Asesu cywirdeb gwaith tagio delweddau gan wirfoddolwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Collections / Research - Postiwyd 29-05-2023
Dros y ddegawd ddiwethaf mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi datblygu rhaglen wirfoddoli sydd wedi ennil sawl gwobr, gyda channoedd o wirfoddolwyr yn gweithio i gyfoethogi data a’n dealltwriaeth o’n casgliadau trwy amrywiaeth o dasgau, o drawsgrifio a mynegeio i dagio ffotograffau.
Mae gan y llyfrgell hefyd bartneriaeth hirsefydlog gyda Wikimedia, y sefydliad y tu ôl i Wikipedia a Wikidata – cronfa ddata agored gysylltiedig enfawr o bobl, lleoedd a phob math o bethau. Yn ystod y cyfyngiadau Covid fe wnaethom dreialu’r defnydd o Wikidata a safon delweddu IIIF i ychwanegu tagiau disgrifiadol at ddelweddau gan ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored a ddatblygwyd gan gymuned Wiki, cyn ymgorffori’r broses hon yn ein llwyfan torfoli digidol.
Enghraifft o ddelwedd wedi’i thagio gan wirfoddolwyr o bell yn ystod y cyfnod cloi
Tra bod y defnydd o technoleg IIIF wedi ei hen sefydlu yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae defnyddio Wikidata i ddisgrifio ein casgliadau dal yn fwy arbrofol. Y prif fanteision a welwn o’r dull hwn yw amlieithrwydd a data cyfoethog.
Mae Wikidata yn galluogi defnyddwyr i ychwanegu labeli at eitemau data mewn nifer o ieithoedd. Er enghraifft, dim ond un eitem sydd yn y set ddata ar gyfer ‘coeden’, gyda dynodwr unigryw, ond mae modd labelu a’i ddisgrifio’r data mewn cannoedd o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg. Mae hyn yn golygu y gall ein gwirfoddolwyr weithio yn Gymraeg neu Saesneg a gallwn gasglu a chyflwyno’r data hwnnw mewn unrhyw iaith a ddewiswn. Mae hefyd yn rhoi mynediad i ni at amrywiaeth gyfoethog o ddata ychwanegol am y lleoedd, y bobl a’r pethau sydd wedi’u tagio yn ein casgliadau.
Cafodd tagio delweddau gan ddefnyddio Wikidata ei integreiddio i’n llwyfan torfoli
Er bod defnyddio geirfa benodol fel Wikidata yn golygu y gallwn greu data strwythuredig, yn hytrach na llinynnau o destun rhydd lle gallai gwirfoddolwyr gwahanol ddisgrifio un eitem mewn nifer o wahanol ffyrdd, mae yna heriau o hyd gyda’n methodoleg.
Mae Wikidata yn cynnwys 100 miliwn o eitemau ddata ar bob math o bethau ac mae llawer o hyn yn amherthnasol i’n defnyddwyr, sy’n golygu bod risg o dagio’r peth anghywir. Gall hyn fod yn ddamweiniol. Er enghraifft, mewn un ddelwedd roedd bachgen i’w weld yn penlinio a defnyddiodd ein gwirfoddolwyr yr eitem Wikidata ar gyfer ‘Kneeling Boy’ i dagio’r ddelwedd. Fodd bynnag ‘Kneeling Boy’ oedd teitl paentiad mewn gwirionedd. Ac felly defnyddiwyd y tag anghywir.
Efallai hefyd fod tagiau’n cael eu cymhwyso’n ddidwyll, ond mae natur gymhleth ontoleg Wikidata yn golygu bod y tag anghywir wedi’i gymhwyso, megis defnyddio ‘gwryw’ (rhyw) yn lle ‘dyn’ (dyn dynol) i dagio dyn mewn ffotograff.
Nod y prosiect tagio lluniau yw ychwanegu tagiau at gasgliad mawr o albymau ffotograffiau o’r 19eg ganrif, gan ddarparu data manylach na’r hyn a gedwir ar ein catalog. Dros y 12 mis diwethaf mae dros 100 o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan yn y dasg tagio ar ein llwyfan torfoli a threuliwyd cyfanswm o 900 awr ar y platfform. Y gwirfoddolwyr mwyaf gweithgar yw’r rhai sy’n rhan o dîm gwirfoddolwyr mewnol y llyfrgell er bod y prosiect yn agored i unrhyw un gymryd rhan.
Mae mwy nag 20,000 o dagiau wedi’u hychwanegu at y casgliad ffotograffau hyd yma.
Rhai o’r pethau cafodd eu tagio’n amlaf yng nghasgliad ffotograffau’r 19eg ganrif
Felly, pan holodd Myfyriwr Meistr Gwyddor Llyfrgell a Gwybodaeth ym Mhrifysgol Maryland am leoliad maes, gwelsom gyfle gwych i adolygu safon y tagio gan ein gwirfoddolwyr hyd yn hyn. Roedd Amelia Eldridge, ein Myfyriwr Meistr, wedi ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol tra ar ymweliad â Chymru fel rhan o breswyliad artist yn 2020. Teimlai y byddai lleoliad maes gyda’r Llyfrgell yn ffordd anhygoel o gyfuno ei diddordeb yn niwylliant Cymru gyda gofyniad graddio.
Aeth Amelia ati i adolygu sampl ar hap o dros 3000 o dagiau. Roedd hi’n edrych am ddefnydd anghywir o dagiau ac absenoldeb tagiau defnyddiol, lle efallai mae gwirfoddolwyr wedi colli’r cyfle i ychwanegu data defnyddiol.
O’r 3315 o dagiau a adolygwyd roedd 191 wedi’u marcio’n anghywir sy’n gyfradd fethiant o 5% yn unig. Ychwanegwyd 671 o dagiau newydd at albymau a ystyriwyd yn ‘gyflawn’ (cynnydd o 20%) sy’n awgrymu bod gwirfoddolwyr weithiau’n colli cyfleoedd i dagio rhai pethau.
Dyma Amelia yn esbonio mwy;
“Y tag coll a ychwanegwyd amlaf oedd “capsiwn” – llinellau o destun a ddefnyddir i esbonio neu ymhelaethu ar ddarlun, ffigwr, tabl neu ffotograff. Ychwanegwyd 155 o dagiau. Ychwanegais y tag hwn pan fod gan ddelwedd/ddarluniad gapsiwn disgrifiadol yn y ffotograff neu’r darluniad ei hun, yn hytrach nag wedi ei ysgrifennu mewn graffit oddi tano. Yr ail dag amlaf i gael ei ychwanegu oedd “ffasiynau Fictorianaidd”; ffasiynau a thueddiadau yn y diwylliant Prydeinig yn ystod y cyfnod Fictorianaidd, gyda 45 tag wedi eu hychwanegu. Ychwanegais y tag hwn i ffotograffau mewn arddull portread, ble ymddangosai i mi fod y ffasiynau a wisgir gan y bobl yn bwysig i ddisgrifiad y ddelwedd.
Ni ychwanegais hyn i ddelweddau ble roedd pobl yn amlwg yn gwisgo “ffasiynau Fictorianaidd” ond nad oeddent mewn arddull portread. Fodd bynnag, ni fyddwn yn marcio hyn yn anghywir os oedd gwirfoddolwr arall yn gwneud. Dyma enghraifft o ‘ogwydd tagiwr’, pan fyddwn yn gweld gyda diddordeb sut fyddai pobl gwahanol yn disgrifio ffotograff. Yn y rhan fwyaf o achosion ni dagiais y gwahaniaethau hyn fel rhai anghywir, yn hytrach gwnaethant i mi hunan fyfyrio.”
Un o’r delweddau a dagiwyd gan Amelia fel ‘ffasiynau Fictorianaidd’
Mae’r ‘gogwydd tagiwr’ a arsylwyd yn ein hatgoffa bod torfoli data disgrifiadol, beth bynnag fo’r fethodoleg, yn debygol o ddioddef o ddiffyg cysondeb gan y bydd pobl yn tueddu i dagio’r pethau sydd o ddiddordeb personol, neu’r pethau maen nhw’n sylwi arnynt yn fwy amlwg wrth archwilio delwedd. Fodd bynnag, mae’r gallu i weld tagiau a ychwanegir gan eraill ar y llwyfan yn caniatáu i ddefnyddwyr fyfyrio ar eu tagio eu hunain.
Pan ddaeth hi at y defnydd anghywir o dagiau roedd patrwm clir, fel yr eglura Amelia;
“Mi wnes farcio rhai tagiau fel rhai anghywir. Roedd y tri pennaf yn ymwneud a rhywedd. Y tag a farciwyd yn anghywir amlaf oedd ‘dyn’ (oedolyn gwryw dynol) gyda 74 o dagiau wedi eu marcio yn anghywir. Byddwn yn marcio’r tag hwn fel un anghywir pan fyddai dynion lluosog yn cael eu tagio fel un dyn. Teimlwn mai’r tag cywir ar gyfer y delweddau hyn, gan eu bod yn dangos nifer o ddynion, oedd ‘grwp o ddynion’. Yn ail roedd ‘gwryw’, sydd wedi ei fwriadu i ddisgrifio “rhyw neu rhywedd”. Marciwyd 45 o dagiau o’r math hwn. Byddwn yn cywiro hyn i naill ai ‘dyn’ neu ‘grwp o ddynion’ yn ddibynnol ar faint o bobl oedd yn cyflwyno fel gwryw oedd yn y llun. Y trydydd tag mwyaf aml i gael ei gywiro oedd ‘gwraig’ gydag 18 o dagiau anghywir. Byddwn yn cywiro’r tag hwn os byddai, fel gyda’r dynion, nifer o bobl yn cyflwyno fel menywod wedi eu tagio fel un yn unig. Byddwn yn eu newid i ‘grwp o wragedd’. Defnyddiwyd ‘benyw’ yn anghywir i ddisgrifio person benywaidd, ond ddwywaith yn unig. Defnyddiwyd ‘benyw’ a ‘gwryw’ mewn albymau cynnar a werthusais, ac mae’n ymddangos i’r gwirfoddolwyr gywiro eu hunain yn eithaf cyflym.”
Mae’r ffaith bod cymaint o’r tagiau anghywir yn deillio o gamddealltwriaeth onest o’r data yn awgrymu y gallai darparu mwy o arweiniad ac adnoddau hyfforddi leihau’r gyfradd gwallau yn sylweddol heb gormod o adnoddau.
Roedd rhai problemau hefyd yn ymwneud ag ethnigrwydd, lle cafodd unigolion eu tagio fel Eidaleg, Tsieineaidd neu Americanaidd Brodorol. Fel yr oedd Amelia yn awyddus i bwysleisio, “ni allwn gymryd hunaniaeth yn ganiataol”. Mae gan Wikidata eitemau data ar gyfer nodi preswylfa person neu grwp o bobl i defnyddio yn lle ethnigrwydd ac mae Amelia yn awgrymu y byddai defnyddio’r eitemau hyn yn llai problemus, er bod cymryd yn ganiataol bod pobl mewn ffotograff a dynnwyd yn yr Eidal yn bendant yn byw yn yr Eidal dal yn anodd datgan efo unrhyw awdurdod. Er enghraifft, mae Amelia yn awgrymu, pan gafodd “brodorion Gwreiddiol America yn UDA’ eu tagio o fewn delwedd, y gallai ei newid i ‘pobloedd brodorol yr Amerig’ fod yn fwy cynhwysol a chywir.” Eto, gallai darparu arweiniad clir i wirfoddolwyr helpu i leihau enghreifftiau o’r broblem hon.
Delwedd wedi’i thagio’n anghywir efo ‘ethnigrwydd’
Gofynnais i Amelia beth fyddai ei hargymhellion ar gyfer lleihau nifer y gwallau.
“Fy nheimlad i yw fod nifer o’r tagiau a farciwyd fel rhai anghywir yn rhai y gellid eu hosgoi drwy hyfforddi’r gwirfoddolwyr i beidio eu hychwanegu. Er enghraifft – osgoi tagio ethnigrwydd, neu’r tag rhywedd wrth ddisgrifio gwryw neu fenyw. Byddwn yn betrus o gael set benodol o dagiau â geirfa rhag ddiffiniedig, am na fyddwn am gyfyngu’r gwirfoddolwyr. Fel y soniais, rhywbeth diddorol i mi am y prosiect oedd gweld sut mae gwahanol ymagweddau i ddisgrifio delwedd. Hefyd, fel y soniais hefyd, ar y cyfryw mae’r gwirfoddolwyr yn barod yn gwneud gwaith da yn dehongli a thagio beth sydd yn yr albymau ffotograffau. Awgrym arall – a ddylai’r gwirfoddolwyr ddysgu am gefndir yr albymau ffotograffau cyn dechrau eu gwaith tagio? Efallai cael sgwrs fer gyda’r curadur sydd yn gyfrifol amdanynt? Neu fideo wedi ei recordio ymlaen llaw i weithiwr o bell? Rwy’n credu byddai rhai yn gweld hyn yn ddiddorol, a byddai’n rhoi cyfle i weld ochr arall o’r llyfrgell (curadurol).”
Bydd gwaith Amelia i adolygu’r albymau sydd wedi’u tagio ac i nodi patrymau yn ymddygiad defnyddwyr yn hynod werthfawr wrth i ni geisio datblygu a tyfu ein cyfleoedd torfoli. Bydd ei phersbectif fel rhywun sydd hefyd wedi cyfrannu at y tagio fel gwirfoddolwr yn ein helpu i wella ein gwasanaeth wrth i ni symud ymlaen. Y casgliad llethol yma, yw bod y gwirfoddolwyr, mewn gwirionedd, wedi gwneud gwaith gwych yn tagio’r albymau gyda chywirdeb trawiadol. Mae awgrymiadau Amelia ar gyfer adnoddau hyfforddi ac i ofyn i guraduron roi rhywfaint o hanes a chyd-destun ar gyfer y casgliadau sy’n cael eu tagio yn hynod ddefnyddiol ac yn rhywbeth rwy’n gobeithio y gallwn ei ddatblygu ar gyfer ein prosiect tagio nesaf.
Amelia yn cyflwyno ei chanfyddiadau i staff LlGC gyda Jason Evans, ei goruchwyliwr yn LlGC.
Felly can diolch i Amelia am y gwaith hwn. Dymunwn y gorau iddi gyda’i gradd meistr a gobeithio y cafodd gymaint allan o’i lleoliad maes ag y gwnaethom ni!
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English