes.
“Hanes dwy Ferch ieuanc o’r fro hon a wisgodd eu hunain mewn dillad meibion, a myned i balasdy i garu at ddwy ferch ieuanc, rhai dyeithr iddynt.”
Un ffordd y gellid darllen y faled o bosibl yw fel beirnidaeth ar ddynion sydd wedi esgeuluso’r merched, a’u gadael heb dderbyn digon o sylw gan ddynion.
“Wel lanciau bro Gwalia beth meddwch chwi am hyn–
Gwel’d merched mewn closau, on’d ydyw beth syn?
A’i prinion yw’r meibion rhai mwynion ein bro,
Nes ydyw rhai merched am gariad o’u co’.”
Fodd bynnag, mae’r faled hefyd yn tynnu sylw at y nifer cynyddol o fenywod a oedd yn croeswisgo, rhywbeth yr wyf yn ei drafod yn fy llyfr. Roedd canol diwedd y 19eg ganrif yn gyfnod pan oedd merched yn eu miloedd yn gwisgo fel dynion, (‘masquerading’) ac roedd llawer o’r rhain yn unigolion y byddem ni heddiw yn eu hadnabod fel lesbiaid neu drawsryweddol.
Mae’r faled yn mynd i gael ei pherfformio (efallai am y tro cyntaf ers y 19eg ganrif) yn Aberration fel rhan o Fis Hanes LHDT+ 2022 – cyfle i chi farnu drosoch eich hunain beth sy’n digwydd yn y faled.
Norena Shopland
Draig Enfys
Hyrwyddo hanes LHDT+ a threftadaeth Cymru
Twitter: @NorenaShopland
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English