Blog

Adnau Cyfreithiol, Print a Mwy

Casgliadau / Collections / Gwasanaethau Darllenwyr - Postiwyd 05-04-2023

Dyma ddetholiad o rai o’r miloedd ar filoedd o lyfrau sydd yn cyrraedd y Llyfgell Genedlaethol o dan Adnau Cyfreithiol bob blwyddyn. Fel un o lyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon rydym yn derbyn bron pob llyfr a chyfnodolyn sydd yn cael eu cyhoeddi yn Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon – yn ogystal â Chymru. Mae’n anodd weithiau i bobl amgyffred hyd a lled ein casgliad adnau cyfreithiol. Felly os oes diddordeb gennych yn fforest law yr Amazon neu ddirgelion y meddwl dynol, am weld y rhifyn diweddara o Barn neu Four Four Two, am ddeall sut mae adweithydd ffiwson yn debyg o weithio, neu am bori yn nofelau eich hoff awdur, tarwch mewn i’n Stafell Ddarllen gyda’ch tocyn darllen. Mae gennym bron bopeth am byth.

Ar y 6ed o Ebrill eleni rydym ni ynghyd â’r pum llyfrgell adnau cyfreithiol arall yn dathlu Adnau Cyfreithiol Di-brint neu Electronig. Deng mlynedd yn ôl fe gawsom ni, y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn, Llyfrgell y Bodley, Rhydychen a Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt yr hawl i dderbyn cyhoeddiadau electronig yn ogystal â rhai print. Nid newid fformat yn unig o fod yn llyfr yn eich llaw i fod yn destun ar sgrîn yw ystyr hynny. Mae’r newid i gyhoeddiadau electronig hefyd wedi cynyddu maint y wybodaeth sydd gennym ar eich cyfer.

Erbyn heddiw mae pawb yn gyfarwydd ag e-lyfrau ac e-gyfnodolion ac mae cannoedd ar filoedd o’r rhain bellach ar gael yn Stafell Ddarllen y Llyfrgell Genedlaethol ond nid pawb sy’n sylweddoli bod byd ‘cyhoeddi’ yn cynnwys holl wefannau parth gwe y Deyrnas Gyfunol. Dychmygwch faint o’r deunydd hwn sydd yn diflannu bob blwyddyn am byth wrth i dudalennau gwefannau gael eu huwchraddio. Gwaith UKWA, Archif We y Deyrnas Gyfunol yw gwneud yn siŵr bod cynnwys BBC Cymru Fyw, Diverse Cymru neu wefan Gymdeithas Pêl-droed Cymru a miloedd o wefannau eraill, mawr a mân, ar draws Cymru a’r Deyrnas Gyfunol, yn cael eu cadw yn ddiogel at y dyfodol.

Gallwch chwilio’r catalog ar ein gwefan: https://www.llyfrgell.cymru/

Robert Lacey
Pennaeth Datblygu Casgliadau

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Tagiau:

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog