Blog - Arddangosfeydd

Postiwyd - 05-02-2018

Arddangosfeydd / Casgliadau

Teithiwr Chwilfrydig: Thomas Pennant a’r ‘Daith Gartref’

“I beg to be considered not as a Topographer but as a curious traveller willing to collect all that a traveller may be supposed to do in his voyage”

 

Ym mis Mai 1773 ysgrifennodd y naturiaethwr Thomas Pennant o Neuadd Downing, Sir y Fflint, am ei gynlluniau i gynhyrchu llyfr o ‘travels at home’. Daeth y gwaith hwnnw i olau dydd dan y teitl Tours in Wales, a gyhoeddwyd mewn tair cyfrol rhwng 1778 ac 1783. Roedd yn waith arloesol a thra dylanwadol, a fyddai’n parhau i siapio syniadau pobl am Gymru am ganrif a rhagor.

Roedd Pennant eisoes yn adnabyddus yn rhyngwladol erbyn i’r Tours ymddangos. Gwyddai pobl amdano fel awdur y British Zoology a ddarluniwyd mor gywrain, fel un a ohebai’n gyson â rhai o naturiaethwyr mawr Ewrop y ddeunawfed ganrif (yn cynnwys y Comte de Buffon a Carl Linnaeus), ac fel arloeswr anturus y ddwy daith i’r Alban a ysbrydolodd Dr Samuel Johnson a James Boswell a’u Journey to the Western Isles. Llwyddodd partneriaeth Pennant â’r artist Moses Griffith i ddwyn golygfeydd yng Nghymru ac yn yr Alban i sylw cynulleidfa cryn dipyn yn ehangach, ac i symbylu cannoedd lawer o bobl i ymgymryd â theithio gartref drostynt eu hunain.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i gasgliad helaeth o weithiau cyhoeddedig ac o lawysgrifau Pennant, yn ogystal â llawer o luniau dyfrlliw Moses Griffith. Bydd rhai o’r rhain yn cael eu harddangos yn Ystafell Summers rhwng 5 a 9 Chwefror 2018. Mae prosiect y ‘Teithwyr Chwilfrydig’, sy’n cael ei gynnal ar y cyd rhwng Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Glasgow dan nawdd yr AHRC, wedi bod yn twrio yn yr archif ryfeddol hon gan ddod wyneb yn wyneb â phleserau (a thrychinebau!) y profiad o deithio yng Nghymru a’r Alban yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma ddechreuadau twristiaeth fodern – ac mae cynhysgaeth gymhleth Pennant yn dal i fod gyda ni heddiw.

I ddarganfod mwy am y prosiect, gw. http://curioustravellers.ac.uk/cy

Mary-Ann Constantine (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru)

Tagiau:

Postiwyd - 26-01-2018

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Casgliadau / Collections

Kyffin Williams: Dathlu Canmlwyddiant

Mae ein tîm arddangosfeydd yn brysur iawn wrth i ni agosáu at ein prif arddangosfa eleni ‘Kyffin Williams: Tu Ôl i’r Ffrâm’ sy’n agor ar yr 16eg o Chwefror. Mae cymaint o gasgliadau anhygoel i ddewis ohonynt – nid y paentiadau yn unig, ond hefyd llythyrau, dyddiaduron ac effemera o archif nad yw wedi’i gweld cyn hyn. Mae hi wedi bod yn dasg anferthol ond pleserus iawn; mae digonedd o ddeunyddiau i lenwi ein horiel eang sawl gwaith!

Ar yr un pryd rydym wedi bod yn paratoi bron i 70 eitem ar gyfer arddangosfa yn Oriel Ynys Môn sy’n dwyn y teitl ‘Kyffin Williams: Dathlu’r Canmlwyddiant’ ac sy’n agora r y 3ydd o Chwefror. Yn gyfnewid am y benthyciad yma mae ambell i em yn dod yma ar fenthyg o gasgliad Oriel Ynys Môn, a fydd i’w gweld yn ein harddangosfa ni yma yn y Llyfrgell. Un o’r rhain yw darlun cynhyrfiol o storm ar draws y Fenai, sef yr un olygfa â phaentiad olew yn ein casgliad o’r enw ‘Storm yn Nesáu’. Ian Jones, Rheolwr Casgliadau ac Adeiladau yn Oriel Môn sylwodd ar y cysylltiad rhwng ei darlun nhw a’n paentiad olew ni: “Y teitl a roddodd Kyffin ar y darn oedd ‘Biwmares’, ond golygfa o’r Fenai ac Eryri y tu hwnt o Glanrafon, ger Llangoed. Mae Biwmares yng nghanol y darlun tu ôl i’r coed ar lannau’r Fenai.”

Roedd Kyffin yn gefnogwr ffyddlon o’r Llyfrgell ac Oriel Ynys Môn a byddai wrth ei fodd o wybod ein bod yn parhau i gydweithio er mwyn rhannu ei gasgliadau gyda’r genedl.

Am y newyddion diweddaraf am yr arddangosfa dilynwch ni ar
Twitter: @arddangosfallgc
Instagram: @llgcymru
#Kyffin100

 

Uned Arddangosfeydd

Postiwyd - 08-12-2017

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Casgliadau

Ymgyrch Fframio’r Dyfodol – Kyffin Williams

Mae cadw, diogelu, catalogio a dehongli ein casgliadau yn elfen hanfodol o waith Llyfrgell Genedlaethol Cymru, er mwyn sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd. Fel cartref i nifer sylweddol o baentiadau amlycaf Kyffin Williams ac wrth inni ddathlu ei fywyd yn 2018, mae cadw a diogelu rhain a sicrhau eu bod yn cael eu fframio’n gywir yn rhan anatod o’r broses gadwraeth.

Nid yn unig y mae ffrâm yn diogelu paentiad rhag difrod, ond mae hefyd yn effeithio ar olwg y gwaith gorffenedig. Yn wir gall ffrâm dda ychwanegu’n fawr at unrhyw waith celf gan ddyrchafu profiad y sawl sy’n edrych ar y cynnwys. Mae dewis y ffrâm gywir ar gyfer darn o gelf heb os yn grefft ynddi’i hun. Roedd gan Kyffin syniadau pendant yngl?n â sut i fframio’i baentiadau, ac mae’r Llyfrgell wedi cychwyn prosiect cadwraeth newydd i ail-fframio rhai o’i weithiau gyda’r bwriad o anrhydeddu gweledigaeth gwreiddiol yr artist.

Bydd Ymgyrch Codi Arian Fframio’r Dyfodol yn ariannu’r prosiect cadwraeth allweddol hwn er mwyn galluogi bod gweithiau Kyffin yn cael eu gofalu amdanynt a’u gwerthfawrogi gan genedlaethau’r dyfodol.

Bydd fframio un darn o waith yn costio o gwmpas £2,000 a bydd cael cefnogaeth hael ein cefnogwyr yn ein galluogi ni i wneud mwy o’r gwaith. Bydd pob cyfraniad wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth ac yn diogelu gweithiau eiconig i’r dyfodol.

 

Rhian Haf Evans, Swyddog Codi Arian

Postiwyd - 20-11-2017

Arddangosfeydd / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Ymadawiad Arthur

Ymhen llai na mis, bydd arddangosfa Arthuraidd y Llyfrgell yn cau ei drysau am y tro olaf, a bydd ein harwr yn dychwel i’r fro dirion nad ery cwyn yn ei thir.

I nodi Archwilio eich Archif eleni, cynhaliwyd dau ddigwyddiad yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 15 Tachwedd i ddwyn sylw at thema chwedloniaeth mewn archifau yma.

Yn ei gyflwyniad awr ginio, trafododd Scott Lloyd, o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, chwedlau ac archaeoleg, gan dynnu ar enghreifftiau o dros ganrif o archifo gan y Comisiwn.

Aeth Maredudd ap Huw, curadur yr arddangosfa Arthuraidd, ag ymwelwyr ar drywydd y brenin yn ei aml weddau: o’r cymeriad chwedlonol Cymreig mewn ffynonellau megis Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch, trwy ei ymddangosiadau yn llenyddiaeth Ffrainc, ac yn ôl i’r derbyniad cymysg a gafodd ym Mhrydain y Tuduriaid.

Go brin i’r Brenin Arthur greu archifau erioed: roedd yn llawer rhy brysur i gadw cofnodion, ffeilio llythyrau, ac archwilio cyfrifon. Er hynny, gellir gweld a mwynhau llawysgrifau a llyfrau yn ymwneud â’r brenin yn ystafell Hengwrt y Llyfrgell hyd ei ymadawiad ar Ragfyr 16.

Wedyn, ninnau, yn drist a distaw, at y drin awn eto draw …

Maredudd ap Huw
Curadur Llawysgrifau

Postiwyd - 17-11-2017

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Collections

Arddangosfa Kyffin Williams 100: ‘Tu ôl i’r Ffrâm’
 Curadu’r Arddangosfa



‘This is the land that has obsessed me throughout my life. My love of it ?is not superficial but deep, for my family have for so many generations ?had the same feeling for the land and its people. When I left art school ?I did not have to think what I should paint for my subject was deep ?inside me and waiting for me to record it’.

(Kyffin Williams, ‘The Land & the Sea’, Gwasg Gomer, 1998).

Bydd Arddangosfa Kyffin Williams sy’n agor yn y Llyfrgell ?Genedlaethol ar yr 16eg o Chwefror 2018 yn coffau canmlwyddiant ers geni ?un o arlunwyr amlycaf Cymru. Bydd felly’n gyfle i’r Llyfrgell ddathlu’r ?casgliad cyfoethog o weithiau’r arlunydd o Fôn a gartrefir yma –  o’i ?dirluniau eiconig a’i forluniau pwerus o Ynys Môn, gogledd-orllewin ?Cymru a thramor i’w bortreadau llawn emosiwn. Cawn gyfle hefyd, trwy’r ?arddangosfa, i dalu sylw i weithiau llai amlwg nas gwelwyd yn ?gyhoeddus o’r blaen, gan gynnwys ei waith paratoadol, megis ei lyfrau ?braslunio a’i flociau printio. Yma yn y Llyfrgell ceir dros 200 o ?baentiadau olew, dros 1,200 o weithiau ar bapur a thros 300 o brintiau ?gwreiddiol gan yr arlunydd.

Cysyllta’r mwyafrif o bobl Kyffin Williams yn syth gyda’i ?dechneg impasto o beintio –  sef rhoi’r paent olew i lawr yn drwchus ar y cynfas gan ddefnyddio cyllell balet. Agwedd hynod ddiddorol o’r gwaith ?ymchwil ar gyfer yr arddangosfa hon oedd darganfod y gweithiau cynnar a ?greodd Kyffin yn ystod ei gyfnod tra’n fyfyriwr yng Ngholeg Celf y Slade ?a tra’r oedd yn athro Celf yn Highgate, Llundain o’r 1940au i’r ?1970au cynnar.  Mae’r gweithiau cynnar yma o bwysigrwydd enfawr gan eu bod yn ?dangos sut y datblygodd Kyffin ei dechneg a’i arddull eiconig o baentio – arddull a ddaliodd ddychymyg y Cymry ers cychwyn ei yrfa.

Cawn hefyd yn yr arddangosfa fewnwelediad gwerthfawr i feddwl ?creadigol Kyffin wrth gael cipolwg ar ambell ffilm amdano a’i ddyddiaduron ?a’i lythyron sydd gennym yn ein harchifau. Roedd gan ?Kyffin Williams ddawn ysgrifennu aruthrol a lwyddai i ddal dychymyg y ?darllenwr yn syth ac mae ei hunangofiannau difyr yn brawf o hyn. Bydd ?yr arddangosfa yma felly’n gyfle unigryw i ni fedru dathlu delweddau a ?geiriau Kyffin mewn modd hynod effeithiol ar furiau eiconig Oriel ?Gregynog y Llyfrgell Genedlaethol.

 

Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Postiwyd - 16-10-2017

Arddangosfeydd / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Trichanmlwyddiant geni William Williams Pantycelyn

Mae trichanmlwyddiant geni William Williams Pantycelyn wedi rhoi cyfle i mi gyfuno dwy agwedd o fy mywyd yn y Llyfrgell Genedlaethol, sef fy ngwaith gyda llyfrau prin a fy aelodaeth o Gôr y Gen.  Ddydd Mercher 6ed o Fedi traddodwyd darlith yn y Drwm gan yr Athro E. Wyn James o Brifysgol Caerdydd gyda’r teitl Williams Pantycelyn trwy Lygad ei Lythyrau.  I gyd-fynd â’r ddarlith, darparais arddangosfa yn Ystafell Summers, ar y cyd gyda Rhys M. Jones, Llyfrgellydd Llawysgrifau Cynorthwyol, o ohebiaeth William Williams ac argraffiadau gwreiddiol o’i weithiau.  Roeddem ni’n falch i groesawu aelodau o Gymdeithas Hanes Llanymddyfri, ardal geni William Williams, i’r Llyfrgell y diwrnod hwnnw.

Nos Sul 1af o Hydref perfformiodd Côr y Gen, sef côr o aelodau o staff y Llyfrgell, mewn cymanfa ganu yng nghapel Bethel, Aberystwyth.  Roedd ein rhaglen yn cynnwys trefniadau o ddau emyn gan William Williams, sef O Nefol Addfwyn Oen ac O Llefara Addfwyn Iesu.

Ddeuddydd yn ddiweddarach daeth aelodau o Fudiad Efengylaidd Cymru ar ymweliad i’r Llyfrgell.  Rhoddais sgwrs iddynt ar William Williams a dangos rhai o’r llyfrau a oedd wedi’u cynnwys yn yr arddangosfa.

Darparodd Rhys Jones a finnau arddangosfa eto ddydd Sadwrn 14eg o Hydref, pan gynhaliwyd cynhadledd undydd yn y Llyfrgell gan Adran Diwylliant 18-19 Ganrif Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru i ddathlu trichanmlwyddiant geni Williams Pantycelyn.  Y siaradwyr oedd yr Athro E. Wyn James, Dr. Eryn White, Gwynn Matthews, yr Athro Densil Morgan a’r Athro Ceri Davies.

 


Bydd y dathliadau yn parhau ddydd Mercher 18fed o Hydref gyda seremoni yn adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd.  Bydd anerchiadau gan Elin Jones, Carwyn Jones, E. Wyn James ac Ifor Davies, a bydd Côr y Gen yn canu trefniadau o dri o emynau Pantycelyn i orffen.

Mae’r Llyfrgell hefyd wedi digido holl weithiau cyhoeddiedig William Williams Pantycelyn sydd yn ei chasgliadau, fel eu bod ar gael i bawb ar y We am y tro cyntaf. Mae dros 90 o weithiau i gyd, yn cynnwys dros 4,000 o dudalennau. Byddant yn help i godi ymwybyddiaeth o gyfraniad y llenor a’r emynydd i fywyd Cymru ac yn fyd eang, ac yn adnodd gwych i unrhyw un sydd am astudio ei waith.

Trwy gydol cyfnod y dathliadau mae eitemau printiedig a llawysgrif o waith William Williams hefyd i’w gweld mewn cas arddangos yn Ystafell Peniarth ar lawr gwaelod y Llyfrgell.  Gyda’r gweithgareddau amrywiol hyn rydym wedi ceisio talu teyrnged haeddiannol i’r Pêr Ganiedydd.

 

Timothy Cutts

Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Postiwyd - 13-10-2017

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Collections

Kyffin Williams 100: Tu ôl i’r Ffrâm

“It is ironic that I am the most loved & most honoured Welsh artist of all time & yet I am hated by the art world.” – Kyffin Williams (dyddiadur) 16 Hydref 1993.

Pleser o’r mwyaf i ni yw datgelu cynlluniau i gynnal arddangosfa eang a fydd yn cael ei lansio ym mis Chwefror 2018 i goffáu canmlwyddiant geni un o artistiaid mwyaf nodedig a diffiniol Cymru’r ugeinfed ganrif – Syr Kyffin Williams.

Cychwynnodd y berthynas rhwng y Llyfrgell a’r artist gyntaf oll yn 1949 ar ddechrau gyrfa Kyffin a ninnau’n prynu un o’i baentiadau am y tro cyntaf. O’r adeg yma ymlaen cafodd y berthynas hon ei meithrin trwy bryniannau, rhoddion ac arddangosfeydd cyson tan ei farwolaeth ym mis Medi 2006 pan dderbyniodd y Llyfrgell ran helaeth o’i ystâd yn gymynrodd. Y casgliad presennol yn y Llyfrgell, ynghyd â’r gymynrodd, yw’r casgliad helaethaf a’r mwyaf cynhwysfawr sydd ar gael o ddeunydd sy’n perthyn i Kyffin Williams.

Felly, beth mae’r Llyfrgell wedi bod yn gwneud â’r rhodd hael hon hyd yn hyn? Mae trefnu a chyflwyno arddangosfa gynhwysfawr o’i waith yn gynnyrch sawl blwyddyn o ddidoli, catalogio, diogelu ac astudio. Mae’r gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo a llawer eto i’w gyflawni. Rydym wedi bod wrthi’n gwneud ei gasgliadau’n hygyrch i’r cyhoedd ar-lein, trwy arddangosfeydd a’n rhaglen benthyciadau, yn enwedig gyda’n partner Oriel Kyffin / Oriel Ynys Môn. Yn wir, mae ein perthynas ag Oriel Kyffin yn etifeddiaeth wych o gymynrodd Kyffin, lle bellach mae cwtsh wedi disodli ysgwyd llaw yn y cyfarfodydd! Bydd y Llyfrgell ac Oriel Kyffin yn dod at ei gilydd i rannu casgliadau yn ystod blwyddyn y canmlwyddiant ynghyd â chydweithio ar raglen gyfoethog o weithgareddau estyn allan.

Mae arddull eiconig a thestun gweithiau Kyffin yn atyniadol gan eu bod wedi dod yn gyfystyr â’r weledigaeth o Gymru a Chymreictod, agwedd hanfodol ar ein dealltwriaeth o bwy ydyn ni. Ond pwy oedd e?

“I am the greatest living expert on myself” – Kyffin Williams (dyddiadur), 29 Ionawr 1993

Sut rydyn ni am bortreadu artist mor eiconig y mae cynifer o bobol wedi ysgrifennu amdano a’i drafod? Roeddem yn teimlo mai’r ffordd orau o wneud hyn oedd dwyn ysbrydoliaeth o eiriau’r artist ei hun – o’i ddyddiaduron a’i lythyron ei hun – er mwyn dehongli ei greadigaethau. Byddwn yn edrych ‘tu ôl i’r ffrâm’ i ddysgu am ei dechneg, am yr hyn â’i ysbrydolodd a sut wnaeth ei bersonoliaeth, cymhlethdod ei gymeriad a’i iechyd ddylanwadu ar ei fywyd a’i waith.

Mae ein cefnogaeth i’r artist hwn ar hyd y blynyddoedd wedi cyrraedd ei benllanw yn yr arddangosfa hon ynghyd â llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau estyn allan a gynhelir yn ystod blwyddyn y canmlwyddiant. Mae’n arbennig o berthnasol – wrth i ni dynnu at derfyn blwyddyn y chwedlau – ein bod yn lansio achlysur dathlu’r unigolyn unigryw a chwedlonol hwn.

 

Uned Arddangosfeydd

Postiwyd - 09-10-2017

Arddangosfeydd / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Y Diwrnod Derbynion

Doedd bron dim lle ar ôl yn Ystafell y Cyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddydd Mercher y 4ydd o Hydref pan ddaeth cyfeillion y Llyfrgell ynghyd o bedwar ban er mwyn cymryd rhan yn ein Diwrnod Derbynion. Roedd y gwesteion i gyd wedi cyfrannu rhywbeth pwysig i’n casgliadau boed yn eitem werthfawr neu’n rhodd ariannol er mwyn prynu rhywbeth penodol. Mae’r Llyfrgell wedi elwa ar haelioni’r cyhoedd ers ei sefydlu ac roedd y Diwrnod Derbynion yn gyfle inni ddweud diolch yn fawr iawn wrth ein cyfeillion trwy greu arddangosfa amrywiol o rai o’r trysorau sydd wedi dod trwy’r drysau yn y blynyddoedd diwethaf a chynnig cyfle iddynt gymdeithasu dros ginio.

 

Ar ôl cinio cafwyd sawl cyflwyniad gan staff arbenigol y Llyfrgell ar agweddau o’r casgliadau: golwg ar ach teuluol ysblenydd Gawen Goodman; disgrifiad o’r amryw ffyrdd diddorol y mae archifau yn ein cyrraedd, yn rhai traddodiadol papur neu’n recordiadau sgrîn a sain; a phwysigrwydd llyfrau sgetsio Gwilym Pritchard yn y broses o greu paentiad.

 

Roedd yr achlysur hefyd yn gyfle inni sôn am ein Cronfa Gasgliadau newydd. Bydd y gronfa hon yn dod yn fwyfwy pwysig wrth inni orfod cystadlu â chyrff eraill am arian cyhoeddus. Yn 2016 methodd y Llyfrgell â phrynu llythyr gan y môr-leidr enwog o Gymro, Syr Harri Morgan. Byddai hi wedi bod yn wych cael gweld y llythyr hwnnw yn ein arddangosfa derbynion diweddar eleni ond efallai, gyda’ch cymorth chi, y tro nesaf y daw trysor tebyg i’r farchnad, bydd tipyn mwy o wynt yn ein hwyliau!

 

Robert Lacey,

Pennaeth Datblygu Casgliadau.

Postiwyd - 11-09-2017

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Rhwydwaith Moderniaid Cymru (MONC)

Bydd ail gynhadledd Rhwydwaith Moderniaid Cymru (MONC) yn digwydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth, ar 12-13 Medi 2017, gyda ‘Gair a Delwedd’ fel thema.

https://modernistnetworkcymru.files.wordpress.com/2017/06/monc-2017-programme-final-welsh.pdf

I gyd fynd â’r gynhadledd mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn arddangos llawysgrifau ac archifau yn ymwneud â rhai o awduron ac artistiaid pwysicaf Cymru o’r ugeinfed ganrif. Mae’r eitemau sydd i’w gweld fel a ganlyn:

  • drafft llawysgrif gan David Jones o ddiwedd Rhan V In Parenthesis, gyda braslun o filwr, [c. 1932-5] (David Jones Papers LP2/6),
  • diagram lliw gan David Jones yn darlunio llinach mytholeg (David Jones Papers LO3/3),
  • llythyrau oddi wrth T. S. Eliot at David Jones (David Jones Papers CT1/2)
  • detholiad o lyfrau nodiadau Ray Howard-Jones, yn dangos cerddi drafft a lluniau (Ray Howard-Jones Papers H2/3),
  • papurau’r bardd R. S. Thomas mewn perthynas â chyhoeddi The Way of It (1977), casgliad darluniedig o’i gerddi (NLW MS 23474C),
  • llythyrau oddi wrth y ffotograffydd ac arlunydd John Piper at y cyfansoddwr Alun Hoddinott (The Alun Hoddinott Archive BA1/23),
  • brasluniau gan yr arlunydd Gwen John (NLW MS 22297B),
  • nodiadau Gwen John ar gelfyddyd (NLW MS 22284B),
  • Birds in Winter’, cerdd darluniedig o waith Berta Ruck, a brynwyd yn ddiweddar gan y Llyfrgell (gweler y Berta Ruck Archive),
  • papurau’r awdur ac arlunydd Brenda Chamberlain (NLW MS 24065E),
  • map braslun gan Dylan Thomas o dref Llareggub, lleoliad Under Milk Wood: A Play for Voices (NLW MS 23949E),
  • llythyr, 16 Mehefin 1953, oddi wrth Thomas at ei gariad Americanaidd Liz Reitell (NLW MS 24091D),
  • a chopi yn llaw Thomas o’i gerdd ‘Ears in the turrets hear’ (NLW MS 23990D).

Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Ystafell Summers yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 12-13 Medi 2017.

Rhys M. Jones
Llyfrgellydd Llawysgrifau Cynorthwyol

Postiwyd - 07-08-2017

Arddangosfeydd / Casgliadau / Collections / Digido / Heb ei gategoreiddio / Newyddion a Digwyddiadau

Y Lle Hanes

Eleni bydd stondin Y Lle Hanes yn canolbwyntio ar 4 thema sy’n berthnasol i ardal yr Eisteddfod, sef Y Mabinogi ac Ynys Môn, Llys Rhosyr a’r Tywysogion Cymreig, Llyn Cerrig Bach ac Oes yr Haearn a Hwfa Môn a’r Eisteddfod Genedlaethol.

 


Mae prif bartneriaid Y Lle Hanes – Amgueddfa Cymru, Cadw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru – wedi bod yn gweithio gyda 15 o gymdeithasau a mudiadau lleol ar Ynys Môn i greu cynnwys, arddangosfa a rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer y stondin yn Eisteddfod 2017.

Bydd llawer o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell yn rhan o arddangosfa Y Lle Hanes yr wythnos hon, gan gynnwys copiau o bapurau newydd o’r 19eg ganrif, ffotograffau John Thomas o Hwfa Môn, mapiau o Ynys Môn, darluniau eiconig Margaret Jones o’r Mabinogi a darluniau Kyffin Williams. Yn ganolbwynt i’r cyfan mae ffacsimili Llyfr Gwyn Rhydderch, llawysgrif o’r 14eg ganrif sy’n cynnwys y copi cyflawn cynharaf ar glawr o chwedlau’r Mabinogi.

Mae gennym wythnos lawn o weithgareddau wedi eu trefnu ar eich cyfer, o waith llaw yn trin casgliadau, pwytho a chloddio, i weithdai addysg i deuluoedd. Byddwn hefyd yn cyflwyno sioeau Mewn Cymeriad deirgwaith y dydd ar themâu megis Hedd Wyn, Buddug a’r Mimosa, felly galwch draw i’n gweld.

 

Owen Llywelyn

Rheolwr Estyn Allan a Chyfranogiad

<- Cofnodion Hŷn Cofnodion Newydd ->

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog