Blog

Postiwyd - 31-08-2018

Casgliadau / Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Ymatebion i’r Llyfrau Gleision

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, cyhoeddiadau’n ymateb i gynnwys y Llyfrau Gleision sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

R. R. W. Lingen, J. C. Symons and H. R. Vaughan Johnson – Report of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales (1847)

Ym 1846 cyflwynodd William Williams, yr Aelod Seneddol dros Coventry, symudiad yn y Senedd a fyddai’n arwain at ymchwiliad swyddogol i gyflwr addysg yng Nghymru. Yn ôl Williams, a’r Llywodraeth Brydeinig yn gyffredinol, yr oedd y Cymry’n gyflym ddatblygu i fod yn garfan derfysglyd ac afreolus, ac felly hefyd yn bygwth sylfaeni gymdeithas. Yn ogystal, yr oedd swyddogion Llywodraethol yn tybio mai’r iaith Gymraeg oedd cyfrwng y fath weithgarwch. Yn ôl Kay-Suttleworth, Ysgrifennydd y Cyngor Addysg, byddai’r comisiwn yn cynnal “ymholiad i gyflwr addysg yng Nghymru, ac yn canolbwyntio ar fynediad y dosbarthiadau is i addysg a gwybodaeth cyfrwng Saesneg” – hynny yw iaith masnach, addysg uwch, llywodraeth a chyfraith. Fe benodwyd tri dirprwy i ymchwilio’r achos; R. W. W. Lingen, J. C. Symons a H. V. Johnson. Cyhoeddwyd eu casgliadau ar ffurf adroddiadau diweddarach, sy’n cael eu hadnabod fel ‘Y Llyfrau Gleision’. Beirniadwyd ansawdd cyffredinol addysg yng Nghymru gan y tri, hynny yw safon yr athrawon ynghyd a chyfleusterau a lleoliadau’r ysgolion. Serch hynny, rhaid cofio nad oedd cyflwr addysg yn Lloegr llawer gwell i’r mwyafrif o’r boblogaeth. Sylwadau’r dirprwywyr ynghylch anfoesoldeb a chymeriad y Cymry a daniodd yr ymateb chwyrnaf, yn enwedig eu nodiadau ar fenywod Cymreig. Er mai dim ond chwe tudalen o’r adroddiadau swmpus a neilltuwyd ar gyfer y fath beirniadaethau, fe’u trafodwyd yn helaeth gan y wasg genedlaethol. Gwelwyd yr adroddiadau fel ymosodiadau ar yr iaith Gymraeg hefyd o ganlyniad i’r beirniadaethau niferus a gyflwynwyd ynddynt ynghylch israddoldeb yr iaith.

Jane Williams (Ysgafell) – Artegall or, Remarks on the Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales (1848)

Ganed yr awdur a’r hanesydd Jane Williams yn Llundain. Treuliodd cyfnod o’i bywyd yn Aberhonddu, ac o ganlyniad, datblygodd cyfeillgarwch rhyngddi hi a’r noddwr diwylliannol enwog Augusta Hall, neu Arglwyddes Llanofer. Wedi hynny, magodd Jane Williams ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a dysgodd yr iaith. Ysgrifennodd nifer o gyfrolau pwysig, er fe gyhoeddwyd ‘Artegall or, Remarks on the Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales’ fel pamffled dienw. Archwilio dibynadwyedd y tystion a ddefnyddiwyd i lunio adroddiadau 1847 a wnaeth Williams yn ei phamffled. Anghymeradwyodd y cyffredinoli a waned gan y dirprwyon yn y Llyfrau Gleision.

Evan Jones (Ieuan Gwynedd) – Facts, figures, and statements, of illustration of the dissent and morality of Wales: an appeal to the English people (1849)

Bardd a phamffledwr oedd Evan Jones, neu Ieuan Gwynedd. Roedd yn gefnogwr brwd o’r mudiad dirwestol ac yn Anghydffurfiwr ymroddedig. Amddiffynnodd Anghydffurfiaeth yn erbyn ymosodiadau clerigwyr, yn enwedig eu beirniadaethau yng nghynnwys y Llyfrau Gleision. Roedd ganddo’r ddawn i gyflwyno dadleuon synhwyrol, ac fe amgylchynodd ei sylwadau gofalus â ffeithiau, fel y gwelir yn ei bamffledyn ‘Facts, figures, and statements, of illustration of the dissent and morality of Wales: an appeal to the English people’.

Robert Jones (R. J. Derfel) – Brad y Llyfrau Gleision (1854)

Bardd, awdur a sosialydd nodedig oedd R. J. Derfel. Ef oedd awdur y ddrama enwog ‘Brad y Llyfrau Gleision’ sef ymatebiad uniongyrchol i adroddiadau 1847. Portreadodd Cymru fel gwlad odidog a Duwiol yn y ddrama, ac o’r herwydd, yr oedd yn lleoliad annioddefol yn llygaid gythreuliaid uffern. Er hynny, derbyniwyd, â hoffter, clerigwyr Eglwysig Cymru, grŵp a ddarparodd lawer o dystiolaeth wrth lunio adroddiadau 1847. Wedi cyhoeddiad y Llyfrau Gleision cyhuddwyd rhai clerigwyr o frad, yn bennaf oll gan Anghydffurfwyr teyrngar. Yn ystod yr ail act danfonwyd tri archwilydd i Gymru gan Beelzebub (tywysog y cythreuliaid) i asesu cyflwr y wlad a’i phobl, nid yn annhebyg i’r tri dirprwy a benodwyd i lunio adroddiadau 1847. Fodd bynnag, cyflawnwyd y ‘brad’ gan glerigwyr yr Eglwys. Yr oedd rhai o’r farn, gan gynnwys Derfel, bod eu tystiolaeth wedi cynorthwyo, a hyd yn oed bwydo beirniadaethau gwrth Cymreig Llyfrau Gleision 1847. Ysbrydolwyd y ddrama gan chwedl ‘Brad y Cyllyll Hirion’.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: , ,

Postiwyd - 27-08-2018

#CaruMapiau / Collections

‘Spieghel’ Waghenaer

Yng Nghymru, mae 2018 wedi ei dynodi fel ‘Blwyddyn y Môr’ ac mae’r blog hwn, sef y trydydd eleni ar y thema forol, yn ymwneud â’r siart cynharaf o arfordir Cymru sydd yng Nghasgliad y Llyfrgell.  Mae’n dyddio o 1590 ac yn dangos Môr Hafren a grëwyd gan yr hydrograffydd a’r Iseldirwr Lucas Janszoon Waghenaer (1534-1606).  Roedd yr Is-almaenwyr yn hydrograffwyr a chartograffwyr Ewropeaidd blaenllaw, a thyfodd Leiden, Antwerp ac wedyn Amsterdam yn ganolfannau cynhyrchu siartiau yn ogystal â mapiau.

Swyddog morwyo oedd Waghenaer ac yn nes ymlaen daeth yn gasglwr tollau morol.  Profodd ei brofiadau ymarferol ar y môr a’i gysylltiadau â morwyr a swyddogion porthladdoedd yn fanteisiol wrth iddo lunio ei atlas morwrol neu arweiniad peilot i ddyfroedd arfordirol Ewrop. Roedd testun Waghenaer yn seiliedig ar gyhoeddiadau mordwyo traddodiadol yr unfed ganrif ar bymtheg ond roedd ei siartiau’n ychwanegu elfen arloesol gan wneud yr atlas morwrol hwn yr arweiniad peilot cyntaf yn y byd i’w gyhoeddi.

 


Roedd llwyddiant y Teerste Deel vande Spieghel der Zeevaerdt (Rhan Gyntaf y Sea Mirror) 1584 yn deillio o gasgliad siartiau arloesol Waghenaer, eu hengrafiadau cain a’r ffaith eu bod wedi’u rhwymo’n ymarferol mewn un gyfrol.  Mae’r siartiau’n dangos panoramas arfordirol ac yn darlunio proffiliau o glogwyni a thir yn edrych o gyfeiriad y môr, sy’n awgrymu bod y siartiau wedi’u darparu’n gyntaf ar y môr gan ddefnyddio croestoriadau cwmpawd i ‘leoli’ nodweddion arfordirol amlwg.

Serch hynny, yn aml iawn roedd safon cywirdeb y ffurfwedd arfordirol yn druenus gan fod tuedd i or-ddarlunio’r nodweddion arwyddocaol tra bod ardaloedd eang o dopograffi fel pe baent wedi’u lluniadu’n ddiofal o’r golwg.  Dadleuai rhai y gellid esgusodi’r afluniadau hyn gan fod siartiau o’r fath wedi’u bwriadu ar gyfer llywio ym  mynedfeydd y porthladdoedd pwysig ac nid ar gyfer mordwyo cyffredinol.  Yn hyn o beth, roedd Waghenaer ond yn cadw at yr hyn oedd yn hen draddodiad wrth lunio siartiau.

Bu llwyddiant y gyfrol gyntaf hon yn ysgogiad i Waghenaer gyhoeddi’r ail ran yn 1586 a oedd yn cynnwys testun Lladin.  Dilynwyd hwn gan gyfieithiadau eraill.  Pan ddangoswyd yr atlas i’r Frenhines Elizabeth a’i Chyfrin Gyngor, cymaint fu’r effaith fel y penderfynwyd cyfieithu argraffiad 1586 i’r Saesneg, tasg a bennwyd i Anthony Ashley (1551-1628), Clerc i’r Cyfrin Gyngor. Yn 1588 ymddangosodd The Mariner’s Mirrour am y tro cyntaf yn y Saesneg ac ar unwaith profodd hwn eto yn boblogaidd.  Daeth yr atlasau yn wybyddus i’r Prydeinwyr fel y ‘Waggoners’, enw generig ar gyfer atlasau a siartiau môr a oroesodd am hydoedd ar ôl i The Mariner’s Mirrour gael ei ddisodli gan siartiau newydd Iseldiraidd.  Ar ôl hynny, cyhoeddodd Waghenaer fersiynau mewn fformat llai a mwy ymarferol.

 

 

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

Postiwyd - 24-08-2018

Casgliadau / Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Cyhoeddiadau Gwleidyddol

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, cyhoeddiadau gwleidyddol sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

Richard Price – A Discourse on the Love of our Country (1789)

Roedd Richard Price yn weinidog, athronydd ac yn gyfrifydd yswiriant. Caiff ei gofio’n bennaf fel traddodwr y bregeth enwog ‘A Discourse on the Love of our Country’ (1789); sef mynegiant o gefnogaeth tuag at egwyddorion y Chwyldro Ffrengig. Fe sbardunwyd pamffled gwleidyddol enwog Edmund Burke: ‘Reflections on the Revolution in France’ gan eiriau Price. Ystyrir y cyhoeddiad yn glasur erbyn heddiw. Wedi marwolaeth Richard Price ym 1791 fe gynhaliwyd cyfnod galaru swyddogol ym Mharis i’w anrhydeddu.

David Williams – Letters on Political Liberty, and the principles of the English and Irish projects of reform (1789)

Pamffledwr gwleidyddol oedd David Williams. Yn ei gyhoeddiad ‘Letters on Political Liberty’ y mae Williams yn cefnogi ac yn amddiffyn rhai o syniadau radicalaidd ymsefydlwyr Americanaidd, yn bennaf oll ynghylch diwygio ac ad-drefnu gwleidyddol. Cyfeiria hefyd at ei ddamcaniaeth bersonol am rôl seneddwyr gwleidyddol. Yn ei dyb, fe ddylai deiliaid y fath swyddi ymddwyn fel ymddiriedolwyr a gwarcheidwaid hawliau dynol. Magodd David Williams enwogrwydd yn Ffrainc. Dosbarthwyd ei gyhoeddiad ‘Letters on Political Liberty’ yn eang yno wedi iddo gael ei gyfieithu i’r Ffrangeg. Fe werthfawrogwyd y gwaith yn arbennig gan arweinwyr y Chwyldro a dyfarnwyd dinasyddiaeth Ffrengig i Williams.

John Jones (Jac Glan-y-gors) – Seren tan gwmmwl, neu ychydig sylw ar frenhinoedd, escobion, arglwyddi, &c. a llywodraeth Lloegr yn gyffredin. Wedi ei ysgrifennu er mwyn y Cymru uniaith (1795)

Cofir am Jac Glan-y-gors fel awdur dychanol; yr oedd hefyd yn geidwad tafarn nodedig. Yn ei bamffled ‘Seren tan gwmmwl’ trafoda’r awdur syniadau Thomas Paine drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gyflwyno ei ddamcaniaethau i gynulleidfa newydd. Yr oedd yn rhannu’r un egwyddorion a Paine ynghylch rhyfel, y frenhiniaeth, yr Eglwys Sefydledig, a hawliau dynol. Caiff y rhain oll eu trafod yn ‘Seren tan gwmmwl’. Yr oedd Jac Glan-y-gors yn aelod blaenllaw o gymdeithas Cymry Llundain ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a chydsefydlodd Cymdeithas y Cymreigyddion.

Unofficial Reform Committee – The Miners’ Next Step: being a suggested scheme for the reorganization of the Federation (1912)

Maniffesto ar ffurf pamffled yw ‘The Miners’ Next Step’ a ffurfiwyd ei gynnwys gan Bwyllgor Diwygio answyddogol. Daethpwyd a’r pwyllgor ynghyd gan Noah Ablett (glöwr ac arweinydd Undeb Llafur), yn ogystal ag A. J. Cook, Henry Mainwaring ac eraill. Maniffesto syndicalaidd ydyw, a rhoddwyd cryn gyhoeddusrwydd i’w gynnwys. Drwy ‘The Miners’ Next Step’ y mae’r pwyllgor yn ymgyrchu dros ddiwygiadau ym mherchnogaeth, rheolaeth a threfniant y pyllau glo, ceir cyfeiriad hefyd at greu undeb diwydiannol unigol a chynhwysfawr. Yn ogystal, cyflwynir y syniad y dylai’r diwydiant gael ei reoli a’i berchnogi gan weithwyr. Ysgogodd ‘The Miners’ Next Step’ trafodaethau dwys o fewn y maes diwydiannol ac mae’n hysbys heddiw am ei syniadau Syndicalaidd a Marcsaidd.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Postiwyd - 23-08-2018

Heb ei gategoreiddio

Golwg cyntaf ar wefan newydd y Bywgraffiadur

Mae’r Llyfrgell wedi rhoi mynediad i fersiwn Alffa o wefan newydd y Bywgraffiadur, gan roi cip o’r newidiadau y gallwn ddisgwyl eu gweld pan fydd yn cael ei lansio yn yr hydref.

Dyma gefndir y prosiect, crynodeb o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei weld ar y wefan Alffa, a sut y gallwch ein helpu gyda datblygiad y wefan newydd dros yr wythnosau nesaf.

Y Bywgraffiadur Cymreig

Mae gwefan y Bywgraffiadur Cymreig yn cynnwys bron i 5,000 o fywgraffiadau dynion a menywod sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd Cymru a thu hwnt. Ymddangosodd ar ffurf cyfrolau print yn gyntaf, ac mae eu cynnwys wedi bod ar gael trwy’r wefan ers ei lansiad yn 2003.

Trwy gydweithio rhwng Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol, a chefnogaeth Cymdeithas y Cymmrodorion, mae erthyglau newydd wedi’u hychwanegu i’r adnodd ers iddo droi yn ddigidol.

Y wefan bresennol

Mae gwefan bresennol y Bywgraffiadur yn galluogi defnyddwyr i:

  • chwilio yn ôl enw person
  • chwilio allweddair (holl destun yr erthyglau)
  • pori trwy gyfenwau’r unigolion sydd ynddo yn nhrefn y wyddor.

Mae erthyglau ar ffurf testun, gyda rhai ohonynt yn cynnwys darlun(iau) o’r unigolyn.

Mae gwerth a phwysigrwydd y Bywgraffiadur fel adnodd i Gymru a’i phobl wedi’i gadarnhau yn Nghynllun Strategol y Llyfrgell ar gyfer 2017-2021, Cof y Genedl: Llunio’r Dyfodol, a chanlyniad hynny yw’r prosiect hwn i ddiweddaru a diwygio’r wefan. Gwnaed y prosiect yn bosibl gyda chymorth ariannol Ymddiriedolaeth Colwinston a’r Llyfrgell Genedlaethol, a’n nod yw lansio’r wefan newydd yn nhymor yr hydref.

Beth sy’n wahanol am y wefan Alffa?

Prototeip yw’r wefan Alffa a’i phwrpas yw sicrhau bod ffwythiannau yn gweithio fel y dylent. Nid yw wedi’i wisgo â dyluniad newydd ar hyn o bryd, ac nid yw holl erthyglau’r wefan bresennol wedi’u hychwanegu iddi eto.

Er hynny, mae’r fersiwn hon yn cynnig rhai ffwythiannau newydd sydd werth eu nodi:

  • Dull mwy soffistigedig o chwilio sy’n nodi os yw enw wedi’i grybwyll mewn erthyglau eraill yn ogystal â bod yn destun erthygl ei hun.
  • Y gallu i hidlo eich canlyniadau yn ôl rhywedd, awdur yr erthygl, categori thematig ac iaith yr erthygl.
  • Y gallu i bori trwy awduron yr erthyglau er mwyn darllen eu cyfraniadau hwy yn unig.
  • Lle mwy amlwg ar y dudalen flaen i erthyglau newydd.
  • Cyflwyno erthygl nodweddol (featured article)
  • Blwch ‘ffeithiau allweddol’ yn yr erthyglau

Pa nodweddion newydd eraill allwn ni ddisgwyl eu gweld?

Bydd nodweddion newydd eraill yn cynnwys:

  • Deunydd fideo yn ogystal a darluniau
  • Dull o gasglu rhoddion/nawdd i’r Bywgraffiadur
  • Gwybodaeth ynglyn â sut i ddyfynnu erthyglau

Agwedd arall hanfodol o’r wefan newydd fydd sicrhau ei bod yn addasu yn effeithiol ar gyfer defnydd ar ffonau symudol.

Beth am ddyluniad newydd y wefan?

Mae’r dyluniad ar gyfer y wefan newydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mae dolenni i’r dyluniadau cychwynnol i’w cael ar dudalen flaen y fersiwn Alffa.

Y bwriad yw cyflwyno dyluniad sy’n fwy trawiadol a chyfoes yr olwg, tra hefyd yn cadw at y lliw coch cyfarwydd.

Sut allwch chi helpu?

Byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn dechrau gwneud defnydd o’r wefan Alffa, a rhoi gwybod i ni:

  • a oes unrhyw beth nad yw’n gweithio fel y dylai, neu fel y byddech yn ei ddisgwyl?
  • beth arall hoffech chi i wefan y Bywgraffiadur ei wneud?

Gallwch anfon eich sylwadau, awgrymiadau neu gwestiynau at ybc@llgc.org.uk neu gysylltu â ni trwy’r cyfrif Twitter @Bywgraffiadur

 

Dr Dafydd Tudur

Pennaeth Isadran Mynediad Digidol

Postiwyd - 20-08-2018

Casgliadau / Collections

Rhowch eich barn ar tanysgrifiadau printiedig Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae adolygiad cynhwysfawr o danysgrifiadau cyfnodolion print cyfredol yn cael ei gynnal gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r tanysgrifiadau hyn yn rhan gynyddol o gyllideb dderbynion y Llyfrgell a’u pris wedi codi’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn ogystal, oherwydd newid anghenion ein defnyddwyr, mae’r Llyfrgell yn cyfeirio mwy o’i chyllideb at adnoddau electronig ar-lein ac mae rhai o’r rhain yn darparu mynediad ar-lein i gyfnodolion.

 

 

Yn ystod yr adolygiad mae’r Llyfrgell wedi clustnodi nifer o gyfnodolion ar gyfer eu diddymu. Cyn symud ymlaen gyda hyn, bydd y Llyfrgell yn eu rhoi gerbron ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Os credwch y dylai’r Llyfrgell barhau i danysgrifio i gyfnodolyn sydd ar y rhestr, danfonwch ebost at alb@llgc.org.uk erbyn 20 Medi 2018. Defnyddir eich sylwadau i flaenoriaethu’r rhestr a bydd sylwadau cadarnhaol yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y bydd y Llyfrgell yn parhau i danysgrifio.

 

Archivio storico italiano

Boston Studies in the Philosophy of Science

Buxtehude Collected Works

Cahiers d’etudes hispaniques medieval

Camillo Cavour. Epistolario

Catalogues regionaux des incunables des bibliotheques publiques de France

Ergänzungsbände zu den Hauptschriften / Nikolaus Ludwig von Zinzendorf

Heinrich Schütz. New Edition of the Complete Works

Hermes. Einzelschriften

Heinrich Heine’s Sämmtliche Werke Heine, H.: Werke-Briefe-Lebenszeugnisse

Hindemith, Paul, 1895-1963. Works

Italia medioevale e umanistica

Josquin, des Prez. New edition of the collected works

Mnemosyne : bibliotheca classica batava

Polish Analytical Philosophy

Poznań Studies in the Philosophy of the Sciences and the Humanities

Recent Researches in the Music of the Nineteenth and Early Twentieth Centuries

Schriften zu Leben und Werk / Alfred Döblin

Société des Textes Français Modernes

Studi sul Boccaccio

 

Aled Betts,

Llyfrgellydd Derbyn

Postiwyd - 17-08-2018

Casgliadau / Collections / Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Cerddoriaeth

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, cerddoriaeth wedi’i gyhoeddi sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

Ann Griffiths (golygwyd gan Thomas Charles) – Casgliad o Hymnau: gan mwyaf heb erioed eu hargraffu o’r blaen (1806)

Cofir am Ann Griffiths fel bardd a lluniwr emynau. Mae ei chyfansoddiadau’n garreg filltiroedd pwysig yn hanes llenyddiaeth menywod. Yn y gyfrol hon ceir cofnod o’i gwaith cynharaf. Roedd Griffiths yn aelod ymroddgar o’r Gymdeithas Fethodistaidd a cheir cofnod o’i phrofiadau ysbrydol yn ei hemynau. Fel rhan o’r gred Fethodistaidd, anogwyd aelodau i ddatblygu perthynas personol â Duw a thrafodwyd y profiad hwnnw yn y seiat. Fe ysbrydolwyd Ann Griffiths gan ieithwedd ddwys y seiat, ynghyd a barddoniaeth werinol. Rhaid cofio mai cyfansoddwraig lafar ydoedd ac ni luniwyd ei hemynau ar gyfer dibenion cynulleidfaol. Er hynny, dysgodd ei morwyn, Ruth, ei gwaith ar gof a’u hadrodd yn y pendraw i’w gŵr – y pregethwr nodedig John Hughes. Cofnododd yntau gweithiau Ann Griffiths. Golygwyd ‘Casgliad o Hymnau’ gan Thomas Charles o’r Bala.

John Roberts (Ieuan Gwyllt) – Llyfr Tonau Cynulleidfaol (1859)

Roedd John Roberts yn weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ac yn gerddor nodedig. Ystyrir ei gyhoeddiad ‘Llyfr Tonau Cynulleidfaol’ yn garreg filltir allweddol yn natblygiad canu cynulleidfaol yng Nghymru. Gweithiodd yn ddiwyd am chwe blynedd ar y gyfrol cyn iddi gael ei chyhoeddi ym 1859.

John Owen (Owain Alaw) – Gems of Welsh Melody (1860)

Cerddor gwobrwyol oedd John Owen, neu Owain Alaw. Casgliad cynhwysfawr o ddarnau cerddorol poblogaidd a geir yn ei gyfrol ‘Gems of Welsh Melody’. Lledaenwyd y casgliad yn eang a bu’n adnodd defnyddiol iawn i lawer. Gellir canfod clasuron megis ‘Hên Wlad fy Nhadau’ ac ‘Ar hyd y Nos’ yn y casgliad.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: , ,

Postiwyd - 16-08-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Humphrey Llwyd y gŵr a roddodd Gymru ar y map


Ar 21 Awst 2018 bydd 450 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers marwolaeth un o wŷr pwysicaf cyfnod y Dadeni, Humphrey Llwyd o Ddinbych. I goffáu’r digwyddiad hwn bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n cynnal arddangosfa am Llwyd a’i waith.

Ganed Humphrey Llwyd yn 1527 yn Ninbych. Bu’n astudio yn Rhydychen a enillodd radd Meistr yn 1551. Yn 1553 aeth i weithio i Iarll Arundel a pharhaodd dan ei nawdd am weddill ei fywyd.
Mae’n ymddangos mai un o swyddogaethau Llwyd oedd casglu llyfrau ar gyfer llyfrgell Arundel yn ogystal ag ar gyfer Llyfrgell yr Arglwydd Lumely, mab yng nghyfraith Arundel, priododd Llwyd gyda’i chwaer. Yn y pen draw daeth y ddwy Lyfrgell, yn cynnwys rhai o lyfrau Llwyd ei hun, yn rhan o’r Casgliad Brenhinol sydd bellach yn y Llyfrgell Brydeinig.

Pan ddychwelodd Llwyd i Ddinbych cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol ar gyfer Bwrdeistrefi Dinbych yn 1563 ac yna helpodd i lywio’r Mesur ar gyfer cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg drwy’r Tŷ Cyffredin.

Yn 1566 aeth gydag Arundel ar daith ar y Cyfandir lle cafodd ei gyflwyno i Abraham Ortelius a daeth y ddau yn gyfeillion mynwesol. Ar ôl dychwelyd adref, ysgrifennodd Llwyd at Ortelius o leiaf ddwywaith yn darparu gwybodaeth am Gymru a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth gan Ortelius yn ei atlas Theatrum Orbis Terrarum, yn cynnwys y map o Gymru Cambriae Typus, y gwaith y mae’n fwyaf adnabyddus amdano. Yn ogystal â’i fapiau cynhyrchodd Llwyd nifer o weithiau am hanes Cymru na chafodd eu cyhoeddi tan ar ôl ei farwolaeth.


Y llythyr a ddangosir yma yw’r ei lythyr olaf at Ortelius, a ysgrifennwyd o’i wely angau, sy’n cynnwys un o’u weithiau gyda’r mapiau yr oedd wedi’u gwneud. Mae’n ymddiheuro nad yw ei waith mewn gwell trefn ac mae’n edifar nad oes ganddo ddigon o amser ar ôl i’w gwella, bu farw 18 diwrnod yn ddiweddarach. Mae’r llythyr, a gadwyd gan Ortelius, yn dyst i’r parch tuag at y Cymro hollddysgedig, a ddaeth yn un o’i edmygwyr pennaf.


Yn ystod ei fywyd fe’i disgrifiwyd fel “the most famous antiquarius of all our country” ac fe’i disgrifiwyd gan ei fywgraffydd Anthony Wood fel “a person of great eloquence, an excellent rhetorician, a sound philosopher, and a most noted antiquary, and a person of great skill and knowledge in British affairs.”

Mae enw da Llwyd fel un o wŷr blaenllaw cyfnod y Dadeni ac yn wir fel un o grewyr hunaniaeth Gymreig fodern wedi’i esgeuluso yn y blynyddoedd ers ei farwolaeth. Fe’i disgrifiwyd gan Saunders Lewis fel “un o ddyneiddwyr pwysicaf Cymru a ffigwr allweddol yn hanes y Dadeni yng Nghymru”.

Yn ddiweddar, fodd bynnag, mae cyfraniad Llwyd wedi cael ei werthfawrogi o’r newydd, mae prosiect parhaus dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn seiliedig ar ei waith “Humphrey Llwyd – Inventor of Britain”, a’r flwyddyn nesaf bydd canlyniadau’r prosiect hwn yn cael eu dangos ochr yn ochr ag arddangosfa fawr am Llwyd yma yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Cynhelir yr arddangosfa bresennol rhwng 20 a 31 Awst yn Ystafell Summers. Dewch draw i ddysgu mwy am y gŵr a roddodd Cymru ar y map.

Postiwyd - 10-08-2018

Casgliadau / Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Llyfrau Hanes

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, llyfrau hanes sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

Theophilius Jones – A History of the County of Brecknock (1805)

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg cyhoeddwyd amryw o destunau cynhwysfawr ar hanesion lleol yng Nghymru. Y mae’r gyfrol hon gan Theophilus Jones ymhlith y cofnodion mwyaf cywrain a chaboledig. Ar y cyfan, y mae’r cyfanwaith o safon ysgolheigaidd, er i ragfarnau amlwg dreiddio i’w gynnwys. Roedd Theophilus Jones yn ŵyr i’r hanesydd nodedig Theophilus Evans.

Thomas Price (Carnhuanawc) – Hanes Cymru, a chenedl y Cymry, o’r cynoesoedd hyd at farwolaeth Llewelyn Ap Gruffydd : ynghyd a rhai cofiaint perthynol i’r amseroedd o’r pryd hynny i waered (1842)

Yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymroddodd ysgolheigion Ewropeaidd (clerigwyr yn bennaf) eu hamser i gofnodi hanes a diwylliant cenhedloedd bychain a difreintiedig. Yng nghyd-destun Cymru, Carnhuanawc yw’r enghraifft amlycaf. Fe’i hysbrydolwyd yn bennaf gan Herder, athronydd Almaeneg, a fagodd enwogrwydd wrth ddadlau dros werth ac arwyddocâd diwylliannau bychain. Roedd y ddau’n rhannu’r un gred bod diwylliannau o’r fath yn cael eu gwarchod a’u cynnal gan haenau is, niferus, ond materol dlotach y gymdeithas. Ystyrir ‘Hanes Cymru’ fel prif gampwaith Carnhuanawc. Rhannwyd y gwaith yn bedwar cyfrol ar ddeg a chyhoeddwyd hwy rhwng 1836 a 1842. Rhaid nodi nad oedd gan Carnhuanawc afael gadarn ar ddyletswyddau’r hanesydd proffesiynol, serch hynny, ni fyddai gwaith cyfatebol i ‘Hanes Cymru’ yn ymddangos am rai blynyddoedd.

Jane Williams (Ysgafell) – A History of Wales derived from authentic sources (1869)

Ganwyd yr awdur a’r hanesydd Jane Williams yn Llundain. Treuliodd cyfnod o’i bywyd yn Aberhonddu, ac o ganlyniad, datblygodd cyfeillgarwch rhyngddi hi a’r noddwr diwylliannol enwog Augusta Hall, neu Arglwyddes Llanofer. Wedi hynny, magodd Jane Williams ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a dysgodd yr iaith. Cyhoeddodd lawer o gyfrolau pwysig, gan gynnwys ‘A History of Wales derived from authentic sources’ (1869). Yn y gyfrol honno ceir casgliad o’i gwaith mwyaf uchelgeisiol, ac er gwaethaf ei ddiffygion, ni ddisodlwyd ei gynnwys tan gyhoeddiad holl arwyddocaol Syr John Edward Lloyd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

John Edward Lloyd – A History of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (1911)

Cofir am John Edward Lloyd fel un o haneswyr mwyaf nodedig Cymru. Fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth a llwyddodd i ennill gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Goleg Lincoln, Rhydychen ym 1883.  Dilynodd gyrfa yn y maes academaidd – penodwyd ef yn ddarlithydd mewn Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1885 ac yn Athro Hanes yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ym 1899. Arbenigwr yn y cyfnod canoloesol ydoedd ac fe ysgrifennodd testunau cynhwysfawr ar hanes cynnar Cymru. Cyhoeddwyd ei gampwaith enwocaf: ‘A History of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest’ ar ffurf dwy gyfrol ym 1911. Roedd eu cynnwys yn unigryw oblegid fe’u lluniwyd drwy asesiadau beirniadol ac ymchwil wyddonol drylwyr. Ystyrir hwy heddiw fel trobwyntiau allweddol ym maes astudio Hanes Cymru. Cydnabuwyd ei gyfrolau fel gweithiau awdurdodol allweddol. Nid yw’n syndod felly bod rhai ysgolheigion wedi, ac yn cyfeirio at Syr John Edward Lloyd fel ‘tad’ astudiaeth Hanes Cymru.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Postiwyd - 09-08-2018

#CaruMapiau / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Dr Shaun Evans

Dr Shaun Evans yw Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, canolfan ymchwil i Gymru gyfan sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Bangor ac sy’n edrych ar faterion yn ymwneud â hanes, diwylliant a thirweddau Cymru drwy lygaid ei hystadau a’u casgliadau treftadaeth ddiwylliannol. @YstadauCymru

‘Dydi’r lle yma ddim digon mawr i’r ddau ohonon ni’ – beth sy’n digwydd ar ffiniau ystadau?

Mae fy nghyfraniad terfynol i’r gyfres o flogiau ar fapiau ystadau Cymreig yn canolbwyntio ar thema ffiniau. Fel y trafodwyd o’r blaen, roedd perchenogaeth tir yn rhan allweddol o hawliau’r uchelwyr Cymreig i statws, anrhydedd ac awdurdod. Roedd y cysylltiadau hyn rhwng tir a grym yn arwain yn aml at haeriadau cryfion ynghylch eu tiriogaeth gan berchenogion ystadau a dyna oedd un o’r prif ysgogiadau i gynhyrchu mapiau ystâd: cofnodion sy’n pwysleisio’n weledol leoliad, maint a chyfansoddiad tiriogaeth unigolion.

Comisiynwyd y mwyafrif llethol o fapiau ystadau i ddangos y tiroedd a oedd yn perthyn i un ystâd. Fel rheol, ni ddangosir fawr ddim manylion am dir nad oedd yn eiddo i’r unigolyn a gomisiynodd y map. Fodd bynnag, maent yn nodi’n aml pwy oedd yn berchen ar y tiroedd cyfagos, gan nodi enwau tirfeddianwyr cymdogol ar ymylon y tiriogaethau a farciwyd ar y map. Gwelir hyn yn arbennig os nad oedd yr ystâd dan sylw yn uned gyfan gyda’i gilydd, ond yn hytrach yn glytwaith o diroedd wedi’u cymysgu â daliadau ystadau eraill.

Y cwestiwn rwyf eisiau edrych arno yn y blog hwn yw beth oedd yn digwydd ar y ffiniau rhwng dwy ystâd?

Roedd ffiniau yn aml wedi’u nodi yn y tirwedd gan nodweddion ffisegol megis coed, afonydd, gwrychoedd, waliau a ffosydd. Ceir hefyd lawer o enghreifftiau yng Nghymru o gerrig ffiniau yn nodi ffiniau ystâd yn y tirwedd, megis ar y Mynyddoedd Du yn Sir Frycheiniog, lle gwelir llinell o gerrig o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn nodi ffiniau tiroedd teulu Macnamara o Llangoed Hall. Mewn rhai mannau ceid hefyd draddodiad o ‘guro’r terfynau’, lle roedd grwpiau o bobl leol yn cerdded o amgylch terfynau maenor neu blwyf, a thrwy hynny sicrhau bod y terfynau yn ddwfn yng nghof y boblogaeth leol.

Er gwaetha’r ceisiadau hyn i sicrhau terfynau, roeddent yn destun anghydfodau cyson, a allai’n aml arwain at achosion cyfreithiol.

Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir map sy’n canolbwyntio ar ffiniau dwy ystâd a oedd yn sefyll o amgylch rhan o Afon Cothi ym mhlwyf Cynwyl Gaeo yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n ymddangos i’r map gael ei gynhyrchu mewn ymateb i achos cyfreithiol a ddaeth gerbron Llys y Sesiwn Fawr yn 1778 gan John Johnes, sgweier Dolaucothi, yn erbyn William Davys o Kencoed (Cefn-Coed Mawr) yn ymwneud â ‘the watercourse’ ( Eaton Evans & Williams Solicitors Records, 3281, 7469).


Ymgais yw’r map i wahaniaethu rhwng y ddwy ystâd, gyda thiroedd Mr Johnes wedi’u hamlinellu mewn du a rhai Mr Davys mewn coch a gwyrdd (roedd y tiroedd mewn gwyrdd yn rhai a ddaeth i feddiant Mr Davys yn ddiweddar, a chyn hynny’n rhan o ystâd Millfield/Maesyfelin). Mae’r map yn dangos pa mor agos oedd y ddau dŷ ac er mai plasty Dolaucothi yn amlwg oedd yr adeilad gwychaf (gyda gerddi ffurfiol o’i amgylch ac adeiladau allan yn cynnwys ysgubor a melin), mae’r map yn rhoi’r argraff bod Kencoed yn rhy agos i fod yn braf. Roedd y ddwy ystâd yn ymyrryd â haeriadau tiriogaethol ei gilydd.

Mae llinell felen ar y map yn nodi’r terfyn rhwng y ddwy ystâd, sydd gan mwyaf yn dilyn llwybr yr afon, er bod dwy ran fechan, wedi’u nodi mewn glas, y cyfeirir atynt fel ‘unknown property’. Mae 28 o rifau wedi’u nodi ar y tiroedd sy’n ffinio’r afon ac mae’r rhain yn gysylltiedig â nodiadau ac eglurhadau ysgrifenedig ar ochr y map.

Yr hyn a ddaw i’r amlwg o’r nodiadau hyn yw bod y ddwy ystâd wedi bod yn gwneud defnydd helaeth o’r afon fel rhan o’u cynlluniau i reoli tir ac adnoddau. Cyfeiria dau o’r nodiadau at ‘the water diverted from its usual channel to Kencoed’ a ‘the trench made by Richard Davies about 30 years past to convey water to Kencoed’; tra cyfeirir hefyd at ‘the reservoir of water for watering Cae-cwm-yr-hen-dŷ Issa and other lands of Dolecothy demesne’ ac ‘a trench to convey water to Cae Rodyn & other lands of Dolecothy demesne in winter and spring for watering the same’.

Roedd ystadau Dolaucothi a Kencoed wedi ailgyfeirio neu sianelu’r afon i gwrdd â’u hanghenion, gyda nodiadau’n cyfeirio at y canlynol:

– ‘The place the water formerly divided, part going to the mill and the remainder thro Henberllan to Dolecothy mansion’;
– ‘The channel of the watercourse formerly in the upper part of Cae Rodyn and Cae Tŷ Bach’;
– ‘That part of the trench which conveyed the water by Waynnefain hedge, years past & upwards’;
– ‘A trench that formerly conveyed the water to Dolecothy’.

Fodd bynnag, nid oedd y cynlluniau’n gydnaws â’i gilydd, gan arwain at anghydfod ynghylch yr adnoddau dŵr. Mae un o’r nodiadau’n crybwyll ‘the new trench cut by Mr. Johnes and ye water diverted from thence by Mr. Davys’ servants to the ancient channel’; ac mae eraill yn cyfeirio at ‘the trench that conveys the water in dispute to Kencoed’ a ‘the trench for conveying the water in dispute to water Cae-cwm-yr-hen-dŷ Issa and other lands at Dolecothy demesne.’ Yn ogystal â’r anghydfod ynghylch y dŵr, roedd y gwahanol gynlluniau a oedd wedi arwain at ailgyfeirio’r afon wedi symud, neu o leiaf gymhlethu, y terfyn rhwng y ddwy ystâd, gydag un o’r nodiadau’n cyfeirio at ‘the piece of land in dispute’.

Ni wyddys beth oedd canlyniad yr achos yn y Sesiwn Fawr, er bod y map yn rhoi’r argraff nad oedd yr ardal yn gallu cynnal honiadau’r ddwy ystâd gymdogol. Nid yw’n syndod efallai i Kencoed a’r tiroedd o’i gwmpas gael eu prynu gan ystâd Dolaucothi yn 1856 (Dolaucothi Estate Records, 179). Roedd agosrwydd Kencoed i’r ystâd fwy, yn ogystal â’r gystadleuaeth roedd yn ei achosi o ran defnyddio’r afon, yn ysgogiad sylweddol i gyfuno’r ddwy ystâd, gan lyncu’r tiroedd a dod â hwy o fewn cylch awdurdod Dolaucothi.

Dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn bwriadu hyrwyddo ymchwil bellach i gasgliadau Cymru o fapiau ystadau. I gael gwybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, newyddion a digwyddiadau, anfonwch e-bost at iswe@bangor.ac.uk i danysgrifio i’n rhestr ohebu.

Postiwyd - 06-08-2018

Gwasanaethau Darllenwyr

5 Adnodd i Chwilio Hanes Tŷ

Bydd y ffynonellau a rhestrir yma o bosib yn cynnwys tystiolaeth o fodolaeth adeilad ac nid o reidrwydd dyddiad yr adeiladwaith gwreiddiol nac ychwaith newidiadau dilynol. Cofiwch yr ail-adeiladwyd tai yn aml ar safle cyfagos gan ddefnyddio’r un enw neu gall adeiladau dilynol ar yr un safle cael ei hail-enwi neu ail-rifo.

1. Mapiau
Cartref i’r casgliad cartograffeg fwyaf yng Nghymru ac un o’r rhai mwyaf ym Mhrydain, mae gan y Llyfrgell ystod eang o fapiau a chynlluniau – Arolwg Ordnans, mapiau hynafiaethol, mapiau ystâd, catalogau arwerthiant, dyluniadau pensaernïol a mapiau a rhestrau pennu degwm. Ceir copïau digidol o’r mapiau a rhestrau pennu degwm a mapiau mwy modern ar wefan Lleoedd Cymru  Gellir chwilio am y mwyafrif drwy ein catalog

2. Cyfrifiad a Chofrestr 1939
Ceir cyfrifiad bob 10 mlynedd ers 1841, heblaw 1941, gan roi ciplun o bwy oedd yn byw mewn adeilad ar adeg y cyfrifiad. Cyfrifiad 1911 yw’r un diweddaraf sydd ar gael, mae Cofrestr 1939 yn rhoi gwybodaeth am drigolion ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd. Ceir mynediad am ddim i rain o fewn y Llyfrgell trwy Findmypast ag Ancestry.

3. Cofnodion Ystâd
Gall adeilad fod yn haws i’w olrhain os yn rhan o ystâd gan luniwyd cofnodion wrth weinyddu’r ystâd – llyfrau rhent, arolygon, gweithredoedd, morgeisi a phrydlesi. Dylid chwilio’r catalog am wybodaeth ar gyfer daliadau’r Llyfrgell.

4. Gweithiau Print
Ceir manylion pellach am drigolion adeiladau mewn llyfrau hanes lleol, cyfarwyddiaduron, llyfrau tywys a chofrestri etholiadol yn dyddio yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan roi cliwiau pwy oedd yn byw ymhle, gellir defnyddio’r wybodaeth ar y cyd â thystiolaeth ddogfennol arall i ddarganfod mwy am y trigolion. Gellir chwilio’r catalog i ddod o hyd i ddaliadau’r Llyfrgell.

5. Papurau Newydd
Mae gan y Llyfrgell gasgliad digidol o bapurau newydd Cymreig ar-lein yn rhad ac am ddim hyd 1919, gall y tudalennau cynnwys mwy o fanylion am drigolion, hanes adeilad ynghyd a hysbysebion a manylion gwerthu eiddo. I ddechrau chwilio ewch i wefan Papurau Newydd Cymru Arlein

Dim ond ychydig o adnoddau yw’r rhain sydd ar gael i’ch helpu i chwilio am hanes tŷ. Am fwy o wybodaeth cymrwch olwg ar ein taflen Ffynonellau Olrhain Hanes Tai

Beryl Evans
Rheolwr Gwasanaethau Ymchwil ac Ymgysylltu

← Older Posts Newer Posts →

Categorïau

Chwilio

Archives

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog