Blog

Postiwyd - 17-12-2018

Collections

Estyn allan yn Hwlffordd

Y mis hwn mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi agor y drysau i oriel newydd yn Glan-yr-afon yng nghalon tref Hwlffordd. Yr oriel yw canolbwynt canolfan ddiwylliannol a gelfyddydol o ansawdd uchel, gan gynnwys Llyfrgell fodern, ardal plant, gwybodaeth i dwristiaid, siop goffi a hyd yn oed ardal gemau i oedolion ifanc.

Nôd yr oriel yw estyn allan y tu hwnt i Aberystwyth a galluogi’r Llyfrgell i rannu trysorau gyda phobl leol ac ymwelwyr â’r ardal. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae ein tîm wedi bod yn gweithio ar y cyd â Chyngor Sir Penfro ar y prosiect. Bydd dwy arddangosfa unigryw newydd ynarddangos eitemau amrywiol o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Stori Sir Benfro a Kyffin Williams: Tir a Môr.

Williams, Kyffin; Sunset, Anglesey; Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales; http://www.artuk.org/artworks/sunset-anglesey-119720

Stori Sir Benfro Gall ymwelwyr ddisgwyl gweld casgliad cyfoethog ac amrywiol o eitemau a ddewiswyd yn arbennig gan ein curadur i gynrychioli hanes, diwylliant a thirwedd Sir Benfro. Rhai o’n ffefrynnau yw llythyr gwreiddiol oddi wrth ‘Rebecca’ at Ficer Penbryn yn ystod Terfysgoedd Rebecca a darlun Vase of Flowers gan Gwen John, a gafodd ei geni yn Hwlffordd, sydd yn baentiad o harddwch cynnil ond hefyd â chyfansoddiad cryf.  Mae eitemau unigryw eraill yn cynnwys llawysgrif o sonedau a gyfansoddwyd gan T.E. Nicholas (Niclasy Glais) yn 1940 tra yn y carchar – wedi’u hysgrifennu ar bapur tŷ bach y carchar!

Ar wahân i’r holl eitemau ffisegol, gallwch hefyd bori delweddau o fapiau, ffotograffau, llawysgrifau a phaentiadau o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. O’r llyfr Cymraeg cynharaf i baentiad olew nodedig J. M W. Turner o Gastell Dolbadarn, yn ogystal ag eitemau sy’n ymwneud â Sir Benfro, o brintiadau topograffig i ffotograffau a gweithiau celf.

Kyffin Williams: Tir a Môr Pa ffordd well o ddod â dathliadau’r canmlwyddiant a ‘Blwyddyn y Môr’ i ben nag ag arddangosfa sy’n cynnwys casgliad gwych o baentiadau a lluniadau gan artistiaid mwyaf adnabyddus ac amlycaf Cymru o’r ugeinfed ganrif.

Rhai o waith mwyaf eiconig Kyffin yw’r paentiadau olew o dirweddau Cymru, ac mae’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at rai o’r gorau yn y genre hwn. Edrychwch am y Penygyrwyd – mae palet tywyll, cryf yr arlunydd yn dod â mynyddoedd dramatig Eryri i Hwlffordd. Mewn cyferbyniad, mae detholiad o ddarluniau’r Wladfa yn dilyn ei ymweliad â De America yn yr 1960au, yn dangos Kyffin ar ei hapusaf, lle mae’r palet lliw yn llawer ysgafnach ac yn adlewyrchu ei hwyliau ar y pryd.

Mae detholiad o’i forluniau gorau yn cael eu harddangos. Mae’r paentiad grymus Ton yn torri ar y Creigiau yn dangos sut mae’r paent wedi dod yn estyniad o emosiynau’r artist. Mae morluniau Kyffin yn amlygu ei dechneg y mae’n fwyaf adnabyddus amdani; arddull a nodweddir gan impasto trwchus, gyda’r paent olew wedi’i daenu bron yn gyfan gwbl â chyllell balet.

Ar y ffordd allan o’r oriel ni allwch fethu â sylwi ar y dawelwch cynnes Machlud, Ynys Môn – un o’r darluniau mwyaf myfyriol, a honnir mai hwn yw un o’r olaf a greodd yr artist cyn ei farwolaeth yn 2006.

Byddai’n hawdd iawn parhau i ganu canmoliaeth yr adeilad newydd gwych hwn, ond peidiwch â chymryd ein gair amdano – ewch i weld eich hun!

Mae Glan-yr-afon ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (10 am-5pm) a dydd Mawrth (10am-7pm).

Jaimie Thomas

Swyddog Arddangosfeydd


Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog