Arddangosfa Diwygiadau yn y Senedd
Arddangosfeydd / Casgliadau / Collections - Postiwyd 11-04-2022
Mae’r Llyfrgell yn darparu arddangosfa bob blwyddyn ar gyfer Brecwast Gweddi Gŵyl Ddewi yng Nghaerdydd. Trefnir y digwyddiad arbennig hwn gan grŵp o aelodau Cristnogol o’r Senedd o wahanol bleidiau, ac mae’r gwahoddedigion yn cynnwys aelodau o seneddau dros Ewrop, arweinyddion eglwysi a chapeli, a chynrychiolwyr nifer o fudiadau Cristnogol.
Thema’r Brecwast Gweddi eleni oedd “Diwygiadau”. Yr eitem hynaf a ddangoswyd oedd Llythyr ynghylch y ddyledswydd o gateceisio plant a phobl anwybodus (1749) gan Griffith Jones, oedd yn gyfrifol am sefydlu miloedd o ysgylion cylchynol er mwyn dysgu pobl i ddarllen y Beibl. Roedd cysylltiad agos rhwng yr ysgolion hyn a’r ymdrechion i gael yr SPCK i ddarparu Beiblau Cymraeg.
Cyhoeddwyd Two letters, giving an account of a revival of religion in Wales gan Thomas Charles o’r Bala yn 1792. Arweiniodd y cyfnod o adfywiad ysbrydol mae Charles yn ei adrodd at sefydlu Cymdeithas y Beibl, a dangoswyd hefyd yr argraffiad cyntaf o’r Beibl Cymraeg a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas yn 1807.
Er mwyn adlewyrchu agwedd ryngwladol y thema, dangoswyd Hanes llwyddiant diweddar yr Efengyl, a rhyfeddol waith Duw, ar eneidiau pobl yn North America (1766), sef cyfieithiad gan William Williams, Pantycelyn o bamffledyn yn disgrifio deffroad ysbrydol yn America ddwy flynedd ynghynt. Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys hunangofiant Ben Chidlaw (1890), Cymro a ymfudodd i America ond a fu’n rhan o Ddiwygiad 1839 tra ar ymweliad â’i famwlad, a The revival in the Khasia Hills (1907), sef hanes cenhadaeth dramor y Methodistiaid Calfinaidd yn India.
Dangoswyd dwy lawysgrif o Ddiwygiad 1858-9, sef dyddiadur Dafydd Morgan, Ysbyty, a llythyr oddi wrth John Matthews o Aberystwyth. Yr eitem a ddenodd sylw mwyaf y gwahoddedigion oedd Beibl Evan Roberts, a oedd gydag ef pan oedd yn gweithio mewn pwll glo. Cafodd y Beibl ei losgi yn rhannol mewn ffrwydrad yn 1897 a laddodd pump o’i gydweithwyr. Arweiniodd hyn at ei droëdigaeth, sy’n cael ei disgrifio yn nyddiadur y Parch. Seth Joshua a ddangoswyd ar bwys y Beibl. Roedd Evan Roberts yn un o brif arweinwyr Diwygiad 1904-5.
Roedd yn fraint i arddangos y trysorau hyn o gasgliadau’r Llyfrgell yng nghyntedd y Senedd a’u trafod gyda’r gwesteion. Wrth greu’r arddangosfa, ceisiais amlinellu hanes gwaith Duw trwy nifer o ddiwygiadau yng Nghymru a diwygiadau mewn gwledydd eraill sydd naill ai wedi dylanwadu ar Gymru neu wedi elwa o gyfraniad cenhadon o Gymru.
Timothy Cutts
Llyfrgellydd Llyfrau Prin
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English