Tag Archives: Barddoniaeth

Postiwyd - 29-06-2018

Casgliadau / Collections / Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Barddoniaeth

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, cyfrolau’n cynnwys barddoniaeth sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o’r eitemau fydd yn cael eu digido yn sgil y prosiect.

 

Huw Jones (gol.) – Diddanwch Teuluaidd, 1763

Golygwyd y gyfrol farddonol ‘Diddanwch Teuluaidd’ gan Huw Jones. Casgliad ydoedd o weithiau beirdd mwyaf nodedig Môn, gan gynnwys Goronwy Owen, Lewis Morris, Hugh Hughes ac eraill. Argraffwyd y gyfrol yn Llundain, ond fe’i hailgyhoeddwyd yn ddiweddarach – yng Nghaernarfon ym 1817 ac yn Lerpwl ym 1879.

Roedd Goronwy Owen yn fardd ac yn athro nodedig. Ym 1757 hwyliodd o Lundain i Virginia wedi iddo dderbyn swydd fel athro mewn ysgol ramadeg yn Williamsburgh. Pan oedd yn iau, cyfansoddodd lawer iawn o gampweithiau barddonol. Edmygwyd ei waith gan y genhedlaeth ddilynol o feirdd ac fe efelychwyd Owen gan nifer ohonynt.

Athro barddol enwog oedd Lewis Morris a bu Goronwy Owen yn ddisgybl iddo. Cyfansoddodd nifer o weithiau caeth a rhydd o natur amharchus a chyhoeddwyd nifer ohonynt yn y gyfrol hon.

Roedd Hugh Hughes hefyd yn athro barddol ac yn gyfaill agos i Lewis Morris a’i frodyr. Gellir canfod casgliad o’i gyfansoddiadau yn ‘Diddanwch Teuluaidd’.

John Ceiriog Hughes – Oriau’r hwyr: sef, gweithiau barddonol John Ceiriog Hughes, 1860

Roedd John Ceiriog Hughes yn fardd Cymreig enwog ac ‘Oriau’r hwyr’ oedd ei gyhoeddiad cyntaf. Ymhlith ei hoff themâu oedd natur, serch a gwladgarwch. I gymharu â safonau cyfredol, yr oedd ei gerddi’n hynod sentimental o ran eu cynnwys a’u tôn, ond yn boblogaidd iawn serch hynny yn eu cyfnod. Yn y gyfrol hon, gellir canfod darnau poblogaidd sydd wedi eu hadrodd, eu haddasu’n ganeuon, a’u clywed ar lwyfannau ar draws Cymru am genedlaethau lawer. Ac eithrio’r Beibl, ‘Oriau’r hwyr’ oedd cyfrol fwyaf poblogaidd Cymru, o ran gwerthiant, yn y 1860au. Gwerthwyd 30,000 o gopïau rhwng 1860 a 1872.

Sarah Jane Rees, Caniadau Cranogwen, 1870

Bardd, athrawes a golygydd nodedig oedd Sarah Jane Rees, neu Cranogwen. Enillodd ei gwobr nodedig gyntaf fel bardd yn Eisteddfod Aberystwyth ym 1865 ar y pwnc ‘Y Fodrwy Briodasol’. Casgliad o’i gwaith a geir yn ‘Caniadau Cranogwen’ ac fe gyhoeddwyd y gyfrol ym 1870 ar ôl ei llwyddiannau. Roedd Cranogwen hefyd yn siaradwraig gyhoeddus nodedig, yn bregethwr ac yn ymgyrchydd brwd; daeth yn olygydd ar ‘Y Frythones’ ym 1878, sef cylchgrawn Cymreig yn trafod materion menywod.

Alun Lewis, Raiders’ Dawn and other poems, 1942

Roedd Alun Lewis yn fardd ac yn awdur straeon byrion nodedig. Casgliad o’i waith a geir yn y gyfrol ‘Raiders’ Dawn and other poems’. Lluniwyd y cerddi hyn rhwng 1940 a 1941 pan oedd Lewis yng ngwersyll milwrol Bordon, lle dderbyniodd hyfforddiant milwrol. Ysbrydolwyd y rhan fwyaf o ddelweddau Lewis gan fytholeg Feiblaidd a Groegaidd, ac roedd tuedd ganddo i siapio ei gerddi fel damhegion neu alegorïau. Gwerthwyd yr argraffiadau cyntaf o’r gyfrol yn gyflym tu hwnt ac fe’i hail-argraffwyd chwe gwaith.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: , , ,

Postiwyd - 18-06-2015

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Anthem i’r Wladfa?

Darganfyddwyd y cân ar diwedd hen pamffled o 1875

Darganfyddwyd y cân ar diwedd hen pamffled o 1875

Mae eleni’n nodi 150 mlynedd ers i’r Gymru hwylio i Batagonia yn Ne America i chwilio am fywyd gwell. I ddathlu sefydliad Y Wladfa mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi curadu arddangosfa o’r enw ‘Gwladfa’ sy’n cynnwys archifau, llawysgrifau, ffotograffau a gweithiau celf o gasgliadau’r Llyfrgell. Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys Beibl Cymraeg a gludwyd i Batagonia ar fwrdd y Mimosa ym 1865. Fel Wicipediwr Preswyl yn y Llyfrgell rwyf wedi bod yn gweithio ar ddigwyddiad ‘Golygathon’ i wella cynnwys Wicipedia sy’n ymwneud â’r Wladfa, a hefyd , ar y cyd â Chasgliad y Werin Cymru, i wahodd y cyhoedd i rannu hen ddogfennau a lluniau yn ymwneud â’r Wladfa.

Wrth i mi gasglu deunydd ymchwil yn barod ar gyfer y digwyddiad, deuthum ar draws hen bamffled o’r enw ‘Adroddiad y Parch. D. S. Davies am Sefyllfa y Wladfa Gymreig’ ble mae’r awdur yn adrodd ar gyflwr amaethyddiaeth, y bywyd gwyllt, anifeiliaid, crefydd, a phob agwedd o fywyd yn y Wladfa. Mae’r pamffled, dyddiedig 1875 yn ddarn clir o bropaganda gyda’r nod o annog rhagor o bobl i ymfudo. Ar ddiwedd yr adroddiad, dan y teitl “Gwlad Newydd y Cymry” mae yna gân, a briodolir i ŵr o’r enw Lewis Evans, bardd, telynor, ac un o’r ymsefydlwyrCymreig cyntaf i ymfudo i Batagonia. Yr wyf yn adnabod y gân ar unwaith. Wedi ei seilio ar gân boblogaidd Evan James sef “Hen Wlad Fy Nhadau”, mae fersiwn Y Wladfa yn dechrau ‘Y Mae Patagonia yn anwyl I mi’ ac yn cloi gyda ‘O! bydded I’r Wladfa barhau’. Mae’r darn yn disgrifio harddwch yr afon Camwy a’r ‘Andes wen fawr’.

Mae’r darn yn cael ei gyflwyno yn yr adroddiad fel cân ar gyfer cenedl Gymreig newydd – anthem “Genedlaethol”. Ac mae hyn yn 1875, 30 mlynedd cyn i’r cyfansoddiad gwreiddiol gael ei chanu cyn gêm bêl-droed neu rygbi rhyngwladol. Erbyn 1875 roedd “Hen Wlad Fy Nhadau” yn gân boblogaidd yn eisteddfodau a digwyddiadau cymdeithasol eraill, ond mae’r darganfyddiad yma yn awgrymu fod rhai yn barod yn gweld y gân fel anthem “genedlaethol”. Hyd yn hyn ni allaf ddod o hyd i gyfeiriad arall i’r anthem ac mae’n ymddangos ei fod wedi ei golli mewn hanes ers dros 100 mlynedd, hyd nes ei ailddarganfod yn ddiweddar. Yn Amlwg ni fu i’r darn gwladgarol erioed lwyddo ym Mhatagonia, ble mae’r gymuned Gymraeg dal yn canu “Hen Wlad Fy Nhadau”.

Mae’r darganfyddiad yn rhoi i ni gipolwg diddorol i mewn i fywydau’r ymsefydlwyr cynnar arloesol. Mae’r gân yn portreadu pobl yn dathlu sylfaen cenedl wirioneddol Gymreig, yn rhydd o’r ormes hanesyddol o’u traddodiad, iaith a diwylliant.

 

Jason Evans

Tagiau: , , ,

Postiwyd - 20-05-2013

Digido

Gwn ei ddyfod, fis y mêl

Gwaith y bardd 'Eryr', o Briton Ferry, a gyhoeddwyd yn Gwladgarwr, 25 Mai 1867

Gwaith y bardd ‘Eryr’, o Briton Ferry, a gyhoeddwyd yn Gwladgarwr, 25 Mai 1867

Wrth feddwl am destun i’r blog y tro hyn, penderfynais bori drwy’r wefan newydd, Papurau Newydd Cymru Arlein, am ysbrydoliaeth, gan ganolbwyntio ar erthyglau neu eitemau yn ymwneud â mis Mai. Ces fy synnu fod cymaint o farddoniaeth ar gael ar y testun yma, oll yn canu clod i fis Mai.

Ceir esiamplau diri o feirdd yn trafod y mis hwn mewn modd rhamantaidd megis ‘Gyndelyn’, bardd o Gonwy, yn ei englyn yn Seren Cymru, Mai 24ain, 1895, tud. 10:

Mai inni wyt ddymunol – dy laswellt

A dy lysiau swynol;

Bron a dweyd mai bryn a dôl,

Na fu Eden fwy hudol.

 

Eto hefyd mae E B Morris, o Lanbedr Pont Steffan, yn llawn angerdd tuag at fis Mai yn y Goleuad, Mai 22ain 1903, t. 5:

O fisoedd y flwyddyn,

Y mwynaf yw Mai;

Goreura y dyffryn

A’r bryndir yn chwai.

 

Ceir natur ei gorau

Mewn mantell werdd, dlos;

A thryfrith gan flodau,-

Meill, briaill, a rhos…

 

Y defaid a borant

Mewn llonder ar fryn,-

A’r gwartheg mewn mwyniant

Hyd lanau y llyn…

 

Fel y gwelir, mae’r farddoniaeth yma yn canolbwyntio ar natur ac effaith y tywydd mwyn ar yr amgylchfyd a bywyd cefn gwlad, e.e. fel y gwneir hefyd yng ngwaith G Bat Davies o Ystradgynlais yn y Gwladgarwr, Ebrill 2il, 1864 (tud. 7)

 

HARDDWCH Y DDOL YN MIS MAI

Er chwythu o Chwefror a Mawrth yn ein herbyn,

A’r eira can oered yn syrthio mor sydyn !

Nes cuddio holl harddwch y bryniau a’r bröydd,

A chuddio gogoniant celfyddyd y trefydd.

 

Daw Mai mewn prydferthwch a’r ddol yn feillionog,

Y gog glywn yn canu, bydd pawb yn galonnog;

Canfyddir y coedydd yn gwisgo’u gwyrddlesni,

Ac anian a welir yn llon adlewyrchu….

 

Nid yw’r tywydd wedi bod yn rhy ffafriol yn yr ardal hon dros yr wythnosau diwethaf, gyda chawodydd cyson o law a hyd yn oed cesair yn cwympo mewn rhai mannau, ond wrth gwrs mae’n rhaid cofio fod unrhyw law a gawn ar yr adeg yma o’r flwyddyn yn angenrheidiol i dyfiant cnydau a phlanhigion dros y misoedd nesaf. Canai Ednant am hyn yn Nharian y Gweithiwr dros ganrif yn ôl (12fed o Fai, 1910) (t. 3):

CAWOD MAI

Yn ysgafn gyda’r awel

Daeth cawod Mai i lawr,

Heb dwrf fel cysgod angel

Yn gloewi gwen y wawr.

 

Mae anian yn llawn ynni

Yn drachtio’r dafnau chwai,

Un dyner fel goleuni

Yw maethlawn gawod Mai.

 

Difyr iawn oedd medru pori drwy gymaint o ddarnau cerdd o’r gorffennol, ac os ydych am fynd i chwilio eich hunain am bwnc o’ch dewis, ceir miliynau o erthyglau o bapurau newydd hanesyddol Cymreig yn rhad ac am ddim ar y wefan.

papuraunewyddcymru.llgc.org.uk

Siân Medi Davies, Uned Metadata Digido, Llyfryddiaeth Hanesyddol Cymru a Safonau

Tagiau: , ,

Categorïau

Chwilio

Archives

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog