Search Results

Rhodri Morgan yn America

Casgliadau - Postiwyd 09-08-2021

Rhwng 1961 ac 1963, roedd Rhodri Morgan, a ddaeth yn ddiweddarach yn arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru, yn astudio ym Mhrifysgol Harvard yn Cambridge, Massachusetts. Cafodd ysgoloriaeth o’r Thomas and Elizabeth Williams (Loughor School Board) Fund er bod ei deulu yn byw yn Abertawe gan fod diffyg ceisiadau o Gasllwchwr, ac er bod y gyllideb ddim yn fawr iawn, roedd yn ddigonol iddf fyw a theithio rhywfaint. Yn ystod ei gyfnod yno, ysgrifennodd cyfres o lythyron at ei deulu yn Abertawe.

Daeth galwad ffôn gan aelod o Bwyllgor Ymgynghorol yr Archif Wleidyddol Gymreig yn hwyr y llynedd yn dweud bod brawd Rhodri, Yr Athro Prys Morgan, yn awyddus i gasgliad o 88 llythyr o’r cyfnod ddod i’r Llyfrgell Genedlaethol. Yn fuan wedyn roedd casgliad o lythyron, ffotograffau a nodyn esboniadol wedi cyrraedd fy nesg.

Mae derbyn pecynnau o’r fath yn un o’r rhesymau ‘mod i’n mwynhau fy ngwaith sut gymaint. Roedd cael cyfle i ddarllen am anturiaiethau Rhodri Morgan, ei waith a bywyd prifysgol, cyfarfodydd, a theithiau amrywiol yn dipyn o fraint. Mae modd dilyn ei deithiau ar draws y wlad i Georgia, Iowa, California, New Orleans a Puerto Rico yn y llythyron; y rhan fwyaf wedi ysgrifennu yn daclus yn y Gymraeg ar bapur tenau yr Aerogramme, a gweld ambell ffotograff. Mae un llythyr wedi’i ysgrifennu o Blaza y Cenhedlaedd Unedig yn Efrog Newydd ac un arall yn cynnwys drafft o draethawd er mwyn i Prys rhoi sylwadau arno!

Ysgriefnnodd y llythyr cyntaf o Efrog Newydd, gyda disgrifiad o’r daith ar long o Rotterdam, cyrraedd diwrnod a hanner yn hwyr a cholli gweld y Statue of Liberty! Mewn llythyr arall mae’n son am y dathlu mawr ar Ŵyl Sant Padrig i gymharu gyda Dydd Gŵyl Dewi ac un arall o Berkley lle mae’n son am gwrdd a phobl o grwpiau gwleiddol fel y Christian Anti-Communist Crusade a’r Socialist Party Social Democratic Federation.

Mae’r llythyron yn gyfle i weld y byd trwy lygaid Rhodri Morgan, gweld ei ddiddordebau gwleidyddol yn datblygu a chael syniad o’r profiadau a’r cysylltiadau oedd wedi dylanwadu arno. Rydym yn dra ddiolchgar i’r Athro Prys Morgan am eu rhannu.

Rob Phillips
Yr Archif Wleidyddol Gymreig

Tagiau: ,

Etholiadau, yr Eisteddfod a Chymry America

Digido - Postiwyd 02-04-2012

Hysbyseb cyfrwng Cymraeg sy’n apelio am gefnogaeth gan y Cymry. (WOP00820)

A hithau’n flwyddyn etholiadau arlywyddol yn America eleni, diddorol yw sylwi ar yr ymgyrchu gwleidyddol a fu yn hanes America wrth weithio ar eitemau sydd wedi’u digido fel rhan o Broject Cymru-Ohio sydd ar fin dod i ben gyda’r Llyfrgell Genedlaethol.

Digwydd mynd trwy raglen Eisteddfod Flynyddol Cymdeithas Eisteddfod Ddeheuol Ohio a gynhaliwyd yn Jackson ar 26 Medi 1924 oeddwn i, er mwyn ei dehongli ar gyfer ei chyflwyno maes o law ar wefan y project, pan sylwais ar nifer sylweddol o hysbysebion ymgyrchu etholiadol a ychwanegwyd hwnt ac yma trwy’r rhaglen.  Roedd hi fel petai’r rhaglen wedi cael ei noddi gan yr ymgeiswyr hyn oherwydd ei maint anarferol, a hyn ryw bum wythnos cyn yr etholiadau.

Mae’r hysbyseb hon yn cydnabod cefnogaeth eisteddfodwyr brwd yr ardal. (WOP00838)

Roedd y ffaith bod Americanwyr yn ethol bron i bob swydd gyhoeddus oedd yn bodoli yn dipyn o syndod i mi, gyda hysbysebion gan ymgeiswyr ar gyfer bod yn Farnwr Profi, Clerc y Llysoedd, Siryf, Comisiynydd Sirol, Cofiadur Sirol a’r Ddeddfwrfa Daleithiol ynghyd ag ymgeiswyr i fod yn Seneddwr Daleithiol, Cynrychiolydd a Llywodraethwr fel yr oedd i ddisgwyl.  Yn fwy na hyn, roedd mwyafrif o’r ymgeiswyr oedd yn ceisio dwyn perswâd ar yr eisteddfodwyr yn ymgeiswyr Gweriniaethol.

Mae’n deg dweud bod cymaint o hysbysebion yma yn ymddangos mewn rhaglen a oedd yn ddigwyddiad diwylliannol Cymreig yn amlygu’r ffaith mae’n si?r, bod y rhai oedd yn dilyn y ‘pethe’ hefyd yn cymryd diddordeb yng ngwleidyddiaeth a deddfwriaeth eu gwlad.

D. Rhys Davies

 

Cymru a’r fasnach gaethweision

Casgliadau - Postiwyd 23-08-2021

Ffynnodd y fasnach gaethweision drawsiwerydd rhwng y 17eg ganrif a’r 19eg ganrif, gan effeithio ar Gymru mewn ffyrdd nas gwerthfawrogir yn llawn o hyd. Gadawodd ei hôl nid yn unig ar y masnachwyr, y morwyr, perchnogion y planhigfeydd a’r gweithwyr ystad yr oedd ganddynt ran uniongyrchol ynddi, ond hefyd ar weddill diwydiant, masnach, cymdeithas a bywyd beunyddiol Cymru. Roedd Cymru’n enwog am ei haearn, ei gwlân a’i chopor, ac yn aml defnyddid y rhain i gyd i wneud nwyddau gâi eu cyfnewid am gaethweision neu eu defnyddio ar y llongau caethweision a’r planhigfeydd. Caethweision, hefyd, oedd cynhyrchwyr y cotwm a’r tybaco a ddefnyddid yn eang ar bob lefel o’r gymdeithas yng Nghymru.

Ceir tystiolaeth am y fasnach gaethweision a’i heffeithiau mewn ambell i gasgliad yn y Llyfrgell, yn arbennig yn archifau’r ystadau tir a fu’n berchen ar blanhigfeydd gyda chaethweision. Weithiau bydd y cyfeiriadau’n glir, ond yn aml mae angen i ni grafu’r wyneb er mwyn gweld y darlun llawn. Mae gwaith haneswyr fel yr Athro Chris Evans (Slave Wales: the Welsh and Atlantic slavery 1660-1850; Gwasg Prifysgol Cymru, 2010) wedi helpu i ddatgelu’r stori, ond mae llawer eto i’w ddarganfod yn yr archifau. Gyda Diwrnod Rhyngwladol UNESCO ar Awst 23 er Coffáu’r Fasnach Gaethweision a’i Diddymu, cymerwn gipolwg ar rywfaint o’r deunydd yng nghasgliadau’r Llyfrgell sy’n ymwneud â’r fasnach gaethweision.

O fewn yr ymerodraeth Brydeinig, fe weithredid y fasnach gaethweision ar draws y byd o India’r Dwyrain hyd America, a chwaraeodd nifer fawr o Gymry ran ynddi. Mae UNESCO yn pwysleisio’r fasnach drawsiwerydd oherwydd ei heffaith pellgyrhaeddol ar gysylltiadau hiliol heddiw, felly mae’r blog yma yn ffocysu ar India’r Gorllewin. Mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth am y fasnach gaethweision yn rhannau eraill o’r byd.

O’r cychwyn, fe roddwyd llawer o’r cyfeiriadau cyfoes at y fasnach gaethweision mewn côd gan y rhai oedd â rhan ynddi. Ym 1692, er enghraifft, dim ond cyfeirio at ei ‘fuddiannau’ yn Affrica ac India’r Gorllewin wnaeth cwmni a fasnachai yno (Tredegar Estate Records MSS and Docs 122); dyma’r cyfnod pan oedd Cwmni Brenhinol Affrica (The Royal African Company) yn ei anterth a chyda monopoli dros fasnach Lloegr a Chymru mewn caethweision Affricanaidd – cafodd cerflun o’i Raglyw, Edward Colston, ei daflu i mewn i’r harbwr ym Mryste yn 2020, mewn gweithred a dderbyniodd gryn gyhoedusrwydd. Ar yr wyneb, a thrwy’r cyfnod, rhoddai gweithredoedd tir a thrafodion busnes yr argraff nad oedd unrhyw wahaniaeth rhwng y planhigfeydd yn llefydd fel Montserrat, St Kitts a Dominica â maenorau yn Sir Gaerloyw neu Sir Fynwy (Gogerddan Estate Records MC2/1; Penty Park Estate Records 28; Nassau Senior Papers E714), ac yn aml mewn gohebiaeth o’r planhigfeydd siwgwr yn Nevis a St Kitts ni soniwyd llawer os o gwbl am bresenoldeb caethweision yno (Bodrhyddan Estate Papers 58/1-143).

Yn yr un modd, ceir llythyrau gan swyddogion y Llynges at Charles Hayes, Rhaglyw Cwmni Brenhinol Affrica, yn crybwyll bod Ffrancwyr yn cwyno am Brydeinwyr yn ymyrryd â’u masnach yn Senegal yng nghanol y 18fed ganrif heb fod yn gwbl eglur am natur y fasnach honno (Gogerddan Estate Papers GCB1/1). Mae siartiau dyfrddarluniadol o India’r Gorllewin, fel yr un a luniwyd gan Joseph Smith Speer ym 1774, yn ymddangos yn ddigon diniwed hefyd, ond maen nhw’n cuddio byd tywyll caethwasiaeth y cawsant eu creu ynddo (Aston Hall Estate Records 3503). Ar yr un pryd, ymfalchïai gwladychiaethwyr fel teulu Ottley yn eu safle fel cynrychiolwyr y Gyfundrefn yn Antigua, St Vincent, Grenada a mannau eraill yn nhrefedigaethau Prydain yn India’r Gorllewin (Ottley Family (Additional) Papers 1).

Mae caethwasiaeth ymhell o fod yn anweladwy yn yr archifau, serch hynny. Mewn llythyr at Charles Hayes ym 1747 mae William Slawman yn ei wahodd yn agored i gymryd rhan yn y busnes o gludo caethweision o Gambia i Buenos Aires (Gogerddan Estate Papers GCB1/1), a fe gafodd arwerthiannau o gaethweision eu cofnodi (Nassau Senior Papers E732). Fel arfer, rhestrwyd caethweision fel eiddo mewn llechresi a chytundebau, ochr yn ochr â da byw a gwaddodion mwynau (Peniarth Estate Records DK2), a chaethweision oedd cyfran helaeth o ystad Richard Swarton yn Jamaica yn y 1760au (Slebech Estate Records 3328-33). Ym 1785, fe gymerodd William Knox o Slebech ran yn arwerthiant 100 o gaethweision am bris o £54 10s. (NLW Deeds 1948); roedd y caethweision yma eisoes wedi cael eu cludo o Georgia i Jamaica, ac yn awr roedden nhw ar eu ffordd i Dde Carolina. Cedwid dyddiaduron gan yr asiantau a weithredai’r busnes hwn (Nassau Senior Papers E814), ac weithiau bydden nhw’n cofnodi gwybodaeth am iechyd y caethweision, er dim ond yng nghyswllt pa mor dda y gallen nhw weithio (Slebech Estate Records 8342-440). Roedden nhw’n ystyried y caethweision fel asedau ariannol yn unig, gan gwyno am chwyddiant yn y prisiau a’u hanhawster yn cael gafael ar gaethweison oedd wedi cynefino â’u hamgylchiadau (‘seasoned slaves’) (Nassau Senior Papers E51, E64, E4).

Roedd y masnachwyr a meistri’r caethion yn gwbl ymwybodol mai trais oedd sylfaen eu rheolaeth, ac fe’i gwnaed yn gwbl eglur ganddynt eu bod yn disgwyl i ‘gaethweision ar ffo’ gael eu darostwng (Nassau Senior Papers E74). Aeth planhigwyr a masnachwyr India’r Gorllewin ati i ddeisebu llywodraeth Prydain gyda’u pryderon pan waethygodd tensiynau rhwng y caethweision a’r planhigwyr ym 1791 (Slebech Estate Records 11532-41) – cafwyd gwrthryfel llwyddiannus gan gaethweision yn nhrefedigaeth Ffrengig Saint-Domingue ychydig o fisoedd yn ddiweddarach, a hynny’n arwain yn y pen draw at sefydlu gwladwriaeth rydd Haiti – ac fe dyfodd pryderon y perchnogion yn ystod rhyfeloedd Prydain gyda Ffrainc chwyldroadol (Glansevern Estate Records 1010). Pan ddaeth caethweision yn rhydd am y tro cyntaf yn India’r Gorllewin, trwy eu hymdrechion gwaedlyd eu hunain yn erbyn gwladychiaethwyr Ewropeaidd y cyflawnwyd hynny.

Roedd yna wastad wrthwynebiad wedi bod yng Nghymru i’r fasnach gaethweision, ond ni wnaeth lawer o wahaniaeth tan ddiwedd y 18fed ganrif. Erbyn hynny, roedd cyfarfodydd yn galw am ddiddymu’r fasnach yn dod yn fwy cyffredin, fel yr un ym Mrynbuga ym 1792 (Tredegar Estate Records 64/346). Roedd Edward Williams, neu Iolo Morganwg, yn adnabyddus am ei wrthwynebiad cryf i’r fasnach; yn ogystal â siarad, darllen ac ysgrifennu am y pwnc, byddai’n gwrthod gwerthu ei waith llenyddol i rai yr oedd e’n gwybod eu bod yn cefnogi’r fasnach ym Mryste (Iolo Morganwg and Taliesin ab Iolo Manuscripts and Papers NLW MS 21282E/359, NLW MS 21396E/17, NLW MS 21392F/29, NLW MS 21400C/24-24a ). Nid oedd pawb o’r un farn, fodd bynnag. Roedd llawer o’r boneddigion yng Nghymru a’u hasiantau wedi buddsoddi’n drwm yn y planhigfeydd, a’u dadl nhw oedd y byddai diddymu’r fasnach yn niweidio economi Lerpwl a phorthladdoedd eraill (Harpton Court Estate Records 2073).

Diddymwyd y fasnach gaethweision yn yr ymerodraeth Brydeinig ym 1807, ond roedd caethwasiaeth yn parhau o hyd, ac roedd hi’n dal i fod yn bosib i brynu a gwerthu caethweision mewn amgylchiadau arbennig. Ym mis Hydref 1810, er enghraifft, fe wnaeth yr Uwchfrigadydd Thomas Picton – a oedd yn ymladd ym Mhortiwgal gyda Wellington ar y pryd – gytundeb gydag aelodau teulu Delaforest i drosglwyddo planhigfeydd, adeiladau, offer, caethweision, ceffylau, mulod ac eiddo eraill yn Nhrinidad, a oedd wedi bod yn drefedigaeth Brydeinig ers 1797 (Picton Family Records 19). Roedd Picton, tirfeddianwr cefnog a ddaeth yn A.S. dros Fwrdeistrefi Penfro yn ddiweddarach, yn adnabyddus am ei greulondeb gormesol, yn arbennig tuag at gaethweision, a fe’i cafwyd yn euog o ganiatáu i ferch ifanc o’r enw Luisa Calderón (nad oedd yn gaeth) gael ei harteithio yn Nhrinidad ym 1801, ond apeliodd yn erbyn yr euogfarn ar bwynt technegol a ni chyrhaeddwyd benderfyniad terfynol. Am flynyddoedd maith cofid amdano yn bennaf oherwydd ei ran yn rhyfel Iberia a’i farwolaeth yn Waterloo, a chodwyd cofgolofn iddo yng Nghaerfyrddin. Mae ymgyrch wedi bod yn ddiweddar i’w symud ymaith.

Roedd triniaeth greulon caethweision yn Jamaica yn parhau i gael sylw ym 1815 (Nassau Senior Papers E136), a bu raid i Lynges Frenhinol yn India’r Gorllewin weithredu yn erbyn morladron a’r fasnach gaethweision – yr oedd cysylltiad agos rhyngddynt yn nhyb y llywodraeth erbyn hyn – am flynyddoedd ar ôl hynny (Penralley Papers 219). Roedd sylw’r diddymwyr yn awr yn troi tuag at gaethwasiaeth ei hun, nid yn unig yn ymerodraeth Prydain ond yn Unol Daleithiau America a mannau eraill. Ymhlith yr ymgyrchwyr yng Nghymru roedd y gweinidog Annibynnol Samuel Roberts (‘S.R.’) (NLW MS 9523A), ond yr unigolyn mwyaf blaenllaw yng nghasgliadau’r Llyfrgell yw Thomas Clarkson, a deithiai’n ddiflino dros y Gymdeithas Gwrthgaethwasiaeth (NLW MS 14984A) gan ymroi ei fywyd i’r achos a chan roi ei hun mewn perygl mawr ar adegau. Clarkson a ysgogodd y mudiad dros ddiddymu ym Mhrydain yn y 1780au trwy gasglu tystiolaethau gan forwyr; gwyddai y byddai hyn nid yn unig yn datgelu amodau byw a gweithio dychrynllyd y morwyr ar fwrdd y llongau caethweision, ond hefyd driniaeth y caethweision eu hunain. Roedd ambell i Gymro ymysg y morwyr hyn ym Mryste a Lerpwl.

Dim ond ychydig o’r eitemau mwyaf hygyrch yn ein casgliadau yw’r rhain. Mae llawer o straeon yn dal i fod ynghudd yn yr archifau ac yn aros i gael eu datgelu.

Nid gyda’r fasnach drawsiwerydd y dechreuodd ymwneud Cymru â chaethwasiaeth. Yn aml yng nghyfraith Gymreig yr Oesoedd Canol – y ceir nifer o lawysgrifau ohoni yn y Llyfrgell, yn cynnwys Peniarth MS 28 – fe gymerid caethweision yn ganiataol fel dosbarth o fewn y gymdeithas, tra soniai ffynnonellau traethiadol megis ‘Brut y Tywysogyon’ (Peniarth MS 20) a Vita Griffini filii Conani (Peniarth MS 434E) am Lychlynwyr o Iwerddon yn dwyn pobl yng Nghymru i mewn i gaethwasiaeth. Mae hyd yn oed yr hwiangerdd o’r seithfed ganrif ‘Pais Dinogad’, a ysgrifennwyd yn llais merch yn canu i’w phlentyn, yn cyfeirio at eu hwyth caethwas (‘wythgeith’) yn cydganu (NLW Llyfr Aneirin, Cardiff MS 2.81).

Nid rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol yn unig yw’r fasnach gaethweision ychwaith. Yn 2007 a 2008, fel rhan o gywaith cymunedol Everywhere In Chains, cynhaliodd Women in Jazz gyfres o weithdai yn ne Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth am gaethwasiaeth a’r fasnach gaethweision yn y byd modern yn ogystal â’r gorffennol (Jazz Heritage Wales / Archif Menywod Cymru 4/9). Gobeithiwn na fydd angen ychwanegiadau tebyg i’n casgliadau yn y dyfodol.

 

Dr David Moore (Archifydd)

 

Tagiau:

Recordiadau o emynau a cherddoriaeth gysegredig o silindrau cwyr

Darganfod Sain - Postiwyd 16-08-2021

Mae esblygiad recordio yn ddyledus iawn i Thomas Alva Edison (1847-1931) a fu’n gyfrifol am ddarganfod y ffonograff ym mis Rhagfyr 1877. Daeth y cysyniad o silindrau cwyr fel y cyfrwng gorau i atgynhyrchu sain ar ddisg i fod drwy gystadleuaeth iachus rhwng Alexander Graham Bell ac Edison a enillodd y ras drwy ryddhau ei ‘Perfected Phonograph’ yn 1888.

 

[Ffotograff gan Daderot, ar gael trwy Wikimedia Commons –https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Wax_cylinder_set,_c._1895,_Edison_-_Museum_of_Science_and_Industry_(Chicago)_-_DSC06677.JPG]

 

Er mai defnydd gwreiddiol y ffonograff oedd naill ai yn archifol neu ar gyfer gwneud adysgrif, agorodd troad yr ugeinfed ganrif farchnad ar gyfer recordiadau cerddorol gyda dyfodiad y silindrau wedi’u mowldio, ac roedd emynau ar eu hanterth yr adeg hon.

Roedd chwarae ditectif drwy edrych ar rai o’r recordiau hyn yn apelio, er bod ansawdd y sain yn wael wedi iddynt gael eu digido gan yr Archif Sain o’r silindrau cwyr gwreiddiol gyda’u holl ddiffygion.Tra fod y disgrifiad casgliad yn adnabod y math o gerddoriaeth a’r dull o recordio, does dim gwybodaeth am bryd cafodd y silindrau eu recordio, gan bwy neu ar gyfer pwy. Cafwyd gwybodaeth bellach yn y cyflwyniadau i’r recordiau sy’n taflu goleuni gyda’r tameidiau rhwng clecian y cwyr.

Mae’r casgliad yn cynnwys 4 ffeil sain; nid yw’r silindrau cwyr gwreiddiol wedi’u catalogio eto yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gall fod mwy o fanylion wedi’u hysgrifennu ar y silindrau hyn, yn enwi perfformwyr a rhoi dyddiadau ond cafwyd hwyl yn yr ymarfer hwn yn gwrando ac adnabod yr emynau cyn ymchwilio i’r beirdd a’r cyfansoddwyr fel a ganlyn:

 

Emyn 1: “I am praying for you”, cenir gan ddau berson gyda chyfeiliant cerddorfa fechan yn aneglur achos y clecian. Ni ellir adnabod y cyhoeddwr ac mae enwau’r cantorion yn aneglur ond enw’r tenor yw Anthony. Ceir cyfeiriad at Hereford, naill ai fel lle neu fel cyfenw, ond roedd yn amhosib i weithio allan yr enw neu ryw’r ail ganwr. Er bod ‘Hereford’ yn awgrymu i’r recordiad gael ei wneud yn y DU, mae’n amlwg mai Americanwr yw’r cyhoeddwr.

Dyma emyn Methodist gan Samuel O’Malley Cluff (1860) wedi’i drefnu ar dôn Ira David Sankey (1874).

Ganwyd y Parchedig Cluff yn Nulyn yn 1837. Mynychodd Goleg y Drindod a daeth yn weinidog Anglicanaidd mewn lleoliadau amrywiol yn Iwerddon. Daeth yn arweinydd y Brodyr Plymouth yn 1884, ac wedyn priododd Anne Blake Edge, ganwyd pedwar o blant iddynt ac ysgrifennodd dros 1000 o eiriau emynau Cymraeg a chaneuon, gan gyfansoddi llawer o’r alawon hefyd. Daeth Ira Sankey ar draws “I am praying for you” wrth gynnal croesgadau yn Yr Alban. Fe’i ysbrydolwyd gan eiriau am weddi, cyfansoddodd gerddoriaeth a daeth yn boblogaidd yn ystod croesgadau ar ôl hynny. Rhoddwyd cydnabyddiaeth iddo yn llyfr Sankey, Sacred Song & Solos (1878) fel ‘S. O’M. Clough’.

Er bod pedwar pennill i’r emyn llawn, dim ond y pennill cyntaf sydd yn y recordiad hwn gyda chytgan sy’n cael ei hailadrodd.

Testun:

I have a Saviour, He’s pleading in glory,
A dear, loving Saviour, though earth-friends be few;
And now He is watching in tenderness o’er me,
But O, that my Saviour were your Saviour, too!

Cytgan:

For you I am praying,
For you I am praying,
For you I am praying,
I’m praying for you.

 

 

 

Emyn 2: “Pass me not, O Gentle Saviour” – yn yr ail recordiad hwn mae’r cyhoeddwr yn rhoi ychydig mwy o wybodaeth i ni am y cantorion, yr un rhai â’r recordiad cyntaf. Mae’n debyg mai deuawd yn cynnwys gŵr a gwraig ydynt, Anthony & Ann Hereford o Hereford Records, ond does dim lleoliad daearyddol i ddarganfod fwy amdanynt. Mae hefyd yn debyg mai’r cyhoeddwr Thomas Edison ei hunan gan fod ganddo lais nodedig, a ellir gael ei gymharu gan ffynonellau eraill ar-lein; os oedd Edison yn recordio yn y Deyrnas Unedig, neu os oedd yr Herefords yn byw yn yr UDA sydd dal yn aneglur.

Ysgrifennwyd y testun i’r emyn hwn gan Fanny Crosby, a gyhoeddodd ei cherddi gan ddefnyddio nifer anghredadwy o ffugenwau, yn wrywaidd a benywaidd. Ganwyd Frances Jane Crosby yn nhalaith Efrog Newydd yn 1820 a chollodd ei golwg yn 6 wythnos oed wedi salwch. Cafodd addysg wych yn y New York Institute of the Blind. Dyma lle ddechreuodd ysgrifennu geiriau i emynau i’w hathro cerddoriaeth, Dr Geoffrey Root. Rhwng 1864 a’i marwolaeth yn 1915, ysgrifennodd Fanny dros 8000 o eiriau emynau, gan ei gwneud yr emynydd mwyaf cynhyrchiol yn yr iaith Saesneg. Cyfansoddwyd yr emyn-dôn gan William Howard Doane – cyfansoddwr cynhyrchiol, diwydiannwr Americanaidd a dyngarwr a gefnogai waith ymgyrchoedd efengylaidd, gan gynnwys rhai dan arweiniad Ira D Sankey, y cyfeiriwyd ato ynghynt.

 

 

Dyma emyn arall gyda phedwar pennill, dewisodd yr Herefords recordio pennill un a phedwar gyda chytgan sy’n cael ei hailadrodd ac egwyl offerynnol rhwng penillion. Mae yna saib swynol gydag offerynnau pres ac offerynnau taro.

Testun:

1 Pass me not, O gentle Saviour
Hear my humble cry,
While on others Thou art calling
Do not pass me by.

Cytgan:

Saviour, Saviour
Hear my humble cry;
While on others Thou art calling,
Do no pass me by.

4 Thou the Spring of all my comfort,
More than life to me,
Whom have I on earth beside Thee?
Whom in heav’n by Thee [Refrain]

 

 

 

Emyn 3: “Jesus, Lover of my Soul”, cenir gan y tenor, Mr William McGillis. Yn anffodus, mae ei leoliad daearyddol wedi ei guddio yn llwyr. Llais Americanaidd sydd gan y cyhoeddwr, ond yn wahanol iawn i Thomas Edison, felly gallai’r silindr hwn fod wedi’i recordio gan rywun arall yn gweithio yn y diwydiant, neu ar ran Edison.

Ysgrifennwyd geiriau’r emyn gan Charles Wesley yn 1740, a’i gyhoeddi mewn casgliad Hymns and Sacred Poems. Yr oedd Charles yn ddeunawfed plentyn i’r clerigwr a’r bardd Samuel Wesley, yr oedd Charles yn frawd ieuengaf i sylfaenydd y Methodistiaid John Wesley, ac roedd yn rhan ganolog o emynyddiaeth Fethodistaidd, o’r 770 emyn a gyhoeddwyd yn y Wesleyan Hymn Book, mewn ffaith ysgrifennwyd 623 ohonynt gan Charles, sy’n cynrychioli dim ond 10% o’r cynnyrch i gyd.

Caiff ei adnabod fel un o emynau gwychaf Wesley– hefyd un o’r cynharaf – credir ei bod yn adleisio dau brofiad bywyd y ‘Bard of Methodism’. Y cyntaf oedd aderyn yn cael ei erlid gan hebog a hedfannodd drwy ffenest agored i mewn i freichiau Wesley wrth iddo ystyried anawsterau ysbrydol: “let me to Thy bosom fly”; efallai fod yr ail un yn ymwneud â storm a ddrylliodd eu ffydd a brofwyd gan John a Charles wrth hwylio ar daith genhadol i Georgia i 1735. Cafodd grŵp o gyd-deithwyr o Moravia argraff ar y brodyr gan eu bod yn canu emynau drwy’r storm gynddeiriog. Mae penillion Wesley yn sôn am ddŵr, “tempest” a “storm of life”. Tra bod y Morafiaid yn meddu ar sicrwydd iachawdwriaeth drwy eu ffydd, cyfaddefodd John Wesley yn ddiweddarach eu bod “had gone to Georgia to convert the people there, finding they themselves had need to be converted.”

Teitl gwreiddiol yr emyn oedd “In Temptation” ac mae’n ble am noddfa i bawb sy’n cael eu temtio, yn annheilwng neu angen cael eu glanhau o bechod gan nad oes noddfa arall. Mae’r dôn a ddefnyddiwyd ar gyfer y recordiad hwn yn cael ei hadnabod fel Celebration 167 yn y Baptist Hymnal (2008) Gelwid ef yn wreiddiol yn Martyn 7.7.7.7.D (yn adlewyrchu mesur yr emyn) ac fe’i cyfansoddwyd gan Simeon Butler Marsh, a ddysgodd gerddoriaeth i gannoedd o oedolion a phlant yn ei yrfa dros 30 o flynyddoedd mewn eglwysi yn Efrog Newydd a’r system addysg. Mae McGillis yn canu pennill un a thri, i gyfeiliant band pres.

Testun:

1 Jesus, lover of my soul
Let me to Thy bosom fly,
While the nearer waters roll,
While the tempest still is high:
Hide me, O my Saviour, hide,
Till the storm of life is past;
Safe into the haven guide;
O receive my soul at last.

3 Thou, O Christ, art all I want;
More than all in Thee I find:
Raise the fallen, cheer the faint,
Heal the sick and lead the blind:
Just and holy is Thy name,
I am all unrighteousness;
False and full of sin I am,
Thou art full of truth and grace.

 

 

Emyn 4: “Stand up, stand up, for Jesus” – mae’r recordiad hwn wedi’i ddifrodi mor ddrwg (mae’n bosib achos defnydd blaenorol o’r silindr cwyr ar gyfer recordiadau eraill) fel ei bod bron yn amhosib adnabod yr emyn neu’r dôn. Fodd bynnag, arweiniodd un llinell glir at y testun. Wedi’i ysgrifennu gan George Duffield yn 1858, ac unwaith i’r geiriau i gyd gael eu dangos ar y sgrin, roedd yn bosib clywed digon o’r emyn i gadarnhau mai’r emyn uchod ydoedd. Yn dilyn hyn cafodd ei dôn ei hadnabod fel “Morning Light” a ysgrifennwyd gan George J Webb ar fordaith o Loegr i Unol Daleithiau America yn 1837

 

 

Ganwyd y Parchedig Dr George Duffield (mab i weinidog Presbyteraidd) yn Pennsylvania yn 1818 a dilynodd yn ôl traed ei Dad. Pan ysgrifennodd Duffield “Stand Up”, roedd yn weinidog yn Philadelphia, ond roedd wedi bod yn weinidog mewn plwyf yn New Jersey lle roedd Webb yn byw, efallai fod y ddau wedi cwrdd. Yn ôl cofnod yn Lyra sacra Americana (Cleveland, 1868, p. 298):

“I caught its inspiration from the dying words of that noble young clergyman, Rev. Dudley Atkins Tyng, rector of the Epiphany Church, Philadelphia, who died about 1854. His last words were, ‘Tell them to stand up for Jesus: now let us sing a hymn.’ As he had been much persecuted in those pro-slavery days for his persistent course in pleading the cause of the oppressed, it was thought that these words had a peculiar significance in his mind; as if he had said, ‘Stand up for Jesus in the person of the downtrodden slave.’ (Luke v. 18.)”

Cafodd ei gyhoeddi am y tro cyntaf fel taflen fechan i blant wedi i Duffield roi’r llawysgrif i’w Arolygydd Ysgol Sul, lle cafodd ei adnabod fel ‘Soldiers of the Cross’.

Yn ôl yr amseru a’r mesur, mae’r recordiad yn cynnwys y ddau bennill cyntaf, ond mae gallu adnabod y canwr a’r cyhoeddwr yn amhosib. Mae llais uchel gan y canwr, ac er ei bod yn amhosib dweud ai soprano benywaidd neu wrywaidd sydd yma, Iris neu Idris Edwards. Mae’r cyhoeddwr, yr un modd, yn swnio’n fwy Prydeinig nag Americanaidd, felly mae’n bosib mai hwn oedd y silindr cwyr cyntaf i’w recordio yn y DU – wedi’r cyfan sefydlwyd y Phonograph & Gramophone Society cyntaf yng Ngorllewin Llundain yn 1911, gyda llawer yn ffurfio dros y ddegawd nesaf gyda Thomas Edison yn noddwr iddynt.

Testun:

Stand up, stand up for Jesus
ye soldiers of the cross;
lift high his royal banner,
it must not suffer loss:
from vict’ry unto vict’ry
his army he shall lead,
’til ev’ry foe is vanquished,
and Christ is Lord indeed.

Stand up, stand up for Jesus,
the trumpet call obey;
forth to the mighty conflict
in this his glorious day:
ye that are men now serve him
against unnumbered foes;
let courage rise with danger,
and strength to strength oppose.

 

 

I’r rhai hynny sydd am wybod mwy am y ffonograff, mae llawer o ffynonellau ar gael yng nghatalog y llyfrgell, gan gynnwys hanesion am silindrau a hanesion personol Edison a Bell, a gyhoedwyd gan y City of London Phonograph and Gramaphone Society; ffonograff Ma Rainey – yn rhan o erthygl yn edrych ar etifeddiaeth ddu oddi fewn i’r traddodiad gweledol-sonig; llawlyfrau technegol i’r rhai hynny sy’n berchen neu’n adfer offer ffonograffig; a ffonograffau a chof poblogaidd, a golwg ar gasglu hanes llafar yn America.

Cytunir mai cyhoeddwr y ddau silindr cyntaf yn y casgliad yw Thomas Edison, ac i gyd-fynd gyda silindrau eraill y gellir gwrando arnynt ar-lein o natur grefyddol debyg, felly mae’n ddigon saff i i dybio fod y pedwar recordiad hyn yn dyddio o tua 1908. Erbyn 1912, yn fuan wedi i’r DU ddal i fyny gyda’r ffenomen silindr cwyr, roedd Edison yn gwerthu ei ffonograff disg masnachol, a pharhaodd technoleg radio ar ei llwybr esblygiadol i’r byd digidol rydym yn byw ynddo heddiw.

 

Rasma Bertz, Gwirfoddolwraig Datgloi Ein Treftadaeth Sain

 

Adnoddau Digidol Newydd i’r Haf

Collections / Digido - Postiwyd 29-07-2021

Ers dechrau’r flwyddyn mae’r gwaith o ddigido ein casgliadau wedi parhau ac mae’r eitemau a’r casgliadau canlynol bellach ar gael yn ddigidol i’w pori o gartref ar wefan y Llyfrgell a/neu y catalog:

Archifau a Llawysgrifau

Casgliadau Peniarth a Llanstephan

Papurau Sir John Herbert Lewis

 

Mae 33 o ddyddiaduron o bapurau Sir John Herbert Lewis Papers ar gyfer y cyfnod 1888-1924 ar gael:

Seliau a Siarteri Ystrad Marchell

Mae detholiad o ddogfennau a seliau canoloesol o Bapurau Pitchford Hall a Chofnodion Ystadau Penrice a Margam, Castell y Waun, Bronwydd a Wigfair, bellach ar gael, er enghraifft:

Mae mynediad hefyd i 33 o Siarteri Ystrad Marchell a cheir mynediad iddynt drwy’r catalog.

Deunydd Print

Casgliad Arthuraidd

 

Yn 2019, dewiswyd detholiad o gyfrolau print yn ymwneud â’r Brenin Arthur ar gyfer eu digido. Mae’r 13 cyfrol a ganlyn ar gael eisoes ac fe fydd y gwaith o ddigido’r gweddill yn parhau dros y misoedd nesaf:

Cofiannau (1809-1889)

 

Dros y misoedd diwethaf parhawyd i ryddhau cofiannau trwy Primo. Mae 913 o gyfrolau ychwanegol ar gael ar y catalog bellach, yn eu plith ceir:

Gweithiau printiedig eraill

 

Digidwyd 203 o weithiau eraill hefyd, gan gynnwys:

Mapiau a Deunydd Graffigol

Ffotograffau D C Harries

 

Mae 102 o ffotograffau a dynnwyd tua 1890-1936 gan D C Harries o olygfeydd, adeiladau a phobl ardal Llanymddyfri, Llandeilo a Chaerfyrddin wedi’u hychwanegu. Mae’r detholiad yn cynnwys ffotograffau megis: Staff standing outside Lipton’s shop, Caerfyrddin, Staff standing outside Star Supply Stores, Llandeilo a Men in cars outside Crown garage – T. Roberts & Sons, Llanymddyfri.

Archif Posteri Hanesyddol

 

Mae dros 2,630 o bosteri o Archif Posteri Hanesyddol y Llyfrgell ar gael i ddefnyddwyr drwy’r syllwr. Mae’r casgliad difyr hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o bosteri, gan gynnwys posteri ymfudo o Aberystwyth a Lerpwl i America, baledi a chaneuon, posteri’n cyhoeddi marchnadoedd ac arwerthiannau, cyngherddau ac eisteddfodau bach a mawr ac ambell “noswaith ddifyr heb ganlyniadau gofidus”. Mae’r casgliad hefyd yn yn cynnwys nifer fawr o bosteri’n cyhoeddi newyddion am droseddau a hanesion llofruddion, er enghraifft: Dwyn caseg John Philip, Pentre-Mawr (1818); ‘Cyffes Wirfoddol John Griffiths .. am fwrddrad Mary Griffiths, ei wraig’ (1811) a ‘Murder’ (1796).

Y Bywgraffiadur Cymreig

 

Cyhoeddwyd 20 erthygl newydd ar y wefan:

Cofiwch hefyd ddilyn cyfrif Trydar Y Bywgraffiadur: @Bywgraffiadur

Mis Rhannwch Stori

Collections - Postiwyd 26-05-2021

Mae hi’n Fis Rhannwch Stori ac mae traddodiad hir o rannu straeon yng Nghymru yn cael ei adlewyrchu nid yn unig yn ein casgliad llawysgrifau ond hefyd ein casgliad llyfrau print. O gyfrolau am chwedlau ac anturiaethau rhyfeddol megis straeon Twm Siôn Cati i hanesion mordaith Madog i America, i anturiaethau Wil Cwac a’i ffrindiau yn Llyfr Mawr y Plant a dirgelion byd o swyn yng nghyfres Harry Potter, dyma gyfle i rannu rhai o’n hoff straeon o’r casgliad llyfrau print.

Arwr y llyfr The adventures and vagaries of Twm Shôn Catti (1828) yw’r cymeriad chwedlonol sy’n cyfateb weithiau i Robin Hood neu Rob Roy. Honnwyd bod ei orchestion wedi’u seilio ar ddigwyddiadau ym mywyd cynnar Thomas Jones o Dregaron, tirfeddiannwr, hynafiaethydd, achydd a bardd. Dyma’r llyfr cyntaf i glodfori’r arwr hwn. Gellir casglu fod y llyfr wedi’i fwriadu ar gyfer y Cymry, gan fod yr awdur yn agored feirniadol o’r teithwyr Seisnig.

Mae Cymru fu : yn cynnwys hanesion, traddodiadau, yn nghyda chwedlau a dammegion Cymreig (1862) yn un o’r gweithiau pwysig cyntaf a gyhoeddwyd gan Isaac Foulkes (Llyfrbryf, 1836-1904), cyhoeddwr, newyddiadurwr a llenor o Lanfwrog, Sir Ddinbych. Yn ogystal â chyhoeddi llyfrau fel y casgliad hwn o lên gwerin, ysgrifennodd Llyfrbryf gofiannau i J. Ceiriog Hughes a Daniel Owen a golygodd farddoniaeth a llythyrau Goronwy Owen a gweithiau Twm o’r Nant. Gwnaeth fwy na’r un golygydd arall yn ei gyfnod i ennyn diddordeb y Cymro cyffredin yn llenyddiaeth ei wlad.

Dywedir i Madog ab Owain Gwynedd hwylio gydag wyth llong o Abercerrig ger Abergele i chwilio am wlad newydd yn y gorllewin oherwydd iddo ddiflasu ar y gynnen rhwng ei frodyr wedi marwolaeth ei dad, ac iddo lanio ym Mobile Bay tua 1169. Yn yr 16eg ganrif, John Dee oedd y cyntaf i hawlio’r Byd Newydd i Frenhines Lloegr ar sail mordaith Madog. Cafodd disgynyddion y Cymry a ymfudodd gyda Madog eu huniaethu â’r Indiaid Mandan a oedd yn byw i’r gorllewin o afon Missouri ar ddiwedd y 18fed ganrif. Daeth y myth i sylw’r cyhoedd pan gyhoeddodd yr hanesydd John Williams Farther observations, on the discovery of America, by Prince Madog ab Owen Gwynedd (1792) . O ganlyniad i ffugiadau Iolo Morganwg daeth yn gymhelliad cryf i ymfudo i America o Gymru.

Ganwyd y nofelydd Isaac Craigfryn Hughes (1852-1928) ym Mynwent y Crynwyr, Morgannwg. Glöwr ydoedd a bu’n ddall am ran olaf ei oes. Y ferch o Gefn Ydfa (1881?) yw’r fwyaf poblogaidd o’i chwe nofel, sydd yn adrodd hanes Ann Maddocks (1704-1727), merch i William Thomas o Gefn Ydfa, tŷ ger Llangynwyd, Morgannwg a gwraig i Anthony Maddocks. Bu farw ei thad pan oedd hi’n blentyn, ac yn ôl y chwedl ramantus di-sail priododd Maddocks, cyfreithiwr cefnog a mab i’w gwarcheidwad, o’i hanfodd, er iddi garu â bardd ifanc o’r enw Wil Hopcyn a gyfansoddodd penillion “Bugeilio’r Gwenith Gwyn” iddi hi. Dywedir iddi farw o dorcalon yn fuan ar ôl priodi â Maddocks. Iolo Morganwg oedd y cyntaf i honni mai Wil Hopcyn oedd awdur y gân, ond ychwanegodd Hughes manylion gordeimladol at y stori yn y nofel hon.

Mae Histori Sawney Beane (ca. 1800) yn chwedl hynod sy’n adrodd hanes Alexander “Sawney” Beane, pennaeth llwyth gyda 45 aelod yn yr Alban yn yr 16eg ganrif. Cyhuddwyd ei wraig, Agnes Douglas, o fod yn wrach. Roedd y llwyth hwn yn gyfrifol am lofruddio a chanibaleiddio dros 1,000 o bobl tra’n byw mewn ogof rhwng Girvan a Ballantrae am 25 mlynedd, nes iddynt gael eu darganfod a’u dienyddio ar orchymyn y Brenin Iago VI. Mae’r llyfr hwn am hanes Sawney Beane yn gyfieithiad o’r Saesneg.

Detholiad bychan sydd fan hyn wrth gwrs – mae silffoedd y Llyfrgell yn gwegian dan bwysau cyfrolau sy’n llawn straeon hud, lledrith a direidi. Hawdd fyddai ymgolli am oriau rhwng cloriau’r rhain – beth am chwilio’n catalog i weld pa stori wnewch chi ddarganfod?

Y Cymry yng Nghanada

Darganfod Sain - Postiwyd 17-11-2020

Yn ystod y 70au cynnar comisiynodd Llywodraeth Canada bobl i gasglu gwybodaeth am amrywiol genhedloedd a oedd yn byw yn y wlad. Am dri mis yn ystod 1974, bu Glenys James yn ymchwilio i hanes y Cymry a ymfudodd i Ganada o Batagonia. Yn ystod yr amser hwn, teithiodd dros 8,000 o filltiroedd yn siarad a recordio cyfweliadau âg amrywiol deuluoedd o ddisgynyddion Cymreig.

 

Mae’r recordiadau o werth hanesyddol ac yn rhoi persbectif i ni o fywyd ym Mhatagonia a Chanada ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Trwy wrando ar leisiau’r bobl eu hunain gallwn glywed yr hyn a welsant, a sut roeddent yn teimlo.
Yn ystod yr amser hwn bu llawer o symud o fewn Canada ymysg nifer o wahanol genhedloedd, gan gynnwys pobl o Batagonia â gwreiddiau yng Nghymru.
Yn 1902, gadawodd dros 200 o Gymry Batagonia am eu bywyd newydd yng Nghanada gyda dros 5,000 yn mudo ar ôl Adfywiad 1904-5. Symudodd llawer ohonynt oherwydd yr amodau byw anodd y daethant ar eu traws, yn bennaf llifogydd cyson, a dim tir ar gael i’w ffermio.
Ffurfiwyd cymunedau newydd gyda llawer o’r Cymry yn ymgartrefu yn ardal Saskatchewan, gan fod hon yn ardal ddynodedig a ddewiswyd gan Lywodraeth Prydain o dan David Lloyd George. Cafodd y pentrefi a’r trefi newydd enwau lleoedd Cymreig, megis Bangor, Llewelyn a Glyndwr. Codwyd siopau, adeiladau, ysgolion a chapeli a chadwyd rhai o’r traddodiadau Cymreig, megis yr Eisteddfod.

Mae Mr Griffith Jones yn cofio’r Englyn a ysgrifennodd ei dad yn yr Eisteddfod:

 

Gellir gweld trawsgrifiad o’r ffeil sain ar ddiwedd y blog.

Casglwyd y casgliad hanes llafar gan Amgueddfa Hanes Canada, Ottawa lle cedwir y tapiau gwreiddiol. Anfonwyd copïau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru lle cawsant eu storio mewn amgylchedd rheoledig er mwyn amddiffyn y tapiau i’w defnyddio yn y dyfodol.

 

Mae’r prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a’i arwain gan y Llyfrgell Brydeinig bellach wedi digido a chreu metadata ar gyfer y cyfweliadau hyn. Bellach gellir clywed y casgliad am y tro cyntaf ers y 70au.

Dyma Jonathan Wise o Amgueddfa Hanes Canada yn trafod Casgliad Glenys James:

 

Gellir gweld trawsgrifiad o’r ffeil sain ar ddiwedd y blog

I gael mwy o wybodaeth am gasgliad Glenys James a sut y cawsant eu digido, edrychwch ar ein fideo ‘O Ganada i Lyfrgell Genedlaethol Cymru’ ar ein tudalen YouTube: https://www.youtube.com/user/llyfrgen

 

Trawsgrifiad: Mr Griffith Jones yn siarad â Glenys James

[Cyfieithu]

Griffith Jones: Daeth Dad o Gymru, Tregeiriog gyntaf ym 1891 ac ar ôl sawl taith yn ôl death allan eto ym 1910 ac ymgartrefu yn ardal Wood River. Mae mam gyda rhieni o Gymru a daeth hi o’r Unol Daliaethau i Ganada ym 1902 ac fe briodon nhw ym 1911. Ganwyd pedwar ohonom iddyn nhw ac mae’n debyg fy mod i’n siarad cystal Cymraeg ag unrhyw un ohonyn nhw, sydd ddim yn dda iawn.

Glenys James: Nawr, roedd eich tad yn adnabyddus yn yr ardal yma am ysgrifennu englynion yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Griffith Jones: Roedd yn adnabyddus ledled Gogledd America mewn gwirionedd, oherwydd cyfrannodd at y papurau Cymreig a chystadlodd yn holl Eisteddfodau Cymru y gallai gyda’i Englynion ac enillodd lawer o wobrau gyda hwy.

Glenys James: A allwch gofio unrhyw un o’r englynion a ysgrifennodd?

Griffith Jones: Gallwn ddweud un yn Saesneg, fel y gwyddoch fod yn rhaid i’r englyn gyseinio gyda harmonïau, un yr enillodd wobr arno yn Saesneg oedd:

Lindy how well he landed
In Paris o peril confronted
Pretty Yank with great head
Away he went un daunted

Trawsgrifiad: Mr Jonathan Wise

[Cyfieithu]

Helo, fy enw i yw Jonathan Wise. Rwy’n arbenigwr casglu ar gyfer yr archifau clyweledol yn Amgueddfa Hanes Canada. Ynghyd ag arddangosfeydd a rhaglenni ymchwil o’r radd flaenaf, mae’r Amgueddfa’n gartref i archif o dros 100,000 o recordiadau hanesyddol. Mae’r casgliadau unigryw hyn yn dyddio o 1899 ac yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon, straeon a chyfweliadau wedi’u recordio gan gymunedau ym mhob talaith a thiriogaeth yng Nghanada.
Un o’r casgliadau hyn yw Casgliad Glenys James. Ym 1974, cychwynnodd Glenys James ar ei thaith o amgylch y wlad i ymchwilio i fywydau mewnfudwyr o Gymru a oedd wedi dod i Ganada yn ystod y ganrif ddiwethaf. Bu’n cyfweld â phobl yn eu cartrefi, yn siarad am eu bywydau a’u profiadau unigryw eu hunain. Holodd am hanesion teulu ac atgofion plentyndod. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn y modd yr oedd iaith a diwylliant Cymraeg yn cael eu cadw.

O Montreal, Quebec i Edington, Alberta a phwyntiau rhwng y ddau, cipiodd Glenys James y foment ym mywydau cymunedau Cymreig Canada.
Mae staff llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd ledled y byd yn gweithio’n galed i amddiffyn casgliadau hanes llafar fel rhai Glenys James. Mae llawer o’r recordiadau hyn ar gyfryngau bregus a darfodedig y mae’n rhaid eu digido er mwyn y dyfodol.

Yn y pen draw, gwneir yr holl waith yma er mwyn gwarchod y gorffennol, gwasanaethu’r cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae Amgueddfa Hanes Canada yn falch o gael y cyfle i rannu gwaith Glenys James a hoffwn ddiolch i bawb yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am eu cefnogaeth i helpu diogelu’r casgliad pwysig yma.

 

Gwaith Da yn Cadw’r Hyn sydd Dda: Cadw Deddfau Hywel Dda yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Casgliadau / Collections / Digido - Postiwyd 05-11-2020

Diwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd

Bob blwyddyn, mae’r Glymblaid Cadwedigaeth Ddigidol yn cynnal Diwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd gyda’r nod o dynnu sylw at y materion strategol, diwylliannol a thechnolegol cymhleth sy’n gysylltiedig â sicrhau mynediad parhaus at gynnwys digidol. Mae eleni wedi dwyn sylw yn benodol
at y ddibyniaeth fyd-eang ar wybodaeth ddigidol, seilwaith a chysylltedd ac mae’r thema eleni: Digidau: er Daioni, yn adlewyrchu effaith gadarnhaol cadw a darparu mynediad at gynnwys digidol dibynadwy. Mae’r thema hon yn cyd-fynd yn berffaith ag ymagweddau arloesol y Llyfrgell mewn cadwraeth draddodiadol, digido a chadwraeth ddigidol sy’n integreiddio i sicrhau bod Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn hygyrch nawr ac yn y dyfodol.

Llawysgrif Boston

Prynwyd Llawysgrif Boston yn 2012 gan y Llyfrgell gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru. Mae’r llawysgrif, a ysgrifennwyd yn Gymraeg, yn dyddio o tua 1350 ac mae’n cofnodi deddfau brodorol Cymru, y credwyd iddynt gael eu codeiddio gan Hywel Dda. Mae’n destun allweddol yn hanes cyfraith Cymru ac mae’n rhoi cyfle inni dreiddio i fywyd diwylliannol a hunaniaeth Cymru. Fe’i defnyddiwyd fel testun gwaith, gan gael ei anodi gan Farnwr yn Ne Cymru, a’i gariodd o gwmpas yn ei boced. Erbyn y 19eg ganrif, roedd y llawysgrif wedi cyrraedd America ac roedd yng ngofal Cymdeithas Hanesyddol Massachusetts yn Boston, ar ôl cael ei chludo yno gan ymfudwr mae’n debyg.

Datgelodd asesiad cadwraeth fod y llawysgrif yn fregus iawn, gyda llawer o rwygiadau a holltiadau, gan olygu na ellid ei thrafod heb y risg o ddifrod pellach. Penderfynwyd dad-rwymo’r gyfrol a digideiddio’r cynnwys, a fyddai’n galluogi ail-rwymo’r gwreiddiol, creu copïau ffacsimili a mynediad digidol.

Llif gwaith o un pen i’r llall

Mae llif gwaith cymhleth wedi’i ddatblygu i reoli’r broses ddigido, o ddethol i ddarparu mynediad a storio. Sicrhaodd ymarfer meincnodi fod y llawysgrif yn cael ei digido yn unol â’r safonau a’r fethodoleg a sefydlwyd ar gyfer digido deunyddiau llawysgrif. Nodwyd y protocolau ar gyfer sganio, gan gynnwys y wybodaeth hanfodol er mwyn cipio delwedd, sef , priodoli enw ffeil, proses trosi, a phenodi fformatau ffeiliau ar gyfer ffeiliau meistr a deilliadol.

Digido’r llawysgrif

Hwyluswyd y broses sganio trwy’r dadrwymo, gan alluogi cipio pob ffolio yn gyfan, heb yr angen i ddad-ystofi (de-warp). Cynorthwyodd hyn gyda’r broses o ymestyn ymylon allanol y memrwn yn ddigidol. Gellid sganio pob ffolio gwastad trwy ddefnyddio system sganio llinell, yn hytrach na’r dull arferol o ddefnyddio camera a chrud un siot . Trwy ddefnyddio’r dull hwn, gellid cipio’r delweddau ar eglurdeb uwch nag y byddai arferion gwaith normal yn ei ganiatáu ac roedd mwy o gysondeb o ran goleuo, a chywirdeb lliw gwell.

Cynhyrchodd y broses sganio ffeiliau meistr TIFF, gyda’r deilliadau JP2 yn cael eu cynhyrchu wrth amlyncu i Fedora, y System Rheoli Asedau Digidol. Cynhyrchwyd y ffeiliau METS, a oedd yn cynnwys metadata disgrifiadol a strwythurol wrth amlyncu. Storiwyd y prif ffeiliau TIFF yn yr Archif Ddigidol. Mae camau cadwraeth, gan gynnwys gwirio checksum , monitro sefydlogrwydd a chynllunio cadwraeth yn sicrhau bod y cynnwys digidol yn cael ei gadw.

Creu’r ffacsimiliau

Budd arall o’r broses dadrwymo a sganio oedd y cyfle i’r Llyfrgell ddangos ei thechnegau arloesol wrth greu ffacsimiliau, sydd bron yr un ffunud â’r rhai gwreiddiol. Cydiwyd copïau printiedig o’r dail wedi’u sganio, ar bapur archifol o ansawdd uchel, a’u pastio gefn wrth gefn i ffurfio ffolios a chydiadau. Sicrhaodd y fformat cefn wrth gefn hwn y byddai’r ffacsimili yr un trwch â’r llawysgrif wreiddiol. Arweiniodd y dechneg arloesol o efelychu memrwn trwy ymestyn y papur â llaw yn anwastad, tra bod y dail yn dal i fod yn llaith, at ymddangosiad crychiog dilys.
Rhwymwyd y ffacsimiliau yn yr un modd â’r gwreiddiol ac fe’u defnyddiwyd at ddibenion addysgu ac allgymorth, gan ganiatáu mynediad am gyfnod estynedig i’r llawysgrif, gan ddiogelu’r gwreiddiol.

Allwch chi weld y gwahaniaeth!

Gellir gweld y llawysgrif ddigidol ar wefan y Llyfrgell. Mae’r delweddau’n cael eu gweini trwy faniffest IIIF, wedi’i gysylltu â’r ffeiliau deilliadol a gedwir yn Fedora, sy’n cyflenwi’r Gwyliwr Cyffredinol (Universal Viewer). Gellir newid y delweddau, gyda’r gallu i chwyddo rannau o’r llawysgrif, troi’r tudalennau a chael amrywiaeth o olygfeydd. Mae’r metadata disgrifiadol ar gael gyda’r delweddau er mwyn ddarparu gwybodaeth gyd-destunol.

Trwy ei dull integredig o warchod ac ymestyn mynediad i un o drysorau mwyaf arwyddocaol Cymru, mae’r Llyfrgell yn sicr wedi defnyddio ei digidau, yn ffigurol ac yn llythrennol, er lles ac i bawb.

Sally McInnes, Pennaeth Gofal Casgliadau a Chasgliadau Unigryw

 

Colin Edwards a Dylan Thomas: Atgofion Am Eicon

Darganfod Sain - Postiwyd 14-05-2020

Wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, mae’r peiriannydd Datgloi Ein Treftadaeth Sain (DETS) wedi bod yn digideiddio cyfweliadau a recordiwyd gan Colin Edwards gyda ffrindiau a theulu Dylan Thomas. Rhoddwyd y recordiadau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan Mary Edwards, gwraig Colin.  Golygwyd y tapiau, ar ôl eu trawsgrifio, gan David N Thomas a’u cyhoeddi yn ei lyfrau Dylan Remembered (Seren 2003, 2004).

Yma, mae Sophie Tupholme, un o wirfoddolwyr DETS yn myfyrio ar ei phrofiad o wrando a chatalogio’r casgliad.

Am y pum mis diwethaf, rwyf wedi cael y cyfle hyfryd a lwcus i helpu catalogio recordiadau sain a wnaed gan y newyddiadurwr o Gymru, Colin Edwards. Ar draws y 1960au, cwblhaodd Edwards gasgliad uchelgeisiol o gyfweliadau â theulu, ffrindiau a chydnabod y bardd Dylan Thomas – gan greu collage cywrain o atgofion a daflodd olau digynsail ar fywyd a chymeriad y bardd.

Yn dod o ddealltwriaeth gymharol fylchog o fywgraffiad, allbwn ac eicon Dylan Thomas, cefais gyfle unigryw i lunio argraff o’r dyn, ei waith a’i berthnasoedd o ffynonellau agos yn hytrach nag o syniadau neu fytholeg a dderbynnir yn ddiwylliannol. Rwyf wedi dysgu am ac yn mwynhau argraffiadau o Dylan Thomas fel unigolyn hael, doniol, weithiau’n swil ond yn aml yn gymdeithasgar, a chlywed y rhain fel pe bai ffrind yn eu trosglwyddo i mi yn bersonol. Atgofion o dirnodau Abertawe ac Ysgol Ramadeg yn gludwaith a’i gilydd yn rhoi llun yr un mor llachar â phe bawn i wedi ymweld â nhw fy hun; rwy’n adnabod sgyrsiau gyda rhai ysgolfeistri a myfyrwyr, i mi eistedd yn y Caffi Kardomah ar foreau Sul, a cherdded y Promenâd yn y nosweithiau oer. Wrth wrando ar ddisgrifiadau o wyliau haf yn Fferm Fern Hill yng Nghaerfyrddin, gyda myrdd o deulu, ffrindiau a phobl leol i gyd yn cyfrannu eu straeon a’u safbwyntiau, roeddwn i’n teimlo dealltwriaeth gyffredinol o’r cyfnod a lle hwn fel pe bawn i hefyd wedi ymweld â’r ffermydd cyfagos ac wedi bod am beint yn y pentrefi cyfagos.

Am wledd hynod ddiddorol – dysgu am fyd cyfan, gyda’r dyn hynod hwn yn ei ganol, trwy atgofion a hanesion a rennir gan y rhai oedd yn ei adnabod orau. Yn lwcus i mi, yr wyf yn awr yn teimlo fel pe wyf yn adnabod y dyn ar lefel uwch na’r wybodaeth gyffredin, dim ond oherwydd bod y cyfweliadau hyn yn teimlo fel rhannu gwybodaeth freintiedig o gof a genau ffrind. A hyd yn oed ar wahân i gynnwys, roedd yr iaith hyfryd a ddefnyddiodd y beirdd a’r artistiaid yng nghydnabod Thomas (Charles Fischer, Alfred Janes, Frances Hughes a llawer o rai eraill) wrth ddisgrifio ei ‘fywiogrwydd’, synnwyr digrifwch neu gariad at eiriau, yn wefreiddiol.

Wrth gwrs, nid oeddwn ar fy mhen fy hun ar y siwrnai hon a’r darganfyddiadau yma. Y newyddiadurwr a chyfwelydd toreithiog Colin Edwards arweiniodd fy ffordd, tywys y sgyrsiau i bwyntiau penodol, holi golwg newydd a chloddio am fanylion pellach, a bob amser yn dychwelyd y sgwrs i Dylan – y Dylan ‘go iawn’, y Dylan o gydnabod teulu a ffrindiau. Ochr yn ochr â thrafodaethau am ddyddiau ysgol Thomas, bywyd yn Nhalacharn a theithiau i America, daeth pynciau dadlennol eraill i’r amlwg, megis ei berfformiadau theatr trawiadol, cyfeillgarwch â ffigurau amlwg ac artistiaid fel Edith Sitwell ac Augustus John, a theithiau i Fflorens a Rhufain, Prag ac Iran.

Roedd dod i adnabod Colin Edwards trwy gydol y cyfweliadau hyn ynddo’i hun yn broses hynod ddiddorol, a gwnaeth ei amynedd, ei ddyfalbarhad a’i ddiddordeb gwirioneddol yn ei bynciau argraff fawr arnaf. Fe ddes i ragweld ei hoff gwestiynau, tôn y llais a ddefnyddir mewn sefyllfaoedd penodol, y pwyntiau yr oedd eisiau datgelu a gwthio amdanynt fwyaf, y mathau o hanesion roedd yn mwynhau neu yn eu gweld yn ddoniol, a ffurfioldeb ei lais wrth siarad â rhywun sy’n uchel ei barch yng nghylchoedd artistig Thomas, o’i gymharu â rhwyddineb ei sgyrsiau â ‘dynion cyffredin’ neu ffrindiau teulu amser hir. Mae cyfeilio i Edwards ar y prosiect hanes llafar hwn wedi teimlo fel ymuno â hen ffrind wrth iddo alw ar gymdogion, gan fwynhau sgyrsiau agos fel rhywun sylwgar o’r tu allan.

Roedd hefyd yn ddiddorol clywed yr un storïau ac ymatebion yn cael eu hailadrodd ar draws cyfweliadau. Roedd yr ailadroddiadau hyn yn rhoi arwydd o ddealltwriaeth a rennir o Thomas oedd yn aml, mewn gwirionedd, yn ymadael o syniadau o Dylan Thomas sy’n treiddio ein dealltwriaeth ddiwylliannol o’i gymeriad a’i fywyd. Rhannodd llawer o’r cyfweleion straeon am Thomas yn mynnu ad-dalu dyledion i’w ffrindiau, gan reoli ei yfed yn llwyddiannus fel y gallai ysgrifennu’n ddilyffethair a chwarae’n siriol gyda’i blant. Mae chwedlau o’i yfed, mercheta, nwydau di-hid a natur anrhagweladwy yn cael eu gwanhau ac yn ymddangos yn rhyfedd o’i gymharu ag atgofion ac argraffiadau mwy dof ei deulu a’i ffrindiau. Mae’n ymddangos bod straeon am ei giamocs gwyllt wedi tyfu oherwydd, wrth gwrs, mae’r straeon hyn yn gwerthu’n well na straeon am Thomas yn ceisio ad-dalu ei ddyledion, yfed peintiau yn hytrach na gwirod caled a theithio i America am arian i gefnogi ei deulu a’i ffordd o fyw, yn hytrach nag ar gyfer profiadau o anfoesoldeb a rhyddid rhag bywyd cartref.

Ni allaf argymell y casgliad hwn yn ddigon uchel. Yn hynod ddiddorol ac yn addysgiadol, mae’n dwyn ynghyd amrywiaeth hyfryd o leisiau a safbwyntiau, ac yn ennyn diddordeb y gwrandäwr ar unwaith – p’un a ydych chi’n teimlo eich bod yn gwybod bron popeth neu nesaf peth i ddim am Dylan Thomas a’i Gymru. Canfûm fod dwyster gwrando ar gynifer o gyfweliadau mewn cyfnod byr o amser hefyd wedi fy helpu i fyfyrio ar agweddau y tu hwnt i fywyd a chymeriad Thomas, megis y ffyrdd mwyaf buddiol o gynnal cyfweliad a pha bwyntiau sgwrsio sy’n debygol o arwain at yr ymatebion gorau. Roedd Edwards, heb amheuaeth, yn gyfwelydd medrus a phroffesiynol iawn, ac mae’r casgliad hwn yn cyflwyno model rhagorol ar gyfer mynd o gwmpas prosiect hanes llafar i’r rhai a allai fod â diddordeb mewn dilyn rhywbeth tebyg.

Mae cael y cyfle i gatalogio’r tapiau sain hyn wedi bod yn gwbl werth chweil o’r dechrau i’r diwedd. Mae wedi bod yn bleser cyfrannu at ein treftadaeth ddiwylliannol a rennir yn y llwybr hwn, gan alluogi yn y pen draw i gyflwyno’r gweithiau cadwedig hyn o’r newydd a’u mwynhau ar y cyd gan gynulleidfaoedd hen a newydd fel ei gilydd.

Sophie Tupholme

Phyllis Kinney. Y gantores o Michigan

Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 23-03-2020

Mae bywyd Phyllis Kinney yn daith o America i Aberystwyth, ac o fod yn gantores operatig i fod yn un o’r awdurdodau mwyaf blaenllaw ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru.

Ganed Phyllis Kinney (sydd bellach yn 97 mlwydd oed) ym Mhontiac, Michigan ger Detroit ar 4 Gorffennaf 1922 – diwrnod Annibyniaeth yr UDA. Addysgwyd hi yn Ysgol Uwchradd Pontiac ac yna yng Ngholeg Talaith Michigan, East Lansing lle bu’n arbenigo mewn cerddoriaeth gan raddio ym 1943. Cymaint oedd ei thalent lleisiol fel iddi sicrhau cymrodoriaeth yn Ysgol Gerdd Juilliard, Efrog Newydd lle bu’n astudio am dair blynedd. Yn 1947 daeth yn brif soprano gyda chwmni opera Carl Rosa, ac wrth deithio ym Mangor cyfarfu â Meredydd Evans (1919-2015) a ddaeth yn ŵr iddi. Priododd ar 10 Ebrill 1948 a ganed eu merch Eluned yn ystod haf 1949. Treuliwyd eu bywyd priodasol yng Nghymru yn bennaf, ar wahân i gyfnod o wyth mlynedd rhwng 1952 a 1960 a dreuliasant yn America – gyda’i rhieni ym Mhontiac, yn Princeton ac yn Cambridge Mass. Parhaodd â’i gyrfa gerddorol, gan berfformio mewn opera gan y cyfansoddwr Americanaidd Roger Sessions yn Princeton ym 1955, a bu’n dysgu cerddoriaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Ar ôl dychwelyd i Gymru cyfrannodd at raglenni adloniant ysgafn y BBC fel cantores, a daeth hefyd yn gyflwynydd ac ymchwilydd arbenigol ar gyfer rhaglenni teledu. Mae ei diddordeb cerddorol yn amrywio o sioeau cerdd Americanaidd i ganeuon gwerin Cymraeg ac mae hi wedi treulio’r ychydig ddegawdau diwethaf yn ymchwilio i lawysgrifau a chyhoeddiadau cerddorol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Sain Ffagan a Phrifysgol Bangor. Dyma oedd cefndir ei gwaith nodedig, Welsh Traditional Music (Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), sef y llyfr awdurdodol ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru o’r dechrau hyd heddiw. Mae hi hefyd wedi cyfrannu nifer o erthyglau i gyfnodolion (yn enwedig yn ‘Canu Gwerin’ a Hanes Cerddoriaeth Cymru: Welsh Music History) ac wedi cyhoeddi sawl llyfr ar gerddoriaeth werin Gymraeg, a llyfrau caneuon i blant, rhai wedi’u hysgrifennu ar y cyd â Meredydd Evans. Dyfarnwyd gradd M Mus anrhydeddus iddi gan Brifysgol Cymru ym 1991 a daeth yn gymrawd anrhydeddus Prifysgol Bangor ochr yn ochr â’i gŵr ym 1997.

Ceir trysorfa o wybodaeth am gerddoriaeth draddodiadol Cymru ymysg archifau Meredydd Evans a Phyllis Kinney, a gyflwynwyd fel rhodd hael i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae ffeiliau Phyllis Kinney (dros 30 bocs) yn cynnwys nodiadau manwl, rhestrau a dadansoddiad o alawon, gyda gwybodaeth am gerddorion a chasglwyr cerddoriaeth. Roedd ei dull systematig o weithio, wrth edrych ar rythm, diweddeb, ffurf, harmoni a moddau yn golygu y gallai hi nodi’n hyderus mewn llythyr at y bardd Keith Bosley mai’r mesur gwerin mwyaf poblogaidd yng nghân werin Cymru yw’r ‘trochaic tetrameter quatrain’; ac ysgrifennu erthygl ar y cysylltiad rhwng ‘Migldi Magldi’ a theulu o alawon Gwyddelig / Cymraeg penodol. Dengys ei gohebiaeth ei haelioni wrth ateb ymholiadau a darparu cefnogaeth i fyfyrwyr, ymchwilwyr a cherddorion ledled y byd. Mae’r archif yn adlewyrchu’r modd y cofleidiodd Gymru, ei phobl a’i diwylliant, gan ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl a dyrchafu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig trwy ei hastudiaethau cerddolegol.

Nia Mai Daniel
Rheolwr Rhaglen | Programme Manager
Yr Archif Gerddorol Gymreig | The Welsh Music Archive
@cerddllgc | @MusicNLW

Y Plygain yng Nghymru

Collections / Stori Cymru - Postiwyd 20-12-2019

Unwaith mae’r hydref drosodd a phawb yn dechrau cwyno ei bod hi’n oer, dyna’r amser i fynd am drip i sir Drefaldwyn. Pam? Wel, i ganu’r hen garolau plygain – nid mewn cyngerdd nac eisteddfod, ond fel rhan o wasanaeth naturiol y gymdeithas mewn eglwys a chapel, drwy’r Adfent ac ymlaen tan Ŵyl Fair y Canhwyllau ar 2 Chwefror.

Mae’n debyg mai o’r Lladin pullicantio ‘caniad y ceiliog’ y daw’r gair plygain. Cynhelid y gwasanaeth yn wreiddiol am 3 a.m., cyn ei symud i 4, yna 5, yna 6 o’r gloch ar fore’r Nadolig. Un o wasanaethau’r Eglwys Gatholig oedd y plygain tan y Diwygiad Protestannaidd pan fabwysiadwyd ef gan yr Anglicaniaid, ac yna’n ddiweddarach gan yr Anghydffurfwyr. Erbyn heddiw, gyda’r nos y cynhelir y gwasanaeth, gan mwyaf.

Mae’r gwasanaeth yn agor gyda’r Hwyrol Weddi (mewn eglwys) neu wasanaeth byr (mewn capel). Yna daw’r datganiad ‘Mae’r plygain yn awr yn agored’, sef yn agored i unrhyw un gyflwyno carol blygain. Plant sy’n agor, wedyn pobol ifanc, wedyn parti’r eglwys neu’r ardal, ac yna’r bobl sydd wedi teithio yno o bell; os oes mwy nag un parti lleol bydd un o’r rheini yn cloi. Does byth raglen. Mae’r carolwyr, yn unigolion a phartïon, yn gwneud eu ffordd drwy’r gynulleidfa niferus i lawr i’r gangell neu’r sêt fawr, taro nodyn â seinfforch, a chanu’n ddi-lol. Y carolwyr sy’n penderfynu trefn y noson er mwyn osgoi cael dau unawdydd yn dilyn ei gilydd, neu ddwy ddeuawd, i gael amrywiaeth yn nhrefn yr eitemau.

Mae pawb yn canu’n anffurfiol, heb arweinydd. Rhaid cofio ym mha drefn y canodd pawb er mwyn dilyn yr un drefn yn ail hanner y noson (sef yn yr ail gylch), a chofio pa garolau a ganwyd, i osgoi ailganu. Ar y diwedd mae’r dynion sydd eisoes wedi cyflwyno carol yn cael eu galw ymlaen i gydganu ‘Carol y Swper’. Ar eu gorau, maen nhw’n wefreiddiol.

Mae plygain gyntaf y tymor yn hudolus, wrth i’r cantorion ailgyfarfod ar ôl prysurdeb y flwyddyn. Mae cyfeillgarwch dwfn ymhlith y carolwyr ac mae’r swper ar ôl y gwasanaeth yn elfen bwysig ar y noson.

Rhaid diolch i drigolion sir Drefaldwyn a’r rhannau hynny o Wynedd sy’n ffinio â sir Drefaldwyn – Mallwyd, a Llanymawddwy yn enwedig – am gynnal y traddodiad yn ddi-feth dros y canrifoedd. Dyma gadarnle’r plygain hyd heddiw. Er hynny, cenid yr hen garolau ledled Cymru ar un cyfnod, ac mae’r traddodiad yn agor unwaith eto i gynnwys rhannau helaeth o’r wlad.

Yn draddodiadol roedd y partïon yn aelodau o’r un teulu, er enghraifft Parti Bronheulog, ac yn ymarfer gartref ar yr aelwyd. Mae gan y carolwyr lyfr o garolau teuluol, a dim ond y teulu sy’n cael eu canu.

Parti Bronheulog yn canu’r garol Plygain ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’

Gan fod cymaint heddiw yn symud o’u cynefin i fyw, mae nifer o’r partïon cyfoes yn bartïon newydd a’r rheini’n seiliedig ar gyfeillgarwch yn hytrach na llinach a gwaed.

Mae’n bosib mai cwndidwyr Morgannwg yn yr unfed ganrif ar bymtheg a ddechreuodd ganu carolau yn y gwasanaethau plygain. Lledodd yr arfer drwy Gymru gan ddod â phregeth ar gân i’r plwyfolion a honno’n ymdrin ag athrawiaeth yr Iawn ac â threfn yr Iachawdwriaeth yng Nghrist, yn ogystal â sôn am ei enedigaeth, ei farwolaeth, a’i atgyfodiad. Mae’r hen garolau yn aml yn ymestyn dros ugain a rhagor o benillion, ac yn drwm o ddiwinyddiaeth achubol. Ond erbyn yr ugeinfed ganrif a fflam y Diwygiad Mawr wedi tawelu, nid yw cynnwys y carolau yn gyson gryf yn yr un ffordd.

Cenid llawer o’r carolau ar alawon poblogaidd y dydd, a’r mesurau Cymreig hynny’n cynnwys ‘Ffarwel Ned Puw’, ‘Clychau Rhiwabon’ a ‘Difyrrwch Gwŷr Caernarfon’. Nid dim ond mesurau Cymreig oedd yn boblogaidd, ond mesurau o Loegr hefyd, a’r rheini’n cynnwys ‘Charity Mistress’, ‘Let Mary Live Long’ ac ambell alaw faled. Un arall y mae llawer iawn o ganu arni yn y plygeiniau yw’r alaw ‘Annie Lisle’, alaw faled o America a ysgrifennwyd yn 1857 gan H. S. Thompson, Boston, Massachusetts.

Geiriau cryf, alawon hyfryd, cwmni ffrindiau, a swper blasus. Beth mwy sydd ei angen ar neb ar noson oer o aeaf?

Dr Rhiannon Ifans

The Moon-eyed People

Collections / Stori Cymru - Postiwyd 25-10-2019

Chwedl o Gymru ac Appalachia ar gyfer Calan Gaeaf

Ar ddiwedd mis Mai 2019, agorodd arddangosfa o gelf werinol Gymreig o’r enw ‘Meddygon, Swynion a Melltithion / Curers, Charms and Curses’ yng Nghanolfan Celfyddydau Monongalia yng nghanol Morgantown, Gorllewin Virginia, yn cynnwys gwaith wyth artist, sef darlunwyr, ffotograffwyr, artistiaid sain, gwneuthurwyr doliau a gwneuthurwyr crancis. ‘Roeddwn i wedi cludo’r gwaith celf ar hyd un o hen lwybrau ymfudo Ewropeaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dros gefnau mynyddoedd yr Allegheny i Pittsburgh, dinas dur a glo, ac i lawr afon Monongahela i gyrraedd Appalachia. Er nad oeddwn ar fwrdd sgwner o Aberaeron yn brwydro stormydd yr Iwerydd, nac wedi clymu fy holl eiddo ar gefn wagen do a mul yn ei thynnu, yn hytrach yn cario gwarbac mawr ar 747 nad oedd yn gyfeillgar i’r amgylchedd, ac yna ar y Megabus dros nos.

Wrth gyrraedd Morgantown, fe gefais fy nghyfweld yn drwyadl am gelf werin Cymru ac Appalachia gan Caitlin Tan, gohebydd bywyd gwerin dros West Virginia Public Broadcasting. Yng nghanol hyn, cynigiodd Larry, y dyn camera, sylw annisgwyl ar y Mabinogi. Esboniodd ei fod wedi astudio ieithyddiaeth ganoloesol yn y coleg, lle roedd yn arbenigo yn yr hen chwedlau Cymreig. Ar noson agoriadol yr arddangosfa, ffilmiodd Jesse Wright, pennaeth newyddion WVPB, y digwyddiad cyfan. Dywedodd wraig wrthyf bod ei mam wedi trefnu eisteddfod Gymraeg ym Morgantown tan y 1960au cynnar; rhoddodd JoAnn Evans o’r St David’s Society of Pittsburgh lond bag i fi o recordiau finyl Cymraeg a gasglwyd gan ei thad; darganfu amgueddfa’r ddinas bod ganddynt bamffledyn gyda’r teitl Mining A career for Welsh Boys; perfformiodd y Gweinidog Bob Dayton o Bennsylvania, Gadwaladr a’r Afr, stori o Eryri, gyda llond bag o bypedau defaid. ‘Roedd rhywbeth ar droed.

Nid oedd hyn yn syndod i mi. Mae gennyf deulu yn Appalachia ac roeddwn yn gwybod bod olion y Cymry yno yn nhalaith y mynyddoedd. Sefydlwyd Morgantown gan Zackquil Morgan, mab Morgan Morgan o Forgannwg, a gyrhaeddodd yn y 1730au yn yr hyn a ddaeth yn nes ymlaen yn Orllewin Virginia. Mae mynwent y ddinas yn llawn beddfeini yn dwyn yr enwau Davies, Griffith, Evans, Jones, Williams, Price, ac wrth gwrs Morgan, ond eto ychydig iawn o dystiolaeth ysgrifenedig sydd am eu cyndeidiau. Ymddengys i’r Cymry angof ddiflannu i’r coedydd mawr tywyll a dod yn Appalachiaid coll.

Yn yr 1800au cynnar, roedd comins Ceredigion wrthi’n cael eu prynu gan foneddigion cefnog, a doedd gan y gweithwyr tlawd, y buont yn ffermio yno ers cenedlaethau, ddim llawer o ddewis ond i ymadael. Cyrhaeddasant Appalachia fel ymfudwyr, gan ymsefydlu ar dir lle roedd y bobl gynhenid yn byw ac yn gweithio, a hwythau yn eu tro yn cael eu gorfodi i ymadael o ganlyniad. Erbyn 1830, roedd ‘Deddf Allgludo Indiaid’ yr Arlywydd Jackson yn gyfraith, gan arwain at allgludo’r Cherokee o ddeheubarth Appalachia. Bu farw hanner y boblogaeth ar ‘Drywydd y Dagrau’ wrth iddynt gael eu tywys ymaith i Oklahoma o dan olwg gwarchodwyr arfog. Wrth i ddagrau’r gwragedd drwytho’r pridd sych, fe dyfodd flodeuyn hardd. Rhosyn y Cherokee.

Rhyw gan mlynedd yn ddiweddarach, daeth glowyr a golygianwyr i weithio yn Osage a Scott’s Run yn ymylon Morgantown, lle siaradwyd y Gymraeg ochr yn ochr a’r Almaeneg, Sbaeneg, Romaneg, Groeg, Eidaleg a llawer o ieithoedd eraill. Golyga’r sustem sgrip a’r tai cwmni nad oedd y glowyr a’u teuluoedd ond yn ychydig mwy na gwrthrychau’n perthyn i berchenogion y glofaoedd – anghyfiawnder roedden nhw’n meddwl eu bod nhw wedi ei adael ar eu holau yng Nghymru.

Enw’r Cherokee ar gyfer y glowyr Cymreig oedd ‘Y Bobl a’r Lleuad yn eu Llygaid’, oherwydd eu gallu i weld mewn tywyllwch a’u bod yn byw o dan y ddaear.

Cyn agor yr arddangosfa, ychydig o atgof o’r Cymry a barhaodd yng Ngorllewin Virginia. Wedi tair neu bedair genhedlaeth, ‘roedd sŵn y llyffaint yn crawcian yn y corsydd a’r cychod glo yn pwffian ar hyd afon Monongahela wedi boddi sŵn yr iaith Gymraeg. Mae pobl yn ystyried eu hunain yn Appalachiaid Americanaidd erbyn hyn.

Eto mae eu lleisiau tawel wedi gadael atgof, nid yn unig yn niwydiant y glofaoedd, ond mewn straeon a chelf werin a gydrennir. Dathlodd yr arddangosfa leisiau colledig mamguod Appalachia a Chymru fel ei gilydd, a allai swyno, iachau a melltithio, a feddai ar feddyginiaeth ar gyfer pob gwaeledd, ac a ystyrid a drwgdybiaeth a pharch yn gydradd o fewn eu cymunedau.

Roedd Beti Grwca, Cei Newydd, yn fawr ei bri oherwydd ei dognau serch, fel yr oedd Nancie Gore, Cherokee o fynyddoedd yr Ozark, a garai ceffylau, a gasaodd meddygon, ac a oedd wedi dysgu meddyginiaeth gan yr hen swyngyfareddwyr roedd hi’n eu hadnabod. Gallai Agnes Dolan o Orllewin Virginia iachau twymynau a melltithion trwy ddarlunio calon ar ddarn o bapur a dodi piniau trwyddo, tra y gallai Anna Ddu, Llanfairfechan, fwrw melltith trwy dyllu doli glai gyda phin het ei mam faeth. Saethodd ddyn yn Clay County racoon yn ei goes a bu hen Martha Pringle yn hercian byth a beunydd wedi hynny, tra y saethodd ffermwr yn Nhregaron ysgyfarnog gyda bwled arian a fe dynnodd meddyg yr un bwled allan o goes hen wraig a drigai gerllaw.

Mae Appalachia a Chymru yn cydrannu traddodiad o wneud cwiltiau. Yn yr arddangosfa y mae cwilt glas a gwyn a wnaethpwyd yn Oak Hill, Ohio, ym 1894 ar gyfer y Parch. a Mrs J. Mostyn Jones, sydd wedi’i frodio â llofnodion rhyw chwe deg o wragedd Cymreig o’r bron.

Mae chwedlau gwerin a chelf werin yn archifo atgofion y rhai a fu’n dwyn gwybodaeth a doethineb. Nhw yw ein cysylltiad ni â’r meirw.

Rydyn ni’ n eu cofio nhw ar ddiwrnod Calan Gaeaf.

Peter Stevenson

Wedi’i addasu o:

  • Stevenson, Peter: The Moon-eyed People, Folk Tales from Welsh America (Stroud, The History Press, 2019)
  • Stevenson, Peter: Chwedlau, Cwiltiau a Chranci / Stories, Quilts and a Crankie (Amgueddfa Ceredigion Museum, 2019)

Cyfieithiad Cymraeg: David Moore, Llyfrgell Genedlaethol Cymraeg

Gosod troed ym Mhatagonia

Collections / Stori Cymru - Postiwyd 19-07-2019

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru. Cliciwch ar Stori Cymru o dan y categorïau i weld gweddill y cofnodion. Gallwch hefyd danysgrifio i’r blog i dderbyn ebyst am yr holl gofnodion.

Safai torf o dros 150 o bobl, yn oedolion a phlant, ar fwrdd llong yn craffu ar y wlad a fyddai’n gartref newydd iddyn nhw. Dydd Iau 27 Gorffennaf 1865 oedd hi. Roedd y Mimosa wedi bwrw ei hangor o’r diwedd a’r ymfudwyr yn disgwyl yn eiddgar i osod troed ar dir Patagonia.

Aeth bron i ddeufis union heibio ers iddynt gychwyn eu mordaith o ddociau Lerpwl, ac roedd yn rhyfeddod i’r fenter ddod mor bell â hyn. Wedi blynyddoedd o drafodaethau gyda Llywodraeth Buenos Aires, y bwriad gwreiddiol oedd iddyn nhw deithio i Batagonia ar fwrdd yr Halton Castle, llong ddwywaith maint y Mimosa. Methodd honno ddychwelyd yn brydlon o’i mordaith flaenorol a bu’n rhaid gwneud trefniadau newydd. Bu’r ymfudwyr – unigolion, cyplau a theuluoedd o leoedd fel Aberpennar, Aberdâr, Rhosllanerchrugog, Ffestiniog yn ogystal â Lerpwl a Phenbedw – yn aros am fis tra oedd y Mimosa yn cael ei haddasu ar gyfer y daith.

O ran y fordaith ei hun, dechreuodd gyda thywydd stormus wrth adael Lerpwl, cafwyd gwyntoedd cryfion ar y ffordd a dyddiau eraill pan oedd y môr yn dawel a’r haul yn grasboeth. Bu farw tri o blant ar y llong a ganwyd dau, a chafwyd priodas hefyd. Roedd cyrddau gweddi yn cael eu cynnal yn ddyddiol.

Roedden nhw wedi cyrraedd Patagonia er gwaethaf popeth, a dau o arweinwyr y fenter, Lewis Jones ac Edwin Cynrig Roberts, yno i’w cyfarch. Mae Joseph Seth Jones, argraffydd i20 oed o Ddinbych oedd ar fwrdd y llong, yn nodi yn ei ddyddiadur bod Lewis Jones wedi dod atynt mewn cwch a’i fod wedi’i groesawu â llawenydd mawr. ‘Yr oedd ei adroddiad yn bodloni yn gyffredinol a thu hwnt i’n disgwyliadau o lawer.’ ysgrifennodd, ‘Dywedai mai trwy rwystrau anghyffredin yr oedd wedi llwyddo.’ Mae’r dyddiadur yn gofnod gwerthfawr o’r fordaith trwy lygaid un o’r teithwyr, ac mae ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Dechreuodd pennod newydd yn hanes y fenter gyda’r glanio ar dir Patagonia; byddai’n rhaid iddynt wynebu taith arall o tua 40 milltir i gyrraedd dyffryn yr afon Chupat (a ddaeth i’w adnabod wedyn fel Dyffryn Camwy), heb sôn am yr her fawr o wneud cartref newydd i’w hunain ar dir mor sych a diffaith. Bu adegau wedyn pan y bu bron iawn i’r fenter ddod i ben yn llwyr, ond, er syndod i lawer, mae’r iaith Gymraeg yn dal i gael ei siarad ym Mhatagonia heddiw.

O ran y nifer y Cymry a aeth yno (cyfanswm o tua 4,000 erbyn 1900), darn bach yn unig yw’r Wladfa yn holl hanes yr ymfudo o Gymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Aeth llawer mwy i’r Unol Daleithiau ac Awstralia, er enghraifft, a symudodd rhai o’r bobl hynny eto er mwyn ymuno â’r Wladfa. Ond mae’r swyn sy’n perthyn i Batagonia yn parhau hyd heddiw ac wedi rhoi amlygrwydd i’r bennod hon yn hanes y genedl. Mae’n deillio o’r darlun rhamantus o’r wlad a’i thirwedd, o ddewrder a dyfalbarhad yr ymfudwyr eu hunain, ac wrth gwrs o’r freuddwyd a ysgogodd y fenter: y dyhead i sefydlu gwladwriaeth annibynnol ble byddai’r iaith Gymraeg yn brif gyfrwng i bob agwedd o fywyd, gan gynnwys cyfraith, gwleidyddiaeth, addysg a masnach. Roedd uchelgais y fenter, yn ymarferol ac yn ideolegol, yn ddadleuol a rhyfeddol bryd hynny fel ag y mae heddiw.

Mae gan y Llyfrgell nifer o ddeunyddiau amrywiol ar-lein i’ch helpu i ddarganfod mwy am hanes y Cymry ym Mhatagonia. Ceir detholiad o’r 25 llawysgrif bwysicaf a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol sy’n ymwneud â Phatagonia, gyda dyddiadur Joseph Seth Jones yn eu plith. Mae hefyd rhestr o lyfrau ac erthyglau am Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, De America.

Dafydd Tudur,

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

D-Day 75: Cofio glaniadau Normandi

Casgliadau - Postiwyd 06-06-2019

Saith deg pump o flynyddoedd yn ôl, ar ddydd Mawrth y 6ed o Fehefin 1944, glaniodd y lluoedd Cynghreiriol ar draethau Normandi fel rhan o’r ymgyrch morwrol, tir ac awyr mwyaf yn hanes. Marciodd D-Day gychwyn ar ymgyrch hir, wedi’i enwi’n ‘Operation Overlord, i ryddhau gogledd-orllewin Ewrop o feddiant y Natsïaid.

Ymosododd degau o filoedd o filwyr, yn bennaf o’r DU, yr UD a Chanada, ar fyddinoedd yr Almaen ar bum traeth ar arfordir gogledd Ffrainc: Utah, Omaha, Gold, Juno a Sword. Yn oriau man y bore hwnnw, glaniodd miloedd o awyr filwyr tu ôl i linellau’r gelyn cyn i’r milwyr traed a’r adrannau arfog ddechrau glanio ar y traethau. Cefnogwyd hwy gan bron i 7,000 o longau milwrol.

Cychwynnodd y gwaith o gynllunio Operation Overlord misoedd lawer cyn yr ymosodiad. Roedd dros ddwy filiwn o filwyr o dros 12 gwlad wedi cyrraedd ym Mhrydain erbyn 1944 fel rhan o’r paratoadau. Roedd hyn yn cynnwys bataliwn o filwyr Americanaidd oedd yn aros yng ngwersyll Island Farm ym Mhen-y-bont. Cafodd y cytiau eu hadeiladu’r wreiddiol ar gyfer gweithwyr yn y ffatri arfau cyfagos ond yr oedd yn wag hyd nes dyfodiad yr Americanwyr yn Hydref 1943. Dywedir bod y Cadfridog Dwight D. Eisenhower ei hun wedi ymweld â’r gwersyll yn Ebrill 1944 I gyfarch y milwyr cyn iddynt adael i Ffrainc. Yn hwyrach yn y Rhyfel, defnyddiwyd Island Farm fel gwersyll carcharorion rhyfel ar gyfer swyddogion yr Almaen. Darllenwch fwy am hanes y gwersyll ar Gasgliad y Werin Cymru.

Ymunodd Leslie Illingworth (1902-1979), y cartwnydd gwleidyddol Cymreig, â’r Daily Mail  yn 1939 ac mae canran uchel o’i waith cynnar a gedwir yma yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ymwneud â thestun yr Ail Ryfel Byd. Mae ei ddarluniad o’r glaniadau yn Normandi, sy’n ddyddiedig y 9fed o Fehefin 1944, yn gal war steil Tapestri Bayeux. Mae’n dangos y Cynghreiriaid yn ymosod ar yr Almaenwyr ar y traethau. Uwch eu pennau mae Churchill, Montgomery ac Eisenhower, ac ar yr ochr mae Hitler, ynghyd â’i gadfridogion arall, yn edrych ymlaen yn ofidus.

Erbyn diwedd D-Day, roedd y Cynghreiriaid wedi sefydlu troedle bychan yn Ffrainc. Fe wnaeth hyn arwain at ryddhau Paris ac, yn y pendraw, buddugoliaeth dros y Natsïaid. Cafodd dros 150,000 o filwyr Cynghreiriol eu danfon i arfordir Normandi ar y diwrnod hwnnw, gyda 10,000 o gerbydau milwrol. Bu farw tua 4,400 o’r dynion yma ac anafwyd 10,000 arall.

“At dawn’s first light on 6th June our longest day began.” (NLW Facs 1028)

Bywyd a gwaith Cranogwen: O forwr i fardd, a llawer mwy …

Stori Cymru - Postiwyd 15-03-2019

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

Dathlu Cyfraniadau Menywod

Mae mis Mawrth wedi datblygu i fod yn gyfnod allweddol wrth ddathlu cyfraniadau menywod ddoe a heddiw. Er bod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi gwibio heibio eleni eto, mae mis Mawrth yn parhau i ddal statws swyddogol Mis Hanes y Menywod.

O ystyried hynny, nid yw’n syndod mai dynes go arbennig sy’n mynnu sylw yn ein cofnod nesaf fel rhan o ymgyrch Stori Cymru, sef Cranogwen. Fodd bynnag, byddwn ni’n parhau i asesu straeon merched Cymru drwy gydol y gyfres, fel y dylid gwneud wrth gwrs ar draws y flwyddyn!

Menyw cyn ei hamser

Roedd Sarah Jane Rees (g. 1839), a chaiff eu hadnabod yn ôl ei henw barddol Cranogwen, yn arloeswraig mewn amryw o feysydd. Yn ferch dal, drawiadol a hyderus, llwyddodd i drechu rhai o gyfyngiadau enwocaf oes Fictoria a dilynodd yrfa amrywiol a llawn.

Nid yw’n syndod bod yr hanesydd, yr Athro Deirdre Beddoe, wedi cyfeirio at Cranogwen fel ‘the most outstanding Welsh women of the nineteenth century’.

Meistres y Moroedd

Daeth Cranogwen i’r amlwg yn y lle cyntaf fel morwr.

Magwyd ym mhentref arfordirol Llangrannog, ac wedi iddi brofi cyffro’r bywyd morol drwy lygaid ei thad a oedd hefyd yn gapten llong, penderfynodd mai gyrfa tua’r dec oedd ei thynged!

Er mawr siom i’w rheini, dechreuodd weithio yn y maes morwrol, a hynny ar longau cargo rhwng Cymru a Ffrainc am ddwy flynedd, cyn dychwelyd i Lundain a Lerpwl i astudio.

Aeth Cranogwen ymlaen i ennill cymhwyster meistr yn y maes, a oedd yn caniatáu iddi reoli llongau ledled y byd.

Fodd bynnag, yn 1860 pan oedd yn 21 oed, dychwelodd adre; ac fel merch ifanc addysgedig fe’i penodwyd i rôl pennaeth yr ysgol leol.

Cranogwen y bardd

Yr oedd Cranogwen yn medru trin a thrafod yr iaith Gymraeg yr un mor feistrolgar â llyw’r llong!

Hi oedd y merched cyntaf erioed i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn dilyn ei llwyddiant yng ng?yl Aberystwyth 1865 daeth yn enw cyfarwydd dros nos. Lluniodd ei gwaith buddugol o dan yr enw Cranogwen. Roedd ei cherdd ‘Y Fodrwy Briodasol’ yn ymateb digrif a chrafog i dynged y ferch briod o fewn cymdeithas.

O fewn pum mlynedd yn unig yr oedd Cranogwen yn fardd cyhoeddedig ac ymddangosodd ei chasgliad poblogaidd ‘Caniadau Cranogwen’ yn 1870.

Cylchgrawn Cymraeg i Ferched Cymreig

Caiff Cranogwen ei chofio fel y merched cyntaf i roi cynnig ar lawer o dasgau gwahanol yn y maes llenyddol yng Nghymru.

Ymhlith ei phrif gyflawniadau oedd llwyddiant ‘Y Frythones’; dim ond yr ail gylchgrawn Cymraeg ar gyfer merched, a’r cyntaf i’w olygu gan fenyw.

Gweledigaeth Cranogwen fel golygydd a yrrodd natur y cylchgrawn rhwng 1879 a 1889. Roedd yn cynnwys llawer o nodweddion diddorol gan gynnwys straeon byrion a cherddi, ymgyrchoedd, tudalennau problemau a cholofnau ymgynghorol. Fel rheol, byddai pob rhifyn hefyd yn cynnwys erthygl yn canolbwyntio ar fywyd a gwaith menyw uchel ei pharch, a gosodwyd fel esiampl i’r darllenydd.

Defnyddiwyd tudalennau’r ‘Frythones’ i hyrwyddo gwaith awduron benywaidd eraill a rhoddodd Cranogwen lwyfan i lawer o awduron i ddatblygu a mynegi eu lleisiau.

Ymgyrchydd a Phregethwr Ymroddedig

Yn wir, roedd talentau Cranogwen yn ddi-ddiwedd! Roedd yn siaradwr cyhoeddus effeithiol a theithiodd i America ddwywaith er mwyn annerch cynulleidfaoedd a darlithio ar bynciau amrywiol.

Bu’n ymgyrchydd allweddol ym maes Dirwest. Yn ei thyb, roedd alcohol yn ddinistriol iawn i’r uned deuluol. Yn 1901 sefydlodd Undeb Dirwestol Menywod De Cymru, a oedd wedi lledaenu i gynnwys dros 140 o ganghennau erbyn 1916.

Elen Haf Jones
Ysgrifennwyd fel rhan o brosiect Europeana ‘The Rise of Literacy’

Tagiau: , , ,

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog