Postiwyd - 20-07-2018
Datgelu’r Gwrthrychau: Llenyddiaeth Gymreig tu hwnt i Gymru
Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.
Yr wythnos hon, llenyddiaeth Gymreig y hwnt i Gymru sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido yn sgil y prosiect.
Ellis Pugh – Annerch i’r Cymry iw galw oddiwrth y llawer o bethau at yr un peth angenrheidiol er mwyn cadwedigaeth eu heneidiau (1721)
Ymfudwr a Chrynwr nodedig oedd Ellis Pugh, a ddaeth yn aelod o Eglwys y Cyfeillion (Friends Church) yn ddeunaw oed. Ym 1686 teithiodd yntau, ynghyd â’i deulu a llawer o Gymry eraill, i Bensylfania. Erbyn haf 1686, yr oedd Pugh wedi ymsefydlu yn yr Amerig fel amaethwr a gweinidog. Ar ei ôl, fe adawodd Ellis Pugh waith swmpus ar ffurf llawysgrif, o dan y teitl ‘Annerch ir Cymru’. Cyhoeddwyd y gwaith yn ddiweddarach ym Mhensylfania ym 1721, a chaiff ei gydnabod fel y llyfr Cymraeg cyntaf i’w gyhoeddi yng Ngogledd America. Yn ddigon tebyg i’r sefyllfa yng Nghymru, defnyddiwyd y diwydiant argraffu i ledaenu gwerthoedd a chredoau crefyddol.
Owain Myfyr, William Owen Pughe ac Iolo Morganwg – The Myvyrian archaiology of Wales: collected out of ancient manuscripts (1801-7)Yn y cyhoeddiadau arwyddocaol hyn ceir cofnod o farddoniaeth Cymraeg a Chymreig cynnar, Brutiau, a Chroniclau. Fe’i cyhoeddwyd mewn tair cyfrol, dau ym 1801, a’r naill ym 1807. Yn ôl rhai ysgolheigion, symbyla hwy ddiwedd cyfnod y llawysgrif yng Nghymru. Owain Myfyr a William Owen Pughe oedd yn bennaf gyfrifol am dynnu’r cyhoeddiadau ynghyd, ond fe’u cynorthwywyd hefyd gan Iolo Morganwg wrth lunio’u cynnwys. Enwyd y cyfrolau serch hynny ar ôl Owain Myfyr, wedi iddo gyfrannu’n hael iawn yn ariannol i’r fenter; mae’n debyg rhwng pedwar a phum mil o bunnoedd. Teithio ar hyd a lled llyfrgelloedd Cymru a wnaeth Iolo Morganwg er mwyn darganfod ystod o ddeunydd i’w cynnwys, a strwythuro’r ffynonellau hynny a wnaeth William Owen Pughe, er mwyn eu paratoi ar gyfer y wasg. Nid oedd y fenter yn hollol lwyddiannus, a chafwyd cryn broblemau wrth drawsysgrifio’r gwaith. Yn ogystal, ni wnaeth yr amheuon cynyddol ynghylch dibynadwyedd gwaith Iolo Morganwg unrhyw gyfiawnder â gwerthiant diweddarach y cyfrolau.
Iolo Morganwg – Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829)Roedd Edward Williams (Iolo Morganwg) yn fardd, awdur a hynafiaethydd nodedig. Bu’n aelod brwd o gymdeithasau Cymry-Llundain ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ac fe effeithiwyd ef yn fawr gan ddatblygiadau diwylliannol a hynafiaethol y cyfnod. Ym 1792, cynhaliodd Iolo gyfarfod cyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn Llundain. Yn ystod yr achlysur hwnnw, cyflwynodd ffurf o dderwyddiaeth, ond fe ddarganfuwyd yn ddiweddarach nad oedd gan y fath gynulliad wreiddiau hanesyddol. Y mae Iolo ymhlith rhai o ffigyrau hanesyddol a llenyddol mwyaf dadleuol Cymru. Fe gyhoeddwyd y gyfrol ‘Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain’ ym 1829, tair blynedd wedi marwolaeth yr awdur. Thesis unigryw ydyw ar darddiad y grefft farddonol Cymraeg ac fe arddangosa’r awdur ei afael gadarn ar y pwnc yn y gyfrol. Serch hynny, y mae dychymyg neilltuol Iolo i’w weld yn glir yn ‘Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain’. Gwrthoda’r safonau a ffurfiwyd gan Dafydd ab Edmwnd yn y bymthegfed ganrif, gan gynnig yn eu lle hen fesurau caeth, yn ogystal â rhai newydd. Cefnogodd Iolo ei ddamcaniaethau â ffug enghreifftiau. Yr oedd y rhain yn deillio o waith beirdd hynafol Morgannwg, ac yn nhyb Iolo, yn brawf o ragoriaeth ac awdurdod llenyddol beirdd ei ardal enedigol.
Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:
- Cyhoeddiadau Crefyddol
- Cyfrolau Barddoniaeth
- Dramâu ac Anterliwtiau
- Baledi
- Llenyddiaeth Plant
- Llyfrau Teithio
- Llyfrau Hanes
- Cerddoriaeth
- Cyhoeddiadau Gwleidyddol a Radicalaidd
- Y Llyfrau Gleision
- Llyfrau Gwyddonol a Mathemategol
- Llyfrau Coginio a Ffordd o Fyw
Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol
Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana