Blog

Argraffiad prin o’r Mabinogion

Casgliadau / Collections / Derbynion newydd - Postiwyd 26-06-2023

Mae’r Mabinogion yn gasgliad o ddeuddeg o chwedlau Cymraeg Canol.  Fe’u cyfieithwyd i’r Saesneg yn y 19eg ganrif gan y Fonesig Charlotte Guest, merch nawfed Iarll Lindsey, a anwyd yn swydd Lincoln ond a ddechreuodd ymddiddori yn llên a thraddodiadau Cymru ar ôl priodi Syr Josiah John Guest, meistr gweithfeydd haearn Dowlais.

 

 

Mae un ar ddeg o’r chwedlau wedi’u cymryd o’r Llyfr Coch o Hergest, sef un o’r llawysgrifau Cymraeg pwysicaf yr Oesoedd Canol.  Maent yn cynnwys pedair cainc y Mabinogi, sef Pwyll Pendefig Dyfed, Branwen ferch Llŷr, Manawydan fab Llŷr, a Math fab Mathonwy, yn ogystal â thair rhamant Arthuraidd a phedair chwedl annibynnol.  Rhoddwyd cymorth i Charlotte Guest gan John Jones (Tegid) a Thomas Price (Carnhuanawc) gyda’r gwaith cyfieithu.  Argraffwyd y testunau Cymraeg gyda’r cyfieithiadau, ac mae’r cyfrolau yn cynnwys ffacsimilïau o rannau o’r llawysgrifau gwreiddiol.

 

 

Cyhoeddwyd y cyfieithiad mewn saith rhan rhwng 1838 a 1849, wedi’u bwriadu i’w rhwymo mewn tair cyfrol.  Yn ddiweddar mae’r Llyfrgell wedi prynu copi prin iawn o’r saith rhan wreiddiol; dim ond un copi arall sy’n hysbys mewn llyfrgell sefydliadol.  Copi personol y cyfieithydd yw’r rhai a brynwyd, gyda’i phlât llyfr tu fewn i’r cloriau, yn dangos ei harfbais a’i henw ar ôl priodi am yr ail dro, sef Lady Charlotte Schreiber.

 

 

Mae’r cyfrolau prin yma yn ychwanegiad pwysig at gasgliad helaeth y Llyfrgell Genedlaethol o lyfrau Arthuraidd.

Timothy Cutts,

Llyfrgellydd Llyfrau Prin.

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog