Tag Archives: Cymraeg

Postiwyd - 19-09-2018

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Cofnodion Llongau Aberystwyth

Creu data agored cysylltiedig ar gyfer cofrestri llongau Fictorianaidd

Mae gwirfoddolwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn trawsgrifio cofnodion llongau o’r 19eg ganrif ar gyfer Aberystwyth, ac mae’r rhain bellach yn cael eu rhannu’n agored gan Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell ar Wikidata.

 

Am y tro cyntaf mae’n bosib gweld a chwestiynu’r cofnod hanesyddol cyfoethog hwn er mwyn i ni gael cipolwg ar fywyd yn Aberystwyth yn y 19eg ganrif.

 

Yn y 18fed a’r 19eg Ganrif, nid oedd yn hawdd cyrraedd Gorllewin Cymru. Cyn dyfodiad y trên a dyfeisio tarmac, y ffordd orau o gael nwyddau i mewn ac allan o Orllewin Cymru oedd ar longau. Roedd y llongau’n ddiwydiant ffyniannus yn nhrefi a phentrefi ar hyd arfordir Gorllewin Cymru ac nid oedd Aberystwyth yn eithriad. Mae cofnodion am fwy na 500 o longau a gofrestrwyd yn Aberystwyth yn goroesi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifdy Sir Ceredigion.

 

Harbwr Aberystwyth gan Alfred Worthington

 

Dechreuodd gwirfoddolwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol drawsgrifio cofnodion llongau Aberystwyth yn 2012. Roedd y data a ddetholwyd ganddynt yn cynnwys gwybodaeth am y llongau, eu criw a’r teithiau a ymgymerwyd ganddynt.

 

Yn 2016 dechreuodd y Llyfrgell archwilio’r posibilrwydd o gyfoethogi rhai elfennau o’r data gan ddefnyddio Wikidata fel llwyfan i’w rannu. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â Wikidata, mae’n rhan o’r teulu o wefannau Wikimedia, sy’n cynnwys Wikipedia, ac mae’n gronfa ddata enfawr o ddata agored, am ddim. Nid yw Wikidata yn chwech oed eto ond mae eisoes yn cynnwys 50 miliwn o eitemau data am bob math o bynciau, a ychwanegwyd gan wirfoddolwyr a sefydliadau sy’n dymuno rhannu eu data gyda’r byd. Cydweithiodd Wicimediwr y Llyfrgell gydag Archifdy Sir Ceredigion, sy’n dal gwybodaeth ychwanegol am y llongau, er mwyn creu data cysylltiedig am y llongau eu hunain. Roedd y data hwn yn cynnwys manylion megis math a maint pob llong, dyddiad a lleoliad yr adeiladwaith ac, lle y gwyddys, eu tynged.

 

O hyn, roeddem yn gallu dechrau cloddio yn y data, a chreu darluniau dadlennol. Os ydych chi am weld yr enwau mwyaf poblogaidd ar gyfer llongau a gofrestrwyd yn Aberystwyth, er enghraifft, gallwn adfer a chyflwyno’r wybodaeth hon yn hawdd. Dangosodd map o leoliadau adeiladu’r llongau rhai ffeithiau diddorol hefyd. Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, adeiladwyd llawer o’r llongau yn lleol yn Aberystwyth, Borth ac Aberdyfi, er enghraifft, ond mae’r data hefyd yn dangos bod dwsinau o longau wedi’u hadeiladu yng Nghanada. Darganfyddwyd, trwy ychydig ymchwil, fod llywodraeth y dydd yn mor bryderus am ymosodiad Ffrengig eu bod wedi sefydlu iardiau adeiladu llongau yn fwriadol mewn tiroedd mwy diogel, fel Ynys Tywysog Edward oddi ar Arfordir Canada, er mwyn diogelu’r gallu i symud nwyddau o gwmpas y Deyrnas Unedig.

 

Map Geiriau o’r enwau llongau mwyaf poblogaeth

 

Chwith; llongau adeiladwyd yng Nghanada. Dde; llongau adeiladwyd yn Aberystwyth ac Aberdyfi

Roeddem hefyd yn gallu plotio’r holl longddrylliadau a grybwyllir yn y cofnodion. Mae hyn nid yn unig yn tanlinellu’r peryglon o hwylio yn y 19eg ganrif, ond mae’n dangos sut mae llongau o bentrefi bach Gorllewin Cymru wedi teithio’r byd. O India, Tsieina ac Affrica i Dde America a hyd yn oed y Polyn Deheuol, roedd morwyr Cymru wedi teithio’r byd hysbys.

 

 

Lleoliad llongddrylliadau a gofnodwyd yn y cofnodion llongau

 

Ar ôl y gwaith trawsgrifio cychwynnol, roedd llawer o’r gwirfoddolwyr a oedd wedi gweithio ar y casgliad yn awyddus i wneud mwy, i gasglu mwy o wybodaeth am y llongau, eu criw a’u perchnogion, felly yn 2017 gosodwyd cyfres o dasgau newydd. Dechreuodd gwirfoddolwyr chwilio am ffotograffau a phaentiadau o’r llongau, ymchwilio i dynged mwy o’r llongau, cofnodi perchnogion pob llong a dechrau’r dasg enfawr o ymchwilio i fywydau meistr pob llong a enwir yn y cofnodion.

 

Er y bydd y dasg o nodi’r holl feistri llongau yn cymryd peth amser eto, mae’r cyntaf o’r tasgau bellach wedi’i gwblhau. Mae data am berchnogion pob llong yn bodoli yn y cofnodion llongau gwreiddiol, ond nid oedd hyn o fewn sgôp y prosiect gwreiddiol, felly rydym ni’n ddiolchgar iawn i ddau o’r gwirfoddolwyr a oedd yn gweithio ar y prosiect gwreiddiol, Lilian a Myfanwy am fynd yn ôl drwy’r cofnodion, a ffynonellau eraill megis y ‘Crew List Index Project’ a thynnu’r data allan. Mae llawer o’r data bellach wedi’i ymgorffori gyda gweddill y data ar gyfer y llongau ar Wikidata. Ar wahân i ddarparu ffordd hawdd i chwilio ac archwilio’r data a gedwir yn y casgliad, mae’r Wikidata yn ein galluogi i holi a darlunio’r data mewn ffyrdd newydd, sy’n ein helpu i ddeall yn well beth mae’r cofnodion yma’n ei ddweud wrthym.

 

Mae’r data newydd nawr yn golygu, ar gyfer llawer o longau, y gallwn siartio eu perchnogaeth trwy gydol eu bywyd ar y moroedd. Rydym hefyd wedi gallu creu eitemau data ar gyfer pob un o berchnogion y llongau, boed yn unigolion neu gwmnïau llongau sefydledig. Gwyddomy lleoliad lle seliwyd y cwmnïau, a lle roedd unigolion yn byw, ac rydym yn gwybod, o’u henwau prun ai oeddent yn ddynion neu’n fenywod.

 

Er enghraifft, allan o’r 630 o berchnogion a nodwyd, mae 47 yn fenywod. Byddai angen mwy o ymchwil, ond ar yr olwg gyntaf, mae’n edrych fel bod y rhan fwyaf o’r 47 wedi cymryd perchnogaeth yn dilyn marwolaeth eu gwŷr.

 

Mae’r cofnodion yn dangos sut yr oedd y llongau’n newid dwylo’n rheolaidd. Os y cymerwn ni’r ‘Volunteer’ (enw addas), gallwn lunio siart sy’n dangos ei holl berchnogion, y llongau eraill y mae’r bobl hynny berchen, a pherchenogion eraill y llongau hynny – sydd yn peintio darlun cymhleth o’r busnes perchnogaeth llongau yng Ngorllewin Cymru. A dylid nodi, mewn sawl achos, mai prif gyfranddalwyr neu berchennog/rheolwr penodedig yw’r 630 o berchenogion a nodir. Roedd gan lawer o’r llongau hyn gyfranddalwyr lluosog, gan olygu bod gan nifer o bobol o gefndir gwahanol, y gallu i fforddio buddsoddi yn y fasnach longau prysur.

 

 

Perchnogion y  ‘Volunteer’ efo llongau a perchnogion cysylltiedig

 

Gallwn hefyd weld pwy oedd y unigolion pwysig yn Aberystwyth trwy chwilio’r data am berchnogion llongau yn ôl y nifer y llongau yr oeddent yn berchen. Daeth Thomas Jones, gwneuthurwr llongau Aberystwyth i’r blaen, yn berchen fwy na 20 o longau o un adeg i’r llall.

 

Perchnogion llongau yn ol  nifer o llongau

 

Llinell amser o longau sydd yn berchen i Thomas Jones

Mae Wikidata, fel Wikipedia, yn llwyfan y gall unrhyw un ei olygu felly nawr gall unrhyw un helpu i wella’r data. Os ydynt yn gweld camgymeriadau, neu os oes ganddynt wybodaeth ychwanegol, gellir ei ychwanegu’n hawdd i Wikidata. Mae ein gwirfoddolwyr yn dal i weithio’n galed i gasglu rhagor o ddata, felly bydd y data sy’n gysylltiedig â chofnodion Llongau Aberystwyth yn parhau i dyfu dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Mae pawb yn rhydd i archwilio ac ailddefnyddio’r data, felly ar gyfer y rhai yn eich plith sy’n dechnegol, mae croeso i chi hacio, creu, mashio ac ail-weithio ein data, a sicrhewch eich bod yn rhannu’r canlyniadau gyda ni!

 

 

Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , , , ,

Postiwyd - 15-09-2017

Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Wici-Iechyd

Gwella mynediad ar-lein at wybodaeth ar iechyd yn yr iaith Gymraeg

Bydd y Wicimediwr Cenedlaethol, a benodwyd yn ddiweddar gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn dechrau yn ei rôl newydd trwy fynd i’r afael â phwnc pwysig sy’n wynebu siaradwyr Cymraeg – rhoi mynediad am ddim at wybodaeth, o ansawdd uchel, ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd a lles yn y Gymraeg.

Wicipedia yw’r wefan Gymraeg fwyaf yn y byd gyda thros 90,000 o erthyglau. Datgelodd archwiliad diweddar o’r cynnwys mai dim ond nifer fechan o erthyglau a geir ar iechyd ar Wicipedia. Er hyn, mae hynny o erthyglau sy’n bodoli, ar gyfartaledd, yn fwy poblogaidd nag erthyglau ar unrhyw bwnc arall. Mae hyn yn awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn dymuno darllen gwybodaeth am eu hiechyd ar Wicipedia drwy gyfrwng y Gymraeg.

  • Mae gan Wicipedia 1,500 o erthyglau ar iechyd yn y Gymraeg o’i gymharu â 84,000 yn Saesneg.
  • Ceir 2.09% o erthyglau Cymraeg ar iechyd  ar Wicipedia o gymharu â 6.67% yn Saesneg.
  • Mae ymweliadau ag erthyglau Cymraeg sy’n ymwneud ag Iechyd yn cyfrif am 12% o’r holl ymweliadau tudalennau, mwy nag unrhyw bwnc arall.

Credir mai Wikipedia yw’r adnodd ar iechyd a ddefnyddir fwyaf yn y byd  (yn seiliedig ar 4.8 biliwn o dudalennau yn 2013) ac felly mae’n hanfodol ei fod yn cynnwys gwybodaeth ddibynadwy a chynhwysfawr ar bob agwedd o iechyd- o feddyginiaethau a gweithdrefnau llawfeddygol, i ffitrwydd , lles, a gwybodaeth hanesyddol.

Amcangyfrifir bod afiechydon yn costio biliynau i Gymru bob blwyddyn, a byddai sicrhau mynediad hawdd ac am ddim at wybodaeth am iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg (ar Wicipedia) yn helpu i drosglwyddo’r wybodaeth sydd ei angen ar y cyhoedd mewn ffurf y maent yn gyfarwydd ag o.

Bydd y prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweld y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru, i addysgu ac annog gweithwyr iechyd proffesiynol, myfyrwyr meddygol a’r cyhoedd yn gyffredinol i wella cynnwys iechyd ar Wicipedia.

Bydd y Wicimediwr Cenedlaethol hefyd yn ceisio llunio partneriaethau gydag elusennau a sefydliadau sydd eisoes yn cynhyrchu cynnwys ar iechyd yn y Gymraeg. Trwy gydweithio â hwy, anelir i ddarparu mynediad at y cynnwys hwn drwy Wicipedia, gan osod dolenni yn y testun i dywys y defnyddwyr yn ôl at wasanaethau ar lein y cyfranogwyr.

Y gobaith yw y bydd y prosiect 9 mis yn arwain at greu 3000 o erthyglau newydd yn ymwneud ag iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg ar Wicipedia.

Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â nodau’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

(Cymru) 2015, sef helpu i ddatblygu Cymru iachach a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o bartneriaid allweddol y Llywodraeth wrth gyflwyno’r ddeddf hon.

Bydd y prosiect hefyd yn helpu’r Llyfrgell i ymgysylltu â chymunedau newydd a datblygu partneriaethau newydd yn y sectorau addysg ac iechyd er mwyn hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith ddigidol.

Tagiau: , , , , ,

Postiwyd - 20-01-2017

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

WICIPOP

Bydd prosiect newydd yn canolbwyntio ar wella cynnwys Wicipedia ar  y Sîn Gerddoriaeth Bop Gymraeg.

Mae’r  Wicipedia Cymraeg yn cynnwys tua 90,000 o erthyglau Cymraeg a bwriad prosiect Wikipop yw  ychwanegu 500 o erthyglau mewn ymgais i gofnodi a chyfoethogi hanes ysgrifenedig y sîn gerddoriaeth Gymraeg bywiog.

Ffynhonnell: Wikimedia Commons CC_BY. Attribution Silvio Tanaka, 2009.

Mae Ionawr yn nodi dwy flynedd ers i Lyfrgell Genedlaethol Cymru benodi Wicipediwr Preswyl. Yn ystod y ddwy flynedd hynny mae’r Llyfrgell wedi helpu hyfforddi golygyddion Wicipedia newydd sydd wedi creu cannoedd o erthyglau newydd, ac mae’r llyfrgell wedi arwain y ffordd wrth hyrwyddo mynediad agored at dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Rhannwyd 15,000 o ddelweddau digidol o gasgliadau’r llyfrgell ar drwydded agored drwy Comin Wikimedia ac mae’r delweddau a ddefnyddir mewn erthyglau Wicipedia wedi cael eu gweld bron i 200 miliwn o weithiau.

Yn awr, gyda cymorth grant gan Llywodraeth Cymru a mewn  cydweithrediad efo Wikimedia UK, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau ar brosiect,  3 mis o hyd, i greu a gwella erthyglau Wicipedia am gerddoriaeth bop Cymraeg.

Y nod yw creu 500 o erthyglau newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan cynnwys rhaglen estyn allan a chyfres o ‘Olygathonau’ a fydd yn annog pobl i ysgrifennu cynnwys newydd.

Bydd aelodau o’r cyhoedd a sefydliadau yn cael eu hannog i rannu gwybodaeth a allai fod ar gael eisoes, a bydd staff technegol y Llyfrgell Genedlaethol yn treialu awtomeiddio’r broses o greu erthyglau Wikipedia gan ddefnyddio data.
Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect newydd cyffrous hwn, cysylltwch â ni.

 

Jason Evans

Wikipediwr Preswyl, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Tagiau: , , , , , , ,

Postiwyd - 13-10-2016

Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Dim erthygl? Dim problem!

Creu Daleni Data ar y Wicipedia Cymraeg

Mae’r Wicipedia Gymraeg eisoes yn gwneud yn well na’r disgwyl gyda dros 70,000 o erthyglau. Yn fras dyna un erthygl i bob wyth Siaradwr Cymraeg. Ond yn awr mae myfyriwr yn yr Almaen wedi datblygu teclyn newydd a all lenwi’r bylchau ar Wicipedia drwy fenthyg data o brosiect arall gan Wicimedia, sef Wicidata.

Nod y nodwedd newydd yw cynyddu mynediad agored ac am ddim i wybodaeth ar Wicipedia. Mae’r ‘Ddalen Data’ (Article Placeholder yn Saesneg) yn casglu data, delweddau a chyfeiriadau o Wicidata a’u harddangos yn arddull arferol Wicipedia, gan ei gwneud yn hawdd eu darllen.

Ar hyn o bryd mae’r Ddalen Data yn cael ei threialu ar nifer fechan o Wicipedias, ac ar ôl ymgynghori â’r gymuned Wicipedia Cymraeg, cytunwyd y byddem yn profi’r teclyn newydd yma ar cy-wici.

Y fantais fwyaf amlwg o’r ddalen data yw’r mynediad hawdd at wybodaeth sydd heb ei chynnwys ar Wicipedia eto, a gyda 20 miliwn o eitemau ar Wicidata, nid yw’r wybodaeth yn brin! Dylai hyn yn ei dro annog golygyddion i greu erthyglau newydd gan ddefnyddio’r wybodaeth a gyflwynir yn y Ddalen Data.

Ond, efallai mai’r agwedd fwyaf gyffrous o ddefnyddio Wicidata i gynhyrchu cynnwys Wicipedia, yw bod Wicidata yn siarad cannoedd o ieithoedd (dros 288), gan gynnwys y Gymraeg! Golyga hyn bod llawer o’r tudalennau mae’r meddalwedd yn eu creu ar y Wicipedia Cymraeg yn ymddangos yn uniaith Gymraeg.

Os nad yw’r eitem ar Wicidata wedi cael ei gyfieithu i’r Gymraeg eto, bydd y nodwedd yn ymddangos yn Saesneg, fodd bynnag, mae’n awr yn haws nag erioed i gyrraedd yr eitem Wikidata, trwy’r Ddalen Data, ac ychwanegu cyfieithiad Cymraeg (gweler y llun isod). Ac mae cynlluniau ar y gweill i gynnal digwyddiadau gyda siaradwyr Cymraeg er mwyn cyfieithu rhagor o eitemau Wicidata i’r Gymraeg.

Trwy ymgorffori’r nodwedd hon i mewn i’r Wicipedia Cymraeg mae gobaith y bydd gan siaradwyr Cymraeg brofiad cyfoethocach o’r wefan ac y bydd yn annog mwy o olygyddion i greu cynnwys ac ychwanegu cyfieithiadau Cymraeg i Wicidata, sydd yn atgyfnerthu lle’r iaith Gymraeg yn y deyrnas ddigidol.

 

Jason Evans,

Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol

Tagiau: , , , ,

Categorïau

Chwilio

Archives

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog