Postiwyd - 07-09-2018
Datgelu’r Gwrthrychau: Gwyddoniaeth a Mathemateg
Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.
Yr wythnos hon, cyhoeddiadau gwyddonol a mathemategol sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.
Robert Recorde – The Whetstone of Witte: whiche is the seconde parte of arithmetike; containyng thextraction of rootes: the cossike practise, with the rule of equation: and the woorkes of surde nombers (1557)
Fe gyhoeddwyd gwaith nodedig yr athro a mathemategydd Robert Recorde ‘The Whetstone of Witte’ ym 1557. Yn ei lyfr cyflwynwyd algebra a symbol yr hafalnod (=) am y tro cyntaf mewn cyhoeddiad print.
Robert Hooke – Micrographia (1665)Bu Robert Hooke yn Bennaeth Arbrofion gyda’r Gymdeithas Frenhinol ac roedd ei ddiddordebau gwyddonol yn amrywiol iawn. Gwnaeth gyfraniadau arloesol i’w faes, yn enwedig ei ddyfais – y microsgop cyfansawdd. Drwy ei ficrosgop, astudiodd bryfed, planhigion, plu ac adar, ac ymddangosodd y rhain ar ffurf darluniau yn ‘Micrographia’. Yn ei gyfrol, cyflwynodd Hooke ffyrdd newydd o gynnal arbrofion gwyddonol; drwy er enghraifft bwysleisio pwysigrwydd arsylwi gofalus a chofnodi canlyniadau. Bu cysyniadau Hooke yn ddylanwadol iawn a daeth llawer ohonynt i fod yn arferion cyffredin o fewn y maes gwyddonol.
William Robert Grove – On the Correlation of Physical Forces: being the substance of a course of lectures delivered in the London Institution, in the year 1843 (1846)Yr oedd William Robert Grove yn wyddonydd ffisegol, yn farnwr ac yn gyfreithiwr Cymreig. Gweithiodd yn ddiwyd yn y maes gwyddonol ac fe dderbyniodd gryn ganmoliaeth ynghylch ei brosiectau ymchwil personol. Ystyrir ei gyfrol ‘On the Correlation of Physical Forces’ (1846) yn gyhoeddiad clasurol. Ynddo, esboniodd yr egwyddor o gynilo ynni. Mae’n werth cydnabod dyddiad y cyhoeddiad oblegid fe’i lledaenwyd flwyddyn ynghynt na thraethawd enwog Herman von Helmholtz, ‘Über die Erhaltung der Kraft’ (“Cadwraeth Grymoedd”), a oedd yn trafod yr un egwyddor.
William Henry Preece – Telegraphy (1914)Yn gyffredinol, cysylltwyd William Henry Preece â maes peirianneg delegraffig. Fe addysgwyd ef yng Ngholeg y Brenin, Llundain a datblygodd ei yrfa yn yr ardal. Penodwyd Preece yn drydanwr i’r Swyddfa Bost Cyffredinol ym 1877, a derbyniodd dyrchafiad i swydd y prif beiriannydd ym 1892. Yn ‘Telegraphy’ roedd modd synhwyro diddordeb yr awdur yn natblygiad ei faes.
Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad DigidolCrëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English