Blog

Postiwyd - 07-12-2018

#CaruMapiau / Collections

Dyfroedd Cymru, Dyfroedd y Byd

Yn y Blog hwn, yr olaf ar y thema ‘Blwyddyn y Môr’, rydym yn bwrw golwg dros gasgliad y Llyfrgell o siartiau morol sy’n dyddio o 1800.

Prif bwrpas siartiau yw hwyluso mordwyo a dylent gynnwys gwybodaeth glir, gywir a chyfoes a fyddai’n helpu i gynllunio, amlinellu a chanfod cwrs diogel.  Mae siartiau hefyd yn rhoi gwybodaeth i ymchwilwyr am yr amgylchedd morol ac arfordirol, boed naturiol neu o wneuthuriad dyn, fel yr oedd yn y gorffennol ac fel y mae heddiw.

O ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, y Prydeinwyr oedd yn arwain y ffordd fel gwneuthurwyr siartiau.  Dros amser, o ganlyniad i ddatblygiadau technolegol cafodd gwell siartiau eu cynhyrchu a oedd yn datgelu diofalwch a chamgymeriadau cynharach. Mae’r siart a ddangosir yma er enghraifft, sef siart Sir Benfro 1812 yn nodi cywiriadau i arolwg blaenorol Lewis Morris tra bod siart 1857-1859 yn gofnod manwl ac astrus o’r môr a’r arfordir fel ei gilydd.

O dipyn i beth, disodlwyd mentrau preifat Prydeinig gan waith Swyddfa Hydrograffeg y Morlys, yr UKHO, a gafodd ei sefydlu yn 1795 i ateb gofynion y Llynges Frenhinol yn anad dim.  Mae’r UKHO yn dal yn un o sefydliadau hydrograffeg bwysicaf y byd a’i siartiau’n cael eu cyflenwi’n helaeth i lyngesau, llongau masnach a’r cyhoedd.

Mae mwy na 15,750 o siartiau electronig UKHO ar gael ar hyn o bryd er mai dim ond copïau o’u 3,500 argraffiad dalen y mae’r Llyfrgell yn eu derbyn trwy adnau cyfreithiol.  Mae 12,000 o siartiau modern y Llyfrgell yn cwmpasu lleoliadau ledled y byd ac fe’u derbynnir yn bennaf oddi wrth yr UKHO, ynghyd â’u rhifynnau cysylltiedig gan gynnwys Notices to Mariners a’r Llyfrau Peilot.

 

O blith y casgliadau atodol y mae siartiau Fflyd y Morlys a oedd ond ar gael yn wreiddiol i’r Llynges Frenhinol, a rhai cyhoeddiadau diweddar o Awstralia, Seland Newydd, Unol Daleithiau’r America, Canada, Yr Ariannin ac ynysoedd y Philippines.

Er yn llai niferus, ceir siartiau a luniwyd yn wreiddiol gan gyhoeddwyr masnachol Prydeinig ac mae eu siartiau hwy o ddyfroedd y famwlad a thramor yn anelu at y byd hamdden a physgotwyr. Gellir cael mynediad i’r casgliad trwy gatalog ar-lein y Llyfrgell a chatalog yr UKHO.

Mae casglwyr mapiau byth a hefyd yn datgan nad yw siartiau modern mor esthetig ddeniadol â’u rhagflaenwyr hynafol lle’r oedd angenfilod a môr-forynion yn ymddangos yn rheolaidd. Serch hynny, y siartiau cyfoes sy’n cynnwys yr wybodaeth fwyaf perthnasol, cywir a diamwys am yr amgylchedd morol.  Maent yn hollbwysig i  warchod bywydau ar y môr ac mae angen talu sylw iddynt wrth hwylio’r moroedd. Defnyddiwch yr wybodaeth hon, sy’n ffrwyth profiad, yn ddoeth a pheidiwch byth ag anghofio’r dyfyniad morwrol ‘Gall gwrthdrawiad ar y môr ddifetha eich diwrnod cyfan’.

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

Postiwyd - 27-11-2018

Collections

Archif y Coleg ‘Ail-gyfle’

Am bron i 100 mlynedd roedd Coleg Harlech yn un o brif ganolfannau addysg i oedolion yng Nghymru. Sefydlwyd yn 1927 gan Thomas Jones CH (oedd yn ysgrifennydd y cabinet i David Lloyd George a Stanley Baldwin) bwriad y coleg oedd cynnig addysg i oedolion, yn arbennig y rhai oedd heb gael y cyfle i fanteisio ar addysg. Daeth myfyrwyr o bob rhan o Gymru, ac aeth nifer o gyn-fyfyrwyr y coleg ymlaen i chwarae rôl bwysig ym mywyd y genedl.

Yn dilyn cau’r coleg yn 2017, dechreuodd y Llyfrgell drafodaethau gydag Addysg Oedolion Cymru i sicrhau bod archifau’r sefydliad yn cael eu gwarchod. Mae’r archifau yn nodi hanes y sefydliad pwysig gyda dogfennau fel adroddiadau blynyddol, cofnodion y cyngor, gohebiaeth, ffotograffau, cofrestrau a phrosbectysau. Mae copïau o gynlluniau ar gyfer y safle, a chofnod o fywyd pob dydd y myfyrwyr trwy gyhoeddiadau a gohebiaeth corff y myfyrwyr. Er i lyfr ar 50 mlynyedd cyntaf y Coleg gael ei gyhoeddi yn 1977, rwy’n siŵr bod digon o ddeunydd yn yr archif ar gyfer  astudiaethau pellach.

Mae’r archif yn un fawr a fydd mwy na thebyg yn llenwi dros 100 bocs archifol, felly buasai ei bacio a’i symud yn dipyn o her, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau gorau. Yn anffodus, roeddwn wedi trefnu i’w casglu ar ddydd Iau 20fed a dydd Gwener 21ain Medi – sef adeg Storm Bronagh! Roeddwn wedi ymweliad a’r safle o flaen llaw i wneud paratoadau ar gyfer symud y casgliad; cofnodi beth oedd yno, bocsio, rhoi mewn un lle ar gyfer casglu. Roedd hefyd yn gyfle i gasglu gwybodaeth am y safle – lle i gael y fan a sut byddwn yn symud y casgliad o’r adeilad, gan nodi unrhyw risiau er enghraifft.

Felly, yng nghanol y glaw trwm a’r gwyntoedd cryfion, dyna ni yn llwytho’r bocsys a’u symud i’r Llyfrgell. Roeddwn ni wedi mynd a gorchuddion i amddiffyn y bocsys rhag y glaw wrth symud i’r fan felly er bod yr archif wedi cadw’n sych, nid oedd hynny’n wir am y staff!

Roedd angen dwy daith i Harlech i gasglu’r archif i gyd, ac erbyn yr ail ddiwrnod, roedd llifogydd wedi cau’r bod dros Afon Dyfi ym Machynlleth felly aethom ar daith trwy Glantwymyn a Mallwyd. Erbyn y daith gartref roedd llifogydd ar y ffordd yna hefyd, ac er bod rhai cerbydau yn mynd trwy’r dŵr, doeddwn ni ddim yn fodlon gwneud hynny rhagofn i ni droi’r archif yn slwsh! Felly, gwiriad arall – trwy Gaersws a Llangurig y tro hwn!

Roedd Coleg Harlech hefyd yn gartref i lyfrgell arbennig, yn cynnwys casgliad sylweddol o lyfrau gwleidyddol. Nid oedd modd i ni gymryd y llyfrgell gyda’r archif – mae copïau o’r llyfrau ar gael hefyd yn y Llyfrgell Genedlaethol eisoes – ond fel rhan o’r archif rydym wedi cadw copi o gatalog y llyfrgell. Felly, mae 120 llyfr bach sy’n nodi cynnwys y llyfrgell fesul awdur a fesul lleoliad nawr gyda’r archif ac yn galluogi ymchwilwyr i weld maint a chynnwys y llyfrgell arbennig.

Erbyn hyn mae’r archif yn ddiogel yn y Llyfrgell ac rydym yn bwriadu mynd ati i’w trefnu a’i chatalogio yn y flwyddyn newydd fel bod modd i fwy o waith ymchwil gael ei wneud ar hanes a chyfraniad ‘coleg ail-gyfle’ Cymru.

 

Rob Phillips
Pennaeth Archifau a Llawysgrifau

Tagiau: ,

Postiwyd - 19-11-2018

Casgliadau

Datgloi Hanes Cuddiedig y Rhyfel Mawr

I gyd-redeg â chofio canmlwyddiant y Cadoediad, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LLGC) wedi cyhoeddi ar ei wefan Cofnodion Tribiwnlysoedd Apêl Rhyfel Mawr Sir Aberteifi.

Daeth consgripsiwn i rym ym mis Ionawr 1916 trwy’r Ddeddf Gwasanaeth Milwrol; roedd y ddeddf yn gorfodi pob oedolyn gwryw i gofrestri ar gyfer gwasanaeth milwrol,  oni bai bod ganddynt dystysgrif i’w heithrio.  Medrau dynion wneud cais i dribiwnlysoedd o gynghorwyr lleol i gael eu heithrio ar sail un o’r amgylchiadau canlynol:

  • Bod y dyn yn cyflawni swydd o bwysigrwydd cenedlaethol;
  • Bod y dyn yn hyfforddi ar gyfer swydd o bwysigrwydd cenedlaethol;
  • Caledi teuluol neu ariannol; neu
  • Wrthwynebiad cydwybodol.

Nid oedd aelodau’r tribiwnlysoedd lleol wedi eu hyfforddi ac roedd ei penderfyniadau yn anghyson iawn; o ganlyniad, sefydlwyd tribiwnlysoedd sirol i ddyfarnu ar achosion ble roedd dynion yn apelio yn erbyn penderfyniad y tribiwnlys lleol.   Yn 1921, gorchmynnodd y Llywodraeth y dylid dinistrio holl gofnodion y tribiwnlys sirol; serch hynny goroesodd cofnodion Sir Aberteifi ac fe’u cyflwynwyd i LlGC yn 1924 gan George Eyre Evans a Sgt. Major Thomas Richard Fear (sefydlydd yr ‘Aberystwyth Comforts for Fighters Fund).      Nawr mae’r archif yn gwbl unigryw yng Nghymru, ac yn un o’r ychydig o’i fath sy’n bodoli yn y Deyrnas Unedig.

Byddai cwblhau’r ffurflenni ‘Application for Exemption’ uniaith Saesneg wedi bod yn her aruthrol i’r werin Gymraeg; byddai’n rhaid dibynnu yn aml ar eu cyflogwr neu ar aelod hyddysg o’r gymuned i lenwi’r ffurflen ar eu rhan.  Mae’r wybodaeth o fewn y Cofnodion yn cynnig darlun o amgylchiadau personol yr ymgeisydd, yn ogystal ag effaith consgripsiwn ar gymunedau gwledig.

Er enghraifft, yn Ebrill 1916, mae Davies & Edwards, Masnachwr Ŷd a Blawd, Pobydd a Siopwr yn Mile End, Llambed, yn cyflwyno cais am eithriad ar ran Thomas Davies Evans, fel a ganlyn:- “Thomas Davies Evans is the only male servant employed by us. He does the carting of incoming and outgoing Grain Stuffs, and has to handle generally every day a considerable number of Sacks of Flour (280 lbs), Maize (240 lbs), and other heavy grain; cart and deliver the same to Cottages and Farms up to a distance of about 10 miles from Lampeter.  Having regard to the heavy and arduous nature of grain handling, and also to the Compensation Acts, a man of his capacity is absolutely indispensable to our Grain trade.  We maintain that by delivering Foodstuffs he supplies essential domestic needs of the district.”

Mae’r tribiwnlys lleol yn penderfynnu y dylid eithrio’r gŵr am 3 mis, gan nodi:- “Davies and Edwards state that they cannot carry on the business of grain and corn merchants without the aid of this man, as they have failed to find a substitute, and under the circumstances we thought that they ought to have at least two or three months to disperse of that branch of their business, which they state is about two-thirds of their whole business.”

Yn fuan wedyn, mae Llewelyn Bankes Price, Cynrychiolydd Milwrol yr ardal, yn gwrthwynebu’r penderfyniad gan nodi:- “that no serious hardship would ensue if this man were called up for Army service”.

Yn gyson â chanlyniad y mwyafrif o apeliadau, mae’r tribiwnlys sirol yn dyfarnu ym Mai 1916 – “that the man be not exempted”.  Mae Thomas Davies Evans yn gadael ei gartref yn Llambed i wasanaethu gyda’r Peirianwyr Brenhinol; yn anffodus, ni ddaw yn ei ôl.  Gellir olrhain ei ffawd trwy chwilio Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru, a drawsgrifiwyd yn ddiweddar fel rhan o’r rhaglen ‘Cymru Dros Heddwch’.

Digideiddiwyd Cofnodion Tribiwnlysoedd Apêl Rhyfel Mawr Sir Aberteifi a’u cyflwyno i’r cyhoedd ar adnodd cyfrannu torfol ar-lein a ddatblygwyd yn ddiweddar gan LlGC; bu aelodau staff LlGC hefyd yn ymweld â chymdeithasau yn y gymuned i hyfforddi eu haelodau ar sut i ddefnyddio’r adnodd ar-lein i drawsgrifio a mynegeio’r cofnodion.  Erbyn hyn, diolch i ymroddiad dros 200 o wirfoddolwyr, gellir chwilio’r cofnodion yn ôl enw, cyfeiriad, dyddiad ac ati.

I weld Cofnodion Tribiwnlysoedd Apeliadau Rhyfel Mawr Sir Aberteifi, ewch i adran Archifau yr Oriel Ddigidol ar www.llyfrgell.cymru

Gwyneth Davies
Cydlynydd Gwirfoddolwyr

Tagiau: , ,

Postiwyd - 16-11-2018

#CaruMapiau / Collections

Y Rhyfel Mawr mewn mapiau

Wrth gofio Canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad, efallai ei fod yn amserol tynnu sylw at fapiau’r Llyfrgell sy’n gysylltiedig â brwydrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, trychineb lle collwyd 20 miliwn o fywydau, tua 40,000 ohonynt yn Gymry.

Mae atlasau a mapiau rhyfel niferus y Llyfrgell yn dangos blaen y gad, ffosydd a pharaffernalia milwrol eraill, effaith geowleidyddol y rhyfel o ran newid ffiniau gwleidyddol, cynlluniau ailddatblygu ar ôl y rhyfel a hyd yn oed gemau rhyfel yn seiliedig ar fapiau ar gyfer y milwyr. Mae’r mapiau o darddiad milwrol a sifil, cyhoeddwyd yr olaf i roi gwybodaeth i’r cyhoedd a rhoi hwb i forâl.

Mae tua dau gant o fapiau wedi’u digido fel rhan o raglen Canmlwyddiant y Rhyfel gan y Llyfrgell. Ymysg y ddwy enghraifft yma mae mapiau o Ymgyrch aflwyddiannus Gallipoli – oedd yn gysylltiedig â mapiau anghywir oedd yn cynnwys yn rheolaidd wybodaeth wedi dyddio a gasglwyd yn ystod Rhyfel y Crimea.

Mae casgliad Gallipoli yn cynnwys mapiau cyfoes Swyddfa’r Rhyfel fel y ddwy enghraifft sy’n dangos amddiffynfeydd Ottoman ar ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch a map diweddarach o safleoedd ANZAC, ynghyd â thaflenni a gyhoeddwyd yn fasnachol.

 


Parhaodd ymgyrch y Cynghreiriaid ar benrhyn Gallipoli yn Nhwrci, sy’n cael ei adnabod fel Ymgyrch Gallipoli neu Dardanelles, o Ebrill 1915 hyd at Ionawr 1916. Yma, ymunodd lluoedd Ymerodraeth Prydain â lluoedd Ffrainc yn erbyn Ymerodraeth Ottoman mewn ymgais aflwyddiannus i helpu Rwsia i dorri trwodd ar flaen y gad trwy agor llwybr i longau ar y Môr Du gan fod tywydd garw a chryn bellter yn rhwystro ac yn effeithio ar Rwsia.

Arweiniodd y methiant gan y llynges yng Nghulfor y Dardanelles ar ddechrau 1915 at ymosodiad mawr ar y tir ar 25 Ebrill gan luoedd Prydain a Ffrainc ynghyd â Chorfflu Byddin Awstralia a Seland Newydd neu luoedd ANZAC. Glaniwyd yn ddiweddarach ym Mae Suvla ar 6 Awst.

Yn sgil diffyg gwybodaeth y Cynghreiriaid, diffyg penderfyniadau ac oedi, ynghyd â brwydro chwyrn gan Ymerodraeth Ottoman, ni chafwyd llawer o lwyddiant na chynnydd a bu llawer o golledion. Yn Rhagfyr 1915 awdurdododd Prydain y milwyr i ddechrau gadael y wlad, a daeth y brwydro i ben yn ystod y mis Ionawr canlynol.

 

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

Postiwyd - 13-11-2018

Casgliadau

Archwiliwch eich Archif: UNESCO yn agor drysau i Drysorau’r Llyfrgell

Ymgyrch sy’n cael ei harwain gan y Gymdeithas Archifau a Chofnodion yw Archwiliwch Eich Archif, er mwyn codi ymwybyddiaeth o archifau ledled y DU ac Iwerddon. Bydd yr ymgyrch, sy’n rhedeg trwy’r flwyddyn, yn cael ei lansio yng Nghymru yng Ngwasanaeth Archifau Gwynedd ar 16eg o Dachwedd. Mae’r Llyfrgell yn cyfrannu at yr ymgyrch trwy ganolbwyntio ar y pum eitem sydd wedi’u cofrestru ar Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol gan UNESCO.

Sefydlodd UNESCO Raglen Cof y Byd yn 1992 i dynnu sylw at werth y dreftadaeth ddogfennol fel adlewyrchu a hyrwyddo dealltwriaeth o gof a hunaniaeth genedlaethol, ac ar gyfer bod yn sail i lywodraethu a datblygu cynaliadwy da. Dywed UNESCO y dylai treftadaeth ddogfennol y byd berthyn i bawb, a bod ar gael i bawb yn barhaol heb rwystr.

Ers ei sefydlu, mae’r Llyfrgell wedi ymrwymo i gasglu, diogelu a rhoi mynediad at bob math a ffurf ar wybodaeth gofnodedig, yn enwedig mewn perthynas â Chymru a Chenedl y Cymry a phobloedd Celtaidd eraill, er budd y cyhoedd, gan gynnwys y rhai sy’n ymroi i ymchwil a dysg. Bob dydd yn ystod wythnos yr ymgyrch, bydd y Llyfrgell yn canolbwyntio ar un o’r eitemau a gofrestrwyd a’i hyrwyddo drwy Twitter. Bydd cyflwyniadau hefyd am stori darganfod y ffilm The Life History of Lloyd George, ac am waith Adran Gadwraeth y Llyfrgell. Gallwch archebu tocynnau trwy wefan y Llyfrgell.

Postiwyd - 06-11-2018

Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Darlith Flynyddol Yr Archif Wleidyddol Gymreig 2018

Nos Wener ddiwethaf, yr 2il o Dachwedd, traddodwyd Darlith Flynyddol Yr Archif Wleidyddol Gymreig gan Y Parchg Ddr D. Ben Rees yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Teitl ei ddarlith oedd ‘Camp Aneurin; y Gwasanaeth Iechyd Gwladol’.

Bu’r ddarlith hon yn gyfle i nodi 70 mlynedd ers sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac i gydnabod camp aruthrol Aneurin Bevan yn hyn i gyd. Gyda’r tocynnau wedi’u gwerthu allan cyn y noson, cafwyd darlith benigamp gyda D. Ben Rees yn olrhain perthynas y Gweinidog Tai, Iechyd a Llywodraeth Leol â Chymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar a roddodd iddo weledigaeth sosialaidd i greu Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Dyma’r ddeuddegfed ddarlith ar hugain mewn cyfres adnabyddus a sefydlwyd ym 1987. Mae’r darlithwyr blaenorol yn cynnwys Yr Arglwydd Kenneth O. Morgan, Yr Arglwydd Roberts o Gonwy, Yr Athro Angela V. John a Menna Richards.

Er ei fod wedi treulio’r hanner can mlynedd diwethaf yn Lerpwl, brodor o Landdewi Brefi, Ceredigion yw’r Dr Rees, ac mae’n un o bregethwyr amlycaf ei enwad. Yn ogystal â hyn, mae’n ddarlithydd a darlledwr adnabyddus, ac yn awdur ar dros 70 o gyhoeddiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cyhoeddodd fywgraffiad yn y Gymraeg i Jim Griffiths yn 2014, a bu i’r gyfrol honno lenwi bwlch arbennig gan iddi gwmpasu, am y tro cyntaf yn y Gymraeg, fywyd a gyrfa un o wleidyddion Cymraeg bwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif ac Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru. Daeth y chwaer gyfrol i’r cofiant hwnnw i olwg y cyhoedd haf y llynedd, sef cofiant cynhwysfawr i un arall o gewri gwleidyddol Cymru’r ugeinfed ganrif, sef Cofiant Cledwyn Hughes.

Cafwyd cwestiynau diddorol a thrafodaeth fuddiol iawn yn dilyn y ddarlith a chynigiwyd pleidlais o ddiolch gan Rhys Evans, Pennaeth Strategaeth ac Addysg BBC Cymru, sy’n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Yr Archif Wleidyddol Gymreig a gyfarfu ynghynt y prynhawn hwnnw.

Mae’r ddarlith wedi’i chyhoeddi erbyn hyn ar dudalennau’r Archif Wleidyddol Gymreig (ynghyd â darlithoedd y pymtheng mlynedd diwethaf) ar wefan y Llyfrgell, a cheir recordiad ohoni yn rhan o Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

D. Rhys Davies
Archifydd Cynorthwyol Yr Archif Wleidyddol Gymreig

Tagiau:

Postiwyd - 27-10-2018

#CaruMapiau / Collections

‘Pagoda pren ac asbestos’ Dylan a helynt Capten Killick

Mae’r Llyfrgell yn ddiweddar wedi prynu dyluniad pensaernïol o fyngalo Dylan Thomas, Majoda yng Nghei Newydd, Ceredigion. Bu’r bardd yn byw yn Majoda o 1944 i 1945 lle cafodd ei ysbrydoli i greu a dechrau ysgrifennu Under Milk Wood. Yma hefyd y llwyddodd i hyrwyddo ei enw da ymhell ac agos – a pha well hwb i unrhyw gymuned ôl-ryfel, ddiflas o ddistaw, na’r preswylydd Dylan Thomas i sirioli pawb a phopeth?

 

 

Mae’r cynllun yn gysylltiedig ag anfadwaith a ddigwyddodd yn Majoda ar noson y 6ed o Fawrth 1945 pan ymddangosodd Capten William Killick, Comando Gweithredol Gweithrediadau Arbennig (SOE) oedd hefyd yn gymydog a chyn-gyd-lymeitiwr i Dylan, gyda gwn sten a grenâd llaw yn ei feddiant. Saethodd at y byngalo lle’r oedd Dylan a’i deulu yn bresennol ar y pryd gyda thri o’u ffrindiau. Doedd dim taniwr ynghlwm wrth y grenâd a chafodd neb anaf wrth lwc. Arweiniodd y cythrwfl at achos llys yn Llanbedr Pont Steffan ac ymddangosodd yr hanes ym mhrif bapurau newydd y dydd a chafodd ei bortreadu yn y ffilm rannol-fywgraffyddol The Edge of Love yn 2008.

 

Roedd Captain Killick, ac yntau newydd ddychwelyd o frwydro yng ngwlad Groeg, yn bwrw’i lid yn dilyn tensiynau rhyngddo ef a Dylan, megis y berthynas rhwng Dylan a gwraig y Capten, Vera a oedd yn ffrind bore oes Dylan ers eu magwraeth yn Abertawe.

 

Cafodd y cynllun ei gomisiynu oddi wrth bensaer o Aberystwyth, yn benodol ar gyfer yr achos llys. PC Islwyn Williams oedd y ‘Plismon Pentref’ a ymchwiliodd i’r digwyddiad ac mae’r nodiadau a wnaed ganddo ef mewn pensil i’w gweld ar gefn y cynllun hwn.  Mae’r nodiadau hyn yn disgrifio’r hyn a welodd ef yn y fan a’r lle – yn bennaf lleoliad tyllau’r bwledi.

 

Bu’r Capten Killick yn ffodus o gael ei ryddhau o bob cyhuddiad gan gynnwys ymgais i lofruddio. Yn y llys a’r gymuned leol yn ogystal dangoswyd rhywfaint o gydymdeimlad tuag at y milwr a oedd wedi goroesi sawl ymgyrch filwrol tra pheryglus y tu ôl i rengoedd y gelyn, ac yn wir cafodd ei ddisgrifio gan yr SOE fel un a chanddo ‘gofnod gweithredol ardderchog’.

 

 

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

Postiwyd - 17-10-2018

Casgliadau / Sgrin a Sain

Datgloi Ein Treftadaeth Sain

Prosiect pum mlynedd yw Datgloi Ein Treftadaeth Sain sy’n cael ei arianu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a’i arwain gan y Llyfrgell Brydeinig. Mae’r prosiect yn rhan o raglen ‘Amddiffyn ein Sain’ sydd â’r bwriad o amddiffyn, cadw a darparu mynediad i recordiadau Sain y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd deg Canolfan rhwydweithio Cadwraeth Sain ar draws y Deyrnas Unedig ac yn derbyn nawdd am dair blynedd, i ddelio gyda’r bygythiad sy’n wynebu recordiadau sain. Y sefydliadau yw:

 

  1. Amgueddfa Genedlaethol Gogledd Iwerddon
  2. Archives + Manceinion
  3. Archifdy Norfolk
  4. Llyfrgell Genedlaethol yr Alban
  5. Prifysgol Leicester
  6. The Keep, Brighton
  7. Archifdy ac Amgueddfa Newcastle
  8. Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  9. Archifdy Metropolitan Llundain
  10. Bristol Culture

 

 

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddigido a chadwraeth recordiadau sain prin ac unigryw, y rhai sydd o dan fygythiad o ddirywiad ffisegol, a’r rhai sydd mewn perygl o’u colli oherwydd nad yw’r peiriant chwarae ar gael.

Bydd y Llyfrgell Brydeinig yn arwain y prosiect drwy rannu sgiliau, rhoi cymorth i’r hybiau er mwyn diogelu ein casgliadau sain prin, gan alluogi’r cyhoedd i gael mynediad iddynt.

Erbyn 2021 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido, gofalu a chreu mynediad i recordiadau sain prin ac unigryw allan o gasgliadau eu hunain ac o gasgliadau partneriaid ar draws Cymru.

Defnyddir y recordiadau sain mewn gweithgareddau dysgu ac ymgysylltu, gan godi proffil casgliadau Archifau Sain y Deyrnas Unedig. Erbyn diwedd 2021 bydd mwy o bobl wedi ymrwymo â deunydd sain a bydd gwefan newydd yn galluogi gwrandawyr i wrando ac archwilio detholiad o recordiadau ar lein.

 

Alison Lloyd Smith

Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain

 

 

 

Postiwyd - 15-10-2018

Casgliadau / Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Llawysgrifau Peniarth: cynhaeaf cymysg

Yn ôl ym mis Mawrth, cyhoeddwyd y grŵp cyntaf o Lawysgrifau Peniarth a ddigidwyd fel rhan o gynllun uchelgeisiol i gyflwyno holl gynnwys y casgliad ar-lein.

Yr wythnos hon, gyda’r Llyfrgell yn dathlu eitemau a chasgliadau sydd wedi eu cynnwys ar Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol, dan adain UNESCO, mae’n bleser cyhoeddi fod delweddau 25 llawysgrif arall o Gasgliad Peniarth newydd ymddangos ar ein gwefan. Dyma nhw, wedi eu dosbarthu fesul cyfnod:

O’r bedwaredd ganrif ar ddeg, fe groesawn lawysgrif Gymraeg 190, sy’n cynnwys testunau crefyddol megis Lucidar ac Ymborth yr Enaid, ynghyd â dwy lawysgrif gyfreithiol Seisnig, 328 a 329, yr ola’n cynnwys testun y Magna Carta.

O ddechrau’r bymthegfed ganrif, croesewir testunau crefyddol Lladin a Saesneg 334. O ganol y ganrif honno, wele lawysgrif Ladin o Rydychen, 336, sy’n cynnwys gwaith Petrarch, ynghyd â thestun pwysig Gwassanaeth Meir yn 191. Mae’r cnwd yn fwy toreithiog yn ail hanner y ganrif, gyda llawysgrif 175 o Gyfraith Hywel yn ymddangos am y tro cyntaf, ynghyd â chalendr yn llaw Gutun Owain (186), a cherddi yn llaw Huw Cae Llwyd (189).

Yn ofer y chwiliais am gynnyrch dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, ond fe gynrychiolir ail hanner y ganrif honno’n helaeth gan lawysgrifau Roger Morris, Coed-y-talwrn (169), Thomas Evans, Hendreforfudd (187), Thomas Wiliems y geiriadurwr (188), Simwnt Fychan (189), a thestun arall o Gwassanaeth Meir (192). Nac anghofier hefyd yr achau a geir yn 193, a’r testunau meddygol yn 184, 206 a 207.

Ni fyddai Robert Vaughan yn esgeuluso casglu llawysgrifau ei oes ei hunan, wrth reswm, ac o’r ail ganrif ar bymtheg, cyhoeddir casgliad cywyddau ac englynion 184, gramadegau a geirfâu yn llaw John Jones, Gellilyfdy (295, 296, 302, 304 a 305), a llawysgrifau yn llaw Robert Vaughan ei hunan (180 a 185).

Ac yna, ar ei phen ei hun megis, un llawysgrif yn unig o’r ddeunawfed ganrif, sef pregethau Cymraeg 324, efallai o sir Drefaldwyn.

Am restr gyflawn o holl lawysgrifau Peniarth sydd ar gael yn ddigidol, gweler y dudalen a neilltuir i’r casgliad ar ein gwefan. Ac mae’n braf gallu dweud fod y gwaith o ddigido’n parhau, diolch i’n digidwyr dyfal!

Maredudd ap Huw
Curadur Llawysgrifau

 

Postiwyd - 08-10-2018

#CaruMapiau / Collections

Murdoch Mackenzie yr hynaf

Dangosodd Murdoch Mackenzie (yr Hynaf) fwy o ymroddiad nag unrhyw un arall wrth gyfrannu at hydrograffeg ddamcaniaethol ac ymarferol Prydain. Yn enedigol o Orkney yn 1712, roedd gan y gŵr hwn – a oedd yn ŵyr i Esgob Orkney – dueddfryd mathemategol a thrwy hyn daeth i gysylltiad â’r mathemategydd, yr Athro Colin Maclaurin. Bu yntau’n llwyddiannus wrth gefnogi addasrwydd Mackenzie i ymgymryd ag arolwg hydrograffig yn Ynysoedd Orkney o 1742 ymlaen. Yma, roedd gan Mackenzie gysylltiadau gwerthfawr i’w helpu yn ei waith ac o ganlyniad cafwyd yr arolwg morol mwyaf manwl a chynhwysfawr oedd wedi’i gyflawni hyd yma yn Ynysoedd Prydain. Yn 1750 cyhoeddwyd ei fapiau mewn casgliad yn dwyn y teitl ‘Orcades, or a geographic and hydrographic survey of the Orkney and Lewis Islands’.

Gyda nawdd y Morlys, aeth Mackenzie ati wedyn i gychwyn ar brosiect llawer mwy aruchel. Cafodd ei gomisiynu yn 1751 i wneud arolwg o arfordir gorllewinol Prydain ac arfordir Iwerddon i gyd, gwaith a barodd ddwy flynedd ar hugain gan gyrraedd ei benllanw yn 1774 a 1776 pan gyhoeddwyd dwy gyfrol o fapiau.

Erbyn 1757 roedd Mackenzie wedi cwblhau arolwg o arfordir gorllewinol tir mawr ac ynysoedd Yr Alban. Dilynwyd hyn gan arolwg deng mlynedd yn Iwerddon cyn iddo ddychwelyd i lannau gorllewinol Prydain Fawr. Yn 1770 daeth y môr-fapio i ben yn Sir Benfro, gan hepgor Culfor Menai oherwydd ym marn Mackenzie doedd dim modd i longau mawr ei mordwyo.

 

Roedd dulliau dibynadwy Mackenzie o fôr-fapio yn dderbyniol gywir.  Roeddent hefyd yn gymharol gyflym, fel sy’n amlwg o anferthedd hyd yr arfordir a arolygwyd ganddo mewn ugain mlynedd.  Roedd y gamp hon yn hynod glodwiw hefyd o ystyried cyfyngiadau ei adnoddau ar gyfer mapio glannau a’i adnoddau ariannol.

Ar ymddeoliad Mackenzie yn 1770, dilynwyd ef fel Hydrograffydd Morwrol y Morlys gan ei nai, Lefftenant Murdoch Mackenzie (yr Ieuaf). Yn 1771, cychwynnodd Lefftenant Mackenzie lle’r oedd ei ewythr wedi gorffen gan wneud arolwg o Fôr Hafren.

 

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog