Tag Archives: @Wici_LLGC

Postiwyd - 19-09-2018

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Cofnodion Llongau Aberystwyth

Creu data agored cysylltiedig ar gyfer cofrestri llongau Fictorianaidd

Mae gwirfoddolwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn trawsgrifio cofnodion llongau o’r 19eg ganrif ar gyfer Aberystwyth, ac mae’r rhain bellach yn cael eu rhannu’n agored gan Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell ar Wikidata.

 

Am y tro cyntaf mae’n bosib gweld a chwestiynu’r cofnod hanesyddol cyfoethog hwn er mwyn i ni gael cipolwg ar fywyd yn Aberystwyth yn y 19eg ganrif.

 

Yn y 18fed a’r 19eg Ganrif, nid oedd yn hawdd cyrraedd Gorllewin Cymru. Cyn dyfodiad y trên a dyfeisio tarmac, y ffordd orau o gael nwyddau i mewn ac allan o Orllewin Cymru oedd ar longau. Roedd y llongau’n ddiwydiant ffyniannus yn nhrefi a phentrefi ar hyd arfordir Gorllewin Cymru ac nid oedd Aberystwyth yn eithriad. Mae cofnodion am fwy na 500 o longau a gofrestrwyd yn Aberystwyth yn goroesi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifdy Sir Ceredigion.

 

Harbwr Aberystwyth gan Alfred Worthington

 

Dechreuodd gwirfoddolwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol drawsgrifio cofnodion llongau Aberystwyth yn 2012. Roedd y data a ddetholwyd ganddynt yn cynnwys gwybodaeth am y llongau, eu criw a’r teithiau a ymgymerwyd ganddynt.

 

Yn 2016 dechreuodd y Llyfrgell archwilio’r posibilrwydd o gyfoethogi rhai elfennau o’r data gan ddefnyddio Wikidata fel llwyfan i’w rannu. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â Wikidata, mae’n rhan o’r teulu o wefannau Wikimedia, sy’n cynnwys Wikipedia, ac mae’n gronfa ddata enfawr o ddata agored, am ddim. Nid yw Wikidata yn chwech oed eto ond mae eisoes yn cynnwys 50 miliwn o eitemau data am bob math o bynciau, a ychwanegwyd gan wirfoddolwyr a sefydliadau sy’n dymuno rhannu eu data gyda’r byd. Cydweithiodd Wicimediwr y Llyfrgell gydag Archifdy Sir Ceredigion, sy’n dal gwybodaeth ychwanegol am y llongau, er mwyn creu data cysylltiedig am y llongau eu hunain. Roedd y data hwn yn cynnwys manylion megis math a maint pob llong, dyddiad a lleoliad yr adeiladwaith ac, lle y gwyddys, eu tynged.

 

O hyn, roeddem yn gallu dechrau cloddio yn y data, a chreu darluniau dadlennol. Os ydych chi am weld yr enwau mwyaf poblogaidd ar gyfer llongau a gofrestrwyd yn Aberystwyth, er enghraifft, gallwn adfer a chyflwyno’r wybodaeth hon yn hawdd. Dangosodd map o leoliadau adeiladu’r llongau rhai ffeithiau diddorol hefyd. Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, adeiladwyd llawer o’r llongau yn lleol yn Aberystwyth, Borth ac Aberdyfi, er enghraifft, ond mae’r data hefyd yn dangos bod dwsinau o longau wedi’u hadeiladu yng Nghanada. Darganfyddwyd, trwy ychydig ymchwil, fod llywodraeth y dydd yn mor bryderus am ymosodiad Ffrengig eu bod wedi sefydlu iardiau adeiladu llongau yn fwriadol mewn tiroedd mwy diogel, fel Ynys Tywysog Edward oddi ar Arfordir Canada, er mwyn diogelu’r gallu i symud nwyddau o gwmpas y Deyrnas Unedig.

 

Map Geiriau o’r enwau llongau mwyaf poblogaeth

 

Chwith; llongau adeiladwyd yng Nghanada. Dde; llongau adeiladwyd yn Aberystwyth ac Aberdyfi

Roeddem hefyd yn gallu plotio’r holl longddrylliadau a grybwyllir yn y cofnodion. Mae hyn nid yn unig yn tanlinellu’r peryglon o hwylio yn y 19eg ganrif, ond mae’n dangos sut mae llongau o bentrefi bach Gorllewin Cymru wedi teithio’r byd. O India, Tsieina ac Affrica i Dde America a hyd yn oed y Polyn Deheuol, roedd morwyr Cymru wedi teithio’r byd hysbys.

 

 

Lleoliad llongddrylliadau a gofnodwyd yn y cofnodion llongau

 

Ar ôl y gwaith trawsgrifio cychwynnol, roedd llawer o’r gwirfoddolwyr a oedd wedi gweithio ar y casgliad yn awyddus i wneud mwy, i gasglu mwy o wybodaeth am y llongau, eu criw a’u perchnogion, felly yn 2017 gosodwyd cyfres o dasgau newydd. Dechreuodd gwirfoddolwyr chwilio am ffotograffau a phaentiadau o’r llongau, ymchwilio i dynged mwy o’r llongau, cofnodi perchnogion pob llong a dechrau’r dasg enfawr o ymchwilio i fywydau meistr pob llong a enwir yn y cofnodion.

 

Er y bydd y dasg o nodi’r holl feistri llongau yn cymryd peth amser eto, mae’r cyntaf o’r tasgau bellach wedi’i gwblhau. Mae data am berchnogion pob llong yn bodoli yn y cofnodion llongau gwreiddiol, ond nid oedd hyn o fewn sgôp y prosiect gwreiddiol, felly rydym ni’n ddiolchgar iawn i ddau o’r gwirfoddolwyr a oedd yn gweithio ar y prosiect gwreiddiol, Lilian a Myfanwy am fynd yn ôl drwy’r cofnodion, a ffynonellau eraill megis y ‘Crew List Index Project’ a thynnu’r data allan. Mae llawer o’r data bellach wedi’i ymgorffori gyda gweddill y data ar gyfer y llongau ar Wikidata. Ar wahân i ddarparu ffordd hawdd i chwilio ac archwilio’r data a gedwir yn y casgliad, mae’r Wikidata yn ein galluogi i holi a darlunio’r data mewn ffyrdd newydd, sy’n ein helpu i ddeall yn well beth mae’r cofnodion yma’n ei ddweud wrthym.

 

Mae’r data newydd nawr yn golygu, ar gyfer llawer o longau, y gallwn siartio eu perchnogaeth trwy gydol eu bywyd ar y moroedd. Rydym hefyd wedi gallu creu eitemau data ar gyfer pob un o berchnogion y llongau, boed yn unigolion neu gwmnïau llongau sefydledig. Gwyddomy lleoliad lle seliwyd y cwmnïau, a lle roedd unigolion yn byw, ac rydym yn gwybod, o’u henwau prun ai oeddent yn ddynion neu’n fenywod.

 

Er enghraifft, allan o’r 630 o berchnogion a nodwyd, mae 47 yn fenywod. Byddai angen mwy o ymchwil, ond ar yr olwg gyntaf, mae’n edrych fel bod y rhan fwyaf o’r 47 wedi cymryd perchnogaeth yn dilyn marwolaeth eu gwŷr.

 

Mae’r cofnodion yn dangos sut yr oedd y llongau’n newid dwylo’n rheolaidd. Os y cymerwn ni’r ‘Volunteer’ (enw addas), gallwn lunio siart sy’n dangos ei holl berchnogion, y llongau eraill y mae’r bobl hynny berchen, a pherchenogion eraill y llongau hynny – sydd yn peintio darlun cymhleth o’r busnes perchnogaeth llongau yng Ngorllewin Cymru. A dylid nodi, mewn sawl achos, mai prif gyfranddalwyr neu berchennog/rheolwr penodedig yw’r 630 o berchenogion a nodir. Roedd gan lawer o’r llongau hyn gyfranddalwyr lluosog, gan olygu bod gan nifer o bobol o gefndir gwahanol, y gallu i fforddio buddsoddi yn y fasnach longau prysur.

 

 

Perchnogion y  ‘Volunteer’ efo llongau a perchnogion cysylltiedig

 

Gallwn hefyd weld pwy oedd y unigolion pwysig yn Aberystwyth trwy chwilio’r data am berchnogion llongau yn ôl y nifer y llongau yr oeddent yn berchen. Daeth Thomas Jones, gwneuthurwr llongau Aberystwyth i’r blaen, yn berchen fwy na 20 o longau o un adeg i’r llall.

 

Perchnogion llongau yn ol  nifer o llongau

 

Llinell amser o longau sydd yn berchen i Thomas Jones

Mae Wikidata, fel Wikipedia, yn llwyfan y gall unrhyw un ei olygu felly nawr gall unrhyw un helpu i wella’r data. Os ydynt yn gweld camgymeriadau, neu os oes ganddynt wybodaeth ychwanegol, gellir ei ychwanegu’n hawdd i Wikidata. Mae ein gwirfoddolwyr yn dal i weithio’n galed i gasglu rhagor o ddata, felly bydd y data sy’n gysylltiedig â chofnodion Llongau Aberystwyth yn parhau i dyfu dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Mae pawb yn rhydd i archwilio ac ailddefnyddio’r data, felly ar gyfer y rhai yn eich plith sy’n dechnegol, mae croeso i chi hacio, creu, mashio ac ail-weithio ein data, a sicrhewch eich bod yn rhannu’r canlyniadau gyda ni!

 

 

Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , , , ,

Postiwyd - 23-07-2018

Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Cwlwm Celtaidd

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal ail gynhadledd ieithoedd Wicipedia

Ar y 5ed a’r 6ed o Orffennaf, cynhaliodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ail gynhadledd Cwlwm Celtaidd, Cynhadledd iaith Wicipedia.

 

Mae’r gynhadledd yn eithaf unigryw yn ei huchelgais – gyda’r ffocws ar sut y gall ieithoedd bach a lleiafrifol dyfu a datblygu Wicipedia a phrosiectau Wikimedia eraill yn eu hieithoedd nhw.

 

Mae Wicipedia ar gael mewn bron i 300 o ieithoedd ond dim ond llond llaw o olygyddion a mil neu ddwy o erthyglau sydd gan rai. Mae’r heriau sydd yn wynebu’r cymunedau hyn yn aml yn wahanol iawn i’r rhai sy’n wynebu Wicipedias lawer mwy. Canolbwyntiodd cynhadledd Cwlwm Celtaidd ar drafod a mynd i’r afael â rhai o’r materion hyn, megis cefnogaeth dechnegol, adeiladu cymunedau a phartneriaethau.

 

Mynychodd 55 o gynrychiolwyr rhyngwladol y gynhadledd, gyda phobl yn mynychu o Ddwyrain Affrica, Norwy, Sbaen a’r Almaen er enghraifft. Cynrychiolwyd y Gwledydd Celtaidd yn dda hefyd, gyda chynrychiolwyr o Iwerddon, yr Alban, Cernyw, Llydaw ac, wrth gwrs, Cymru. Rydym yn ddiolchgar i’r Wikimedia Foundation am ariannu nifer o ysgoloriaethau a oedd yn ein galluogi i helpu gwirfoddolwyr i deithio i’r digwyddiad.

 

 

Mynychwyr yn cael ei croesawi i’r gynhadledd gan  Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol

Roedd y diwrnod cyntaf yn cynnwys rhaglen strwythuredig o gyflwyniadau a gweithdai, a chafodd y gynhadledd ei hagor gan Eluned Morgan AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, a siaradodd yn gadarnhaol iawn am Wicipedia fel ffordd o gefnogi datblygu’r Gymraeg. A siaradodd hi am bwysigrwydd y gwaith y mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’i wneud yn y maes hwn, diolch yn rhannol i gyllid Llywodraeth Cymru.

 

Eluned Morgan AS yn siarad am werth Wicipedia i gynnal mynediad i wybodaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Siaradodd rheolwr Cymru Wikimedia UK, Robin Owain, yn eiddgar fel arfer, am dŵf Wicipedia Cymru. Siaradodd y Gweinidog, Robin a sawl un arall yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd ac roedd y gynulleidfa’n mwynhau gwrando ar yr iaith Gymraeg, gyda rhai yn ei glywed am y tro cyntaf.

 

Cawsom nifer o gyflwyniadau a gweithdai ysbrydoledig yn ystod y dydd. Cynhaliodd Ewan MacAndrew o Brifysgol Caeredin weithdy cyfieithu ac roedd nifer o sgyrsiau a gweithdai Wikidata dan arweiniad Lea Lacroix o Wikimedia Deutschland. Roedd cyflwyniadau’n tynnu sylw at ddefnydd Wikipedia ar gyfer addysg, neu mewn addysg, yn arbennig o boblogaidd gydag Aaron Morris o Wici Môn yn trafod effaith ei waith gyda phlant ysgol, a Koldo Biguri o grŵp defnyddwyr Wikimedia Gwlad y Basg yn sôn am y Wicipedia Basgeg i blant, neu ‘Txikipedia ‘. Amlygwyd ymhellach y gwaith gwych mae’r gymuned Basgeg wedi gwneud yn y maes yma gan Inaki Lopez deLuzuriaga a siaradodd am eu rhaglen addysg ehangach, a gefnogir gan Lywodraeth Gwlad y Basg.

 

Pau Cabot o Gatalonia yn trafod defnyddio Wikidata i awtomeiddio gwybodlen ar Wicipedia.

 

Ar ôl diwrnod hir, cafodd y cynrychiolwyr daith ar Reilffordd Clogwyn Aberystwyth ar gyfer bwyd a diodydd yng nghaffi Y Consti. Roedd côr Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn garedig iawn yno i’n diddanu â chaneuon traddodiadol Cymreig cyn i ni gael gwers dawnsio gwerin Llydaweg!

 

Grŵp o mynychwyr yn trafod yn hwyr i mewn i’r nosweth.

Ar yr ail ddiwrnod fe gychwynom ni gyda chyflwyniad am y Wicipedia Gwyddelig a thaith trwy fylchau iaith ar Wikidata, gan ysgolhaig preswyl Wikidata y Llyfrgell, Simon Cobb. Un o’m uchafbwyntiau personol oedd cyflwyniad fideo gan Subhanshish Panigrahi, archwilydd National Geographic sy’n gweithio gydag Wikimedia India. Canolbwyntiodd ei sgwrs ar bwysigrwydd cofnodi a diogelu ieithoedd mewn perygl, a thynnodd sylw at dafodiaith Indiaid sydd â dim ond un siaradwr. I mi, roedd hyn yn dangos y pwysigrwydd o gefnogi ac annog y defnydd o ieithoedd lleiafrifol cyn i’w defnydd ddisgyn i lefelau anghynaladwy.

 

Ar ôl cinio, fe gynhaliwyd sesiwn anffurfiol ‘unconference’, lle mae cynrychiolwyr yn gosod eu hagenda eu hunain. Roedd yna weithdai data, trafodaethau strategaeth, sgyrsiau mellt a hyd yn oed daith o amgylch y Llyfrgell. Roedd cynrychiolwyr o Gernyw wrth eu bodd o weld llawysgrifau iaith Cernyweg pwysig o gasgliad y Llyfrgell.

 

Yn trefni’r sesiynau di-cynhadledd.

 

Daethom ynghyd unwaith eto am drafodaeth grŵp cynhyrchiol cyn i’r Llyfrgellydd Cenedlaethol Linda Tomos gau’r gynhadledd gyda sgwrs wych am bwysigrwydd gwaith y Llyfrgelloedd Cenedlaethol gyda Wikipedia a thaith rithiol trwy rai o brif gasgliadau a thrysorau’r Llyfrgell.

 

Mae adborth gan gynrychiolwyr yn awgrymu bod y gynhadledd yn llwyddiant ysgubol, a dywedodd pawb y byddent yn mynychu’r gynhadledd eto’r flwyddyn nesaf. Felly byddwn yn parhau i weithio efo’r gymuned i ddod o hyd i gartref addas ar gyfer y gynhadledd y flwyddyn nesaf, ac mae Wikimedia Norge wedi cytuno’n garedig i edrych mewn i gynnal y gynhadledd yn 2020. Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd y gynhadledd, ac ieithoedd lleiafrifol yn gallu parhau i dyfu dros y blynyddoedd nesaf, a diolchwn i bawb a fu’n rhan o wneud y digwyddiad eleni mor llwyddiannus.

 

Gan Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , ,

Postiwyd - 27-06-2018

Casgliadau / Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau

Casgliad Porteadau Cymru

4800 o bortreadau Cymraeg wedi cyrraedd Comin Wikimedia a Wikidata.

Dros y 4 mlynedd ddiwethaf mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi gweithio gydag Wikimedia i ddarparu mynediad agored i fwy na 10,000 o ddelweddau parth cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys Casgliad Tirlun Cymru, ffotograffau, mapiau a llawysgrifau.

 

Mae’r bartneriaeth hon wedi arwain at fwy na 455 miliwn hits ar erthyglau Wicipedia sy’n cynnwys delweddau’r Llyfrgell Genedlaethol.

 

Delweddau

 

Nawr, mae’r Llyfrgell yn falch o gyhoeddi bod bron i 5000 o bortreadau – printiau, ffotograffau a phaentiadau – wedi’u gosod yn gyhoeddus ar Gomin Wikimedia.

 

Ynghyd â’r delweddau, mae Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol hefyd wedi rhannu metedata cyfoethog ar gyfer pob delwedd fel data agored cysylltiedig ar Wikidata.

 

Prif nod y Llyfrgell wrth ryddhau cynnwys o’r fath yw cynyddu mynediad i’n casgliadau a chyfrannu at greu a rhannu gwybodaeth am Gymru a’i phobl.

 

Erbyn hyn, gobeithir y bydd cymuned Wikimedia yn dechrau defnyddio’r delweddau hyn i ddarlunio erthyglau Wicipedia. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn bwriadu cynnal prosiect i gynyddu ymgysylltiad â’r casgliad hwn, ac mae’n gobeithio y bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hannog i greu erthyglau Wikipedia am yr eisteddwyr, artistiaid, argraffwyr a ffotograffwyr Cymreig sy’n ymwneud â’r casgliad.

 

Oherwydd bod yr holl ddelweddau yma ar gael i lawrlwytho ac yn y parth cyhoeddus, rydym hefyd yn annog eraill i ailddefnyddio’r delweddau hyn at unrhyw ddiben y maent yn ei ddymuno, o addysg i’r diwydiannau creadigol, mae hwn yn adnodd am ddim i bawb.

 

Data

Mae creu data cysylltiedig (linked data) ar gyfer y casgliad hefyd yn cynnig cyfleoedd diddorol i ymchwilwyr ac academyddion. Am y tro cyntaf, gallwn ddiamwyso enwau’r artistiaid a’r eisteddwyr er mwyn deall cyfansoddiad y casgliad yn well. Er enghraifft, nodwyd 12 o wahanol unigolion a enwir John Jones yn y casgliad, ac rydym bellach yn gwybod pwy ydynt i gyd, ac erbyn hyn mae llawer wedi eu cysylltu trwy Wikidata i erthyglau Wikipedia neu i’r Bywgraffiadur Cymreig.

 

Gallwn ymholi’r data a’i wneud yn weledol mewn nifer o ffyrdd gan ddefnyddio gwasanaeth holi Sparql. Er enghraifft, gallwn ddadansoddi pa engrafwyr sydd wedi copïo gwaith artistiaid penodol, a gallwn weld y mathau o bobl a ddarlunnir amlaf (clerigwyr, o bell ffordd) a nodweddion, megis Arfbais, ac addurniadau ar ffin y delweddau.

Delwedd sydd yn ymddangos pa argraffwyr sydd wedi copïo gwaith gan arlunwyr penodol

 

Y pethau sy’n cael i ddarlunio fwyaf yn y casgliad

Mae’n hawdd arddangos yn weledol yr eisteddwyr sy’n ymddangos fwyaf yn y delweddau gan ddefnyddio priodwedd ‘Prif bwnc’ yn Wikidata. Thomas Picton, arwr rhyfel a enwyd yng Nghymru, sy’n cael ei ddarlunio amlaf, gyda 32 o bortreadau. Yn ddiddorol mae ei erthygl Wicipedia yn datgelu nad oedd yn arwr mor wych wedi’r cyfan, ar ôl cael ei euogfarnu am gam-drin menywod.

Delwedd sydd yn dangos yr eisteddwyr sydd yn ymddangos yn fwyaf aml

Gallwn hefyd archwilio’r casgliad yn gronolegol ac mae golwg gyntaf yn dangos cydberthynas glir rhwng poblogrwydd rhai mathau o bortread a digwyddiadau hanesyddol. Er enghraifft, mae nifer y delweddau o bregethwyr ac offeiriaid yn cynyddu’n sylweddol ar adegau o adfywiad Crefyddol.

Llinell amser o’r pethau sydd yn ymddangos mwyaf yn y casgliad dros amser

Iaith

Mae Wikidata yn blatfform amlieithog, felly mae hefyd yn ein galluogi i ddefnyddio natur amlieithog y labeli disgrifiadol Wikidata i weld ein data mewn dwsinau o ieithoedd. Roedd y Metadata a gedwir gan y llyfrgell ar gyfer y casgliad hwn ar gael yn Saesneg yn unig, fodd bynnag, trwy ei drosglwyddo i Wikidata roedd 83% o’r 40,000 o eitemau data ar gael yn awtomatig yn Gymraeg, diolch i waith gwirfoddolwyr Wikidata, sydd wedi ychwanegu labeli Cymraeg i lawer o eitemau Wikidata dros y blynyddoedd. Rydym yn gobeithio ymgysylltu â gwirfoddolwyr Cymraeg er mwyn sicrhau bod 100% o’r data ar gael yn Gymraeg.

 

Cysylltu ein treftadaeth

Mantais arall o rannu ein data ar lwyfan cyhoeddus fel Wikidata yw bod llawer o sefydliadau eraill wedi gwneud yr un peth, ac mae hyn yn golygu y gallwn ni ddechrau adeiladu rhwydwaith helaeth o ddata cysylltiedig. Mae’r data yn ein galluogi i gysylltu ein casgliadau ein hunain gyda’i gilydd, er enghraifft, gallwn weld pa gyhoeddwyr sydd wedi cyhoeddi gwaith sydd yn rhan o Gasgliad Portreadau Cymreig ond hefyd y Casgliad Tirwedd Cymru. Rydym hefyd wedi gallu nodi’n gyflym dros 400 o bortreadau o bobl a geir yn y geiriadur Bywgraffiadur Cymreig, ac rydym bellach yn cysylltu’r portreadau hynny i wefan y Bywgraffiad.

Yr holl ddelweddau gan un cyhoeddwr. Mae glas yn nodi delweddau yn Gasgliad Portreadau ac mae melyn yn nodi delweddau gan yr un cyhoeddwr sydd yn rhan o Gasgliad Tirlun Cymru

 

Y tu hwnt i’n sefydliad ein hunain, fe allwn weld pa rai o’n heisteddwyr sydd â phortreadau yn yr Oriel Bortreadau Cenedlaethol, a gallwn adnabod yr artistiaid a’r eisteddwyr yn ein casgliad sydd â chofnod Oxford DNB. Yn y modd hwn, gellir cysylltu treftadaeth ddiwylliannol y byd gyda’i gilydd i ddarparu mynediad hawdd i’r cyhoedd, mewn un lle, i ystod gyfoethog ac amrywiol o ffynonellau.

 

Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol

 

 

Tagiau: , , , , , ,

Postiwyd - 15-09-2017

Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Wici-Iechyd

Gwella mynediad ar-lein at wybodaeth ar iechyd yn yr iaith Gymraeg

Bydd y Wicimediwr Cenedlaethol, a benodwyd yn ddiweddar gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn dechrau yn ei rôl newydd trwy fynd i’r afael â phwnc pwysig sy’n wynebu siaradwyr Cymraeg – rhoi mynediad am ddim at wybodaeth, o ansawdd uchel, ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd a lles yn y Gymraeg.

Wicipedia yw’r wefan Gymraeg fwyaf yn y byd gyda thros 90,000 o erthyglau. Datgelodd archwiliad diweddar o’r cynnwys mai dim ond nifer fechan o erthyglau a geir ar iechyd ar Wicipedia. Er hyn, mae hynny o erthyglau sy’n bodoli, ar gyfartaledd, yn fwy poblogaidd nag erthyglau ar unrhyw bwnc arall. Mae hyn yn awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn dymuno darllen gwybodaeth am eu hiechyd ar Wicipedia drwy gyfrwng y Gymraeg.

  • Mae gan Wicipedia 1,500 o erthyglau ar iechyd yn y Gymraeg o’i gymharu â 84,000 yn Saesneg.
  • Ceir 2.09% o erthyglau Cymraeg ar iechyd  ar Wicipedia o gymharu â 6.67% yn Saesneg.
  • Mae ymweliadau ag erthyglau Cymraeg sy’n ymwneud ag Iechyd yn cyfrif am 12% o’r holl ymweliadau tudalennau, mwy nag unrhyw bwnc arall.

Credir mai Wikipedia yw’r adnodd ar iechyd a ddefnyddir fwyaf yn y byd  (yn seiliedig ar 4.8 biliwn o dudalennau yn 2013) ac felly mae’n hanfodol ei fod yn cynnwys gwybodaeth ddibynadwy a chynhwysfawr ar bob agwedd o iechyd- o feddyginiaethau a gweithdrefnau llawfeddygol, i ffitrwydd , lles, a gwybodaeth hanesyddol.

Amcangyfrifir bod afiechydon yn costio biliynau i Gymru bob blwyddyn, a byddai sicrhau mynediad hawdd ac am ddim at wybodaeth am iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg (ar Wicipedia) yn helpu i drosglwyddo’r wybodaeth sydd ei angen ar y cyhoedd mewn ffurf y maent yn gyfarwydd ag o.

Bydd y prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweld y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru, i addysgu ac annog gweithwyr iechyd proffesiynol, myfyrwyr meddygol a’r cyhoedd yn gyffredinol i wella cynnwys iechyd ar Wicipedia.

Bydd y Wicimediwr Cenedlaethol hefyd yn ceisio llunio partneriaethau gydag elusennau a sefydliadau sydd eisoes yn cynhyrchu cynnwys ar iechyd yn y Gymraeg. Trwy gydweithio â hwy, anelir i ddarparu mynediad at y cynnwys hwn drwy Wicipedia, gan osod dolenni yn y testun i dywys y defnyddwyr yn ôl at wasanaethau ar lein y cyfranogwyr.

Y gobaith yw y bydd y prosiect 9 mis yn arwain at greu 3000 o erthyglau newydd yn ymwneud ag iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg ar Wicipedia.

Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â nodau’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

(Cymru) 2015, sef helpu i ddatblygu Cymru iachach a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o bartneriaid allweddol y Llywodraeth wrth gyflwyno’r ddeddf hon.

Bydd y prosiect hefyd yn helpu’r Llyfrgell i ymgysylltu â chymunedau newydd a datblygu partneriaethau newydd yn y sectorau addysg ac iechyd er mwyn hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith ddigidol.

Tagiau: , , , , ,

Postiwyd - 22-08-2017

Newyddion a Digwyddiadau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Wikimania

Ychydig ddyddiau ar ôl i’r Llyfrgell Genedlaethol gyhoeddi eu bod yn cyflogi’r Wicimediwr parhaol cyntaf ym Mhrydain, a’r ail yn y byd, deuthum i Montreal, yng Nghanada, ar gyfer Wikimania – y gynhadledd Wicipedia flynyddol fwyaf.

 

Fel y mae’r enw yn ei awgrymu, mae hwn yn ddigwyddiad cyffrous sy’n dod â Wikipedwyr o bob cwr o’r byd at ei gilydd, ynghyd â channoedd o ‘Wikimedwyr’, sef pobl sy’n ymwneud â phrosiectau Wikimedia eraill fel Wikidata a Chomin Wici.

 

Cyn i’r brif gynhadledd fynd rhagddi, mi wnes i groesawu fy ‘inner geek’ a mynychu diwrnod cyntaf yr Hacathon Wikimania!. Wrth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddechrau ryddhau ei data i’r byd, y gobaith yw y byddwn yn cynnal hacathon ein hunain yn fuan, sef digwyddiad sy’n gwahodd datblygwyr a rhaglenwyr i ddatblygu offer, aps a gemau newydd, sy’n cael ei bweru gan ddata treftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Roedd cymryd rhan yn Hacathon Wikimania yn brofiad hynod o werthfawr. Cafwyd rhai canlyniadau gwych, o welliannau i Wicipedia ei hun i ddatblygu efelychydd lliw ddallineb (colour blindness simulator) ar gyfer delweddau digidol. Felly cadwch lygad allan ar gyfer Hacathonau Cymreig yn fuan!

 

Ar yr ail ddiwrnod canhaliwyd cynhadledd Feddygol Wicipedia. Mewn rhannau anghysbell o’r byd, Wikipedia yw’r unig ffynhonnell o wybodaeth feddygol i filiynau o bobl, gan gynnwys meddygon! Mewn sector ble mae gwybodaeth yn y Saesneg yn dominyddu, mae Wikipedia yn darparu llwyfan ar gyfer cynnwys ar bynciau iechyd mewn tafodieithoedd lleol.

 

Siaradais yn y gynhadledd feddygol am brosiect Wici-Iechyd sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn y Llyfrgell Genedlaethol, sy’n anelu at ddarparu mynediad am ddim i wybodaeth iechyd pwysig yn Gymraeg ar Wicipedia. Cefais drafodaethau gwych gyda thîm Wiki Project Medicine ynghylch sut y gallwn ni gyrraedd ein nodau, a sut y gallant hwy gefnogi ein prosiect.

 

Ar y trydydd diwrnod agorwyd y gynhadledd Wikimania yn swyddogol, gan neb ond Jimmy Wales ei hun. Yn sgil gwahardd Wikipedia yn Nhwrci yn ddiweddar, roedd Jimmy yn awyddus i dynnu sylw at bwysigrwydd rhoi mynediad am ddim i wybodaeth amhleidiol a chywir.

Roedd amserlen y gynhadledd yn amrywiol gyda llawer o drafodaethau yn digwydd ar yr un pryd. Cymerais ran mewn nifer o weithdai a grwpiau trafod anffurfiol am berthynas Wikipedia gyda’r sector ddiwylliannol, a elwir yn GLAMs (Orielau, Llyfrgelloedd, Archifau ac Amgueddfeydd) yn y byd Wiki.
Yr hyn a darodd fi oedd yr amrywiaeth o brosiectau sy’n digwydd ledled y byd, o brosiectau gwirfoddoli sydd â’r prif amcan o wella cynnwys Wicipedia  am gasgliadau GLAMs, i gydweithrediadau hirdymor wiki. Mae Archifau Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, yr unig sefydliad arall sydd â Wicimediwr parhaol ymhlith eu staff, wedi cytuno i rannu eu holl gynnwys digidol gyda Wikimedia ar drwydded agored. Maent eisoes wedi llwytho130,000 o ddelweddau ac yn aml yn cynnal digwyddiadau a rhaglenni gyda’r nod o hybu defnydd o’r delweddau, a gwella Wikipedia yn gyffredinol.
Wrth i’r gynhadledd fynd yn ei blaen, cefais fy synnu gan y nifer o wirfoddolwyr a Wikimediwr sydd bellach yn edrych ar Gymru, ac ar y Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel model rôl ac fel ysbrydoliaeth wrth iddyn nhw redeg eu prosiectau eu hunain. Roedd hyn yn arbennig o wir am y rhai sy’n gweithio gydag ieithoedd bach neu leiafrifol.

 

Roedd nifer wedi sylwi ar ein llwyddiant wrth ymgysylltu’r Llyfrgell, cymunedau gwirfoddol, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill gyda Wicipedia, a chawsom sgyrsiau buddiol gyda Wicimediwr o Rwsia, y Ffindir, Estonia, Llydaw a mwy, am sut y gallwn ni ddysgu oddi wrth ein gilydd er mwyn sicrhau bod ein hieithoedd yn gallu ffynnu ar Wikipedia ac amgylcheddau eraill ar-lein.

 

Cyflwynais sesiwn boster ar breswyliad Wikimedia UK yn y Llyfrgell Genedlaethol ac roedd gan nifer lawer o ddiddordeb yn y gwaith a wneuthum, ynghyd â sut yr ydym wedi cyflawni ein targedau.

Fel gyda Wikimania y llynedd, roedd sesiynau Wikidata yn hynod o boblogaidd. Mae’r adnodd data agored cysylltiedig enfawr hwn yn tyfu’n gyflym ac yn cynnig potensial enfawr i’r sector ddiwylliannol i rannu a datblygu data agored ar gyfer eu casgliadau. Mae llawer o GLAMs, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, eisoes yn rhannu data gyda Wikidata, ond clywsom gan Beat Estermann o Sefydliad E-Lywodraeth Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Bern, yn y Swistir bod Wikidata bellach yn cael ei ddefnyddio i gyfoethogi catalogau llyfrgelloedd, ac rwy’n credu bod y dull hwn o dynnu data agored i mewn i fetadata craidd y llyfrgell yn cynnig rhai cyfleoedd cyffrous.

 

Thema fawr arall y gynhadledd oedd y datblygiadau arfaethedig i Gomin Wici, y wefan sy’n cynnal miliynau o ddelweddau agored a ddefnyddir ar Wicipedia a thu hwnt. Bydd y metadata y tu cefn i’r delweddau hyn yn cael ei drawsnewid i ddata strwythuredig (cysylltiedig) gan ei gwneud yn haws i chwilio, i ddadansoddi a phori’r archif cyfryngau enfawr hwn.
Gyda chymorth ein hysgolhaig preswyl Wikidata mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi arloesi yn yr ardal hon gan drosi metadata manwl am ddelweddau i Wikidata, sydd yn defnyddio strwythur data tebyg iawn i’r data fydd ar gael yn y Comin newydd. O ganlyniad i hyn cefais fy ngwahodd i gynghori’r tîm datblygu wrth i’r wefan newydd gael ei datblygu.

 

Er gwaethaf goruchafiaeth y Wikipedia Saesneg, mae mudiad Wiki yn wirioneddol fyd-eang, ac adlewyrchwyd hynny yn glir yn Wikimania. Yr hyn sy’n gyffrous yw bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar flaen y gad yn y mudiad hwn, gan ddefnyddio tactegau, technolegau a thechnegau newydd i sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli’n ddigonol ar-lein ac i sicrhau bod yr Wicipedia Cymraeg yn parhau i dyfu fel y wefan Gymraeg mwyaf poblogaidd ar y we.

 

Jason Evans

 

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: ,

Postiwyd - 09-03-2017

Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Cydbwysedd rhwng y rhywiau

Mae’r Wicipedia Cymraeg wedi sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Y Wicipedia Cymraeg yw un o’r Wicipedias cyntaf yn y byd i gynnig cymaint o erthyglau am fenywod ag y mae am ddynion.

 

Yn hanesyddol mae Wicipedia wedi cael trafferth denu golygyddion benywaidd, sy’n gyfrifol am tua 15% o gyfranwyr Wicipedia ar draws y byd ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr anghydbwysedd a geir yn y cynnwys a grëir.

Mae mynd i’r afael â’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau wedi bod yn flaenoriaeth strategol ar gyfer Wikimedia ers peth amser ac mae  Wikimedia UK wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru i helpu unioni pethau.

 

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi bod yn cydweithio â Wikimedia UK am nifer o flynyddoedd ac wedi bod yn gwneud eu rhan i annog rhagor o ferched i olygu Wicipedia.

 

Y llynedd cymerodd y Llyfrgell ran mewn  Golygathon byd-eang ar Gelf a Ffeministiaeth, a gynhaliwyd mewn cannoedd o leoliadau o amgylch y byd. Dyma’r tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal yng Nghymru.

Eleni bydd Wikimediwr Preswyl y Llyfrgell yn helpu grŵp cymunedol o Fachynlleth i redeg eu digwyddiad Celf a Ffeministiaeth Wicipedia ei hunain.

Mae tîm gwirfoddoli’r llyfrgell hefyd wedi bod yn gweithio’n ddiwyd, a bellach ceir 10 gwirfoddolwr benywaidd sy’n cyfrannu’n wythnosol i brosiectau Wicipedia.

 

Mae’r ffaith bod Wicipedia’r iaith Gymraeg yn bodoli o gwbl yn dyst o benderfynoldeb y Cymry, nid yn unig i warchod yr iaith Gymraeg ond i’w gweld yn ffynnu, ond tydi  gwaith Wicipedwyr byth yn dod i  ben! Beth am roi cynnig ar olygu?

Tagiau: , , , , , ,

Postiwyd - 20-01-2017

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

WICIPOP

Bydd prosiect newydd yn canolbwyntio ar wella cynnwys Wicipedia ar  y Sîn Gerddoriaeth Bop Gymraeg.

Mae’r  Wicipedia Cymraeg yn cynnwys tua 90,000 o erthyglau Cymraeg a bwriad prosiect Wikipop yw  ychwanegu 500 o erthyglau mewn ymgais i gofnodi a chyfoethogi hanes ysgrifenedig y sîn gerddoriaeth Gymraeg bywiog.

Ffynhonnell: Wikimedia Commons CC_BY. Attribution Silvio Tanaka, 2009.

Mae Ionawr yn nodi dwy flynedd ers i Lyfrgell Genedlaethol Cymru benodi Wicipediwr Preswyl. Yn ystod y ddwy flynedd hynny mae’r Llyfrgell wedi helpu hyfforddi golygyddion Wicipedia newydd sydd wedi creu cannoedd o erthyglau newydd, ac mae’r llyfrgell wedi arwain y ffordd wrth hyrwyddo mynediad agored at dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Rhannwyd 15,000 o ddelweddau digidol o gasgliadau’r llyfrgell ar drwydded agored drwy Comin Wikimedia ac mae’r delweddau a ddefnyddir mewn erthyglau Wicipedia wedi cael eu gweld bron i 200 miliwn o weithiau.

Yn awr, gyda cymorth grant gan Llywodraeth Cymru a mewn  cydweithrediad efo Wikimedia UK, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau ar brosiect,  3 mis o hyd, i greu a gwella erthyglau Wicipedia am gerddoriaeth bop Cymraeg.

Y nod yw creu 500 o erthyglau newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan cynnwys rhaglen estyn allan a chyfres o ‘Olygathonau’ a fydd yn annog pobl i ysgrifennu cynnwys newydd.

Bydd aelodau o’r cyhoedd a sefydliadau yn cael eu hannog i rannu gwybodaeth a allai fod ar gael eisoes, a bydd staff technegol y Llyfrgell Genedlaethol yn treialu awtomeiddio’r broses o greu erthyglau Wikipedia gan ddefnyddio data.
Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect newydd cyffrous hwn, cysylltwch â ni.

 

Jason Evans

Wikipediwr Preswyl, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Tagiau: , , , , , , ,

Postiwyd - 13-04-2016

Casgliadau / Digido / Digitisation / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Ein Ysgolhaig Preswyl Wikidata

Y Cyntaf yn y Byd 

Ers i’r Llyfrgell Genedlaethol benodi Wicipediwr Preswyl ym mis Ionawr 2015 mae llawer o gydweithredu diddorol a chyffrous wedi digwydd, ac mae’r Llyfrgell bellach yn arloesi syniad newydd sbon – Rhoi mynediad i fetadata’r Llyfrgell i arbenigwr Wikidata fel y gall ei droi i mewn i ddata cyswllt.

Nid yw’r syniad o Ysgolheigion Preswyl ‘Wicipedia’ yn newydd, ac mae’r cynllun, sy’n rhoi mynediad am ddim i gasgliadau Llyfrgell i olygyddion Wicipedia gwirfoddol, wedi cael ei rhedeg gan Lyfrgell Wicipedia yn yr Unol Daleithiau am nifer o flynyddoedd, ond mae’r syniad o ddod ag arbenigwr Wikidata i mewn i weithio gyda setiau data, fel ysgolhaig preswyl, yn hollol newydd.

Mae Wikidata yn gronfa ddata cyswllt y gellir eu darllen a’i olygu gan bobl a pheiriannau. Mae’n cynnwys miliynau o ddarnau o ddata ar bob math o bynciau, sydd yn cysylltu â’i gilydd i ffurfio bwrlwm o wybodaeth ac, fel pob prosiect Wici, mae unrhyw un yn gallu cyfrannu ac ailddefnyddio’r Wikidata am ddim.

Data Map

Sampl o gasgliad enfawr o ffotograffau Geoff Charles sydd gan y Llyfrgell. Gall casgliadau gael eu harchwilio yn ddaearyddol yn hawdd gan ddefnyddio Wikidata.

Timeline

Defnyddiwyd Wikidata i greu’r llinell amser Histropedia yma o Gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol gydag erthyglau Wikipedia.

 

Simon Cobb yw’r  ysgolhaig Wikidata cyntaf . Mae Simon newydd raddio o Brifysgol Aberystwyth gydag M.A. mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth a bellach yn gweithio i Lyfrgell Prifysgol Leeds. Ar eu benodiad fel Ysgolhaig Wikidata fe ddiweddodd;

 

“Byddaf yn gweithio i ychwanegu rhai o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i Wikidata, ynghyd â metadata o ansawdd uchel a fydd yn cysylltu eitemau unigol i leoedd cysylltiedig, pobl, eitemau a llawer mwy. Mae gan y prosiect y potensial i ddatgelu cysylltiadau newydd a diddorol rhwng deunyddiau, o fewn y Llyfrgell Genedlaethol ac ymhell y tu hwnt, a hyn yw’r peth mwyaf cyffrous  am y cyfle i weithio gyda data’r Llyfrgell Genedlaethol a Wikidata. “ *Cyfieithiad o’r Saesneg

 

Wikidata_Edit-a-thon_at_National_Library_of_Wales_05

Ein Hysgolhaig Wikidata newydd yn gwirfoddoli mewn Golygathon Wikidata yn y Llyfrgell Genedlaethol.

 

Tasg gyntaf ein gwirfoddolwr bydd defnyddio metadata 3000 o ddelweddau o gasgliad Tirlun Cymru, sydd ar gael ar Wikimedia Commons, er mwyn creu data cyswllt manwl. Yna bydd Simon yn gweithio gyda’r Llyfrgell a gwirfoddolwyr yn y gymuned Wikidata i archwilio ffyrdd newydd o archwilio a dadansoddi’r data a delweddau cysylltiedig.

Wikidata landscape

Delwedd o Gasgliad Tirlun Cymru sy’n dangos lefel y manylder a fydd yn cael i greu ar gyfer pob delwedd.

 

Mae Wikidata yn cynnwys dros 17 miliwn o gofnodion yn barod ac yn tyfu’n gyflym. Ar yr un pryd mae datblygwyr meddalwedd yn creu offer arloesol ar gyfer archwilio a dadansoddi’r data yma. Y gobaith yw y bydd rhannu data Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn agored ar gyfer prosiectau fel hyn, yn galluogi ac ysbrydoli defnydd cyhoeddus o’n casgliadau digidol a data mewn nifer o ffyrdd cyffrous ac arloesol.

Mae’r cynllun prawf yma yn cael ei gefnogi gan Lyfrgell Wikipedia, a’r gobaith yw y gellir ei defnyddio i ddenu sefydliadau diwylliannol eraill i gynnal prosiectau tebyg yn y dyfodol agos.

Jason Evans

Wicipediwr Preswyl

 

Tagiau: , , , ,

Postiwyd - 23-11-2015

Casgliadau / Collections / Digido / Digitisation / Newyddion a Digwyddiadau

Y Vaux Passional

I ddathlu wythnos #CaruDigidol mae’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi rhyddhau lluniau digidol o ansawdd uchel o un o’i lawysgrifau canoloesol pwysicaf a harddwch, Y Vaux Passional, i’r parth cyhoeddus drwy Wikimedia Commons. Mae llawer o’r delweddau hyn yn darlunio hanes y Dioddefaint Crist ac maent hefyd yn cynnwys, efallai’r portread cynharaf o Dywysog Harri, sef y brenin Harri VIII yn ddiweddarach.

 

Tagiau: , , ,

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog