Blog

Postiwyd - 27-07-2018

Casgliadau / Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Llenyddiaeth Plant

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, llenyddiaeth plant sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido yn sgil y prosiect.

 

Robert Richards – Darlleniadur : sef hyfforddiadau hawdd ac eglur i ddysgu darllain Cymraeg (1820)

Yn ystod diwedd y ddeunawfed ganrif fe ddysgwyd plant yng Nghymru i ddarllen mewn Ysgolion Sul a Chylchynol. Yn y cynulliadau yma, rhoddwyd pwyslais penodol ar allu’r disgyblion i ddarllen a deall y Beibl Cymraeg, a hynny fel y gellid achub eu heneidiau. Dylid ystyried cyfrol sillafu Robert Richards o fewn y cyd-destun yma. Roedd cyfrol Richards ymhlith rhai o’r llyfrau sillafu Cymraeg cynharaf, er nad oedd mewn gwirionedd wedi’i chynllunio na’i fformatio ar gyfer disgyblion o natur ifanc. Y mae teitl llawn y gyfrol yn crynhoi ei phwrpas – ‘Darlleniadur : sef hyfforddiadau hawdd ac eglur i ddysgu darllain Cymraeg wedi eu hamcanu megis silliadur cyntaf i blant : ac yn cynnwys amrywiaeth helaeth o wersi, wedi eu gosod mewn trefn gymmwys i arwain yr ieuangc ym mlaen o râdd i râdd, o hawdd i anhawdd, yn esmwyth ac megis yn ddiarwybod : at yr hyn y’ chwanegwyd hanesion a damhegion, holiadau ac attebion, ynghŷd âg amryw bethau eraill angenrhaid i blant eu gwybod’.

O. M. Edwards – Llyfr Del (1906) ac Yr Hwiangerddi (1911)

Roedd O. M. Edwards yn olygydd, awdur, hanesydd ac yn addysgwr nodedig. O’r flwyddyn 1888 ymlaen, cyhoeddodd lawer iawn o lyfrau a chyfnodolion poblogaidd, yn enwedig ym maes hanes a diwylliant Cymru. Gweithiodd fel Athro Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1896 a 1930. Er hynny, parhaodd Edwards i ysgrifennu, golygu a phrawf ddarllen yn ei amser sbâr, weithiau hyd oriau mân y bore. Y mae bron yn amhosib gorbwysleisio cyfraniad O. M. Edwards i Gymru a’i diwylliant, ac yn wir, ymestynnodd ei ddylanwad tu hwnt i ddarlithfa’r brifysgol. Ysgrifennodd nifer o lyfrau plant, gan gynnwys ‘Llyfr Del’ a ‘Yr Hwiangerddi’. Roedd ei gyfrolau’n ddeniadol, yn llawn darluniau, ac yn hawdd eu darllen. Roeddent yn unigryw oblegid y darparent gynnwys priodol ar gyfer eu cynulleidfa ifanc, a hynny am y tro cyntaf yn y Gymraeg.

Hugh Evans – Y Tylwyth Teg (1935)

Awdur nodedig oedd Hugh Evans. Sefydlodd gwasg ei hun yn Lerpwl ym 1897 sef Gwasg y Brython. Ysgrifennodd lyfr poblogaidd i blant sef ‘Y Tylwyth Teg’, ond ni argraffwyd y gwaith tan 1935; wedi marwolaeth Evans. Fe ailgyhoeddwyd y stori ddeniadol hon mewn sawl argraffiad diweddarach.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Tagiau: ,

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archives

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog