Tag Archives: Iechyd

Postiwyd - 07-01-2019

Casgliadau / Collections

Nofio yn y môr – mae’n iachusol!

Beth yw’r peth cyntaf sy’n dod i’ch meddwl wrth ystyried gwyliau’r Nadolig a Blwyddyn Newydd? Nofio yn y môr? Wel, dyna fydd llawer yn ei wneud ar Ddydd San Steffan neu 1 Ionawr. Ar draws y wlad, mae niferoedd yn heidio i’r traethau yn eu gwisgoedd ffansi gan fentro i’r môr -boed i godi arian at elusen, derbyn her neu brofi dewrder. Ond feddylioch chi erioed am nofio yn y môr er mwyn gwella eich iechyd?

Ers canrifoedd mae meddygon wedi nodi’r manteision corfforol o ymdrochi mewn dŵr oer ac wedi cynghori ymweld â threfi glan y môr i wella afiechyd. Credir fod trochi yn nŵr hallt y môr dros gyfnod o wythnosau neu fisoedd yn gwella afiechydon i’r ysgyfaint a’r croen, yn gwella chylchrediad y gwaed a chryfhau’r system imiwnedd. ’Slawer dydd roedd ymweliad â glan môr yn fwy o feddyginiaeth na gwyliau ac i feddygon y ddeunawfed ganrif roedd tywod, tonnau a’r traeth fel ein fferyllfa heddiw! 

Gelwir y feddyginiaeth hon yn ‘thalassotherapy’, gair a fathwyd gan Hippocrates yn gyntaf i ddisgrifio effeithiau iachusol dŵr y môr. Daw o’r Groeg: thalassa sef ‘môr’ a therapeia sy’n golygu ‘therapi’ neu ‘iachad’.

Ymdrochwyr ar Draeth y De, Aberystwyth

Yn Remarks on Sea Air and Sea Bathing, llyfryn a gyhoeddwyd yn 1862, dywed y meddyg John Holt Elkes Stubbs:

‘A coldbath is a powerful tonic, particularly with children, and bathing in the open sea is the best form.’

Ynddo hefyd ceir disgrifiad y meddyg Erasmus Wilson o bwysigrwydd y croen wrth ymdrochi. Tybid bod croen unigolyn o faint a thaldra cyffredin gydag arwynebedd o dros 2,500 modfedd sgwar ac mae’n cynnwys dros 7,000,000 o groendyllau chwys. Mae’r ymateb o fywiogi a gaiff unigolyn wrth fynd i’r môr yn deillio o’r gronynnau hallt sy’n adfywio’r croen ac o’r sioc sy’n dod o brofi’r tonnau oer. Amsugnai’r croen y gronynnau hallt hyn a’r canlyniad oedd rhwystro afiechydion a gwella salwch.

Roedd y môr hefyd yn feddyginiaeth poblogaidd ar gyfer y Ddarfodedigaeth neu’r Diciâu hyd ddiwedd yr epidemig yn y 1860au. Aeth rhai meddygon gam ymhellach gan gynghori yfed dŵr y môr fel moddion gan ychwanegu mêl neu lefrith i wella’r blas.  Bu Dr. Richard Russell yn argymell ymdrochi ac yfed dŵr hallt i glaf gwahanglwyfus. Yn ei draethawd a gyhoeddwyd yn 1750, A Dissertation on the Use of Seawater in the Diseases of the Glands, Particularly, the Scurvy, Jaundice, King’s Evil, Leprosy and the Glandular Consumption, disgrifia glaf yn frech o’i gorun i’w sawdl gyda’r gwahanglwyf. Ei feddyginiaeth oedd ymdrochi’n ddyddiol yn y môr ac yfed peint o ddŵr hallt bob bore am naw mis.

Ar y cyfan, nid yw tymheredd y môr yn codi dros 67°F (19.4° Celsiws). Felly os ydych yn ddigon dewr i fentro i’r môr er mwyn eich iechyd ar 1 Ionawr 2019, ewch amdani! Ond diolchwch nad yw’r arfer o yfed dŵr hallt a llefrith yn parhau hyd heddiw!

Daw’r wybodaeth uchod o adran feddygaeth y Casgliad Print Cymreig. Mae’n gasgliad o adnoddau Cymraeg a Chymreig ym maes meddygaeth a iechyd sy’n dyddio o’r 1750au. Ceir 6,500 o eitemau boed yn lyfrau ar foddion cynnar, meddyginiaethau llysieuol, adroddiadau swyddogion iechyd trefol a gwladol ac adroddiadau ysbytai a chanolfannau iechyd meddwl. Hefyd ceir cyfres  lawn o adroddiadau a chofnodion y Welsh National Memorial Association (WNMA), Brenin Edward VII. Cymdeithas iechyd a ragflaenodd y GIG ac fe’i sefydlwyd yn 1911 i gynnig triniaeth rhad ac am ddim i’r Diciâu.

Prosiect newydd yn LlGC yw ‘Meddygaeth ac Iechyd yng Nghymru cyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol’ wedi’i hariannu gan yr Ymddiriedolaeth Wellcome. Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn catalogio a digido’r casgliad pwysig hwn, trysorau a fu’n angof yn rhy hir, gan gynnig mynediad ar-lein i’r cyhoedd, myfyrwyr a haneswyr meddygaeth.

Branwen Rhys
Rheolwr Prosiect Meddygaeth ac Iechyd yng Nghymru cyn y GIG

Tagiau: ,

Postiwyd - 15-09-2017

Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Wici-Iechyd

Gwella mynediad ar-lein at wybodaeth ar iechyd yn yr iaith Gymraeg

Bydd y Wicimediwr Cenedlaethol, a benodwyd yn ddiweddar gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn dechrau yn ei rôl newydd trwy fynd i’r afael â phwnc pwysig sy’n wynebu siaradwyr Cymraeg – rhoi mynediad am ddim at wybodaeth, o ansawdd uchel, ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd a lles yn y Gymraeg.

Wicipedia yw’r wefan Gymraeg fwyaf yn y byd gyda thros 90,000 o erthyglau. Datgelodd archwiliad diweddar o’r cynnwys mai dim ond nifer fechan o erthyglau a geir ar iechyd ar Wicipedia. Er hyn, mae hynny o erthyglau sy’n bodoli, ar gyfartaledd, yn fwy poblogaidd nag erthyglau ar unrhyw bwnc arall. Mae hyn yn awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn dymuno darllen gwybodaeth am eu hiechyd ar Wicipedia drwy gyfrwng y Gymraeg.

  • Mae gan Wicipedia 1,500 o erthyglau ar iechyd yn y Gymraeg o’i gymharu â 84,000 yn Saesneg.
  • Ceir 2.09% o erthyglau Cymraeg ar iechyd  ar Wicipedia o gymharu â 6.67% yn Saesneg.
  • Mae ymweliadau ag erthyglau Cymraeg sy’n ymwneud ag Iechyd yn cyfrif am 12% o’r holl ymweliadau tudalennau, mwy nag unrhyw bwnc arall.

Credir mai Wikipedia yw’r adnodd ar iechyd a ddefnyddir fwyaf yn y byd  (yn seiliedig ar 4.8 biliwn o dudalennau yn 2013) ac felly mae’n hanfodol ei fod yn cynnwys gwybodaeth ddibynadwy a chynhwysfawr ar bob agwedd o iechyd- o feddyginiaethau a gweithdrefnau llawfeddygol, i ffitrwydd , lles, a gwybodaeth hanesyddol.

Amcangyfrifir bod afiechydon yn costio biliynau i Gymru bob blwyddyn, a byddai sicrhau mynediad hawdd ac am ddim at wybodaeth am iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg (ar Wicipedia) yn helpu i drosglwyddo’r wybodaeth sydd ei angen ar y cyhoedd mewn ffurf y maent yn gyfarwydd ag o.

Bydd y prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweld y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru, i addysgu ac annog gweithwyr iechyd proffesiynol, myfyrwyr meddygol a’r cyhoedd yn gyffredinol i wella cynnwys iechyd ar Wicipedia.

Bydd y Wicimediwr Cenedlaethol hefyd yn ceisio llunio partneriaethau gydag elusennau a sefydliadau sydd eisoes yn cynhyrchu cynnwys ar iechyd yn y Gymraeg. Trwy gydweithio â hwy, anelir i ddarparu mynediad at y cynnwys hwn drwy Wicipedia, gan osod dolenni yn y testun i dywys y defnyddwyr yn ôl at wasanaethau ar lein y cyfranogwyr.

Y gobaith yw y bydd y prosiect 9 mis yn arwain at greu 3000 o erthyglau newydd yn ymwneud ag iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg ar Wicipedia.

Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â nodau’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

(Cymru) 2015, sef helpu i ddatblygu Cymru iachach a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o bartneriaid allweddol y Llywodraeth wrth gyflwyno’r ddeddf hon.

Bydd y prosiect hefyd yn helpu’r Llyfrgell i ymgysylltu â chymunedau newydd a datblygu partneriaethau newydd yn y sectorau addysg ac iechyd er mwyn hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith ddigidol.

Tagiau: , , , , ,

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog