Adnoddau Digidol Newydd
Collections / Digido - Postiwyd 09-02-2021
Er bod adeilad y Llyfrgell wedi bod ar gau mae llawer o waith wedi parhau tu ôl i’r llen ac ers mis Mehefin mae’r eitemau a’r casgliadau a ganlyn ar gael yn ddigidol i bori o adref ar wefan y Llyfrgell a/neu y catalog:
Llawysgrifau ac Archifau
Casgliad Peniarth
- Dares Phrygius and Brut y Brenhinedd (Peniarth MS 25)
- English poetry (Peniarth MS 351)
- Llyfrau geiriau (Peniarth MS 308)
- Caernarvonshire sheriffs (Peniarth MS 494)
- A diary and a letter book (Peniarth MS 416i)
- Tour on the Continent (Peniarth MS 499)
- Civil war and Commonwealth letters (Peniarth MS 495)
Papurau Wynn o Wedir: (1515-[c. 1684])
Rhyddhawyd bron i 10,000 o ddelweddau o bapurau personol a phapurau’n ymwneud â gweinyddiaeth gyhoeddus aelodau teulu Wynn o Wedir, Sir Gaernarfon. Mae modd canfod 2,786 eitem o Grŵp Syr John Williams, 1519-1683 (NLW MSS 463-470) a Grŵp Panton, 1515-[c. 1699] (NLW MSS 9051-9069) yn y catalog.
Papurau Syr John Herbert Lewis Papers
Mae 8 o ddyddiaduron ym Mhapurau Syr John Herbert Lewis o’r cyfnod 1925-1933 bellach ar gael:
- Diary 1925 (B39)
- Diary 1925 (B40)
- Diary 1928 (B41)
- Diary 1929 (B42)
- Diary 1930 (B43)
- Diary 1931 (B44)
- Diary 1932 (B45)
- Diary 1933 (B46)
Papurau Gareth Vaughan Jones Papers
Pasbort Gareth Vaughan Jones 1930-1934 (B5/3)
Deunydd Print
Casgliad Llyfrau Cymreig Cynnar
Mae 2,470 o gyfrolau o’r casgliad ar gael ar y catalog, gan gynnwys gweithiau nodedig William Salesbury A dictionary in Englyshe and Welshe, [1547], Kynniver llith a ban [1551] a The descripcion of the sphere or frame of the worlde [ca. 1553]), rhan gyntaf gramadeg Gruffydd Robert, Milan Dosparth byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg (1567), Drych y Prif Oesoedd [1716] a Cyd-gordiad egwyddorawl o’r Scrythurau [1730].
Cofiannau (1809-1889)
Mae tua 900 o gofiannau ar gael drwy’r catalog erbyn hyn. Mae’r detholiad yn cynnwys teitlau megis:
- Hanes bywyd Thomas Edwards : yr hwn yn gyffredin a elwir Twm o’r Nant … (1814)
- Cofiant, neu hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Charles (1816)
- Hanes byr am Rees Thomas Rees, yr hwn a gafodd ei ddienyddio yn Nghaerfyrddin … (1817?)
- Hanes bachgen a frathwyd gan gi cynddeiriog (1807?)
- Hanes Pamela : neu Ddiweirdeb wedi ei wobrwyo (1818)
- Hanes Thomas Edwards, yr herw-heliwr (183-?)
- Cofiant Richard Roberts [sic] Jones, alias Dic Aberdaron … (184?)
Bydd y gwaith o ryddhau cofiannau yn parhau dros y misoedd nesaf.
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Rhyddhawyd detholiad o deunydd print yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf:
- Albert Thomas, Aberthau ac amcanion gweithwyr y cad-reidiau Ffrengig … (1915)
- Charles Humble Dudley-Ward, History of the 53rd (Welsh) Division (T.F.), 1914-1918 (1927)
- David Lloyd George, Eich Gwlad a’ch Cais: araith gan David Lloyd George; wedi ei chyfieithu gan J. Morris Jones (1914)
- David Lloyd George, The Task Before Us (1915)
- David Lloyd George, Drwy arswyd i’r orsedd: apel at y genedl gan ganghellyd y trysorlys … (1914)
- J. Vyrnwy Morgan, The War and Wales (1916)
- John Morris Jones, To the Welsh People (1916?)
- Welsh Army Corps, 1914-1919: Report of the Executive Committee (1921)
- A History of the 38th (Welsh) Division (1920)
- General History of the Belgian Refugee Movement in the Union … (1915)
- At Drigolion y Plwyf Hwn (1915)
- Bulletin Issued for the Information of Belgian Refugees in Cardiff (1914)
- Ond Pam y Lleddaist Ni? (1915)
Mapiau a Deunydd Graffigol
Casgliad Mapiau
Map llawysgrif hynod Idris Mathias o ran isaf Dyffryn Teifi.
Casgliad Portread
Rhyddhawyd 970 o eitemau ychwanegol o gasgliad Portread, gan gynnwys delweddau o gymeriadau amrywiol megis: Cranogwen; “Old Ellen Lloyd”; Edward Ellis y Gof, Blaenau Ffestiniog dyfeisydd y car gwyllt; Elizabeth Lloyd, ‘Beti Bwt’; a ffoto o John Ballinger, S. K. Greenslade, Evan Davies Jones a Syr John Williams gyda Llysgennad UDA y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Tachwedd 1912.
Y Bywgraffiadur Cymreig
Cyhoeddwyd 16 erthygl newydd ar y wefan:
- Bonarjee, Dorothy Noel (1894 – 1983), bardd a chyfreithiwr
- Cannon, Martha Maria Hughes (1857 – 1932), meddyg a gwleidydd
- Carpenter, Kathleen Edithe (1891 – 1970), ecolegydd
- Davies, John Salmon (1940 – 2016), gwyddonydd
- Edwards, Huw Thomas (1892 – 1970), undebwr llafur a gwleidydd
- Francis, Gwyn Jones (1930 – 2015), fforestwr
- Goldswain, Brynley Vernon (1922 – 1983), chwaraewr rygbi’r gynghrair
- Gridley, John Crandon (1904 – 1968), diwydiannwr
- Jones, Owen Vaughan (1907 – 1986), obstetregydd a gynaecolegydd
- Lockley, Ronald Mathias (1903 – 2000), ffermwr, naturiaethwr, cadwraethwr ac awdur
- Miles, William James Dillwyn (1916 – 2007), swyddog llywodraeth leol ac awdur
- Teulu Perrot Haroldston, Sir Benfro
- Roberts, Edwyn Cynrig (1837 – 1893), arloeswr ym Mhatagonia
- Scarrott, John (1870 – 1947), hyrwyddwr paffio
- Thomas, Ronald Stuart (1913 – 2000), bardd a chlerigwr
- Warner, Mary Wynne (1932 – 1998), mathemategydd
Morfudd Nia Jones (Swyddog Cynnwys Digidol)
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English