Search Results

David Lloyd George ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Casgliadau / Darganfod Sain - Postiwyd 01-08-2019

Ganwyd David Lloyd George ym Manceinion ar 17 Ionawr 1863 ac fe’i magwyd yng Nghymru, lle daeth yn un o radicaliaid enwocaf y ganrif. Rhwng 1890 a 1945 etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros Gaernarfon.

Yn ystod blynyddoedd cynnar y Rhyfel Byd Cyntaf daeth Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys dan arweinyddiaeth Herbert Henry Asquith. Yn 1916 daeth yn Ysgrifennydd y Wladwriaeth Ryfel ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno ef oedd y siaradwr Cymraeg cyntaf i fod yn Brif Weinidog.

Yn 1916 cyhoeddodd ‘The Times’ lythyr lle’r oedd yr awdur yn gwrthwynebu cynnal yr Eisteddfod yn ystod y rhyfel. Mewn ymateb i’r erthygl hon cyflwynodd Lloyd George araith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth a ddechreuodd:

“Pam na ddylem ni ganu yn ystod y rhyfel? Pam na ddylem yn arbennig ganu ar y cam hwn o’r rhyfel? ”

Mae’n parhau i feirniadu’r llythyr gan dynnu sylw at y ffaith fod Prydain yn dal i fod yn fyw, heb ei chwalu na’i thorri ac felly “pam na ddylai ei phlant ganu?”

Trwy gydol ei araith, mae Lloyd George yn amddiffyn yn frwd y modd y cynhaliwyd yr Eisteddfod yn ystod y rhyfel:

“Mae cannoedd o ryfeloedd wedi ysgubo dros y bryniau hyn, ond nid yw telyn Cymru erioed wedi cael ei thawelu gan un ohonynt, a dylwn i fod yn falch pe bawn i’n cyfrannu rhywbeth i’w chadw mewn tiwn yn ystod y rhyfel hwn, trwy gynnal yr Eisteddfod hon heddiw. ”

Yn ôl yr ‘Abergavenny Chronicle’ dywed Lloyd George, “mae ein milwyr yn canu caneuon Cymru yn y ffosydd, ac maen nhw’n cynnal eu heisteddfodau bach tu ôl i’r ffosydd” ac yna parhaodd i ddarllen telegram a anfonwyd o’r rheng flaen:

“Cyfarchion a dymuniadau gorau am lwyddiant i’r Eisteddfod; gan Gymry yn y Gad. Yn yr Eisteddfod nesaf, byddwn ni gyda chi. ”

Ar 22 Awst 1916 adroddodd y papur newydd Y Genedl fod dros 7,000 yn gwrando ar Lloyd George yn amddiffyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth. Adroddodd y papurau newydd ei fod wedi aros yn yr ŵyl am beth amser ar ôl cyflwyno ei araith ac yna gadael y dref yng nghanol golygfeydd o frwdfrydedd aruthrol.

Ar 15 Chwefror 1934, recordiodd Lloyd George ran o’i araith enwog ‘Pam na ddylem ni ganu?’ yn stiwdio’r BBC, yn barod i’w darlledu ar y radio, er mwyn i’r byd ei chlywed.

Gwrandewch ar glip sain ‘Pam na ddylem ni ganu?’:

Cedwir copi o’r araith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a diolch i brosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain, mae wedi’i digido a’i storio’n ddiogel yn ystorfa ddigidol y Llyfrgell Brydeinig. Gallwch wrando ar y recordiad yn Ystafell Ddarllen y Llyfrgell ac mi fydd ar gael yn fuan ar-lein.

Alison Lloyd Smith,

Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain

Archif digidol o’r Rhyfel Byd Cyntaf wedi’i enwebu ar gyfer gwobr

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 24-02-2015

Mae archif ddigidol o’r Profiad Cymreig o’r Rhyfel Byd Cyntaf a ddatblygwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ei enwebu ar gyfer gwobr dyniaethau digidol rhyngwladol.

Fe lansiwyd Cymru1914.org, sydd ar gael i bawb am ddim, yn Nhachwedd 2013. Mae’n dod ynghyd archifau a chasgliadau arbennig Cymru sy’n ymwneud ag effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru: mae cofnodion tribiwnlys, archifau Corfflu Byddin Cymru a sefydlwyd gan Lloyd George, a llawysgrifau’r beirdd rhyfel Cymreig, gan gynnwys Hedd Wyn a David Jones, yn ffurfio rhan o’r casgliad sylweddol o 220,000 o eitemau digidol, nifer ohonynt yn perthyn i hanesion anhysbys y Rhyfel.

Mae’r archif wedi’i enwebu am Wobr y Dyniaethau Digidol yng nghategori “y defnydd orau o Ddyniaethau Digidol ar gyfer Ymgysylltu Cyhoeddus” (The Digital Humanities Award for “best use of Digital Humanities for Public Engagement”). Menter ryngwladol yw gwobrau’r Dyniaethau Digidol i adnabod rhagoriaeth yn y dyniaethau digidol. Mae enwebiad Cymru1914.org yn cydnabod ei ddefnydd gan gynulleidfaoedd eang ac amrywiol, ynghyd â’i ddefnydd ar gyfer pwrpasau coffâd ac addysg. Dywedodd y Llyfrgellydd a Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Dr. Aled Gruffydd Jones, “Yr ydym yn falch iawn i dderbyn yr enwebiad hwn, sy’n cydnabod yr agweddau o ymgysylltu cymunedol yn y cydweithrediad pwysig yma yn enwedig o ran darpariaeth cynnwys gan gymunedau a sefydliadau lleol. Mae hyn yn enwedig o foddhaol i’r Llyfrgell Genedlaethol gan fod ein strategaeth newydd, Gwybodaeth i Bawb, yn pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu cymunedol yn ein hetifeddiaeth ddogfennol.”

Dywedodd cyfarwyddwr y prosiect, Yr Athro Lorna Hughes (sydd bellach yn Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain): “Ers y lansiad mae Cymru1914.org wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth ar gyfer ymchwil, addysg, ac ymgysylltu cymunedol, ac mae’r enwebiad yn cydnabod yr effaith yma. Defnyddiwyd delweddau o recriwtiaid a milwyr gorfod anhysbys o’r archif ddigidol fel rhan o osodiad sain a fideo yr artist Bedwyr Williams, Traw, a gyflwynwyd ar safle bwa coffaol Gogledd Cymru ym Mangor yn Awst 2014. Mae’r archif ddigidol hefyd yn helpu plant ysgol i ddatblygu sgiliau digidol a llythrennedd fel rhan o brosiect Cymru yn y Rhyfel (walesatwar.org)”.

Datblygwyd y casgliad digidol diolch i grant o £500,000 gan Jisc, noddwyr isadeiledd ac adnoddau digidol ym Mhrydain, a nawdd gan Lywodraeth Cymru. Arweiniwyd y prosiect gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, archifau lleol Conwy, Sir Y Fflint, Morgannwg, a Gwent, Archif BBC Cymru Wales, a chynnwys cymunedol a ddatblygwyd gan Gasgliad y Werin Cymru.

Mae’r wobr hefyd yn cydnabod gwaith caled yr amryw o bobol wnaeth helpu i ddatblygu’r adnodd: staff y sefydliadau partner, a staff casgliadau, systemau a TG y Llyfrgell. Diolch i’w mewnbwn nhw, lansiwyd yr adnodd ar amser ac o fewn cyllideb.

Mae pleidleisio ar gyfer gwobrau’r Dyniaethau Digidol yn cau ar yr 28ain o Chwefror. I bleidleisio ewch i :  http://dhawards.org/dhawards2014/voting/

“Byddin Gymreig yn y maes” a sefydlu’r Corfflu Cymreig yn 1914

Casgliadau / Digido - Postiwyd 04-10-2013

Diddorol ydoedd darllen blog cydweithiwr i mi peth amser yn ôl bellach, yn sôn am ei waith yn catalogio pamffledi o gasgliad Gladstone yma yn y Llyfrgell, ac yn arbennig, pamffled yn dwyn y teitl “Through terror to triumph!”.  Copi o araith David Lloyd George oedd hon a draddododd fel Canghellor y Trysorlys ar 19 Medi 1914 yn Neuadd y Frenhines yn Langham Place, Llundain.  Er nad yw’r adeilad yn bodoli bellach wedi iddo gael ei ddifrodi yn ystod y Blitz yn 1941, pan oedd y wlad ynghanol erchyllterau’r Ail Ryfel Byd, mae’r hyn a glywyd yno 99 mlynedd yn ôl o arwyddocâd enfawr i hanes Cymru yn ystod y Rhyfel Mawr.

Byrdwn yr araith oedd ceisio cyfiawnhau cyfrifoldeb Prydain i amddiffyn y cenhedloedd bychain megis Gwlad Belg a Serbia – “the little five-foot-five nations” fel y cyfeiriodd Lloyd George atynt yn ei araith, ond yr hyn a ddywedodd tua diwedd ei araith sydd am gymryd fy sylw yn y blog yma.

“ Wales must continue doing her duty.  I should like to see a Welsh Army in the field.  I should like to see the race that faced the Norman for hundreds of years in a struggle for freedom, the race that helped to win Crecy, the race that fought for a generation under Glendower against the greatest captain in Europe – I should like to see that race give a good taste of its quality in this struggle in Europe; and they are going to do it. ”

Dyna union eiriau’r Cymro a oedd yn mesur ond ryw bum troedfedd a phum modfedd o daldra ei hun, ac wrth iddo gyhoeddi y byddai’n hoffi gweld byddin Gymreig yn y maes, mi dderbyniodd gymeradwyaeth hirfaith oddi wrth y gynulleidfa.  Roedd yr hyn a ddywedodd yn gydnaws â theimladau’r genedl ar y pryd gyda mynegiant o undod cenedlaethol yn dilyn sefydlu Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

blog001_m

Clawr blaen a detholiad o dudalen 13 o gyfieithiad o’r araith a draddododd David Lloyd George yn Neuadd y Frenhines ar 19 Medi 1914.
(Welsh Army Corps Records, C113/9)

Ond, beth a ddaeth o hyn?  Deuddydd yn ddiweddarach, dechreuwyd rhoi’r geiriau hynny ar waith mewn cynhadledd a gynhaliwyd yn 11 Stryd Downing gydag ychydig o Gymry blaenllaw yn bresennol.  Yno, ffurfiwyd pwyllgor dros dro, a chyn diwedd y mis, trefnwyd Cynhadledd Genedlaethol ganddynt yng Nghaerdydd er mwyn lansio Cynllun ar gyfer y Corfflu Cymreig gydag Iarll Plymouth yn Gadeirydd ac Owen W. Owen yn Ysgrifennydd.  Gyda bron i ddwy fil o wahoddedigion yn cynrychioli Cymry ar bob lefel, addawyd y byddai Cymru ynghyd â Sir Fynwy yn codi Corfflu cyfan a hynny gyda sêl bendith yr Arglwydd Kitchener, Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel.

Copi carbon o ddalen cyntaf llythyr a ddanfonodd Owen W. Owen at y Cadfridog Syr W. Henry Mackinnon, y General Officer Commanding-in-Chief trannoeth y Gynhadledd yn Park Hall, Caerdydd ar 29 Medi 1914. (Welsh Army Corps Records, C11/1)

Copi carbon o ddalen cyntaf llythyr a ddanfonodd Owen W. Owen at y Cadfridog Syr W. Henry Mackinnon, y General Officer Commanding-in-Chief trannoeth y Gynhadledd yn Park Hall, Caerdydd ar 29 Medi 1914.
(Welsh Army Corps Records, C11/1)

 

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol ar 2 Hydref 1914 yn y Llysoedd Barn yng Nghaerdydd ac erbyn y 10fed o’r mis, cyhoeddwyd i’r General Officer Commanding-in-Chief dros Reolaeth Orllewinol lythyr wrth y Swyddfa Ryfel yn awdurdodi’r Pwyllgor i godi Corfflu Cymreig o ddwy Adran.  Erbyn diwedd Chwefror 1915, roedd gan y Corfflu Cymreig 20,000 o ddynion – digon i godi’r Adran gyntaf, a ddaeth i’w adnabod yn derfynol fel y 38th (Welsh) Division.

Yma yn y Llyfrgell, ceir archif y Corfflu Cymreig a ddaeth yn rhodd wrth weddw Owen William Owen, CBE yn 1930.  Mae’r casgliad wedi’i rhannu’n dri gr?p – gohebiaeth, cyfrifon a thendrau ar gyfer dillad ac angenrheidiau wrth iddynt sefydlu’r Corfflu; ceisiadau ar gyfer comisiwn; a phapurau gweinyddol.  Wrth fynd trwy’r casgliad cyfan o 167 bocs, 5 cyfrol, 3 rholyn ac un ffolder, ceir darlun llawn o waith a chyraeddiadau’r Corfflu Cymreig rhwng 1914 a 1921.

Mi ddewiswyd yr archif fel un o’r casgliadau fyddai’n cael ei ddigido yn ei chyfanrwydd ar gyfer project sy’n cael ei hariannu gyda Jisc sef Rhyfel Byd Cyntaf a’r profiad Cymreig, 1914-1918.  Cyn diwedd eleni, bydd modd byseddu trwy’r casgliad cyfan o unrhyw le yn y byd pan fydd gwefan y project wedi’i lansio.

D. Rhys Davies

Isadran Digido, Disgrifio a Derbynion Etifeddol

Tagiau: ,

Y Dewin, Yr Afr, a’r Dyn Enillodd y Rhyfel

Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 03-10-2013

Ar 28 o Fedi cychwynnodd ein harddangosfa diweddara am y gwleidydd,David Lloyd George, a ddaeth yn un o Brif Weinidogion enwocaf Prydain.

Daeth yn Brif Weinidog Prydain ym mis Rhagfyr 1916, pan oedd y Rhyfel Mawr yn ei anterth. Hyd heddiw, ef yw’r unig Gymro i wasanaethu yn y swydd hon. Yn yr arddangosfa hon o ddyddiaduron, llythyrau, ffilmiau ag eitemau personol cewch weld cymysgedd ddifyr Lloyd Georgeo newyddion o’r byd gwleidyddol wedi’u plethu’n gelfydd â chlecs personol a theuluol.

Ar 19 Chwefror 2014, i cyd-fynd â’r arddangosfa, fe fydd y Llyfrgell yn cynnal cyflwyniad awr ginio. Fe fydd Nest Thomas, Swyddog Amgueddfeydd ac Orielau Cyngor Gwynedd yn siarad am Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy.

Mae’r arddangosfa yn parhau tan 10 Mai 2014.

I’r rhai yn eich plith sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth, cofiwch for Darlith Blynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig yn cael ei gynnal yn y Llyfrgell ar ddydd Gwener, 1 Tachwedd, am 5.30pm. Mi fydd un o wleidyddion amlycaf Cymru, Yr Arglwydd Morris o Aberafan, yn hel atgofion am ei yrfa wleidyddol ddisglair.

Mynediad am ddim drwy docyn.

Am wybodaeth bellach am yr arddangosfa arbennig hon, â’r arddangosfeydd eraill sy’n cael eu cynnal yn ystod tymor yr hydref cofiwch ymweld â’n gwefan.

‘Trwy Braw i Goruchafiaeth’ – Lloyd George, Cymru a’r Rhyfel Mawr

Digido - Postiwyd 12-11-2012

Central Office of Information (London), “The Right Honourable David Lloyd George.” (PG234/15 Llyfr Ffoto LLGC : NLW Photograph Album 1014, dlg00001).

Yn ystod y misoedd diwethaf bûm yn catalogio pamffledi casgliad Gladstone y Llyfrgell, – casgliad gwerthfawr iawn fydd o ddiddordeb arbennig i unrhyw un sydd am wybod fwy am faterion gwleidyddol a diwylliannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Yng nghanol y nifer fawr o bamffledi sydd yn y casgliad deuthum ar draws  araith ysgrifennodd David Lloyd George yn 1914 i gynulleidfa Gymreig yn Neuadd y Frenhines yn Llundain, o dan y teitl Through Terror to Triumph. Pwrpas yr araith oedd ceisio cyfiawnhau rôl y wlad yn y Rhyfel Byd Cyntaf drwy ddatgan bod rhaid i Brydain amddiffyn Gwlad Belg oedd, yn ôl Lloyd George, yn wlad heddychlon, ddi-niwed. Pan oedd Gladstone yn Brif Weinidog yn 1870, arwyddodd Prydain gytundeb i amddiffyn Gwlad Belg ynghyd â Rwsia, Ffrainc, Awstria a Prwsia. Cwestiynodd felly pam i Awstria a Prwsia dorri eu addewid.

Ceir yma bolemig mewn gwirionedd yn portreadu’r Almaen fel y gelyn mawr, di-egwyddor yn ymosod ar wlad Belg fach, egwyddorol ond gwan. Cyfeiria at hanes Prwsia o dan Frederick y 1af, pan ddewiswyd ei milwyr yn seiliedig ar eu taldra (o leiaf 6 troedfedd 2 fodfedd o leiaf). Cyferbynna hyn gyda’r ffaith fod llawer o bethau da’r byd wedi eu creu gan wledydd bach a phobl bach.

Mae’n portreadu Serbia fel y wlad fach, ddi-niwed arall yn y rhyfel. Wrth gwrs, dechreuodd y rhyfel pan laddwyd Archddug Franz Ferdinand o Awstria-Hwngari gan ?r o Serbia.

Mae rhai o’i ddatganiadau i geisio denu milwyr i ymuno â’r fyddin yn peri anesmwythyd o wybod am y nifer fawr o golledion yn y rhyfel. Mae’n amlwg fod Lloyd George yn disgwyl rhyfel hir a gwaedlyd, a hynny a gafwyd yn y pen draw.

Pwysleisiodd y gwlatgarwch newydd a ddaeth yn sgil y rhyfel. Gwêl ddiwedd ar hunanoldeb, diogi a gormodedd – canlyniadau bywyd moethus. Byddai marw yn y rhyfel yn farw cysygredig, fyddai’n yn well na byw bywyd diflas, llafurus a dibwrpas.

I orffen, defnyddiodd ddelwedd o fynyddoedd a dyffrynnoedd gogledd Cymru. Mynna fod pobl Cymru wedi byw yn rhy hir yn gyfforddus, hapus yn y dyffrynnoedd wrth gael eu hamddiffyn o’r bannau. Roedd yn amser gadael y dyffrynnoedd i droedio uchelfannau’r mynyddoedd – dyletswydd gwlatgarwch, urddas ac aberth. Mae’n creu darlun o rhyfel fel cyfle cyffrous a rhinweddol. Go brin fod y milwyr yn credu hyn ar ôl cyrraedd y ffosydd!

Hywel Lloyd

Ar frig Rhestr ‘Cof y Byd’ UNESCO 2010

Casgliadau - Postiwyd 14-07-2010

Heddiw cyhoeddwyd mewn seremoni yn Nh?’r Arglwyddi, bod y ffilm The Life Story of David Lloyd George wedi’i enwi ar restr Cof y Byd UNESCO 2010. Mae’r ffilm, a wnaethwyd yn 1918, yn ddrama sy’n cyfleu bywyd y Prif Weinidog cyntaf o Gymru o’i fagwraeth yn Llanystumdwy i un o uchafbwyntiau ei yrfa yn arwain Prydain i fuddugoliaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r anrhydedd o fod ar y rhestr yn lwyddiant mawr, yn enwedig i’r rhai o’r Archif oedd yn gyrfifol am adfer y ffilm, a ddarganfyddwyd mewn cyflwr wael yn sied Yr Arglwydd Tenby yn 1994.

Yn 2009, rhyddhawyd DVD o’r ffilm gan yr Archif, ac mae ar gael i’w brynu ar wefan Siop y Llyfrgell. Mae clip o’r ffilm hefyd ar gael yn yr adran Archif Clipiau.

The Life Story of David Lloyd George

Ar frig Rhestr ‘Cof y Byd’ UNESCO 2010

Casgliadau - Postiwyd

Heddiw cyhoeddwyd mewn seremoni yn Nh?’r Arglwyddi, bod y ffilm The Life Story of David Lloyd George wedi’i enwi ar restr Cof y Byd UNESCO 2010. Mae’r ffilm, a wnaethwyd yn 1918, yn ddrama sy’n cyfleu bywyd y Prif Weinidog cyntaf o Gymru o’i fagwraeth yn Llanystumdwy i un o uchafbwyntiau ei yrfa yn arwain Prydain i fuddugoliaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r anrhydedd o fod ar y rhestr yn lwyddiant mawr, yn enwedig i’r rhai o’r Archif oedd yn gyrfifol am adfer y ffilm, a ddarganfyddwyd mewn cyflwr wael yn sied Yr Arglwydd Tenby yn 1994.

Yn 2009, rhyddhawyd DVD o’r ffilm gan yr Archif, ac mae ar gael i’w brynu ar wefan Siop y Llyfrgell. Mae clip o’r ffilm hefyd ar gael yn yr adran Archif Clipiau.

The Life Story of David Lloyd George

Pam na ddylem ni ganu?

Darganfod Sain - Postiwyd 21-05-2021

Gyda gofid bu rhaid i’r pwyllgor a drefnodd yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer 2021 wneud y penderfyniad i ohirio’r gystadleuaeth am yr ail flwyddyn oherwydd parhad y pandemig COVID-19. Teitl llawn y clip sain a amlygwyd yn y blog hwn yw “Pam na ddylem ni ganu mewn Rhyfel?”

Ar hyn o bryd rydym yn ymladd rhyfel â’r firws trwy frechlynnau, pellhau cymdeithasol a chyfnodau clo; bu llawer o glwyfedigion yn y rhyfel hwn ac mae’r Eisteddfod yn un o lawer o sefydliadau sydd wedi cael eu heffeithio’n andwyol hefyd.

Mae’r ŵyl, gyda’i hanes yn olrhain nôl i 1176, yn ddathliad o iaith a diwylliant Cymreig, a gynhelir yn ystod wythnos gyntaf mis Awst ers 1861, ar wahân i 1914, pan fu rhaid gohirio am flwyddyn oherwydd cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn 1916, atebodd yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros y Rhyfel, David Lloyd George yn angerddol i lythyr a gyhoeddwyd yn y Times, yn beirniadu’r penderfyniad i gynnal yr Eisteddfod yn ystod y rhyfel. Gwnaeth ei araith yn agoriad Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth ym mis Awst, ac er na all yr ŵyl gael ei chynnal eleni, gallwn gymryd ei eiriau i’n hatgoffa, er bod adfyd yn taro eto, fel y mae wedi gwneud lawer gwaith yn ystod hanes Cymru, bydd ei phobl yn parhau i ganu.

 

 

Er i’r araith gael ei gwneud yn 1916, recordiwyd y ffeil sain sydd gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn stiwdios y BBC ar 15 Chwefror 1934, pan oedd Lloyd George yn Llywydd Ymddiriedolaeth Cymru Llundain. Cafodd ei digido gan y prosiect Datgloi ein Treftadaeth Sain (DETS).

Erbyn y pwynt yma yn ei fywyd, roedd Lloyd George wedi ei ymyleiddio o Wleidyddiaeth Prydain, ond rhoddodd ei araith wreiddiol ychydig fisoedd cyn iddo gael ei wahodd i ffurfio llywodraeth ym mis Rhagfyr 1916, gan ddal ei swydd tan 1922, fel y Cymro cyntaf a’r unig Gymro i ddod yn Brif Weinidog Prydain Fawr.

Ganed Lloyd George ym Manceinion ond cafodd ei fagu yng nghartref teulu ei fam yn Llanystumdwy, ger Cricieth. Cadwodd gysylltiadau gydol oes â’r ardal hon, gan gael ei wneud yn Iarll Dwyfor ym 1944, y flwyddyn cyn ei farwolaeth yn 82. Fe’i claddwyd ar lannau Afon Dwyfor yn Llanystumdwy.

 

 

Roedd yn angerddol dros wleidyddiaeth a hawliau Cymru, ac yn siaradwr huawdl, sy’n amlwg trwy’r ffeil sain hon. Gan ddechrau gyda hisian a chrac y recordiad 78rpm, mae Lloyd George yn arwain gyda chwestiwn at ei feirniaid: “Pam na ddylem ni ganu yn ystod y rhyfel… pam yn arbennig na ddylen ni ganu ar y cam hwn o’r rhyfel?” Mae’n egluro fod Prydain yn fwy nag erioed, felly er bod rhyfel yn golygu dioddefaint a thristwch, dylai’r wlad fod fel yr eos, gan roi ei chân yn y tywyllwch ac felly’n fuddugoliaethus dros boen.

Roedd y cyfeiriad hwn at chwedl Hans Christian Andersen o’r ymerawdwr Tsieineaidd lle mae ei gân yn symud marwolaeth fel bod bywyd yr ymerawdwr yn cael ei arbed, yn destun opera yn 1914 gan Igor Stravinsky, “La Rossignol”. Efallai fod Lloyd George yn gyfarwydd â’r opera neu efallai ei fod wedi hoffi darllen straeon tylwyth teg i’w blant, ond yn ôl ei amcangyfrif, er nad yw’r eos yn hysbys ar ochr Cymru o’r Hafren, “… gallwn ddarparu’n well. Mae aderyn yn ein pentrefi sy’n gallu curo’r gorau ohonynt. Gelwir ef Y Cymro. ”

Fel yr eos sy’n canu yn y nos, mae’r Cymry yn canu yn y nos ac yn ystod y dydd, mewn llawenydd a thristwch, yn y gwaith ac wrth chwarae, mewn ffyniant a thrwy adfyd, mewn heulwen a storm, yn ystod adegau o heddwch – ac felly pam oni ddylent ganu yn ystod y rhyfel?

 

Gellir gweld cyfieithiad o’r ffeil sain ar ddiwedd y blog.

 

Mae Lloyd George yn parhau, gan gyfeirio at hanes cythryblus Cymru a’i gallu i gynnal hunaniaeth ddiwylliannol drwyddi draw: “Mae cannoedd o ryfeloedd wedi ysgubo dros y bryniau hyn, ond nid yw calon Cymru erioed wedi ei distewi gan un ohonynt.”

Yn yr oes sydd ohoni, ni all yr Eisteddfod gael ei dawelu’n llwyr, hyd yn oed gan firws. Mae technoleg fodern yn caniatáu i’r Eisteddfod AmGen ddigwydd ar amrywiol lwyfannau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol gydag elfen gystadleuol gref. Mae’r rhyddid hwn fel diwedd chwedl yr eos, lle mae dyfodol cryf yn cael ei drafod i sicrhau bod yr aderyn yn byw yn ei wir amgylchedd fel y gall barhau i ffynnu a chael ei glywed.

Wrth wraidd araith Lloyd George mae sicrwydd y byddwn yn ei wneud trwy’r adfyd presennol hwn a gyda’n gilydd gallwn aros mewn tiwn.

 

Gan Rasma Bertz, Gwirfoddolwraig Datgloi Ein Treftadaeth Sain

 

Trawsgrifiad: Pam na ddylem ni ganu?
[Cyfieithiad]

Y Cymro.
Mae’n canu mewn llawenydd mae’n canu hefyd mewn tristwch.
Mae’n canu mewn ffyniant mae’n canu hefyd mewn adfyd.
Mae’n canu wrth chwarae mae’n canu yn y gwaith hefyd.
Mae’n canu yn yr heulwen mae’n canu yn y storm.
Mae’n canu yn ystod y dydd y mae’n canu hefyd yn y nos.
Mae’n canu mewn heddwch; pam na ddylai ganu mewn rhyfel?

 

Adnoddau Digidol Newydd

Collections / Digido - Postiwyd 09-02-2021

Er bod adeilad y Llyfrgell wedi bod ar gau mae llawer o waith wedi parhau tu ôl i’r llen ac ers mis Mehefin mae’r eitemau a’r casgliadau a ganlyn ar gael yn ddigidol i bori o adref ar wefan y Llyfrgell a/neu y catalog:

Llawysgrifau ac Archifau

Casgliad Peniarth

Papurau Wynn o Wedir: (1515-[c. 1684])

Rhyddhawyd bron i 10,000 o ddelweddau o bapurau personol a phapurau’n ymwneud â gweinyddiaeth gyhoeddus aelodau teulu Wynn o Wedir, Sir Gaernarfon. Mae modd canfod 2,786 eitem o Grŵp Syr John Williams, 1519-1683 (NLW MSS 463-470) a Grŵp Panton, 1515-[c. 1699] (NLW MSS 9051-9069) yn y catalog.

Papurau Syr John Herbert Lewis Papers

Mae 8 o ddyddiaduron ym Mhapurau Syr John Herbert Lewis o’r cyfnod 1925-1933 bellach ar gael:

Papurau Gareth Vaughan Jones Papers

Pasbort Gareth Vaughan Jones 1930-1934 (B5/3)

Deunydd Print

Casgliad Llyfrau Cymreig Cynnar

Mae 2,470 o gyfrolau o’r casgliad ar gael ar y catalog, gan gynnwys gweithiau nodedig William Salesbury A dictionary in Englyshe and Welshe, [1547], Kynniver llith a ban [1551] a The descripcion of the sphere or frame of the worlde [ca. 1553]), rhan gyntaf gramadeg Gruffydd Robert, Milan Dosparth byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg (1567), Drych y Prif Oesoedd [1716] a Cyd-gordiad egwyddorawl o’r Scrythurau [1730].

Cofiannau (1809-1889)

Mae tua 900 o gofiannau ar gael drwy’r catalog erbyn hyn. Mae’r detholiad yn cynnwys teitlau megis:

Bydd y gwaith o ryddhau cofiannau yn parhau dros y misoedd nesaf.

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Rhyddhawyd detholiad o deunydd print yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf:

Mapiau a Deunydd Graffigol

Casgliad Mapiau

Map llawysgrif hynod Idris Mathias o ran isaf Dyffryn Teifi.

Casgliad Portread

Rhyddhawyd 970 o eitemau ychwanegol o gasgliad Portread, gan gynnwys delweddau o gymeriadau amrywiol megis: Cranogwen; “Old Ellen Lloyd”; Edward Ellis y Gof, Blaenau Ffestiniog dyfeisydd y car gwyllt; Elizabeth Lloyd, ‘Beti Bwt’; a ffoto o John Ballinger, S. K. Greenslade, Evan Davies Jones a Syr John Williams gyda Llysgennad UDA y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Tachwedd 1912.

Y Bywgraffiadur Cymreig

Cyhoeddwyd 16 erthygl newydd ar y wefan:

Morfudd Nia Jones (Swyddog Cynnwys Digidol)

Cytundeb Versailles: yng ngeiriau’r rhai oedd yno

Collections - Postiwyd 28-06-2019

Digwyddodd arwyddo cyntaf Cytundeb Versailles 100 mlynedd yn ôl i heddiw, yn yr ‘Hall of Mirrors’ yn Versailles, ger Paris. Er fod ymladd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi dod i ben gydag arwyddo’r cadoediad ar 11 Tachwedd 1918, fe gymerodd 6 mis o drafodaethau yng Nghynhadledd Heddwch Paris i gytuno ar Gytundeb Versailles. Roedd y cytundeb yn amlinellu telerau’r heddwch rhwng yr Almaen a’r Pwerau Cynghreiriol.

Yn y fideo hwn, dysgwch fwy am y Gynhadledd Heddwch a’r trafodaethau a ffurfiodd Gytundeb Versailles, gyda’n harbenigwr, Rob Phillips, fydd yn eich tywys trwy’r dogfennau gwreiddiol sy’n taflu goleuni ar denysiynnau’r trafodaethau.

Roedd Prif Weinidog Prydain, David Lloyd George yn un o’r ‘Big Three’ a lywiodd Cytundeb Versailles, a gallwch ddysgu mwy amdano yn ein harddangosfa ddigidol, David Lloyd George.

Gallwch hefyd ddarllen llythyrau ei ysgrifennydd personol ar y pryd, Frances Stevenson, a ddanfonwyd o Baris at ei theulu. Maent yn cynnig cipolwg ar ddigwyddiadau’r Gynhadledd, ond hefyd i feddyliau David Lloyd George ei hun. Mae’n ysgrifennu fod y Prif Weinidog yn meddwl fod y Cytundeb yn ddogfen ofnadwy, ‘terrible document’, roedd ef wrth gwrs yn teimlo’n gryf na ddylid cosbi’r Almaen yn eithafol.

Arddangosfeydd y Dyfodol

Dim Categori - Postiwyd 12-09-2013

Pan glywch glep y blwch postio ar eich drws ffrynt a thaflen frown o Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn cyrraedd ar y mat o fewn yr wythnosau nesaf, yn hytrach na’i chyfyngu i’r bin ailgylchu annogaf i chwi gymryd ychydig o  amser i ddarllen am yr arddangosfeydd cyffrous ac amrywiol a gynhelir yn un o brif leoliadau arddangos yng Nghymru.

28 Medi 2013 – 10 Mai 2014  Lloyd George  Lloyd George
David Lloyd George oedd Prif Weinidog Prydain pan oedd y Rhyfel Mawr yn ei anterth.
Yn yr arddangosfa hon cewch weld cymysgedd ddifyr o newyddion o’r byd gwleidyddol wedi’u plethu’n gelfydd â chlecs presonnol a theuluol.

12 Hydref 2013 – 15 Mawrth 2014
Eiconau Cymraeg Ynghyd
Am y tro cyntaf erioed byddwn yn dod â llawysgrifau llenyddol pwysicaf Cymru ynghyd sef:
Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, Llyfr Aneurin a Llyfr Coch Hergest o Goleg yr Iesu, Rhydychen.

19 Hydref 2013 – 10 Mai 2014  Tirlun Cymru  Castell Dolbadarn
Arddangosfa graddfa fawr o baentiadau a darluniau gwych o gasgliadau’r Llyfrgell, yn dangos ymateb gwahanol arlunwyr i dirwedd Cymru drwy’r oesoedd.

Mae holl arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru am ddim ac mae croeso cynnes i deuluoedd.
I ychwanegu at eich ymweliad beth am ymweld â’n siop a chaffi a mwynhau golygfeydd arbennig Bae Ceredigion.
Bydd y croeso yn wastad yn un gynnes.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog